27.2.05

Eisteddfod y dafarn....y dychweliad

Mi ddaeth y timau o ddros Sir y Fflint gyda ei gilydd unwaith eto nos sadwrn i gystadlu mewn y pencampwriaeth eisteddfod y dafarn. Ar ol pob sybrwd o dwyllo gan y tim buddugol y tro diwetha yn y cystadleuaeth fwyta cracers ia^, roedd 'na dipyn o teimlad ddrwg rhwng y prif timau, Bagillt (sy wedi trefnu croeso mawr i'w gwestai nhw) a Treffynon, ond ar diwedd y dydd mi ddaeth tim Yr Wyddgrug o nunlle i'w cipio'r cadair bach. Noson dda.....

17.2.05

Cyfweliad Radio!

Dwi 'di bod draw yn Yr Wyddgrug heno yn y Sesiwn sgwrs arferol yn nhafarn y Castell Rhuthun. Roedd Nia, sy'n cynhyrchwr (ddylwn i ddweud 'cynhyrchwraig' falle?) efo Radio Cymru yna, yn gwneud recordiadau o bobl ar gyfer rhaglen sy'n cael ei darlledu ar y saithfed ar hugain o chwefror dwi'n credu. Dwi'n coelio fydd y rhaglen am bobl sy'n dysgu Cymraeg o gwmpas ardal Sir y Fflint.
Roedd rhaid i mi ail-diwnio fy nhglust yn gyflym iawn i'w acen hyfryd Sir Fon hi, tybed mae'n teyrnged go iawn pan mae pobl yn siarad i chi heb gwneud cymaint o 'allowance' i'r ffaith dysgwyr ydychi.

Mi ofynodd hi wrthi fi i ail -ddweud y cerdd Gwyn Edwards - Nid Welsh i fi ond Cymro, fel mi wnes i yn y steddfod y dysgwyr. Roedd hwnna yn iawn, ges i ddim problem efo fy nerfau, ond yn nes ymlaen pan roedd Nia yn gofyn wrthi fi nifer o cwestiynau roedd hwnna yn rhywbeth hollol wahanol! gawn ni weld y canlyniadau cyn bo hir ta beth!

Mi wnes i llwyddo difyrru Dewi pan mi ddwedais i rhywbeth fel "mae'n mewn dosbarth wahanol". Ro'n i'n trio dweud rhywbeth fel 'It's in another class/league', ond dwedodd o roedd y ffordd dwi wedi ei gwneud yn swnio mwy fel 'It's in another form'. Mae 'na lot o hwyl weithiau sy'n dod o'n camgymeriadau ni!

16.2.05

Fy nhgynnig ar gerdd!

Hen Borthladd

Hen borthladd ar lannau'r Dyfrdwy,
heb gychod, heb hyd yn oed dwr,
hen gau ers i'r llaid wedi llenwi,
pob sianel, pob cilfach o'r mor.

Erbyn hyn mae'r llaid wedi darfod,
wrth i'r gors wedi lledu yn llwyr,
i'w boddi hen lannau'r aber,
dan for o wyrdd heb stwr.

Mae'n anodd dychmygu y llongau,
yn disgwyl penllanw neu wynt,
cyn gadael diogelwch yr aber,
a'r lloches o'i bryniau tu hwnt.

Ond weithiau ar ambell gorllanw,
mae 'na olwg rhyfeddol o fri,
wrth i'r dwr yn dychweled i'r lanfa,
hen borthladd ar lannau'r Dyfrdwy.

15.2.05

Eisteddfod y dysgwyr Yr Wyddgrug

Roedd yr Eisteddfod y dysgwyr yn lot o hwyl. Er nad oedd lot o bobl yn barod i gystadlu yn yr cystadleuthau cerddorol (diolch byth fasai rhai yn dweud falle!), roedd 'na nifer o cystadluewyr yn barod i gael tro ar y llefaru, sef 'Nid Welsh yw fi ond Cymro' (dwi 'di neud awdioblog ohonhi 'ma). Mi ges i fy nhewis yn yr ail lle, felly da iawn i'r ennillwr sy wedi llwyddo i'w ddysgu y darn heb gymorth y geiriau o gwbl, nid fel fi a'r eraill!
Roedd y safon o'r cystadleuaeth ar gyfer y cadair bach derw a 'walnut' yn hynod o uchel yn ol y beirniad, efo dros ddeudeg o gynnigion sgen i ddim cyfle efo fy nhro cyntaf yn sgwennu cerdd mewn unrhyw iaith. Beth bynnag roedd y profiad o'w sgwennu hi'n un gwerth chweil i fi.
Uchafbwynt y noson heb os oedd y sgetses. Roedd yr un sy wedi ennill yn hynod o wreiddiol a braidd yn 'surreal' a dweud y gwir. Roedd Miss Zeta Jones yn cyflwyno cogydd 'Dudley' yr oedd yn gwneud Bara Brith yn ei drons (undies...dwi'n gwybod, ych a fi!), yn anffodus roedd 'Dud' wedi cael damwain yn y gegin felly roedd rhaid iddo fo cael cymhorth yn y siap o Mr Puw a chafodd y cyfridoldeb dros troi y cymysg efo llwy pren pob tro cafodd unrhywbeth ei ychwanegu. Wel roedd y peth yn ddoniol iawn mewn ffordd 'carry on', falle roedd rhaid i chi bod yna ar y pryd....!
Roedd y noson yn llwyddiant mawr 'swn i'n dweud, er gwaethaf y ffaith roedd rhaid i Fenter Iaith symud y peth o Glwb yr hen filwyr i'r Clwb Criced oherwydd bwcing dwbl ar yr munud olaf, da iawn i'r trefnwyr i gyd.
Y cerdd gan Gwyn Edwards dwi wedi llefaru yn y 'steddfod y dysgwyr

9.2.05

ers talwm!

Dwi'n edrych ymlaen at Eisteddfod y dysgwyr nos gwener yn yr Wyddgrug. Dwi wedi cyfansoddi/sgwennu cerdd bach ar ei gyfer, fy un gyntaf byth yn y Gymraeg!