12.2.06

blogwr rhan amser....

Mae cymaint o bethau wedi bod yn digwydd yn ddiweddar, a dyma fi heb ddigon o amser i flogio amdanyn!

Nos wener roedd noson 'Eisteddfod y Dysgwyr' draw yn Yr Wyddgrug. Roedd 'Clwb y Cyn Filwyr' (dim ond £1.30 am beint!) yn llawn am yr hwyl!? Mi ges i gais yn y llefaru ('Mae'r Byd yn Fwy na Chymru' gan T.E. Nicholas) ond collais i fy ffordd yn ystod y pennod cyntaf ac roedd rhaid i fi ymestyn yn fy mhoced er mwyn ffeindio'r geiriau! Mi wnes i ddim dod yn ol o'r drychineb yna a cholais i fy hyder yn llwyr, perfformiad ofnadw!

Mi wnes i'n well yn y cystadleuaeth sgwennu brawddeg yn defnyddio pob llythyr o'r gair 'Eisteddfod', tasg llawr mwy annodd na fasech chi'n meddwl falle. Fy nhgais :
Esboniodd Iwan seithwaith triongl ei ddwy fenyw o Dalybont.... ennillais i docyn llyfr werth pum punt o Siop y Siswrn am hynny ac un arall dros cynllunio poster er mwyn annog pobl i ddechrau dosbarthiadau Cymraeg . Roedd hi'n braf i weld cymaint o bobl yna a ches i gyfle i siarad efo cyfeillion newydd ac hen.

2 comments:

Rhys Wynne said...

Lwcus mod i wedi cofnodi ffrwd (feed) dy flog ar fy narllenydd 'Bloglines'* neu byddwn i wedi llwyr anghofio am Clecs Cilgwri.


*Bloglines yw newsreader ble dwi'n gosod ffrwd hoff wefannau a blogiau (sy'n darparu ffrwd, unai RSS neu Atom), ac mae'n gadael i mi wybod pob tro mae gwefan/blog wedi ei ddiweddaru.

neil wyn said...

Heia Garlleg, sut wyti ers talwm?
Dwi'n credu sdim llawer o eisteddfodau yn enwedig ar gyfer dysgwyr, sy'n bechod achos mae nhw yn ffordd delfrydol o dennu pobl at ei gilydd tu allan i'r stafell dosbarth. Ro'n i'n bwriadu rhoi manylion ar CMC ac ati ond falle wnes i anghofio!