29.6.06

Pethau'n symud efo'r Byd unwaith eto...

Mae'n teimlo fel blynyddoedd ers i mi ymuno a'r clwb cefnogwyr 'Y Byd', ond wnes i dderbyn e-cylchlythyr cardanhaol wythnos neu ddau yn ol, yn son am y ffaith bod nhw wedi rhoi hysbysebau yn y wasg er mwyn llenwi saith o swyddi efo'r papur dyddiol Cymraeg cyntaf. Mae nhw'n gobeithio ei lansio y papur yn y gwanwyn '07, ond mae dyddiadau wedi dod ac yn mynd o'r blaen, felly well iddyn ni peidio dal ein anadlau!

28.6.06

Stori Fer

Dwi newydd dod o hyd y stori fer yma, mi sgwennais ar gyfer cystadleuaeth yr Academi i ddysgwyr llynedd. Wel mi fethais i ennill unrhywfath o wobr amdanhi yn y pendraw (nid hyd yn oed llwy bren..), felly waeth i mi postio'r peth fan hyn. Erbyn hyn mae'n edrych eitha gwan i mi, ond dyni'n dysgu trwy'r amser...

Tu hwnt i'r Bont

Tynheuais fy nghafael ar yr olwyn wrth i mi deimlo'r gwyntoedd cryfion yn siglo'r cerbyd. Baswn i wedi rhyfeddu ar wifrau a choncrit y bont grog efallai, ond ar y noson wael yna arhosais fy llygaid ar y lon yn unig. Hanner munud yn ddiweddarach roeddwn i wedi cyrraedd lloches y lannau. Dilynais y llinell gwlyb oren rhwng y ffatrioedd a phentrefi ar hyd yr arfordir. Nid oedd y creithiau diwydiannol mor amlwg o adre, ond roedd ochr arall yr aber bron yn lle diarth i mi.

Heb cyfeiriadau da, mi faswn i ddim wedi dod o hyd y lle o gwbl. Doedd dim arwydd lliwgar neu oleuadau llachar o'r math arferol, dim ond enw wedi ei gerfio yn sobwr mewn gwyneb llwyd y wal. Petrusais o flaen y drws culagored am eiliad, fy nhy mewn yn corddi. Anadlais yn ddwfn a'i wthio yn bendant.

Trodd dim ond cwpl o bennau wrth i mi camu tu mewn. Roedd hi'n dafarn bychan. Eisteddodd rhai hanner dwsin o yfwyr wrth amrywiaeth o fyrddau bach, tra safodd cwpl eraill wrth y bar. Trwy drws isel i'r dde mi allwn i weld cornel o fwrdd pwl. Mewn cornel y 'lolfa' darlledodd teledu enfawr rhyw opera sebon Saesneg heb tynnu llawer o sylw. Cerddais i at y bar. Edrychodd y perchennog i fyny o'i bapur a nodiodd ei ben.
"Half a bitter please" meddai fi, cyn gofyn yn betrusgar, "Am I in the right place for the 'Welsh Club'?"
"Through there mate" meddai fo, yn cyfeirio ei lygaid tuag at y drws isel. Teimlais i gymysg o ryddhad a nerfusrwydd. Talais i'r 'landlord' a chodais fy nhiod cyn cerdded trwy'r drws.


Eisteddodd yn dawel chwech neu saith o bobl o gwmpas bwrdd pwl. Sylwodd un ohonyn ar fi'n sefyll wrth y drws,
"Y Clwb Cymraeg?" holais i'n obeithiol.
Gwenodd o'n yn groesawus cyn gyflwyno ei hun mewn Cymraeg gofalus. Tynnais i stol at cornel gwag y bwrdd ac eisteddais i lawr. Wedi eiliad neu ddau o ddistawrwydd lletchwith, mi holodd un o'r lleill "Have you come far?" cyn ychwanegu tra chwerthin "I've no idea how you say that in Welsh!".

Roeddwn i wedi dod yn bell. Nid mor bell ar hyd y lon mewn gwirionydd, ond sylweddolais y noson yna pa mor bell roeddwn i wedi dod yn fy menter yn y Gymraeg.

Cyrhaeddodd trefnydd y clwb cyn bo hir, a dechreuodd noswaith o sgwrs a dysgu anffurfiol. Wedi ddwy flynydd o astudio ar ben fy hun, ac o flaen sgrin y cyfrifiadur, roeddwn i'n cael cyfle i gyfarfod a rhannu tipyn o hwyl efo dysgwyr eraill.
Basai hi wedi bod yn haws o lawer i aros yn y ty ar y noson yna, ond mewn lleoliad mor annhebygol, mi ddechreuais i weld gwerth yr ymdrych i gyd.

Erbyn i mi gadael roedd y storm wedi mynd heibio. Ymddangosodd strwythyr anhygoel y bont wedi ei oleuo yn glir yn y pellter. O'r diwedd roeddwn i wedi cael cipolwg tu hwnt i'r bont.

26.6.06

Gwyl y Bwbachod

Mae 'Gwyl y Bwbachod' Thornton Hough (scarecrow festival) yn digwydd dros y wythnos yma, a dros ychydig o flynyddoedd erbyn hyn, mae'r wyl wedi bod yn llwyddianus dros ben. Mi wnath fy merch a'i ffrindiau mwynhau dilyn helfa trysor rownd yr hen 'pentref ystad' ac yn sbio ar y bwbachod creadigol o'u gwmpas. Eleni mae llawer iawn o'r bwbachod wedi cael eu ysbrydoli gan digwyddiadau yn y byd peldroed wrth cwrs, efo hanes troed Rooney yn bod y pwnc ffefryn 'swn i'n dweud. Mi cawsom ni cipolwg bach ar gwrs yr 'Open' sydd bron yn barod erbyn hyn ar gyfer dechreuad y pencampwriaeth.



Mi wnath Wayne a Coleen mwynhau'r digwyddiadau...



Does dim hwyl heb y Frenin 'does..



Mae'n debyg caiff Sandy Lyle ei stwffio yn yr 'Open' go iawn hefyd..

25.6.06

Mi gafodd y dafarnwr hunllef......

Mae rhaid i fi ymddiheuro os mai'r blog yma yn dechrau cael golwg o 'flog peldroed' arni hi, ond mae'n well i flogio am rhywbeth na dim byd 'tydi?

Yn ol yr ystadegau, mi rhodd dafarnwr y gem rhwng Portiwgal a'r Iseldiroedd un ar hugain o gerdiau melyn allan neithiwr, felly cerdyn melyn ar gyfer bron pob un o'r 26 'foul' yn y gem! Ystadeg warthus ydy hyn, a'r canlyniad (sef gem naw yn erbyn naw) oedd tystoliaeth i'r ffaith mi gollodd o reolaith dros y gem yn gynnar iawn yn ystod y nos. Mi ddechreuodd y gem yn addawol iawn efo'r dau tim yn edrych safon uwch na'r tim s'yn eu disgwyl amdanyn nhw yn y gemau'r wyth olaf. Ond siwr o fod mi drodd pryderon Lloegr i chwerthin, wrth i Portiwgal cael eu gwanhau gan anaf difrifol i Ronaldo, a cherdiau coch i'r eraill. Ddylai Figo wedi gweld coch hefyd, tasai'r dafarnwr wedi ei weld o'n taro ei ben yn erbyn un o'r 'Iseldirwyr', gawn ni weld os oes digon o ddewrder gan FIFA i weithredu ar y lluniau teledu sydd ar gael.

Mae gan Loegr siawns go iawn rwan i guro Portiwgal 'hanner cryfder' er mwyn ennill lle yn y 'semis', a chyfarfod efo'r Ronaldo 'mawr'a'i griw!

Lloegr 1 Ecuador 0...

Wel wnath Lloegr ennill yn y diwedd, ond yn fy mharn i heb ein argyhoeddi ni am eu gallu i fynd ymlaen i guro enillwyr y gem rhwng Portiwgal a'r Iseldiroedd. Dwi'n ffansio Holand i fynd trwyddi fy hun, ond mi fydd naill ai un neu'r llall prawf llawer galetach nag Ecuador. Dwi wedi mwynhau bron pob un o'r gemau hyd yn hyn, gobeithio yn wir fydd y safo'n o'r peldroed yn parhau i'n adlonni ni fel y mae hi erbyn hyn :)

rhagor am beldroed...

Wel dwi newydd eistedd lawr er mwyn gwilio efo diddordeb gem Lloegr Ecwador. Dwn i ddim be i ddisgwyl, ac er dwi ddim yn cefnogi Lloegr, 'swn i'n licio eu weld nhw yn cyfarfod Brasil yn y rownd cyn-derfynol mewn ffordd. Ar y llaw arall dwi wedi cael llond bol o'r holl 'chwifio baneri' sy wedi bod rhan o'n bywydau ni dros y mis diwetha, gawn ni weld....

24.6.06

Mae gan rhai pobl arian i daflu i ffwrdd...

Mi ddigwyddodd digwyddiad rhyfeddol yn Aber dydd llun wrth i ddyn taflu tua £5000 yn yr awyr ger groesfan yn y dre. Wedyn mi ddigwyddodd digwyddiad rhyfeddach o lawer wrth i bobl y dre dychweled y rhan mwya o'r pres i'r heddlu..! Galla i ddim ddychmygu yr un fath o beth yn digwydd yn Lerpwl (neu'r mwyafrif o lefydd eraill am hynny), ond falle dwi'n bod rhy wawdlyd?

20.6.06

Heulwen ar Dreffynon

Un o'r pethau gorau am fwy ar lan y mor ydy'r golygfeydd, sy'n newid yn gyson. Tynnais i'r llun yma efo fy ffon ar y ffordd i waith ddoe, pan sbiais i'r heulwen yn disgleirio ar Dreffynon ochr arall yr afon.


16.6.06

titwod


Rhaid i mi cyfadde mod i'n dyfalu lluosog y gair titw yma, ond erbyn iddyn ni gosod y cibyn neu 'husk' 'ma yn yr ardd ar y llinell dillad dyni wedi weld pob math o ditw (neu 'yswidw') yn bwyda arno. Dwn i ddim fawr am adar o gwbl a deud y gwir, ond yn ol fy Nhad sy'n dipyn o 'adarwr', dyni wedi weld 'yswidw mawr', 'yswidw penddu' a 'titw tomos las' fel yr un yn y llun yma. Dwi'n wrth fy mod efo enw arall wnes i ddarganfod i'r 'tomos las, sef 'glas bach y wal', sy'n enw mor ddisgrifiadol.
Yr unig adar eraill sy'n ymwelwyr cyson i'r ardd ydy 'adar du', 'colomenod wyllt', ac ambell 'adar y to'(sparrow) sy'n bellach go brin ym Mhraydain credwch neu beidio.

Byd bach..

Mi es i draw i gyfarfod 'bach' pwyllgor y dysgwyr nos iau. Mi gafodd ei chynnal yn yr un tafarn lle dwi'n mynd am sesiwn sgwrs fel arfer, felly doedd dim esgus i beidio mynd! Wedi dweud hynny mi wnes i fwynhau y profiad o bod ymhlith criw golew o siaradwyr Cymraeg. Wedi'r cyfarfod o'n i'n siarad efo boi reit glen o ardal Yr Wyddgrug sy'n dod o Lerpwl yn wreiddiol, ond ni faswn i wedi sylweddoli dysgwr (neu sgowser) oedd o heb o'n crybwyll y ffaith i fi. Trwy cyd-digwyddiad mae o'n nabod fy nhgyfnither o Ddinbych ac mae ei chwaer yn gweithio mewn llyfrgell jysd lawr y lon o fan hyn yng Nhgilgwri. Un o'r lleill yn y cyfarfod wedi bod yn y rownd terfynol o 'Ddysgwr y Flwyddyn' yn 2001, felly roedd hi'n gallu dweud ychydig am ei phrofiadau yn ystod dydd y gwobryo, un o'r pethau sydd dan sylw yn y cyfarfod.

Cyd-digwyddiad bach eraill.. o'n i draw yn IKEA yn Warrington dydd mercher ac welais i Rhian (oedd yn arfer gweithio efo Menter Iaith) a'i chwaer. Peth rhyfeddol i fod mewn canol IKEA yn sgwrsio yn y Gymraeg efo nhw, ac dim ond munud neu ddwy ar ol i mi clywed teulu arall yn siarad yr iaith. Byd bach tydi..

13.6.06

Dwi ddim wedi cael fawr o egni er mwyn sgwennu y wythnos yma. Rhwng gwilio ambell gem Cwpan y Byd (dwi'n disgwyl fy 'Siart Ar y Marc' o hyd), peintio'r ystafell gwely a gweithio dwi wedi teimlo blino yn rhacs yn y tywydd poeth. Siwr o fod fasai rhai pobl yn y byd yn chwerthin ar ein pennau yn son am 'dywydd boeth' fel y mae hi yma ym mhrydain, ond mae'r lleithder sy'n dod a'r haul yn tueddi o sugno dy egni tra wneud gwaith corfforol. Sdim syndod mai'r timau o wledydd poeth yn chwarae eu peldroed mewn dull wahanol iddyn 'ni'.

9.6.06

cwpan y byd

Wel wedi'r'heip' i gyd mae'r cystadleuaeth go iawn wedi dechrau a nid cawsom ni ein siomi. Mi wnath wyth gol yn y dwy gem cyntaf tanio cwpan y byd fel cystadleuaeth, a wnath llond boliau o gwrw tanio cefnogwyr Lloegr, wrth i gefnogwyr Yr Almaen dod ymuno a nhw i ddathlu eu buddugoliaeth. Gawn ni weld os fydd Paraguay yn eu tawelu, dim yn debyg mewn gwirionydd ond 'hen gem rhyfeddol' yw peldroed....