18.10.06

Mwy am fy astudiaethau

Wel dwi wedi cwblhau fy nghwrs 'Cymraeg Ysgryfinedig level 1', ac yn ol fy nhiwtor mae'r tystysgrif yn y post. Mae rhaid i fi troi fy meddwl at 'Y celtiaid ym Mhrydain' rwan er mwyn gorffen y modiwl hon. Dwi wedi archebu cwpl o lyfrau am y Celtiaid sy'n cael eu cymeradwyo ar gyfer y cwrs, ac yn ol Amazon fydden nhw yma yfory.

A dweud y gwir, dwi'm yn edrych ymlaen at gwneud y traethawd hanes gymaint a hynny sy'n dweud rhywbeth wrthi fi, sef well i mi ganolbwyntio ar wneud cwrs am y Gymraeg yn hytrach na chwrs 'Astudiaethau Cymreig'. Mae 'na ddigon o gredydau ar gael erbyn hyn i gwblhau gradd ar lein yn y dau pwnc, felly dwi'n gobeithio cael sgwrs efo fy nhiwtor yn y Coleg er mwyn penderfynu pa gyfeiriad mi ddylwn i fynd.

12.10.06

Crap ar farddoni

Dwi'n edrych ymlaen at noson o farddoniaeth nos yfory lawr yng Nghlwb Criced Yr Wyddgrug efo'r criw o feirdd ifanc sy'n crwydro Cymru ar hyn o bryd o dan y faner 'Crap ar farddoni'. Dim ond pethau da dwi wedi clywed amdanhi yn y wasg erbyn hyn, felly dwi wir yn gobeithio mae gen i ddigon o grap ar y Gymraeg er mwyn deall eu barddoni..

9.10.06

Astudiaethau

Dwi wedi dychweled at fy astudiaethau ffurfiol yr iaith 'ma (iawn, dwi'n gwybod mae 'na angen..!) efo Coleg Llambed ar ol bwlch o chwech mis neu fwy. Ro'n i'n meddwl mod i'n hanner ffordd drwy modiwl 'Cymraeg Ysgryfenedig lefel 1', ond ar ol gyrru fy darn diweddaraf at fy niwtor, darganfodais does dim ond rhaid i chi gwneud dau darn o'r tri adran rwan yn hytrach na'r tri o'n i wedi mynd ati i gwblhau, sy'n golygu fydd 'na lai o waith i wneud er mwyn gorffen y modiwl :) Dwi newydd darllen am y myfyriwr cyntaf i raddio yn y Gymraeg trwy defnyddio'r cwrs ar-lein Llambed 'ma, sef boi 74 oed o Nottingham. Mae gen i gryn dipyn o waith gwneud fydd rhaid i mi poeni am raddio, sdim ond 40 credyd ar hyn o bryd..

3.10.06

Layla



(ymddiheuriadau dros y llais 'ci-aidd' defnyddwyd ar y fideo hon)