24.8.08

Cwm y Glo

Dyni newydd dychweled o bedwar diwrnod yng Nghwm y Glo, pentre bach rhwng Caernarfon a Llanberis. Mae'n ardal hyfryd tu hwnt, ac un ro'n i ddim yn cyfarwydd efo hi a dweud y gwir, wel ar wahan i ambell i daith drwyddi hi er mwyn cyrraedd rhyw mynydd neu'i gilydd. Mi gawsom ni i gerdded yn syth o'r bwthyn, i fyny'r bryniau tu gefn iddi, a gweld golygfeydd ysblenydd o'r Wyddfa a'r mynyddoedd eraill o'i gwmpas. Mi gerddon ni dros y topiau cyn disgyn lawr i Lanberis a thaith hynod o ddiddorol o gwmpas yr Amgeuddfa Lechi. Gyda'r glaw yn dechrau bwrw'n drwm, penderfynom ni anelu at orsaf Rheilffordd Llyn Padarn, er mwyn dal y tren i 'orsaf' bellach y lein cul sef 'Penllyn', llai na milltir o'n bwthyn bach. Yn ôl y dynes roedd ar ddyletswydd yn y 'swyddfa tocynnau', er roedd modd iddi gwerthu tocynnau un ffordd, doedd dim platfform yng nghorsaf Penllyn!! Pe taswn ni i ddewis adael y tren yn y fan yna, mi fasen ni'n gwneud y peth 'at our own risk', a nad oedd hi'n gallu dweud o sicrwydd bod 'allanfa' ar gael i ddianc yr orsaf rhyfedd honno!! Wedi sawl eiliad o oedi, mi wnaethon ni ein esgusodion cyn camu allan o'r cwt pren. Roedd hi'n bwrw hen wragedd a ffyn erbyn hynny, felly ar ôl cipolwg ar y map, a golwg ar y 'platfform' isel yng nghorsaf Llanberis, penderfynon ni 'gamblo' ar naid o'r dren i ansicrwydd 'steision' Penllyn, yn hytrach na tro gwlyb gyda'r merch yn grwgnach pob cam o'r tair milltir 'adre' (ond chwarae teg, roedd hi wedi cerdded tua wyth milltir erbyn hynny). Felly yn ôl â fi at yr 'cyntedd' bwcio i gwario'r £11.40 yr oedd cost y taith. Y tro yma wnes i siarad yn y Gymraeg (ro'n i ar ben fy hun), ac wrth lwc, ges i'r docynnau am £10.00, gostyngiad iethyddol 'diamod' (discretional) tybiwn i!! (dwi wedi clywed si am yr un peth yn digwydd yng nghaffi copa'r Wyddfa). Wedi chwater awr o grwydro'n hamddenol ar hyd glannau Llyn Padarn, cyrraeddon ni Benllyn, a gyda phawb ar y tren yn edrych yn syn arnon ni, mi neidiodd y pedwar ohonynt (yn cynnwys y ci) oddi ar y tren, cyn dweud diolch yn fawr i'r 'gaurd' a cherdded i mewn i wlybaniaeth y llwyni....

3 comments:

Emma Reese said...

Diddorol iawn, Neil. Mae'n dda i ti a dy deulu neidio oddi ar y trên yn ddianaf. Dw i wedi clywed am "gostyngiad ieithyddol" o'r blaen!

Corndolly said...

Diolch am ddweud dy hanes yma, mae'n ddiddorol iawn. Mae'r ardal yna yn hyfryd wrth gwrs, ond bydd y rhan fwyaf o'r glaw yn disgyn ar y mynnoedd hyn. Ond i fi, mae'r ardal yn teimlo'n arbennig o gyfriniol yn y glaw. Gwlyb ie, ond cyfriniol hefyd.

neil wyn said...

Sylwais i sawl waith ar ba mor sydyn mae'r tywydd yn newydd yn y mynyddoedd. Hyd yn oed yn yr haf, mae gwynt yn gallu codi'n andros o gyflym, heb son am y cawodydd. Ond fel ti'n dweud Corndolly, dyna beth sy'n gwneud i lefydd felly teimlo mor gyfriniol.