27.9.09

Cip newydd ar un o 'ngyndeidiau...



Dwi wedi ysgrifennu yma o'r blaen am y gôlgeidwad enwog, Leigh Richmond Roose, wnaeth chwarae dros Cymru a nifer o glybiau mawr yn ôl yn negawdau cynnar yr hugainfed canrif. Cefnder (wedi ei symud unwaith - once removed) fy Nhaid oedd o, ac yn ei ddydd un o wynebau mwyaf adnabyddus y byd chwaraeon ym Mhrydain Fawr.

Digwydd bod, yr wythnos 'ma, ges i e-bost gan fy Mam, yn fy ngyfeirio at y llun sydd ar dop y cofnod hon. Mae'n wych o lun sy'n dod oddi ar gerdyn sigaret, un a wnaeth gymar fy chwaer baglu drosti wrth chwilio ar y we am stwff i wneud ag Everton, ei glwb o, ac un o glybiau wnaeth L.R. Roose chwarae drostynt.

Ar yr un un ddiwrnod, dyma fi'n mynd ar wefan Golwg360 pan welais i stori am restr o'r deg chwaraewyr gorau gafodd Cymru erioed. 'na sy'n digwydd, achos pwy oedd ar dop y rhestr (mae'r rhestr yn dechrau efo rhif deg!), neb llai na L.R. Roose!

25.9.09

amser am hunangofiant...

Ar ôl i mi fwynhau cwpl o nofelau Cymraeg dros yr haf, penderfynais droi at hunangofiant am dipyn o newid. Mae 'na ychydig sydd wedi tynnu fy sylw dros y flwyddyn diwetha, y rheiny gan Meic Stevens, Ray Gravell (cofiant wrth cwrs yw hyn),a Nigel Owens (y dafarnwr rygbi hoyw) i enwi 'mond ychydig. Ond ar ôl iddyn ni gyfarfod Rhys Mwyn ar lethrau'r Wyddfa dros yr haf , penderfynais mynd am ei lyfr o, Cam o'r Tywyllwch .

Hyd yn hyn llai na chwater o'r llyfr dwi wedi ei ddarllen, ond dwi'n eitha fwynhau hanes y cyn pync rocwr o Sîr Drefaldwyn. Mae'n annodd dychmygu riot yn Llanfair Caereinion, ond dyna be digwyddodd pan drefnodd Mwyn gig punk mewn ystafell cefn un o dafarndai'r pentref. Efo llond bws o punks o'r Amwythig yn llenwi'r lle, does fawr syndod efallai i'r peth cicio ffwrdd, ond roedd Rhys ar fin gadael pentref ei blentyndod beth bynnag, felly siawns doedd fawr o ots ganddo fo. Er Gymro Cymraeg digon amlwg y dyddiau 'ma, mae Rhys Mwyn wedi bod yn gwrthryfela yn erbyn y sefydliad Cymraeg ers ei ddyddiau Coleg. Mae hynny'n wneud i'w hunangofiant bod yn un ddiddorol ac onest, byth yn sâff. Mae o wedi treulio blynyddoedd yn pechu pobl, ond nad ydy o'n dwâd drosodd fel person cas. Am berson sy'n cysylltuedig ag anarchyddion y byd pync, a wnaeth 'canu' wrth cwrs mewn grŵp o'r enw Yr Anrhefn, mae o'n ymddangos i fod yn unigolyn andros o drefnus a chryf ei gymhelliad, ac o'r hyn a brofais ger Lanberis yn yr haf boi digon glên.

23.9.09

Tymor newydd, dosbarth newydd...

Mi gafodd y cyrsiau Cymraeg llawer o ddidordeb yn y noson cofrestru heno, gyda o leiaf pumtheg yn cofrestru ar flwyddyn un, ar ran mwyaf o fyfyrwyr o flwyddyn un y llynedd yn dychweled i wneud ail flwyddyn. Er nad oedd David Jones yn gallu bod yna, mi welais nifer o'i fyfyrwyr o'n dychweled i arwyddo am drydydd flwyddyn.

Mae'r Gymraeg yn parhau i fod un o'r ieithoedd mwyaf poplogaidd y Coleg, efo niferoedd parchus tu hwnt, ac mae'n wastad yn ddiddorol iawn darganfod y rhesymau sydd wedi dod â'r darpar myfyrwyr at y cwrs yn y lle cyntaf. O'r rhai efo carafanau yng Nghymru, i'r rhai efo cysylltiadau cryf Cymraeg. Mae 'na ddynes er enghraifft a gafodd ei geni ar aelwyd Cymraeg yn y Rhondda, er mae ganddi enw Albanaidd iawn ac acen sgows digon cryf!

Mae'n rhaid i mi mynd ati i drefnu fy ngwaith papur i gyd cyn wythnos nesaf (cynlluniau gwersi, Initial Assesment Sheet , a.y.y.m) am fod 'na son am archwiliad Offsted cyn hir, ond mae'n well peidio meddwl am y peth gormod.

22.9.09

Y Llyfrgell



Dwi newydd gorffen Y Llyfrgell gan Fflur Dafydd, llyfr a gipiodd gwobr coffa Daniel Owen eleni, ac sy'n ei leoli yn bennaf tu cefn i furiau llwyd y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Ond nid argraff llwydaidd yr ydyn ni'n ei cael o fywyd yn yr adeilad crand yn y flwyddyn 2020. Erbyn hyn mae'r llyfr go-iawn wedi eu disodli gan yr e-darllenwr di-enaid, er mwyn i'r awdurdodau tynhau eu hawdurdod dros y gair ysgrifenedig.

Mae gan yr efeilliaid Wdig Nan ac Ana cynllun i ddial hunanladdiad ei Mam, yr awdures a benywydd Elena Wdig, wnaeth neidio i'w marwolaeth, yn sgil adolygiadau cas o'i champwaith diweddaraf gan Eben Prydderch. Mae eisiau ar Eben clirio'r cwmwl sy'n taflu cysgod dros ei enw da, trwy ysgrifennu cofiant i Elena. Er mawr syndod iddo fo, mae o wedi derbyn yr hawl i bori trwy ei chofnodion a dyddiaduron, sydd yng nghrombil yr adeilad mewn archifdy prin o lyfrau go-iawn.

Mae gan Dan cynlluniau.. Mae'r cyn-troseddwr o borthor yn gwneud pres ychwanegol trwy delio cyffuriau i fyfyrwyr y Prifysgol, sy'n heidio trwy ddrysau'r Llyfrgell. Ond nid yn unig trwy marchnata yr mwg ddrwg mai eisiau arno fantesio ar 'gyfleoedd' ei swydd. Mae o wedi cael blas ar Nan neu Ana yn barod, a'r pâr yn gweithio yn y llyfrgell, mewn lle bach tawel yng nghrombil yr adeilad. Ond pwy sy'n manteisio ar bwy tybed?

A dweud y gwir mae diffyg fy Nghymraeg i'n golygu mae'n siwr nad ydwi wir yn gwerthfawrogi safon yr ysgrifennu sydd ynY Llyfrgell. Ond er hynny, dyma 'stori dda', un sy'n symud yn gyflym, ac sy'n troi a throelli tan y diwedd. Mae'n wirioneddol gwerth ei darllen.

Yn ôl yr hyn a welais yn ddiweddar mae gan Fflur Dafydd grant i fynd i'r Unol Daleithiau er mwyn gweithio ar addasiad o'r Llyfr yn y Saesneg. Cyn hir felly mi fydd mwy o bobl y cyfle i fwynhau dawn y merch amldalentog hon.

.

18.9.09

Cantores/Cyfansoddwraig i gefnogi'r Gymraeg...

Mi fydd Amy Wadge, y cantores a dysgwraig sydd wedi ymgartrefu yng Nghymoedd y De, yn ryddhau fersiwn Cymraeg o'i sengl newydd er mwyn helpu y meithrihfa lle fydd ei merch fach yn mynychu cyn hir.

Roedd Amy Wadge yn anhysbys i mi cyn iddi hi ymddangos ar gyfres S4C 'Cariad at Iaith', lle aeth criw o 'enwogion' i aros yn Nant Gwrtheyrn am gyfnod er mwyn dysgu Cymraeg. Ar y pryd datgelodd y cantores ei bwriad i ryddhau sengl yn y Gymraeg, rhywbeth wnaeth hi gyflawni efo dau o draciau yn cael eu cyfieithu o'i halbwm nesaf, ac wedyn efo cân arall wnaeth hi sgwennu fel cynnig yng nghystadleuaeth Gân i Gymru.

Mae'n braf clywed ei bod hi wedi dal ati efo ei Chymraeg, rhywbeth nad oes pawb wnaeth ymddangos ar y cyfresi 'realaeth' yn debyg o'i wneud....Janet Street Porter!!
Mae'n posibl gwrando ar y cân newydd yn y dwy iaith yma...

15.9.09

Ewww....

Weithiau mae rhywun yn meddwl am y pethau rhyfeddaf tra gyrru, wel dwi yn beth bynnag! Mae 'nhw'n dweud gweithgaredd 'eilradd' neu secondary yw'r gyrru erbyn hyn, ac mae'r ymenydd yn brysur meddwl am bethau sy'n hollol ar wahan i'r gweithred o lywio'r cerbyd ti'n eistedd ynddi! Heddiw felly ffeindiais fy hun yn meddwl am air, gair hollol ar hap am wn i, y gair 'eww', os oes 'na ffasiwn gair!

Fedra i ddim gweld fy hun yn dweud 'eww' tra siarad Saesneg, ond be dwi'n dweud i olygu'r un un peth?

Pe taswn i i fod person o Swydd Efrog, "Eeee" faswn i'n dweud hwyrach? ond be'am yn fy nafodiad i, sef sgows gogledd Cilgwri. Y peth gorau fedra i feddwl amdano yw "goh.." e.e. "Goh.. your jokin me arn't yuh", neu "Goh.. would you believe it".

Ond fel dwedais, weithiau mae rhywun yn meddwl am y pethau rhyfeddaf yn y car....

11.9.09

Bob bardd, a'i daith hudolus rhyfeddol....



Neithiwr, mi aethon ni allan am bryd o fwyd indiaidd efo ffrindiau, digwyddiad eitha anghyffredin rhaid cyfadde, ond un wnaethon ni fwynhau'n fawr. Mae Simon yn gweithio yn y maes cadwriaeth, ac erbyn hyn mae o'n gweithio fel rheolwr i'r Yr Ymddiriadolaeth Genedlaethol yn ardal Lerpwl, sy'n cynnwys llefydd fel neuadd Speke, hen adeilad tuduraidd ar gyrion Lerpwl, yn ogystal â dau cyn gartrefi'r 'Fab Four', sef tai plentyndod Lennon a McCartney. Mae Simon yn un wych am adrodd stori, tipyn o 'raconteur' os liciwch chi, a chwmni dda.

Does dim modd ymweled â 'Mendips' neu 20 Forthlin Rd heb fwcio ar daith bws-mini arbennig. Mae'r Ymddiriodelaeth Genedlaethol yn eu rhedeg nhw, yn dechrau naill ai yng nghanol y ddinas neu ger Neuadd Speke. Ychydig o fisoedd yn ôl dyma arweinydd un o'r teithiau yn dweud wrth un o'i cyd-weithwyr, rhywbeth fel 'Ive got this bloke on the bus who's thinks he's Bob Dylan!' Wrth cwrs pwy oedd y boi mewn cwestiwn ond Bob Dylan ei hun! Roedd o yn y ddinas er mwyn chwarae gig yn yr Echo Arena. Ymhlith yr enwogion eraill sydd wedi wneud y taith bws-mini yn ddiweddar yn ôl Simon ydy James Taylor (a gafodd ei ysbrydoli i ddechrau canu gan y Beatles yn ôl y boi ei hun) a Jon Bon Jovi!

Mae busnes y Beatles wedi tyfu'n aruthrol ers i fy nyddiau i yn gweithio ym Mathew St. Pryd hynny doedd 'na ddim 'Cavern', ar ôl i'r hen selars cael eu llenwi er mwyn creu maes parcio. Yr unig atyniad masnachol i dwristiaid y cyfnod oedd amgeuddfa'r Beatles, a leolwyd uwchben ystafelloedd te'r Armadillo, lle loitrodd 'enwogion' sîn cerddoriaeth y dinas a phobl busnes yn chwilio am ginio blasus rhad. Lle gwych lle treuliodd Jill a fi sawl amser cinio yn ystod y cyfnod hynny. Erbyn hyn mae budredd yr hen Mathew st. wedi ei glanhau, ac mae'r Cavern wedi ei ail-creu (yn defnyddio rhai o'r brics gwreiddiol yn ôl y datblygwyr, er gwaethaf y ffaith gafodd sawl bric o'r Cavern (honnedig) ei gwerthu dros y flynyddoedd). Mae 'na siop y Beatles, amgeuddfa llawer iawn mwy yn yr Albert Dock, hyd yn oed gwesty'r Beatles, yn ogystal â teithiau ar y bws 'Magical Mystery'. Efo penblwydd arall yn cael ei dathlu, mae peiriant marchnata y Fab Four yn ei anterth o hyd!

8.9.09

Codi Nyth Cacwn?

Ges i fy ngwahodd cyfrannu at raglen Taro'r Post y p'nawn 'ma, am fod un o bynciau'r rhaglen yn ymwneud â Dysgwr o Lannau Mersi. Yn ôl yr ymchwilydd a ffoniodd mai dysgwr o Lerpwl wedi bod yn sgwennu at nifer o gyhoeddiadau yn cwyno am y ffordd mae o wedi cael ei drin gan Cymry Lerpwl, Cymdeithasau Cymraeg ac ati, Y parchedig Dr Ben Rees hyd yn oed, 'pencampwr' Cymry Lerpwl ers degawadau. Does gen i fawr o brofiad o gymdeithasau Cymry Lerpwl rhaid i mi ddweud, ar wahan i gyfarfod Ben Rees mewn cyfarfod S4C yn y ddinas tua flwyddyn yn ôl (boi andros o glên hyd a welais i), felly doeddwn i ddim yn gallu cynnig sylw uniongyrchol ar yr hyn mae'r boi o Everton wedi cwyno amdano, ond cytunais son am 'mrofiadau i'n cyffredinol am ddysgu ochr yma i'r ffîn. Fel sy'n digwydd yn aml iawn tra siarad yn fyw ar y radio, mi gollais ambell i air, a ni ddwedais lot o bethau meddyliais i amdanynt ar ôl i'r cyfweliaid dod i ben! Dwedais hyd yn oed nad oes gan llawer o'r dosbarth 'diddordeb' yn Nghymru (bwriadais ddweud 'cysylltiadau'!) Wedi dweud hynny doedd hi ddim mor ddrwg â hynny, a ges i gyfle i hyrwyddo fy nhosbarthiadau nos hefyd sy'n peth da :)

Dyma'r dolen i player os oes gen ti ddiddordeb yn y pwnc:

http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b00mj56p/Taror_Post_07_09_2009/

(Mae'r pwnc yn dechrau tua 43' i mewn i'r rhaglen)

7.9.09

Dysgwyr Cilgwri

Dwi newydd sefydlu blog newydd efo'r bwriad o'i defnyddio er mwyn rhoi gwybodaeth/cymhorth i aelodau o'r dosbarth nos dwi'n ei dysgu, yn ogystal a dysgwyr eraill yn yr ardal efallai.

(I've just set up a new blog witht the intention of give information/help to members of the night class I teach, as well as perhaps, other learners in the area

Enw'r blog yw (the blog's called):

Dysgwyr Cilgwri

2.9.09

Dr Beeching tybiwn i....

Ar ôl i'r taith ardderchog i ucheldir Cadair Idris dydd sadwrn, mi deimlom ni fel gwneud rhywbeth ychydig yn fwy hamddenol y ddiwrnod wedyn, felly ffwrdd â ni am dro ar Lwybr Mawddach. Gafodd y Llwybr ei adeiladu ar ran o hen reilffordd Y Bermo i Riwabon, ac mi reidiom ni'r 'trail' ar gefn beic pan oedd Miriam yn dal i ddigon bach i ffitio mewn i'w threilar (tua 9 mlynedd yn ôl 'swn i'n meddwl).



Pont Y Bermo yn ei holl gogoniant (nid fi tynnodd y llun hwn rhaid cyfadde..)

Mi gafodd y rheilffordd hwn ei gau i deithwyr yn 1965, fel rhan o gynllun Dr Beeching, a gadawodd talpiau mawr o Brydain 'di-drên'. Gwibdaith hynod o olygfaol mae'n siwr roedd y taith i fyny Glyn Dyfrdwy ac i lawr i arfordir Bae Ceredigion, ac erbyn heddiw gallen ni flasu tipyn bach o'i fawredd o dan stêm Rheilffordd Llangollen, neu ar drên bach Rheilffordd Llyn Tegid. Yn yr 'hinsawdd' sydd ohoni heddiw, mae'n annodd deall penderfyniadau Beeching. Mi gafodd y peirianydd o ICI ei benodi gan y Llywodraeth fel cadeirydd 'British Rail', a gafodd ei dalu dwywaith cyflog y Prifweinidog, i gyflawni ei ddyletswydd o ail-strwytho'r rheilffyrdd (hynny yw arbed arian!). Maint pitw oedd y swm a gafodd ei arbed wrth edrych yn ôl, a pwy a wŷr be' oedd y colled tymor hir i economiau'r cymunedau wnaeth colli eu cysylltiadau rheilffyrdd (mewn cyfnod pan oedd llai na pumtheg y cant yn biau ceir ym Mhrydain). Ond rhyfedd o beth yw hindsight 'tydy?

Diolch byth gafodd y boi Beeching ei hel yn ôl i ICI cyn wireddu rhan dau o'i gynllun mawr yn ei cyfanrwydd. Dymuniad Beeching ar ran reilffordd Cymru oedd i gau pob un lein ar wahan i'r gysylltiad o Abertawe trwy Gaerdydd i Loegr. Credwch neu beidio, mi fasai pob un gwasanaeth ar hyd arfordir y Gogledd a thrwy'r Canolbarth wedi dod i ben o dan ei gynlluniau i 'foderneiddio', yn ogystal â miloedd o filtiroedd o reilffyrdd eraill dros Prydain Fawr, oedd wedi goroesi ei fwyell cyntaf.

Ond diolch i Dr.Beeching cawn ni fwynhau sawl hen rheilffordd ar gefn beic neu ar droed erbyn hyn. Mae'r Llwybr Mawddach yn ymestyn tua wyth milltir o Ddolgellau, ac mae'n rhaid bod hyn yn un o'r 'llwybrau hen rheilffyrdd' hyfrytach ym Mhrydain (hyd yn oed yn y glaw fel a brofon ni hi'r tro 'ma!). Ar ôl cyraedd diwedd y llwybr ger orsaf Morfa Mawddach (ar y linell o Bwllheli i Fachynlleth), gewch gwobrwyo eich hun am eich ymdrechion efo'r taith dros Pont y Bermo, ac wedyn hufen iâ a sglodion 'glan y môr' yn 'Y Bermo-ingham' ei hun!

Yn y pendraw mi gerddom ni o Lynpenmaen i'r Bermo ac yn ôl, taith o 14 milltir (tipyn gormod yn y glaw rhaid dweud). Y ddiwrnod wedyn felly, mi grwydrom ni lawer i orsaf Llanuwchllyn (sy'n llai na milltir o'r Rhyd Fudr) er mwyn dal y trên bach i'r Bala a gwneud ychydig o siopa a 'thwristio'.. jysd y peth ar gyfer traed blinedig!

1.9.09

Rhyd Fudr....




Be' fedra i ddweud am Ryd Fudr? Adeilad sy'n dyddio yn ôl i 1725 ydy o, bwthyn clyd yn cuddio mewn plygiad yn y tirlun, ond er hynny lleoliad sy'n cynnig golygfeydd ysblenydd o fynyddoedd Meirionydd a thu hwnt. Does fawr ddim wedi newid dros y canrifoedd o sbio trwy'r ffenestri cyfyngedig mae'n siwr. Does dim ffyrdd i'w gweld, dim sŵn traffic, dim gwrid oren i lygredu lliw'r nos, dim ond sŵn defaid, adar, y gwynt a'r glaw. Dim ond milltir o bentref Llanuwchllyn ydy o, ond milltir go iawn yw hynny, milltir Cymreig. Wedi gadael y pentref ar y lôn sy'n amgylchu ochr dwyreinol Llyn Tegid, mae 'na lidiart digon anhysbys ar y de, yn syth ar ôl G&B Felindre. Wrth basio trwy'r giât mae 'na lwybr cul s'yn arwain i fyny yn serth, yn dilyn nant bach byrlymus. Efo dibyn ar yr un ochr ar y teirs yn llithro ar wyneb llech y lôn, go brin fasai Nissan Note (neu unrhyw cerbyd heb yriant 4x4) cyrraedd 'y Rhyd' yn ystod misoedd y gaeaf.

Dwi byth yn cofio penwythnos gwŷl y banc mis awst mor wael ar ran y tywydd. Diolch byth mi wnaethon ni benderfynu dringo Cadair Idris ar y dydd sadwrn, dydd cymharol teg ar ran yr 'elfennau'. Efo'r cymylau'n hofran o amgylch uchder y copeuon mwyaf, roedd 'na siawns o leiaf o gael gweld rhywbeth o Ben y Cadair, uchafbwynt y taith ac ein ymdrechion corfforol. Mae Llwybr 'Tŷ Nant' (the Pony path) yn ffordd cymharol rhwydd o gyraedd y copa, a dim ond y chwater milltir olaf s'yn cynnig her go iawn i'r cerddwr hamddenol ('fatha ninnau!). Wedi dweud hynny mae'n llwybr ardderchog, ac ar ôl oedi tua hanner ffordd ifyny am bicnic, mi gyrraeddom ni Ben y Cadair tua dwy awr a hanner ar ôl gadael maes parcio Tŷ Nant. Wedi tipyn o dynnu lluniau ger concrît gwyn y 'trig pwynt', a jysd mwynhau'r profiad o fod ar y copa, mi wnaethom ni fentro trwy mynediad tywyll y lloches storm, er mwyn gysgodi rhag y gwynt a'r glaw oedd wedi dechrau bwrw. Yn yr adeilad hon mi benderfynodd teulu gyfan cysgu ynddi dim ond wythnos diwetha, ar ôl i'r tywydd troi'n wael. Yn ôl 'warden' Parc Genedlaethol Eryri (a digwyddodd bod yn cael paned yn y cwt cerrig ar yr un amser â ni, a thua dwsin o gerddwyr eraill) gaethon nhw eu harwain oddi ar y copa gan 'dîm achub mynydd' efo un ohonynt yn dioddef 'diffyg gwres'. Ges i sgwrs bach efo fo yn y Gymraeg, ar ôl clywed ei acen o (boi o Drawsfynydd), a chymeron ni gyngor am y ffordd orau i lawr efo'r cymylau'n dechrau disgyn. Wedi cipolwg lawr Llwybr y Llwynog (sy'n disgyn yn reit sydyn lawr sgri go lithrig ei golwg), mi wnaethon ni benderfynu mynd yn ôl dros y top ac i lawr y 'Pony Path'. Taith yna ac yn ôl o ryw saith milltir, pob un yn cynnig golygfeydd gwahanol o ardal o harddwch trawiadol. Yn ôl â ni wedyn i cynnau tân yn stôf llosgi coed Rhyd Fudr, wedi saib sydyn yn Nolgellau am bryd o fwyd 'i fynd' o 'Siop sgod a sglods Stewart'!

Golwg or copa, efo Pont y Bermo yn y pellter..