30.4.10

Dim ond un ddewis....

Fedra i ddim dweud fy mod i wedi cynhesu at Gordon Brown,  nag y naill o'i wrthwynebwyr slic neu'r llall a dweud y gwir, yn ystod yr ymgyrch i ennill yr etholiad cyffredinol.  Mae 'na debyg o fod rhyw 'ego' afreolus tu mewn i bersanoliaeth unrhywun sy'n ddigon uchelgeisiol i fynd am swydd y prif weinidog, sy'n codi cwestiynau ynglyn á pha mor addas ydyn nhw i wneud y swydd yn y lle gyntaf.   Maen nhw'n pysgod mawr sydd wedi tyfu yn fwy trwy fwyta pysgod eraill.  Gafodd y pysgod newydd yn y pwll, Nick Clegg, amser gweddol rhwydd yn ystod y dadl 'Prif Weinidogol' cyntaf, cyn i bartion y lleill dechrau ei weld fel bygythiad go iawn, a dechrau ar eu gwaith o danseilio ymgyrch arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.   
Mi ddaeth ochr annoddefgar personaliaeth Mr Brown i'r wyneb echddoe, wrth iddo fo cael ei ddal mewn preifat yn galw dynes yn 'bigot', rhywun ei fod o wedi gadael yn holl gytun dim ond eiliadau yn gynt.  Teimlais drosto a dweud y gwir, wrth i'r cyfryngau wneud mór a mynydd o'i sylwadau dauwynebog,  ond siawns fasen ni'n cael clywed lot gwaeth pe tasen ni i gael cyfle i glustfeinio ar sgyrsiau preifat sawl gwleidydd.  Dylsai pethau felly bod wedi cael eu rhyddhau gan 'Sky' yn y lle gyntaf ?... ond wrth cwrs cwmni Rupert Murdoch ydy 'Sky'!   

Ond wrth cwrs mae'n rhaid i ni ddewis rhywun i bleidleisio drostynt (wel os dyni am fwrw pledlais), ac mi faswn i'n digon hapus gweld senedd grog er mwyn gwneud rhywbeth i dorri'r hen gyfundrefn o lywodraethau gor-bwerus heb ddigon o gefnogaeth.  Dyma gyfle euraidd i ni wneud gwahaniaeth trwy pleidleisio'n tactegol, ond am y tro olaf gobeithio.. 

24.4.10

Eisteddfod y Dysgwyr 2010


Cyn i'r cystadlu

Mi aethon ni draw i 'Eisteddfod y Dysgwyr Gogledd Dwyrain Cymru'  neithiwr, yng Nghlwb y Gweithwyr Gwersyllt, pentref ar gyrion Wrecsam.   Gaethon ni dipyn o drafferth yn dod o hyd i'r lleoliad, ond llwyddon ni yn y diwedd cyrraedd jysd mewn amser.  Ymunon ni á Mike, Anne a Nigel (o'r dosbarth nos blwyddyn 2) oedd wedi sicrhau bwrdd yng nghanol y cynulleidfa.

Cyn i ni gael amser i setlo, roedd Sion Aled (cyflwynydd y noson) wedi datgelu'r cystadleuaeth cyntaf, sef y 'Parti Adrodd', ein cystadleuaeth ni!  Ar ól aros i gwpl o'r partion eraill 'adrodd', mi wnaethon ni gamu at y llwyfan lle cyflwynodd Nigel ein darn ni unigol... 'Cofiwch am Ddysgwyr Cilgwri'!  Mi aeth popeth yn iawn dwi'n meddwl, a phefformion ni'r darn yn ddi-drafferth.  Gaethon ni 'gydradd trydydd' am ein ymdrechion, ond hynny mewn cystadleuaeth o safon uchel, felly da iawn i bawb!

Y cystadleuaeth nesaf i gael ei gyflwyno, oedd y canu unigol.    Roedd fy ngwraig Jill wedi cael ei dadbwyllo i ymarfer darn ar ran hon, a finnau wedi cynnig ei chyfeilio ar y gitar, penderfyniad wnes i edifaru,  wrth i mi ddechrau cerdded tuag at y llwyfan!  Dwn i ddim pwy oedd yn fwy nerfus, Jill neu fi, y dau ohoni heb canu (neu ganu offeryn) mewn cyhoedd am flynyddoedd maith, ond doedd dim ots, ar ól un 'false start', mi lwyddon ni i gwplhau dau benill o 'Suo Gan' (wel yr un benill dwywaith i fod yn onest!), ac roedd cymeradwyaeth y cynulleidfa yn swn i groesawu ac i wneud i'r ymdrech teimlo'n gwerthchweil. Mi ddaeth Jill yn drydydd, ac er gwaethaf ei nerfusrwydd (a 'chord' neu ddau anghywir gan fi!) wnaeth hi fwynhau ei phrofiad cyntaf o'r Eisteddfod y Dysgwyr dwi'n meddwl.

Gaethon ni sgwrsiau á ffrindiau hen a newydd, ac roedd hi'n braf gweld criw dda o'r dosbarth flwyddyn un yna hefyd.  Wna i ddarganfod be' wnaethon nhw meddwl wythnos nesaf, ac os maen nhw am gystadlu yn 2011...  Uchafbwynt y noson yn bersonol, oedd derbyn 'Gwobr Dafydd ap Llywelyn', gwobr sy'n cael ei chyflwyno i ennillydd cystadleuaeth i sgwennu traethawd ar ryw agwedd o hanes Gogledd Dwyrain Cymru (wna i bostio'r darn am 'Wlad y Mor' yma cyn hir).  Roedd hi'n fraint derbyn y wobr am rywbeth wnes i wir mwynhau'n ei wneud, caiff y darn o wydr ei trysoru dros y ddeuddeg mis diwetha!

Yr unig cwyn wnes i'w glywed oedd am 'acoustics' yr ystafell, rhywbeth teimlodd pobl tuag at y cefn yn anffodus, wrth i swniau'r bar boddi ymdrechion cystadleuwyr ar y llwyfan,  Gyda'r lle yn orlawn a diffyg cyfundrefn swn digonol roedd 'na gryn clebran yn ymharu á rhai o'r perfformiadau.  Mi fydd yr Eisteddfod yn ól yn Sir y Fflint blwyddyn nesaf, felly gobeithio ni fydd yr un broblemau yna.

17.4.10

Llosgfynydd....

Un o'r geiriau yna sydd fel bws yw 'Llosgfynydd'.   Mi gei di dreulio amser maith heb ei weld, ond y peth nesaf mi weli di o sawl gwaith o fewn dim o amser.   Geiriau annodd i gofio gallai'r rhai 'achlysurol' yma bod i ddysgwyr.  Yn yr achos yma  cawn ni ei dysgu'n rhwydd, am fod cyfuniad perffaith o eiriau mwy cyffredin ydy o (fel 'eirlaw' a 'daeargryn'), ac mae hynny'n gallu bod yn help mawr.  Dwn i ddim faint o Gymru Gymraeg sy'n defnyddio 'llosgynydd' (neu 'mynydd tán') yn lle 'folcano', ond i ddefnyddwyr gwasanaethau newyddion cyfrwng Gymraeg mi fydd y gair yn un gyfarwydd iawn dros y wythnosau (ac o bosib misoedd), yn ól y fylcanolegwyr sy'n llenwi pob bwletin y newyddion ar hyn o bryd.

Wrth cwrs gyda straeon o'r fath, mi gawn ni hanes pob agwedd o'r 'creisis' presenol', o'r hogyn yn ei arddegau yn 'bored' yn y maes awyr, a dim ond dau 'consoles gém' i chwarae arnynt... bechod!  i drigolion tref Richmond, yn dathlu'r llonyddwch sydd wedi llenwi'r awyr, ar ól i Heathrow cael ei cau i awyren.  Fel arfer mae nhw'n diodde swn awyren yn sgrechian uwchben y dref pob munud a hanner trwy'r dydd.

'Mae ymyl arian i bob cwmwl du'.... wel hynny yw os nad wyti'n cynllunio hedfan dros y dyddiau nesaf!

13.4.10

Diwedd y cwrs..

Mi aethon ni yn ôl i'r dosbarthiadau nos heno, ar ôl saib y Pasg.  Dyni bron a bod wedi cyrraedd diwedd y cwrslyfr 'Mynediad' gyda dim ond cwpl o unedau ar ôl.  Dwi ddim cweit yn sicr be wnawn ni ar ôl hynny am weddill y flwyddyn.  Mae 'na wrth cwrs cwrslyfr 'sylfaen' i symud ymlaen ato fo, ond mi faswn i'n licio trio cynnig tipyn o amrywiaeth hefyd trwy edrych ar adnoddau eraill sydd ar gael (rhywle gobeithio!),  dwn i ddim beth yn union eto, rhywbeth i helpu adeiladu ar yr hyn sydd gynnon nhw'n barod am wn i. Mi fydd rhaid i mi feddwl o ddifri dros y cwpl o wythnosau nesa!

11.4.10

Gwleidyddiath di-baid....

Sedd 'marginal' yw Gorllewin Cilgwri, gyda aelod seneddol o'r enw Stephen Hesford yn ein cynrychioli ar ran y Plaid Lafur ers 1997.   Ond tir naturiol y Ceidwadwyr yw hi yn y bon, gyda'r Toriaid yn rheoli ers 1945, a disodlwyd y rheiny dim ond gan dirlithriad y Blaid Lafur '97, a hynny o dan arweiniad 'ceidwadol' Tony Blair.   Y tro 'ma, gyda Mr Hesford yn rhoi'r ffidl yn y to (oherwydd 'rhesymau teuleuol'..... er tybiwn i 'neidio cyn gael ei wthio' yw'r rheswm go iawn), ac yntau wedi ennill parch trwy gweithredu dros ymgyrchoedd lleol, prin iawn yw'r siawns o weld Llafur yn dal y  sedd.   Dwi newydd darganfod 'Phil Davies' yw enw ein ymgeisydd seneddol newydd ar ran y Blaid Lafur, ond does fawr o wybodaeth amdano ar wefan y Blaid hyd yn hyn (tipyn o wendid yn yr oes sydd ohoni).  Mae o'n bell ar ei ôl yn barod ac mi fydd rhaid iddo fo ganfasu'n aruthrol o galed i wneud argraffiad ar yr etholwyr,  sydd yn ôl y polau piniwn wedi troi yn erbyn Gordon Brown a'i Blaid Lafur.

Fel canlyniad wnawn ni weld y Tori Esther McVey yn sicrhau ei lle yn San Steffan.  Gwahoddwyd y cyn gyflwynwraig teledu i fod yn llywodraethwraig yn ysgol fy merch, ychydig o fisoedd cyn ddod yn ail agos i Mr Hesford yn 2005.  Roedd Mr Hesford 'wrth rheswm' yn llywodraethwr mewn ysgol, ond ysgol ei fab oedd hynny, does gan Ms McVey dim plant, a ches i fy ngwylltio gan apwyntaid mor 'crass' gan yr ysgol, sydd ddim yn lle addas i ddarpar-wleidydd rhoi sglein ar ei delwedd yn fy mharn i.

Ta waeth, gyda dros tair wythnos o ymgyrchu sy'n dal i fynd, fydda i a phawb arall yn y wlad yn siwr o gael llond bol o wleidyddiaeth, er rhaid i mi gyfadde fy mod i'n eitha fwynhau'r holl dadleuon gwleidyddol a welwyd ar raglenni fel 'Question Time' a 'This Week'  (a 'Phawb a'i Farn' a 'CF99' wrth rheswm!).  Y tro hwn y cawn ni dri 'dadl teledu' rhwng arweinwyr y prif pleidiau hefyd, datblygiad 'americanaidd' bod y gwleidyddion wedi trio gwrthod ers degawdau, ond rhywbeth sy'n amlwg at dant y cyfryngau, a'r cyhoedd efallai.   Gyda'r dau brif arweinydd yn derbyn hyfforddiant gan rai o gynghorwyr yr Arlwydd Obahma yn ôl y son, mi fydd yr holl beth yn dipyn o sioe mae'n siwr,  er  nid fawr o gymhorth i ni efallai.  Mi fydd yr un gyntaf yn cael ei darlledu nos iau, felly cawn ni weld..

8.4.10

Cerys yn hudo gyda straeon a chaneuon....

Mi aethon ni draw i Wrecsam neithiwr i weld Cerys Matthews yn perfformio ym Mhrifysgol Glyndŵr.  Dwi wedi ei gweld hi'n wneud 'set' byw ar y teledu, ond roedd y profiad 'byw' go iawn yn well o lawer.  Dyma rywun wnaeth gyrraedd 'uchelfannau' y byd roc a phop gyda Catatonia, ac sydd wedi goroesi ei dyddiau 'gwyllt', heb cael ei dinistrio gan y profiad, ac yn wir wedi tyfu fel cyfansoddwraig/cantores unigryw  a dawnus.  Y dyddiau 'ma mae hi'n teithio efo cwpl o gerddorion aml-dalentog (Mason Neeley a Michael Bennet) sydd - efo gîtar a llais Cerys, offeryn yn ei hawl ei hun! - yn creu sŵn llawer mwy 'na dylsen nhw eu creu.   Gaethon ni berfformiad 'clud a phersonol', ac mae gynni hi ffordd naturiol o gyfathrebu a chysylltu yn gynnes â'r cynulleidfa.  Does dim 'ffrynt' amdani, dim ond dehongliadau gonest o'i chaneuon, a lot fawr o sgwrs difyr a doniol rhyngddynt.
                
Tynnodd sylw y dorf i'r ffaith ei bod  hi'n wynebu arwydd enfawr ar wal cefn y neuadd gyda'r enw Glyndŵr arno,   atgof parhaol i barchu'r Gymraeg, a rheswm, meddai hi, i wneud chwater y set yn yr iaith!  Ni gaethon ni gymaint â hynny mewn gwirionedd ( tri cân os cofiaf yn iawn), ond roedd Cerys yn ymfalchio o fod yn ardal y Tywysog yn ogystal a gwirioni gyda'r enw Rhosllanerchrugog, a welodd ar arwyddion ffyrdd.  Gosodwyd yr her o ddysgu sut i'w dweud (yn ystod yr egwyl) i Mason druan,  er gafodd ei ryddhau o'i ddyletswydd ar ôl i Cerys darganfod bod 'Rhos' yw enw dydd i ddydd y pentre.
 Uchafbwynt y noson i sawl oedd perfformiad gwefreiddiol o 'Mulder & Scully', a dyma'r eildro yn unig iddi hi'w chanu ers i Catatonia chwalu.  Ond i mi roedd ei chlywed hi'n dehongli nifer o ganeuon traddodiadol yr un mor drawiadol, un o'r Alban, ac wedyn cwpl oddi wrth ei prosiect newydd 'Tir', sef casgliad o ganeuon traddodiadol a lluniau sy'n cael ei rhyddhau ym mis Medi.   Ym  'Migildi Magildi' gafodd yr americanwr Neely i ddatgelu enw'r canwr byd enwog sy'n perfformio y deuawd ar y CD (Bryn Truffle) cyn ei ganu'r rhan ei hun!  a fel encore gwahoddwyd pawb i ymuno mewn fersiwn bywiog o Sospan Fach.

Mae'r daith yn mynd yn ei flaen am ddeg diwrnod arall gan cynnwys nifer o berfformiadau o amgylch Cymru, ac mi faswn i'n cymeradwyo cwpl o oriau mewn cwmni Cerys a'i cherddorion yn fawr iawn.

6.4.10

Tair awr yn ormod....!!

Cymharol bach mae'n siwr yw'r nifer o Gymry Gymraeg sy'n poeni rhy lawer am amserlen Radio Cymru.  Darlledwr at leiafrif o siaradwyr iaith lleiafrifol yw'r orsaf yn y bon, gyda'r rhan helaeth o'r rhai sy'n medru yn y Gymraeg yn gwrando ar (yn ôl y ffigyrrau gwrando) yr amrywiaeth eang o orsafoedd Saesneg sydd ar gael, ac ambell i orsaf masnachol 'dwyieithog',.. os gwrando o gwbl!

Dros y flynyddoedd dwi wedi clywed sawl dadl am y 'gwasanaeth genhedlaethol' a'i ymdrechion i fod yn bobeth i bawb, dyletswydd tu hwnt i annodd. Fel un o wrandawyr cyson yr orsaf, ro'n i'n fodlon rhoi siawns i'r newidiadau diweddaraf ar ran rhaglenni yn ystod oriau'r dydd, y rhan helaeth ohonynt sydd wedi bod yn weddol llwyddianus (o safpwynt i), ond mae trefn y p'nawn wedi dechrau troi arnaf erbyn hyn.

Does gen i ddim byd yn erbyn Eifion (Jonsi) Jones yn gyffredinol, ond mae tair awr ohono pob p'nawn yn ormod. Yn y boreau, cwta dwy awr dyni'n ei chael yng nghwmni Eleri Siôn a Dafydd Du, sioe sydd wedi bod yn chwa o awyr iach (yn fy mharn i), ac sy'n cynnig rhywfath o chwaeth cerddorol o leiaf! Gyda Jonsi dyni'n cael yr un un ganeuon Cymraeg (gan cynnwys stwff canu wlad Cymraeg amheus tu hwnt!), yn ogystal ag ambell i gân Saesneg o'r chwedegau neu at dant y cyflwynwr tybiwn i. Digon teg gallech chi ddweud, mae nhw'n targedu cynulleidfa 'pennodol' sy'n mwynhau y rheiny, ond mae tair awr yn ormod!   Gafodd cynulleidfa'r de-orllewin eu neilltio i bob pwrpas gyda diwedd eu rhaglen arbennig nhw am ran o'r prynhawn, a thueddiad Jonsi i fod yn eitha blwyfol ar adegau.

Wrth gwrs does dim pwynt cwyno heb fentro arghymell rhywbeth arall, ac mae'r ateb yn weddol syml o'r hyn a 'glywaf' i.  Pam lai rhannu'r p'nawn (hynny yw'r darn rhwng 2-5) unwaith eto?  Rhowch awr a hanner i Jonsi, ac wedyn rhywbeth ffresiach ac ifengach am weddill y p'nawn.

Mae 'na gyfle targedu cynulleidfa newydd yn ystod ail hanner y prynhawniau, gyda nifer o blant 'yn gaeth' mewn ceir eu rhieni, neu falle'n cyrraedd adre i glywed y radio yn y cefndir.  Beth am roi gynnig i un neu ddau o gyflwynwyr C2 wneud rhywbeth? Mi fasai rhywun fel Magi Dodd yn wneud jobyn dda mae'n siwr.   Ond mae un peth un sicr, dwi'n ffeindio fy hun yn diffodd y radio rhwng 2 a 5 yn gyfan gwbl yn amlach y dyddiau 'ma... fel dwedais,  pob parch iddo fo, ond mae tair awr o Jonsi yn ormod i finnau!  

4.4.10

Clirlun....

Ges i domen o bost ddoe (post go iawn!), gan cynnwys dau cyfrol Cymraeg, 'Barn' a 'Sgrîn'. Dwi'n hoffi Sgrîn. Mae gynno fo olwg 'da' (cynrychioliad o gyllideb S4C?), ac mae'n rhydd i ddarllen. Yn aml iawn mi fydd o'n codi fy niddordeb mewn ambell i raglen sydd ar weill S4C, neu fy atgoffa o un fy mod i wedi ei hesgeuluso neu anghofio amdani.

Erthygl wnaeth fy ymddiddori y tro 'ma oedd un o dan y teitl 'Clirlun'. Yn ôl y son, dyma enw gwasanaeth newydd 'manylder uchel' (HD) S4C, un sydd i fod yn dechrau rhywbryd yn ystod 2010. Mae gynnon ni gwpl o deleduon 'HD ready', ond dim modd ar hyn o bryd o dderbyn y signal. O'r hyn o'n i'n gwybod, roedd rhaid i rywun naill ai brynu 'kit' Freesat, neu arwyddo cytundeb â Sky a chael un o'u dysglau nhw (does gynno ni ddim 'cable' ar gael yn fan hyn). Ond darllenais yn 'Sgrîn' gei di dderbyn HD erbyn hyn trwy gwneud dim byd mwy na disodli dy flwch 'Freeview' presenol gyda blwch 'Freeview HD', hynny yw trwy eich eriel cyffredin. Mae 'na fodd chwilio eich cyfeiriad er mwyn gweld os oes gan dy ardal di dderbyniad digonol i gael lluniau HD eto, ac yn ôl y canlyniadau, mae pob dim yn iawn. Wedi dweud hynny, mae'r blychau Freeview HD yn eitha ddrud ar hyn o bryd (tua £165), felly na fydden ni'n gwylio HD neu 'Clirlun' am sbelan eto, ond mae'n diddorol beth bynnag.

3.4.10

Y Ras Cychod...

Ras 2009
Dwi heb gymryd fawr o sylw o'r Ras Cychod blynyddol rhwng Rhydychen a Chaergrawnt ers talwm a dweud y gwir, wel dim ond pan suddodd un o'r cychod un dro!  Ond eleni, gyda'r digwyddiad yn symud yn ôl i'w gatref naturiol (y BBC), dwi wedi bod yn llawer mwy ymwybodol o'r holl 'cyffro'.  Clywais hefyd son yn y cyfryngau Cymraeg am Gymro Gymraeg ymhlith criw Rhydychen, digwyddiad cymharol prin yn ôl y son.

Mae hanes y Cymro yng nghwch Rhydychen yn ddiddorol hefyd.  Mae Ben Myers yn 20 oed , ac y rhwyfwr ifengaf yn y dau cwch. Mae o'n dod o Lundain ond yn rhugl yn y Gymraeg am fod ei mam yn dod o Gastell Newydd Emlyn, a siaradodd o am y ras ar y Post Gyntaf y bore 'ma.   Mae o'n nai i'r beirdd o fri y 'Bois Parc Nest' sy'n cynnwys wrth gwrs, T. James Jones archdderwydd Cymru.

Os dwi'n adre felly y p'nawn 'ma - ac mae 'na siawns go iawn efo'r annwyd sydd gen i ar y funud - fydda i'n eistedd o flaen y teledu i'w wylio!

Gwyliais y ras y p'nawn 'ma, un gymharol cyffrous yn ôl y sylwebyddion.  Gafodd griw Rhydychen eu siomi yn y pen draw, gyda chriw Caergrawnt - ar ôl bod ar eu holau yn hanner cyntaf y ras - yn dod yn ôl yn gryf a rhwystro Rhydychen rhag gipio eu thrydedd ras yn olynol. 

2.4.10

Maen 'Thor'



Un o fy hoff lefydd yng Nghilgwri yw Cytir Thurstaston, ardal o rostiroedd a choedwigoedd, a harddwch naturiol sydd wedi ei gwarchod gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ers tua canrif erbyn hyn. Uchafbwynt taith i Thurstaston i ni fel plant oedd y cyfle i ddringo 'Thor's Stone', lwmpyn o dywodfaen sy'n codi o ganol pant yn y tirlun. Mae 'na straeon di-ri am hanes y graig hon,  rhai yn cysylltiedig gyda seremoniau creddfol y llychlynwyr a setlodd tua mil o flynyddoedd yn ôl.   Fel sawl genhedlaeth o'n blaenau, fe gerfiom ni ein enwau ar wyneb meddal y graig wrth ddringo i'w chopa, gan grafu arni gyda unrhywbeth oedd ar gael.

Dyna pam dewisiais gip ohoni fel cefndir i 'header' newydd y blog.  Dyma rhywbeth sy'n cynrychioli Cilgwri mewn ffordd, yn enwedig lliw y tywodfaen, sy'n rhedeg trwy'r penrhyn fel asgwrn cefn - onibai am yr haeni o dywodfaen, mae'n debyg mi fasai'r tir wedi ei grafu i ffwrdd yn gyfan gwbl gan yr oes yr iâ diweddaraf!  O liw y carreg mae'n bosib daeth enw Cymraeg y penrhyn hefyd:  'Cil-gwrid' gyda ystyr 'gwrid' yn cyfeirio efallai at gochni'r cerrig.    

1.4.10

Delwedd newydd...

Dwi wedi cael tipyn o hwyl yn chwarae efo rhai o'r templatau newydd sydd ar gael ar 'Blogger'. Dwn i ddim os dwi'n hoffi'r delwedd newydd eto, ond mae'n braf cael newid pob hyn a hyn 'tydi?