29.3.10

Tro Wyau'r Pasg Cilgwri....


rhai o'r beiciau yn pasio trwy West Kirby

Cynhalwyd y 'Wirral Egg Run' dydd sul, sef y gorymdaith blynyddol o feiciau modur sy'n cludo wyau Pasg at ysbytai lleol a chodi arian ar eu rhan. Mae'r peth wedi tyfu'n aruthrol dros y flynyddoedd gyda tua 10,000 o feiciau yn cymryd rhan rŵan,  wrth ddechrau yn New Brighton a dilyn taith o amgylch y penrhyn. Wedi profiad o gael fy nal ar ochr anghywir y dref ychydig o flynyddoedd yn ôl, mae'n pwysig cofio i beidio mentro i Morrisons ar fore yr 'Egg Run', gyda'r beiciau yn cymryd rhai dwy awr neu fwy i fynd heibio.

Dwi ddim yn 'feiciwr', ond mi es i lawr efo'r merch i wylio'r golygfa rhyfeddol yn ymlwybro trwy'r dre bore ddoe. Mi welsom ni bob math o feiciau modur, treics modur, hyd yn oed beic a 'side car hearst' (welais i ddim arch ynddi!).
Roedd yr 'engylion o uffern' i weld yn dod ymlaen di-drafferth â'r 'mods' yn eu plith, a'r reidwyr quads a hogiau'r mopeds ar eu niffty ffiffties. Roedd y tywydd yn hynod o braf a phawb mewn hwyliau dda, efo'r eglwys yn ymyl y lôn yn cynnig coffi am ddim i'r gwilwyr!

24.3.10

Caersaint....

Mi ddes i at ddiweddglo Caersaint heddiw, y llyfr Cymraeg hiraf i mi ddarllen hyd yn hyn (tua 370tud). Wnes i'w fwynhau rhaid i mi ddweud, ac er nad ydwi'n cyfarwydd â phob twll a chornel o Gaernarfon, welais luniau yn fy meddwl wrth darllen yn adlewyrchu'r darnau dwi yn eu cofio o ambell i drip i dre y cofis - neu'r saint fel maen nhw'n cael eu galw yn y llyfr.

Yr unig peth ges i dipyn o drafferth yn dod i arfer gyda fo - ar wahan i ambell i ddarn o dafodiaeth! - yw'r ffaith bod 'llais' y llyfr, sef llais y prif cymeriad Jaman Jones, yn llais gŵraidd, ond sgwennwyd y llyfr wrth cwrs gan ddynes. I ddechrau o'n i'n stryglo gwneud llais Jaman yn un ŵraidd yn fy mhen, ac yn y diwedd wnes i ail-dechrau'r llyfr er mwyn sicrhau hogyn oedd 'Jaman'! Wedi dweud hynny, mi ddes i'n cyfarwydd efo hynny yn y diwedd, wrth i'r stori mynd yn ei flaen, ac hefyd efo'r arddull o sgwennu. Rhaid dweud wnes i wir ei fwynhau, a chaiff rhywun blas arbennig o 'Gaersaint' a syniad o gymeriad y dref a rhai o'i thrigolion efallai, er wrth cwrs gwaith ffuglen yw'r llyfr. Mewn gair: Ardderchog!

20.3.10

Colled....

Teimlais ryw siomedigaeth heddiw wrth ddarganfod bod un o'r blogiau Cymraeg hynaf gan ddysgwr wedi cael ei dileu oddi wrth y rhyngrwyd. Mae 'na sawl blog sydd heb eu cyffwrdd am fisoedd lawer mae'n siwr (mae gen i un neu ddau heb ei ychwanegu atynt am flynyddoedd!) ond mae dileu blog yn ei gyfanrwydd yn cymryd cryn ystyriaeth, ac yn weithrad mwy arwyddocaol na jysd tynnu ambell i bost.

Felly meddwl ro'n i am yr hyn dyni fel dysgwyr yn buddsoddi yn yr iaith 'ma? Mae 'na rai fel finnau sydd gyda dras Cymreig, ac sydd eisiau ail-cysylltu efo ochr yna ein bywydau, dewis digon syml a chyffredin am wn i. Mae 'na eraill sy'n byw yng Nghymru bellach, neu sydd wedi byw yna erioed, ac sydd eisiau darganfod mwy am eu gwlad eu hun o bosib, dewis digon gall dwedai lawer. Wedyn mae 'na rai sydd wedi newid eu bywydau yn gyfan gwbl er mwyn dysgu'r iaith 'ma, tra wneud aberthiadau sylweddol ar hyd y ffordd, yn arrianol a phersonol. Mae buddsoddiad y rhai yma yn bell o 'mhrofiad i, ac o ddealltwriaeth sawl sy'n eu hadnabod mae'n siwr - er mawr yw fy edmygedd tuag atynt.

Y mwy y mae rhywun yn buddsoddi, y mwy sydd gennynt i golli (nag i ennill) wrth rheswm. Mae'r ffaith bod gan rywun y dewrder i newid eu bywyd er mwyn dilyn trywydd penodol, yn dweud mwy amdanynt nag am yr hyn mae nhw wedi dewis dilyn - o bosib, onid ydy hap a damwain sy'n dod â ni'n i bethau ym mywyd?

O'r hyn a welaf, mae ambell i un o'r 'buddsoddwyr mawr' wedi llwyddo dysgu'r iaith yn eithriadol o dda, tra ychwanegu at amrywiaeth allbwn y wasg Cymraeg. Ond byd bach a chul ar brydiau yw'r byd Cymraeg, er mor bell mae'r Cymry wedi crwydro (falle oherwydd y culni?). A dyna pam buddiol iawn yw cyfraniad y rhai sy'n dod o bell i'r Gymraeg dwedwn i, pa bynnag ffordd sydd wedi dod â nhw yma. Y 'byd bach' clud 'ma yw'r peth sy'n dennu rhai ohoni at yr iaith falle.. darganfod cymuned sydd bellach ar goll yn y byd 24awr cyfoes - dwn i ddim?

Ond gweld eu heisiau nhw y bydd y gweddill ohonynt, wrth weld diflanniad un o'n 'cymuned' ni - beth bynnag yw gwir ystyr y colled 'ma yn y tymor hir..

19.3.10

Digon i Ddarllen

Wnes i dderbyn pecyn o lyfrau hanner prîs o 'Gwales' heddiw, gan cynnwys cwpl o gyfrolau o farddoniaeth a chwpl o nofelau, un gan Toni Bianchi a'r llall gan Meleri Wyn James. Mae gen i ddigon i gadw mi fynd am gwpl o fisoedd mae'n siwr ar ran darllen yn y Gymraeg.

Pan dwi wrthi'n son am ddarllen, ymunais â chlwb darllen Wedi 3 ddoe. Dwn i ddim be yn union yw'r trefn gyda'r Clwb, ond dwi'n meddwl mi fydd na rywfath o fforwm i drafod y llyfrau o restr fer 'Llyfr y Flwyddyn' sy'n cael ei cyhoeddi ym mhen mis, ac ambell i adolygiad ar y rhaglen, gawn ni weld!

Dwi wedi cyrraedd chwater olaf 'Caersaint' erbyn hyn, a gyda lwc wna i'w orffen dros y penwythnos. Mae edau'r stori'n dechrau dod ynghyd, ac er nofel digon swmpus ydy o, mae hi wedi bod yn ofnadwy o ddarllenadwy..

17.3.10

Week in Wythnos allan....

Clywais adroddiadau'r wythnos yma am raglen 'Week in Week out', oedd yn trafod sylwadau Christie Davies ynglŷn â dyfodol y Gymraeg. Yn ôl Mr Davies, creu 'Gaeltacht' Cymraeg - rhwle yn un o'r broydd Cymraeg sydd ar ôl - yw'r ffordd ymlaen, yn hytrach na chario ymlaen gyda pholisi presennol y cynulliad sef 'Cymru Dwyieithog'. Heddiw roedd ei sylwadau yn destun trafod ar raglen 'Taro'r Post', a ches i fy gorfodi i ymateb i'r hyn o'n i'n ei glywed.

Dwedais yn fy e-bost at y rhaglen does dim tystiolaeth i ddangos bod y 'gaeltacht' wedi bod yn lwyddiant ar ran gwarchod y Gwyddeleg. Yn hytrach mae 'na beryg i gynllun o'r fath yn troi pa le bynnag a ddewiswyd yn fath o 'amgueddfa iaith', ac maes o law yn 'fedd iaith' o bosib. Mewn gwirionedd does fawr o siawns o syniad o'r fath erioed yn gweld golau'r dydd beth bynnag , felly be' oedd y pwynt codi nyth cacwn fel hyn? Mae synnwyr cyffredin yn dweud bod yr iaith o dan fwy o bwysau nag erioed o'r blaen, am bentwr o resymau, ond er hynny mae 'na fwy o hunanhyder yng Nghymru ar ôl degawd a mwy o'r Cynulliad, a thrwy hynny (falle) mae 'na fwy o siawns i'r genedlaeth nesa gweld yr iaith fel rhywbeth gwerth ei chadw a defnyddio, ac yn perthnasol i Gymru gyfan i ryw radd

Wrth cwrs mae'r cadarnleoedd Cymraeg yn ofnadwy o bwysig i'r iaith, ond dwi ddim yn credu bod y Cynulliad wedi gwneud llawer i rwystro sawl pentre yn troi yn 'pentre penwythnos' llawn jetsgîs ac ail-cartrefi! Heb polisiau i hybu economîs y cymunedau gwledig Cymraeg eu hiaith, does dim fawr o obaith iddynt parhau fel cymunedau gweithredol o gwbl, heb son am gymunedau Cymraeg...

14.3.10

Gwlad y Môr.... Sealand

Ges i gopi ail-law yr wythnos yma o lyfr bach sy'n adrodd hanes y Dyfrdwy, sef 'History of the River Dee' gan awdur o Wrecsam Mike Griffiths. Dwi'n ceisio darganfod mwy am hanes 'Gwlad y Môr' ar hyn o bryd, hynny yw y darn o aber y Dyfrdwy a gafodd ei drawsnewid yn y deunawfed canrif.

Un beth diddorol wnes i ddarllen yn y llyfr oedd nad oedd y tir adenilledig i fod yn rhan o Gymru. O dan y cynllun gwreiddiol mi fasai'r sea-land - a greuwyd gan camlasu'r afon - wedi ei gynnwys yn Lloegr, gyda'r ffin yn symud i ddilyn cwrs newydd yr afon. Y rheswm am beidio â newid y ffin (yn ôl y llyfr) oedd oherwydd nifer o Gymry a gladdwyd o dan laid yr aber, wedi i'w llong suddo yna. Er mwyn parchu eu beddau mwdlyd a'u cadw ar dir Cymreig, fe arhosodd y ffin yn yr un fan. Yn ôl y son mae pant yn un o gaeau Sealand sy'n dynodi man gorffwys honedig y cyrff, ond mae'n stori dda beth bynnag.

9.3.10

Caersaint...

Dwi wedi fy machu erbyn hyn gan hynt a helynt cymeriadau tref y 'saint', sef portread Angharad Price o'r dref lle mae hi'n byw ynddi - Caernarfon. Mae'n llyfr digon swmpus (360 o dudalennau), ond ar ôl i mi ddod i arfer efo'r dull ysgrifennu, a thafodiaeth y Cofi dre', mae'n digon hwylus i'w darllen. Wna i sgwennu mwy amdani ar ôl i mi gyrraedd y diwedd...... efo dros tri cant a hanner o dudalennau i'w darllen, gallai fod sbel eto!

6.3.10

Cwcw....

Dani'n cael ein bombardio ar hyn o bryd gan S4C gyda hysbysebion a threilars ar ran y ddrama CWCW, gyda'r rhan cyntaf ohoni'n cael ei ddangos nos yfory. Mae'n annodd i mi ffeindio'r amser weithiau i eistedd lawr a gwylio drama mewn unrhyw iaith, ond efo'r holl gwobrau a chlod mae Cwcw wedi ei derbyn hyd yn hyn mae'n rhaid i mi wneud yr ymdrech. Dwn i ddim os bydd yn cael ei darlledu efo isdeitlau ar y sgrîn, mae'n bosib gan ei bod hi wedi ei ddangos mewn gwyliau ffilm yn barod. Dwi ddim yn sicr sut i osod yr isdeitlau 'teletext' ar y sgrîn y dyddiau 'ma ers i'r newid i ddigidol, er mwyn i weddill y teulu ei mwynhau.

4.3.10

pethe...

Dwi newydd gwylio rhaglen celfyddydau newydd S4C o'r enw Pethe, a gyflwynwyd gan Rhun ap Iorwerth a Nia Roberts. Wnes i eitha fwynhau o a dweud y gwir, ac am fod hi'n 'ddiwrnod rhoi llyfr fel anrheg' (neu rhywbeth felly), canolbwyntiodd y rhaglen ar lyfrau, gan cynnwys nofel newydd sydd wedi derbyn cryn sylw'r wythnos yma sef 'Caersaint', un wnes i ddigwydd bod wedi archebu gan 'Gwales' yn gynharach yn y dydd. Ar ôl y rhaglen mi es i ar y wefan er mwyn ffeindio allan am y clwb llyfrau sy'n cysylltiedig â'r rhaglen. Mi fydda i'n cael cip ar y wefan pob hyn a hyn er mwyn gweld os mae 'na ragor o ddatblygiadau, neu gynnigion ar ran lyfrau...