30.6.11

Ymarfer Sgets..

Gaethon ni ymarfer yn y ty neithiwr gan groesawu Geraint ac Ernie i'r 'cast'.  Roedd o'n braf gweld pawb a chael siawns am sgwrs yn ogystal a gweithio ar ein 'campwaith eisteddfodol'!!  Erbyn hyn mae 'na wyth o'r dosbarthiadau nos yn chwarae 'dysgwyr' yn y sgets, yn ogystal a finnau'n chwarae rhan y 'tiwtor'.  O'r gorau, wn i fod ychydig o deipcastio'n mynd ymlaen yn fan hyn! 

Dani wedi ychwanegu cwpl o gymeriadau i'r sgets gwreiddiol, a berfformwyd am y tro cyntaf (wel yr unig tro hyd yn hyn) yn Eisteddfod y Dysgwyr y Gogledd Dwyrain eleni.  Mi fydd y perfformiad nesa, ac olaf mae'n debyg, ym Maes-D ar y pedwaredd o Awst am 12o'r gloch, a hynny heb y geiriau gobeithio.  Dani wedi trefnu un ymarfer arall cyn y ddiwrnod mawr, a hynny mewn tair wythnos, sef dim ond pythefnos cyn y steddfod. Mae pawb wedi addo bod yn 'airberffaith' erbyn hynny, felly gawn ni weld!   

26.6.11

cyfweliadau...

Cefais fy nghyfweld dydd mecher gan ohebydd y bbc, Rhian, ar ran cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.  Mi fydd Y Post Cyntaf yn darlledu pytiau gan y pedwar sydd yn y rownd terfynol wythnos cyn i'r Eisteddfod dwi'n credu, ac mae'r un ddefnydd yn debyg o gael ei defnyddio pe tasai raglenni newyddion eraill eisiau dyfyniadau ganddon ni.  Roedd angen i mi wneud yr un beth yn gyntaf yn y Gymraeg ac wedyn yn Saesneg, oedd a dweud y gwir yn annoddach mewn ffordd, gan mod i wedi ymarfer yn fy mhen sawl gwaith yr hyn o'n i eisiau dweud ond wrth reswm yn Gymraeg.   Diolch byth mi fyddan nhw'n gallu gwneud cryn olygu ar y darnau a recordwyd, mi fydd wir angen rhoi trefn arnynt!

Mae tocynnau ar gael erbyn hyn i noson y wobryo, sy'n gwneud i mi deimlo braidd yn nerfus, ac mi fydd rhaid i mi fynd amdani i archebu rhai i'r teulu.

23.6.11

Noson gyda Jerry Hunter

Dwi newydd dychweled o noson arbennig draw yn Yr Wyddgrug yng nghwmni yr Athro Jerry Hunter, darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor (ymhlith llawer o bethau eraill mae'n siwr).  Noson 'C Ciwb' oedd o, clwb cymdeithasu Cymraeg y dre, sy'n i weld yn mynd o nerth i nerth.  Mae un o ddosbarthiadau'r ardal wedi bod yn astudio un o lyfrau yr Americanwr, sef 'Gwenddydd', nofel wnaeth ennill  medal rhyddiaith yr Eisteddfod y llynedd.

Ni fasai neb yn ystyried Jerry Hunter yn ddysgwr wrth reswm. Mae o'n siarad Cymraeg cyfoethog a graenus, yn drwm erbyn hyn o dan ddylanwad tafodiaeth ei ardal mabwysiedig sef Dyffryn Nantlle. Mae'n chwater canrif bron ers iddo fo fynychu cwrs Wlpan dwys yn Llambed, a dim ond ambell i waith clywais fymryn o'r acen Americanaidd yn treiddio ei Gymraeg.

Gaethon ni ein diddanu am ddwy awr bron gan hanes ei fywyd - sut ddaeth hogyn o Cincinnati i fod yn ysgolhaig llenyddiaeth Cymraeg - ac ychydig o gefndir ei nofel buddugoliaethus, rhywbeth sydd yn sicr o'm sbarduno i ail-afael ynddi, ar ol i fy mhen cael ei droi gan lyfr arall cyn i mi roi siawns dda iddi.

Roedd 'na sesiwn holi ac ateb ar ol yr araith, a gaeth nifer o gwestiynau diddorol iawn eu gofyn a'u hateb. Felly noson hynod o lwyddianus, a ches i gyfle i gwrdd a nifer o hen ffrindiau dwi heb weld ers meitin.

12.6.11

dim yn bles gyda thre y traeth pleser....

Dwi ddim yn cofio'r tro diwethaf i mi fod yn Blackpool.  Gaethon ni wyliau teulu yn y cyffuniau pan o'n i'n plentyn, ond ers hynny dim ond unwaith ydwi'n cofio bod yna, a hynny ar ryw 'wibdaith tren dirgel' o Lerpwl, a alwodd mewn i'r dre enwog glan y mor.

Felly wrth drefnu trip yna'r wythnos yma, do'n i wir ddim yn gwybod be i ddisgwyl.  Dwi'n ddigon cyfarwydd á threfi glan y mor megis Llandudno ac Aberystwyth, ond do'n i ddim yn disgwyl i Blackpool bod mor fawr. Mae'n andros o le mawr, gyda'r 'anrhefn' o adeiladau blinedig y prom yn ymestyn am filltiroedd!  I fod yn deg, mae 'na dipyn o waith adnewyddu'n mynd ymlaen ar y funud, felly do'n i ddim yn gweld yr hen le yn ei ogoniant llawn efallai, ond teimlon ni'n isel ein ysbrydion wrth gerdded ar hyd y rhesi o arcades a llefydd 'adloniant' y North Shore.  Yn Blackpool does dim byd i dorri ar draws y diflastod yma (wel ar wahan i ambell i barti plu ar gylchdaith gwisg ffansi  o amgylch tafarndai'r dre!), dim gwyrddni, dim cefndir mynyddog i roi gwaith dyn mewn cyd-destun.  Roedd hyd yn oed y twr rydlyd - nodwedd enwocaf y lle - wedi ei gorchuddio wrth i waith adnewyddu cael ei wneud, ac o'r herwydd ar gau i ymwelwyr.

Er hynny, roedd gynnon ni fwriad i fynd i weld 'Madame Tussauds' a'i modeli cwyr byd enwog.  Cyn hir welon ni arwydd y 'waxworks' yn y pellter a chododd cyflymder ein camau yn reddfol er mwyn cyrraedd y nod.   Dydy o ddim yn rad i fynd i mewn (£42 i docyn teulu), ac nad oedden ni am 'arbed' arian trwy dalu am docyn i weld y 'Seaworld' ar yr un bryd, ond taliais heb oedi - a hynny er mwyn dianc diflastod y dre.  Gaethon ni ddim ein siomi diolch byth gan yr hyn a welson ni.  I ddechrau gaethon ni gyfle i eistedd ar fainc beirniaid yr X Factor, rhwng Louis a Simon - dychrynllyd o naturiol eu golwg - cyn symud ymlaen i weld sawl seren arall.  Ges i fy synnu nad oedd neb yn dy rwystro rhag cwffwrdd a'r delweddau, neu dynnu lluniau, er roedd pobl y 'gweithdai cwyr' yn tynnu lluniau eu hunan er mwyn dy demptio i wario mwy o bres ar swfenirs personol megis keyrings ar diwedd dy daith.

Mae angen trawsblaniad gwallt ar y dau ohonynt...
Ta waeth, ar ol pryd o fwyd Pizza Hut o dan gysgod 'The Big One', treulion ni hanner awr diddorol - a rhatach o lawer - yn 'Ripley's World of Weird' drws nesaf, rhywle hollol addas i hynodrwydd Blackpool ddwedwn i!  Ar ol dweud tata i bethau rhyfedd Mr Ripley, anelon ni at y safle tramiau dros y ffordd, a taith tram hamddenol a hyfryd ar y bwrdd top i ben arall y prom cyn croesi'r dre a dychweled at loches y car!

Rhywsut dwi ddim yn gweld fy hun yn dychweled i'r darn yma o Sir Caerhirfryn am chwater canrif arall, os byth.  O gymharu â Blackpool, mae rhai o drefi glan y mor y Gogledd yn teimlo fel nefoedd ar y ddaear!

9.6.11

Diwedd tymor, diwedd blwyddyn, diwedd cyrsiau...

Wel mae tymor olaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben, hynny yw ar ran fy nosbarthiadau nos.  Mae'n annodd credu ein bod ni wedi cael 30 wythnos o wersi ers i ni ddechrau yn ol ym mis medi.  Y tro yma mae gen i deimladau cymysg a dweud y gwir.  Mae'r dosbarth blwyddyn tri wedi dod i ddiwedd y daith, wel y taith ieithyddol sydd ar gael yn yr ysgol mod i'n dysgu ynnddi.  Does dim modd cynnig blwyddyn pedwar iddynt, er bod y rhan mwyaf yn awyddus i ddal ati.  Mae aelodau'r dosbarth hwn yn teimlo fel ffrindiau bellach, a dwi'n awyddus i gynnig rhywbeth, felly wnawn ni ymdrechu dod o hyd i rywle arall i gyfarfod a chario ymlaen mewn modd llai ffurfiol o bosib.  Gwiliwch y gofod yma!

Tymor nesaf mi fydda i'n arwain myfyrwyr blwyddyn dau trwy eu trydydd flwyddyn gobeithio, a chymryd dosbarth arall o ddechreuwyr, os wnaiff digon troi i fyny i gofrestru.  Er hynny, mae 'na deimlad o ansicrwydd ar led yn gyffredinol ymhlith y tiwtoriaid, gan bod yr ysgol wedi troi'n 'academi', ac fel pob ysgol yn Lloegr bellach does dim rhaid iddynt cynnhig arbenigeddau er mwyn ennill arian ychwanegol.  Mae hyn yn golygu does gynnyn nhw ddim rheswm penodol, neu ddyletswydd cynnig cymaint o ieithoedd, a dim ond y ffaith bod y prifathro (dioch byth) wedi penderfynu parhau cynnig dosbarthiadau nos (ar ol edrych ar 'spreadsheet' manwl!) sy'n cadw pethau'n rhedeg erbyn hyn,  gawn ni weld be ddaw!