tag:blogger.com,1999:blog-8823513.post7809718157808398435..comments2023-09-23T03:27:43.254-07:00Comments on Clecs Cilgwri: Bar uchel tu hwnt....Unknownnoreply@blogger.comBlogger3125tag:blogger.com,1999:blog-8823513.post-17655095458336592412009-08-06T23:50:14.237-07:002009-08-06T23:50:14.237-07:00Hi Neil, dyna'r pwynt y tu ôl i bob cystadleua...Hi Neil, dyna'r pwynt y tu ôl i bob cystadleuaeth , ac mae'n siŵr bod yr un peth yn digwydd mewn unrhyw pwnc. Ond wrth ystyried dysgu iaith fel y Gymraeg, hyder yw'r peth pwysicaf. Hebddo fo byddai yn anodd i wella, ond peth bregus yw hyder, wrth gwrs.

Mae gen i ddau ffrind a oedd yn cystadlu eleni a nid oedden nhw'n cyrraedd y rownd terfynol. Ar yr wyneb, mae'r ddau ohonynt yn ymddangos yn hollol iawn efo'r penderfyniad. Rhaid i mi eu gofyn pam wnaethon nhw gystadlu yn y lle cyntaf.

Ac mae gen i ffrind a gyrhaeddodd y rownd terfynol pum mlynedd yn ôl. Mae hi'n dysgu fel tiwtor rŵan ac roedd hi'n gallu symud ymlaen i fod yn llwyddiannus, ond am dipyn roedd ei hyder yn isel iawn.

Efallai, fi sy ar fai i feddwl fel hyn. Dw i ddim yn berson gystadleuol o gwbl, ac dw i'n hoffi gweld pawb bod yn llwyddiannus. Dwywaith ces i fy ngofyn i gystadlu, ac dw i wedi gwrthod dwywaith hefyd. Ar ôl cyfarfod â'r cystadleuwyr eleni, fyddwn i ddim wedi cael siawns o gwbl.

Ond ar ôl gweld wyneb yr enillwr ar y llwyfan ddoe, rhaid i mi ddweud, dw i'n gallu dychmygu'r teimlad o ennill y cystadleuaeth.Corndollyhttps://www.blogger.com/profile/02777480355109914956noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8823513.post-58843925020173783582009-08-06T16:44:40.665-07:002009-08-06T16:44:40.665-07:00Heia Ro, methais weld dy sylw cyn i mi sgwennu pwt...Heia Ro, methais weld dy sylw cyn i mi sgwennu pwt arall am y cystadleuaeth yma, sy'n bechod mewn ffordd, am fod i'n gweld dy bwynt ac yn cytuno i raddau.

Fel person wnaeth ymgeisio yn y cystadleuaeth dwy flynedd yn ôl (pam dwn i ddim! 'am y profiad' dwedais ar y pryd, ond methais cyrraedd y feinal beth bynnag), welais y cystedleuaeth fel uchelgais, rhywbeth i anelu ato fo. Ond ar ôl methu symud ymlaen, teimlais cwymp yn fy hyder am sbel.

Fel tiwtor a dysgwr y dyddiau 'ma, mi dylswn i weld y peth trwy llygaid dysgwyr heb ddigon o amser falle, neu ddiffyg hyder a chyfleoedd i ymarfer. Hynny yw pobl cyffredin, sy'n cymryd flynyddoedd o waith galed i gyrraedd safon terfynwyr cystadleutau o'r fath hon.

Ond wedi dweud hynny, ar ran cyhoeddusrwydd, falle mae'n defnyddiol rhoi llwyfan fel hynny i sêr y byd dysgu Cymraeg?neil wynhttps://www.blogger.com/profile/11823762650315041241noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8823513.post-86343173337882638102009-08-06T05:16:09.759-07:002009-08-06T05:16:09.759-07:00Roedd yn wych cyfarfod â ti o'r diwedd ddoe. ...Roedd yn wych cyfarfod â ti o'r diwedd ddoe. Gobeithio bydden ni'n gallu cyfarfod yn y dyfodol ac yn rhannu profiadau o dysgu'r hen iaith.

Dw i ddim yn hoffi'r cystadleuaeth 'Dysgwr y Flwyddyn' yn anffodus. Roeddwn i'n mwynhau siarad â nhw, ond yn fy marn i, dydy y cystadleuaeth ddim yn rhoi ysbrydoliaeth i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg. Dw i'n sôn am y pobl sy wedi bod yn dysgu dros y blynyddoedd heb fod yn rhugl, ac maen nhw'n gweld rhywun ar y teledu sy'n hollol rhugl ar ôl dwy neu dair flynedd.

Chwarae teg i bobl sy'n gallu gwneud hynny, ond dw i wedi gweld yr effaith negyddol mae hyn yn cael ar lawer o bobl. 'Pam ddylwn i gario ymlaen efo dysgu. Dylwn i fod wedi dysgu'r iaith erbyn hyn, does dim pwynt i mi barhau'

Ond fel dywedais i, dim ond fy marn yw hyn.Corndollyhttps://www.blogger.com/profile/02777480355109914956noreply@blogger.com