13.5.12

Methiant blogio... ond mwy o drydar!

Mae fy nhgyfraniad at fy mlogiau wedi bod yn brin iawn dros yr wythnosau diwetha. Mae'n debyg bod y byd trydar wedi cymryd mwy o fy sylw i fod yn onest, er esgus gwan ydy hynny, gan nad oes rhaid meddwl gormod am wneud ambell i dwît, ac mae'r rhan mwyaf yn diflannu heb derbyn unrhyw sylw mae'n siwr. Er hynny mae'n rhaid dweud bod y cyfrwng yna'n cynnig cyfleuoedd cyson i ddefnyddio'r Gymraeg, ac i weld yr iaith ar waith fel petai. Dwi wedi cael fy siomi ar yr ochr orau wrth weld cymaint o bobl yn cofleidio'r technoleg newydd trwy ddefnyddio'r 'hen' iaith, cyffrous iawn. Gewch chi ddilyn fy ffrwd trydar yn ngornel y tudalen 'ma gobeithio..

31.3.12

cwrs hyfforddi...

Er fy mod i wedi bod yn tiwtora ers ychydig o flynyddoedd bellach, a wedi mwynhau'n fawr iawn, dwi wastad wedi teimlo braidd yn chwithig am y ffaith nad oes gen i unrhywfath o gymhwyster dysgu. Braf felly oedd cael y cyfle i ddechrau ar gwrs hyfforddiant i diwtoriaid Cymraeg a drefnwyd gan Ganolfan y Gogledd 'Cymraeg i Oedolion', dydd Sadwrn diwitha. Dyma'r cam cyntaf ar drywydd sy'n arwain at gymhwyster dysgu Cymraeg i oedolion, rhywbeth fydd yn fy ngalluogi gweithio fel tiwtor dros y ffin yn Sir y Fflint a thu hwnt.

Lleoliad y diwrnod oedd Canolfan Gymraeg i Oedolion ym Mhangor, lle gaethon ni groeso gynnes a phaned cyn dechrau ar y gwaith caled. Roedd hi'n braf gweld cwpl o wynebau cyfarwydd o'r Wyddgrug ymhlith yr hugain o bobl ar y cwrs, ond fel arfer ffeindiais bawb yn gyfeillgar iawn ac roedd rhaid i ni gyflwyno ein hunain i bawb yn ystod y gweithgaredd cyntaf sef gwers Sbaeneg dwys awr o hyd. Dyna mewn gwirionedd oedd her mwya' y ddiwrnod (er mi fydd 'na heriau llawer mwyaf i ddod mae'n siwr), ond i eistedd yna fel dysgwr mewn dosbarth iaith unwaith eto yn profiad gwerthchweil ar ôl ychydig o flynyddoedd o diwtora. Gafodd wedill y ddiwrnod ei lenwi efo dysgu am y maes Cymraeg i Oedolion, yn bennaf, a lot o wybodaeth am y cyrsiau gwahanol sy'n cael eu cynnig dros y Gogledd, a chip ar wers gan Elwyn Hughes, awdur y cwrs Wlpan a phrif cyd-lynydd cyrsiau yn y Golgledd.

Yn ogystal â hyn dwi wedi cael y cyfle i arsylwi Eirain yn dysgu cwrs Wlpan yn yr Wyddgrug cwpl o weithiau dros yr wythnosau diwetha, sydd wedi bod yn brofiad gwych, er wn i mae gen i lot fawr i ddysgu!


25.3.12

Eisteddfod y Dysgwyr 2012

Mae'n *peth amser* ers i mi bostio rhywbeth ar y 'clecs', felly dyma adroddiad byr am Eisteddfod Y Dysgwyr y gogledd-ddwyrain eleni.
Tro Sir Ddinbych i groesawu dysgwyr y gogledd-ddwyrain oedd hi eleni, ac yn ngwesty yr Oriel House ger Llanelwy gafodd y digwyddiad ei gynnal.  
Roedd yr 'ystafell digwyddiadau' *dan ei sang*erbyn 7 o'r gloch, ond diolch i Mike, Anne, Nigel a Geraint roedd gynnon ni seddi. Gafodd Sue, fel finnau, ychydig o drafferth ar yr A550, ond ro'n i'n falch o weld pawb yna mewn da bryd. Yr unig problem efo'r ystafell oedd y PA, a gaethon ni drafferth clywed rhai o'r cystadleuwyr yn anffodus, ond erbyn ein tro ni i berfformio'r sgets roedden ni'n gwybod fasai'n rhaid i ni siarad yn uchel iawn. Roedd 'na nifer o sgetsys eleni (pedwar dwi'n credu) felly roedden ni'n teimlo o dan mwy o bwysau (efallai) nag yr oedden ni y llynedd. Mi aeth y perfformiad yn dda iawn, ac roedd ymateb y cynulleidfa'n wresog. Ar ol i ni ddychweled i'n seddi ni, gaethon ni siawns i fwynhau'r sgets olaf, perfformiad arbennig o dda am sesiwn blasu gwin gyda'r actorion yn 'meddwi' wrth i'r sgets mynd yn ei flaen. Ro'n i'n disgwyl i'r sgets yna ennill felly ges i fy synnu wrth glywed y canlyniadau nes ymlaen, da iawn i bawb! Nes ymlaen wnaethon ni'r parti adrodd, ac unwaith eto gaethon ni ymateb da wrth adrodd 'Bocsys Byrgyrs McDonalds' gan Geraint Løvgreen. Roedd rhaid i mi adael cyn clywed canlynaid y cystadleuaeth yna, ond, unwaith eto roedd yr noson yn llwyddianus iawn, lot o hwyl, a sbardun i lawer o weithgareddau Cymraeg.

(Roedd criw teledu o raglen 'Hwb' yn ffilmio ar y noson, felly gawn ni weld bach o'r cyffro ar raglen 6 o'r cyfres yna ym mhen ychydig o wythnosau.)

*peth amser - some time
*dan ei sang = llawn


2.3.12

app Blogger

Ww! dw i newydd dod o hyd i App Blogger! Dydy o ddim yn wych a dweud y gwir, a dim ond fersiwn i-
ffôn sydd gen i (sy'n edrych yn sal ar ipad) ond nad oes modd defnyddio Blogger ar borwr Safari felly mae'n well na dim byd:)

(postwyd efo app blogger)

1.3.12

Cadw at yr adduned... o drwch blewyn

Mi wnes i adduned yn ol ym mis Ionawr i ymdrechu darllen o leiaf un llyfr Cymraeg pob mis yn ystod 2012.
Wel diolch i'r flwyddyn naid dwi wedi llwyddo o drwch blewyn i gadw at y cynllun hyd yn hyn.

Gorffenais 'Yr Alarch Du' ar y 29ed o Chwefror, a hynny'r llyfr cyntaf i mi ddarllen ar yr ipad/gliniadur (defnyddiais ap Kindle, sy'n caniatau i chi cael copi ar sawl teclyn, tra syncroneiddio eich 'bookmarks' yn awtomatig).   Taswn i i fod yn hollol onest, wnes i ddim mwynhau'r profiad o e-ddarllen cymaint ag ro'n i'n disgwyl wneud, er mae 'na nifer o fanteision.   Dwi'n dal i fwynhau cael copi caled o lyfr yn fy nwylo, sy'n digon ffodus a dweud y gwir gan bod tennau iawn yw'r rhestr o e-lyfrau Cymraeg sydd ar gael hyd yn hyn.

Yr her darllen nesaf sydd gen i ydy darllen 'Yr Erlid' gan Heini Gruffudd, ac 'I Ble'r Aeth Haul Y Bore' gan y diweddar Eirug Wyn (gafodd ei chymeradwyo ar Drydar gan Glyn Wise wythnos diwetha!). Mae llyfr Heini Gruffudd yn go swmpus, felly fydd rhaid i mi fwrw ati o ddifri dwi'n meddwl!

19.2.12

Yr ydych chi yma

Des i o hyd i lyfr a sgwennwyd gan awdur o'r enw Gee Williams tra ail-drefnu'r ystafell sbar yr wythnos yma.  Mi wnaeth Jill cwrs ysgrifennu creadigol efo hi flynyddoedd maith yn ol.  Mae'r darn 'You are Here' yn son am ei hardal enedigol, sef Saltney, a dwi'n meddwl ei fod o'n ddarn arbennig o dda.  Ges i fy ysbrydoli wedyn i drio ei gyfiethu i'r Gymraeg... gobethio nad ydwi wedi ei ladd llenyddiaeth y darn wreiddiol...

Yr ydych chi yma
 

Seren wib o sir yw Sir y fflint. Digwyddodd, darfu, digwyddodd eto.  Does dim syndod na allai'r mwyafrif o bobl cyfeirio ati ar fap. Fe ges i fy ngheni ynddi, ond diflanodd cyn i mi adael yr ysgol, a llyncwyd gan arch-sir dros dro Clwyd. Wedyn, cwpl o flynyddoedd yn ol, ailymddangosodd, bach yn dreuliedig ar ei hymylon efallai, ychydig o bwysau yn llai, ond dim byd anweddus. Striben o dir main estynedig ar lannau'r Dyfrdwy ydy hi yn y bon. O ffosydd-carthu, gwartheg-rendro, badau-adeiladu Saltney (fy mhentref enedigol - dim ond y Mor Marw sy'n is yn nghramen y ddaear) trwy 'boeri-ar-eich-dwylo' Shotton, cemegolion y Fflint, hyd at tarts baentiedig bler Talacre a Phrestatyn. Mae'r ffordd yn eich ysgogi i gadw troed ar y sbardun rhywsut, nes cyrraedd y gwir Cymru, ei siopau cofroddion Celtaidd, poer penboethiaid defaid, a phob dim i'ch anghenion mynydda a gwersylla, a werthwyd i chi gan bar o therapyddion crisialau amgen. Rhaid bod hon yw'r unig sir ym Mhrydain sydd gan brifddinas (answyddogol) mewn gwlad ar wahan. A beth am yr acen! hunllef ffonolegol o syniau sedêt swydd Caer, lobsgows o lannau Mersi, a chefn gwlad Cymru. 

Mewn gwirionedd hardd yw ei choedlannau a chaeau, ei glynoedd a bryniau, a mewn ambell i achos yn dal eu thir. Nad yw ei phobl dim gwell dim gwaeth na neb arall, ond digwydd bod dyma'r rheiny dwi'n eu nabod.

(cyfieithiad o waith Gee Williams a gyhoeddwyd gan Wasg Gee yn 'Magic and Other Deceptions')

28.1.12

Hylo blog!

Wedi wythnos o boen cefn ac ambell i ymweliad i'r chiropractor, dwi ddim wedi cael llawer o awch i eistedd o flaen sgrin cyfrifiadur dweud y gwir.  ta waeth, well i mi treulio ychydig o funudau i sgwennu rhywbeth cyn i fis mynd heibio heb i mi ddiweddaru.

Dw i'n falch o weld bod y Saith Seren yn Wrecsam wedi agor ei drysau, a hynny cwta chwech mis ers i'r syniad cael ei codi.  Mae hynny'n anhygoel, ac er i mi beidio derbyn fy nghwahoddiad swyddogol (fel cyfrandaliadwr!) i'r agoriad p'nawn yma (fel gafodd ei addo i ni), dw i'n dymuno pob lwc i'r fenter ac yn edrych ymlaen at ymweled yn fuan iawn.
,
Dw i'n dal wrthi'n darllen, ac yn hanner ffordd trwy 'Yr Alarch Du' ar y funud, mewn ffurf e-lyfr hefyd.  Yr unig problem yw mae'n hynod o annodd cael digon o amser ar yr ipad er mwyn ei ddarllen, mae'r teclyn mor boblogaidd gyda gweddill y teulu.


Dw i'n dal i fod wrthi'n casglu strydoedd Cymreig y penrhyn hefyd ('fatha trainspotter y strydoedd!), a chasglais Radnor Ave a Mostyn Avenue tra alan y bore 'ma.  Wneith hi gymryd amser maith i gael nhw i gyd mae'n debyg!!

18.1.12

Hei-Ho a llyfrau eraill...

Wel dwi wedi dal at fy adduned y flwyddyn newydd am hanner mis o leiaf... er nad oedd yr adduned yn un andros o uchelgeisiol rhaid cyfadde.  Darllen o leiaf un llyfr Cymraeg pob mis am flwyddyn oedd y nod, ac mi lwyddais i orffen 'Pwll Ynfyd' mewn ychydig dros bythefnos.   Mae hyn yn argoeli'n dda, a llwyddais gorffen nofel Daniel Davies 'Hei-Ho' hefyd. 

Nofel 'thriller' ydy 'Pwll Ynfyd' dwedwn i, y cyntaf mewn trilogy am hynt a helynt cymeriad digon hoffus o Fangor uchaf, sef Oswyn Felix.  Mae diweddglo y llyfr yn 'gosod y golygfa' yn perffaith am yr un nesa, gyda Felix wedi gadael ei fywyd fel landlord tafarn, ac ar fin camu mewn i'r byd asiant pel-droed. 

Edrychaf ymlaen!

Yr her nesa o ran llyfrau Cymraeg ydy 'Yr Alarch Du', llyfr dwi newydd lawrlwyddo o safle Amazon, ac un o'r ychydig rhai Cymraeg sydd ar gael yn ddigidol hyd yma. Dwi am weld sut hwyl ga i ei ddarllen ar yr ipad.

13.1.12

meddyliau mis Ionawr........

 'Blwyddyn Newydd Dda i Chwi oll', (fel a glywais Megan Lloyd George yn dweud ar raglen ardderchog Ffion access all areas Hague am Gymraesau o ddylanwad mawr sef Mamwlad).  Dwi heb cael llawer o amser i feddwl am flogio a dweud y gwir ers ddechrau 2012, yn enwedig efo'r wythnos gweithio yn dechrau'n syth bin ar ol dathlaidau y calan.   Ro'n i'n dysgu ar y 3ydd o Ionawr, oedd mewn gwirionedd yn rhy gynnar i lot o bobl, ond wnes i weld gwyneb newydd y noson honno, aelod gwerthfawr arall i'r dosbarth Mynediad.

Un o'r llyfrau ges i fel anrheg Nadolig sydd wedi bod yn cadw fi'n brysur dros yr wythnos yma.  Mae 'Pwll Ynfyd', llyfr cyntaf Alun Cob (sy'n cyn weithiwr yn Recordiau Cob, Bangor!), yn dilyn hynt a helynt prif gymeriad Oswyn Felix, landlord Y Penrhyn, Bangor Uchaf, wrth iddo fo cael ei sugno mewn i fyd treisgar a dirgel gangiau yr ardal (ia, Bangor gogledd Cymru... lle peryg iawn!!).  A dweud y gwir dw i wirioneddol yn ei fwynhau, a ddim isio cyrraedd diweddglo'r stori (50 tudalennau i ffwrdd ar y funud).  Ond y newyddion da ydy nid diwedd y taith i Oswyn ydy'r llyfr hon, gan fod Alun Cob yn datgan ar glawr cefn y nofel mi fydd ei brif gymeriad yn ymddangos mewn dau lyfr arall.  Gobeithio na fydden ni'n disgwyl am yn hir i'r nesa cael ei gyhoeddi.

Un pwt arall o newyddion o ran pethau Cymraeg yn fy mywyd.  Ro'n i'n gobeithio mynd ar gwrs ym mis chwefror yn Nant Gwrtheyrn (anrheg penblwydd arbennig ges i gan fy chwaer yn ol ym mis awst).  Yn anffodus mae'r Nant wedi ffonio i ddweud bod y cwrs wedi cael ei ganslo (oherwydd diffyg niferoedd), ond maen nhw wedi trosglwyddo fy archeb i gwrs debyg (Cwrs Hyfedredd) ym mis Mai.  Gobeithio mi fydd mwy o bobl yn barod i fentro i 'ben draw'r byd' yn y gwanwyn

29.12.11

teledu'r wy^l a ballu....

Blwyddyn Newydd Dda i bawb sy'n dilyn y blog 'ma.   Gobeithio gewch chi flwyddyn llewyrchus a hapus!

Dwi wedi gwneud un adduned bach, a hynny i ymdrechu darllen un llyfr Cymraeg pob mis dros y deuddeg fis nesa, felly gawn ni weld am ba hyd wneith hynny parhau.

Mae'r flwyddyn diwetha wedi bod yn un mawr mewn gwirionedd (a drud!), gyda Jill a finnau'n dathlu penblwyddi 'mawr', yn ogystal a dathlu penblwydd priodas arian hefyd.  Mae'r tri ffigwr yn wneud cyfanswm o 125 mlynedd, wna i adael i chi wneud y 'syms'!!

O ran fy astudiaethau Cymraeg, dwi'n edrych ymlaen at gwrs ysgrifennu creadigol yn Nhy Pendre ym mis ionawr gyda Aled Lewis Evans, yn ogystal a mynd i Nant Gwrtheyrn ar gwrs 'hyfrededd' ym mis chwefror (gobeithio! - hynny yw os mae digon wedi cofrestru i gynnal y cwrs), neu efallai yn y gwanwyn.

Rhaid i mi ddweud mod i wedi mwynhau yn fawr iawn nifer o raglenni S4C dros cyfnod y nadolig.
Nad ydw i'n ffan mawr o sioeau 'adloniant' y sianel fel y cyfriw, hynny yw pethau fel 'Noson Lawen', neu sioeau 'Rhydian' ac 'OMA'.  Maen nhw'n ymweld i mi braidd yn 'ailradd' o gymharu i sioeau Saesneg yn yr un genre,  ond dwi'n derbyn bod 'na gynulleidfa yn barod i'w gwylio.
 Son ydwi am bethau fel 'Orig', y ffilm am Richard Burton, a'r ffilm ardderchog am brofiad Richard Harrington yn chwarae rhan Burton.  Mae ein sianel Cymraeg annwyl ni'n yn gallu wneud rhai pethau cystal ag unrhyw sianel.   Mae hyd yn oed 'Pryd o Ser Dudley' wedi bod yn 'wyliadwy' iawn, gyda golygu a chynhyrchu crefftus a chriw o 'selebs' digon dymunol,  Da iawn S4C.

Mae'r ipad wedi bod yn chwyldroadol a dweud y gwir yn y ffordd mod i'n gwylio'r sianel gyda 'app' S4Clic yn gynnig ffordd syml a dibynadwy o ddal i fyny efo cynhyrch y sianel unrhywle yn y ty, hyd yn oed y ty bach!!

hwyl am y tro...

28.12.11

'Strydoedd Cymreig' Cilgwri...

Mae strydoedd Cymreig Lerpwl yn y Dingle, 'The Welsh Streets', wedi cael cryn dipyn o sylw yn ddiweddar (yn bennaf oherwydd cysylltiad y Beatles) wrth i Gyngor Lerpwl cynllunio i ail-datblygu'r ardal. Gaeth lot fawr o dai ochr yma i'r Mersi eu hadeiladu gan Gymry hefyd wrth gwrs, felly meddwl roeddwn i un diwrnod - wrth yrru heibio i Mona St - faint o 'strydoedd Cymreig' sydd yng Nghilgwri?

Un o strydoedd Cymreig Penbedw
Digwydd bod mae 'na restr hirfaith o strydoedd y penrhyn ar gael ar y we, felly wnes i ddechrau pori trwyddo fo (peth trist i wneud dwi'n gwybod!), a hyd yma dwi wedi ffeindio tua 80! siwr o fod mae 'na ragor.

Ges i syniad wedyn, i dynnu llun ohonyn nhw i gyd a gwneud rhywfath o lun 'montage'... dwi'n gwybod bod hyn yn swnio braidd yn obsesif, ond sdim ots, y bwriad ydy i fynd ar daith beicio a thynnu ychydig o luniau pob wythnos neu pythefnos ella, neu dynnu llun os dwi'n digwydd bod yn pasio, gawn ni weld!
Yr unig 'stryd Cymreig' dwi wedi darganfod yn West Kirby hyd yma

Os dachi'n gallu helpu trwy dynnu llun o arwydd stryd Cymreig yng Nghilgwri a'i e-bostio ataf, faswn i'n ddiolchgar iawn!



21.12.11

Damcaniaeth ar chwal...

Ges i neges diddorol yr wythnos yma gan aelod o fy nosbarth nos yn dweud ei fod yn gallu esbonio  'cyfrinach' y capel ym Mhenbedw.  Fel perianydd sifil mae o'n cyfarwydd â'r arwydd sydd wedi ei gerfio ar bostyn giât yr hen gapel briciau cochion, a dim byd i wneud efo'r Orsedd ydy o, ond yn hytrach 'benchmark' yr Arolwg Ordanans, sy'n dynodi uchder lleoliadau dros lefel y mor!!  Nad ydy'r symbolau yma'n cael eu defnyddio bellach, ond mae 'na gofnod o'r un yma yn cael ei gwirio gan yr OS  1961.

Er hynny, a diolch i ymchwil Gary, dwi'n gallu cadarnhau y buodd capel Claughton Rd yn gapel Cymraeg cyn i'r eglwys presennol (Emmanuel) cymryd drosodd yn 1918.  Ar fap OS o 1911 mae'n ei alw'r adeilad 'Free Ch. (Welsh)', ond erbyn 1936 mae'r map yn cofnodi bod enwad yr adeilad wedi newid.  Dwn i ddim faint o enwadau 'rhydd' a fodolodd canrif yn ol, ond buodd capel yr Annibynwyr llai na hanner milltir o Claughton Rd yn dyddio yn ol i 1844, a chapel mawr y Presbyteriaid yn Parkfield dim ond rownd y cornel.  Mae'n bosib felly capel y Methodiastiad Weslyaidd oedd o? ond rhaid wneud mwy o ymchwil,  neu ofyn i Dr D. Ben Rees wrth gwrs!

17.12.11

scribl am scrabl....

Mae'n peth amser ers i mi bostio ar y blog yma, er i mi sgwennu ambell i beth a'u cadw fel drafft.  Dwn i ddim pam, ond ella mod i wedi bod yn ceisio sgwennu traethawd yn hytrach na jysd rhoi pethau bach ymlaen (sy'n syniad gwell tybiwn i!).  Ta waeth, ella mi dria i orffen ambell i un o'r drafts rhywdro, gawn ni weld.

Dros yr wythnos yma dwi wedi bod yn brysur trio gorffen cwpl o jobsys cyn y dolig, ac hefyd dysgu fy nosbarthiadau nos olaf y flwyddyn. Sgwennais i bwt ar Ddysgwyr Cilgwri am y rheiny.

Ges i fy ngem cyntaf o Scrabble Cymraeg hefyd, hynny yw fersiwn ar-lein ohono, sydd ar gael i ddefnyddio am ddim ar wefan www.wabble.org   

Diolch i Ro am y gem, ac er i ni gael ambell i anhawster technolegol, gaethon ni hwyl dwi'n credu, a ddysgais i nifer o eiriau newydd.   Dwi am ei drio fo eto cyn hir ( a Ro hefyd gobeithio), ond mae 'na le i bedwar o amgylch bwrdd Scrabl cofiwch!  a fasai hynny'n rhoi mwy o amser i ni feddwl am y gair nesaf hefyd! 

Dwn i ddim os problemau'r meddalwedd oedd gwraidd ein anhawsterau wrth chwarae, ond mae 'na fodd rhoi adborth i ddatblygwr y gem, felly gobeithio wneith pethau gwella dros amser.

17.11.11

Yn y Ty Hwn... a llyfrau eraill

Mi ges i fy ysgogi i ddarllen 'Yn y Ty Hwn' ar ol darllen sylwadau ffafriol iawn gan Junko

Ges i ddim fy siomi. Wna i ddim dweud gormod, dim ond ysgogi unrhywun arall i'w ddarllen.  Mae safon yr ysgrifennu yn ardderchog, ond rhaid i mi gyfadde (er mawr cywilydd) ni faswn i wedi dewis y llyfr heb ddarllen yr adolygiadau a sgwennwyd amdana fo.   Dyna'r trafferth o gael dy ddylanwadu yn ormodol gan glawr llyfr, weithiau wnei di ddarllen llond llyfr o rwtsh, a thro arall wnei di golli gampwaith.  Mae gan 'Yn y Ty Hwn' lun trawiadol ar ei glawr, ond un sy'n awgrymu dyfnder y stori tu mewn.  Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi codi ofn arnaf yn y gorffenol, ond gobeithio fy mod i wedi dysgu gwers trwy beidio dilyn fy ngreddf arwynebol cyntaf.

Wn i fod Sian Northey wedi sgwennu i blant yn y gorffenol, ond credaf mai hwn yw ei nofel cyntaf  i oedolion.  Gobeithio'n wir ga i gyfle i ddarllen rhywbeth arall ganddi cyn bo hir.

Fy her nesaf o ran darllen yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, sef 'Tair Rheol Anrhefn' gan Daniel Davies.  Dyma lyfr hollol wahanol, llawer hirach, ond un dwi wirioneddol yn mwynhau hefyd.  Stori ditectif ydy o mewn ffordd, gyda'r holl ddigwyddiadau yn dilyn llwybr arfordir sir Benfro. 

Dwi'n agoshau diweddglo'r hanes erbyn hyn, ac yn ystyried be i ddarllen nesa, a beth i roi ar fy rhestr Nadolig hefyd.  Mae gen i 'Stori Saunders Lewis, Bardd y Chwyldro yng Nghymru'  i bori yn y cyfamser.

11.11.11

Cyfrinach y Capel...

Capel Claughton Rd 2011
Yn nghanol Penbedw mae 'na gapel briciau cochion sy'n dangos cliw i'w hanes efallai ar un o byst y giât blaen.   Dwi'n cofio ffrind yn gwneud bach o waith yna cwpl o flynyddoedd yn ol, ac yn crybwyll bod y gweinidog wedi dweud wrtho bu'r adeilad capel Cymraeg ers talwm.  Dyna pam felly yr wythnos diwetha cymerais funud neu ddau i graffu ar yr adeilad fictoriaidd yn chwilio am gliwiau i'w hanes.   Welais i ddim byd amlwg fel 'maen dyddiad', ond wrth i mi feddwl am roi'r gorau i fy nghraffu, sylwais ar arwydd aneglur ond cyfarwydd a guddiodd ar un o byst tywodfaen y llidiart.  Symbol 'Yr Awen' ydy hyn wrth gwrs, rhywbeth a gysylltiwyd â Gorsedd y Beirdd, ac arwydd efallai bod rhyw ddigwyddiad neu gyfarfod wedi ei gynnal yn y fan hyn, ond arwydd o gysylltiad Cymraeg.
yr arwydd ar y postyn





Dwi ddim wedi llwyddo dod o hyd i unrhyw gwybodaeth am hynny eto, sy ddim yn syndod efallai, gan bod yn ol gwefan yr eglwys presennol symudon nhw i mewn yn 1917.  Adeiladwyd y capel yn 1881 dwi'n credu.  Mi ymwelodd yr Orsedd Penbedw ym 1917 wrth gwrs, blwyddyn Eisteddfod y Gadair Ddu ym mharc y dre wrth gwrs.  Buon nhw yna cyn hynny efallai, pan cynhalwyd Eisteddfod Genedlaethol 'answyddogol' yn y dre ym 1879.   Mae 'na fap OS ar gael o'r dref yn 1909, felly mae'n bosib fasai hwnnw dangos enwadau y capeli, dwn i ddim, ond ga i gipolwg arno fo y tro nesa i mi fod yn Waterstones ella,

3.11.11

Llên benywaidd...?

Dwi newydd gorffen 'Mr Perffaith' gan Joanna Davies , llyfr digon ysgafn a dweud y gwir, ac
un a gafodd ei sgwennu fel rhywbeth i ddarllen ar y traeth, ella.   Welais rywun yn ei ddisgrifio fel darn o 'chic lit', ond gefais cryn fwynhad wrth ei ddarllen.. ella mae hynny'n dweud rhywbeth amdana i, dwn i ddim!

Y peth nesaf mi fydda i'n ei ddarllen yw 'Yn y Ty Hwn', gan Sian Northey.  Dwi wedi darllen adolygiadau ffafriol amdano, ac yn edrych ymlaen at her darllen tra wahanol.

29.10.11

dau adeilad, dau hanes....

Agorwyd 'Bethel' yn Heathfield Rd, Lerpwl ym 1927. Gafodd ei godi fel cartref newydd i gynulleifda Capel Webster Rd, ac efo lle i 750 o bobl.  Roedd hyn yn adeg llewyrchus iawn i Gymry Glannau Mersi, penllanw cymdeithas Cymraeg Lerpwl, a chyfnod a welodd ymweliad arall gan yr Eisteddfod Genedlaethol i ddinas Lerpwl (1929), a hynny'r tro olaf i'r Prifwyl gadael tir Cymru.

 'Bethel', Heathfield Rd. Lerpwl
Chwech mlynedd yn ddiweddarach (1933) agorwyd 'y Tudor' yn West Kirby, sinema a theatr efo lle i 1100 o bobl.  Buodd theatr fictorianaidd ar yr un safle o'r enw 'The Queens', ond codwyd y Tudor ar yr un safle ar ol iddo gael ei ddinistrio gan tân.  Cymysgedd nodweddiadol o bensaerniaeth Art Deco a 'Thuduraidd ffug' oedd y Tudor, a gafodd ei gynllunio mae'n debyg i adlewyrchu arddull adeiladau du a gwyn eraill West Kirby.


Y 'Tudor' yn y 1960au hwyr
Erbyn y chwedegau roedd cymdeithas Cymraeg Lerpwl ar ei lawr, gyda sawl capel yn cau eu drysau (neu uno gyda chapeli eraill) a chynulleidfaoedd y gweddill yn mynd yn hynach.  Ar ol y rhyfel roedd 'na ostyngiad sylweddol yn y nifer o Gymry Cymraeg yn symud i lannau Mersi, hynny yw'r rheiny oedd wedi cynnal y capeli dros ganrif a mwy.  Yn ogystal a hynny roedd yr iaith ei hunan yn brwydro i dal ei thir yng Nghymru, ac roedd capeli hyd yn oed yna yn stryffaglu yn sgil newid cymdeithasol enfawr.

Roedd cynulleidfaoedd sinemau ar eu lawr hefyd yn ystod y 60au (yn sgil newid cymdeithasol enfawr arall sef dyfodiad y teledu i bron pob cartref), ac mi gauwyd nifer mawr.  Dyna fuodd hanes y Tudor, a chyflwynwyd y ffilm olaf yn West Kirby ym 1965.  Ailagorodd am gyfnod fel neuadd Bingo cyn cael ei droi yn fwyty gyda thema ffilmiau o'r enw 'GoodTimes'.  Maes o law mi ddaeth ei gyfnod fel bwyty i ben, ac mi drodd yr adeilad yn 'arcade' siopa.  Aflwyddiant oedd y fenter honno, ond gafodd ei addasu i fod yn swyddfeydd i'r cyngor lleol.  Gadawodd y cyngor tua 7 mlynedd yn ol bellach, yn gadael i'r Tudor druan pydru yn y fan a'r lle.


 dymchwelwyr yn dechrau tynnu Bethel lawr (2011)
Erbyn y 90au mae'n ymddangos roedd 'Bethel' yn llawer rhy fawr i anghenion aelodaeth y capel.  Er mwyn i'r achos goroesi yn Lerpwl, roedd angen meddwl o ddifri am yr opsiynau, gan gynnwys gwerthu'r prif adeilad a defnyddio rhan arall o'r capel yn ei le.  Mae'n syndod efallai, ond nad oedd 'Bethel' yn adeilad rhestredig, er gwaethaf ymdrechion y 'Wavertree Society', sy'n brwydro cadw cymeriad pensaerniol yr ardal.  Buodd Bethel tirnod amlwg yn Wavertree am dros 80 mlynedd, ond methiant oedd yr ymdrechion i ddod o hyd i ddefnyddwyr arall.  Yn ol y ffigyrau dim ond rhai £60,000 o waith cynnal a chadw oedd angen arno, sydd ddim yn swm enfawr o ystyried faint ac oedran yr adeilad, sy'n wneud ei golled yn waeth rhywsut.   Dymchweliad felly oedd diwedd trist i un o symbol olaf Cymreictod Lerpwl, ond mi fydd achos 'Bethel' yn parhau mewn capel modern a lot llai sydd newydd cael ei agor ar ddarn o'r un safle.  Caiff gweddill y safle ei werthu a datblygu fel fflatiau yn ol pob son.


y 'Tudor' yn diflanu yr wythnos yma,
ond wnaiff y facade goroesi o leiaf

Draw yn West Kirby roedd cwmni Aldi wedi bod yn llygadu safle'r Tudor.  Wnaethpwyd cais i godi archfarchnad yno a chyhoeddwyd lluniau hardd o'u cynlluniau gan gynnwys facade Tuduraidd y Tudor fel prif fynedfa i'r siop arfaethedig.  Derbyniodd y cynllun croeso gwresog yn y bon, gan y cyngor a'r cyhoedd, ond erbyn i'r cais cynllunio cael eu cyflwyno doedd dim arwydd o'r hen sinema!   Yn wahanol i gapel Bethel, roedd y Tudur yn adeilad rhestredig, a mynodd y cyngor bod facade yr adeilad (o leiaf) yn cael ei gadw.  Er gwaethaf safiad Aldi bod archwiliad wedi darganfod gwendid strwythyrol yn facade y Tudur a fasai'n gwneud iddo fo yn rhy gostus i'w gadw,  mi fynnodd y cyngor eu bod nhw'n cadw at eu cynllun gwreiddiol. 
Dros yr wythnos diwetha maen nhw wedi bod wrthi'n ddymchwel y rhan mwyaf o'r Tudur, ond o leiaf mi fydd darn yn goroesi fel rhan o'r archfarchnad.  Ond mae'n siom efallai na lwyddodd yr awdurdodau yn Lerpwl cyrraedd y fath cyfaddawd.... 




22.10.11

Hwyl fawr Wooly....

Y gig go iawn cyntaf i mi fynychu erioed oedd yn y Liverpool Empire.  Does dim byd tebyg i'r profiad o glywed swn band roc yn perfformio am y tro cyntaf, a hynny mewn awyrgylch trydanol theatr dan ei sang.  Er nad oedd y band y roedden ni'n eu disgwyl yn un ffasiynol erbyn 1978 (os erioed!), roedd gan Barclay James Harvest dilyniant cadarn, ac roedd yr Empire wedi 'gwerthu allan' ar gyfer eu hymweliad blynyddol fel arfer.


Ro'n i wedi baglu dros gopi fy chwaer o 'Time Honoured Ghosts' (Polydor 1975) a dweud y gwir cwpl o flynyddoedd yn gynnharach, wrth bori trwy ei chasgliad o LP's, a ches i fy nenu yn syth gan lun trawiadol y clawr i (sy'n fy atgoffa i o dirlun Ddyffryn Clwyd),  a maes o law gan y casgliad o ganeuon bachog â harmoniau persain y band o Sir Caerhirfryn. Erbyn iddyn nhw recordio'r albym hon yn Los Angeles, roedden nhw wedi rhoi'r gorau i deithio a recordio efo cerddorfa llawn (cyfnod arbrofol a gofnodwyd ar eu halbyms cynnar i label 'prog rock' EMI 'Harvest').  Serch hynny roedd trefniadau 'cerddorfaol' yn amlwg o hyd ar ambell i drac, diolch i 'Melotrons' a Hammond Stuart 'Wooly' Wolstenholme, a'i gyfansoddiadau 'bugeiliol', pryddglwyfus.     Syndod felly oedd darganfod bod Wolstenholme, a nid un o'r brifleisydd, oedd 'personoliaeth' y band ar y llwyfan, a'r un a fasai'n llenwi'r bylchau rhwng y caneuon gyda ffraethineb annisgwyl.   Wnaethon ni adael y theatr y noson honno gyda syniau'r encore olaf yn atseinio yn ein glustiau, a blas am gigiau byw.  Dros y cwpl o flynyddoedd nesa mi welon ni nifer o 'fwystfilod prog roc' yn yr Empire, ond roedd eu hamser yn dirwyn i ben, ac roedd ton newydd yn brysur eu ysgubo i'r neilltu. 

Cododd 'wahaniaethau cerddorol' mewn sawl band, wrth iddyn nhw geisio (yn ofer gan amlaf) addasu.   Mae'n debyg roedd hyn yn ormod i'r hen Wooly, a gadawodd BJH tua '79 wrth i'r band newid cyfeiriad a dilyn llwyddiant masnachol ar y cyfandir.  Digwydd bod mi welais Wolstenholme (a'i Felotrons!) unwaith eto, ond y tro yma yn hyrwyddo albym 'solo' fel cefnogaeth i daith Judy Tzuke yn 1980,

Byddai fy ngwybodaeth am hanes Wooly wedi dod i ben yna a dweud y gwir, hynny yw onibai am wyrth y we!  Des i o hyd i weddill ei hanes yn ddamweiniol mewn ffordd tra googlo yn ddiweddar, ond hanes trist ydy o mae'n ddrwg gen i ddweud.

Nid oedd ei brosiect solo (Maestoso) yn llwyddiant masnachol, a dechreuodd Wooly yrfa newydd fel fferwmr organic, yn gyntaf yn Sir Caerhirfryn ac wedyn yng nghorllewin Cymru.  Roedd ei hen gyd-aelodau yn BJH wedi hercian ymlaen hebddo fo am ormod o flynyddoedd mae'n debyg, ar gefn llwyddiant masnachol yn yr Almaen, cyn chwalu o'r diwedd yn 1997.  Maes o law mi gododd ddwy fersiwn o'r band gyda enwau hurt o hirwyntog (e.e. Barclay James Harvest Through the Eyes of John Lees!) a datblygodd cryn chwerwder rhwng y dwy carfan. 

Mi dreuliodd Wolstenholme cyfnodau yn yr ysbyty yn dioddef iselder difrifol, er yn sgil tranc BJH mi gytunodd i ail-ymuno â John Lees a chwarae yn fersiwn yntau o'r band.  Ond doedd dim dianc rhag ei broblemau iselder, ac ym mis rhagfyr eleni, ar ol tynnu allan o daith arall efo Lees mi laddodd ei hunan.  Diwedd trist i un o gymeriadau tawelaf roc a rol, ond dyma deyrnged addas.  Heddwch i'w llwch..   



Noson Enoc Huws...

Mi aeth y noson Enoc Huws (rhan o Ŵyl Daniel Owen Yr Wyddgrug) yn dda dwi'n credu, efo nifer go lew o bobl yn gwasgu mewn i ystafell fyny'r grisiau ym Mar Gwin y Delyn. Roedd o'n braf gweld Ernie a Mark yna o'r dosbarthiadau nos, a chael cyfle am sgwrs efo ffrindiau eraill. Roedd Eirian wedi trefnu cwis gweledol, hynny ydy cyfres o luniau o bobl 'enwog' i ni i'w enwi, efo thema'n eu cysylltu nhw. Wnaethon ni un darn o Enoc Huws, ac wedyn un rownd o'r cwis, ac yn y blaen, nes cyrraedd diweddglo stori 'gafaelgar' Daniel Owen. Mi fasai wedi bod yn braf cael riff drymiau 'Eastenders' ar ddiwedd pob darn! Roedd 'na 'cyfieithu ar y pryd' ar gael yn ystod y cyflwyniad o Enoc Huws (sy'n annodd mewn rhannau i rai Cymry Cymraeg heb son am ddysgwyr) diolch i Rebecca o Fenter Iaith Sir Y Fflint, gwasanaeth amhrisiadwy i'r rhai di-gymraeg oedd yna. Rhywsut wnaeth ein tîm ni lwyddo i ennill y cwis! a'r bocs o siocledi blasus.. ond gaeth pawb rhannu'r siocledi dwi'n credu!!

Noson da.

13.10.11

Yr Wythnos hyd yn hyn...

Mae hi wedi bod wythnos andros o brysur hyd yn hyn, a prin ydwi wedi cael y cyfle i dreulio amser o flaen sgrin y gliniadur (roedd rhaid i mi siecio sillafiad!).   Y dyddiau yma rhaid cyfadde fy mod i'n treulio mwy o amser o flaen sgrin yr ipad ('tablediadur' ella?), teclyn  sydd wedi trawsnewid y ffordd ein bod ni (yn y ty yma beth bynnag) yn wneud pob math o bethau cyfrifiadurol.

Dwi newydd dechrau jobyn sylweddol yn y gwaith, sef 'astudfa', a fydd yn cael ei wneud o fasern (maple...?), yng nghanol archebu'r defnydd ydwi ar y funud, gan gynnwys y pren solet, veneered mdf, rhedwyr drors ac ati.

 Dydd mercher es i i'r Wyddgrug er mwyn ymarfer y cyflwyniad 'Enoc Huws' wnaethon ni (Criw Ty Pendre hynny yw) ym Maes-D yn ol ym mis Awst.  Mi fydden ni'n ei wneud y cyflwyniad unwaith eto, y tro yma ym 'Mar Gwin y Delyn' ar nos fercher.  Roedd yr ymarfer braidd yn fler, ond nad oedd y rhan mwyaf ohonon ni wedi edrych ar y darn ers dros dwy fis, felly ro'n i'n synnu dim.  Gawn ni siawns arall i ymarfer wythnos nesa, ond mi fydd popeth yn iawn ar y noson mae'n siwr!!
Mae'r noson wedi ei anelu at ddysgwyr, felly mi fydd 'na daflennau ar gael sy'n cynnwys cyfieithiad o'r darn ein bod ni'n cyflwyno, a cwis rhwng y darnau hefyd. Noson cymdeithasol felly.

Ar ol dysgu gyda'r nos dydd mercher, mi es i lawr i'r Lever Club yn Port Sunlight i'n 'sesiwn sgwrs' bach ni.  Unwaith eto roedd 'na griw da yno, ac mi aeth pethau'n dda dwi'n credu.  Mae pawb yn trio defnyddio cymaint o Gymraeg a phosib sy'n wych, a dwi'n mwynhau cael diod sydyn ymhlith ffrindiau, ar ol gorffen dysgu am yr wythnos. Na fydd 'na gyfarfod yr wythnos nesa gan mod i'n gwneud y peth Daniel Owen, ond gobeithio mi fydd un neu ddau o'r sesiwn sgwrs yn mentro draw i Sir y Fflint hefyd....