7.3.06
dadl arwyddion
Ges i wahodd (fel rhywun o dros y ffin) i siarad ar 'Taro'r Post' (nid ar y fainc) ar bwnc arwyddion dwyieithog. Rhai boi o'r RAC wedi dweud rhywbeth yn ol pob son am bobl yn cael eu drysu ganddyn nhw. Wel ffwrdd i chi i'r Swistir 'Mr RAC' er mwyn blasu arwyddion tairieithog, neu falle mae'n rhy peryglus i chi!! Os dychi ddim yn gallu ymdopi efo ambell arwydd dwyieithog, na ddylech chi bod ar y ffyrdd. Mae 'na elfen o bwynt go iawn wrth cwrs , dwi ddim yn deall pam does dim wahaniaith rhwng lliw neu ffont y dwy iaith. Dwi ddim yn golygu fel yn Iwerddon efo'r Gwyddeleg mewn rhywfath o ffont celtaidd hen ffasiwn, dwi'n son am cefndir lliw wahanol i'r rhan o'r arwydd sydd yn y Cymraeg neu Saesneg. Wedi dweud hynny, dwi ddim yn meddwl bod hi'n problem mawr ar rhan diogelwch, mae'r rhan mwya o ddamweiniau yn digwydd gan bod 'boy racers' yn gyrru rhy gyflym yn eu 'Vauxhall Novas' wedi eu 'gor-tiwnio' 'swn i'n meddwl! Meddyliwch am y 'ploncwrs' i gyd sy'n hedfan lawr y lon yn defnyddio'r ffon neu hyd yn oed tecstio. Siwr o fod mewn ychydig o flynyddoedd fydd pawb yn sbio ar y 'sattilite navigation' yn lle o'r ffyrdd beth bynnag! (oes 'na derm Cymraeg dros sat nat eto? beth am 'llywio lloeren'..) Dwi wedi dweud digon....
"llywio lloeren"
ReplyDeletegrĊµfi!
Mae llywio lloeren wedi ei ddefnyddio ers rhai blynyddoedd nawr, wedi ei fathu gan nifer o bobl yn annibynnol.. sy'n dangos ei fod yn drosiad naturiol, 'amlwg' falle :)
ReplyDeleteRhaid bod yn amlwg i finnau i feddwl amdanhi ;) neu falle mod i wedi ei clywed y term o'r blaen. Mi glywais 'nodyn bodyn' ar gan i gymru wythnos diwetha!
ReplyDelete'popty ping' yw enw gwych sy'n cael ei defnyddio bellach yn ein ty ni lle pawb (heblaw finnau) yn uniaith Saesneg!