Mae'n pump ar hugain wedi chwech, a dyma fi'n eistedd mewn ystafell dosbarth gwag, yn disgwyl i weld faint o'r dosbarth bydd yn dycheled ar ôl i'r 'wythnos blasu'! Pump munud yn ddiwedarach, roedd y dosbarth yn llawn a'r criw i gyd wedi dychweled (wel ar wahan i un wnath dweud wythnos diwetha am fod i ffwrdd heno) ac anadlais i'n rhwyddach o lawer. Dwi'n meddwl wnes i swydd gwell heno. Sticiais i i gynllun y gwers bron a bod, ac ar y cyfan roedd fy amseru'n gywir. Gawsom ni dipyn o hwyl dwi'n meddwl, yn enwedig pan sylwais i ar gynnwys un o'r 'dialogues' yn y cwrslyfr sy'n mynd rhywbeth fel:
'S'mae, John dw i, pwy dach chi?',
'Siôn dw i',
'Sut dach chi Siôn'
'Ofnadwy'
'Braf eich cyfarfod chi, Hwyl'.
Mi adawodd john fel 'ystlum allan o uffern' pan glywodd ymateb Siôn druan!
Mae'n pwysig ceisio cael tipyn o hwyl mewn dosbarth, ac mae pethau bach fel hynny'n gallu helpu torri'r rhew (rhaid ynddiheuro am cyfieithu holl diarhebion Saesneg!) rhwng aelodau'r dosbarth, ond ar y cyfan mewn dosbarth nos mae pawb yn dod ymlaen yn reit dda.
mae pethau bach fel hynny'n gallu helpu torri'r rhew (rhaid ynddiheuro am cyfieithu holl diarhebion Saesneg
ReplyDeleteOs caf fod mor hy - torri'r ias.
Priod-ddull (idiom) nid ddihareb (proverb)
Da iawn Neil. Rhaid pawb hoffi dy ddosbarth. Ella bod rhywun yn gwneud y sgwrs yn y cwrslyfr er mwyn torri'r ias.
ReplyDeleteDiolch Alwyn am y sylwadau defnyddiol.
ReplyDeleteFalle ti'n iawn Emma, mi weithiodd ta waeth!