Ces i gip sydyn ar wefan S4C i ddysgwyr heno, sydd wedi mynd trwy nifer o newidiadau ers i mi ymweled â'r safle'r rhai fisoedd yn ôl. Mae 'na bob math o ddefais defnyddiol i'r dysgwyr, yn cynnwys 'sioeau sleid' o gynnwhysion sawl rhaglen efo hanes y rhaglen wedi ei sgwennu fel 'narrative' ar waelod pob llun. Mi es i drwy cwpl o raglenni allan o'r cyfres newydd 'Y Dref Cymreig' yn y dull hon, yn meddwl 'Mi allwn i ddefnyddio rheiny yn y dosbarth nos'! Mae 'na fodd dewis lefelau gwahanol, a graffegau eitha gŵl i'ch helpu wneud y dewis cywir.
Dwi'n cofio ychydig o fisoedd yn ôl yn 'noson gwilwyr S4C' yn Lerpwl, wnath dynes o'r cwmni teledu'n crybwyll y gwasanaeth newydd, roedd adeg hynny dwi'n meddwl dim ar gael, ond chwarae teg iddyn nhw, mae nhw wedi 'danfon'r nwyddau' fel petai....
Falch dy fod ti'n eu hoffi. Dw i'n isdeitlydd i gwmni ACEN, a rhai o'm cydweithwyr sy'n gyfrifol am gynnwys gwefan Dysgwyr S4C.
ReplyDeleteMae gwefan dysgwyr S4C wedi bodoli ers sble, a tydw i heb gael cyfle i weld beth sy'n newydd ar y safle eto.
O fy mhrofiad prin i o ddysgu Cymraeg i oedolion yn y de ddwyrain, mae'n ymddangos mai prin iawn yw ymwybyddiaeth y tiwtoriaid o'r gwasanaeth er eu bod i gyd yn gyfarwydd a beth mae'r BBC yn gynnig (sy'n dda iawn hefyd).
Dw i'n mwynhau'r Dref Gymrieg (a'r Tŷ Cymreig a 4Wal) a heddwi dwi'n isdeitlo rhifyn y Dref gymreig am Ddinbych - mae'n agoriad llygaid.
Byddwn i ddiddordeb clywed am unrhyw adborth sydd gyda ti a dy fyfyrwyr am y wefan - da neu ddrwg.
Diddorol iawn Rhys. Dani'n defnyddio'r wefan 'Big Welsh Challenge' yn aml iawn yn y dosbarth. Mae'r clipiau fideo gyda dewis rhwng 'swigod siarad'(?) neu isdeitlau Cymraeg a Saeneg yn ardderchog, a dwi'n gwybod bod nifer o'r dysgwyr yn eu defnyddio nhw adre. Wna i sgwennu am yr ymateb i'r stwff acen yn fa'ma siwr o fod maes o law..
ReplyDelete