Mi glywais awdur llyfr newydd 'Across the Park' yn siarad y bore 'ma ar raglen pêl-droed 'Ar y Marc'. Mae ei lyfr o'n dilyn y cysylltiadau rhwng clybiau pêldroed dinas Lerpwl sef Everton a Lerpwl, y dau clwb yn sefyll wrth ymyl Parc Stanley. Peter Lupson ydy ewn yr awdur a siaradodd Gymraeg clir a chywir, er nad oedd on swnio cweit fel brodor o Gymru. Cyn diwedd y cyfweliad mi holodd Dylan Jones am y ffaith ei fod o'n siarad Cymraeg. Mi ddwedodd fod ei wraig yn Gymraes Cymraeg o Fynydd Llandegai ger Fangor, ac mi ddysgodd y Gymraeg er mwyn siarad a'u teulu hi.
Nes ymlaen wnes i ei 'ooglo', a des i o hyd i fwy o wybodaeth amdanaf. Gafodd ei eni yn Awstria cyn symud i Loegr fel hogyn fach, mae o'n gweithio fel athro Saesneg mewn ysgol preifat dim ond cwpl o filltiroedd o fan'ma yn Hoylake, ac mae o'n byw yng Nghilgwri hefyd. Mae o wedi sgwennu llyfrau ar gyfer dysgwyr o'r Almaeneg a Ffrangeg, felly mae o'n dipyn o ieithydd. Ar ôl wneud yr ymchwil ar y we, ro'n i yn ein siop lyfrau lleol a welais i boster yn hysbysebu 'darlith' ganddo fo yn y siop am ei lyfr newydd. Mi faswn i wedi hoffi mynd, ond yn anffodus mae'n digwydd ar yr un noson ag fy nhosbarth nos, a mi fasai hi'n dynn iawn i gyraedd y dosbarth mewn pryd. Weithiau dach chi'n darganfod bobl sy'n siarad yr iaith 'ma yn hollol annisgwyl, sy'n wastad yn teimlad braf.
Diawch, stori ddifyr.
ReplyDeleteEfallai edrychaf os oes modd gwrando ar y rhaglen eto ar i-player/gwefan C2. Efallai mod i wedi sôn ar y blog yma o'r blaen, ond bues i a thocyn tymor i Goodison Park am dri tymor ar ddechrau'r '90au.
Dwi'n cael y rhaglen fel podlediad hefyd, sy'n handi weithaiau os nad ydwi'n deffro mewn pryd!
ReplyDelete