
Dwi newydd cwplhau'r jobyn gyntaf i mi wneud yn y gweithdy newydd, hynny yw'r cadeiriau bach ar gyfer 'Stomp y Tegeingl'. Rhaid dweud ron i'n falch o fod yn ôl wrth fy mainc, a gweithiodd y peirianwaeth yn iawn, ar ôl i mi ddatgymalu nifer ohonynt er mwyn eu ysgafnhau ar gyfer y taith. Mae hi wedi bod yn gyfle defnyddiol hefyd i wneud ychydig o waith cynnal a chadw, rhywbeth hanfodol ar beiriannau sy ddim yn bell o gyrraedd eu penblwyddi pump ar hugain!
Maen nhw'n edrych yn reit dda! Ac mae Stomp yn swnio'n ddiddorol hefyd.
ReplyDeleteDiolch Emma, dwi'n falch o'n i'n gallu eu cwblhau mewn pryd!
ReplyDelete