Dwi'n ceisio darllen cymaint â phosib o flogiau eraill fy mod i'n eu dilyn, yn enwedig rheiny gan ddysgwyr eraill. Ond dros y cwpl o wythnosau diwetha dwi heb weld llawer o bostiau newydd yn ymddangos ar y rhai sydd ar y rhestr fer 'na, ar y dde --> ar wahan hynny yw i flog Junko sydd a rhywbeth i'n ymddiddori nifer o weithiau pob wythnos fel arfer :)
Wrth cwrs mae blogio'n rhywbeth anodd i wasgu mewn i'n bywydau brysur, a dwi'n yr un mor euog o esgeuluso'r blog hyn (ac eraill) o bryd i'w gilydd. Felly er mwyn gwneud mwy o gyfleuoedd i mi ddarllen blogiau eraill, dwi'n bwriadu ychwanegu at y rhestr yna, a thrwy hynny cynyddu y siawns i mi sylwi ar bostiau newydd fy nghyd-flogwyr! Dwi wedi dechrau efo Llais y Dderwent, blog dwi wedi darllen o'r blaen gan Jon o swydd Derby, ond un wnes i faglu drosti unwaith eto heno, tra crwydro trwy bostiau Junko ..diolch!
This comment has been removed by the author.
ReplyDeleteYdy, mae'r byd blogio Cymraeg wedi bod yn ddistaw'n ddiweddar ar wahân i rai gan bobl 'broffesiynol.' Dw i'n trio sgwennu fy mlog pryd bynnag bod 'na bynciau addas, ond faswn i ddim isio sgwennu am ein swperau ac am ffair wyddoniaeth yr ysgol eto fyth! (er mai 'pot luck' yn dal yn achlysur pwysig. ^^)
ReplyDeleteMae gen i ddiddordeb mawr yn dy ddosbarth Cymraeg di. Gobeithio y byddi di'n dal i sgwennu amdano fo.
Ti ddim yn dilyn y blogs gywir, siawns ;-)
ReplyDelete