Mae'n peth da gweld criw o bobl dechrau dod ymlaen a'u gilydd, fel welais yn y dosbarth yr heno 'ma. Roedd 'na gwpl o wynebau newydd yna heno i chwyddo'r dosbarth yn bellach (hyd at 19 dwi'n meddwl), a doeddwn i ddim wedi cael llawer o amser i ddarparu cynllun dosbarth, felly ro'n i braidd yn nerfus wrth cyraedd yr ysgol.
Yn gynnharach yn y dydd ro'n i'n helpu ffrind ffitio pâr o ddrysau ar eglwys lleol, jobyn roedd rhaid iddyn ni ei orffen mewn ddiwrnod, am nad oes modd gadael yr eglwys heb ddrysau ar glo neu ddi-wydr. Felly ffeindiais fy hun heb lawer o amser i fynd trwy fy mhethau Coleg cyn gadael.
Dweud y gwir, ni ddylswn i fod wedi poeni. Mi basiodd y gwers mewn chwinciad, ac yn y pendraw ro'n i'n strwglo gorffen cyn hanner wedi wyth. Mi anfonais y dosbarth ar daith o amgylch yr ystafell tua wyth o'r gloch, er mwyn dod o hyd i enwau eu cyd-dysgwyr a dweud 'sut dach chi'. Anghofiais pa mor hir gallai gweithgareddau o'r fath para! ond roedd hi'n braf clywed pawb yn gwneud eu gorau... ac yn mwynhau hefyd.
Gallai dosbarth o'r fath faint fod yn anodd ei ddysgu, ond wyt ti fel taset ti wedi dechrau'n dda.
ReplyDeleteMae dosbarth mwaf yn dod â mwy o gyfrifoldeb am wn i, ar ran ceisio gwneud y gorau gan pawb, er mae'n braf gweld dosbarth llawn:)
ReplyDelete