Son ydwi am 'Wirral Waters' y datblygiad anferth mae 'Peel Holdings' (perchnogion presennol yr hen 'Mersey Docks and Harbour Board', a datblygwyr Salford Quays) eisiau gwireddu yn ardal dociau Penbedw a Wallasey.
![]() |
un o nodweddion y dociau sy'n rhan o'r cynlluniau |
Mae'r cynllun yn ei gyfanrwydd yn debyg o gymryd o leiaf 30 o flynyddoedd i gwblhau, sy'n cynnig rheswm i fod yn amheus iawn am y lluniau cyfrifiadurol sydd i'w gweld ar eu gwefan lliwgar. Ond gyda'r caniatad cynllunio newydd ei basio, mae'n rhaid cymryd y peth o ddifri, gan fod lot o bobl wedi buddsoddi llawer o arian i gyrraedd y pwynt hyn. Wrth rheswm mi fydd rhaid i'r cyngor derbyn caniatad gan y llywodraeth am gynllun mor fawr (£4.5 biliwn erbyn hyn), ond gyda swyddi'n andros o brin yn yr ardal (un ddifreintiedig tu hwnt), mi fydd yr addewid o hyd at 20,000 o swyddi newydd (yn ystod y cyfnod o waith adeiladu am wn i) yn ddadl cryf yn ei blaid.
![]() |
Lerpwl o ddociau Cilgwri |
Dwi ddim yn sicr be dwi'n meddwl amdano fo a dweud y gwir. Dwi'n cofio'r dociau'n fwrlwm o weithgareddau (er ar eu lawr oeddent adeg hynny mae'n siwr), a hyd yn oed 'shunters' stem yn rhannu'r pontydd siglo a cheir Yn sicr mae 'na rannau helaeth o'r dociau sy'n dawel iawn y dyddiau 'ma, ac mae'n rhaid wneud rhywbeth gyda nhw. Ar y llaw arall mae 'na longiau yn dod trwyddyn nhw o hyd, ac mae 'na awyrgylch arbennig o'u hamgylch, rhywbeth a gollir yng nghynlluniau 'Peel Holdings'.
Mi fydd 'na lot o drafodaethau mae'n siwr cyn i'r dyddiad dechrau presennol (rhywbryd yn 2012), felly mi fydd hi'n cyfnod diddorol iawn yng Nghilgwri....
Helo na!
ReplyDeleteMae Golwg360.com gyda blog ar ei gwefan erbyn hyn ac rydym wedi gosod linc i’ch blog chi. A fyddech chi mor garedig i weithredu'r un gymwynas yn ôl? Mae’r wefan ei hun yn derbyn dros 70,000 o hits yr wythnos ac yn cyhoeddi rhwng 30 a 40 o straeon yn ddyddiol. Rydym yn diweddaru ein blog yn ddyddiol trwy roi sylw i wleidyddiaeth, materion cyfoes, chwaraeon, canlyniadau eisteddfodau, clipiau fideos, cartwns, digwyddiadau amrywiol ayyb.
Yn wir rydym yn annog pobl i gyfrannu tuag at ein blog, felly os ydych am ddweud eich dweud dyma’ch cyfle!
Yn ogystal â hyn fe fydd Golwg360.com yn edrych i roi sylw i flogs eraill yn y dyfodol trwy sgwennu pwt a chynnig linc i’r blog penodol.
Byddem yn ddiolchgar iawn petawn yn medru cydweithio yn y modd yma.
Cofion cynnes,
Golwg360.com
wna i'n siwr!
ReplyDelete