Dwi wedi ysgrifennu yma o'r blaen am y gôlgeidwad enwog, Leigh Richmond Roose, wnaeth chwarae dros Cymru a nifer o glybiau mawr yn ôl yn negawdau cynnar yr hugainfed canrif. Cefnder (wedi ei symud unwaith - once removed) fy Nhaid oedd o, ac yn ei ddydd un o wynebau mwyaf adnabyddus y byd chwaraeon ym Mhrydain Fawr.
Digwydd bod, yr wythnos 'ma, ges i e-bost gan fy Mam, yn fy ngyfeirio at y llun sydd ar dop y cofnod hon. Mae'n wych o lun sy'n dod oddi ar gerdyn sigaret, un a wnaeth gymar fy chwaer baglu drosti wrth chwilio ar y we am stwff i wneud ag Everton, ei glwb o, ac un o glybiau wnaeth L.R. Roose chwarae drostynt.
Ar yr un un ddiwrnod, dyma fi'n mynd ar wefan Golwg360 pan welais i stori am restr o'r deg chwaraewyr gorau gafodd Cymru erioed. 'na sy'n digwydd, achos pwy oedd ar dop y rhestr (mae'r rhestr yn dechrau efo rhif deg!), neb llai na L.R. Roose!