Ges i ddirwy parcio tua pythefnos yn ôl mewn maes parcio yng nghanol y Wyddgrug, tra wneud tipyn o siopa Nadolig. Doedd gen i ddim y newid cywir a chymerais i siawns a fod yn deg. Hugain o bunoedd oedd y ddirwy, ond chwarae teg, trwy dalu o fewn wythnos roedd modd arbed hanner y pres. Wrth rheswm, anghofiais yn llwyr i dalu o fewn y saith diwrnod, a neithiwr deffrais mewn pwll o chwys wedi cofio yng nghanol breuddwyd am ryw rheswm! (falle dwi'n gor-ddweud yr hanes, ond cofiais yn ystod yn nos ta beth).
Y bore 'ma felly, mi es i ati i dalu y cyfanswm llawn (£20) dros y we ar wefan Sir y Fflint, yn dewis wrth cwrs i ddilyn y 'trywydd' Cymraeg! Rhaid cyfadde roedd y profiad yn un ddigon hwylus (o ystyried o'n i'n talu pres a chael dim byd yn ôl!), a llwyddais wneud yr holl busnes yn y Gymraeg, yn ogystal a sylwi ar ambell i wall yng Nghymraeg y safle ('prowr' = 'porwr' mae'n siwr?).
Ond rhywbeth wnes i sylwi arno ar ddiwedd y proses (wrth cofnodi manylion yr anfoneb electronig wnaeth ymddangos fel prawf o'r taliad) oedd y rhif WW00000005. Dwi'n cymryd y WW yn cyfeirio at y ffaith mai anfoneb 'Welsh' oedd hi?.. sy'n awgrymu yr anfoneb a derbyniais oedd y pumed a gynhyrchwyd yn yr iaith yma... dwn i ddim? Gobeithio nad ydy hynny'n adlewyrchiad o'r tueddiad cyffredinol i'r Gymry Gymraeg peidio â dewis yr opsiynau Cymraeg pan mae 'na ddewis ar gael, ond tybiwn i dyma'r gwir amdani. Ond llongyfarchiadau beth bynnag i Gyngor Sir y Fflint am gynnig gwefan dwyieithog effeithiol a defnyddiol (ar ran talu biliau o leiaf)' ac un ein bod ni ochr yma o'r ffin yn gallu 'mwynhau'!