Yn ol ym 2007 pan cynhalwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug, penderfynais roi cynnig ar gystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn. Nid oedd fy nghais yn un lwyddianus y flwyddyn honno, a phrin ges i siawns i fwynhau'r profiad mewn gwirionedd oherwydd prinder amser ar y ddiwrnod. Teimlais braidd yn 'fflat' am sbel ar ol y profiad hwnnw, felly nad oeddwn i'n sicr am drio eto, ond yn y pendraw penderfynais roi un gynnig arall iddo, yn enwedig gyda'r steddfod yn dychweled i'r gogledd dwyrain, i'r dref lle ganwyd fy nhad!
Felly bore dydd Sadwrn dechreom ni ar y taith tri chwater awr i Wrecsam. Ar ol methu cael hyd i fynedfa Coleg Iâl a'i barcio am ddim, daliais £3 i barcio yn ymyl y pwll nofio, a darganfodom giât i'r coleg - ond un dan glo! Gyda amser fy nghyfweliad yn agoshau, penderfynom ddringo'r giât i gyrraedd derbyniad y Coleg oedd o fewn ein golwg ni. Nad oedd y tasg yma'n un hawdd i Jill, ond gyda cefnogaeth lleisiol rhai o staff y llyfrgell drws nesa (yn cael torriad sigarennau wrth y drws cefn) llwyddom gyrraedd y nod o fewn amser. Ar ol croeso cynnes gawsant ddigon o amser am baned sydyn, cyn i mi gael fy arwain draw i adeilad ar wahan, a'r cyfweliad ffurfiol. Teimlais aeth pethau'n o lew yn fan'na, er i mi barablu ymlaen am dros bum munud yn ddibaid fel ymateb i'r cwestiwn cyntaf. O fewn dim o'n i'n cael fy arwain yn ol at fynedfa'r coleg - ac i dorri'r sychder a fagwyd yn ystod y cyfweliad - cyn mynd i ffeindio Jill. Gefais fy hysbysu bod Jill yng nghanol 'sesiwn stori' oedd un o'r gweithgareddau a drefnwyd i lenwi'r dydd, felly ges i siawns i siarad efo Spencer Harris, dysgwr y flwyddyn 2001, a chefnogwr brwd ac arbennigwr ar Glwb Peldroed Wrecsam. Ar ol sgwrs efo rhai o'r cystadleuwyr eraill, penderfynom anelu at y dref am rywbeth i fwyta, ac am gip ar ddatblygiad siopa newydd Wrecsam 'Dol yr Eryrod' ('cwlwm tafod' o enw os welais i un erioed!).
Ar ol pryd o fwyd ysgafn ond blasus yn Pizza Express, dychwelom i'r coleg mewn amser i glywed diwedd sesiwn bingo a drefnwyd i'r cystadleuwyr a'u cefnogwyr. Cawsom sgwrs braf efo Sion Aled am seiclo yng Nghilgwri ymhlith pethau eraill, cyn gafodd pawb eu cyfeirio at y 'Rendevous', ystafell cyfforddus lle roedd sesiwn salsa ar fin ddechrau. Nad ydwi'n person gyda 'symudiadau' da, ond o dan yr amgylchiadau ro'n i'n ddigon hapus i gymryd rhan. Wrth reswm roedd popeth trwy gyfrwng y Gymraeg, felly derbyniodd Jill (a nifer eraill) eu gwers Salsa cyntaf tra wynebu her ychwanegol, ond gafodd pawb llawer o hwyl o dan hyfforddiant cadarn.
Cyn hir daeth yr hwyl salsaidd i ben, gan bod y beirniaid yn barod i ddatgan enwau'r pedwar yn y rownd derfynol. Clywson ni ganmoliaeth mawr am safon pob un o'r cystadleuwyr, ond gefais sioc mawr o glywed fy enw'n cael ei ddarllen, do'n i wir ddim wedi disgwyl mynd trwyddo. I fod yn onest dwi'n gweld fy hun fel 'cynrychiolydd' yn hytrach na 'chystadleuydd', un o bedwar/bedair (fi yw'r unig dyn!) sydd gan y fraint o fynd i'r Eisteddfod eleni i gynrychioli llwyddiant sawl dysgwr.
Dwn i ddim yn union be' i ddisgwyl ym mis Awst, ond edrychaf ymlaen!
Showing posts with label eisteddfod. Show all posts
Showing posts with label eisteddfod. Show all posts
18.5.11
11.8.08
Hardeep mewn diwylliant Cymraeg....
Mi glywais adolygiad raglen BBC2 am yr Eisteddfod ddoe, tra wrando ar sioe Radio Cymru Sian Thomas. Felly neithiwr mi es i ati i'w lawrlwytho a'i gwylio ar bbc i-player (gwasanaeth defnyddiol er andros o araf am ryw rheswm). Dwi'n hoff iawn o'r Albanwr 'Sikhaidd' Hardeep Singh, mae ganddo fo ardull sych, hamddenol, efo gallu i gymryd i 'mickey' o bethau mewn ffordd tyner, heb bod yn or-greulon megis sawl digrifwr.
Mi wnath o argraff drawiadol ar y 'Maes' mewn ei dwrban lliw 'pafilion', wrth iddo fo grwydro caeau Pontcanna yn siarad gyda eisteddfodwyr, wrth ei fodd yn ymarfer cyfarchion newydd ei dysgu gan Nia Parry. Mi wnath o ymdrech parchus i ynganu'r geiriau'n iawn, wrth siarad gyda amrywiaeth eang o bobl. Cryfder y sioe efallai (ar wahan i bresenoldeb Hardeep ei hun), oedd y nifer mawr o wynebau rhwngwladol gafodd Hardeep y cyfle i siarad gyda nhw, gan cynnwys Bryn Terfel, Connie Fisher, Cerys Maththews a Matthew Rhys, pobl mi gyfarchiodd Hardeep gyda gwres naturiol a diddordeb go-iawn. Ond pwysicach na'r pobl enwog oedd ar gael iddo fo, mi wnath o dynnu sylw at yr ieunctid, rhywbeth roedd yn amlycach eleni yn sgil y coroni o'r 'Baby Faced Bard', a gafodd Huw Stephens y cyfle i gyflwyno rhai o fandiau addawol o lwyfan Faes B.
Wnes i fwynhau'r sioe, un mi aeth allan dros Prydain Fawr ar BBC2. Mi gafodd Hardeep blas digon mawr ar ddigwyddiadau y brifwyl i wneud rhaglen deallus, doniol, sensatif, am sefydliad tydi'r rhan mwyaf ohonon ni ddim yn deall yn rhy dda.
Os wnaethoch chi ei fethu, ewch i bbc i-player lle mae'n ar gael am sbel i ddod, mae'n werth ei weld:
http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b00d18bm/

21.5.07
O Drelawnyd i Sandycroft...
Mae'n braf cael clywed bod ape^l Eisteddfod 07 yn Sir y Fflint wedi cyrraedd ei nod (tua £210,000 dwi'n credu) yn barod, ac hynny cwpl o fisoedd cyn agoriad y prifwyl. Pan ystyried y llwyddiant 'ma, mae'n pwysig i gofio hefyd dyni'n son am ardal lle gafodd 60% y poblogaeth eu geni tu allan i'r fro, y rhan mwyaf yn Lloegr. Heb tapio mewn i ryw gradd i'r di-Gymraeg (a dysgwyr wrth rheswm) yr ardal, mae'n bur debyg na fasai'r pwyllgor ape^l wedi llwyddo mor gyflym.
Yn son am y steddfod, mi ges i fy nheffro i lais cyfarwydd a y radio y bore 'ma, hynny yw boi o'r enw Carl Renshaw sy'n tarddu o Fagillt, dim ond ychydig o filltiroedd dros yr aber o fan'ma. Ro'n i'n arfer cwrdd a^ fo pan o'n i'n mynd i'r sesiynau sgwrs yn y Llonguchaf cwpl o flynyddoedd yn ol. Dysgodd o ei Gymraeg gan ei Nain a Thaid a hen bobl y pentre, sy'n golygu fod o'n siarad tafodiaeth go iawn yr ardal (prin iawn erbyn hyn). Hogyn glen iawn ydy o a dysgais i lawer ohono fo am sut i gadw y proses o ddysgu yn weddol syml. O'r hyn dwi'n credu mae criw o ddysgwyr yn y Llonguchaf (nid 'pun' bwriadol!) yn dal ati pob nos fawrdd efo Aled o Fenter Iaith. Roedd Carl ymhlith tua naw deg o bobl sydd wedi bod wrthi'n cerdded o amgylch Sir y Fflint, o Drelawnyd i Sandycroft a Chefn y Bedd i Fagillt, er mwyn codi pres i'r prifwyl ac ymwybodaeth amdanhi.

Subscribe to:
Posts (Atom)