Tydi pobl ddim yn teithio i Gymru er mwyn ail-llewni lliw haul nage? Mae'r tirlun ei hun yn sicrhau hinsawdd sy'n llai disgwyliadwy, ac yng gnhyffuniau Eryri mae'r effaith hon yn amlycach, a gei di brofi pedwar tymor mewn un ddiwrnod (fel a ganodd 'Crowded House' ers talwm). Roedden ni'n penderfynol o gyrraedd copa'r Wyddfa yn ystod yr wythnos felly wnes i gadw llygad ar ragolygon y tywydd efo Dereck Brockway (shmae!)ar BBC Wales pob nos. Yn ôl 'Degsy', mi fasai'r dydd mawrth yn well o lawer, ar ôl nifer o ddyddiau cawodlyd, a chwarae teg iddo fo, roedd o'n llygaid ei le, a deffrom ni i awyr las heb gwml uwch ein pennau.
Wrth chwilio am rywle i barcio yn Llanberis mi basiom ni rhes hir o ddarpar teithwyr Rheilffordd Yr Wyddfa yn ymlwybro fel neidr o amgylch yr orsaf, rhagolwg arall o dywydd braf. Wedi diweddu ym maes parcio'r Amgueddfa Lechi (yr unig le ro'n ni'n gallu ffindio efo llefydd gwag), mi ddechreuom ni ein 'ymosodiad' ar yr allt serth sy'n 'croesawu' heidiau o gerddwyr pob dydd. O fewn hanner milltir o'r dechrau, mae pawb yn cael eu temptio i orffwys ar feinciau gwahoddgar ystafelloedd te unigryw 'Pen y Ceunant'. Pwy a wyr, ond mae'n digon posib bod ambell i daith gor-uchelgeisiol wedi dod i ben yn fan hyn, wrth i fotel sydyn o gwrw Bragdy'r Miws Piws troi yn ddau. Ond nid iddyn ni, mi wthiom ni ymlaen nes bod y tarmac yn ildio i lôn cerrig, yn addas i gerddwyr, anifeiliaid ac ambell i feic 'quad' yn unig.
Mi ddoth golwg y caffi hanner ffordd i'n cysuro jysd mewn pryd (duwcs, mae hwn yn mynydd llawn cyfleusterau!) gyda ein coesau yn dechra teimlo'r dringo o ddifri. Ar ôl diodydd a ddarnau o gacen blasus o grombil y cwt cerrig croesawgar, mi gariom ni ymlaen wrth i'r llwybyr sythu ac yn troi yn res o grisiau creigiog bron. Mae hon yn arwydd o'r ymdrechion parhaol i'w achub rhag erydu gormod am wn i, a welsom ni lond cwdyn ar ôl cwdyn o gerrig mawr yn barod i'r cymal nesaf, son am dalcen galed!
Wrth i'r llwybyr ein arwain o dan bont rheilffordd, mi wynebom ni gwyntoedd andros o gryf a dibyn digon mawr i'ch dychryn! Ai dyma trobwynt y taith i sawl cerddwr 'hamddenol'? Hyd yn oed ar ddiwrnod braf canol haf, mae'n posib teimlo nerth a pheryg y mynyddoedd wrth i'r tywydd troi dim ond ychydig. Mi chwipiodd a chwyrliodd y cymylau dros y crib, mi welsom ni dim ond ambell i gip o Grib Goch, Crib y Ddysgl, cyn o'r diwedd sbio lloches Hafod Eryri trwy niwl y cymylau a'r heidiau o ymwelwyr buddugolaethus, boed teithwyr trên neu teithwyr ar droed. Mae'n teimlad braf bod ar ben mynydd.