
Mi holodd un o'r dosbarth nos y llynedd os oedd penrhyn Cilgwri erioed wedi bod yn rhan o Gymru, cwestiwn da ac i fod yn onest un nad oeddwn wedi ystyried o ddifri cyn i'r noson honno. Mae'n dibynnu am wn i ar sut yn union mae rhywun yn diffinio 'Cymru' ("When was Wales?" gofynodd Gwyn A Williams yn nheitl ei lyfr), ac wrth cwrs ar hanes y ffin troeog sydd gynnon ni heddiw, ffin a gafod ei cadarnhau o dan y Deddfau Uno rhwng l536 a 1543
Ta waeth, ges i fy atgoffa o'r trafodaeth unwaith yn rhagor gan llun a ymddangosodd yng nghylchgrawn Barn mis hydref, un sy'n cynhyrchioli mewn paent (dwi'n meddwl) gweledigaeth Owain Glyndŵr i ymestyn ffiniau ei wlad i gynnwys siroedd y gororau, o Lannau Mersi yn y gogledd i aber Hafren yn y De, gan cynnwys llefydd fel Caerwrangon, ac yn bendant Cilgwri. Yn sicr, nad oedd y Gymraeg neu'r Cymry (fel heddiw!) yn cyfyngedig i diroedd i'r gorllewin o'r ffin, ond gafodd penrhyn Cilgwri ei coloneiddio gan Lychlynnwyr o Iwerddon yn y degfed canrif, ac roedd y sacsoniaid wrth cwrs wedi cyraedd cyn hynny. Felly yng nghyfnod Glyndŵr prin fyddai llawer o boblogaeth gwasgaredig Cilgwri wedi teimlo fel Cymry tybiwn i. Ond pe tasai Glyndŵr wedi ennill y 'dadl' pwy a wir, gallai Cilgwri wedi bod yn rhan o Gymru, a ninnau'r 'Cilgwriaid' yn Gymry go iawn!?