29.10.11

dau adeilad, dau hanes....

Agorwyd 'Bethel' yn Heathfield Rd, Lerpwl ym 1927. Gafodd ei godi fel cartref newydd i gynulleifda Capel Webster Rd, ac efo lle i 750 o bobl.  Roedd hyn yn adeg llewyrchus iawn i Gymry Glannau Mersi, penllanw cymdeithas Cymraeg Lerpwl, a chyfnod a welodd ymweliad arall gan yr Eisteddfod Genedlaethol i ddinas Lerpwl (1929), a hynny'r tro olaf i'r Prifwyl gadael tir Cymru.

 'Bethel', Heathfield Rd. Lerpwl
Chwech mlynedd yn ddiweddarach (1933) agorwyd 'y Tudor' yn West Kirby, sinema a theatr efo lle i 1100 o bobl.  Buodd theatr fictorianaidd ar yr un safle o'r enw 'The Queens', ond codwyd y Tudor ar yr un safle ar ol iddo gael ei ddinistrio gan tân.  Cymysgedd nodweddiadol o bensaerniaeth Art Deco a 'Thuduraidd ffug' oedd y Tudor, a gafodd ei gynllunio mae'n debyg i adlewyrchu arddull adeiladau du a gwyn eraill West Kirby.


Y 'Tudor' yn y 1960au hwyr
Erbyn y chwedegau roedd cymdeithas Cymraeg Lerpwl ar ei lawr, gyda sawl capel yn cau eu drysau (neu uno gyda chapeli eraill) a chynulleidfaoedd y gweddill yn mynd yn hynach.  Ar ol y rhyfel roedd 'na ostyngiad sylweddol yn y nifer o Gymry Cymraeg yn symud i lannau Mersi, hynny yw'r rheiny oedd wedi cynnal y capeli dros ganrif a mwy.  Yn ogystal a hynny roedd yr iaith ei hunan yn brwydro i dal ei thir yng Nghymru, ac roedd capeli hyd yn oed yna yn stryffaglu yn sgil newid cymdeithasol enfawr.

Roedd cynulleidfaoedd sinemau ar eu lawr hefyd yn ystod y 60au (yn sgil newid cymdeithasol enfawr arall sef dyfodiad y teledu i bron pob cartref), ac mi gauwyd nifer mawr.  Dyna fuodd hanes y Tudor, a chyflwynwyd y ffilm olaf yn West Kirby ym 1965.  Ailagorodd am gyfnod fel neuadd Bingo cyn cael ei droi yn fwyty gyda thema ffilmiau o'r enw 'GoodTimes'.  Maes o law mi ddaeth ei gyfnod fel bwyty i ben, ac mi drodd yr adeilad yn 'arcade' siopa.  Aflwyddiant oedd y fenter honno, ond gafodd ei addasu i fod yn swyddfeydd i'r cyngor lleol.  Gadawodd y cyngor tua 7 mlynedd yn ol bellach, yn gadael i'r Tudor druan pydru yn y fan a'r lle.


 dymchwelwyr yn dechrau tynnu Bethel lawr (2011)
Erbyn y 90au mae'n ymddangos roedd 'Bethel' yn llawer rhy fawr i anghenion aelodaeth y capel.  Er mwyn i'r achos goroesi yn Lerpwl, roedd angen meddwl o ddifri am yr opsiynau, gan gynnwys gwerthu'r prif adeilad a defnyddio rhan arall o'r capel yn ei le.  Mae'n syndod efallai, ond nad oedd 'Bethel' yn adeilad rhestredig, er gwaethaf ymdrechion y 'Wavertree Society', sy'n brwydro cadw cymeriad pensaerniol yr ardal.  Buodd Bethel tirnod amlwg yn Wavertree am dros 80 mlynedd, ond methiant oedd yr ymdrechion i ddod o hyd i ddefnyddwyr arall.  Yn ol y ffigyrau dim ond rhai £60,000 o waith cynnal a chadw oedd angen arno, sydd ddim yn swm enfawr o ystyried faint ac oedran yr adeilad, sy'n wneud ei golled yn waeth rhywsut.   Dymchweliad felly oedd diwedd trist i un o symbol olaf Cymreictod Lerpwl, ond mi fydd achos 'Bethel' yn parhau mewn capel modern a lot llai sydd newydd cael ei agor ar ddarn o'r un safle.  Caiff gweddill y safle ei werthu a datblygu fel fflatiau yn ol pob son.


y 'Tudor' yn diflanu yr wythnos yma,
ond wnaiff y facade goroesi o leiaf

Draw yn West Kirby roedd cwmni Aldi wedi bod yn llygadu safle'r Tudor.  Wnaethpwyd cais i godi archfarchnad yno a chyhoeddwyd lluniau hardd o'u cynlluniau gan gynnwys facade Tuduraidd y Tudor fel prif fynedfa i'r siop arfaethedig.  Derbyniodd y cynllun croeso gwresog yn y bon, gan y cyngor a'r cyhoedd, ond erbyn i'r cais cynllunio cael eu cyflwyno doedd dim arwydd o'r hen sinema!   Yn wahanol i gapel Bethel, roedd y Tudur yn adeilad rhestredig, a mynodd y cyngor bod facade yr adeilad (o leiaf) yn cael ei gadw.  Er gwaethaf safiad Aldi bod archwiliad wedi darganfod gwendid strwythyrol yn facade y Tudur a fasai'n gwneud iddo fo yn rhy gostus i'w gadw,  mi fynnodd y cyngor eu bod nhw'n cadw at eu cynllun gwreiddiol. 
Dros yr wythnos diwetha maen nhw wedi bod wrthi'n ddymchwel y rhan mwyaf o'r Tudur, ond o leiaf mi fydd darn yn goroesi fel rhan o'r archfarchnad.  Ond mae'n siom efallai na lwyddodd yr awdurdodau yn Lerpwl cyrraedd y fath cyfaddawd.... 




22.10.11

Hwyl fawr Wooly....

Y gig go iawn cyntaf i mi fynychu erioed oedd yn y Liverpool Empire.  Does dim byd tebyg i'r profiad o glywed swn band roc yn perfformio am y tro cyntaf, a hynny mewn awyrgylch trydanol theatr dan ei sang.  Er nad oedd y band y roedden ni'n eu disgwyl yn un ffasiynol erbyn 1978 (os erioed!), roedd gan Barclay James Harvest dilyniant cadarn, ac roedd yr Empire wedi 'gwerthu allan' ar gyfer eu hymweliad blynyddol fel arfer.


Ro'n i wedi baglu dros gopi fy chwaer o 'Time Honoured Ghosts' (Polydor 1975) a dweud y gwir cwpl o flynyddoedd yn gynnharach, wrth bori trwy ei chasgliad o LP's, a ches i fy nenu yn syth gan lun trawiadol y clawr i (sy'n fy atgoffa i o dirlun Ddyffryn Clwyd),  a maes o law gan y casgliad o ganeuon bachog â harmoniau persain y band o Sir Caerhirfryn. Erbyn iddyn nhw recordio'r albym hon yn Los Angeles, roedden nhw wedi rhoi'r gorau i deithio a recordio efo cerddorfa llawn (cyfnod arbrofol a gofnodwyd ar eu halbyms cynnar i label 'prog rock' EMI 'Harvest').  Serch hynny roedd trefniadau 'cerddorfaol' yn amlwg o hyd ar ambell i drac, diolch i 'Melotrons' a Hammond Stuart 'Wooly' Wolstenholme, a'i gyfansoddiadau 'bugeiliol', pryddglwyfus.     Syndod felly oedd darganfod bod Wolstenholme, a nid un o'r brifleisydd, oedd 'personoliaeth' y band ar y llwyfan, a'r un a fasai'n llenwi'r bylchau rhwng y caneuon gyda ffraethineb annisgwyl.   Wnaethon ni adael y theatr y noson honno gyda syniau'r encore olaf yn atseinio yn ein glustiau, a blas am gigiau byw.  Dros y cwpl o flynyddoedd nesa mi welon ni nifer o 'fwystfilod prog roc' yn yr Empire, ond roedd eu hamser yn dirwyn i ben, ac roedd ton newydd yn brysur eu ysgubo i'r neilltu. 

Cododd 'wahaniaethau cerddorol' mewn sawl band, wrth iddyn nhw geisio (yn ofer gan amlaf) addasu.   Mae'n debyg roedd hyn yn ormod i'r hen Wooly, a gadawodd BJH tua '79 wrth i'r band newid cyfeiriad a dilyn llwyddiant masnachol ar y cyfandir.  Digwydd bod mi welais Wolstenholme (a'i Felotrons!) unwaith eto, ond y tro yma yn hyrwyddo albym 'solo' fel cefnogaeth i daith Judy Tzuke yn 1980,

Byddai fy ngwybodaeth am hanes Wooly wedi dod i ben yna a dweud y gwir, hynny yw onibai am wyrth y we!  Des i o hyd i weddill ei hanes yn ddamweiniol mewn ffordd tra googlo yn ddiweddar, ond hanes trist ydy o mae'n ddrwg gen i ddweud.

Nid oedd ei brosiect solo (Maestoso) yn llwyddiant masnachol, a dechreuodd Wooly yrfa newydd fel fferwmr organic, yn gyntaf yn Sir Caerhirfryn ac wedyn yng nghorllewin Cymru.  Roedd ei hen gyd-aelodau yn BJH wedi hercian ymlaen hebddo fo am ormod o flynyddoedd mae'n debyg, ar gefn llwyddiant masnachol yn yr Almaen, cyn chwalu o'r diwedd yn 1997.  Maes o law mi gododd ddwy fersiwn o'r band gyda enwau hurt o hirwyntog (e.e. Barclay James Harvest Through the Eyes of John Lees!) a datblygodd cryn chwerwder rhwng y dwy carfan. 

Mi dreuliodd Wolstenholme cyfnodau yn yr ysbyty yn dioddef iselder difrifol, er yn sgil tranc BJH mi gytunodd i ail-ymuno â John Lees a chwarae yn fersiwn yntau o'r band.  Ond doedd dim dianc rhag ei broblemau iselder, ac ym mis rhagfyr eleni, ar ol tynnu allan o daith arall efo Lees mi laddodd ei hunan.  Diwedd trist i un o gymeriadau tawelaf roc a rol, ond dyma deyrnged addas.  Heddwch i'w llwch..   



Noson Enoc Huws...

Mi aeth y noson Enoc Huws (rhan o Ŵyl Daniel Owen Yr Wyddgrug) yn dda dwi'n credu, efo nifer go lew o bobl yn gwasgu mewn i ystafell fyny'r grisiau ym Mar Gwin y Delyn. Roedd o'n braf gweld Ernie a Mark yna o'r dosbarthiadau nos, a chael cyfle am sgwrs efo ffrindiau eraill. Roedd Eirian wedi trefnu cwis gweledol, hynny ydy cyfres o luniau o bobl 'enwog' i ni i'w enwi, efo thema'n eu cysylltu nhw. Wnaethon ni un darn o Enoc Huws, ac wedyn un rownd o'r cwis, ac yn y blaen, nes cyrraedd diweddglo stori 'gafaelgar' Daniel Owen. Mi fasai wedi bod yn braf cael riff drymiau 'Eastenders' ar ddiwedd pob darn! Roedd 'na 'cyfieithu ar y pryd' ar gael yn ystod y cyflwyniad o Enoc Huws (sy'n annodd mewn rhannau i rai Cymry Cymraeg heb son am ddysgwyr) diolch i Rebecca o Fenter Iaith Sir Y Fflint, gwasanaeth amhrisiadwy i'r rhai di-gymraeg oedd yna. Rhywsut wnaeth ein tîm ni lwyddo i ennill y cwis! a'r bocs o siocledi blasus.. ond gaeth pawb rhannu'r siocledi dwi'n credu!!

Noson da.

13.10.11

Yr Wythnos hyd yn hyn...

Mae hi wedi bod wythnos andros o brysur hyd yn hyn, a prin ydwi wedi cael y cyfle i dreulio amser o flaen sgrin y gliniadur (roedd rhaid i mi siecio sillafiad!).   Y dyddiau yma rhaid cyfadde fy mod i'n treulio mwy o amser o flaen sgrin yr ipad ('tablediadur' ella?), teclyn  sydd wedi trawsnewid y ffordd ein bod ni (yn y ty yma beth bynnag) yn wneud pob math o bethau cyfrifiadurol.

Dwi newydd dechrau jobyn sylweddol yn y gwaith, sef 'astudfa', a fydd yn cael ei wneud o fasern (maple...?), yng nghanol archebu'r defnydd ydwi ar y funud, gan gynnwys y pren solet, veneered mdf, rhedwyr drors ac ati.

 Dydd mercher es i i'r Wyddgrug er mwyn ymarfer y cyflwyniad 'Enoc Huws' wnaethon ni (Criw Ty Pendre hynny yw) ym Maes-D yn ol ym mis Awst.  Mi fydden ni'n ei wneud y cyflwyniad unwaith eto, y tro yma ym 'Mar Gwin y Delyn' ar nos fercher.  Roedd yr ymarfer braidd yn fler, ond nad oedd y rhan mwyaf ohonon ni wedi edrych ar y darn ers dros dwy fis, felly ro'n i'n synnu dim.  Gawn ni siawns arall i ymarfer wythnos nesa, ond mi fydd popeth yn iawn ar y noson mae'n siwr!!
Mae'r noson wedi ei anelu at ddysgwyr, felly mi fydd 'na daflennau ar gael sy'n cynnwys cyfieithiad o'r darn ein bod ni'n cyflwyno, a cwis rhwng y darnau hefyd. Noson cymdeithasol felly.

Ar ol dysgu gyda'r nos dydd mercher, mi es i lawr i'r Lever Club yn Port Sunlight i'n 'sesiwn sgwrs' bach ni.  Unwaith eto roedd 'na griw da yno, ac mi aeth pethau'n dda dwi'n credu.  Mae pawb yn trio defnyddio cymaint o Gymraeg a phosib sy'n wych, a dwi'n mwynhau cael diod sydyn ymhlith ffrindiau, ar ol gorffen dysgu am yr wythnos. Na fydd 'na gyfarfod yr wythnos nesa gan mod i'n gwneud y peth Daniel Owen, ond gobeithio mi fydd un neu ddau o'r sesiwn sgwrs yn mentro draw i Sir y Fflint hefyd.... 

  

2.10.11

Gwibdeithiau diogelach i feicwyr..?

Gefais wibdaith bach arall ar y beic yn ystod yr wythnos, y tro hwn yn rhannol i drio darganfod ffordd 'amgen' trwodd i lannau Dyfrdwy.  Soniais sbel yn ol am hen lon John Summers, oedd yn arfer torri tua 6 milltir oddi ar daith beicio i Sir y Fflint o'r darn yma o Gilgwri, ac sy'n 'llwybr llygad' at y bont 'newydd' (Pont Sir y Fflint). Ond ges i'm ceryddu gan ffermwraig wrth i mi wyrio 'ychydig' oddi ar lwybr cyhoeddus rhwng Shotwick a Puddington, wrth drio darganfod ffordd drwodd i'r ffin!  Wrth gwrs ymddiheurais yn gwrtais wrth esgus mod i wedi colli fy ffordd, ond mae'n amlwg bod y stad mawr (sy'n rhwystr sylweddol i gerddwyr a beicwyr yng nghornel deuheuol Cilgwri) yn gweld lot o bobl 'ar goll'.  Er i mi barchu'r ffermwyr, tir âr ydy hwn, heb yr un anifail fferm i'w weld, a lonydd fferm llydan, rhy groesawgar o lawer i deithwyr 'direidus'!

Cronfa Dwr Llyn Shotwick, yn edrych tuag at Burton (gwelir y map)
Ar ol i mi adael tir y fferm (lawr y llwybr cyhoeddus), anelais i lawr i'r gors o gyfeiriad Ystad Diwyddiannol Glannau Dyfrdwy, sef ochr draw i'r Sealand Ranges.  Digwydd bod roedd gatiau'r meysydd saethu ar agor, gan fod cwmni garddio'n torri'r lawntydd (wir!), ond penderfynais peidio siawnsio 'troseddu' eto, ond troi i'r dde i ddilyn llwybr sy'n glynu at gwrs rheilffordd Wrecsam i Bidston, sef 'Lein y Gororau', yn ymyl hen seidings.  Culiodd y llwybr yn y pendraw yn anffodus, yn fy ngadael heb nunlle i fynd ond yn ol, a finnau llai na chwater milltir o gyrraedd ochr draw tir gwaharddiedig y 'ranges'.  Welais feiciwr arall ar y ffordd yn ol, ac mi holodd o fi i weld os ro'n i wedi croesi 'ffordd y gorsydd'.  'Naddo' dwedais, ond cawsom ni sgwrs diddorol am ei brofiadau o.  Un dro wnaeth car swyddog y meysydd saethu trio torri yn ei flaen er mwyn ei rwystro rhag reidio! tra tro arall mi stopiodd fws mini o 'gadets' a'u sarjant a'i helpu codi ei feic dros y giat!  Negeseuon cymysg felly!

                     
Ta waeth, ar ol i mi gyrraedd adre, mi es i ar y we a ffeindio rhyw fforwm sy'n trafod hynt a helynt beicwyr lleol.  Darganfodais bod ymgyrch yn drio ail-agor y 'marsh rd.' a hynny yn rhannol yn sgil sawl damwain ar yr A540 rhwng geir a beiciau.  Mae 'na 'lwybrau' beicio eisioes sy'n ymlwybro lawr lonydd tawelach Cilgwri yng nghyfeiriad Caer a lannau Dyfrdwy, ond i gyrraedd ambell i ddarn mae angen mentro ar y A540, ffordd sy'n peryg bywyd mewn mannau.  Pe tasai'r lon dros y gors ar agor, fasai hynny'n gadael i feicwyr teithio rhwng West Kirby a Chaer yn mwy neu lai di-draffic, trwy uno'r Wirral Way a'r llwybr Cei Connah-Caer!

Ar y funud mae nifer o sefydliadau yn rhan o broses ymgynghori, Sustrans, yr MOD, Railtrack, y RSPB (sy'n biau tir cyfagos) a Chynghorau Sir Y Fflint a Swydd Caer.  Mi fydd y cynllun yn sicr o gymryd cwpl o flynyddoedd i wireddu, ond o leiaf mae 'na rywbeth ar y gorwel.

26.9.11

Gwlybdiroedd Cydwladol Burton Mere...

Bore dydd Sul, pigiais allan ar fy meic pen bore gyda'r bwriad o drio dod o hyd i ffordd arall o gyraedd Pont Sir y Fflint.  Caewyd  hen lon dros gorsydd aber y Dyfrdwy gan y weinidogaeth amddiffyn ychydig o flynyddoedd yn ol. Roedd y llwybr llygad yma'n arfer cysylltu pentre Burton yng Nghilgwri gyda gwaith dur Shotton.  Er ffordd preifat buodd y lon erioed, gafodd feicwyr a cherddwyr rhwydd hynt ei ddefnyddio, cyn belled a nad oedd dryllau'r Sealand Ranges' yn tanio.  Ta waeth, ers ychydig o flynydoedd rwan mae arwydd ar lidiart hanner ffordd lawr y lon, mwy neu lai ar y ffin, yn rhybuddio darpar teithwyr o ddirwy go lew a fydd yn eu disgwyl pe tasen nhw i fentro ar dir y MOD.

 Ond ar ol pori dros mapiau yr OS a delweddau daearyddol google earth, penderfynais anelu at lon bach arall sy'n ymddangos i arwain at y corsydd ac at ffin Cymru,   Ar ol i ryw tri chwater awr o bedlo cyson mi ges i fy hun ar dop y lon cul mewn cwestiwn, ond sylwais yn syth ar arwydd newydd yna, a hynny yn dy gyfeirio at 'RSPB Burton Mere Wetlands'.
Mi fentrais i lawr, a chwta hanner milltir o'r 'prif ffordd' cyrheuddais adeilad newydd sbon yr RSPB yn Burton Mere.  Yna mae 'na gyfres o lynoedd newydd a hen, sy'n dennu pob math o adar  (yn ol dynes o'r elusen adar wnes i siarad efo hi). Er bod y RSPB wedi cael gwarchodfa yn fan'na ers nifer o flynyddoedd, maen nhw newydd prynu'r hen bysgodfa ac wedi addasu'r llynoedd pysgota er les yr adar, yn ogystal a chodi 'hides' newydd a chyfres o lwybrau rhyngddynt.   Mae'r llecyn yma o dir yn pontio'r ffin rhwng Lloegr a Chymru, gyda thraean y gwarchodfa yn rhan o Sir y Fflint.  Digon addas oedd o felly cael Iolo Williams yno dydd gwener er mwyn rhoi stamp 'springwatch' ar yr agoriad swyddogol (rhywbeth wnes i ddarganfod ar ol cyrraedd adre a 'googlo' y lle). 

Iolo yn Burton Mere

Wrth sefyll ar lannau un o'r llynoedd yn sbio dros yr aber, sylweddolais, er mor agos ro'n i at Gymru (200llath?) nad oedd modd croesi'r gors o fan'na, ac mi fasa rhaid i mi bori eto dros y mapiau. ond er hynny ro'n i'n falch o ddod o hyd i rywle mor hyfryd, a rhywle i ddychweled ato heb beic!

21.9.11

Noson Cofrestru

Mi es i i'r Ysgol heno er mwyn siarad efo'r rheiny sydd am gofrestru i wneud y dosbarthiadau nos Gymraeg.  Gaeth pawb noson eitha siomedig a dweud y gwir, gyda dim ond 65 o bobl yn dod trwy'r drws (tua hanner y nifer a ddoth y llynedd).  Ges i chwech o bobl yn cofrestru i wneud Cymraeg lefel un, sydd gobeithio'n ddigon i gynnal y cwrs, a fel arfer mi fydd ambell i berson wedi ffonio fyny i fynegi diddordeb erbyn dechrau'r cyrsiau.  Maen nhw isio wyth o bobl ar gyfartaledd mewn pob dosbarth.  Ond mae gynnon ni i gyd (y tiwtoriaid) pryderon am ein cyrsiau, gan bod angen 150 o fyfyrwyr ar y cofrestrau i wneud y cyrsiau yn cynnaladwy, ac os na gawn ni y ffigwr yna, mi allen nhw (yr ysgol) tynnu'r plwg ar y cyrsiau i gyd.  Maen nhw am roi hysbyseb arall yn y papur, ond mae ysgol lleol arall (sydd newydd troi'n academi) wedi dewis cynnig yr un fath o gyrsiau (tra geisio potsian tiwtoriaid!) er dim ond yn yr ieithoedd mwyaf poblogaidd, ac am brisiau cryn dipyn yn llai.  Canlyniad o newidiadau strwythyrol yw hyn, hynny yw mae'r academis newydd yn medru gwneud yr hyn a mynnon nhw, heb gorfod cydweithredu o dan ymbarel yr awdurdod lleol.  Gawn ni weld wythnos nesa!

13.9.11

Ai yng Nghymru yw rhan o Gilgwri...?

Meddwl ro'n i heddiw wrth seiclo lawr Cilgwri yn dilyn glannau'r Dyfrdwy am gwestiwn dwys iawn.. sef lle mae'r penrhyn yma yn orffen!  A dweud y gwir do'n i ddim yn hollol siwr, a gafodd  y sefyllfa ei cymhlethu rhywsut  pan sefydlwyd bwrdeistref newydd o'r enw 'Wirral' yn ol yn y saithdegau.  Cyn hynny roedd na ddau bwrdeistref sirol sef Penbedw a Wallasey, a chwpl o fwrdeistrefi trefol fel Hoylake a Bebington, i gyd yn rhan o Swydd Caer.  Gaethon nhw eu taflu gyda eu gilydd a'u gwneud yn rhan o 'Merseyside' o dan yr enw 'Metropolitan Borough of Wirral' yn '72, gyda gweddill y penrhyn yn aros yn Swydd Caer. Ond yn ddaearyddol wrth gwrs mae Cilgwri yn dal i ymestyn mwy neu lai hyd at Gaer ac yn gynnwys llefydd fel Ellesmere Port.  Yn ol llyfr Domesday "two arrow falls from the city walls" yw ffin Cilgwri, a wnaeth hynny gwneud i mi feddwl ac edrych ar fap!

Ar un adeg mi glynodd yr afon Dyfrdwy mwy neu lai at arfordir Cilgwri hyd at Blacon, a dilynodd y ffin cwrs yr afon. Pan camlasodd yr afon tua 1737, a hynny ar ochr draw yr aber, symud y ffin er mwyn gadw at gwrs yr afon oedd y cynllun gwreiddiol, ond yn y pendraw cadawodd y ffin at hen gwrs yr afon.  Enillodd ochr Cilgwri yr aber y tiroedd newydd o'r gorsydd felly, ardal sydd heddiw yn gartref i bentre Sealand, Garden City, ac wrth gwrs Ystad Diwidiannol Glannau Dyfrdwy.  Digon rhesymol ydy o felly i honni'r darn bach yma o Gymru fel rhan o Gilgwri, wrth gofio bod Owain Glyndwr yn honni y penrhyn gyfan fel rhan o'i Gymru newydd..

8.9.11

Trip i'r llawr sglefrio....



Mi aethon ni â Miriam i lawr sglefrio Glannau Dyfrdwy dros y penwythnos a gaethon ni lot  hwyl a bron dwy awr ar yr iâ.  Wnes i lwyddo aros ar fy nhraed (neu sgidiau sglefrio) mwy neu lai, a dim ond unwaith wnaeth Miri lanio ar ei phen ol, a hynny mewn ffordd digon gosgeiddig!

Mae'n tua tair mlynedd ers i ni ymweled â'r rinc er mawr cywilydd i mi, felly nad oedd ein perfformiad cynddrwg a hynny, a dani'n penderfynol o fynd yn amlach yn ystod gweddill y flwyddyn.
Ai Sgymraeg ydy hon...?

Pan o'n i yn fy arddegau roedden ni'n arfer dal y tren i Shotton, sydd dim ond pum munud o Ganolfan hamdden Glannau Dyfrdwy a'i llawr sglefrio, yr un agosaf i Lannau Mersi.  Roedd trip ar y tren i'r rinc efo ffrindiau'n ddiwrnod mawr allan, a dwi'n cofio cael lot o hwyl yna yn ystod y gwyliau ysgol.
Mae gan y ganolfan hamdden lot o arwyddion dwyieithog, ond mae 'na ambell i gam amlwg yn eu plith yn anffodus, fel yr un yn y llun!

4.9.11

Wedi 7 o Lerpwl...

Dydd mawrth mi ddaeth Gerallt Pennant a chriw ffilmio draw i Lerpwl i saethu darn bach am yr amgueddfa newydd.  Roedd Gerallt ei hun yn gwneud y gwaith cynhyrchu mewn gwirionedd, a'r dyn camera y gwaith cyfarwyddo i bob pwrpas, y dau'n gweithio'n hynod o gelfydd.

Roedd o'n braf cael siawns cyfarfod a siarad efo'r Parchedig Ddr. D. Ben Rees (neu Ben fel pobl yn ei alw!) sy'n arbennigwr ar Gymry Lerpwl, er o Landdewi Brefi mae o'n dod yn wreiddiol.  Mae o wedi gweithio'n ddi-baid dros Gymry'r ddinas ers degawdau, ac efo Amgueddfa Lerpwl fel cynghorydd hanes o ran pobeth Cymreig.  Roedd o'n falch iawn i weld yr arddangosfa yn cael ei agor tua mis yn ol, ac hynny mewn rhan mor amlwg o'r amgueddfa.

Drws nesa i'r arddangosfa am y Cymry mae arddangosfa hynod o ddiddorol am ddatblygiad Eglwys Cadeiriol y Catholygion yn Lerpwl yn y 20C.  Mae model enfawr o'r Cadeirlan arfaethedig a gynllunwyd gan Lutyens i weld (gei di weld hyn yn y cefndir ar Wedi7). Cynllun byth a wireddwyd oedd hyn wrth gwrs, ar wahan i'r claddgell (crypt) sy'n i'w weld o dan y Cadeirlan presennol. Mae 'na lun ar y wal o orwel Lerpwl pe tasai'r adeilad wedi ei godi, gyda chatref y Pabyddion yn twrio uwchben Cadeirlan yr Anglicaniaid, sydd yn ei hawl ei hun yn gawr o eglwys.

Ta waeth, mi aeth y cyfweliad yn olew fel y dwedais mewn post arall dwi'n meddwl. Gei di weld y canlyniad am weddill yr wythnos ar S4Clic.

30.8.11

Ymweliad criw Wedi7....

Mi fydd y darn am Amgueddfa Lerpwl a recordwyd heddiw yn cael ei ddarlledu nos iau rwan.

Mi aeth pethau yn olew yn y bon, gyda finnau, Mam a Dr D Ben Rees yn recordio darnau bach ar ben ein hunan, yn ogystal ag ambell i 'shot cyffredinol' o'r tri ohonon ni'n trafod a phwyntio gyda'r cyflwynydd Gerallt Pennant.  Roedd yr amgueddfa'n brysur ofnadwy ac roedd o'n annodd canolbwyntio ar adegau, ond chwarae teg i Gerallt a'r criw ffilmio, mi wnaethon nhw ymdrechu gwneud pethau yn ddigon hwylus i ni.

Mam yn trafod ei chyfweliad efo Gerallt Pennant


Gewch chi weld y canlyniad nos iau ar Wedi7....

27.8.11

Wedi 7 yn dod i Lerpwl...

Ar ôl i ni ymweld ag amgueddfa newydd Lerpwl yr wythnos diwetha, penderfynais gysylltu â'r rhaglen cylchgrawn Wedi7 (sy'n gofyn i ti wneud ar eu gwefan, os oes gen ti rywbeth o ddiddordeb i rannu). A dweud y gwir o'n i wedi anghofio am yr e-bost a ddanfonais erbyn yn i mi dderbyn galwad ffôn gan Gwyn Llywelyn dydd Mercher. Roedd Gwyn (sy'n gwneud gwaith cynhyrchu o hyd, ar ôl rhoi ei het cyflwynydd yn y to cwpl o flynyddoedd yn ôl) yn awyddus i glywed am yr Amgueddfa a'r arddangosfa 'Our City Our Stories' (rhan ohono sy'n adrodd hanes Cymru Lerpwl)' ac hefyd i wneud darn amdano.
 
Yr arddangosfa yn Lerpwl
Felly bore mawrth mi fydda i'n pigo draw i Lerpwl i gwrdd â chriw Wedi7, 'curator' yr amgueddfa, Gerallt Pennant, Ben Rees (yr arbennigwr sy'n rhoi cyngor i'r amgueddfa ar bethau Cymreig) a fy Mam - sy'n gallu cynnig safbwynt Cymraes lleol. Mi fyddan nhw'n recordio darn efo ni i fynd allan ar yr un noson, a gobeithio rhoi argraff o'r hyn sydd gan yr amgueddfa i gynnig yn gyffredinol, yn ogystal â'r cysylltiadau Cymreig. Dwi'n edrych ymlaen at gyfle arall i gael gweld ar yr adrodd gwych 'ma, ac wrth gwrs cyfarfod â phawb arall!

21.8.11

Trysor newydd i Lerpwl...

Mi aethon ni ymweled ag Amgueddfa newydd sbon Lerpwl yr wythnos yma, a gaethon ni amser gwych.  Mae gan Lerpwl nifer o amgueddfeydd ardderchog, gan gynnwys un am hanes arforol (maritime) y ddinas, ac un am ei chysylltiadau dywyll â chaethwasiaeth.

Amgueddfa newydd Lerpwl


  Mae'r un newydd, sy'n sefyll rhwng y 'Three Graces' a Doc Albert, yn canolbwyntio ar y ddinas ei hun ac yn cael ei alw 'The Museum of Liverpool'.  Mae pensaeriaeth yr adeilad yn drawiadol er mae o wedi achosi cryn ddadlau (yn bennaf gan ei fod yn gymydog i adeiladau enwog ac hanesyddol), ond rhaid cofio wnaeth codiad yr adeilad 'Liver' peri cryn ddadlau hefyd, a hynny tua canrif yn ol bellach!

Ges i sypreis braf hefyd ar ddarganfod rhan bach o'r arddangosfa sy'n dilyn hanes Cymry Lerpwl, ar gyfraniad a wnaethpwyd ganddynt dros dau canrif a mwy yn y ddinas. Mae 'na lun o'r capel Cymraeg cyntaf a sefydlwyd yn y ddinas, a llun a dynnwyd ar ddiwrnod  agoriadol yr un olaf, sef Heathfield Rd (1929). Mae 'na lun o bwyllgor Eisteddfod Birkenhead (1917) hefyd, gyda'r rheiny eistedd tu allan i ryw plasdy crand yng Nghilgwri, yn ogystal a phob math o hen bethau o ddyddiau llewyrchus capeli. Os ti'n ymweled gei di weld copi o rifyn eitha ddiweddar o babur bro Glannau Mersi Yr Angor, sy'n pwysleisio presenoldeb y Cymry Cymraeg yn yr ardal hyd heddiw.

Felly os ti'n digwydd bod yng nghyffiniau Lerpwl ewch i'r adnodd gwych yma, sydd wrth gwrs fel pob amgueddfa yn rhad ac am ddim.

15.8.11

Eisteddfod Wrecsam... y rhan olaf..

Dwi wedi sgwennu digon o bostiau am steddfod Wrecsam erbyn hyn, ond o'n i isio sgwennu rhywbeth bach am ein (dysgwyr Cilgwri) cyfraniad olaf i'r Prifwyl eleni, sef ein sgets ni.   Roedd o'n siomedig iawn nad oedd yr un grwp arall wedi dewis wneud y sgets eleni, ond o leiaf roedden ni'n ymwybodol o hynny cyn i ni gyrraedd y maes,.   Roedd y cystadleuaeth ar y dydd iau, hynny yw'r noson ar ol i mi fynuchu noson Dysgwr y Flwyddyn, felly erbyn i ni (Jill, Miriam a finnau) cyrraedd y maes ychydig yn hwyr roedd gweddill y criw yn disgwyl amdanaf.   Gaethon ni dipyn o amser am ymarfer sydyn yng nghornel tawel prif stafell Maes D, cyn i ddigwyddiadau y Pafilwn mawr (y llefaru unigol i ddysgwyr - a ennillodd gan Jean o Ruthun, un o griw Ty Pendre) caniatau i'r beirniaid dod o 'na i feirniadu ein cystadleuaeth bach ni.  A dweud y gwir roedd Maes D yn byrlymu â phobl a lleisiau wrth i'r corau i ddysgwyr dechrau ymgynull a pharatoi eu darnau ar gyfer y cystadleuaeth nesaf ond un.

Gyda phethau'n rhedeg hanner awr neu fwy yn hwyr, gaethon ni ein gwahodd i'r llwyfan i wneud y perfformiad hollbwysig!  Aeth o'n iawn dwi'n credu ar ol dechreuad braidd yn sigledig.  Wnaeth y cynulleidfa chwerthin yn y llefydd cywir, a rhoddodd pawb eu perfformiadau gorau dwi'n credu.

Ar ol i'r beirniaid cael amser i feddwl gaethon ni clywed gan y beirniaid yr oedden ni'n deilwng o dderbyn y gwobr cyntaf, yn ogystal ag ychydig o sylwadau calonogol eraill.  Ges i siawns arall am sgwrs efo Geraint Lovgreen, sy'n wastad yn hynod o glen, cyn iddo fo symud ymlaen at ei ddyletswydd eistoddfodol nesa.

Wnaethon ni benderfynu cyfarfod eto ym Maes D yn ystod y p'nawn, ar ol i bawb cael cyfle crwydro'r maes a chael rhywbeth i fwyta.  Ro'n i i fod ym Maes D, gyda gweddill y pedwar olaf dysgwr y flwyddyn, wrth i Kay Holder cael cyfle torri teisen a wnaethpwyd yn arbennig i ennillydd y cystadleuaeth.  Roedd pob dim braidd yn anrhefnus mewn gwirionedd gyda chanoedd yn disgwyl canlyniad 'y corau', ond erbyn i'r system sain cael ei symud gaeth Kay dweud ychydig o eiriau tra ymestyn croeso i bawb i Eisteddfod Bro Morgannwg 2012, sy'n digwydd bod yn ei milltir sgwar hi. Gefais siawns am sgwrs efo rhai o'n grwp ni cyn gadael, ond nid pawb yn anffodus, ond gobeithio'n wir wnaethon nhw mwynhau'r profiad.

Erbyn hanner wedi pedwar roedden ni'n barod i adael... a dweud hwyl fawr i brifwyl arall, un sydd yn ol pob son wedi bod yn llwyddianus iawn.

6.8.11

Eisteddfod Wrecsam rhan 4...

Roedd noson nos fercher yn noson wobryo 'Dysgwr y Flwyddyn', felly ar ol diwrnod hectig a chrasboeth ym Maes D ro'n i wir yn edrych ymlaen at ymlacio gyda'r nos yn y digwyddiad arbennig hwnnw.  Mi  gyrraedom ni'r Neuadd Goffa mewn da bryd a cherddom ni mewn i gyntedd llawn syniau hyfryd telenores.
Gaethon ni Canapes a Cava yn y lle hon a siawns am sgwrs gyda nifer o ffrindiau a rhai o'r gwesteion eraill.  Ro'n i'n dechrau poeni ac ar fin ffonio fy rhieni pan welais i nhw'n closio at y fynedfa.  Prin iawn fydd fy nhad yn hwyr am yr un ddigwyddiad, ond oherwydd ddiffyg cyfathrebu, disgwyl roedden nhw yn y car i weld ein car ni gyrraedd, a hynny gan fod gen i'w tocynnau.   Ta waeth, mi gyrraedon nhw mewn pryd i gipio'r canapes olaf a setlo lawr cyn i Nic Parry, arweinydd y noson, dechrau'r noson yn swyddogol fel petai.


Mi ddarparwyd y bwyd gan fyfyrwyr Coleg Ial, a rhaid dweud roedd y safon yn eithriadol o dda, gan gynnwys detholiad rhesymol i figaniaid, oedd wrth gwrs yn cynnwys Kay, un o'r pedwar olaf, a dau o fy ngwesteion i digwydd bod. Wrth i ni orffen y pwdin, gaethon ein diddanu gan 'Parti Penllan' cyn i 'fusnes' y noson cychwyn gyda gwobryo 'tiwtor' y flwyddyn (dwi'n meddwl), a gafodd noddwyr y noson - sef y Prifysgol Agored - cyfle i'n annerch.  Dangoswyd fideo byr o'r pedwar ohono ni, sef y pedwar olaf, cyn gawsom ni ein gwahodd i flaen y neuadd i eistedd wrth ymyl y beirniaid a chael clywed 'dyfarniad' y beirniaid gan Dafydd Griffiths.  Mi ddwedodd fod yr ennillydd wedi cipio'r gwobr "o drwch blewyn", ond er i mi wrando yn astud fawr dim ydwi'n ei gofio ar wahan i hynny.   Ar ol tipyn bach o jocio am gael saib ffasiynol o hir cyn datgan enw yr ennilydd mi ddatganodd fod Kay Holder yn 'Dysgwr(aig!) y Flwyddyn 2011.  Gefais fach o sioc a dweud y gwir gan fy mod i'n disgwyl i Sarah o Fangor ennill, mor naturiol oedd ei Chymraeg yn fy mharn hi.   Heb os mi fydd Kay yn llysgennad ddiflino dros y Gymraeg (fel y mae hi dros figaniaeth), yn ei bro, dros Gymru a thu hwnt, ac ennillydd dilys ac haeddiannol.


Dwedodd ffrind wrtha i sbel yn ol nad ydy hi'n hoffi'r syniad o'r cystadleuaeth hwn, (a dwi'n parchu ei safbwynt hi) ac oherwydd hynny'n enwedig o falch mi wnaeth hi ddod i'm gefnogi ar y noson.  Mi ymgeisiais yn y cystadleuaeth pedwar mlynedd yn ol hefyd (er ni lwyddais cyrraedd y ffeinal),  felly rhaid mod i'n gweld gwerth ynddi, neu fallai person cystadleuol ydwi! Mi ddwedais nifer o weithiau dim ond am y profiad ro'n i'n cystadlu, ac mae hynny'n wir o hyd, roedd o'n profiad gwych ac un bythgofiadwy. Mi faswn i wedi bod wrth fy mod i ennill wrth gwrs, ond dwedais wrth fy hun ro'n i cystadlu i ryw raddau er mwyn tynnu sylw at y rheiny sy'n dysgu tu hwnt i Gymru, ac i ddangos bod dod yn rhugl o fewn ein cyrraedd ni.  Cymesgedd o resymau oedd fy ysgogiad am wn i mewn gwirionedd, ond roedd ymateb pawb mor wych a chefnogol dwi'n falch mi wnes i... er gwaethaf y teimlad anochel o fethiant a theimlais am ychydig o eiliadau.  Gaethon ni i gyd 'yr eilion gorau', darlun gwreiddiol o Bontgysyllte gan Max Hamblen, ychydig yn llai na'r un a gaeth Kay, oedd yn rhywbeth hynod o neis i'w gael, yn ogystal a thanysgrifiad i Golwg, £100 a 'goody bag' Merched y Wawr!

Diolch yn fawr iawn i 'nheulu a phawb arall a ddaeth i 'nghefnogi ac i'r rhai a wnaeth dymuno'n dda i mi dros yr wythnos hefyd. Diolch yn fawr iawn i Enfys hefyd (swyddog y dysgwyr) am drefnu noson fendigedig a fydd yn aros yn y cof am byth, ac i fy 'nghyd-cystadleuwyr' am wneud y profiad yn un gymdeithasol a braf!  Dwi ddim am droi yn figan eto (sori Kay!) ond pob lwc iddi yn ei blwyddyn fel Dysgwr y Flwyddyn, mi fydd hi'n wych.

5.8.11

Eisteddfod Wrecsam rhan 3...

Dydd mercher oedd y 'diwrnod mawr' i mi fel petai, gyda'r cyfweliadau ffurfiol 'dysgwr y flwyddyn' yn digwydd yn Ngwesty Ramada yn y bore. Ro'n i'n gallu gadael y ty yn eitha hamddenol er mwyn cyrraedd Wrecsam mewn da bryd, ac mi welais i Kay (yr ymgeisydd cyntaf) am sgwrs sydyn cyn iddi hi cael ei harwain i weld y beirniaid.  Roedd y cyfweliadau yn hanner awr yr un, felly ges i siawns i ymlacio a sgwrsio efo Sion Aled ac un o drefnwyr arall rhwng wylio ambell i seren S4C yn pasio trwy gyntedd y gwesty (Huw Llywelyn Davies a Mari Grug e.e. ..cyffrous!).  Mi ddaeth tro fi ym mhen dim, ac ar ol ffarwelio â Kay - wrth iddi hi adael - a dweud bore da wrth Sarah a'i gwr (yr ymgeisydd nesa), ges i fy arwain tuag at y pobl pwysig!
Roedd y cyfweliad unwaith eto'n ddigon anffurfiol ac aeth pethau yn o lew o ran safon y Cymraeg a siaradais (dwi'n credu), er gyda ambell i gwestiwn ges i drafferth meddwl am ateb hollol 'argyhoeddiadol'.   Roedd 'na un eiliad o embaras (a ni gefais gyfle atgyweiro y niwed!) wrth i Dyfed Tomos datgan ei fod yn cynddisgybl Ysgol Maes Garmon, ac hynny ar ol i mi son (er nid mewn ffordd cas) am y Gymraeg bratiog a ddefnyddwyd gan y rheiny o bryd i'w gilydd!  Dwi ddim yn credu gaeth o ei bechu, ond teimlais i 'eiliad crinj'!
Maes D dan ei sang yn ystod cystadleuaeth y corau (diolch i Ro am y llun)
Ar ol i fy amser dod i ben, gadawais gyfforddusrwydd corfforaethol y gwesty ac anelais at bebyll Maes yr Eisteddfod i gael 'di-briff' gyda ambell i ffrind yn fan'na.  Roedd gadael awyrgylch 'aircon-aidd' y Ramada yn sioc, gan bod yr haul wedi codi'n braf, ac roedd Maes D yn andros o boeth,  teimlais fy hun yn torri chwys heb wneud dim byd ond siarad.  Roedd rhywbeth anffurfiol ynglyn â'r cystadleuaeth dysgwr y flwyddyn i fod yn digwydd ym Maes D am 2 o'r gloch, felly ges i gyfle eistedd mewn sesiwn arall, un lle roedd trefnwyr cyrsiau Ty Newydd yn trafod efo dysgwyr yr hyn a fasen nhw'n dymuno gweld yn y cyrsiau eu bod nhw'n cynnig, a chlywsom ni ddarnau o waith a sgwennwyd y bore hwnnw gan ddysgwyr yn mynychu gweithdy gyda Ifor ap Glyn.  Ges i siawns i longyfarch y prifardd am ei gyfres 'Ar Lafar', a chael sgwrs difyr am acenion Saesneg megis Sgows a Cocni (magwyd ef yn Llndain ac yn amlwg yn mwynhau troi at ei Saesneg 'cocni-aidd' yng nghanol ei Gymraeg graenus,  boi clen!).   Erbyn i'r sesiwn dod i ben roedd gen i hanner awr i brynu crempog caws a nionyn andros o ddrud ar y maes cyn ei lyncu a dychweled i baratoi 'gweithgareddau' y p'nawn.

Dweud y gwir roedd y p'nawn yn fwy hectig byth.  Gafodd y sesiwn siarad anffurffiol efo 'pwy bynnag' ei gohirio tan dri o'r gloch. Efallai roedd rhaid i'r beirniaid cael bwyd, dwn i ddim, ond arhosais yno yn siarad efo 'pwy bynnag' beth bynnag! Gafodd ein cyflwyno yn swyddogol erbyn tri, a dechreuais siarad am y 'trysorau' ro'n i wedi mynd â nhw yno fel sbardun sgwrs. Mi es i â blwch pren a dwrniais i Jill pan o'n i'n canlyn, a hen 'plaen pren' a roddodd fy Nhaid i mi, offeryn oedd yn perthyn i'w dad o, yn ogystal ag ambell i lun o' teulu.  Erbyn hynny ro'n i'n teimlo o dan bwysau gan fod Jonathon (Simcock) yn aros i ddechrau cyflwyno ein sesiwn 'Dysgu Cymraeg tu hwnt i Gymru' drws nesa. Erbyn pump munud wedi penderfynais, ar ol siarad efo dau o'r tri beirniaid i bacio fy mhethau ac ymuno â Jonathon am y sesiwn hwnnw. Dweud a gwir dwi ddim yn cofio lot amdana fo, onibai am y ffaith ni gyfrannais yr hyn a dyliwn i wedi wneud, ond diolch byth roedd Jonathon yn gwybod y trefn.

Erbyn i ni orffen y sesiwn yno roedd o'n hen amser i mi ddychweled adre, a brysiais trwy dorfeydd y maes er mwyn dod o hyd i'r car a gyrru adre.  Yna gefais dri chwater awr i gael cawod, newid a pharatoi fy hun am y noson wobryo, cyn anelu unwaith eto at Wrecsam, y tro yma efo Jill a Miriam fel cwmni.

2.8.11

Eisteddfod... rhan 2

Dwi newydd ddychweled o'r steddfod unwaith eto, ar ol diwrnod arall o fwynhad.  Roedd rhaid i mi gyrraedd toc wedi naw a chwrdd â gweddill criw Ty Pendre ym Maes D.   Gaethon ni gyfle i ymarfer darn o'r cyflwyniad 'Enoc Huws' cyn cipio paned sydyn, ond ym mhen dim roedden ni'n eistedd o flaen cynulleidfa bach ond brwdfrydig.   Mi aeth pethau'n eithriadol o dda a dweud y gwir, ac roedd o'n ddiddorol clywed am y tro cyntaf yr hyn oedd gan John Mainwaring (un o drefnwyr Gwyl Daniel Owen) a Les (Barker) (cyfieithydd 'Enoc Huws') i ddweud am yr awdur o'r Wyddgrug.
 Ar ol gorffen  ar y llwyfan ges i siawns am sgwrs efo nifer o bobl eraill ym Maes D, gan cynnwys Nic Parry, Jonathon Simcock, Pegi Nant  (dwi'n credu), ac Enfys 'Swyddog y Dysgwyr', oedd isio trafod pethau ynglyn â nos yfory.  Mi ychwanegais at ei phentwr o bethau i wneud trwy datgan bod dwy o fy ngwesteion i'n vegans!! 


Tra o'n i ar y ffordd i ffeindio rhywbeth i fwyta mi glywais i lais cyfarwydd yn treiddio'r awyr o un o'r uchelseinion di-ri.  Ar ol dilyn y swn ffeindiais fy hun ym mhabell Prifysgol Aberystwyth lle roedd Ian Gwyn Hughes, sylwebydd Match of The Day yn sgwrsio am ei waith.  Mae o'n hynod o ddifyr felly eisteddais lawr i'w fwynhau tra llyncu y 'Yakult' am ddim o'n i wedi casglu ar fy nhaith!

Cefais ymweliad diddorol i babell Ffermwyr Ifanc Clwyd er mwyn i rywun tynnu llun o 'ddysgwr' (dwn i ddim pam!), ond digwydd bod bod dwy o'r ferched ar y stondin (o ardal Rhuthun) yn nabod aelodau o deulu fy Nhad.  Erbyn hynny roedd isio bwyd go iawn arna i a phiciais i lawr i'r ardal 'bwydydd i fynd' lle prynais Nwdls efo llysiau...blasus iawn.  Unwaith eto dilynais swn cyfarwydd, y tro yma llais y cerddor Al Lewis, oedd yn perfformio ym mhabell Coleg Genedlaethol Cymraeg. Eisteddais ar eu 'decking' nhw felly tra wrando ar Al yn 'hoelio' cwpl o ganeuon oddi ar ei grynoddisg newydd a bwyta fy nwdls.  Sylwais ar ol sbel ar 'het' cyfarwydd ar ben boi oedd yn eistedd wrth fy ymyl ac yn mwynhau'r cerddoriaeth hefyd.  Dim ond Dewi Pws sy'n gwisgo y ffasiwn het meddyliais...

31.7.11

Eisteddfod rhan 1....

Mi fydd hon yn bost eitha fyr gan bod ni wedi blino'n lan, ond o'n i isio sgwennu rhywbeth, pa bynnag mor fyr, am fy niwrnod cyntaf ar Faes Eisteddfod Wrecsam 2011.

Mi es i yno heddiw yn bennaf er mwyn cael fy nghyfweld gyda gweddill y pedwar olaf gan y bbc, a hynny'n fyw ar y teledu. Mi wnes i gyfweliad teledu cwpl o wythnosau yn ol, ond cael gorfod gwneud y peth yn fyw'n her newydd a gwahanol.  Diolch byth felly ges i gwmni dwy arall o gystadleuwyr Dysgwr y Flwyddyn (nad oedd Cat Dafydd yna yn anffodus oherwydd salwch).   Roedd o'n profiad diddorol a chyffrous a dweud y gwir, ac yn siawns i weld ychydig o bethau tu ol i leni'r bbc, hynny yw'r ystafelloedd colur a 'phabell' mawr llawn cyfrifiaduron ac ymchwilwyr.  Roedd 'na rywun yn edrych ar ein olau ni trwy'r amser, er roedd 'na lot o aros rhwng y darn 'byw' a recordio stwff o ran o noson wobrwyo nos fercher.   Un peth da am hyn oedd ges i ddigon o gyfle i siarad â Kay, Sarah, a'i gwr hi.
Mi aeth y darn byw yn o lew am wn i, er clywais fy hun wneud ambell i 'glanger'!  Mi aeth y dwy arall yn wych chwarae teg, ond wrth edrych yn ol y teimlad sydd gen i yw allai pethau wedi mynd yn lot waeth!

O ran y darnau wnaethon ni recordio nes ymlaen, mae'r syniad yw a fyddan nhw'n cael eu chwarae ar noson y wobrwyo.  Mi fydd hynny'n gadael i ni 'ymlacio' ychydig, yn hytrach na phoeni am siarad yn cyhoeddus ar y noson.  Do'n i ddim yn andros o hapus gyda'r ymatebion a roddais, ond dyna fo, mae o wedi darfod rwan.  Gobeithio does dim rhaid i mi guddio o dan y bwrdd!

Ar ol gorffen y cyfweliadau piciais i draw i Faes D er mwyn cyfarfod Mark o'r dosbarth nos. Gaethon ni sgwrs braf dros paned, a wnes i weld nifer o ffrindiau eraill hefyd.  Roedd popeth braidd yn afreal mewn ffordd, gan bod sbio arnon ni o ochr draw y pabell oedd llun maint llawn o fi fy hun (a gweddill o ddysgwyr y flwyddyn)!

Ta waeth, mi fydda i nol ar y maes bore mawrth i wneud y cyflwyniad Daniel Owen yn Maes D

24.7.11

Wythnos i fynd...

Mae wythnos yr Eisteddfod yn agoshau'n andros o sydyn erbyn hyn, a gaethon ni ein ymarfer sgets olaf nos fercher (diolch i Anne a Mike am ein croesawu i'w dy).   Roedden ni wedi codi'r bar ychydig wrth i ni drio ei wneud heb sgriptiau, ac er i ambell i un ohonynt cael peth drafferth gwneud hynny (gan gynnwys finnau!), ar ol nifer o ymarferion roedd pethau wedi gwella'n sylweddol.  

Mi wnes i fynychu ymarfer y cyflwyniad Enoc Huws gan Daniel Owen (efo criw Ty Pendre, Yr Wyddgrug) yn ystod yr wythnos hefyd, ac er gwaethaf y ffaith nad oes arnynt y pwysau ychwanegol o ddysgu geiriau'r darn, mi fydd y perfformiad yn dipyn o her.   Mae Cymraeg y llyfr yn eitha annodd ynganu mewn mannau, ac mae gen i dueddiad newid ambell i air i rywbeth mwy cyfarwydd, felly mwy o ymarfer amdani yw'r ateb dwi'n credu.

Yn olaf o ran pethau Eisteddfodol yw'r cyflwyniad mi fydd Jonathon Simcock a finnau'n ei wneud ynglyn â dysgu Cymraeg tu hwnt i Gymru, a hynny hefyd ym Maes-D.  Mi fydden ni'n cael sgwrs arall yn ystod yr wythnos er mwyn trafod y cyflwyniad yn bellach.

Mi fydd y cyflwyniad Enoc Huws yn digwydd am 10.00 dydd Mawrth, y cyflwyniad 'Dysgu tu allan i Gymru'  am 15.30 dydd Mercher, a chystadleuaeth y sgets am 12.00 dydd iau.

Edrychaf ymlaen at y tri 'digwyddiad' mewn ffordd gwahanol!

16.7.11

Wythnos anarferol... a Chariad@Iaith...

Mae'r wythnos hon wedi bod yn un anarferol i mi.  Dwi wedi treulio rhan mwy'r wythnos yn fan hyn yn Stockport yn edrych ar ol fy nai, ar ol i'w chwaer dioddef anafiadau yn sgil damwain parc dwr yn Nhwrci.  Roedd angen i'w rhieni trefnu hedfan ar frys er mwyn bod wrth ei hochr. Derbynion alwad ffon nos lun gan ei chariad i ddweud ei bod hi'n cael llawdriniaeth frys, ac yntau yn methu trosglwyddo'r holl wybodaeth yn eglur ar y pryd, gan ei fod o mewn sioc hefyd.

Diolch byth mae hi'n gwella erbyn hyn, er mi fydd hi'n wythnos arall o leiaf cyn iddyn nhw cael caniatad dychweled adre gan y doctoriaid.  Dwi'n meddwl ga i ddychweled adre i Gilgwri heddiw, gan fod Wil yn mynd i aros efo ffrind am y penwythnos. Tu hwnt i'r penwythnos mae ffrindiau agos y teulu'n mynnu iddi fo fynd yno i aros (a chael ei aduno â chi'r teulu sy'n aros gyda nhw!).  Mae'n eitha gymleth a dweud y gwir, gan fasai'n well gan Wil aros yn ei dy^ ei hun (ac yntau'n pymtheg oed) ond chwarae teg mae o wedi bod yn eiddfed iawn ac yn gwmni dda i mi.

Er gwaethaf trefniadau anarferol yr wythnos, dwi wedi cael siawns i dal i fyny efo digwyddiadau yn y 'Fforest', hynny yw Cariad@Iaith, diolch i S4Clic.   Rhaid dweud fy mod i wir wedi mwynhau'r cyfres, ac mae S4C yn haeddu'r holl glod maent wedi derbyn hyd yn hyn.   Yr unig peth do'n i ddim yn disgwyl (a dim isio gweld i fod yn onest) oedd dychweliad Janet Street Porter ar y noson gwobrwyo, yn cwyno o hyd am gyfleusterau Nant Gwrtheyrn!  Fasai wedi bod yn well gen i weld Tanni Grey Thompson yno, ennillydd y cyfres, a rhywun sydd wedi defnyddio ei Chymraeg yn y cyfamser, ond ella nad oedd hi ar gael?

Cyfres arall? pwy a wir, ond mae'r cymysgedd o 'ser' yn holl pwysig mewn cyfres o'r fath, felly dim byd ar frys os gwelwch yn dda..!