Showing posts with label Lerpwl. Show all posts
Showing posts with label Lerpwl. Show all posts

2.10.10

'naw or nefar' am 9 stryd Madryn....

9 Stryd Madryn

O fewn pythefnos, mi fydd Cyngor Lerpwl yn dechrau ar y gwaith o ddymchwel ddeuddeg o 'strydoedd Cymreig' y ddinas, ar ól blynyddoedd o esgeuluso a dadleuon.   Ond ymhlith y tai teras di-ri, ddoi di o hyd i fan geni un o enwogion y ddinas, sef y cyn 'chwilen' (lleiaf dawnus yn ól rhai!) Ringo Starr.   Onibai am y cysylltiadau gyda'r ffab ffór, gallai'r strydoedd di-nod wedi eu dymchwel heb gormod o sylw, wel tu hwnt i'r cymunedau lleol a 'sgowser mabwysiedig' o Gymro Dr. Ben Rees.   Mae'r cyn-weinidog wedi bod wrthi'n ceisio gwarchod treftadaeth Cymreig Lerpwl ers degawdau (y cyn 'Gadeirlan Cymreig' yn Toxteth er enghraifft, sydd bellach yn adfail peryglus), ac wedi cyfrannu erthygl hynod o ddiddorol yng nghylchgrawn 'Barn' y mis yma, yn rhestri ardaloedd o Lerpwl a adeiladwyd gan y Cymry, ac yn rhoi esboniadau i hanes yr enwau. Mi  godwyd y strydoedd Cymreig gan adeiladwyr Cymreig, a llenwyd y rheiny yn aml iawn gan Gymry, a greuodd ardaloedd o'r ddinas - Anfield a Bootle er enghraifft - oedd yn broydd Cymraeg bron... am gyfnod o leiaf!
Oes 'na obaith ar ól i'r strydoedd 'ma, sy'n dystiolaeth i ddylanwad y Cymry ar dyfiant Lerpwl?...  wel 'prin iawn' yw'r ateb.  Y person mwyaf dylanwadol o ran achub hyd yn oed un stryd, sef Stryd Madryn wedi dweud ei fod o'n 'rhy brysur' i rhoi cymhorth i'r ymgyrch.  Ac mae'n ymddangos does fawr o ddiddordeb ar led ymhlith cefnogwyr y Beatles, gyda dim ond ychydig o filoedd yn arwyddo deiseb ar-lein (gan cynnwys finnau gyda llaw!) yn erbyn gweithred y Cyngor.  Pe tasai Lennon neu McCartney wedi digwydd byw mewn un o strydoedd Cymreig y ddinas, mi fasai'r ymgyrch wedi codi bach o stém mae'n debyg, ond does gan Ringo druan fawr o gefnogaeth ar ól yn ninas ei febyd, efallai oherwydd y pethau cas mae o wedi dweud amdani dros y flynyddoedd?

Er gwaethaf y gweithred trist sydd ar fin digwydd (gallai'r tai wedi eu hadnewyddu heb os) yn y Dingle, mae 'na sawl enw stryd Cymreig sy'n ddigon diogel o Jac codi baw's y cyngor, fel y rheiny a restrwyd yn erthygl Barn, ond mi fydd darn pwysig o hanes Cymru-Lerpwl - os nad hanes cerddoriaeth poblogaidd - yn diflannu cyn bo hir.

1.8.10

Taith i Lerpwl...

Pier Head Lerpwl o fynediad y Doc Albert
(Yr amgueddfa yw'r adeilad onglog i'r chwith i gloc yr adeilad Liver)

Mi aethon ni draw i Lerpwl p'nawn ddoe, yn rhanol er mwyn, chwilio am sofa newydd, ond hefyd i ffeindio rhywle i gael te.   Roedd canolfan siopa Lerpwl One yn fwrlwm o siopwyr yn ogystal ag ambell i griw yn dathlu parti iár, ac roedd y rhan mwyaf o'r bwytai'n llawn dop, gyda tagfeydd yn ymestyn o ddrws ambell i un.  Mi benderfynom maes o law cael blas ar fwydydd 'cadwyn bar nwdl' Wagamama, a chawsom ein plesio gan y gweinu ardderchog, a'r bwyd blasus.   Yr unig peth nad oedden ni'n cyfarwydd gyda fo, oedd y ffaith mi ddaeth ein cyrsiau ar brydiau gwahanol.  Gaethon ni ein rhybuddio am hyn wrth archebu i fod yn deg, ac roedden ni'n bwriadu rhanu'r bwydydd beth bynnag felly doedd dim ots.

Ar ól gorffen mi aethon ni am dro lawr i'r Pier Head a'r Doc Albert, i weld sut mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen ar adeilad newydd Amgueddfa Lerpwl.  Ni fydd yr Amgueddfa ar agor tan 2011, ond mae'r adeilad bron wedi ei gorffen yn ól ei golwg, felly edrychaf ymlaen at ymweled á hi y flwyddyn nesa.
Mae glannau'r afon yn Lerpwl wedi eu trawsnewid yn llwyr dros y flynyddoedd diwetha, ac maen nhw wir gwerth eu gweld, yn enwedig ar noson braf yr haf!

13.7.10

Hanes Mewnfudwyr Lerpwl...

Mi brynnais llyfrau echddoe gyda'r tocyn llyfr hael a gefais gan myfyrwyr y dosbarth nos.  Ar ól peth amser yn pori silffoedd Waterstones,  penderfynais ar lyfr hanes o'r enw 'Liverpool 800', a gafodd ei gyhoeddi yn 2007 ar benblwydd 800 Lerpwl, a ges i ddigon yn weddill am lyfr bach am pensaerniaeth y ddinas hefyd.  Rhaid cyfadde dwi'n ymddiddori mewn hanes lleol, a phob tro dwi'n ffeindio fy hun mewn siop llyfrau, gaiff fy nennu at y casgliadau o lyfrau am y pwnc (chi'n gwybod, y rhai llawn hen luniau o drefi yn eu hanterth, neu o dlodi eu hanffodusion canrif neu fwy yn ól), neu hen fapiau'r Arolwg Ordanans, sy'n dangos patrymau datblygiad ein dinasoedd a threfi.

Ymhlith yr holl tudelannau, ffindias (ar ól ei brynu hefyd!) pennod am hanes yr holl mewnfudwyr sydd wedi lliwio hanes Lerpwl dros y canrifoedd, gan cynnwys wrth rheswm darn am Gymry Lerpwl.   Gafodd y Cymry enw weddol da fel gweithwyr yn ól y son, a phobl parchus a sobr fel y cyfriw (wrth gwrs dani'n son am ystrydebau yn fan hyn), yn enwedig o gymharu i'r Gwyddelod truan, a ddiodefodd lot mwy o ragfarn er gwaethaf bod yn 23% o boblogaeth y ddinas ar un adeg!  Oherwydd diffyg Saesneg rhan helaeth o'r Cymry 'dwad', roedd tueddiad iddyn nhw gweithio i Gymry eraill, hynny yw Cymry oedd wedi bod yn y ddinas peth amser.  Mi ddoth nifer sylweddol o weithwyr amaethyddol i dreulio eu gaeafau yn gweithio yn stordai y dociau, nifer ohonynt yn cael eu rhedeg gan Gymry.  Roedd 'na asiantaeth arbennig yn Lerpwl ar ran genethod o Gymry, er mwyn dod o hyd i waith iddynt,  gyda nifer yn mynd i weithio mewn tai y Gymry 'sefydlog'.

Wrth gwrs chwaraeodd y capeli rhan mawr yn y proses o helpu Cymry setlo, ac efo tua 90% ohonynt yn mynychu capel neu eglwys yn 1873 (63% trwy cyfrwng y Gymraeg), mae'n hawdd anghofio eu cryfder a dylanwad  (ni fynychodd cymaint o Wyddelod yr eglwysi Catholig hyd yn oed!) .   Yn ól un adroddiad, ar ran y Cymry newydd cyrraedd cynhalwyd yr eglwysi Cymreig oedfeydd yn y Gymraeg.  Roedd Cymry sefydlog y ddinas yn awyddus i gefnogi ymdrechion y rhai newydd dod i wella eu Saesneg, ac roedd defnydd o'r iaith fain yn rhywbeth i anelu ato,  ynghyd á chadw'r traddodiadau Cymraeg yn fyw.  Digon teg am wn i, a gyda chymaint o Gymry Gymraeg 'ar gael' prin a welwyd hynny'n bygythiad i'w hiaith.   Cofiwch, doedd dim rheol iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol hyd yn oed yn ól yn y 1930au  (y tro diwetha cynhalwyd yr wyl ar Lannau Mersi), ac roedd 'na lawer o Saesneg i'w glywed ar y llwyfan adeg hynny.

Ond digon am Gymry Lerpwl, mae hanes y ddinas yn cynnwys mewnfudwyr o bedwar ban byd, a gafodd sawl ohonynt triniaeth llawer gwaeth na hyd yn oed y Gwyddelod.  Mae'n amhosib anghofio'r cysylltiadau cywilyddus á cheiswasiaeth a ddaeth a sawl o Affrica a'r Caribi i Lerpwl, ac mae gan Lerpwl un o gymunedau Sieniaidd hynaf Ewrop, a sefydlwyd yng nghanol y pedwaredd canrif ar bymtheg.  Erbyn heddiw mae'r rhan mwyaf yn ymfalchio yn y diwylliannau gwahanol sydd wedi creu'r ddinas.  Yn 1851 roedd 50% o boblogaeth y dinas wedi eu geni tu allan i Lerpwl, sy'n tystiolaeth o symudiad enfawr o bobl.  Gyda'r ffasiwn symudiadau ddaeth tlodi enbyd, gyda disgwyliad oes i ferched yng nghanol Lerpwl cyn lleiad a 19, a 26 i ddynion, ffigyrau dychrynllyd o isel.

Mae'n ddrwg gen i, mae hyn yn troi mewn i draethawd (drwg).. felly wna i orffen!

(Gyda llaw, eiliadau cyn i mi gyrru y post hwn, sylweddolais ro'n i wedi defnyddio 'poeri' yn lle 'pori' yn yr ail brawddeg!  Wps... fasai hynny wedi swnio'n ofnadwy!)

14.5.10

Clwb darllen...

Ges i dipyn o frys yn y diwedd gorffen y llyfr 'Cymer y Seren' mewn pryd i'w adolygu bore dydd llun.
A dweud y gwir wnes i'w orffen tua chwater i unarddeg, llai na hanner awr cyn i mi ddisgwyl galwad ffón gan Wedi 3 yn gofyn am fy adolygiad i!   Wrth i mi ddechrau sgriblo rhywbeth lawr yn reit sydyn,  dyma Eleri o'r rhaglen yn ffonio i ddweud y basen nhw'n dipyn yn hwyr yn fy ffonio oherwydd diffyg technegydd. Er dim ond cwta chwater awr oedd yr oediad, ro'n i'n falch iawn ohono, ac erbyn iddynt ffonio yn ól ro'n i wedi llwyddo i sgwennu ychydig o feddyliau hanner call i lawr.  Llwyddais i'w darllen  (wrth trio peidio swnio fel ro'n i'n eu darllen) yn o lew dwi'n meddwl, gyda Eleri yn fy nghysuro am y golygu celfydd y basai'n digwydd ar ól y recordiad!

Mi aeth y pwt 'golygedig' allan ar Wedi 3 dydd mercher (fel rhan o 'Glwb Llyfrau' y rhaglen), yn ogystal á adolygiad rhywun  yn y stiwdio o'r un llyfr, a llyfr arall (Naw Mis gan Caryl Lewis dwi'n meddwl).  Wrth i fy sylwadau i gael eu darlledu, ymddangoswyd fap o Brydain Fawr á smotyn melyn wedi ei osod ar leoliad Cilgwri,  a fy enw i wrth ei ochr!  Teimlais wrth ei gwylio fel rhyw 'corrrespondant' o bell yn adrodd rhywbeth o bwys i'r newyddion! ac wedyn dychwelodd realaeth y sefyllfa...  sydd ddim cweit yr un peth nag'ydy!?

Dwi wedi dechrau llyfr newydd rwan, ond nid fel rhan o'r clwb darllen. Mae 'Gadael Lennon' gan Bet Jones yn hanes hogan yn ei harddegau sydd wedi byw yn Lerpwl ers rhai wyth mlynedd, ar ól i'w theulu symud yna o Ben Llyn.  Erbyn hyn mae'n rhaid iddynt symud yn ól i Gefn Gwlad Dwyor (am resymau teuleuol), rhywbeth sy'n torri ei chalon hi, a hithau wedi ymgartrefu yn y ddinas fawr ac yn dwli ar y 'Ffab Ffor'.  Mae'n llyfr andros o ddarllenadwy, a'r cysylltiadau efo Lerpwl a'r Beatles yn gwneud i'r hanes yn arbennig o ddiddorol i mi hefyd.  Gobeithio fydda i'n ei gorffen hi dros y penwythnos.

25.5.09

Trawsnewidiad y 'Pier Head'

Mae dinas Lerpwl wastad wedi dangos ei ochr gorau i'w 'gwaed bywyd' yr afon Mersi, ond dyddiau 'ma mae gan yr hen lannau llawer mwy i gynnig ymwelwyr, a ffordd arall i'w cyraedd.



Y camlas yn rhannu'r hen a'r newydd

Mae'n cwpl o flynyddoedd ers ro'n i lawr yn y Pier Head, ond pigiais i draw y p'nawn 'ma (tra oedd Jill yn siopa), yn bennaf i weld estyniad i gamlas Leeds Lerpwl, sy'n arwain cychod culion reit i galon y ddinas a'r Doc Albert. Roedd yr ardal dan ei sang, efo ymwelwyr o dros y byd (o'r hyn a glywais) yn mwynhau'r tywydd braf, ond welais i ddim yr un cwch cul yn anffodus! A dweud y gwir ni faswn i wedi gwybod yr ardal, onibai am yr adeiladau crand cyfarwydd sy'n goruchafu'r sefyllfa sef y 'three graces' (Yr Adeilad Liver', yr adeilad Cunard, a'r Adeilad Porthladd Lerpwl), mor syfrdanol yw'r newidiadau. Efo amgeuddfa newydd yn cael ei adeiladu drws nesa, mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair i'r hen ddinas frwnt dwi'n cofio o'r saithdegau ar wythdegau. Ewch draw os gewch chi gyfle, mae'n werth ei gweld!



Un o'r lociau newydd sy'n arwain cychod trwy'r cyfundrefn o ddociau tuag at y Pier Head

18.4.09

Taith Anfield

Mi aethon ni ar daith o stadiwm Anfield y bore 'ma, a phrofiad gwerthchweil yr oedd hi i rywun efo diddordeb yn y 'gêm hardd'. Dechreuodd y taith wrth mynedfa'r chwaraewyr o dan brif eisteddle'r stadiwm, mynedfa a gafodd ei addasu wedi ymosodiad wyau ar reolwr Man Utd rhai flynyddoedd yn ôl. Dwedodd ein tywysydd mi gafodd yr unigolyn wnath lluchio'r tafledigion hirgron ei siarsio efo 'diffyg gallu taflu'n gywir' ....! dim ond y gyntaf o sawl jôc am brif gelynion Lerpwl.

Wedi ymweliad â'r ystafeloedd newid (yn syfrdanol o blaen ac 'anfoethus'), mi aethon ni o dan yr arwydd enwog 'This is Anfield' at ochr y cae, a'r seddi ar gyfer y rheolwr, ei garfan o hyfforddwyr, eilyddion a ballu. Wedi siawns i bawb cael tynnu llun yn eistedd mewn cardair Rafa Benitez, mi aethon ni ymlaen at 'y Kop', lle disgrifiodd y tywysydd yr hen drefniadau ar ran ateb galw natur tra sefyll efo 30,000 o bobl o'ch amgylch chi. Does dim ond rhaid dweud gafodd llawer o baburau newydd eu gwerthu cyn pob gêm a ni chafodd sawl un eu darllen, a nad oedd hi'n syniad da i wisgo dy sgidiau gorau ar risiau'r Kop....

Ar ôl ymweled â'r siop, mi aethon ni i Amgeuddfa Anfield, arddangosfa diddorol iawn yn dilyn hynt a helynt y clwb o'r dyddiau gynnar i'r presennol, casgliad yn wirioneddol diddorol i gefnogwr Lerpwl, neu genogwyr peldroed yn gyffredinol.

Ar y ffordd o'r stadiwm wnaethon ni basio cofeb Hillsborough, a chawsom ni ein syfrdanu gweld cymaint o flodau yna, canoedd o fwnsiaid ohonynt, teyrnged addas iawn i'r penblwydd trist sydd newydd bod.

17.12.08

post olaf cyn y dolig, mae'n siwr...

Mae'n hen bryd i mi ychwanegu rhywbeth at y blog hon, neu mi fydd 2009 wedi cyrraedd. Mae'r dyddiau wedi bod yn toddi mewn i'w gilydd wrth i mi geisio cwblhau nifer o jobiau gwahanol yn ogystal a'r prosiect ar y stafell ymolchi adre (sydd wedi troi allan i fod jobyn andros o fawr, wel o leiaf ar ran amser). Mae'r peth bron a bod wedi ei gorffen, wel ar wahân i'r teils ar y llawr ac ambell i beth bach, ond yn aml iawn mae'r pethau bach i orffen jobyn yw'r rheiny sy'n cymryd mwy o amser, ta waeth mae'r 'llinell terfyn' o fewn golwg erbyn hyn.

Ar ran y nadolig, mi wnes i rywbeth tipyn bach yn wahanol yn y dosbarth nos Cymraeg olaf cyn y dolig. Ro'ni'n gwybod mi fasa rhai o'r dosbarth i ffwrdd, felly penderfynais beidio wneud gwers arferol, ac yn ei le i fynd trwy geiriau ychydig o ganeuon nadoligaidd Cymraeg. Ro'n i wedi printio allan y geiriau o 'Noson Oer Nadolig', 'Nadolig Llawen'(war is over), ac 'Eira Mawr' er mwyn iddyn ni mynd trwyddynt cyn gwrando ar y caneuon eu hun. Mi wnaethon nhw eu mwynhau dwi'n meddwl, ac mi aeth pawb adre gyda chrynoddisg o'r caneuon fel anrheg Nadolig gynnar!

Tra dwi'n son am y Nadolig, mi aethon ni fel teulu i'r wasanaeth teuleuol 'crib' yn y cadeirlan yn Lerpwl dros y penwythnos, ac roedd hi'n braf cael dianc o'r holl brysurdeb a gwallgofrwydd sy'n cysylltiedig gyda'r gŵyl erbyn heddiw, ac i fwynhau'r cerddoriaeth ac awyrgylch anhygoel tu mewn i ofod enfawr yr adeilad ysblenydd hon.

23.10.08

Noson Gwylwyr Lerpwl...

Yn ôl cyflwynydd y noson, mi welodd Noson Gwylwyr S4C yn Lerpwl un o'r cynulleidfaoedd mwyaf a welodd o mewn cyfarfod o'r fath. Roedd hi'n braf gweld yr ystafell crand yn y Bluecoat Chambers (adeilad hanesyddol ac enwog,ac yn perffaith am baned a saib bach o fwrlwm y ddinas) llawn o wylwyr y sianel, yn barod i fynegu eu barn am gynhyrch yr orsaf teledu Cymraeg. Clywon ni hefyd gan arbennigwr technegol manylion ynglŷn â'r 'signal' digidol bydd dim ond ar gael (neu ddim!) i wylwyr dros y ffin wedi'r newidiadau i ddod. Mae'n ymddangos bod y signal digidol yn llawer mwy pennodol ar ran daearyddiaeth na'r signal analog, ac o'r herwydd yn llai tebygol o gario yn bell tu hwnt i ffiniau Cymru. Fel person sy'n dibynnu ar y signal analog, roedd hynny'n newyddion ddrwg, ond erbyn hyn dwi wedi derbyn mi fydd rhaid i mi fuddsoddi mewn disgyl lloeren a blwch o driciau er mwyn cario ymlaen gwylio'r sianel ar y teledu. O'n i'n gobeithio mi fasai'r signal digidol yn cryfhau ar ôl i'r signal analog cael ei diffodd, ond yn ôl pob son does fawr siawns o hynny'n gwneud effaith fan hyn yn Lloegr. Dwi'n meddwl mai Freesat ydy'r ffordd gorau i fynd i finnau, yn enwedig gyda S4C yn dechrau darlledu rhai pethau mewn fformat HD cyn bo hir. Mae gynnon ni teledu HD ond 'sgynnon ni ddim ffordd o dderbyn y lluniau yn y dull honno, ond mi fasai Freesat yn ei galluogi hynny.

Mae'n ddrwg gen i! dwi wedi crwydro'n bell o 'deitl' y blog 'ma, sef y noson ei hun! Roedd hi'n noson da, gyda sawl person yn dweud eu dweud am raglenni hen a newydd. Wnes i ddim dweud dim byd yn ystod y trafodaeth cyhoeddus, ond ces i gyfle i sgwrsio efo un o rheolwyr y sianel ynglŷn â'r darpariaeth i ddysgwyr (yn gwisgo fy het fel 'tiwtor' yn ogystal a dysgwr) a soniodd hi am wasanaeth newydd i ddysgwyr, bydd yn cael ei lansio yn y flwyddyn newydd, ac mae'n amlwg o sgwrsio gyda hi bod dysgwyr yn rhan bwysig o 'gynulleidfa targed' S4C, rhywbeth dwi'n cydfynd a hi'n llwyr. Awgrymodd un o do ifanc y cynulleidfa gwneud rhaglen yn dilyn hynt a helynt dysgwyr yn gwneud tasgiau gwahanol fel rhyw fath o 'teledu realaeth', soniodd y rheolwraig am 'Welsh in a Week' a meddyliais i am 'Cariad @ Iaith', y cyfres am ddysgwyr o Nant Gwrtheyrn, rhaglenni diddorol iawn, ac felly mae'n hen bryd ailgylchu'r syniad mewn newydd wedd, gawn ni weld...

Awgrymodd Dion, boi trin gwallt enwog o Lerpwl, cynhyrchu rhaglen fatha 'Come Dine with Me' yn y Gymraeg er mwyn dennu cynulleidfa ifancach, ac yn y fan a'r lle datblygodd y syniad i fod yn rhaglen realaeth wedi ei gosod mewn siop trin gwallt yn Lerpwl efo Cymru Cymraeg y ddinas (neu falle dysgwyr hefyd!) yn dod am driniaeth a sgwrs difyr a Dion!! Syniad diddorol tu hwnt..

Wrth rheswm roedd 'na gwyno am regi a rhyw ar y sianel (cofiwch roedd 'na griw go lew o gapelwyr yna) ond yn y bon roedd 'na ymateb cadarnhaol gan yr ifanc a'r hen. Roedd un o fy myfyrwyr yn ddigon dewr i droi fyny efo ei gariad (sy'n siarad Cymraeg), chwarae teg iddo fo, gwisgodd y clustffoniau oedd ar gael gyda cyfiethiad Saesneg ar y pryd, a dwi newydd derbyn tecst yn dweud sut gymaint a wnaethon nhw mwynhau'r noson. Felly noson da, a diolch i S4C am ei drefnu.

3.9.08

Cymru, Lerpwl a Stryd Hope...



Y golygfa bendigedig o ben twr Cadeirlan Lerpwl tuag at y Gadeirlan Pabyddol (neu 'Pabell Paddy' fel mae'n cael ei galw) mae Stryd Hope yn eu cysylltu.

Clywais 'raglun' heddiw o ddrama o'r enw 'Dyddiau Hope Street' sy'n cael ei darlledu p'nawn Sul ar Radio Cymru. Gwrandawais yn astud ar ôl glywed enw'r ddrama gan fy mod i'n cyfarwydd iawn gyda'r ardal 'Stryd Gobaith' o fy nyddiau fel myfyriwr yn Ninas Lerpwl. Hope Street yw'r heol (trwy cyd-ddigwydiad) sy'n arwain o'r Gadeirlan Anglicanaidd at y Gadeirlan Pabyddol, ac enw braidd yn eironig gan ystyried yr hanes cythryblus rhwng y dau ffydd yn Lerpwl (Dwn i ddim os oes cysylltiad rhwng enw'r stryd a phentre Hope (Yr Hob) yn y Gogledd?). Ta waeth, yn ôl y rhaglun, hanes digwyddiadau yn ystod cyfnod y chwedegau yw'r ddrama, gyda cyffro 'Beatlemania' fel cefndir. Roedd hyn yn gyfnod pan oedd presenoldeb y Cymry Cymraeg yn dal i weddol cryf ar Lannau Mersi, cyfnod dwi'n ychydig yn rhy ifanc i'w cofio a dweud y gwir, ond dwi'n edrych ymlaen at ei chlywed.

A phan dwi'n wrthi'n son am gysylltiadau rhwng Lerpwl a Chymru, darllenais yn fy nghopi newydd o 'Sgrîn', bod S4C yn cynnal 'noson gwylwyr' yng Nghanolfan Bluecoat y Ddinas ar 23 Hydref am 7 o'r gloch. Wedi llwyddiant ei darllediad o 'Bawb a'i Farn' yn cynnharach yn y flwyddwn, mae'n ymddangos eu bod nhw wedi sylweddoli erbyn hyn mae ganddynt nifer sylweddol o wylwyr ar Lannau Mersi. Gobeithio ga i'r siawns i fynychu'r cyfarfod, a dweud fy nweud falle am ambell i raglen dda ac ambell i un gwael...!

17.2.08

Pawb a'i Farn

Mi ddoth y rhaglen 'Pawb a'i Farn' i Lannau Mersi wythnos yma am y tro cyntaf erioed, i ganol dinas Lerpwl yn y neuadd San Sior. Ces i'r profiad o fod yn y cynulleidfa gyda tua cant o bobl eraill, gan cynnwys Cymry'r ardal, myfyrwyr o Brifysgolion Lerpwl ac ambell i ddysgwr siwr o fod. Roedd yr ymweliad i'r neuadd (er dim ond rhan ohono) yn werth y taith byr i Lerpwl, adeilad dwi heb ymweled â hi o'r blaen mae gen i gywilydd cyfadde! Wedi blynyddoedd o waith adnewyddu, cawsom ni i gyd ein syfrdanu wrth cerdded trwy drysau trwm yr ystafell cyngherdd. Yna, yng nghanol y stafell safodd set Pawb a'i farn, un sy'n fel arfer mewn canol rhai canolfan hamdden di-nod yn ôl Dewi Llwyd cyflwynydd y cyfres. Wedi sgwrs bach a chyflwyniad gan 'rheolwr llawr' a rownd o gwestiynau gan Dewi er mwyn setlo nerfau'r panel yn ogystal a rheiny y cwestiynwyr, datganwyd dim ond munud i fynd cyn mynd ar yr awyr. Roedd y tensiwn yn anhygoel, ac erbyn hyn dwi wir yn werthfawrogi dawn cyflwynwyr megis Dewi Llwyd sy'n cadw trefn ar y math o raglenni fyw yma. Roedd yr hanesydd John Davies seren y panel heb os, ond wnath Ben Rees, gweinidog capeli Lerpwl am ddeugain mlynedd, cyfraniad da hefyd. Ces i noson dda, er teimlais fy hun yn crynu pob tro mi ddoth y 'boom meic' dros fy mhen! Mi faswn i wedi licio dweud rhywbeth, ond pob tro meddyliais i am rhywbeth i ddweud, roedd yr eiliad wedi mynd cyn i mi godi fy llaw!

Mae'r rhaglen ar gael ar y we am wythnos neu ddwy, dyma'r dolen:

http://www.s4c.com/c_watch_level2.shtml?title=Pawb%20a'i%20Farn

(rhaglen pedwar yw'r un o Lerpwl)

4.10.07

Yn dathlu Cymreictod Lerpwl

Dwi ddim cweit yn sgowser. Ces i fy ngheni ochr anghywir y dŵr i fy ngalw fy hun hynny, ond dwi'n hoff iawn o'r hen ddinas budr (Lerpwl..) sy'n pwysig dros ben i fywyd ar y penrhyn 'ma. Ces i fy niddori felly i weld y darn hon ar raglen Wedi 7 ynglŷn â dylanwad Cymry ar Lerpwl dros y canrifoedd, a'r plac newydd yn ardal Pall Mall (Little Wales) i ddathlu'r ffaith. (Symudwch y 'chwaraewr ymlaen at 18'00" er mwyn mynd at y darn am Gymry Lerpwl).

Roedd 10% o boblogaeth Lerpwl yn 1813 yn Gymry, y rhan mwyaf yn Gymry Gymraeg wrth rheswm, cysylltiad unigryw (ar ran cryfder a deaeryddiaeth) sy'n clymu Lerpwl a Chymry o hyd, ac sy'n gwneud i fi ofyn wrth fy hun pam ar wyneb y ddaear ydy cymaint o Gogs yn cefnogi Man U!! grrrrr.