29.6.10

Dim Mynediad...


Pe taset ti i yrru'r holl ffordd ar draws arfordir gogleddol penrhyn Cilgwri o un gornel i'r llall, hynny yw o New Brighton i Hoylake mwy neu lai, mi fasai milltir olaf dy daith yn dy arwain lawr Stanley Rd, heol hollol syth llawn tai crand sy'n ffinio naill ai'r traeth neu cwrs golff y Royal Liverpool.

A dyma fydd diwedd dy daith, llidiart efo arwydd 'Dim mynediad' yn ei ganol.  Wrth rhoi'r ci yng nghefn y car ychydig o ddyddiau yn ól tynnais y llun hwn ar ól gweld y peth (am ryw rheswm)  fel rhyw rhybudd i beidio mentro i'r wlad arall 'na  dros yr aber! Mae'r person sydd wedi gadael ei gar yn sbio dros y tywod fel pe tasai o'n pendroni am be i wneud nesa er mwyn cyrraedd ochr arall yr aber! (wel yn fy nychmynyg - mae'n debyg dim ond mwynhau'r golygfa ydy o).  Welais i ryw arwyddocad yn yr arwydd 'parth di-alcohol' hefyd, fel rhyw gyfeiriad i'r oes a fu, pan oedd Cymru (wel ardaloedd ohoni) yn lle 'sych' pob dydd Sul, adeg dwi'n gallu cofio - jysd!

Gyda Ffynongroyw dim ond pum milltir o fan hyn (red rocks yw enw'r llecyn creigiog yma) does dim syndod caiff ambell i ymwelydd eu clywed yn synnu am ddiffyg bont neu 'causeway' i'n cysylltu á Chymru fach.  Dwi'n cofio tua hugain mlynedd yn ól darllen am gynllun arfaethedig i godi llinell rheilffordd dros yr aber.   Ond nid cynllun er mwyn hybu economi y Gogledd oedd hwnnw, yn hytrach ffordd o agor i fyny farchnad tai ychwanegol i gymudwyr Glannau Merswy, yn ól proses o 'ymgynghori' aeth yn ei flaen ar y pryd.  Mewn gwirionedd 'breuddwyd gwrach' oedd y cynllun, a dwi heb glywed son amdano ers hynny.

Ta waeth mae'n lleoliad hyfryd, sy'n cynnig golygfeydd ysblenydd ar ddiwrnod braf, gan cynnwys ynysoedd Hilbre,  bryniau Sir y Fflint, Y Carneddau a'r Gogarth.


25.6.10

Y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg...

Glywais sgwrs diddorol ar raglen Beti a'i Phobl ddoe, gyda athrawes Cymraeg o'r enw Julia Burns - hogan o Gaerdydd o dras Gwyddelig.  Roedd hi'n cashau'r Cymraeg yn yr ysgol, ond ar ól teithio ychydig a theimlo hiraeth dros ei mamwlad, penderfynodd dysgu'r iaith ar ól dychweled, a threulio ei gyrfa yn dysgu'r iaith (fel ail iaith)  mewn ysgolion.   Pwynt diddorol a gododd yn ystod y sgwrs oedd: ai wneud mwy o ddrwg i'r iaith yn y tymor hir yw gorfodi disgyblion ysgolion cyfrwng Saesneg dysgu'r Gymraeg?  Mae Julie Burns, sydd gan profiad eang yn y maes, yn sicr nad ydy hi o les i'r Gymraeg (yn y broydd di-Gymraeg) i'w gorfodi nhw i'w wneud, ac mi fasai dysgu plant rhagor am hanes Cymru - a thrwy hynny codi ymwybyddiaeth - yn wneud mwy o fudd.  Mae hi'n credu bod sawl disgybl yn gadael ysgol gyda chasineb pur at yr iaith oherwydd gwneud Cymraeg yn yr ysgol.  Mae dechrau dysgu iaith yn unarddeg oed yn rhy hwyr o lawer beth bynnag meddai hi, ac mi fasai'n wneud mwy o synnwyr i roi'r arian mewn i ddysgu'r Gymraeg i blant iau yn yr ysgolion cynradd.

Dwi'n gwybod pa mor annodd yw dysgu iaith i oedolion brwdfrydig erbyn hyn, ni faswn i'n dechrau dychmygu pa mor annodd yw hi i ddysgu iaith i blant yn eu harddegau heb iot o frwdfrydedd ( a lot arall ar eu meddyliau!).  Wrth gwrs mi fydd 'na ambell i eithriad, fel y dysgwyr o ysgolion cyfrwng Saesneg ein bod ni'n eu clywed yn ennill gwobrau yn Eisteddfod yr Urdd, ond tybed be ydy'r canran o bobl sy'n cael eu dennu at yr iaith trwy'r gwersi 'gorfodol' 'na?

22.6.10

Diwedd y daith...?

Enw un o'r rowndiau yn ein cwis diwedd y tymor oedd 'Cymru - Glannau Merswy', hynny yw unrywbeth yn ymwneud á'r cysylltiadau agos rhwng Gogledd Cymru a Glannau Merswy.  Un o'r cwestiynau oedd pryd codwyd y bont ffordd cyntaf dros y Dyfrdwy yn Y Fferi Isaf (Queensferry)?
Yr ateb oedd 1897, blwyddyn Jiwbili diamwnt y Frenhines Victoria, ac o'r dathliad hwnnw daeth enw'r bont, a'r un las a ddilynodd yn y 1920au.
Yn ystod fy ymchwil  des i ar draws y llun gwych yma o'r bont tól gwreiddiol gyda'r cwch fferi'n aros am gwsmeriaid.  Dwn i ddim os parhaodd y gwasanaeth fferi am gyfnod ar ól i'r bont agor.  Yn sicr,  gyda'r bont yn codi tól i'w defnyddio, gallai fferi o leiaf trio cystadlu trwy gynnig prisiau is na thól y bont, am gyfnod o leiaf...falle?  Ond maes o law gaeth yr hen gwch ei suddo yn y fan a'r lle, a llosgwyd darnau o'i sgerbwd ar da^n bwthyn lleol am flynyddoedd i ddod yn ol y hanes.


Cwch Y Fferi Isaf, diwedd y daith?

Mae'n anhygoel wrth edrych ar y llun i feddwl am y cynlluniau presennol (dadleuol) i yrru traffordd dros yr afon yn yr un lleoliad mwy neu lai, pont a fasai bod y pedwaredd un i gael ei chodi yna mewn cyfnod o dipyn mwy na chanrif!

19.6.10

Thomas Brassey....pwy?

Wnes i ddysgu rhywbeth newydd am yr ardal yma heddiw - ond yn hollol ddamweiniol!  Wnes i sylwi ar arwydd gwybodaeth wrth ymyl y bont yn Saughall Massie (pentre cwpl o filtiroedd o fa'ma) ychydig o flynyddoedd yn ól, ond ro'n i heb stopio i edrych arno erioed, er mod i'n gwibio hebio iddo fo bron pob yn ail dydd.  Meddyliais ro'n i'n gwybod be oedd arno fo a dweud y gwir.  Yn 2006 darganfodwyd - tra adeiladau ffordd osgoi - hen adfeilion pren.  Yn ól y dyddio carbon a berfformwyd arnynt, cymysgedd o dderw yn dyddio yn ól i dua 2500 c.c. a phren onnen o dua 800c.c.   Tystiolaeth o ryw strwythyr cynnar oedd y rheiny, yn ól yr arbennigwyr, pont mwy na thebyg, a meddylias a godwyd y 'plac' i ddynodi hanes y darganfyddiad yna.


Pont Saughall Massie a'i phlac

Ond hollol anghywir y roeddwn i! Plac i ddathlu gwaith contractwr o beirianydd Thomas Brassey ydy o, boi wnaeth codi ei bont cyntaf yno yn 1829, cyn symud ymlaen i fod yn un o beirianwyr sifil mwyaf cynhyrchiol a welodd y byd erioed.  Erbyn 1870, ei gwmni o wedi adeiladu 5% o holl reilffyrdd y byd, gan cynnwys pontydd di-ri (Trawsbont Cefn-Mawr ger Wrecsam yn eu plith), ac yma yn Saughall Massie cododd ei bont gyntaf un!  

Pont fach ydy o, ac un ro'n i heb edrych arni'n fanwl tan yr wythnos yma wrth i mi stopio wrth ei hymyl.
Codwyd y bont fel rhan o gynllun i wella ffyrdd a sychu corsydd yn ngogledd Cilgwri, a thrwy hynny dod á'r ardal o dan y gyfraith, oedd adeg hynny'n dal i loches i ladron glan y mór, a arferai gynnau goleuadau er mwyn dennu llongiau tuag at y traeth.
Un o gyffuniau Caer oedd Brassey yn wreiddiol, a symudodd i Benbedw i sefydlu ei fusnes ar ól prentisiaeth fel arolygwr.  Cyfarfodd o á Thomas Telford tra weithio ar yr A5 rhwng Yr Amwythig a Chaergybi, rhywun mae'n siwr a gafodd dylanwad arno fo.

Y peth wnaeth fy synnu i wrth ddarllen y plac yno, a'r holl stwff ar y we er mwyn sgennu'r post 'ma, oedd ro'n i heb dysgu gair amdano fo tra yn yr ysgol...  mae'n annodd coelio!   O feddwl wrth gwrs, mae 'na stryd di-nod ym Mhenbedw (lle oedd cyfnither ngwraig yn byw am sbel) o'r enw Brassey St. ond doeddwn i erioed wedi wneud y cysylltiad.   Erbyn hyn, pob tro dwi'n gyrru dros y bont 'na, wna i feddwl am y boi a gododd hi, a'i gampau peiriannol dros y byd i gyd!

11.6.10

Dysgwr newydd ym Mhangor....

Mae'n ymddangos bod Cymdeithas yr Iaith yn gandryll nad yw prifathro newydd Prifysgol Bangor yn medru'r Gymraeg. Mae'n hawdd cydymdeimlo efo'r safbwynt yma, gyda'r Prifysgol yng nghanol un o gadarnleoedd y Gymraeg. Dwi'n darllen bod Bwrdd yr Iaith wedi bod yn ymchwilio i weld os mae'r penderfyniad yn mynd yn erbyn oblygiadau cyfreithiol y Prifysgol, ond does gynnon nhw fawr o obaith o newid y penderfyniad presennol, dim ond newid polisi i'r dyfodol.. o bosib.

Gwyddel o Felffast yw'r boi sydd wedi ei benodi, rhywun yn ol pob son sydd wedi wneud lot i hybu defnydd o'r Wwyddeleg tu fewn i'w Brifysgol presennol: Maynooth. Yn ól Bangor mae o wedi addo mynd ati i ddysgu'r Gymraeg, ond fel dyni i gyd yn gwybod mae'n haws dweud na wneud, ac mi fydd hi'n sbel go hir cyn iddo fo ddatblygu ei sgiliau ieithyddol i safon digon dda i weithredu ynddi o ddydd i ddydd yn ei swydd newydd.

Ond wrth gwrs, mae dysgwyr yn gallu bod ymhlith y rhai gyda agwedd mwyaf brwdfrydig at eu ieithoedd newydd! Pwy sy'n gallu anghofio Mr Brunstrom, a enillodd glod yr Orsedd dros ei safbwynt ynglyn á'i iaith mabwysiedig. Gallai'r Athro Hughes (y pennaeth newydd) bod yr un mor weithredol dros y Gymraeg a'r cyn-brifgwnstabl efallai, a gallai o weld mwy o werth yn iaith brodorol cartref ei Brifysgol newydd na'r rheiny sydd wedi ei benodi. Mae un peth yn sicr, mi fydd na o leia un ddysgwr newydd ym Mhangor erbyn mis Medi....

9.6.10

Cymhlethdodau Cwpan y Byd....




Wel mae'r wlad yn decharu cael ei boddi o dan fór o faneri San Sior. Ochr yma y ffin fasai rhywun yn ei disgwyl hynny, ond mae rhai pobl wedi mynegi eu siom ar weld cymaint ohonyn nhw'n chwifio yng Nghymru, ac ar werth mewn siopau ac ati. Dwi ddim yn gwybod be' i wneud am hyn a dweud y gwir. Dwi'n swnio fel Sais i bob pwrpas, dwi'n byw yn Lloegr a ges i fy ngeni yma. Er nad ydwi'r fath o berson i wneud sioe mawr o gefnogi tím pel-droed, pe taswn i i fyw yn ddigon hir i weld Cymru llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol cwpan y byd, mi faswn i'n sicr o godi ambell i faner Cymru i ddathlu'r ffaith, sdim ots lle yn y byd ro'n i'n byw ar y pryd.

Wrth gwrs mae pawb yn disgwyl i Loegr cyrraedd o leiaf y chwateri, ac mi fasai unrhywbeth llai yn arwain at y boi Fabio 'na yn derbyn 'pay-off' mawr a theimlo'r gwynt ar ei ól. Dwi ddim yn dymuno gweld Lloegr yn gwneud yn ddrwg yn y cystadleuaeth, ond does fawr o ots gen i os maen nhw'n llwyddo neu beidio chwaith. Mi fasai rhai pobl yn gweld yr agwedd hynny'n rhyfedd fan hyn yn Lloegr, a fi gyda hawl perffaith i gefnogi un o ffefrynau y cystadleuaeth, ond yn dewis peidio. Ond mewn gwirionedd nid dewis ydy o. Dwi ddim yn teimlo owns o angerdd dros dimau Lloegr, nid baner fi yw'r baner coch a gwyn. Pe tasai Loegr i gwympo mi fasai'r rhan mwyaf o faneri diflannu dros nos mae'n debyg ( yn enwedig y rhai yng Ngymru!), a gallai hynny gwneud pethau'n well i'r rhai sy'n cael eu gwylltio gan y Saeson yng Nghymru yn dangos eu lliwiau.

Yn anffodus mae gynnon ni 'aduniad teuleuol' nos sadwrn, a ga i fy ngorfodi i wylio gem cyntaf Lloegr mewn cwmni criw o gefnogwyr lloegr frwdfrydig (sefyllfa hunllefus!). Mi fydd rhaid i mi ganolbwyntio ar safon y peldroed, tra gobeithio mi fydd yr Unol Daleithiau yn chwarae yn weddol, er mwyn i mi sylwi ar ambell i symudiad da ganddynt, a nad ydy Rooney ar dan!

Ta waeth fydda i'n prynu llyfr gan Y Lolfa o'r enw 'Cwpan y Byd' (gwelir uchod) a'i osod ar y bwrdd coffi, ac yn dweud pethau fel 'Dwi'n jysd gobeithio gwylio pél-droed o safon da, sdim ots pwy sy'n chwarae'....

5.6.10

Rhoi Cynnig ar Drydar......

Ar ól cael ffón newydd yn ddiweddar, penderfynais roi gynnig ar y teclyn 'Twitter' sy'n rhan o feddalwedd y ffón yn barod.  Does gen i fawr diddordeb yn y fasiwn rwtsh mae'r rhan mwyaf o bobl  (a dwi'n cyfri fy hun yn y grwp yma wrth cwrs) yn 'trydar' a dweud y gwir, ond fel unrhyw dechnoleg newydd, dwi'n awyddus i weld y posibiliadau o'i defnyddio i wella fy Nghymraeg.  Es i ati felly i ddod o hyd i 'Twittwyr' sy'n trydar yn y Gymraeg,  a des i o hyd i restr go hir ar flog Metastwnsh.  Y problem yw wrth cwrs mae nifer ar y rhestr naill ai wedi rhoi'r gorau i drydar erbyn hyn, neu'n drydar yn Saesneg yn bennaf.  Ta waeth, mae gen i lond ffón o 'tweets' gan 'Golwg360' a chanlyniadau Steddfod yr Urdd.  Mae ambell i berson ro'n i'n eu dilyn wedi codi braw arnaf erbyn hyn, ac wedi cael eu dileu oddi wrth fy rhestr. Roedd un boi'n trydar bob yn ail munud bron (i gyd yn Saesneg) felly ges i wared ohono fo y bore 'ma - mae eisiau bywyd arno fo.

Mae'r temtasiwn wrth cwrs yw i ddilyn pobl enwog, ac mae sawl yn mwynhau ei wneud.  Mae gan Stephen Fry rhyw filiwn a hanner yn ei ddilyn eerbyn hyn.  Rhaid cyfadde dwi'n dilyn Cerys Matthews, a dwi newydd ychwanegu Rob Brydon - jysd gan fy mod i wrth fy modd ag yncl Bryn. 

Felly os ti'n trydar yn y Gymraeg, rhoi wybod i mi os gweli di'n dda...

4.6.10

TIR newydd.....

Mi wnes i dderbyn copi o brosiect newydd Cerys Matthews y bore 'ma, sef 'TIR', casgliad o hen ganeuon Cymraeg a ffotograffiau o gefn gwlad Ceredigion. Mae'n casgliad ardderchog, sy'n cynnwys fersiwn tri pennill o'r anthem genadlaethol! yn ogystal a sawl ffefryn arall. Mae 'na 17 cán ar y CD, gyda'r crynoddisg ei hun tu mewn i glawr blaen llyfr bach (faint CD), sy'n cynnwys y geiriau, eu cyfieithiadau a hanes y caneuon hefyd. Ymhlith geiriau y caneuon mae 'na ffotograffiau o hen Sir Benfro yn bennaf, ac mae nifer o'r cymeriadau yn y lluniau yn gyn-deidiau/neiniau i Cerys Matthews, sy'n rhoi naws personel iawn i'r holl waith. Ar ran y caneuon mae Cerys wedi myn d amdani i roi ei stamp unigryw ei hun arnynt (be arall fasen ni'n ei ddisgwyl!). Mae 'na ambell i gán digyfeiliant bron a bod, tra bod y rhan helaeth yn ddigon syml eu naws. Dwi'n hoffi clywed y rhai sy'n cyfarwydd fel caneuon i gorau meibion (er enghraifft) yn cael ei torri lawr i'r 'asgyrn noeth', ganeuon gwerinol syml. Mae Cerys Matthews yn arbennigwraig am wneud hyn, ac efo 'TIR' mae hi wedi rhoi casgliad gwych iddyn ni i drysori am flynyddoedd i ddod.

Mae copiau wedi eu harwyddo ar gael o 'Earthquake' fel arfer, paid  oedi!

Cotwmopolis...

Tu fewn i Theatr y Cyfnewidfa Brenhinol, Manceinion
Gaethon ni bedair awr ar hugain go ddrud ym mhrif ddinas y gogledd gorllewin (yn ól rhai!), sef y cotwmopolis ers talwm - Manceinion.    Arhosom ni yng Nghwesty'r Midland, hen westy'r gorsaf trén sydd bellach yn ganolfan cynhadleddau 'Manchester Central' (y GMex yn gynt).  Roedd o'n braf cael mwynhau ychydig o foethusrwydd, ac hynny mewn calon dinas cyffrous a bywiog fel Manceinion.  Mae'n sbel ers i ni dreulio amser yna, a'r tro yma gaethon ni gyfle i ymweled á nifer o'r atyniadau amlwg, megis yr olwyn mawr yng nghanol y ddinas a'r Royal Exchange Theatre.  Mae'n chwater canrif ers i ni weld Julie Walters mewn drama yn y theatr anhygoel yma, sy'n fel llong ofod yng nghanol y pensaerniaeth ffug clasurol yr hen gyfnewidfa cotwm -  llawr masnachu mwyaf y byd yn ei anterth.  Os ti'n sbio tuag at y to, gei di weld y prisiau cotwm o hyd ar un o'r hen arwyddion prisiau. Mae'n anhygoel i feddwl a gallai prynu a gwerthu rhywbeth mor syml a chotwm yn creu cymaint o bres  - ond teml i ddioddefaint weithwyr cyffredinol y diwydiant cotwm yw hi erbyn hyn falle, a gofod cyhoeddus arbennig.  

Nes ymlaen gaethon ni bryd o fwyd bendigedig ym 'Mwyty yr Ail Llawr' yn Harvey Nicholls (er mwyn dathlu ein penblwydd priodas - ychydig yn gynnar), wrth edrych dros y sgwár islaw, trít go iawn! 

31.5.10

Ar saffari...

Roedd hi'n ddiwrnod perffaith am daith draw i Barc Saffari Knowsley meddwn i,  wrth i ni drafod be i wneud y bore 'ma.  Roedd hi'n heulog ond nid rhy boeth, gyda gwynt weddol yn chwythu.  Roedden ni heb fod i'r parc am gwpl o flynyddoedd ac wedi crybwyll mynd cwpl o weithiau yn ddiweddar, heb wneud y daith fer at ochr draw Lerpwl.

Roedd tiroedd Stad Knowsley yn enfawr, ac yn perthyn i Iarll Derby, iarllaeth a greuwyd yn y pumthegfed canrif ar ól i goron Lloegr trosglwyddo i ddwylaw'r Tudoriaid.    Tu fewn i'r Iarllaeth oedd porthladd bychan o'r enw Lerpwl, a dyfodd wrth cwrs i fod yn borthladd o bwys rhyngwladol. Adlewyrchiad o grym Lerpwl yw Stad a Neuadd Knowsley am wn i, ty enfawr Siorsaidd ei olwg (sy'n dal i gartref i Iarll Derby a'i deulu), er maen nhw'n  rhedeg rhan ohono fel gwesty pum seren erbyn heddiw.  Mi drowyd ran helaeth o'r 2500 erw mewn i barc saffari tua 40 mlynedd yn ól,  er casglwr o fri oedd un o'r Iarllau yn y deunawfed canrif,  felly ymgartrefodd sawl rhywogaeth o dramor yn y stad canrif a mwy yn gynt!
Cewch eich rybuddio!!
Ond yn ól at ein saffari bach ni.  Fel arfer roedd y llewod yn tynnu llawer o'r sylw gyda ychydig o anghytun rhwngddynt yn codi dipyn o gyffro ymhlith y gwylwyr yn eu ceir.   Crwydrodd gweddill yr haid yn ddifater trwy'r tagfa o geir er mwyn gweld be oedd yn digwydd, gan cynnwys llew bach andros o annwyl, ond erbyn hynny roedd y cathod wedi ail-setlo yn yr haul.

Ser y sioe i'r rhan mwyaf yw'r babwniaid wrth rheswm, gyda'r rhai yn y ceir drud yn dewis osgoi'r 'enclosure' ei hun a gwylio o ochr draw y ffens.  Ond nid i ni y fath dihangfa, ac o fewn dim o amser roedd y car o dan ymysod gan ddwylaw criw chwilfrydig babwniaid bach. Wrth iddyn nhwn wneud eu gorau i dynnu'r rwber o'r weipers a pigo allan y pibell sy'n cyflenwi'r dw'r i olchi'r sgrín, mi wylion ni babwn gwraidd mawr yn neidio fyny ac i lawr ar ben do car arall, wedi ei wylltio ar ól iddynt rhoi bwyd i babwn arall (rhywbeth mae sawl yn dal i wneud er gwaethaf digon o rybudd i beidio!)   Mae lot o bobl yn chwistrellu'r anifeiliaid direidus á'r 'screenwash' i geisio (yn ofer) cael gwared ohonynt o doau eu cerbydau, ond dysgon ni i beidio ychydig o flynyddoedd yn ól, ar ol i system golchi'r car cael ei dinistrio'n llwyr!!  Ddoe gaethon ni ddim niwed, er mi welais mwy nag un bár yn ceisio trwsio 'drych yr adenydd' cyn gadael y maes parcio!

Ar ól gorffen y daith, mi es i draw i'r ffair bach am dro ar y 'dodgems' a chwpl o'r reids arall, cyn pigo mewn i'r bwyty am sglodion a phaned,  diwrnod braf...

28.5.10

teimladau cymysg....

Mi ddarllenais ddau ddarn o newyddion heddiw, un i godi'r calon a'r llall i'w dristhau.   Mi ddysgais drwy'r dolen twitter ar  fy ffón am farwolaeth annisgwyl y prifardd Iwan Llwyd.  Ges i sioc a dweud a gwir, ac aeth fy meddyliau yn ol at noson yn Nhreffynon tua pum mlynedd yn ól mewn cwmni Iwan Llwyd a'i gyd cerddor a bardd - Geraint Lovgreen.  Honno oedd fy 'noson Cymraeg' cyntaf fel petai, gyda'r dau ddyn yn rhannu'r llwyfan o flaen criw o Gymry Gymraeg a dysgwyr, ac yn bownsio oddi wrth eu gilydd.  Yr adeg yna ychydig bach o waith y prifardd ro'n i'n gallu deall (er mwynheuais glywed o'n ei adrodd), ond ges i i ddeall ychydig mwy o waith ysgafnach ei 'bartner mewn cerdd' Mr Lovgreen.  Un hanes dwi'n cofio Iwan Llwyd yn ei ddweud oedd am ei deithiau o amgylch Cymru (yn ystod ei flwyddyn fel bardd plant Cymru os cofiaf yn iawn), un tro yn stopio mewn dafarn yng Ngheredigion a ordro diod, a dyma'r Brummie o landlord yn dweud 'so your not from these parts then?'...  Mi fydd ei golled yn un enfawr mae'n siwr.

Dim ond ychydig ar ól darllen y newyddion  trist yna,  gaeth fy nghalon ei godi mymryn trwy ddarllen am ryddhad albwm newydd Cerys Matthews sef 'TIR', casgliad o ganeuon traddodiadol Cymraeg yn y  bon, wedi eu trin yn ei ffordd unigryw ei hun. Mi ganodd Cerys cwpl ohonynt pan welsom ni hi yn Wrecsam yn ddiweddar, a dwi'n edrych ymlaen at glywed y casgliad gyfan (rhai 17 dwi'n meddwl).  Yn ogystal a llond CD o ganeuon, mae TIR yn cynnwys llyfr bach o ffotograffiau o fywyd yng nghefn gwlad Cymru yn yr oesoedd fictorianaidd ac edwardiaidd.  Mi es i syth ar y we i archebu copi wedi ei arwyddo, dwi'n methu aros!

27.5.10

Hanes i'n ysbrydoli....

Dwi newydd gwylio pennod ardderchog o 'O Flaen dy Lygaid', oedd yn edrych ar fywyd Stel Farrar, dynes wnaeth symud o Nottingham i Eryri.  Dysgwraig yw/oedd Stel, wnaeth newid iaith ei haelwyd pan oedd ei mab cyntaf yn fach, ac ers llwyddo i ddod yn rhugl yn reit sydyn wedi bod yn gweithio i helpu dysgwyr eraill. Cyfaddefodd ei fod ei gwr ar y pryd yn 'pissed off' efo'r newid annisgwyl yma, ac yntau heb fawr o ddiddordeb mewn dysgu'r iaith. Ennillodd Dysgwr y Flwyddyn yn ól yn 1989 dwi'n meddwl.  Dyma dynamo o ddynes, sy'n torri recordiau nofio Prydeinig  yn ei hoedran hi, yn ogystal a rhedeg a beicio tra magu llond llaw o blant!  Mae'r rhaglen yn dilyn ei bywyd wrth iddi hi neshau at ei hanner cant, a hynny o dan cwmwl oherwydd salwch ei mam yn ól yn Nottingham.  Ond ysbrydoliaeth yw Stel Farrar, a dyma raglen werth ei gwylio o'i herwydd, heb son am y golygfeydd ysblenydd o Eryri.

26.5.10

tegan newydd....

Dwi newydd sylweddoli ro'n i'n crafu gwaelod y casgen wrth sgwennu am osod pibell carthffosiaeth!....ond hanes wythnos diwetha ydy hynny erbyn hyn, ac mae 'na rywbeth arall sydd wedi bod yn tynnu fy sylw ers y penwythnos sef fy ffón (tegan) newydd i.  Wrth cwrs doedd fawr o'i le efo'r hen ffón (ar wahan i'r bateri a'r sgrín), ond efo'r cytundeb wedi dod i ben ers ychydig o fisoedd, ro'n i'n ffansio rhywbeth newydd efo alweddell qwerty ar gael, hynny yw ffordd symlach o decstio a ballu.

Yn y pendraw (wedi wneud ymchwil diflas o fanwl ar y we!) mi es i am glamp o ffón, sef yr HTC HD2.  Ar ran faint, ychydig yn fwy na'r i-phone ydy hi, ond gyda sgrín dros hanner modfedd yn fwy, mae'n wneud y gorau o'i ól traed sylweddol. A dweud y gwir, er gwaethaf ei faint, mae'r faith ei bod o'n andros o dennau'n wneud iddi teimlo'n llai ym mhoced fy jíns na fy ffón olaf, rhywbeth wnaeth fy synnu!  Mae faint y sgrín wrth rheswm yn helpu wneud i'r allweddell 'virtual' - sy'n ymddangos ar y sgrín - bod yn weddol hawdd i ddefnyddio, hyd yn oed i rywun efo bysedd trwchus!   Wrth cwrs nid ffón ydy ffón y dyddiau 'ma, ond cyfrifiadur bach sy'n gallu gwneud pob math o bethau, ac mae'r HD2 yn wneud llawer o bethau cystal a unrhyw ffón arall, gan cynnwys gweithredu fel sat-nav yn y car.

Yr unig ddrwg yn y caws yw bywyd a bateri, sy'n cymharol gwael os ti isio wneud lot o bori ar y we ac ati.  Ta waeth, well i mi orffen er mwyn i mi fynd i chwarae gyda'r tegan newydd....

24.5.10

Cyfleusterau newydd.....

Bore Sadwrn es i ati (o'r diwedd) i osod draen newydd i wasanaethu'r gweithdy.  Hyd yn hyn dwi wedi bod yn bodoli heb dy bach, neu hyd yn oed dwr, rhywbeth sydd wedi wneud i mi wibio'r hanner milltir adre mwy nag unwaith mae'n rhaid cyfadde!    Er dwi'n gweithio efo fy nwylaw y rhan mwyaf o'r amser (hynny yw wneud dodrefn) ges i bleser mawr yn gosod y pibellau o dan y ddaear, ac wedi llenwi'r ffos á cherrig man cyn gorchuddio'r gyfan gyda phridd tywodlyd y maes parcio.  Mae'n peth rhyfedd i deimlo rhai foddhad trwy wneud waith na fydd neb erioed yn ei weld!  Ar ol tyllu trwy'r wal rhwng y gweithdai, mi lwyddon ni i gysylltu'r pibell dwr, cyn cael seremoni 'bedyddio'r' cyfleusterau newydd!!

Na fydd rhaid i mi ddibynnu ar fy nghymydog caredig am baneidiau dim mwy,  ac mi fydda i'n gallu cynnig ambell i baned iddo fo.

19.5.10

arolwg...

Ges i fy arolygu yn y dosbarth nos heno, heb fawr o rybudd - sy' ddim yn peth drwg a dweud y gwir.  Mi eisteddodd un o athrawon llawn amser yr ysgol yng nghefn y dosbarth, wrth i mi drio canolbwyntio ar gadw at rywfath o drefn, a phwysicach byth, fy nghynllun gwers!   Mi aeth pethau yn o lew am wn i,  ac wrth i'r dysgwyr gadael y stafell i fynd am eu diodydd 'hanner amser', dyma'r athrawes yn dod draw am air!

Ni ddylswn i wedi poeni, athrawes glen oedd hi, oedd yn cashau gwneud y gwaith adolygu - gan ei bod hi'n dysgu ei hun - a chynigodd dim ond argymhellion adeiladol.  Darganfodais fy mod i'n dysgu yn ei hystafell hi, un o'r ystafelloedd Frangeg/Almaeneg yr ysgol, a rhoddodd hi cwpl o awgrymiadau am sut i ddefnyddio'r technoleg sydd yna i hwyluso'r gwersi.  Wrth cwrs fantais i mi oedd y ffaith nad ydy hi'n deall gair o Gymraeg, a dim ond barnu fy 'ngallu' dysgu oedd hi, nid y Gymraeg ro'n i'n ei dysgu!

17.5.10

Gadael Lennon...

Gorffenais 'Gadael Lennon' heddiw, stori weddol ysgafn wedi ei lleoli yn Lerpwl y chwedegau.   Fwynheuais y llyfr fel y cyfriw, er ges i fy nghythruddo sawl gwaith gan y deialog 'scowsaidd', oedd yn weithiau pell o'r scows sy'n cyfarwydd i mi.    Mae rhaid 'gohirio anghrediniaeth' wrth darllen llyfr weithiau wrth cwrs, ac ambell i waith dyma fi'n dweud wrth fy hun:  "jyst creda, stori yw hi!".   Cryfder y llyfr yw'r ffordd mae'n mynd ati i gyfleu profiadau hogan o gefn gwlad Cymru wrth iddi hi drio ymdopi efo symud i ddinas Lerpwl, a hithau yn wyth mlynedd oed.  Roedd rhaid iddi addasu wrth rheswm,  trwy gollwng ei hacen Pen Llyn a troi'n scowser ar y wyneb, ond ni cholodd ei Chymraeg,  gyda'r capal adeg hynny'n dal i lwyddo cadw cymuned Cymraeg yn fyw yn y ddinas.

Gafodd y llyfr hon apél arbennig i mi oherwydd y cysylltiadau lleol.  Dwn i ddim sut faswn i wedi teimlo amdanhi onibai am hynny,  ond falle na faswn i wedi sylwi ar rai o'r diffygion yn y 'deialog scows' a'r cymeriadau 'gor-ystrydebol' (scows a Chymreig!).

Ta waeth, os ti'n chwilio am lyfr ysgafn a ti'n hoffi Lerpwl neu'r Beatles (neu'r ddau wrth rheswm), wel gei di ddim dy siomi mae'n siwr.    

16.5.10

Blog yn ei newydd wedd...

Dwi wedi treulio ychydig o amser yn newid gwedd fy mlog 'Dysgwyr Cilgwri' er mwyn gwneud i'r peth yn fwy deniadol gobeithio.  Dylwn i drio postio yn amlach yn fan'na, ond diffyg amser yw'r hen elyn fel arfer. Gobeithio mi fydd y golwg newydd yn fy ysbrydoli i wneud rhagor gyda fo, yn enwedig dros y gwyliau haf - adeg lle mae sawl dysgwr yn ffindio fo'n annodd cadw 'cysylltiad' á'r iaith mae'n debyg.

14.5.10

Clwb darllen...

Ges i dipyn o frys yn y diwedd gorffen y llyfr 'Cymer y Seren' mewn pryd i'w adolygu bore dydd llun.
A dweud y gwir wnes i'w orffen tua chwater i unarddeg, llai na hanner awr cyn i mi ddisgwyl galwad ffón gan Wedi 3 yn gofyn am fy adolygiad i!   Wrth i mi ddechrau sgriblo rhywbeth lawr yn reit sydyn,  dyma Eleri o'r rhaglen yn ffonio i ddweud y basen nhw'n dipyn yn hwyr yn fy ffonio oherwydd diffyg technegydd. Er dim ond cwta chwater awr oedd yr oediad, ro'n i'n falch iawn ohono, ac erbyn iddynt ffonio yn ól ro'n i wedi llwyddo i sgwennu ychydig o feddyliau hanner call i lawr.  Llwyddais i'w darllen  (wrth trio peidio swnio fel ro'n i'n eu darllen) yn o lew dwi'n meddwl, gyda Eleri yn fy nghysuro am y golygu celfydd y basai'n digwydd ar ól y recordiad!

Mi aeth y pwt 'golygedig' allan ar Wedi 3 dydd mercher (fel rhan o 'Glwb Llyfrau' y rhaglen), yn ogystal á adolygiad rhywun  yn y stiwdio o'r un llyfr, a llyfr arall (Naw Mis gan Caryl Lewis dwi'n meddwl).  Wrth i fy sylwadau i gael eu darlledu, ymddangoswyd fap o Brydain Fawr á smotyn melyn wedi ei osod ar leoliad Cilgwri,  a fy enw i wrth ei ochr!  Teimlais wrth ei gwylio fel rhyw 'corrrespondant' o bell yn adrodd rhywbeth o bwys i'r newyddion! ac wedyn dychwelodd realaeth y sefyllfa...  sydd ddim cweit yr un peth nag'ydy!?

Dwi wedi dechrau llyfr newydd rwan, ond nid fel rhan o'r clwb darllen. Mae 'Gadael Lennon' gan Bet Jones yn hanes hogan yn ei harddegau sydd wedi byw yn Lerpwl ers rhai wyth mlynedd, ar ól i'w theulu symud yna o Ben Llyn.  Erbyn hyn mae'n rhaid iddynt symud yn ól i Gefn Gwlad Dwyor (am resymau teuleuol), rhywbeth sy'n torri ei chalon hi, a hithau wedi ymgartrefu yn y ddinas fawr ac yn dwli ar y 'Ffab Ffor'.  Mae'n llyfr andros o ddarllenadwy, a'r cysylltiadau efo Lerpwl a'r Beatles yn gwneud i'r hanes yn arbennig o ddiddorol i mi hefyd.  Gobeithio fydda i'n ei gorffen hi dros y penwythnos.

11.5.10

Pennod newydd...

Dwi newydd cyrraedd adre a darganfod mae gynnon ni Brif Weinidog a llywodraeth newydd sbon.
A dweud y gwir teimlais beth rhyddhad, ar ól yr holl wythnosau o ymgyrchu, a'r dyddiau di-baid o drafodaethau rhwng y pleidiau, er nad ydwi'n rhy hoff o liw y glymblaid newydd.

Ni allwn i weld sail cadarn i'r glymblaid enfys mi fasai rhai yn y Blaid Lafur wedi cefnogi, ond yn y pendraw mi wnaeth 'mawrion' y blaid fel David Blunkett helpu rhoi'r hoelen olaf yn arch y cynllun yna beth bynnag.   Yn y bore felly, mi fydd tudalenau blaen y papurau newydd yn llawn lluniau o'n Prif Weinidog newydd David Cameron, a'i wraig beichiog Samantha.   Mae'r Deyrnas  Unedig wedi dechrau pennod newydd, a hynny o dan llywodraeth clymblaid rhwng y Toriaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol, tybed pa mor hir gallai'r drefn parhau? 

9.5.10

Tasg Darllen...

Mae gen i dipyn o dalcen galed heddiw, hynny yw gorffen 'Cymer y Seren' (gan Cefin Roberts) un o lyfrau rhestr hir Llyfr y Flwyddyn eleni. Derbyniais y llyfr gan Glwb Llyfrau Wedi 3, a bore fory  mi wnawn nhw'n ffonio fi er mwyn i mi gynnig fy mharn,   ond y peth ydy dim ond hanner ffordd trwyddi ydwi!   Gorffenais 'Y Trydydd Peth' mewn brys yr wythnos diwetha, am eu bod nhw wedi gofyn i mi adolygu hwnnw i ddechrau, ond wedyn ges i e-bost i ddweud ro'n i i fod yn adolygu y llall.  Diolch Byth mai Cymer y Seren yn weddol hawdd i'w ddarllen, ac mewn arddull dwi'n mwynhau fel arfer, sef llyfr dirgelwch.  Yr unig problem - yr un arferol i mi - yw dadansoddi'r darnau swmpus o ddeialog, a'r rheiny wedi eu sgwennu mewn ymgais i adlewyrchu tafodiaethau.  Oes 'na fwy o ddewis yn y Gymraeg ar ran syllafu a chwtogi geiriau, dwi ddim yn 'sicir' ond mae'n teimlo felly weithiau!?