29.3.11

Darparu gwers....

26.3.11

amser cinio ar lan y mor....

Es i a^ fy mrechdan lawr i New Brighton dydd mercher ar ddiwrnod o heulwen braf.  Gefais dro sydyn efo'r camera newydd o amgylch amddiffynfa 'Fort Perch Rock' ....

18.3.11

Taith o'r ystafelloedd loceri....

Dwi wedi llwyddo llwytho'r fideo'r tro yma :)

17.3.11

trafferthion efo'r rhyngrwyd...

Dwi heb cael fawr o gyfle i flogio'n fan hyn yn ddiweddar yn bennaf oherwydd y trafferthio bod ni'n ei gael ar y funud efo ein band-llydan.  Dyma pam na gweithiodd y 'cofnideo' diweddaraf, sef yr un yn y clwb golff.  Pob tro dria i ei uwchlwytho, ga i neges i ddweud bod pethau wedi mynd o'i le, hynny yw bod y cysylltiad wedi torri yn ystod yr 'uwchlwythiad'.   Mae'n ofnadwy o rwstredig efo'r cysylltiad yn mynd ac yn dod trwy'r amser.   Dwi'n ceisio rheolu pethau allan fesul un, ond mae gen i ofn mai diffygion y llinell sy'n cysylltu'r ty^ i BT gallai bod sail y problem, wrth edrych ar yr hen focs GPO sydd ar y wal.  Dwi'n methu credu bod unrhyw gwybodaeth (heb son am band-llydan hyd at 6mb) yn gallu cyrraedd trwy wifren mor hynafol ei olwg!! 

7.3.11

Gwaith newydd Llwyd Owen...

Mae gwasg Y Lolfa newydd cyhoeddi nofel newydd gan yr awdur ifanc o Gaerdydd Llwyd Owen. Dwi wedi darllen a mwynhau'n arw ei bedwar nofel Cymraeg eraill, ac dwi ar dan isio cael fy nwylo ar gopi o 'Un Ddinas Dau Fyd'. Mae'r nofel hon yn ddilyniant i'w nofel cyntaf, hynny yw mae'n dilyn hynt a helynt yr un prif cymeriadau ond nifer o flynyddoedd lawr y lon, ond does dim rhaid bod chi wedi darlllen y llyfr arall (Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau) i ddilyn yr un newydd.   Dwi'n edrych ymlaen!

6.3.11

Eisteddfod y Dysgwyr 2011

Gaethon ni lot o hwyl yn Eisteddfod y Dysgwyr nos wener, gan cynnwys wneud sgetsh bach.

Dwi wedi codi'r syniad o wneud yr un peth (mwy neu lai) ym Maes-D yn Wrecsam, hynny yw ar ol bach o waith golygu ar y sgript a dysgu'r geiriau'n trwyadl!

Dyma fideo bach ohono, diolch i Alison am ei saethu.

3.3.11

Diwrnod y Llyfr

Gefais sypreis neis yn y post heddiw, hynny yw pecyn o lyfrau gan Clwb darllen Wedi3 ac hynny ar Ddiwrnod y Llyfr! Roedden ni'n disgwyl llyfr arall digwydd bod, felly gafodd Jill sypreis ei hun wrth agor y pecyn. Roedd hi'n disgwyl gweld 'You're the Ref', llyfr a archebwyd o'r Guardian fel rhan o anrheg penblwydd ei nith, ond yn lle hynny welodd hi y casgliad hyn o lyfrau Cymraeg!


Ta waeth mae gen i ddigon o ddewis o bethau i ddarllen dros y wythnosau nesa, ond dwi heb clywed eto os oes rhaid i mi ddarllen un yn benodol er mwyn ei adolygu.

25.2.11

Yn y Gweithdy...

22.2.11

Lladd Duw.... dwi wedi ei orffen!!

Ymddiheuriadau am safon y swn, postiodd y cofnideo hon/hwn heb sylweddoli!!  Wna i ymdrechu gwella'r safon tro nesa,

19.2.11

Llongyfarchiadau..

Dwn i ddim pryd yn union dechreuais darllen blog yr Americanwr Chris Cope, pum mlynedd yn ól o bosib.  Ar y pryd roedd o'n cynllunio tuag at newid mawr yn ei fywyd, hynny yw symud i Gymru er mwyn gwneud gradd yn y Gymraeg, ac yn llawn cyffro a brwdfrydedd haentus.  Dwi'n siwr mod i'n cofio ei enw o negesfyrddau dysgwyr eraill cyn iddo fo dechrau ei flog Cymraeg cyntaf, sef 'Dwi Eisiau bod yn Gymro'.   Wrth gwrs fel unrhywun sydd wedi dilyn hynt a helynt amser Chris ochr yma yr Iwerydd - naill ai ar ei flog (er diflanodd yr un Cymraeg am sbel), neu drwy darllen ei lyfr 'Cwrw am Ddim' - yn gwybod yn iawn, mae ei amser yng Nghymru wedi bod yn boenus, costus, ac yn bendant wedi ei siomi mewn sawl ffordd.

Er hynny i gyd, mae Chris yma o hyd, ac o'n i'n falch o glywed heddiw ei fod o newydd cael cadernhad ei fod wedi pasio ei Ma. yn yr hen iaith 'ma.  Dyma dipyn o gamp, yn enwedig o ystyried helbulon ei fywyd yng Nghaerdydd ar sawl lefel.

Ar hyn o bryd mae o'n wneud cofnideo bron pob dydd, sy'n golygu y gallen ni fod mewn rhyw oes aur y cofnideo Cymraeg!  Gwiliwch, mae nhw'n werth eu gweld!! 

15.2.11

Ymarfer Cor....

Gawson ni ymarfer sydyn heno o'r darn dewiswyd i wneud yn yr Eisteddfod y Dysgwyr mis nesaf.  Mi ddaeth Beryl a Gwyn lawr (o ddosbarth nos fercher) i fynd dros y can hyfryd 'Bugeilio'r Gwenith Gwyn' efo criw nos fawrdd.  A dweud y gwir nad ydy'r can yma'r un hawsach o ran geiriau neu ganu, ond gaeth pawb hwyl wrth ymarfer (dwi'n meddwl!).   Mi fydd y rhai ohonynt sy'n awyddus (bodlon!) i ganu'n dod draw yma wythnos nesaf er mwyn i ni wneud rhagor o ymarfer - gobeithio fydd yna chwech o leiaf - ac hefyd i fynd trwy sgript y sgetsh gorffenedig.

10.2.11

llyfrau a ballu...

Mae hi wedi cymryd peth amser, ond dwi'n anelu at ddiweddglo  'Lladd Duw'  gan Dewi Prysor, llyfr dwi wir wedi mwynhau hyd yn hyn.   Mae'n llyfr go swmpus ei olwg, gyda tua 380 o dudalennau, sy'n ei wneud o'r llyfr Cymraeg mwyaf i mi ddarllen o bell ffordd.    Fydda i'n ymdrechu wneud adolygiad ohono fo mewn ffurf fideo yn fan hyn cyn hir, mae'n jysd cwestiwn o eistedd lawr a mwynhau'r hanner cant tudalen dwi heb eu darllen eto.  

Gyda llaw, mae gen i gopi o 'Gwneddydd' yn disgwyl ei ddarllen,  oes gan unrhyw sylwadau ynglyn a'r llyfr yno tybed?

4.2.11

Eisteddfod y Dysgwyr 2011... cyn hir..

Ym mhen cwta mis mi fydd Eisteddfod y Dysgwyr De Dwyrain Cymru yn cael ei gynnal unwaith eto.  Mae nifer o ddysgwyr o'r dosbarthiadau nos wedi cytuno/cael eu darbwyllo i cymryd rhan, felly dwi'n edrych ymlaen at y noson yn barod.   Mae 'na son am gystadlu yn y parti canu, yn ogystal a chynnig rhywbeth yng nghystadleuaeth y 'sketch'.   Y llynedd wnaethon ni y parti adrodd yn unig fel grwp, ond efo'r sketch mae 'na le i fod yn fwy creadigol am wn i.  Mae gen i ambell i syniad ond dwi'n gobeithio cael lot o gymhorth gan rai yn y dosbarth i'w datblygu.  Dwi wedi bod yn trio sgwennu rhywbeth fy hun ar ran un o'r cystadleuthau 'gwaith cartref' 'agored', ond heb dod o hyd i fawr o ysbrydoliaeth hyd yma i fod yn onest.  

1.2.11

Ar drywydd gwir ysbryd indiaid america...?

Erbyn hyn dwi wedi llwyddo dal cwpl o bennodau o 'Iolo a'r Indiaid Americanaidd', cyfres do'n i ddim yn rhy siwr amdano ar ól gweld y 'treilars', ac un dwi'n dal i fod yn ansicr amdano. 

Mae llawer ohonyn ni mae'n siwr yn euog o lwmpio llwythi brodorol yr Unol Dalieithau mewn un lobscows mawr, ond mae Iolo wedi bod yn teithio o un cornel America i'r llall er mwyn cyrraedd nifer o'r 'Reservations', sef y llecynau o dir sydd erbyn heddiw o dan rywfath o hunanlywodraeth rhai o'r llwythi amlycaf.

Yr wythnos yma roedd y Cherokee o dan chwyddwydr Iolo, enw sy'n fwy cyfarwydd i rai erbyn heddiw fel enw cerbyd 4x4 gyda sychder mawr!   Mae hanes y Cherokee yn eu cynefin traddodiadol, sef harddwch y 'mynyddoedd myglyd' wedi newid yn sylweddol dros y cwpl o ddegawdau diweddaraf gyda dyfodiad casino enfawr.  Yn ol pennaeth y llwyth - gwleidydd hynod o slic - cyn i gyfoeth gamblo cyrraedd, doedd fawr neb gyda thai bach tu mewn i'w tai.. fel petai.  Erbyn heddiw mae gan bawb hawl i tua £6000 y flwyddyn gan y llywodraeth (a chyfleusterau gwell), sef eu rhan nhw o elw'r casino, ac mae rhan helaeth o drigolion yr ardal yn gweithio yno hefyd.   Mae 'na bris i'w talu am y ffasiwn newid wrth cwrs, ac yn ol un o'r cyfranwyr cynydd sylweddol yn y defnydd cyffuriau anghyfreithlon yw hynny.

Ond iaith o bosib yw un o'r pethau sy'n gwneud i hanes y llwythi yma o ddiddordeb arbennig i'r Cymry, rhywbeth sy'n rhan pwysig o hunaniaith sawl gwlad bach.   Mae iaith 'Band Dwyreiniol y Cherokee' (sef y rheiny wnaeth llwyddo cuddio, wrth i weddill y llwyth cael eu hela lawr y 'trail of tears' yng nghanol y 19C)  wedi dirywio yn sylweddol o ran y nifer o siaradwyr dros y hanner canrif diwetha, gyda dim ond tua 900 yn dal i'w siarad (a'r mwyafrif o rheiny dros eu hanner cant).  Gafodd genhedlaeth cyfan o blant Cherokee eu hanfon at ysgolion preswyl er mwyn eu rhwystro rhag siarad eu mamiaith, proses a gafodd effaith marwol bron.

Ond dyni'n byw mewn oes mwy goleuedig (gobeithio!), ac erbyn heddiw mae'r Cherokee wedi agor (gyda help elw'r casino) yr ysgol cynradd Cherokee-eg(?) cyntaf (sydd gan cyfleusterau heb eu hail), er mwyn cynnig mymryn o obaith i iaith sy'n cael ei siarad gan dim ond 1% o'r poblogaeth.  Ond rhan pwysig o hunaniaith y Cherokee o hyd i'w hiaith, a dyna lle mae'r cymhariaeth á Chymru yn taro gloch.  Mae canran sylweddol o Gymry di-Gymraeg yn cefnogol i'r iaith, ac yn ei gweld fel rhywbeth maen nhw isio parhau - cyn pelled a nad ydy'r cost yn afresymol - a rhan o'r pethau sy'n diffinio Cymry fel cenedl.

Sut bynnag, dyma gyfres diddorol, ac un fydda i'n ymdrechu i wylio.

26.1.11

Ychwanegiadau i 'nghasgliad o CDiau Cymraeg...

Prynais gwpl o grynoddisgiau Cymraeg newydd heddiw.    Dwi'n hoff iawn o ganeuon Gwyneth Glyn, sy'n dweud stori'n aml iawn.  O'r diwedd gefais gopi o'i hail albwm 'Tonau', un sy'n cynnwys nifer o ganeuon mod i wedi clywed troeon ar Radio Cymru megis 'Cán y Siarc' a 'Dail Tafol'.  Sypreis neis oedd y can 'O'n i'n mynd i..'  da o gan, ac un fydda i'n gallu defnyddio mewn gwers yr wythnos nesa.  Digwydd bod mai Uned 8 Cwrs Sylfaen yn cyflwyno 'Ro'n i'n meddwl', felly dyma gyfle euraidd i chwarae'r can hwn yn y gwers.  Dyma'r pennill olaf (gobeithio mod i ddim yn torri cyfraith hawlfraint trwy neud!):

O'n i'n mynd i ffonio ffrind,
gofyn lle ma'r dyddia'n mynd.
O'n i'n mynd i neud bob dim,
o'n i isho'i neud
ond nes i ddim.

Mae'n dweud y cyfan tydi!

Yr albwm arall oedd gwaith diweddaraf 'Cowbois Rhos Botwnnog'.  Dwi ddim yn person canu gwlad fel arfer, ac er bod dylanwad yr arddull yna'n drwm yng ngherddoriaeth yr hogiau o Ben Lly^n, mae'n lot mwy na hynny hefyd.   Gyda Dave Wrench yng nghadair y peirianydd, ac yntau a'r Cowbois yn cynhyrchu mae gan 'Dyddiau Du Dyddiau Gwyn' swn arbennig o dda.  Fy hoff gan, o'r naw o ganeuon sydd arno (hyd yn hyn..) yw 'Celwydd Golau ydy Cariad', can 'bachog' sy'n aros yn y cof.  Mae'n siwr bod 'na nifer o 'dyfwyr' ymhlith y gweddill hefyd.   Mae gan prifleisydd Y Cowbois llais andros o angherddol sy'n dod a^ Neil Young i'r meddwl - dim yn peth drwg o gwbl!

Dwi'n edrych ymlaen at gael cyfle gwell i wrando arno nhw dros y dyddia nesaf. 

17.1.11

Adnewyddu Brighton Newydd....?

Yr hen a'r newydd yn New Brighton


Echddoe mi bigiais i lawr i weld y diweddaraf yn natblygiad newydd New Brighton, sef y dref glan y mor ('resort' ers talwm) ar gornel gogleddol penrhyn Cilgwri - a nid y pentre ar gyrion Yr Wyddgrug  (rhaid bod rhywun yn tynnu coes wrth enwi'r pentre yna!  Ar un pryd ymffrostiodd New Brighton Cilgwri adeilad uchaf Prydain, hynny yw'r twr a adeiladwyd i gipio'r wobr arbennig yno o Blackpool.  Mae'n tua canrif ers i anterth New Brighton fel atyniad ymwelwyr, ac yn wahanol i dwr enwog Sir Caerhirfryn, dymchwelwyd twr New Brighton flynyddoedd maith yn ol.  Erbyn heddiw mae'r hen gwestai sydd ar ól wedi troi'n clybiau nos neu fflatiau, ac mae'r pwll nofio awyr agored (yr un mwyaf yn Ewrop pan agorwyd yn 1934) yn atgof yn unig.




Sgerbwd yr archfarchnad a sinema 

Ond wedi degawdau o ddadleuon ac anghytun, mae cynlluniau i ail-ddatblygu'r 'ffrynt' yn dechrau tynnu ffrwyth.  Agorwyd theatr a chanolfan cynhadleddau ardderchog cwpl o flynyddoedd yn ól, ac rwan mae sgerbwd datblygiad arall sy'n cynnwys sinema, lido, bwytai ac archfarchnad fawr (y peth mwyaf dadleuol), yn brysur codi ar safle'r hen pwll.   Amser a dengys be' fydd yr effaith ar New Brighton.  Mae'r awdurdodau wedi bod wrthi'n trawsnewid y llecyn yma o dir ers amser maith.  Tua canrif yn ol buodd draeth o dywod aur yn fan'na,  ond penderfynwyd y cyngor codi wal concrid uchel a chreu lawntydd enfawr a alwyd y 'dips' yn lleol.   Diflanodd y tywod o ganlyniad, a maes o law y mwyafrif o ymwelwyr. 

Mi fydda i'n ddigon hapus gweld lido a sinema yn dod i'r ardal a dweud y gwir.  Mi fasai'r sinema yn agosach aton ni nag unrhyw arall, a diflanodd ein pwll nofio awyr agored olaf ni degawdau'n ol.   Ond nid golygfeydd ni sy'n cael ei drawsnewid gan yr adeilad yma, dim ond trigolion New Brighton druan,  felly gobeithio mi fydd o les iddyn nhw yn y tymor hir hefyd!

8.1.11

Llyfr i roi trefn ar fy Nghymraeg ysgrifenedig....?

Rhodd fy mam hen gopi fy Nhaid o'r Cywiriadur Cymraeg i mi'r wythnos 'ma (mae 'na neges yn fa'na rhwle o bosib!), sef argraff ohono a gyhoeddwyd yn ól yn 1965.   Mae Gwasg Gomer yn gyfrifol am y cyfrol di-fflach yma a ysgrifenwyd gan Morgan D, Jones.  Er hynny, am lyfr gramadeg hynod o sych ei olwg, mae'n andros o ddarllenadwy a defnyddiol!  Dwi wedi dod o hyd i nifer o atebion i gwestiynau fy mod i wedi meddwl amdanynt dros y flynyddoedd, ac i ychydig o'r rheiny a ofynnwyd i mi gan ddysgwyr eraill.  Mae'r 'rheolau' a'r eithriadau  ynglyn a'r treiglad meddal yn llenwi tudalen a hanner (arghh), ond i'w weld yn gynhwysfawr iawn.  Darganfodais hefyd eglurhad effeithiol dros y treiglad trwynol sy'n effeithio rhifolion:  pum mlynedd, chwe blynedd, wyth mlynedd, ac yn ymlaen,  rhywbeth yr oeddwn yn methu cynnig ateb yn ei gylch ychydig cyn y nadolig digwydd bod.

Mae'n ymddangos bod y Cywiriadur yn allan o brint erbyn hyn (yr agraffiad diweddaraf oedd yn ól yn 1992 yn ól Gwales), er mae 'na gopiau ar gael yn fan hyn, a llawer o lefydd eraill mae'n siwr.

28.12.10

Blog olaf y degawd...?

Cwestiwn dadleuol mae'n debyg yw pryd yn union mai degawd, canrif, mileniwm yn dod i ben.  Dwi'n cofio adeg yr holl hylabalw lawr yn y Dome i ddathlu'r mileniwm bod rhai'n dadlau nid dechrau'r mileniwm newydd oedd 01.01 2000 o gwbl, ond  01.01.2001.  Yn dilyn y dadl yna ydw i, wrth enwi'r post yma, tra bendroni os ar fin dweud tata wrth degawd yr ydyn ni yn y dyddiau nesaf, neu dim ond y blwyddyn. Mi fyddech chi wedi sylweddoli erbyn hyn fy mod i wedi drysu'n llwyr, ond mewn gwirionedd beth yw'r ots!

Wedi drysu'n lllwyr ydw i hefyd o bryd i'w gilydd ynglyn á fy Nghymraeg.  Dwi'n gwybod - ac yn hapus i gyfadde - fy mod i'n siarad lobscows o'r hen iaith 'ma.  Dwi ddim yn perthyn i unrhyw 'bro' Cymraeg - er gallwch chi ddadlau buodd fro yn fan hyn ar Lannau Mersi, tua 80 o flynyddoedd yn ól (pen llanw Cymriectod Lerpwl ar ran niferoedd o siaradwyr Cymraeg - a llawer o'r rheiny wedi eu geni yn fan hyn).  Mewn erthygl yng nghylchgrawn Barn y mis yma (sy'n edrych a theimlo'n ardderchog yn ei newydd wedd gyda llaw!)  mae D. Ben Rees yn son (ymhlith pethau eraill) am enedigaeth y cerdyn Nadolig Cymraeg, ac hynny yn Lerpwl yn 1909, a'r ffaith a drodd y cardiau i rai dwyieithog o fewn cenhedlaeth er mwyn apelio at y cenhedlaethau nesaf, hynny yw'r rhai ddi-gymraeg neu ansicr eu hiaith.   Os unrhywbeth, mi dria i fabwysiady peth o dafodiaeth Sir y Fflint/Sir Ddinbych, ardaloedd dwi'n teimlo'n agos atynt yn deuleuol ac yn ddaearyddol, ond mae 'na elfennau o Gymraeg Radio Cymru yn cropian mewn i'r hyn sy'n gadael fy ngheg mae'n siwr!
Felly wrth i mi ymdrechu i wella fy Nghymraeg, a cheisio trosglwyddo ychydig i'r dysgwyr eraill fy mod i'n eu tiwtora, dwi'n ffeindio fy hun mewn penbleth rhywsut.   Dwi'n ymwybodol erbyn hyn wrth gwrs o'r 'iaith ffurfiol/llenyddol' hefyd, cywair Cymraeg nad ydw i wedi maeddu son amdano i'r rhai dwi'n eu dysgu hyd yn hyn, rhag ofn i mi godi gormod o fraw arnyn nhw!  Dwi'n ymwybodol hefyd bod rhai ohonynt wrth reswm yn trio darllen pethau Cymraeg, ac yn dod ar draws y cywair hwn... yn ei holl ogoniant, ac heb ddeall fawr ddim yn aml iawn!  Dwi'n trio sbio yn ól er mwyn cofio sut a ddeliais i efo'r 'her' yma, gan mod i'n cofio ymdrechu wneud synnwyr o gopi o hen glasur Cymraeg yn fuan ar ol i mi ddechrau dysgu (am y tro cyntaf).  Rhoddais y ffidl yn y to dwi'n credu, am  gryn nifer o flynyddoedd hefyd!

Un peth wrth gwrs yw dod i ddeall y ffyrdd gwahanol o ysgrifennu yn y Gymraeg, peth hollol wahanol yw gwybod sut a phryd i'w defnyddio (rhywbeth a fydd yn amlwg i'r ychydig ohonoch chi gyda digon o amynedd i gyrraedd y pwynt hon yn y post 'ma..!). Erbyn hyn mae fy Nghymraeg ysgrifenedig yn adlewyrchu'r un fath o 'lobsgows' a'r  iaith fy mod i'n ei siarad mae'n siwr, ond rhan o'r proses o ddysgu yw hyn yn y pendraw am wn i.. gobeithio.

Amser am adduned y flwyddyn newydd.... neu ddau

27.11.10

Digon oer i rewi......

Y traeth rhwng West Kirby a Hoylake - tydy'r llun ddim yn trosglwyddo'r oerni o gwbl!

Mi es i lawr i'r traeth efo'r ci tua hanner awr wedi tri'r p'nawn 'ma.  Roedd hi'n digon oer i rewi pob math o anifeiliaid, boed brain, cathod neu llyffantod (mae'n ymddangos bod gen ti ddewis o nifer o greaduriaid i gynnwys yn yr ymadrodd hyn!).   Dwi'n hoff iawn o dachwedd, adlewyrchiad efallai o'r ffaith fy mod i'n fwy o berson yr hydref na'r haf.  Dwi ddim yn mwynhau gormod o wres, neu ormod o oerni, felly yn yr hydref a'r gwanwyn teimlaf yn fwy cyfforddus.   Wedi dweud hynny, dan ni'n ddigon ffodus i fwy mewn ty gyda gwres canolog yn ogystal a lle tan agored, lle gawn ni losgi'r holl ddarnau sbar o bren a gynhyrchwyd gan saer coed pan dymunon ni (megis heno!).  Dwi'n tybio nad oes y gaeaf yr un mor apelgar i'n cyndeidiau yn yr oesoedd a fu.. neu i anffodusion yr oes sydd ohoni.

22.11.10

Pethau dwi'n darllen ar y funud...

Dwi'n dal i ddarllen am fywyd 'Owen Rees', ac yn dod i ddeall ychydig am ról y capeli ym mywydau Cymry Lerpwl tua canrif a hanner yn ól. Er cyfrol braidd yn drwchus yw 'Owen Rees - A Story of Welsh Life and Thought', mae'n cymharol hawdd i'w ddarllen, ac dwi'n mwynhau'r darlun bod yr awdur (Eleazer Roberts) yn ei beintio o fywyd teuleuol y cyfnod.

Mae Mam Owen yn ddynes garedig a ffyddiog, sy'n glwm a'i chapel, un o nifer yn 'nref' Lerpwl oedd yn perthyn i'r 'Hen Gorff', sef y Methodistiaid Calfinaidd.  Roedd yr amrywiaeth o enwadau'n poeni am ddylanwad y dinas fawr ar y Cymry alltud, a ran o'u dyletswydd yn ninasoedd mawr Lloegr (a Chymru) oedd eu gwarchod rhag atyniadau 'gwrth-cristnogol' llefydd felly.  Gafodd Gymry cyfle i fynychu nifer o ddigwyddiadau'n ystod yr wythnos, yn ogystal (wrth reswm ag oedfeydd y Sul, rhywbeth a wnaeth y mwyafrif ohonynt yn ól cofnodion yr eglwysi. 

Mae'r llyfr yn bwrw golau hefyd a rheolau llym yr eglwysi adeg hynny, a'r ffordd yr oeddynt yn barod i gosbi'n hallt aelodau nad oedd yn dilyn eu dehongliad penodol nhw o'r Beibl.  Mewn un achos a ddisgrifwyd, mae aelod o gapel Owen yn cael ei 'yrru' o'r eglwys gan ei fod wedi derbyn swydd a allai fod yn galw arno i agor gatiau dociau ar y Sul.  Mae dadl yn codi ymhlith rhai aelodau a blaenwyr y capel ynglyn á pha swyddi sy'n hanfodol i'w gwneud ar y saboth.   Mae un aelod yn cyfeirio at arferiad un o'r flaenoriaid o gael ei yrru at y capel mewn cerbyd gan un o'i weision ar ddiwrnodau glawiog.  Cyn hir mae'r gweinidog awdurdodol yn dod á'r dadleuon i ben trwy alw am bleidlais, ac yn 'cyfeirio' at y canlyniad yr hoffai ei weld.  Mae'r docwr druan yn colli'r dydd ac yn gadael ei gapel wrth gwrs.

Yn son am lyfrau, dwi newydd dod o hyd i fersiwn ar lein o 'Hanes y Wladfa' (pwnc arall sy'n fy ymddiddori), ac wedi ei lawrlwytho at y ffo^n.  Digwydd bod dyma destun dau llyfr a  gafodd gyhoeddusrwydd ar Wedi 7 heno.  Y gyntaf oedd llyfr 'bwrdd coffi' Mathew Rhys am ei daith ar gefn ceffyl dros y paith ym Mhatagonia, a'r llall yw hanes y rhai a deithwyd yno ar y Mimosa a llongiau eraill, yr enw dwi'n meddwl oedd 'Stori'r Wladfa'.  Mae gen i ychydig o bethau i roi ar fy rhestr dolig beth bynnag!