31.7.11

Eisteddfod rhan 1....

Mi fydd hon yn bost eitha fyr gan bod ni wedi blino'n lan, ond o'n i isio sgwennu rhywbeth, pa bynnag mor fyr, am fy niwrnod cyntaf ar Faes Eisteddfod Wrecsam 2011.

Mi es i yno heddiw yn bennaf er mwyn cael fy nghyfweld gyda gweddill y pedwar olaf gan y bbc, a hynny'n fyw ar y teledu. Mi wnes i gyfweliad teledu cwpl o wythnosau yn ol, ond cael gorfod gwneud y peth yn fyw'n her newydd a gwahanol.  Diolch byth felly ges i gwmni dwy arall o gystadleuwyr Dysgwr y Flwyddyn (nad oedd Cat Dafydd yna yn anffodus oherwydd salwch).   Roedd o'n profiad diddorol a chyffrous a dweud y gwir, ac yn siawns i weld ychydig o bethau tu ol i leni'r bbc, hynny yw'r ystafelloedd colur a 'phabell' mawr llawn cyfrifiaduron ac ymchwilwyr.  Roedd 'na rywun yn edrych ar ein olau ni trwy'r amser, er roedd 'na lot o aros rhwng y darn 'byw' a recordio stwff o ran o noson wobrwyo nos fercher.   Un peth da am hyn oedd ges i ddigon o gyfle i siarad â Kay, Sarah, a'i gwr hi.
Mi aeth y darn byw yn o lew am wn i, er clywais fy hun wneud ambell i 'glanger'!  Mi aeth y dwy arall yn wych chwarae teg, ond wrth edrych yn ol y teimlad sydd gen i yw allai pethau wedi mynd yn lot waeth!

O ran y darnau wnaethon ni recordio nes ymlaen, mae'r syniad yw a fyddan nhw'n cael eu chwarae ar noson y wobrwyo.  Mi fydd hynny'n gadael i ni 'ymlacio' ychydig, yn hytrach na phoeni am siarad yn cyhoeddus ar y noson.  Do'n i ddim yn andros o hapus gyda'r ymatebion a roddais, ond dyna fo, mae o wedi darfod rwan.  Gobeithio does dim rhaid i mi guddio o dan y bwrdd!

Ar ol gorffen y cyfweliadau piciais i draw i Faes D er mwyn cyfarfod Mark o'r dosbarth nos. Gaethon ni sgwrs braf dros paned, a wnes i weld nifer o ffrindiau eraill hefyd.  Roedd popeth braidd yn afreal mewn ffordd, gan bod sbio arnon ni o ochr draw y pabell oedd llun maint llawn o fi fy hun (a gweddill o ddysgwyr y flwyddyn)!

Ta waeth, mi fydda i nol ar y maes bore mawrth i wneud y cyflwyniad Daniel Owen yn Maes D

24.7.11

Wythnos i fynd...

Mae wythnos yr Eisteddfod yn agoshau'n andros o sydyn erbyn hyn, a gaethon ni ein ymarfer sgets olaf nos fercher (diolch i Anne a Mike am ein croesawu i'w dy).   Roedden ni wedi codi'r bar ychydig wrth i ni drio ei wneud heb sgriptiau, ac er i ambell i un ohonynt cael peth drafferth gwneud hynny (gan gynnwys finnau!), ar ol nifer o ymarferion roedd pethau wedi gwella'n sylweddol.  

Mi wnes i fynychu ymarfer y cyflwyniad Enoc Huws gan Daniel Owen (efo criw Ty Pendre, Yr Wyddgrug) yn ystod yr wythnos hefyd, ac er gwaethaf y ffaith nad oes arnynt y pwysau ychwanegol o ddysgu geiriau'r darn, mi fydd y perfformiad yn dipyn o her.   Mae Cymraeg y llyfr yn eitha annodd ynganu mewn mannau, ac mae gen i dueddiad newid ambell i air i rywbeth mwy cyfarwydd, felly mwy o ymarfer amdani yw'r ateb dwi'n credu.

Yn olaf o ran pethau Eisteddfodol yw'r cyflwyniad mi fydd Jonathon Simcock a finnau'n ei wneud ynglyn â dysgu Cymraeg tu hwnt i Gymru, a hynny hefyd ym Maes-D.  Mi fydden ni'n cael sgwrs arall yn ystod yr wythnos er mwyn trafod y cyflwyniad yn bellach.

Mi fydd y cyflwyniad Enoc Huws yn digwydd am 10.00 dydd Mawrth, y cyflwyniad 'Dysgu tu allan i Gymru'  am 15.30 dydd Mercher, a chystadleuaeth y sgets am 12.00 dydd iau.

Edrychaf ymlaen at y tri 'digwyddiad' mewn ffordd gwahanol!

16.7.11

Wythnos anarferol... a Chariad@Iaith...

Mae'r wythnos hon wedi bod yn un anarferol i mi.  Dwi wedi treulio rhan mwy'r wythnos yn fan hyn yn Stockport yn edrych ar ol fy nai, ar ol i'w chwaer dioddef anafiadau yn sgil damwain parc dwr yn Nhwrci.  Roedd angen i'w rhieni trefnu hedfan ar frys er mwyn bod wrth ei hochr. Derbynion alwad ffon nos lun gan ei chariad i ddweud ei bod hi'n cael llawdriniaeth frys, ac yntau yn methu trosglwyddo'r holl wybodaeth yn eglur ar y pryd, gan ei fod o mewn sioc hefyd.

Diolch byth mae hi'n gwella erbyn hyn, er mi fydd hi'n wythnos arall o leiaf cyn iddyn nhw cael caniatad dychweled adre gan y doctoriaid.  Dwi'n meddwl ga i ddychweled adre i Gilgwri heddiw, gan fod Wil yn mynd i aros efo ffrind am y penwythnos. Tu hwnt i'r penwythnos mae ffrindiau agos y teulu'n mynnu iddi fo fynd yno i aros (a chael ei aduno â chi'r teulu sy'n aros gyda nhw!).  Mae'n eitha gymleth a dweud y gwir, gan fasai'n well gan Wil aros yn ei dy^ ei hun (ac yntau'n pymtheg oed) ond chwarae teg mae o wedi bod yn eiddfed iawn ac yn gwmni dda i mi.

Er gwaethaf trefniadau anarferol yr wythnos, dwi wedi cael siawns i dal i fyny efo digwyddiadau yn y 'Fforest', hynny yw Cariad@Iaith, diolch i S4Clic.   Rhaid dweud fy mod i wir wedi mwynhau'r cyfres, ac mae S4C yn haeddu'r holl glod maent wedi derbyn hyd yn hyn.   Yr unig peth do'n i ddim yn disgwyl (a dim isio gweld i fod yn onest) oedd dychweliad Janet Street Porter ar y noson gwobrwyo, yn cwyno o hyd am gyfleusterau Nant Gwrtheyrn!  Fasai wedi bod yn well gen i weld Tanni Grey Thompson yno, ennillydd y cyfres, a rhywun sydd wedi defnyddio ei Chymraeg yn y cyfamser, ond ella nad oedd hi ar gael?

Cyfres arall? pwy a wir, ond mae'r cymysgedd o 'ser' yn holl pwysig mewn cyfres o'r fath, felly dim byd ar frys os gwelwch yn dda..!

9.7.11

Ty Daniel Owen...

Mi ges i gyfle'r wythnos yma i fynd i weld ty Daniel Owen yn Yr Wyddgrug, hynny yw'r ty a adeiladwyd ganddo yn sgil llwyddiant ei nofel 'Rhys Lewis'.  Mae'r ty'n gyferbyn, mwy neu lai, i safle y ty teras lle ganwyd ef, ty a theras sydd erbyn hyn wedi ei ddymchwel (er mwyn hwyluso llif traffic y dre yn y chwedegau mae'n debyg), ond sy'n cael ei gofio gyda charreg goffa.  

Felly dyma fi yn ymuno â chriw bach o ddysgwyr eraill, Eirian o'r Ganolfan Prifysgol Bangor yn y dre, a  Nigel, perchennog y ty, am y cerddediad byr lawr i 'Faes y Dre', ac i lidiart blaen y ty fictorianaidd 'ar wahan' a adeiladwyd gan yr awdur a theiliwr o fri.   Adeg Owen roedd Maes y Dre yn rywle ar gyrion Yr Wyddgrug, a ddisgwrifwyd yn y 'deeds' fel 'Near Mold'.  Erbyn heddiw mae'r ardal hen wedi ei llyncu gan y dref ei hun.  Rhaid roedd ganddo fo olygfeydd go dda hefyd, dros Ddyffryn Alyn, a thuag at y bryniau sydd erbyn hyn yn gartref i adeiladau Neuadd y Sir,, y Llysoedd Barn a'r Theatr.  Mae stad o dai cyngor ar ochr draw y ffordd osgoi, a choed yr ardd ffrynt yn rhwystrau i'r olygfa a welodd Daniel Owen, ond mae'n digon hawdd dychmygu mai llecyn braf o dir oedd yr un a brynodd ef yn ol yng nganol y 19C am dua £60.
Yn ol 'deeds' y ty (os cofiaf yn iawn) gwariodd Owen tua £500 ar y gwaith adeiladu, ond o fewn ychydig o flynyddoedd (ac ar ol marwolaeth ei fam) dewisodd ef ei werthu (am ychydig llai o bres) a symud yn ol i'r dre ei hun i dy llai o lawer.

Gaethon ni daith o amgylch y gerddi, y stabl, y seler a nifer o ystafelloedd byw y ty, oedd i gyd yn ddiddorol iawn.  Roedden ni i gyd yn trio dychmygu Daniel Owen yn eistedd wrth ei ddesg yn ysgrifennu hanes Enoc Huws, y llyfr yr ydan ni wedi bod yn darllen yn ddiweddar, a thestun cyflwyniad ym Maes-D ar y pedwaredd o Awst cofiwch!

Felly diolch yn fawr mawr i Nigel a'i deulu am ei garedigrwydd, ac am adael i ni grwydro o amgylch ei gartref arbennig.

3.7.11

Bore Coffi Cymdeithas Birkenhead...

Roedd rhaid i mi fynd lawr i Benbedw bore sadwrn, ac ar y ffordd adre mi alwais mewn i fore coffi'r Gymdeithas, oedd yn cael ei gynnal yn festri'r capel Cymraeg.   Roedd o'n braf gweld nifer (ymhlith y nifer parchus o Gymry lleol) o'r dysgwyr dwi'n eu dysgu yno, sydd bellach yn aelodau'r gymdeithas, yn ogystal â chyfarfod dysgwraig arall sy'n rhugl mewn sawl iaith.  Roedd Ernie (un o'r dysgwyr) yn brysur tu cefn i'r stondin planhigion, a phrynais i blanhigyn del, ond un na alla i gofio ei enw.  Gobeithio'n wir un 'hardy' ydy o, gan nad ydyn ni'n enwog am yr un fys gwyrdd, heb son am fysedd.   Doedd dim digon o amser gen i i edrych ar y stondin llyfrau'n fanwl, ond ges i fy narbwyllo i brynu cwpl o resi o docynnau raffl cyn gadael.   Wrth i mi adael roddais 'nhocynnau raffl yn dwylo saff Mike, gan nad oedd y 'tynniad' wedi cael ei wneud erbyn hynny.

Digwydd bod, nes ymlaen ges i neges testun gan Anne, gwraig Mike, yn dweud ro'n i wedi ennill gwobr raffl, a hynny planhigyn arall! 

30.6.11

Ymarfer Sgets..

Gaethon ni ymarfer yn y ty neithiwr gan groesawu Geraint ac Ernie i'r 'cast'.  Roedd o'n braf gweld pawb a chael siawns am sgwrs yn ogystal a gweithio ar ein 'campwaith eisteddfodol'!!  Erbyn hyn mae 'na wyth o'r dosbarthiadau nos yn chwarae 'dysgwyr' yn y sgets, yn ogystal a finnau'n chwarae rhan y 'tiwtor'.  O'r gorau, wn i fod ychydig o deipcastio'n mynd ymlaen yn fan hyn! 

Dani wedi ychwanegu cwpl o gymeriadau i'r sgets gwreiddiol, a berfformwyd am y tro cyntaf (wel yr unig tro hyd yn hyn) yn Eisteddfod y Dysgwyr y Gogledd Dwyrain eleni.  Mi fydd y perfformiad nesa, ac olaf mae'n debyg, ym Maes-D ar y pedwaredd o Awst am 12o'r gloch, a hynny heb y geiriau gobeithio.  Dani wedi trefnu un ymarfer arall cyn y ddiwrnod mawr, a hynny mewn tair wythnos, sef dim ond pythefnos cyn y steddfod. Mae pawb wedi addo bod yn 'airberffaith' erbyn hynny, felly gawn ni weld!   

26.6.11

cyfweliadau...

Cefais fy nghyfweld dydd mecher gan ohebydd y bbc, Rhian, ar ran cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.  Mi fydd Y Post Cyntaf yn darlledu pytiau gan y pedwar sydd yn y rownd terfynol wythnos cyn i'r Eisteddfod dwi'n credu, ac mae'r un ddefnydd yn debyg o gael ei defnyddio pe tasai raglenni newyddion eraill eisiau dyfyniadau ganddon ni.  Roedd angen i mi wneud yr un beth yn gyntaf yn y Gymraeg ac wedyn yn Saesneg, oedd a dweud y gwir yn annoddach mewn ffordd, gan mod i wedi ymarfer yn fy mhen sawl gwaith yr hyn o'n i eisiau dweud ond wrth reswm yn Gymraeg.   Diolch byth mi fyddan nhw'n gallu gwneud cryn olygu ar y darnau a recordwyd, mi fydd wir angen rhoi trefn arnynt!

Mae tocynnau ar gael erbyn hyn i noson y wobryo, sy'n gwneud i mi deimlo braidd yn nerfus, ac mi fydd rhaid i mi fynd amdani i archebu rhai i'r teulu.

23.6.11

Noson gyda Jerry Hunter

Dwi newydd dychweled o noson arbennig draw yn Yr Wyddgrug yng nghwmni yr Athro Jerry Hunter, darlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor (ymhlith llawer o bethau eraill mae'n siwr).  Noson 'C Ciwb' oedd o, clwb cymdeithasu Cymraeg y dre, sy'n i weld yn mynd o nerth i nerth.  Mae un o ddosbarthiadau'r ardal wedi bod yn astudio un o lyfrau yr Americanwr, sef 'Gwenddydd', nofel wnaeth ennill  medal rhyddiaith yr Eisteddfod y llynedd.

Ni fasai neb yn ystyried Jerry Hunter yn ddysgwr wrth reswm. Mae o'n siarad Cymraeg cyfoethog a graenus, yn drwm erbyn hyn o dan ddylanwad tafodiaeth ei ardal mabwysiedig sef Dyffryn Nantlle. Mae'n chwater canrif bron ers iddo fo fynychu cwrs Wlpan dwys yn Llambed, a dim ond ambell i waith clywais fymryn o'r acen Americanaidd yn treiddio ei Gymraeg.

Gaethon ni ein diddanu am ddwy awr bron gan hanes ei fywyd - sut ddaeth hogyn o Cincinnati i fod yn ysgolhaig llenyddiaeth Cymraeg - ac ychydig o gefndir ei nofel buddugoliaethus, rhywbeth sydd yn sicr o'm sbarduno i ail-afael ynddi, ar ol i fy mhen cael ei droi gan lyfr arall cyn i mi roi siawns dda iddi.

Roedd 'na sesiwn holi ac ateb ar ol yr araith, a gaeth nifer o gwestiynau diddorol iawn eu gofyn a'u hateb. Felly noson hynod o lwyddianus, a ches i gyfle i gwrdd a nifer o hen ffrindiau dwi heb weld ers meitin.

12.6.11

dim yn bles gyda thre y traeth pleser....

Dwi ddim yn cofio'r tro diwethaf i mi fod yn Blackpool.  Gaethon ni wyliau teulu yn y cyffuniau pan o'n i'n plentyn, ond ers hynny dim ond unwaith ydwi'n cofio bod yna, a hynny ar ryw 'wibdaith tren dirgel' o Lerpwl, a alwodd mewn i'r dre enwog glan y mor.

Felly wrth drefnu trip yna'r wythnos yma, do'n i wir ddim yn gwybod be i ddisgwyl.  Dwi'n ddigon cyfarwydd á threfi glan y mor megis Llandudno ac Aberystwyth, ond do'n i ddim yn disgwyl i Blackpool bod mor fawr. Mae'n andros o le mawr, gyda'r 'anrhefn' o adeiladau blinedig y prom yn ymestyn am filltiroedd!  I fod yn deg, mae 'na dipyn o waith adnewyddu'n mynd ymlaen ar y funud, felly do'n i ddim yn gweld yr hen le yn ei ogoniant llawn efallai, ond teimlon ni'n isel ein ysbrydion wrth gerdded ar hyd y rhesi o arcades a llefydd 'adloniant' y North Shore.  Yn Blackpool does dim byd i dorri ar draws y diflastod yma (wel ar wahan i ambell i barti plu ar gylchdaith gwisg ffansi  o amgylch tafarndai'r dre!), dim gwyrddni, dim cefndir mynyddog i roi gwaith dyn mewn cyd-destun.  Roedd hyd yn oed y twr rydlyd - nodwedd enwocaf y lle - wedi ei gorchuddio wrth i waith adnewyddu cael ei wneud, ac o'r herwydd ar gau i ymwelwyr.

Er hynny, roedd gynnon ni fwriad i fynd i weld 'Madame Tussauds' a'i modeli cwyr byd enwog.  Cyn hir welon ni arwydd y 'waxworks' yn y pellter a chododd cyflymder ein camau yn reddfol er mwyn cyrraedd y nod.   Dydy o ddim yn rad i fynd i mewn (£42 i docyn teulu), ac nad oedden ni am 'arbed' arian trwy dalu am docyn i weld y 'Seaworld' ar yr un bryd, ond taliais heb oedi - a hynny er mwyn dianc diflastod y dre.  Gaethon ni ddim ein siomi diolch byth gan yr hyn a welson ni.  I ddechrau gaethon ni gyfle i eistedd ar fainc beirniaid yr X Factor, rhwng Louis a Simon - dychrynllyd o naturiol eu golwg - cyn symud ymlaen i weld sawl seren arall.  Ges i fy synnu nad oedd neb yn dy rwystro rhag cwffwrdd a'r delweddau, neu dynnu lluniau, er roedd pobl y 'gweithdai cwyr' yn tynnu lluniau eu hunan er mwyn dy demptio i wario mwy o bres ar swfenirs personol megis keyrings ar diwedd dy daith.

Mae angen trawsblaniad gwallt ar y dau ohonynt...
Ta waeth, ar ol pryd o fwyd Pizza Hut o dan gysgod 'The Big One', treulion ni hanner awr diddorol - a rhatach o lawer - yn 'Ripley's World of Weird' drws nesaf, rhywle hollol addas i hynodrwydd Blackpool ddwedwn i!  Ar ol dweud tata i bethau rhyfedd Mr Ripley, anelon ni at y safle tramiau dros y ffordd, a taith tram hamddenol a hyfryd ar y bwrdd top i ben arall y prom cyn croesi'r dre a dychweled at loches y car!

Rhywsut dwi ddim yn gweld fy hun yn dychweled i'r darn yma o Sir Caerhirfryn am chwater canrif arall, os byth.  O gymharu â Blackpool, mae rhai o drefi glan y mor y Gogledd yn teimlo fel nefoedd ar y ddaear!

9.6.11

Diwedd tymor, diwedd blwyddyn, diwedd cyrsiau...

Wel mae tymor olaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben, hynny yw ar ran fy nosbarthiadau nos.  Mae'n annodd credu ein bod ni wedi cael 30 wythnos o wersi ers i ni ddechrau yn ol ym mis medi.  Y tro yma mae gen i deimladau cymysg a dweud y gwir.  Mae'r dosbarth blwyddyn tri wedi dod i ddiwedd y daith, wel y taith ieithyddol sydd ar gael yn yr ysgol mod i'n dysgu ynnddi.  Does dim modd cynnig blwyddyn pedwar iddynt, er bod y rhan mwyaf yn awyddus i ddal ati.  Mae aelodau'r dosbarth hwn yn teimlo fel ffrindiau bellach, a dwi'n awyddus i gynnig rhywbeth, felly wnawn ni ymdrechu dod o hyd i rywle arall i gyfarfod a chario ymlaen mewn modd llai ffurfiol o bosib.  Gwiliwch y gofod yma!

Tymor nesaf mi fydda i'n arwain myfyrwyr blwyddyn dau trwy eu trydydd flwyddyn gobeithio, a chymryd dosbarth arall o ddechreuwyr, os wnaiff digon troi i fyny i gofrestru.  Er hynny, mae 'na deimlad o ansicrwydd ar led yn gyffredinol ymhlith y tiwtoriaid, gan bod yr ysgol wedi troi'n 'academi', ac fel pob ysgol yn Lloegr bellach does dim rhaid iddynt cynnhig arbenigeddau er mwyn ennill arian ychwanegol.  Mae hyn yn golygu does gynnyn nhw ddim rheswm penodol, neu ddyletswydd cynnig cymaint o ieithoedd, a dim ond y ffaith bod y prifathro (dioch byth) wedi penderfynu parhau cynnig dosbarthiadau nos (ar ol edrych ar 'spreadsheet' manwl!) sy'n cadw pethau'n rhedeg erbyn hyn,  gawn ni weld be ddaw!

31.5.11

Hen gyfaill sydd angen bach o waith cynnal a chadw.....

Dros y cwpl o fisoedd diwetha dwi wedi bod yn mwynhau mynd allan ar gefn beic am awr neu ddwy cwpl o weithiau'r wythnos (mi fasai rhai ohonoch chi o bosib wedi gweld ambell i 'fideofeicflog' yn fan hyn).   Er mae gen i nifer o feiciau yn y cwt, does gen i ddim ond un sy'n addas i'r ffordd fawr (hynny yw sy'n roadworthy) ar y funud.  Er hynny dwi wedi darganfod problemau sylfaennol efo hwnnw hefyd, hynny yw bod y gears yn llithro pob tro mod i'n sefyll ar y pedals er mwyn dringo allt, rhybeth sy'n gallu rhoi bach o ysgatwad i fi weithiau!  Dros amser mae danedd y sprockets wedi treulio am wn i, sy'n golygu na fydd y cadwyn yn eu dal nhw'n ddigon cadarn ac yn neidio a llithro drostynt o dan bwysau.   Ta beth, dwi newydd 'buddsoddi' yn y cydrannau sydd eisiau arna i er mwyn datrys y problem, yn ogystal a teirs a tiwbs newydd hefyd.  A dweud y gwir ges i dipyn o sioc wrth wneud, ac ym mhen dim ro'n i bron wedi treulio £100!

Digon teg am wn i, roedd y beic yn un weddol costus pan prynais i fo yn ol yn 1995, felly dyma fi yn Googlo er mwyn darganfod y prisiau erbyn heddiw.   Rhaid dweud ges i sioc arall wrth ddarganfod bod 'Dawes Super Galaxy' yn costio tua £1399 y dyddiau 'ma, tua dwbl y pris a daliais i rhai 16 mlynedd yn ol.  Mae'n siwr allwch chi ddod o hyd i un ar e-bay sydd heb cael llawer o ddefnydd am hanner y pris newydd, ond o weld y prisiau hynny, dwi'n sicr bod y buddsoddiad o gant o bunnau yn un gwerthchweil. 

Fy hen gyfaill - Dawes Super Galaxy o 1995

23.5.11

Erthygl diddorol am Eisteddfod y Cadair Du....

Dyma erthygl a gyhoeddodd yn ol yn 1992 gan gylchgrawn o'r enw 'The Wirral Journal'.   Mae'n adrodd hanes yr Eisteddfod enwog 'ma i ddarllenwyr yng Nghilgwri,  hanes oedd yn newydd i'r rhan helaeth ohonynt mae'n siwr.   Mae'r cofeb ysblenydd (gwelir y llun yn yr erthygl) yn dal i sefyll ym Mharc Penbedw, adnodd sydd wedi cael ei drawsnewid dros y flynyddoedd diwetha a'i achub o flynyddoedd o esgeulustod a fandaliaeth.

18.5.11

Diwrnod i gofio...

Yn ol ym 2007 pan cynhalwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug, penderfynais roi cynnig ar gystadleuaeth  Dysgwr y Flwyddyn.  Nid oedd fy nghais yn un lwyddianus y flwyddyn honno, a phrin ges i siawns i fwynhau'r profiad mewn gwirionedd oherwydd prinder amser ar y ddiwrnod.  Teimlais braidd yn 'fflat' am sbel ar ol y profiad hwnnw, felly nad oeddwn i'n sicr am drio eto, ond yn y pendraw penderfynais roi un gynnig arall iddo, yn enwedig gyda'r steddfod yn dychweled i'r gogledd dwyrain, i'r dref lle ganwyd fy nhad!

Felly bore dydd Sadwrn dechreom ni ar y taith tri chwater awr i Wrecsam.  Ar ol methu cael hyd i fynedfa Coleg Iâl a'i barcio am ddim, daliais £3 i barcio yn ymyl y pwll nofio, a darganfodom giât i'r coleg - ond un dan glo!  Gyda amser fy nghyfweliad yn agoshau, penderfynom ddringo'r giât i gyrraedd derbyniad y Coleg oedd o fewn ein golwg ni.  Nad oedd y tasg yma'n un hawdd i Jill, ond gyda cefnogaeth lleisiol rhai o staff y llyfrgell drws nesa (yn cael torriad sigarennau wrth y drws cefn) llwyddom gyrraedd y nod o fewn amser.   Ar ol croeso cynnes gawsant ddigon o amser am baned sydyn, cyn i mi gael fy arwain draw i adeilad ar wahan, a'r cyfweliad ffurfiol.   Teimlais aeth pethau'n o lew yn fan'na, er i mi barablu ymlaen am dros bum munud yn ddibaid fel ymateb i'r cwestiwn cyntaf.   O fewn dim o'n i'n cael fy arwain yn ol at fynedfa'r coleg - ac i dorri'r sychder a fagwyd yn ystod y cyfweliad - cyn mynd i ffeindio Jill.   Gefais fy hysbysu bod Jill yng nghanol 'sesiwn stori' oedd un o'r gweithgareddau a drefnwyd i lenwi'r dydd, felly ges i siawns i siarad efo Spencer Harris, dysgwr y flwyddyn 2001, a chefnogwr brwd ac arbennigwr ar Glwb Peldroed Wrecsam.   Ar ol sgwrs efo rhai o'r cystadleuwyr eraill, penderfynom anelu at y dref am rywbeth i fwyta, ac am gip ar ddatblygiad siopa newydd Wrecsam 'Dol yr Eryrod' ('cwlwm tafod' o enw os welais i un erioed!).

Ar ol pryd o fwyd ysgafn ond blasus yn Pizza Express, dychwelom i'r coleg mewn amser i glywed diwedd sesiwn bingo a drefnwyd i'r cystadleuwyr a'u cefnogwyr.  Cawsom sgwrs braf efo Sion Aled am seiclo yng Nghilgwri ymhlith pethau eraill, cyn gafodd pawb eu cyfeirio at y 'Rendevous', ystafell cyfforddus lle roedd sesiwn salsa ar fin ddechrau.   Nad ydwi'n person gyda 'symudiadau' da, ond o dan yr amgylchiadau ro'n i'n ddigon hapus i gymryd rhan.  Wrth reswm roedd popeth trwy gyfrwng y Gymraeg, felly derbyniodd Jill (a nifer eraill) eu gwers Salsa cyntaf tra wynebu her ychwanegol, ond gafodd pawb llawer o hwyl o dan hyfforddiant cadarn.

Cyn hir daeth yr hwyl salsaidd i ben, gan bod y beirniaid yn barod i ddatgan enwau'r pedwar yn y rownd derfynol. Clywson ni ganmoliaeth mawr am safon pob un o'r cystadleuwyr, ond gefais sioc mawr o glywed fy enw'n cael ei ddarllen,  do'n i wir ddim wedi disgwyl mynd trwyddo.   I fod yn onest dwi'n gweld fy hun fel 'cynrychiolydd' yn hytrach na 'chystadleuydd', un o bedwar/bedair (fi yw'r unig dyn!) sydd gan y fraint o fynd i'r Eisteddfod eleni i gynrychioli llwyddiant sawl dysgwr.
Dwn i ddim yn union be' i ddisgwyl  ym mis Awst, ond edrychaf ymlaen!

14.5.11

Pentre mwyaf anghysbell Cilgwri....?


Dwi ddim yn sicr lle'n union mae 'ffin' Cilgwri. Mae 'na 'Fwrdeistref  Metropolitan Wirral', sy'n rhan o 'Swydd Merseyside',  ond mae 'na ran arall sydd yn Swydd Caer o hyd, gan gynnwys llefydd fel Ellesmere Port a Neston.  Wedi dweud hynny, credaf fod Shotwick, pentre cuddiedig sydd dim ond tafliad carreg o Gymru (yn llythrennol!), yn cyfri fel rhan o'r penrhyn, ac mae'n digon posib hwn yw'r pentre olaf yng Nghilgwri, hynny yw cyn cyrraedd y llefydd yna sydd ddim mewn gwirionedd rhan o'r penrhyn..  ond dwi ddim yn sicr! 
Mae'n debyg bod pawb sy'n cyfarwydd â'r taith o Lannau Mersi i'r Gogledd wedi sylwi ar yr arwydd sy'n eich cyfeirio i Shotwick, cwta milltir o gyrraedd y 'cyfnewidfa' Drome Corner.  Pe tasech chi i gywiro oddi wrth eich taith a dilyn yr arwyddion, ym mhen llai na filltir a hanner mi fasech chi yng nghanol Shotwick, sy'n cysgodi ar gyrion 'gwastadoedd' aber y Dyfrdwy.  A dweud a gwir does fawr o bentre yno, dim ond llond llaw o fythynod, ychydig o ffermydd, neuadd Shotwick ac eglwys hynod o ddiddorol ac hanesyddol.  Mae'n annodd credu heddiw, ond ar un adeg ffordd masnach hynod o bwysig dilynodd y ffordd yma, sef llwybr masnach y 'Saltsway'.  Dros 'rhyd Shotwick' gyrraeddodd fyddin Edward 1af Cymru, ac mi gludodd gerrig a ddefnyddwyd i godi Castell y Fflint o chwarel yng Nghilgwri dros yr un groesfan.


Felly roedd o'n braf cael y cyfle ail-ymweled â'r pentre ar daith beicio'r wythnos yma.  Ges i fy synnu i ffeindio drws yr eglwys heb ei gloi, yn enwedig o gofio darllen yn y papur lleol am ladron yn dwyn gloch enwog oddi yno llai na blwyddyn yn ol.   Mae o wir yn eglwys hynod o ddiddorol, ac mae'n anhygoel meddwl bod rhan o'r adeilad yn dyddio yn ol i'r 12C.   Mae'r porth yn dangos creithiau 'gweithgaredd dydd sul' gwahanol a digwyddodd yno yn y 14C.  Ar orchymyn Edward III mi fasai saethyddion yn defnyddio'r sabath i ymarfer eu sgiliau saethu ar gaeau cyfagos y 'Butts', a gadael  degau o rychau yng ngherrig tywodfaen y porth wrth roi min ar eu saethau! 

rhai o'r rhychau a greuwyd gan saethyddion y 14C..

O Shotwick mae'n posib croesi i Gymru trwy ddilyn lon bach (di-ceir) oedd yn arfer arwain at hen gei ar y Dyfrdwy.  Erbyn heddiw mae'r lon yn eich arwain trwy'r caeau tuag Drome Corner, ac i feicwyr at hwylustod a diogelwch y llwybrau beicio i Gei Connah a Chaer!

Croeso i Gymru! mae hen gadair wedi ei losgi  yn dynodi'r ffin ar y lon o Shotwick
Ond y tro yma ro'n i am ddod o hyd i lwybr arall er mwyn gadael y pentre, sef llwybr cyhoeddus sy'n arwain at pentre olaf ond un Cilgwri, sef Puddington.   Ges i dipyn o dasg yn cael hyd i'r llwybr 'ma, ac roedd rhaid i mi stryglo i godi'r beic dros ambell i gamfa, gyda dalan poethion yn bygwth fy nghrothau coesau (calves) o bob cyfeiriad! Ond llwyddais cyrraedd Puddington yn y diwedd, yn falch ro'n i wedi dod o hyd i ffordd di-draffic arall o archwilio'r penrhyn 'ma.

7.5.11

Cylchdaith arall ar hyd lannau'r Dyfrdwy....

Ges i dip da'r wythnos yma i drio'r llwybr beicio sy'n glynu  at lannau'r afon Dyfrdwy o Bont Penarlág i Gaer, ac felly dyna be wnes i ychydig o ddyddiau'n ol.   Mae'n wirioneddol ffordd hwylus o gyrraedd Caer, ac o osgoi traffic y priffyrdd - rhywbeth sy'n digon i godi ofn ar rywun ar gefn beic y dyddiau 'ma.    Digwydd bod ro'n i'n ddigon ffodus i weld yr 'Afon Dyfrwdwy' (yr ysgraff y weli di yn y lluniau), yn cludo un o adenydd enfawr yr Airbus 380, 'cydran' sy'n cael eu cynhyrchu ym Mrychdyn.  Dwi'n credu mi gaeth y bad hynod o isel yma ei adeiladu'n arbennig i drosglwyddo'r cydrannau enfawr 'ma o'r ffatri i Borthladd Mostyn. Yn sicr does fawr o le o dan y pontydd.

Adain 'Super Jumbo' ar ei ffordd lawr y Dyfrdwy
Ar ol dilyn yr afon am rai saith milltir, mi wnes i ffeindio fy hun yng nghanol Caer, heb hyd yn oed gweld yr un gar!   Mae 'na gwpl o lwybrau di-draffic eraill sy'n arwain i Gaer i fod yn deg, un ar lon a greuwyd o hen reilffordd, ac y llall (yr un a ddewisais fel llwybr allan) ar hyd 'llwybr halio' y camlas, sef camlas y 'Shropshire Union'.   Gadawais y Dyfrdwy ger y lociau oedd yn arfer cysylltu'r camlas â'r afon (erbyn hyn mae rhwystr parhaol yn llenwi'r bwlch lle safwyd y llifddorau i'r Dyfrdwy), cyn i mi dreulio ychydig o amser yn dod o hyd i fan cychwyn cywir y llwybr halio -  mae'n hawdd dechrau ar ochr anghywir y camlas, ar lwybr sy'n dirwyn i ben ym mhen canllath! 

Unwaith eto dyma ffordd hyfryd iawn o gyrraedd neu adael Caer, a ffindiais fy hun yng nghanol y cefn gwlad mewn ychydig o funudau.   Ar ol tua pedwar milltir mi drois oddi ar y towpath ac ymunais â rhan o 'Rhwydwaith Beicio Genedlaethol Llwybr 56' (sef y llwybr Sustrans o Lerpwl i Gaer), sy'n cadw at lonydd bach a thawel, a cyn bo hir ro'n i'n ol yn fy man dechrau ger y Two Mills yng Nghilgwri.  Taith hyfryd mewn tywydd braf :)
Ysgraff yr 'Afon Dyfrdwy' a'i llwyth arbennig

28.4.11

Anelu at y Ffin....

Dylai'r teitl ar y sgrin dweud 'Anelu at y Ffin', dwn i ddim be digwyddodd i'r fideo wrth i mi ei lanlwytho!
Ta waeth, dyma fi yn ceisio cyrraedd y ffin ar hen ffordd British Steel..







Hen boster yn hysbysebu Glo Cilgwri!

24.4.11

Tro byr ar gefn beic...

15.4.11

Meddyliau nos wener....

Dwi credu bod y sylwebydd AA Gill sy'n cyfrifol am ddweud rhywbeth fel 'Y Gymraeg yw'r unig iaith all rhywun ei dysgu er mwyn siarad a llai o bobl'. Ar y wyneb sylw eitha doniol yw hyn, ond mae Gill yn mynd yn ei flaen i ddweud  "There isn’t a single human being you can talk to in Welsh you couldn’t have spoken to before in English. You can say just the same things, but it’s uglier, clumsier" sy'n fwy nodweddiadol efallai o'r hyn mai rhywun yn ei disgwyl ganddo.  Mae AA Gill (tybed oes gynno fo enw cyntaf?) wedi bod wrthi'n hogi ei gyllell ers meitin wrth gwrs, ond am ryw rheswm ro'n i'n meddwl am y sylw hyn yn ddiweddar.  

Pob dydd wna i glywed canoedd o bobl yn siarad Saesneg, boed hynny ar y stryd, mewn siopau, yn y caffi, ym mhobman!  Prin iawn ga i glywed gair o Gymraeg (iawn, wn i mod i'n byw yn Lloegr!). Ond pe taswn i - a dwi wedi ar nifer o achlysyrau - i glywed rhywun yn siarad Cymraeg mi faswn i'n sicr o stopio a dweud s'mae, a chael sgwrs dymunol mwy na thebyg.   Onibai am y ffaith fy mod i'n siarad Cymraeg faswn i byth wedi dweud dim byd wrthyn nhw mae'n siwr.   Mae iaith wrth reswm yn rhywbeth sy'n wahanaethu pobl ac sy'n dod á nhw ynghyd. 

Trwy ddysgu Cymraeg dwi wedi cyfarfod, cymdeithasu, sgwrsio neu fynd yn gyfaill á llawer iawn o bobl diddorol a difyr.  Mae 'na gysylltiad naturiol rhywsut sy'n codi trwy rannu unrhyw ddiddordeb, ond mae dysgu iaith wrth reswm yn ymwneud á siarad a chymdeithasu.

Mae geiriau AA Gill (tafod mewn boch neu beidio?) yn dangos diffyg dealltwriaeth sylfaenol, hynny yw bod diddordeb mewn ieithoedd, pa mor fach bynnag yw'r nifer o siaradwyr, yn dod á phobl ynghyd, a dwi ddim yn gweld hyn yn peth drwg, wyti?

10.4.11

Lawr ar lannau'r afon...

Mae angen tipyn o wellhad ar safon y ffilmio ond ta waeth, dyma fideo bach arall...