1.9.09

Rhyd Fudr....




Be' fedra i ddweud am Ryd Fudr? Adeilad sy'n dyddio yn ôl i 1725 ydy o, bwthyn clyd yn cuddio mewn plygiad yn y tirlun, ond er hynny lleoliad sy'n cynnig golygfeydd ysblenydd o fynyddoedd Meirionydd a thu hwnt. Does fawr ddim wedi newid dros y canrifoedd o sbio trwy'r ffenestri cyfyngedig mae'n siwr. Does dim ffyrdd i'w gweld, dim sŵn traffic, dim gwrid oren i lygredu lliw'r nos, dim ond sŵn defaid, adar, y gwynt a'r glaw. Dim ond milltir o bentref Llanuwchllyn ydy o, ond milltir go iawn yw hynny, milltir Cymreig. Wedi gadael y pentref ar y lôn sy'n amgylchu ochr dwyreinol Llyn Tegid, mae 'na lidiart digon anhysbys ar y de, yn syth ar ôl G&B Felindre. Wrth basio trwy'r giât mae 'na lwybr cul s'yn arwain i fyny yn serth, yn dilyn nant bach byrlymus. Efo dibyn ar yr un ochr ar y teirs yn llithro ar wyneb llech y lôn, go brin fasai Nissan Note (neu unrhyw cerbyd heb yriant 4x4) cyrraedd 'y Rhyd' yn ystod misoedd y gaeaf.

Dwi byth yn cofio penwythnos gwŷl y banc mis awst mor wael ar ran y tywydd. Diolch byth mi wnaethon ni benderfynu dringo Cadair Idris ar y dydd sadwrn, dydd cymharol teg ar ran yr 'elfennau'. Efo'r cymylau'n hofran o amgylch uchder y copeuon mwyaf, roedd 'na siawns o leiaf o gael gweld rhywbeth o Ben y Cadair, uchafbwynt y taith ac ein ymdrechion corfforol. Mae Llwybr 'Tŷ Nant' (the Pony path) yn ffordd cymharol rhwydd o gyraedd y copa, a dim ond y chwater milltir olaf s'yn cynnig her go iawn i'r cerddwr hamddenol ('fatha ninnau!). Wedi dweud hynny mae'n llwybr ardderchog, ac ar ôl oedi tua hanner ffordd ifyny am bicnic, mi gyrraeddom ni Ben y Cadair tua dwy awr a hanner ar ôl gadael maes parcio Tŷ Nant. Wedi tipyn o dynnu lluniau ger concrît gwyn y 'trig pwynt', a jysd mwynhau'r profiad o fod ar y copa, mi wnaethom ni fentro trwy mynediad tywyll y lloches storm, er mwyn gysgodi rhag y gwynt a'r glaw oedd wedi dechrau bwrw. Yn yr adeilad hon mi benderfynodd teulu gyfan cysgu ynddi dim ond wythnos diwetha, ar ôl i'r tywydd troi'n wael. Yn ôl 'warden' Parc Genedlaethol Eryri (a digwyddodd bod yn cael paned yn y cwt cerrig ar yr un amser â ni, a thua dwsin o gerddwyr eraill) gaethon nhw eu harwain oddi ar y copa gan 'dîm achub mynydd' efo un ohonynt yn dioddef 'diffyg gwres'. Ges i sgwrs bach efo fo yn y Gymraeg, ar ôl clywed ei acen o (boi o Drawsfynydd), a chymeron ni gyngor am y ffordd orau i lawr efo'r cymylau'n dechrau disgyn. Wedi cipolwg lawr Llwybr y Llwynog (sy'n disgyn yn reit sydyn lawr sgri go lithrig ei golwg), mi wnaethon ni benderfynu mynd yn ôl dros y top ac i lawr y 'Pony Path'. Taith yna ac yn ôl o ryw saith milltir, pob un yn cynnig golygfeydd gwahanol o ardal o harddwch trawiadol. Yn ôl â ni wedyn i cynnau tân yn stôf llosgi coed Rhyd Fudr, wedi saib sydyn yn Nolgellau am bryd o fwyd 'i fynd' o 'Siop sgod a sglods Stewart'!

Golwg or copa, efo Pont y Bermo yn y pellter..

26.8.09

Dihangfa...(y rhan olaf!)

Dyni ar fin gadael am egwyl bach arall (yn Y Bala), a dyma fi'n ffindio fy hun heb orffen sgwennu am yr un diweddaraf!

Mae pobl yn son am Gymru fach, ac wrth cwrs gwlad cymharol bach yw hi, ond tybiwn i fod y dwediad honno'n cyfeirio at faint bydysawd y Cymry Cymraeg, rhywbeth a ddaeth yn amlycach i mi wrth i mi ddigwydd gweld dau o 'selebs' y byd darlledu/adloniant Cymraeg mewn dau lefydd gwahanol ar yr un ddiwrnod. Yn gyntaf wnaethon ni ddigwydd gweld Rhys Mwyn, cyn gitarydd bas 'Anrhefn', newyddiadurwr ac hyrwyddwr cerddoriaeth Cymreig (mae nhw'n dweud fo oedd y person wnath 'darganfod' Catatonia trwy eu harwyddo nhw i wneud eu halbwm cyntaf efo 'Sain',digwyddiad gwerth ei dathlu ar ben ei hun!). Roedd RM yn cael paned yng Nghaffi 'Pen y Ceunant' ar droed yr Wyddfa, ac yn sgwrsio'n rhwydd efo rhai o'r yfwyr eraill. Mi wnaethon ni ymuno â'r sgwrs hwnnw ac maes o law mi grybwyllais y ffaith roedd ei wyneb yn un gyfarwydd i mi o'r Daily Post. Sgwrsion ni am Lerpwl, cerddoriaeth a Phenbedw, rhywle mae o'n ymweled âg o'n wythnosol digwydd bod. Hogyn digon clen rhaid i mi ddweud, er mae o'n hoff iawn o godi gwrychyn sefydliadau Cymraeg yn ei golofn wythnosol (ond does dim byd o'i le â hynny am wn i!).

Nes ymlaen yn y diwrnod, mi wibiom ni lawr arfordir Pen Llŷn i draeth Tywyn ger Tudweiliog, traeth hyfryd tu hwnt, ac un lle treuliodd Jill a'i theulu dyddiau di-ri yn ystod gwyliau ei phlentyndod. Does fawr ddim yna yn y gaeaf, ond yn yr haf mae 'na gwt cerrig wrth ymyl y llwybyr lawr lle mae pethau 'traethlyd' yn cael eu gwerthu, yn ogysatal a fferins a diodydd (coffi ffres y dyddiau 'ma hefyd). Mae'r ffermwr lleol sy'n rhedeg gwersyllfa dros y lôn yn rhedeg y cwt, a sylwais mai cyflwynwraig o'r sioe 'Ffermio' yw'r ffermwraig mewn cwestiwn! Oherwydd hynny ges i'r hyder i siarad yng Nghymraeg efo hi, ond dwedais i ddim am nabod ei gwyneb, jysd gwennu tu mewn wnes i, wrth meddwl pa mor fach yw Cymru fach...

17.8.09

Dihangfa....(rhan 2)




Tydi pobl ddim yn teithio i Gymru er mwyn ail-llewni lliw haul nage? Mae'r tirlun ei hun yn sicrhau hinsawdd sy'n llai disgwyliadwy, ac yng gnhyffuniau Eryri mae'r effaith hon yn amlycach, a gei di brofi pedwar tymor mewn un ddiwrnod (fel a ganodd 'Crowded House' ers talwm). Roedden ni'n penderfynol o gyrraedd copa'r Wyddfa yn ystod yr wythnos felly wnes i gadw llygad ar ragolygon y tywydd efo Dereck Brockway (shmae!)ar BBC Wales pob nos. Yn ôl 'Degsy', mi fasai'r dydd mawrth yn well o lawer, ar ôl nifer o ddyddiau cawodlyd, a chwarae teg iddo fo, roedd o'n llygaid ei le, a deffrom ni i awyr las heb gwml uwch ein pennau.



Wrth chwilio am rywle i barcio yn Llanberis mi basiom ni rhes hir o ddarpar teithwyr Rheilffordd Yr Wyddfa yn ymlwybro fel neidr o amgylch yr orsaf, rhagolwg arall o dywydd braf. Wedi diweddu ym maes parcio'r Amgueddfa Lechi (yr unig le ro'n ni'n gallu ffindio efo llefydd gwag), mi ddechreuom ni ein 'ymosodiad' ar yr allt serth sy'n 'croesawu' heidiau o gerddwyr pob dydd. O fewn hanner milltir o'r dechrau, mae pawb yn cael eu temptio i orffwys ar feinciau gwahoddgar ystafelloedd te unigryw 'Pen y Ceunant'. Pwy a wyr, ond mae'n digon posib bod ambell i daith gor-uchelgeisiol wedi dod i ben yn fan hyn, wrth i fotel sydyn o gwrw Bragdy'r Miws Piws troi yn ddau. Ond nid iddyn ni, mi wthiom ni ymlaen nes bod y tarmac yn ildio i lôn cerrig, yn addas i gerddwyr, anifeiliaid ac ambell i feic 'quad' yn unig.
Mi ddoth golwg y caffi hanner ffordd i'n cysuro jysd mewn pryd (duwcs, mae hwn yn mynydd llawn cyfleusterau!) gyda ein coesau yn dechra teimlo'r dringo o ddifri. Ar ôl diodydd a ddarnau o gacen blasus o grombil y cwt cerrig croesawgar, mi gariom ni ymlaen wrth i'r llwybyr sythu ac yn troi yn res o grisiau creigiog bron. Mae hon yn arwydd o'r ymdrechion parhaol i'w achub rhag erydu gormod am wn i, a welsom ni lond cwdyn ar ôl cwdyn o gerrig mawr yn barod i'r cymal nesaf, son am dalcen galed!
Wrth i'r llwybyr ein arwain o dan bont rheilffordd, mi wynebom ni gwyntoedd andros o gryf a dibyn digon mawr i'ch dychryn! Ai dyma trobwynt y taith i sawl cerddwr 'hamddenol'? Hyd yn oed ar ddiwrnod braf canol haf, mae'n posib teimlo nerth a pheryg y mynyddoedd wrth i'r tywydd troi dim ond ychydig. Mi chwipiodd a chwyrliodd y cymylau dros y crib, mi welsom ni dim ond ambell i gip o Grib Goch, Crib y Ddysgl, cyn o'r diwedd sbio lloches Hafod Eryri trwy niwl y cymylau a'r heidiau o ymwelwyr buddugolaethus, boed teithwyr trên neu teithwyr ar droed. Mae'n teimlad braf bod ar ben mynydd.

16.8.09

Dihangfa.... (rhan 1)

Gall mynd i ffwrdd teimlo fel talcen galed weithiau. Dyni wedi cael ein 'rhaglennu' rhywsut i deimlo dyma'r hyn y dylsen ni wneud yn ystod cyfnodau penodedig y flwyddyn, gwyliau banc, pythefnos dros yr haf ac ati.

Ond mae newid yn peth da 'tydy? Gallai bod yn siawns i werthfawrogi'r hyn sydd gynnoch chi yn barod, neu'n gyfle i ystyried y pethau mi fasai rhywun yn hoffi eu newid, neu gyfle jysd mwynhau golygfa newydd (yn llythrennol ac yn drosiadol!).

A dyna oedd cyflwr fy meddwl, wrth iddyn ni fynd ati i bacio'r holl pethau sydd i weld i fod yn rhan anhepgor gwyliau yr unfed canrif ar ugain: ffonau symudol a'u 'llenwyr', camerau digidol a'u llenwyr, gluniadur (jysd rhag ofn..) stwff y ci, stwff tywydd gwlyb, stwff tywydd poeth, stwff i'r traeth, stwff mynydda, digon o fwyd i oroesi gaeaf niwcliar, diolch byth do'n i ddim yn gwersylla...

Roedd gen i bentwr o bethau i wneud yn y gwaith (er mwyn dal i fyny efo'r amser a'r pres a gollais wrth symud gweithdy) a chwsmeriaid amyneddgar ar fy meddwl, wrth i mi drio canolbwyntio ar gasglu'r stwff gwyliau a newid gêr fy meddwl.

Diolch byth doedden ni ddim ar brys i adael (dim ond taith o awr a hanner yw hi o fan'ma), felly penderfynom ni fynd 'rhywbryd' yn ystod y prynhawn, er mwyn pigo i Benbedw yn y bore i brynu sgidiau cerdded a chôt sy'n dal dwr i Miriam (mae hi'n tyfu di-baid ar hyn o bryd).

O'r diwedd cyrraedom ni'r bwthyn clyd yng Nghwm y Glo tua hanner wedi chwech (rhywle dyn ni wedi bod o'r blaen) ac ymgartrefom ni'n syth, wedi llusgo ein bagiau o'r maes parcio ar waelod yr allt serth. Does dim modd parcio o fewn canllath o'r bwthyn heb flocio'r lôn yn llwyr, sy'n gwneud pethau'n annodd i breswylwyr heddiw yn nyddiau'r car (ond sy'n cadw rhywun yn andros o heuni!). Wedi gosod tân (do, roedd rhaid cynnau tân canol awst), a chynllunio taith cerdded ar gyfer y bore, mi gawsom ni dro sydyn i fyny'r lôn a'r llwybr cyhoeddus tu hwnt, a mewn dim ro'n ni'n edrych ar mawredd mynyddoedd Eryri a'r tlws yn ei choron Yr Wyddfa...

14.8.09

Cwrw am Ddim i Bawb....

Nid darllenwr da ydwi. Prin fydda i'n cwplhau llyfr mewn llai na mis i fod yn onest. Prin iawn iawn fydda i'n darllen un o glawr i glawr o fewn tridiau. Ond dyna'n union be wnes i efo 'Cwrw am Ddim', llyfr a sgwennwyd gan ein 'cyd-flogwr Cymraeg' Chris Cope. Hanes 'Profiad Cymraeg' Chris ydy o, sef ei brofiad o ddysgu'r iaith, yn y lle gyntaf ar ben ei hun draw yn yr UDA, ac wedyn ym mhrifddinas Cymru, yn gwneud cwrs Ba yn y Gymraeg. Dwi wedi bod yn dilyn blog Cymraeg Chris ers ei ddechreuad, rhywbeth a sylweddolais wrth ddarllen post cyntaf 'Dwi eisiau bod yn Gymro' yn y llyfr. Er gwaethaf hynny mae 'Cwrw am Ddim' yn taflu golau newydd ar y taith mai Chris wedi bod arnno, o obaith 'diniwed' at anobaith di-baid. O 'eisiau bod yn Cymro' i deimlo fel rhyw atyniad ffair, neu 'Arth sy'n Dawnsio' ar gyrrion diwylliant dyrys y Cymru Cymraeg. Gallai rhywun dadlau mi wnath ei sefyllfa ei hun yn waeth, trwy dennu cyhoeddusrwydd ar gefn ei gynlluniau i symud dros y mor i astudio'r iaith lleiafrifol 'ma (sy'n anhysbys i'r rhan mwyaf o ei gydwladwyr). Ond mewn gwirionedd, heb yr 'enwogrwydd' hyn, mi allai'r fenter wedi dod i ben cyn iddi ddechrau. Ni sylweddolais (hyd yn oed trwy dilyn y blog) pa mor enfawr oedd y gwaith o drefnu symud i Gymru, a maint y dyled mi wynebodd o drwy cytuno gwneud y cwrs. Mae rhan o bersanoliaeth Chris, yr un rhan sy'n dennu cyhoeddusrwydd, sy'n mwynhau dangos ei hun (ga i fentro dweud!) yw'r un rhan a wnath iddo gredu roedd yr anterth 'ma yn posibl yn y lle cyntaf. Mae pobl mawr yn breuddwydio'n fawr, sy'n o fudd iddyn ni i gyd credaf i.

Dwi'n cofio teimlo fel taswn i'n rhannu cyffro'r taith trwy darllen hynt a helynt ei fywyd newydd yng Nghaerdydd, ond yn fuan iawn sylweddylodd dilynwyr y blog nad oedd popeth yn iawn ym myd newydd Chris. Mi newidodd 'iaith' y blog o Gymraeg 'dysgwr cyffredinol' i iaith 'safonol', braidd yn ddiarth i ddysgwr fel fi, a ches i fy estroni rhywfaint wrth i mi ymdrechu trosglwyddo'r iaith yn fy mhen. Erbyn hyn, ac ar ôl darllen y llyfr, dwi'n deall yn llwyr yr hyn oedd Chris yn ceisio gwneud. Roedd o'n boddi, ac roedd o'n ymdrechu i dod i delerau â'r iaith a ddarganfodd yn y Prifysgol, yr iaith fasai rhaid iddo fo ddysgu er mwyn arnofio yn ei fywyd academaidd newydd.

Mae rhai o'r troeon sy'n wynebu'r darllenwr yn hollol anhysgwyliedig, a dwi ddim eisiau difetha mwynhad darllenwyr eraill trwy eu datgan yn fan hyn, ond mae'n trywydd sy'n wir gwerth ei dilyn. Mi faswn i'n cymeradwyo'r llyfr i bawb. Yn ystod darllen y llyfr, roedd rhaid i mi ailadrodd ambell i darn i Jill (fel mae rhywun yn gwneud tra ddarllen llyfr da, ond rhywbeth sy'n gallu cythruddo rhywun am wn i!), ond yn y diwedd gofynodd os fydd 'na gyfieithiad Saesneg yn cael ei gyhoeddi. Dwn i ddim, ond mi fasai'n syniad da...

7.8.09

at y mynyddoedd.....

Dyni am ffoi ffiniau cyfyngiedig y penrhyn 'ma am ychydig o ddyddiau, ac anelu at y mynyddoedd, hynny yw prydferthwch Eryri. Mi cawsom ni ychydig o ddyddiau yna y llynedd mewn bwthyn sy'n perthyn i gyfeillion i ni, ac mae nhw wedi mynnu ein bod ni'n dychweled am wythnos dros y haf, unwaith eto yn rhad ac am ddim, cynnig andros o hael. Gobeithio gawn ni ddiwrnod braf i ddringo'r Wyddfa, ac mi fasai gwibdaith lawr i Ben Llŷn yn plesio Jill er mwyn ail-ymweled ag ambell i draeth mi droediodd fel plentyn. Mae muriau mawreddog Castell Caernarfon hefyd yn sicr o dynnu sylw fy merch, na chofiaf y tro diwetha i mi grwydro tu mewn iddynt, mwy na chwater canrif mae'n siwr!

6.8.09

Americanes yw 'Dysgwr y Flwyddyn'

Mi gipiodd yr Americanes Megan Lloyd Prys (sydd bellach yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol yn Llanfairpwll, Ynys Môn) tlws 'Dysgwr y Flwyddyn' eleni. Mi glywais hi'n siarad heddiw ar y radio, a rhaid dweud ni faswn i wedi sylweddoli a) dysgwraig yw hi neu b) Americanes yw hi, mor wych yw ei Chymraeg!

Roedd hi'n rownd terfynol andros o gry', efo'r pedwar ohonynt yn haeddu gwobr am eu hymdrechion, ond dwi'n meddwl mae'r penderfyniad iawn wedi ei wneud, ac mi fydd y ffaith ei bod hi'n dŵad o dramor ac wedi llwyddo meistri'r iaith yn sicr o dynnu sylw ychwanegol i'w champ. Llongyfarchidau mawr iddi!

3.8.09

Bar uchel tu hwnt....



Mae amser cystadleuaeth 'Dysgwr y Flwyddyn' wedi cyraedd unwaith eto. Y bore 'ma mi ddarllenais ddarn am y pedwar terfynydd eleni, a rhaid dweud bod y bar wedi ei osod yn uwch nag erioed yn fy mharn i. Grwandewch at y pedwar yn siarad ar y wefan hon. (dim ond dyfalu ydwi, ond faswn i'n tybio yr americanes yw'r un ar y chwith..)

Mae'r criw i gyd yn edrych yn andros o ifanc ac mae nhw'n siarad Cymraeg sy'n swnio i mi'n naturiol a rhugl. Ro'n i'n hyd yn oed yn medru dyfalu yn weddol hyderus pa un sydd wedi dysgu Cymraeg yn ardal Caernarfon trwy ei acen cryf (arwydd mae'n siwr o ddysgwr sydd wir wedi ymgartrefu mewn cymdeithas). Mi fasai unrhywun ohonyn nhw'n haeddu'r gwobr am eu campau ieithyddol, ond fel arfer mae'r beirniaid yn ymchwilio mewn i'w cyfraniadau i'r iaith mewn sawl ffordd, nid yn unig pa mor rhugl ydyn nhw, felly gawn ni weld nos fercher pwy fydd yn cipio'r gwobr fawr...

2.8.09

Crefydd, Canu a Chymreictod....

Gwyliais ychydig o ddarllediad S4C o Gymanfa Ganu Eisteddfod y Bala heno. Dwi ddim yn person eithriadol o grefyddol rhaid dweud, ond temlais gwefr tra wrando ar yr egni a ddoth (hyd yn oed dros tonnau'r awyr) o berfeddion y pabell mawr pinc. Gallwn dychmygu hyd yn oed y daear o dan draed yn crynu wrth i'r côr a cherddorfa ymuno âg ymdrechion y cyhoedd i godi'r to. Wrth i'r camerau busnesu o gwmpas y cynulleidfa, mi welsom ni ambell i wyneb llonydd, fel petasen nhw wedi eu rhewi gan pŵer y sŵn. Mae'n debyg pobl heb ddigon o hyder yn eu canu neu eu Cymraeg oedden nhw, neu rai oedd wedi mynychu dim ond er mwyn profi awyrgylch un o'r hen draddodiadau Cymreig, lle mae crefydd, canu a Chymreictod yn dal i wrthdaro i greu sŵn unigryw sy'n teimlo fel petai'n dod o ryw 'capsiwl-amser'...

27.7.09

Eisteddfod... neges(message) i ddysgwyr Cilgwri...

S'mae pawb,

Wel mae 'cyffro''r Eisteddfod Genedlaethol yn agoshau. (the excitement of the National Eisteddfod is getting closer) Dwi'n bwriadu bod yna ar y dydd mercher (I'm intending to be there on the wedenesday), felly os dachi'n mynd ar yr un ddiwrnod mi fasai'n braf cyfarfod, am sgwrs a phaned efallai (so if you're going on the same day it'd be nice to meet for a chat and a 'paned' perhaps).

Mae 'na lawer o bethau i weld a gwneud ar faes yr Eisteddfod, dyma rhai o'r pethau fy mod i'n ffindio'n ddiddorol (there are loads of things to see on the Eisteddfod 'Maes', here are some of the things I find interesting):

Uchafbwyntiau'r Eisteddfod (yn fy marn i!):

Maes D (pabell y dysgwyr/the learners tent)

It's more than a tent these days! Competitions for learners are held here (look at the board giving details of the times of the various activities each day) as well as 'acoustic' performances by various singers/bands. There's a coffee bar staffed by local learners usually. A good place to meet other learners, tutors and share experiences!

Y Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg /The Science and Technology Pavilion

There's plenty of interactive stuff usually, as well as demonstrations (expect flashes and bangs).

Y Lle Celf / The Art Place

Exhibition of the winners work in the Arts & Crafts competitions. Plenty of video installations etc. these days with the emphasis on contemporary work. Plenty of challenging stuff normally, though I've yet to see a pickled sheep...

Stondinau y BBC/S4C - S4C/BBC stands

The main broadcasters generally have big stands with plenty of freebies available so they're always worth a look (get some of your licence fee paid back in pens!)

Y Cyngor Llyfrau/The Welsh Book Council

Imagine a good size bookshop that sells mainly Welsh books. It doesn't exist in the real world, but at the Eisteddfod the Book Councils' stand is as close as you'll get. You'll find stuff for learners of course. Don't forget as well there are many other smaller local bookshop stands to browse through, plenty of 'used' bargains as well.

Y Llwyfanau Perfformio / Performance Stages

There are a couple of performance stages on the 'Maes' where various artists give informal performances during the course of the day. There's a list of who's performing next to the stages. A good spot to sit and eat your picnic!

Y Prif Pafiliwn / The Main Pavilion

That's the large pink tent which dominates the festival. It's hard to describe quite what goes on here as it's used for various things during the course of the week. In the evening there are a series of concerts there which are all ticket, but during the day various competitions are held, from choirs to clog dancing, brass bands to recitation. I pop in just to see whats going on, though many people happily spend a day at the Eisteddfod without bothering. It'll be full for the main ceremonies but half empty most of the time.

I hope this gives you some idea of what to expect, though I've missed loads I'm sure. There are literally hundreds of stands to browse and you'll find countless oppurtunities to say things like "P'nawn da, ga i baned o goffi os gwelwch yn dda" before adding quickly "dysgwr dwi" !! Don't worry though, the 'Maes' is signposted bilingually and many people at the Eisteddfod will be non Welsh speakers or learners.

Hwyl, Neil

26.7.09

Ail-cipolwg ar wefan Golwg....

Dwi wedi bod yn ail-ymweled â gwefan Golwg360 bob hyn a hyn ers i'r lansiad anghofiadwy/cofiadwy cwpl o fisoedd yn ôl, ond ges i fy siomi ar yr ochr orau wrth dychweled tua pythefnos yn ôl. Roedd golwg y wefan wedi ei trawsnewid yn gyfan gwbl, efo'r hen trefn (dibwynt yn fy marn i) o gael dewis pa un adrannau oeddech chi isio gweld ar y tudalen 'hafan', faint o straeon i gael mewn pob adran ac ati, wedi ei diflannu'n llwyr. Yn ei lle welais dudalen lliwgar, trefnus, cytbwys a mentra i ddweud denniadol, o fy mlaen. Mae'r tudalennau sy'n dy ddisgwyl ar ôl clicio un o'r dolennau'r straeon yn darllenadwy syml ond effeithiol. Mae pob dim yn ymddangos yn proffesional ac yn haeddianol o'r logo's sy'n ar waelod y tudelannau megis 'Cyngor Llyfrau Cymru', sy'n cyfeirio at yr holl arian cyhoeddus sydd wedi ei gwario. Tydi hi ddim yn perffaith o bell ffordd, mae rhai o'r pethau da am y gwefan wreiddiol (Lle Pawb er enghraifft) wedi diflannu, ond mae'n 'gwaith mewn 'progress' sy'n edrych yn addawol.

25.7.09

i-bae

Dwi wrthi ar hyn o bryd yn gwerthu ambell i beth ar wefan arwerthiant 'ebay' ar ran y teulu. Hynny yw cyn pethau fy nhad yng nghyffraith diweddar, megus eu trenau Hornby, camerau digidol ac ati. Roedd o'n casglwr brwd o geir 'diecast' hefyd, sydd ddim ar y gyfan efo fawr o werth, ond mi fydd 'na ambell i un brin yn eu mysg ac o ddidordeb i gasglwyr eraill falle. Ymhlith y stwff 'Hornby' mae un beiriant stêm wedi mynd i Awstralia ac un arall i Awstria, sy'n ryfedd o beth tydi! Mi fasai Gordon wedi ei syfrdanu gweld ei bethau'n cael eu cludo i 'bedwar ban y byd', ond mi fasai fo wedi bod wrth ei fodd hefyd, ac efo'r ffasiwn technoleg sy'n ein caniatau i'w wneud.

Wedi dweud hynny, dwi'n dechrau diflasu efo'r holl ffwdan dros fy nghyfrifiadur (er mae'n ddigon syml) er mwyn gosod pob dim ar y wefan, yn ymateb i gwestiynau'r darpar prynwyr a'r gwaith P&Ph. Efo tua cant o geir i wneud mae'r nofelti wedi treulio ffwrdd rhywfaint, ac mae 'na siawns yn y pendraw mi fydd y rhan mwyaf ohonynt ar eu ffordd i ryw siop 'cashconverters' neu gilydd... Gawn ni weld, mae bywyd yn rhy fyr falle!

18.7.09

Haf llawn Barn....

Mi laniodd pennod diweddara cylchgrawn Barn ar lawr pren y cyntedd y bore 'ma, efo clec addawol o swnllyd. Ges i ddim fy siomi wrth weld y pecyn lliwgar wrth fy nhraed, a dadbaciais cynwhysion y cwdyn plastic mewn eiliadau, er mwyn bodio trwyddi yn fras, cyn dychweled i'r darnau wnath tynnu fy sylw'n syth. A dweud y gwir dwi heb orffen y pennod diwetha (diffyg amser yn hytrach na diffyg diddordeb), ond mae 'swmpusrwydd' (oes 'na ffasiwn gair..?) y pennod yma yn addo 'haf llawn' amrywiaeth o erthyglau diddorol, difyr a difrifol... da iawn tîm Barn.

16.7.09

Pethau'r haf

Wel mae gwyliau'r haf bron a bod yma, efo'r ysgolion yn lleol yn torri fyny p'nawn yfory. Yn anffodus mi fydd rhaid i mi weithio'r rhan mwyaf o'r gwyliau gan fod y cyfrif banc yn edrych braidd yn sal ar ôl i mi symud gweithdy a cholli rhagor yn helpu sortio pethau ar ran 'pethau ymarferol' fy niweddar tad yng ghyffraith.

Roedden ni wedi bwcio pedwar noson mewn bwthyn reit deiniadol tu allan i Lanuwchllyn tuag at diwedd y gwyliau ysgol, ond gaethon ni wahoddiad reit haul i ddefnyddio bwthyn am ddim, un sy'n perthyn i ffrindiau, i fyny yng Nghwm y Glo ger Llanberis. Dyni wedi bod yno o'r blaen a gaethon ni egwyl hyfryd iawn, felly dwi wir yn edrych ymlaen at dreulio ychydig o ddyddiau yno yr wythnos ar ôl i'r Eisteddfod.

6.7.09

Diwedd pennod...

Dwi ddim wedi cael yr awydd neu'r egni i flogio rhy lawer yn ddiweddar rhaid cyfadde. Bu farw fy nhad yng nghyffraith yr wythnos diwetha ar ôl cyfnod o ddau fis yn yr ysbyty, ac mae'r trefniadau ac ati wedi ein gadael ni heb lawer o amser i wneud lot ar wahan i'r pethau hanfodol.

Yfory mi fydda i'n dychweled i wneud diwrnod llawn yn y gwaith gobeithio, er mae 'na lawer iddyn ni i wneud o hyd ar ran sortio'r tŷ ac ati, ond does dim brys gwneud hynny diolch byth.

23.6.09

Dosbarth Mynediad Cilgwri (pennod 2!)

Mae'n ddrwg gen i (I'm sorry), mae hi'n dydd mercher a dwi ddim wedi postio blog eto!

Dani'n mwynhau tywydd gwych (brilliant) yr wythnos yma yng Nghilgwri. Sut dach chi i gyd yn ymdopi (cope) efo'r gwres (heat)? Dwi'n hoffi eistedd yn y cysgod efo cwrw (beer) oer yn fy llaw (hand), yn darllen llyfr da efallai (perhaps)!

Dwi wedi prynu llyfr Cymraeg newydd i ddarllen dros yr haf, un sy'n edrych yn hafaidd (summery) iawn. Enw'r llyfr ydy 'Y Maison du Soleil', stori am griw (crew) o ffrindiau yn aros dros yr haf mewn tŷ yn y Ffrainc.

Yn sôn am (talking about) yr haf, mae 'na ddigwyddiad (event)newydd cyffrous (exciting) yn digwydd (happening) yn Yr Wyddgrug (Mold) dros yr haf. Mae gŵyl cerddorol (music festival) Y Ffin, yn brolio (boasts) 'line-up' da o artistiaid (artists) Cymraeg a Saesneg, yn cynnwys (including) 'Sibrydion', 'Derwyddon Dr Gonzo' a 'Racehorses' (formerly known as - 'Radio Luxembourg' - gynt). Mi fydd y wefan (website) yn gweithio yn fuan (soon) gobeithio! Y peth gorau ydy mi fydd popeth am ddim (for nothing - free)!

Ta waeth (anyway) mwynhewch y tywydd braf, tan y tro nesaf (till next time) hwyl...

21.6.09

Rhu y Llewod yn rhy dawel...

Dwi'n cofio mynd lawr i Gaerdydd cwpl o flynyddoedd yn ôl i wylio'r Llewod yn chwarae Yr Ariannin mewn gêm 'arddangosfa' cyn i'w taith i De America. A dweud y gwir mi welodd y dorf gêm cyfartal diflas, efo'r rhan mwyaf ohonynt dim ond yna i weld dychweliad Johnny Wilkinson i'r llwyfan mawr. Pryd hynny do'n i ddim yn 'cael' syniad y Llewod, yn enwedig yn y gêm yna efo bron neb o Gymru yn y tîm o'r Ynysoedd Prydeinig, ond erbyn hyn dwi'n deall mwy falle... yn enwedig efo'r elfen Gwyddelig (hynny yw'r ynys werdd yn ei holl gogoniant!) sy'n atal y peth rhag fod yn rhywbeth 'gor-brydeinig'. Dwi wedi mwynhau darllediadau S4C o Dde Affrica, ac mae'r rygbi wedi bod yn ffyrnig o'r cychwyn.

Wedi siom canlyniad y prawf cyntaf, mae'n amlwg mi fydd rhaid i'r Llewod rhuo'n uwch er mwyn tawelu'r Sbringbocks, yn enwedig efo'r gemau nesaf yn digwydd yn yr ucheldiroedd, ond yn sicr mi fydd 'na wledd o rygbi i ddod...

17.6.09

Wedi Tri...

Dros y cwpl o fisoedd diwetha dwi wedi bod yn cyrraedd adre mewn da bryd i groesawu fy merch o'r ysgol (a'i chyflenwi â bwyd sydyn, gan bod pob disgybl yn dychweled o'u astudiaethau mewn rhywfath o 'argyfwng diffyg bwyd' mae'n ymddangos!), am fod fy ngwraig yn methu cyrraedd adre cyn pedwar o'r gloch ar ôl ymweled a'i thad yn yr ysbyty. Dwi wedi dechrau arferiad o gyrraedd adre tua hanner wedi tri er mwyn cael paned dawel cyn i'r ymosodiad beunyddiol ar yr oergell! Dwi wedi dechrau arferiad arall hefyd (rhywbeth peryglus gwn i!), o droi S4C ymlaen a gwylio peth o raglen Wedi 3, ac yn ei mwynhau...! Rhaid dweud fy mod i wastad wedi gweld teledu daytime fel rhywbath peryglus tu hwnt, onibai am y stwff dros amser cinio, ond wrth rheswm i'r dysgwr mai rhywbeth addysgol yw gwylio rhaglen Cymraeg felly mae'n hawddach cyfiawnhau'r peth i dy hun! Ond wedi dweud hynny, pe taswn i i ddechrau gwylio sianeli siopa (sdim ots pa iaith) yn ystod golau'r dydd pan dal yn fy iawn bwyll, mae gan rhywun yr hawl i fy saethu!!

Mae gan Wedi 3 awr cyfan i'w llenwi, a chwarae teg mae nhw'n dod o hyd i ddigon o westeion difyr a diddorol. Mae nhw'n colli fi weithiau pan mae 'na ormod o son am golur, dillad a phethau girly, rhaid i mi gyfadde, ond heddiw gawson ni Daf Du yn son am yr hen gylchgronnau lads a rhai foi arall yn cyflwyno teganau 'techaidd' sy'n addas fel rhoddion Dydd Sul y Tadau.

14.6.09

Dosbarth Mynediad Cilgwri...

(geirfa/vocab at bottom)

Fel wnes i ddweud nos fawrth diwetha, dwi'n mynd i drio ysgrifennu rhywbeth yma pob dydd mawrth dros yr haf er mwyn cadw mewn cyswllt efo aelodau dosbarth nos 'Mynediad' Cilgwri.

Amser cinio dydd iau, mi es i i'r Wyddgrug efo'r cadeiriau bach. Mi ges i baned o goffi yn swyddfa Menter iaith (Welsh language initiative), ac roedd hi'n braf siarad efo Rhian unwaith eto, un o'r pobl sydd wedi helpu fi'n fawr iawn dros y flynyddoedd i wella fy Nghymraeg.

Roedd hi'n penwythnos gwych i fod yn yr awyr agored, ar y traeth neu yn y mynyddoedd efallai. Wnes i weld darn ar y newyddion dydd iau am 'agoriad swyddogol' Hafod Eryri, caffi/canolfan newydd ar gopa'r Wyddfa. Mae'n edrych yn wych, a dwi'n gobeithio cerdded i fyny dros yr haf efo'r teulu... rhywbryd!

Tan y tro nesaf, hwyl fawr.

ysgrifennu - write
rhywbeth - something
er mwyn - in order to
cadw - keep
cyswllt - contact
aelod(au) - member(s)
unwaith eto - once again
(g)wella - To improve
(g)wych - brilliant
awyr agored - open air
darn - piece/part
agoriad swyddogol - official opening
canolfan - a centre
C(g)opa - summit

12.6.09

Camp y Copa.....

Er flwyddyn yn hwyr, mi agorodd 'Hafod Eryri' yn swyddogol heddiw mewn tywydd bendigedig ar ôl yr holl anhawsterau yn ystod y 'build' (fel mae nhw'n dweud ar 'Grand Designs'). Mae hi'n edrych fel adeilad sy'n rhan o'r mynydd bron, yn addas i'w sefyllfa, ac yn llawer gwell na'r hen garbyncl concrît gan Clough Williams-Ellis!

Dwi'n edrych ymlaen at ymuno â'r heidiau ar y copa rhywbryd yn ystod yr haf!

9.6.09

Y flwyddyn cyntaf yn dod i ben...

Mae'n annodd credu a dweud y gwir, ond dwi wedi cwblhau fy mlwyddyn cyntaf yn gweithio fel tiwtor Cymraeg. Wnaethon ni ymlacio tipyn bach yn y dosbarth heno, nid gymaint o waith galed. Mi wnaethon ni oedi ychydig yn hirach na fel arfer yn yr ystafell lluniaeth, gan roedd Wendy wedi dod â llond blwch o'i chacennau 'tylwyth teg' blasus unwaith yn rhagor er mwyn dathlu diwedd y cwrs. Dwi'n falch o ddweud bod y rhan mwyaf o'r grwp wedi rhoi eu henwau lawr i wneud y cwrs flwyddyn nesa, sy'n hwb mawr i fy hyder i. Yn ôl pob son, un o'r cyrsiau mwyaf llwyddianus oedd y Cymraeg eleni efo'r dau ddosbarth (dosbarth David a fy nhosbarth i) yn cadw niferoedd reit parchus, mi fydd y Coleg yn cynnig trydydd flwyddyn hefyd ym mis medi am y tro cyntaf dwi'n credu!

5.6.09

Cadeiriau bach...


Dwi newydd cwplhau'r jobyn gyntaf i mi wneud yn y gweithdy newydd, hynny yw'r cadeiriau bach ar gyfer 'Stomp y Tegeingl'. Rhaid dweud ron i'n falch o fod yn ôl wrth fy mainc, a gweithiodd y peirianwaeth yn iawn, ar ôl i mi ddatgymalu nifer ohonynt er mwyn eu ysgafnhau ar gyfer y taith. Mae hi wedi bod yn gyfle defnyddiol hefyd i wneud ychydig o waith cynnal a chadw, rhywbeth hanfodol ar beiriannau sy ddim yn bell o gyrraedd eu penblwyddi pump ar hugain!

3.6.09

Y gweithdy yn barod...



O'r diwedd dwi'n gallu cynhyrchu pethau yn y gweithdy clud newydd! Mae hi wedi bod dros mis o wneud dim byd ond clirio allan, symud peirianwaeth drwm a chael gwared o sbwriel (hynny yw stwff dwi heb ei defnyddio am flynyddoedd). A dweud y gwir mae'n teimlo fel ryddhad fy mod i'n gallu gwneud pethau unwaith eto.

Digwydd bod y jobyn cyntaf mi wna i yn y lle newydd yw set o dri cadeiriau bach ar gyfer 'Stomp y Tegeingl' (mi fydden nhw'n cael eu rhoi fel gwobrau, dyna be sy'n ar y fainc yn y llun yma wnes i dynnu y p'nawn 'ma). Does dim problem efo gweithdy llai efo jobyn bach fel hyn, ond mae'n mynd i fod yn her i gadw'r gweithdy newydd yr un mor daclus ag y mae hi heddiw, ond tria i fy nghorau ta waeth!

30.5.09

Sgrîn

Cleciais fy nghopi o gylchgrawn 'Sgrîn' ar lawr y cyntedd y bore 'ma, digwyddiad prin ond un fydda i'n croesawu pob tro. Ges i gyfle da y p'nawn 'ma i eistedd yn ôl yn y tywydd braf i'w darllen, rhywbeth mi wna i mewn un eisteddiad fel arfer, mor ddarllenadwy yw hi! Gyda swniau'r hogan yn chwarae'n fodlon ei byd ym mhwll padlo ei ffrind drws nesaf yn fy nghlustiau, setlais o dan gysgod ymbarel i fwynhau hanner awr o ymlacio wedi wythnos go frysur.

Mae un o'r erthyglau yng nghyfrol yr haf yw am y newidiadau i 'ddigidol'. Yn ôl y wybodaeth, mi fydd trosglwyddwr Moel y Parc, sef yr un sy'n cyrraedd Cilgwri yn diffodd ei signal analog ym mis tachwedd. Mi wnaiff hyn yn golygu na fydd signal ar gael iddyn ni wedyn, yn ôl pob son mae 'na ffordd o rhwystro i raddau'r signal digidol rhag ymledu dros y ffin. Efo'r datblygiadau diweddaraf yn y gwasanaethau band llydan, na ddylai hynny bod gormod o broblem. Dwi'n tueddi gwylio mwy o raglenni S4C yn y dull hon yn barod, er mae'n braf cael y dewis eu gwylio ar y sgrîn 'fawr' hefyd, os dwi isio. Ta waeth, mi wna i edrych mewn o ddifri i'r opsiynau sy'n ar gael ym mis tachwedd, hynny yw 'Sky' neu 'Freesat'

Darllenais i hefyd am gyfres newydd 'Bro' yr un roedd 'Ro' yn siarad amdano yn 'Copa'r Mynydd'. Mi fydda i'n sicr o wylio y cyfres hon...

27.5.09

Yr hyrddiad olaf...

Bore 'fory mi fydda i'n gwneud yr hyrddiad olaf yn y proses hirwyntog o symud gweithdy. Mae hi wedi bod tasg mawr a dweud y gwir, ar ran gwneud y gwaith darparu yn y lle newydd, yn ogystal a chlirio allan yr hen le. Dwi'n disgwyl sgip yn gynnar yn y bore, ond erbyn hyn dwn i'n poeni braidd am le yn union i'w lleoli, ar ôl i sgip arall cyrreadd yn union yr un le lle o'n i'n gobeithio parcio sgip fi! Gawn ni weld os mae rhai o'r ceir oedd yn parcio yn y stryd y p'nawn 'ma wedi gadael erbyn bore fory. Wna i luchio fy mherfa yn y fan beth bynnag, jysd rhag ofyn i mi gael fy ngorfodi mynd â'r sbwriel tipyn o bellter, ond gobeithio na fydd rhaid gwneud hynny!

Ar ôl hynny mi fydd dim ond cwpl o beiriannau mawr i symud, fy mhrif llif gron, a sandiwr drwm, wedyn mi fydda i'n gallu anadlu ebychiad o ryddhad, a chysgu'n sownd gobeithio!!

25.5.09

Trawsnewidiad y 'Pier Head'

Mae dinas Lerpwl wastad wedi dangos ei ochr gorau i'w 'gwaed bywyd' yr afon Mersi, ond dyddiau 'ma mae gan yr hen lannau llawer mwy i gynnig ymwelwyr, a ffordd arall i'w cyraedd.



Y camlas yn rhannu'r hen a'r newydd

Mae'n cwpl o flynyddoedd ers ro'n i lawr yn y Pier Head, ond pigiais i draw y p'nawn 'ma (tra oedd Jill yn siopa), yn bennaf i weld estyniad i gamlas Leeds Lerpwl, sy'n arwain cychod culion reit i galon y ddinas a'r Doc Albert. Roedd yr ardal dan ei sang, efo ymwelwyr o dros y byd (o'r hyn a glywais) yn mwynhau'r tywydd braf, ond welais i ddim yr un cwch cul yn anffodus! A dweud y gwir ni faswn i wedi gwybod yr ardal, onibai am yr adeiladau crand cyfarwydd sy'n goruchafu'r sefyllfa sef y 'three graces' (Yr Adeilad Liver', yr adeilad Cunard, a'r Adeilad Porthladd Lerpwl), mor syfrdanol yw'r newidiadau. Efo amgeuddfa newydd yn cael ei adeiladu drws nesa, mae'r dyfodol yn edrych yn ddisglair i'r hen ddinas frwnt dwi'n cofio o'r saithdegau ar wythdegau. Ewch draw os gewch chi gyfle, mae'n werth ei gweld!



Un o'r lociau newydd sy'n arwain cychod trwy'r cyfundrefn o ddociau tuag at y Pier Head

23.5.09

Angherdd Angharad....

Darllenais erthygl yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos 'ma am gefnogaeth y cyflwynydd Angharad Mair i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i sicrhau mai gan y Cynulliad yr hawl i ddeddfu dros y Gymraeg yn hytrach na Llywodraeth San Steffan (dymuniad digon rhesymol!). Soniodd y Cyflwynydd profiadol am y ffaith bod hi'n ennill bywoliaeth digon llewyrchus trwy gyfrwng y Gymraeg, rhywbeth ni fasai hi'n gallu ei wneud erbyn heddiw heb ymdrechion y 'Gymdeithas' dros y flynyddoedd i sicrhau statws swyddogol i'r iaith Cymraeg. Mae'n araith diddorol iawn (ymhlith nifer eraill), a dyna pam roddais y fideo ar y blog. Difaterwch yw gelyn yr iaith yn ôl Angharad Mair, ac er gwaethaf canlyniadau calonogol i ymchwil diweddaraf Bwrdd yr Iaith ynglŷn âg agweddau pobl Cymru tuag at y Gymraeg, mi fydd troi y cefnogaeth hon yn rhywbeth fuddiol i'r iaith 'ar y tir' fel petai, yn cymryd pobl brwdfrydig ac ysbrydoliedig.....

Rali Mai 16, 2009: Hawl i Fesur Iaith Cyflawn from Cymdeithas yr Iaith on Vimeo.

22.5.09


Mae'r waith adnewyddu wal llyn morol West Kirby (roedd mewn peryg o fethu dal dŵr yn ôl arbennigwyr) yn parhau. Mae'r llyn gwneuthuredig (artiffisial) yn rhan pwysig o'r economi lleol, nid yn unig fel atyniad cryf i fordhwylwyr o bob man, ond hefyd i'r pobl sy'n dod dim ond i gerdded o amgylch y dŵr caeedig, ac wedyn falle i wario eu pres yn y siopau a bwytai. Stopiais i dynnu llun o nifer o greyr bach (egrit) yn fantasio ar y gyfle i fwydo ar beth bynnag sydd ar gael ar y waelod mwdlyd, ymhlith ambell i ffrâm beic a throli Morrisns!

21.5.09

symud

Dwi'n cario ymlaen symud gweithdy trwy cludo cwpl o lwythi fan pob dydd o'r hen le i'r lle newydd. Heddiw wnes i symud fy mainc gwethio, un sydd wedi bod ef fi ers fy mhenblwydd deunaw oed. Efo'r fainc yn ei lle, mae'r gweithdy'm edrych fel gweithdy go iawn, a treuliais y p'nawn yn gosod bwrdd ar y wal i ddal fy offer i gyd, ac un arall i ddal fy nghrampiau. Mae'r pentyrau o stwff sy'n dal i lenwi'r hen weithdy yn codi braw arnaf, ond cyn diwedd wythnos nesaf mi fydda i'n archebu sgip er mwyn lluchio'r gwbl lot dwi heb ffindio lle iddi yn y lle newydd. Does dim modd storio yr un faint o ddarnau bach, ac mae rhaid i mi fod yn didrugaredd am unwaith.

18.5.09

Golwg ar Olwg

Wel dwi wedi llwyddo mynd ar wefan Golwg360 ychydig o weithiau hyd yn hyn, er mae 'na elfennau o'r tudalennau sy'n ar goll o hyd, o leia dwi'n cymryd bod y blychau gwag coch i fod yn rhywbeth ar wahan i ... wel blychau gwag coch! Dwi ddim yn cyfarwydd â'r ochr technolegol ynglŷn â'r fathau gwahanol o wefanau, ond un o'r diffygion amlycach hyd a welaf i yw'r delwedd (neu ddiffyg delwedd...). Cymerwch gwefannau'r BBC neu S4C (dwi'n gwybod mae gynnon nhw pocedi dwfn, ond mae Golwg wedi derbyn swm sylweddol er mwyn datblygu'r gwefan hon), mae gynnyn nhw 'golygion' cryf a phendant, mae nhw yn dennu rhywun mewn i chwilio trwy'r tudelannau. Mae nifer o'r lluniau ar wefan Golwg360 yn eitha wan (sbiwch ar y stori am addysg cyfrwng Cymraeg), ac mae'r gymysgedd o ffontydd yn gwneud i'r peth edrych yn fler a heb strwythyr. Mae lliw cefndirol y blychau testun yn rhy olau hefyd, mae'n edrych yn 'wishy washy' ar y sgrîn.

Mae 'na nifer o gryfderau hefyd mae'n rhaid dweud, 'Lle Pawb' a'r Calendr er enghraifft, ond mae'r prosiect yma wedi costio 'Y Byd' cofiwch, onid ydyn ni'n haeddu rhywbeth mwy proffesional?

Mi wnes i glywed Dylan Iorwerth (Golygydd Golwg) yn ymateb cwestiynau ynglŷn â'r wefan amser cinio, a chwarae teg iddo fo, roedd o'n barod i wrando. Mi fydd yr ochr technolegol yn cael ei datrys gobeithio ac mi fydd y newyddiaduriaeth yn gwella hefydb gobeithio, ond mae'n siomedig mi gafodd y peth ei lansio heb olwg cryf, rhywbeth roedd gan cynllun papur newydd 'Y Byd' hyd yn oed heb rifyn erioed yn cael ei cyhoeddi.

15.5.09

Golwg 0

Glywais erthygl ar Post Prynhawn yn son am lansiad gwefan Golwg360, felly es i'n syth at y gluniadur er mwyn cael cip sydyn arni. Yn anffodus ges i fy siomi pan welais i ddim ond neges yn dweud nad ydy Internet Explorer yn gallu dangos y tudalen priodol ar hyn o bryd. Dwi'n methu credu roedd sut gymaint o bobl yn trio mynd ar y wefan ar yr un pryd mi grashiodd y wefan ar ei diwrnod cyntaf, ond pwy a wir? mi dria i'n nes ymlaen siwr o fod.

Yn ôl pob son mae'n werth ei gweld, ac fel tanysgrifwr electronig i 'Olwg' dwi'n awyddus i gefnogi prosiect diwetharaf y cwmni, er mae'n well gen i gael rhywbeth yn fy nwylaw i ddarllen, yn lle tudalenau'r we. Camgymeriad oedd tanysgrifio i'r cylchgrawn mewn ffordd electronig yn unig, ac y dyddiau 'ma dwi'n ffeindio fy hun yn mynd o un wythnos i'r llall heb darllen gair o wasg 'Golwg'. Gawn i weld (gobeithio..) pa wahaniaeth mi wnaiff Golwg360....

10.5.09

'Patsh' Russell.....

Gwrandawais ar raglen Beti a'i Phobl yr wythnos yma i glywed Russell Jones y garddiwr hoffus o Rosgadfan yn son am ei fywyd a'i batsh enwog yn yr un un pentref. Seren sioe 'Byw yn yr Ardd' yw Russel, nid y fath o raglen mi faswn i'n ei gwylio fel arfer, ond mae'r boi yma yn gymeriad unigryw sy'n werth ei wylio beth bynnag, sdim ots am beth yw'r pwnc.

Ges i fy synnu i ddysgu am ddidordebau eraill Russell, hynny yw cerdd dant, dawnsio llinell, ac ieir. Mae ei frwdrydedd dros garddio yn haentus. Er does fawr o siawns o finnau'n saethu allan i'r ardd i wneud tipyn o 'falu ac yn palu' (torri'r lawnt a'r gwrychoedd yw cyfanswm fy nghampau i'n yr ardd fel arfer), ond pe tasai rhywun rhywbryd i lwyddo fy narbwyllo wneud hynny, mi fasai'r person hwnnw yn debyg o fod yn berson fel Russel Jones!

Mor Gymreig a Chymraeg yw'r garddwr glen o Rosgadfan, ges i fy siomi clywed ganddo fo sut mae pentref anhysbys megis hwn hyd yn oed, mewn ardal Cymraeg ei hiaith, yn colli conglfeini'r cymuned. Efo'r capeli, yr ysgol a'r siopau i gyd wedi cau, dim ond un dafarn sydd ar ôl i'r bentrefwyr galw'n lle i'r cymuned. Mae sawl tŷ fferm yn y bro wedi cael eu prynu gan 'bobl dŵad sy'n reteirio i'r ardal' heb fawr o ddealltwriaeth am y cymuned neu ddiwylliant Cymraeg yr ardal, yn ôl Russel.
Does dim casindeb yng ngheiriau Russell Jones, dim ond tristwch. Mae cefn gwlad Cymru yn newid yn sydyn iawn mae'n amlwg, ond efo cymeriadau mor liwgar a brwdfrydig a'r boi hwn yna i wneud gwahaniaeth, falle mae 'na obaith am ddyfodol gwell...

8.5.09

Gweithdy newydd...



Y golygfa trwy'r drws cefn

Wedi dros hugain mlynedd yn fy nghweithdy presenol (mae hynny'n fwy na 'ddedfryd oes'! ynde!), mae fy amser yna yn dod i ben o fewn llai na mis. Mae'r gwaith ar y lle newydd bron wedi ei gorffen erbyn hyn, hynny yw'r gwaith coed a pheintio oedd heb ei wneud yn barod, ac o fewn wythnos mi fydda i'n mynd wrthi i ddechrau symud y peirianwaith gwaith coed a'r pren sydd gen i fewn stoc. Mae rhywun yn casglu lot o sbwriel dros y flynyddoedd felly efo llai o le yn y gweithdy newydd mae'n cyfle gwych i gael cliriad go dda a llenwi ambell i sgip. Mae gen i gof brith o symud i mewn a dwi ddim yn edrych ymlaen yn fawr at y profiad o symud y stwff trwm, ond efo cymhorth cwpl o ffrindiau dwi'n siwr fydd pob dim yn iawn.

Dwi'n wrth fy modd efo'r lle newydd (mae'n ar y daearlawr am un beth), er lle lot llai yw hi, mae'n reit yn ymyl y gorsaf trên, felly mae 'na lawer i weld trwy'r dydd, efo'r trenau o Lerpwl yn dod ac yn gadael pob chwater awr. Mi fasai'n nefoedd ar y ddaear i 'wiliwr trenau', efo'r traciau dim ond ychydig o droeddfedi i fwrdd!!

6.5.09

Dwyiethrwydd.... yn llesol iddyn ni...

Gwyliais i raglen diddorol ar S4/Clic neithiwr (gwasanaeth defnyddiol tu hwnt!), sef un o'r cyfres 'Wynebau Newydd' ar y pwnc dwyieithrwydd. Dwn i ddim os mae rhywun sy wedi 'datblygu' dwyieithrwydd fel oedolyn yn cael eu ystyried yn ddwyieithog yn gwir ystyr y gair? Yn sicr nad ydyn ni yn siarad ein ail iaith 'newydd' fel person a gafodd ei magu yn ddwyieithog, ac mae'n debyg bod dysgwyr yn defnyddio rhan arall o'r ymenydd i brosesi ieithoedd ychwanegol yn gymharu i siaradwyr cynhenid! Ta waeth, yn ôl tystiolaeth o Ganada a gyflwynwyd yn rhaglen mi welais i neithiwr, mae dwyieithrwydd yn llesol iddyn ni ar rhwystro/gohirio 'dementure' megis alzheiners. Ar gyfartaledd mae'n debyg, mae gallu mewn dwy iaith yn gwneud pedwar flynedd o wahaniaeth, hynny yw ni fydd pobl dwyieithog yn diodde o salwch megis hon mor gynnar yn eu bywydau. Mae'r un fath o effaith wedi cael ei gweld efo pobl efo dawn cerddorol, felly mae 'na lawer iawn ymchwil i wneud yn y cyd-destun hon hefyd.

Ym Mhrydain, mae 'na rai sy'n gweld ein dwyieithrwydd cynhenid (hynny yw'r ieithoedd celtiadd sy'n dal i fyw) fel problem yn hytrach na chryfder. Gobeithio rhywdydd yn y dyfodol wnawn ni weld nhw fel rhywbeth llesol, i drysori, yn hytrach na rywbeth i gwyno amdani.....
ond mae dwyiethrwydd cynhenid yn sy'n rhan o brofiad nifer sylweddol o boblogaeth y byd yn rhywbeth i drysori yn hytrach na gweld fel problem

4.5.09

Carnedd Gwenllian

Mae'n priodol falle bod un o'r copaoedd mwyaf anghysbell y Gogledd newydd ei ail-enwi ar ôl cymeriad mor drychinebus a'r Tywysoges Gwenllian. Wedi ei amgylchynu gan ei perthnasau, Llywelyn a Dafydd (yn ôl pob son), mi fydd yr enw Gwenllian yn sefyll yn cyfforddus ymhlith mynyddoedd y Carneddau. Dwi'n cofio noson o wersylla efo ffrind yn fy arddegau wrth ymyl rhaedr Abergwyngregyn , efo'r bwriad o gyrraedd copa Carnedd Uchaf/Gwenllian (wedi methu cyrraedd y copa o ochr Llyn Ogwen cwpl o weithiau oherwydd diffyg golau). Roedd hi'n daith eitha ddiflas mewn gwirionedd, ar ddiwrnod niwlog a gwlyb, a dim ond er mwyn gallu dweud roedden ni wedi cwblhau'r copaoedd 3000' i gyd. Mi lwyddon ni, a dwi'n falch o hynny rwan, ond ar y pryd do'n i ddim cweit yr un mor benderfynol o gwblhau'r 'set' a fy nghyfaill.

Mae hanes Cymru fel unrhyw gwlad yn llawn anghyfiawnderau a chreulondeb, ond yn ôl yr hanes, mi ddiodefodd teulu 'Llywelyn ap Gruffudd' (Llywelyn ein Llyw Olaf) yn fawr o dan ddwylaw Edward 1af er gwaethaf cytundeb rhwng Brenin Lloegr a Llywelyn ychydig o flynyddoedd yn gynt. Wedi marwolaeth ei mam tra roi genedigaeth i'w unig plentyn, mi gollodd y baban Gwenllian ei thad yn ystod brwydyr yng Nghilmeri, ac wedyn ei ewythr a gwarchodwr Dafydd, brawd Llywelyn a gafodd ei dal gan Fyddin Edwrard cyn cael ei ddeddfrydu i farwolaeth erchyll gan y Brenin hwnnw. Mi dreuliodd meibion Dafydd gweddill eu bywydau o dan glo, a chipiodd Edward y teitl Tywysog Cymru a roddodd i'w fab, ac yn ei tro wrth cwrs i'n Siarles annwyl ni! Fel merch i Llywelyn, a thywysoges Cymru, mi gynhyrchiolodd ffrwthlondeb potensial Gwenllian bygythiad i Frenhiniaeth Lloegr, felly trefnodd Edward iddi cael ei anfon i leiandy Sempringham yn Swydd Lincoln lle treuliodd gweddill ei bywyd, cyn farw yna yn 54 oed. Gafodd hi ddim dewis i fyw bywyd 'normal', neu fagu plant, neu hyd yn oed siarad iaith ei thad. Yn ôl y cofnodion y lleiandy mi ysgrifenodd hi ei henw ei hun yn 'Wencilane' a 'Wentilane'.

Mae'n hanes llawn dristwch ac yn werth o leiaf un fynydd! tybed be fasai Wencilane yn meddwl o'r ymgyrch i enwi un o brif copaoedd tywysogaeth ei thad ar ei hôl....tybed yn wir

3.5.09

Castellmai

Mi deithiom ni draw i Wynedd y bore 'ma i fwynhau pryd o fwyd blasus tu hwnt yn awyrgylch hyfryd iawn Castellmai, tŷ siôrsiadd crand yng nghyffuniau Caernarfon. Mi gafodd y bwyd ei darparu gan cwmni o Lanrwst 'Blas ar Fwyd', ac roedd y peth i fod yn sypreis i fy nhad sy newydd troi wyth deg oed. Roedd fy chwaer wedi anfon mam a dad allan am dro er mwyn galluogi i'r bwyd cyrraedd heb fy nhad yn gwybod dim byd amdanhi, ond digwydd bod mi ddaethon nhw yn ôl cyn i'r fan gadael. Wrth cwrs mi siaradodd fy nhad â gyrrwr y fan a dyma fo'n dweud "Mae rhai bobl yn cael parti yn fan'na"! Wel roedd y cath bron a bod allan o'r cwd, ond dwedodd fy nhad dim cyn ar ôl y parti, ond nad oedd o'n disgwyl gweld y teulu i gyd yn fan'na.

Ges i gyfle cael nifer o sgyrsiau yn y Gymraeg efo aelodau'r teulu dwi ddim yn gweld yn aml iawn, a gathon ni dro bach fyny'r lôn i fwynhau golygfeydd ysblennydd o'r Eifl, Ynys Môn, Castell Caernarfon ac ati.

1.5.09

Gwŷl y Banc

Dwi'n edrych ymlaen at benwythnos hir ac i anwybyddu'r gwaith yn gyfan gwbl am dridiau. Dyni i fod yn mynd draw i ardal Caernarfon dydd sul i gyfarfod â fy rhieni sy'n aros mewn llety crand yn fan'na fel 'trît' penblwydd i fy nhad. Mae rhai o gangen Cymreig ei deulu o'n dod am bryd o fwyd amser cinio, y rheiny oedd yn methu teithio i'r dathliad yng Nghilgwri neithiwr. Mi fasai'n braf i fynd, ond mewn rhan mae'n dibynnu ar gyflwr fy nhad yng nghyffarith sy'n dal yn yr ysbyty, er mi welon ni ychydig o welliant ddoe.

Yfory mi fydd rhaid i mi fynd i Benbedw er mwyn gyfnewid pâr o drowsus wnes i brynu yn Primark pythefnos yn ôl. Neu ddylwn i ddweud i gyfnewid y pâr o drowsus mi wnes i gyfnewid i'r pâr mi wnes i brynu yn Primark pythefnos yn ôl! Os mae hynny'n gwneud synnwyr... dwi wedi prynu'r faint anghywir dwywaith rŵan! y tro nesaf wna i'w trio yn y siop yn pendant!!

28.4.09

Cymhlethdodau....

Mae hi wedi bod yn wythnos eitha hectig a dweud a gwir, a dwi ddim wedi cael llawer o amser i flogio neu gwneud dim byd ar wahan i weithio a thrio cefnogi fy ngwraig, am fod ei thad hi wedi bod yn yr ysbyty yn ddifrifol sal. Erbyn hyn mae o wedi setlo ac mae pethau'n edrych ychydig yn well, ond mae o'n sicr o fod yna am sbel i ddod, felly mi fydd 'na lawer o yn ôl ac ymlaen i wneud dros y wythnosau nesaf hefyd. Mae'n penblwydd wyth deg fy nhad dydd iau hefyd, felly dani'n edrych ymlaen at bryd o fwyd mewn gwesty lleol er mwyn helpu fo ddathlu achlysur mor arbennig.

Wnes i fy nosbarth nos heno, gobeithio wnes i'n o lew, roeddwn i heb wneud mawr o ddarparu. Mae'r ffaith bod y cwrslyfr yn dysgu 'es i, ces i, ddes i, ac ati, a'r Big Welsh Challenge yn defnyddio 'wnes i fynd, wnes i gael, wnes i ddod' wedi peri ychydig o dryswch, heb son am y ffaith bod un o'r dosbarth yn dysgu'r cwrs OU sy'n defnyddio'r ffurf mwy ffurfiol i fynegi'r gorffenol. Wnes i ddim meiddio crybwyll bod 'na ffordd arall, sef 'ddaru', o newid berf i'r gorffenol! Mae'r hen iaith yma yn gallu eich drysu weithiau tydy! er mae Saesneg yr un mor gymhleth mae'n siwr, wel dyna be dwi'n dweud i'r dosbarth, er dwi heb eu argyhoeddi nhw o hynny eto!

21.4.09

Bathodynau a ballu....

Wedi tair wythnos rhwng y dosbarth olaf a'r un heno, o'n i'n falch o weld ystafell llawn o fy mlaen. Wedi tipyn bach o adolygu o'r pethau ro'n ni'n gwneud cyn y Pasg, mi aethon ni ymlaen i ddechrau y 'gorffenol', hynny yw 'wnes i' ac ati. Mi wnath David JOnes awgrymu dylsen ni'n dilyn Cymraeg y cwrslyfr, hynny yw 'mi es i' yn hytrach na 'wnes i fynd', rhywbeth dwi'n clywed fy hun yn dweud yn amlach y dyddiau yna ( a ffurf a defnyddwyd yn 'Y Big Welsh Challenge'), felly mae'n well i mi ddilyn ei gyngor, gan fod 'na siawns mi fydd fy nhosbarth i'n cael eu tiwtora ganddo fo yn yr ail flwyddyn!

Mi gyflwynais rhai o wersi 'Say omething in Welsh' yn ystod y nos, ac mae'n rhaid i mi ddweud mi gawson nhw dderbyniad weddol dda. Dwi'n sicr o fynd yn ôl atyn nhw mewn gwersi eraill, a gobeithio mi fydd rhai yn y dosbarth yn eu defnyddio rhwng y dosbarthiadau.

Mi gafodd pawb yn y dosbarth un or bathodynau 'dwi'n dysgu Cymraeg' newydd, felly gawn ni weld os mae nhw'n gwneud unrhyw gwahaniaeth i'r rhai sydd wedi trio (heb fawr o lwyddiant) defnyddio eu Cymraeg efo Cymry Cymraeg....

18.4.09

Taith Anfield

Mi aethon ni ar daith o stadiwm Anfield y bore 'ma, a phrofiad gwerthchweil yr oedd hi i rywun efo diddordeb yn y 'gêm hardd'. Dechreuodd y taith wrth mynedfa'r chwaraewyr o dan brif eisteddle'r stadiwm, mynedfa a gafodd ei addasu wedi ymosodiad wyau ar reolwr Man Utd rhai flynyddoedd yn ôl. Dwedodd ein tywysydd mi gafodd yr unigolyn wnath lluchio'r tafledigion hirgron ei siarsio efo 'diffyg gallu taflu'n gywir' ....! dim ond y gyntaf o sawl jôc am brif gelynion Lerpwl.

Wedi ymweliad â'r ystafeloedd newid (yn syfrdanol o blaen ac 'anfoethus'), mi aethon ni o dan yr arwydd enwog 'This is Anfield' at ochr y cae, a'r seddi ar gyfer y rheolwr, ei garfan o hyfforddwyr, eilyddion a ballu. Wedi siawns i bawb cael tynnu llun yn eistedd mewn cardair Rafa Benitez, mi aethon ni ymlaen at 'y Kop', lle disgrifiodd y tywysydd yr hen drefniadau ar ran ateb galw natur tra sefyll efo 30,000 o bobl o'ch amgylch chi. Does dim ond rhaid dweud gafodd llawer o baburau newydd eu gwerthu cyn pob gêm a ni chafodd sawl un eu darllen, a nad oedd hi'n syniad da i wisgo dy sgidiau gorau ar risiau'r Kop....

Ar ôl ymweled â'r siop, mi aethon ni i Amgeuddfa Anfield, arddangosfa diddorol iawn yn dilyn hynt a helynt y clwb o'r dyddiau gynnar i'r presennol, casgliad yn wirioneddol diddorol i gefnogwr Lerpwl, neu genogwyr peldroed yn gyffredinol.

Ar y ffordd o'r stadiwm wnaethon ni basio cofeb Hillsborough, a chawsom ni ein syfrdanu gweld cymaint o flodau yna, canoedd o fwnsiaid ohonynt, teyrnged addas iawn i'r penblwydd trist sydd newydd bod.

14.4.09

penblwydd llawn tristwch...



Mae'n annodd credu bod hugain mlynedd wedi pasio ers i drychineb Hillsborough digwydd. Dwi'n cofio'r ddiwrnod yn glir, roedden ni'n digwydd bod yn aros efo ffrind mewn carafan yn Harlech. Roedden ni wedi bod allan am dro ar y traeth, ac ar ôl iddyn ni ddychweled i'r carafan dyma ni'n troi'r teledu ymlaen i weld y gêm, ond wrth cwrs wnaethnon ni ddim gweld gêm, dim ond sawl aelod o'r torf yn cael eu gwasgu yn erbyn ffens 'diogelwch', a chyrff y meirw, a'r rhai efo anafiadau difrifol yn cael eu cludo i ffwrdd o'r cae ar gefn byrddau hysbysebion gan eu cyd-cefnogwyr. Roedd hi'n oriau cyn ddaeth gwir faint y drychineb i'r amlwg, ac doedd neb yn gallu coelio'r peth mewn gwirionedd, efo 96 o gefnogwyr Lerpwl wedi eu lladd ar ddiwrnod heulog oedd i fod yn ddathliad o beldroed ar ei gorau.

Er gwaethaf y blynyddoedd mawr sydd wedi mynd heibio, mae'r creithiau'n dal i fod yn boenus i'r teuleuoedd a gollodd annwyliaid yna, a dwi'n cael fy atgoffa pob tro mod i'n mynd i'n mynwent lleol i ymweled â beddau aelodau'r teulu. Yn fan'na, yn goch a gwyn i gyd yw bedd un o'r 96, a'r cofeb taclus a lliwgar i'w fywyd byr.

Cafodd neb eu cosbi dros Hillsborough (er mae'n sicr wnaeth nifer o benderfyniadau annoeth arwain at y canlyniad trychinebus), dim ond y cefnogwyr druan wnaeth colli eu bywydau, heb gofio'r miloedd oedd yn dystion i'r golygfeydd arswydus a'u teuleuoedd a'u ffrindiau. Mae sawl wedi eu amau o fod yn gyfrifol dros y degawdau, FA Lloegr, yr heddlu, hyd yn oed y cefnogwyr eu hun, er mawr cywilydd gan bapur newydd y 'Sun'. Hyd heddiw mae gwerthiant y tabloid unsillafog ar Lannau Mersi'n dim ond deg y cant o'r hyn yr oedd hi cyn i Kelvin McKenzie sgwennu ei eiriau gwenwynig am gefnogwyr Lerpwl. Mae'r ffaith bod cefnogwyr Everton wedi sefyll yn sownd ochr wrth ochr efo cefnogwyr Lerpwl ynglŷn â hyn yn dweud cyfrolau.

Ond trwy Hillsborough, a'r adolygiad a ddaeth yn ei sgil, mae stadia dros y Deyrnas Unedig wedi eu gwneud yn fwy diogel, a ni ddylai trychineb o'r fath digwydd eto, gobeithio'n wir...

11.4.09

fy nghyfaill newydd....



Mi aethon ni dros y dŵr heddiw er mwyn cyfarfod dynion dur Antony Gormley, sef y cerflun(iau) rhyfeddol o'r enw 'Another Place' sy'n sefyll ar hyn o bryd ar draeth Crosby ar gyrion dinas Lerpwl. Roedd y tywydd yn hyfryd a chawsom ni dro braf ar dywod aur glannau'r Mersi yn mynd o un corff dur i'r llall, ac mae na ddigon ohonynt i'w gweld, rhai gant dwi'n credu, yn ymestyn dros tair cilomedr o'r traeth. Dwn i ddim be i wneud o'r cerflun a dweud y gwir, ond heb os mae nhw wedi dennu miloedd ar filoedd o ymwelwyr i'r ardal i sythu mewn syndod a sylwebu.



Un o'r dynion dur Gormley yn edrych ar gwch 'tug' yn gadael y Mersi


Mae'n anhygoel dod o hyd i draeth mor braf dim ond tafliad carreg o borthladd 'container' enfawr Seaforth, ac mae'r tywyni tywod yn para am filltiroedd lawer hyd at Southport a thu hwnt. Fel cefndir ysblenydd i'r celfyddyd awyr agored, roedden ni'n gallu gweld mynyddoedd Eryri, gan cynnwys Copa'r Wyddfa a sawl arall.

10.4.09

wps....

Mi wnaeth Gary Owen tipyn o gamgymeriad heno wrth darllen bwletin y newyddion. Tra ddarllen y canlyniadau chwaraeon, dyma fo'n dweud "Huddersfield six" cyn cywiro ei hun yn sydyn iawn a dweud "chwech". Mae'n gwneud i mi deimlo'n well i glywed darlledwr mor brofiadol cymysgu ei ieithoedd fel hyn, rhywbeth dwi'n ffindio fy hun yn gwneud o dro i dro. Yn ddiweddar dwi wedi clywed fy hun yn dweud 'neges' yn hytrach na 'message' tra siarad Saesneg am rhyw rheswm...

9.4.09

Barn...

Wnes i dderbyn copi am ddim o gylchgrawn Barn y bore 'ma (gan mod i wedi cytuno i danysgrifio) ac mae rhaid i mi ddweud bod golwg y peth yn ddigon deniadol. Mae'n flynyddoedd ers i mi weld copi ohono fo, dwi'n cofio gweld ambell i gopi yn nhŷ fy Nain a Thaid yn ôl yn y saithdegau, ond prin iawn faswn i wedi darogan gweld fy hun yn darllen yr un cylchgrawn rhai 35 o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac yn ei ddeall!!

Mae na golofnwyr diddorol ymlith y rhai sy'n cyfrannu at gyfrol digon swmpus. Chris Cope o'r 'blogysawd' Cymraeg, Gareth Miles ac Elin Llwyd Morgan, dau awdur dwi wedi mwynhau eu llyfrau nhw, Dot Davies o Radio 5 efo'r chwaraeon a Richard Wyn Jones yr hanesydd cyfarwydd i wilwyr S4C. Fel y cyfriw felly 'lein yp' cryf efo digon o amrywiaeth i rywun pori drosti hi am y fis rhwng pob cyhoeddiad.

6.4.09

Bathodynnau




Dros y blynyddoedd dwi wedi bod yn berchen i ambell i fathodyn 'dwi'n dysgu Cymraeg', ges i un gan Bwrdd yr Iaith, ac mi ddoth un arall o 'Acen' os cofiaf yn iawn. Mae gen i un o hyd efo dim mwy na 'logo' newydd Bwrdd yr Iaith arno, un neis enamel ydy o a dylwn i'w wisgo, ond fel arfer dwi'n methu cael hyd iddo fo pan dwi ei eisiau fo, mor anhrefnus ydw i!!

Felly pan soniais i'r dosbarth nos am y bathodynnau yn ddiweddar, ro'n i'n ffyddiog o lwyddo ffynhonellu rhai ohonynt ar gyfer y dysgwyr heb fawr o drafferth. Wnes iw crybwyll nhw i Rhian o Fenter Sir y Fflint, ond nad oedd hi'n credu roedd gynnon nhw'r un ar ôl, ond wedi ychydig o ymchwil ar y we, penderfynais mynd ati i darlunio cynllun syml fy hun (wedi fy ysbrydoli gan weld crysiau T ardderchog Emma Reese!) ac archebu 'batch' o fathodynau ar gyfer y dosbarth fel anrheg bach cyn diwedd y cwrs. Mae 'na gymaint o gwmniau erbyn hyn yn cynnig gwasanaeth cynhyrchu bathodynnau o dy gynllun dy hun roedd hi'n annodd dewis un, ond yn y pendraw dewisias un or enw 'badges for bands' sy'n cynnig prisiau rhesymol dos ben (gawn i weld safon ei gwaith cyn diwedd y wythnos...gobeithio), ac sy'n gwireddu dy gynllun o fewn dyddiau!

Mae'r darlun yn eitha syml, ond dwi'n gobeithio mi fydd y 'D' coch yn sefyll allan ac yn helpu tynnu sylw y siaradwyr Cymraeg sy'n fodlon helpu dysgwyr. Mi gafodd un o'r dosbarth profiad digalonus ychydig o wythnosau yn ôl pan wnath bron pob un Cymro/aes Cymraeg wnath hi fentro siarad Cymraeg efo nhw yn troi'n syth i Saesneg, felly dyna pam wnes i grybwyll gwisgo bathodyn, er mwyn rhoi siawns iddyn nhw dod at y dysgwyr...gawn ni weld....

3.4.09

mater o Farn....

Ges i alwad ffôn gan Alaw y bore 'ma, cyn swyddog Menter Iaith Sir y Fflint sy'n bellach yn gweithio i 'Momentwm', cwmni cysylltiadau cyhoeddus. Roedd Alaw yn hel tanysgrifwyr i gylchgrawn 'Barn', swydd eithaf annodd mi faswn i'n meddwl, yn enwedig o ystyried y sefyllfa arianol sydd ohonyn ni. Fel mae'n digwydd, ro'n i wedi bod yn ystyried tanysgrifio i 'Barn' ers sbel, ar ôl i mi ddarllen mai Chris Cope yn un o'u cyfranwyr cyson, yn ogystal a Gareth Miles ac Elin Llwyd Morgan, ac fel a bwyntiodd allan Alaw, mae'n annodd dod o hyd i gylchgronnau o'r fath yma yn Lloegr, felly mae tanysgrifio'n gwneud synnwyr. Felly edrychaf ymlaen at dderbyn fy nghopi cyntaf cyn bo hir, ac i ehangu fy mhrofiad o ddarllen yn y Gymraeg....

2.4.09

cwis.... y dosbarth nos

Maen annodd credu, ond dwi wedi cwblhau dros y deuparth (dwy rhan o dri)fel tiwtor o'r cwrs mynediant. Mae gynnon ni pythefnos o wyliau y Pasg cyn dychweled am wyth wythnos rhagor o wersi. Dychrynllyd yw'r unig gair i ddisgrifio pa mor sydyn mai'r misoedd wedi mynd heibio. Dwi'n sicr mi fydd rhai o'r criw yn ôl am fwy o 'gosbedigaeth' flwyddyn nesaf, i rai mi fydd y flwyddyn yma wedi bod dim ond dechreuad i daith eitha hir, i eraill diddordeb tymor byr falle, pwy a wir. Os ga i fy ngalw yn ôl, ffindia i allan!

Am noson olaf y tymor hwn, o'n i wedi trefnu cwis bach. Ro'n i'n poeni braidd amdanhi, ond mi aeth popeth yn iawn yn y diwedd. Mi holltais y dosbarth mewn tri tîm o bedwar, a 'powerbwyntiais' y cwestiynau ynghyd â'u adrodd. Roedd y cwestiynau wedi cael eu sgwennu mewn ffurf a dylien nhw wedi deall (pe tasent wedi cofio popeth o'r cwrs hyd yn hyn!!), ac efo pedwar pen yn gweithio ynghyd, mi lwyddodd y timau i ddeall y rhan mwyaf o'r hugain cwestiwn am wybodaeth cyffredinol a Chymru. Mi fydd rhaid i mi wneud yr un fath o cwis unwaith eto cyn diwedd y cwrs, er mwyn cadw'r hwyl, ac a dweud y gwir trist, wnes i fwynhau ei sgwennu!!

27.3.09

Cymraeg ar BBC1....prif amser.....!

Mae'r actor o Ruthun Rhys Ifans yn wneud gwestai da iawn fel arfer ar sioeau 'chat', a na chawsom ein gadael lawr heno chwaith ar raglen Jonathon Ross. Roedd Ross wedi mynd i'r trafferth o roi ei ddesg a setee ar set oedd yn symud fel pe tasen nhw ar fwrdd llong (am fod Rhys Ifans yn hyrwyddo ei ffilm o am Radio Caroline yn y chwedegau). Roedd Rhys yn methu ymdopi efo'r symudiad cyson a jociodd am dal 'scurvy', cyn gafael yn afal a digwydd bod ar ddesg JR a'i fwyta er mwyn gwella'r salwch dychmygol!

Tra son am ei fand 'The Peth', gofynodd Ross os oedd y band yn canu yn Gymraeg. Dwedodd Ifans roedd eu caneuon Cymraeg yn hiraf na'r rhai Saesneg, cyn cyfieithu llinell a fwydodd iddo fo gan Ross i'r Gymraeg er mwyn dangos y gwahaniaeth. Ychwanegodd roedd gan y Gymraeg llai o eiriau na Saesneg, a dyna pam wlad o feirdd yw Cymru, am fod 'na fwy o angen am ddisgrifiadau barddonol er mwyn cyfleu pethau. Roedd y 'craic' yn dda rhwngddyn nhw, ac roedd hi'n braf clywed yr actor enwog yn siarad efo falchder a hiwmor am y Cymraeg ar un o raglenni 'prif-amser' y BBC.

23.3.09

Dean yw'r dyn

Mae pethau'n y Cae Ras yn mynd o ddrwg i waeth efo rhediad gwael Wrecsam yn parhau. Onibai am buddugoliaeth unig wythnos diwetha mae'r cochion heb ennill am ryw unarddeg o gemau. Ildio gôl yn amser ychwanegol oedd hanes y gêm heno, ar ôl i Wrecsam rheoli'r gêm am gyfnodau helaeth, a tharo'r pren cwpl o weithiau. Mae'r cyfle o ennill lle yn gemau'r 'ail cyfle' (hynny yw'r play offs), bron wedi diflannu erbyn hyn, ac efo Dean Saunders i ffwrdd am bythefnos efo tîm Cymru, nad oes na fawr gobaith mewn realaeth.

Cyfnod o ail-adeiladau mi fydd hi dros y misoedd nesaf, darpariaeth ar gyfer y tymor i ddod a chais go-iawn i herio am eu lle yn ôl yn uchelfannau pensyfrdanol yr ail cynghrair. Gobeithio'n wir mi fydd Dean dal i fod yna i'w arwain yna...

21.3.09

Siom yng nghanol y cyffro...

Mae rygbi'n gallu creu digwyddiadau hynod o gyffrous, ond na allai neb wedi disgwyl i ganlyniad yr holl chwe gwlad dibynnu ar gic olaf y pencampwriaeth. Yn y pendraw mi aeth yr holl gwobrau i Iwerddon, y coron drifflyg, y pencampwriaeth a'r camp lawn, tipyn o gamp, ond gallai un ohonynt wedi aros yng Ngymru pe tasai cic olaf Stephen Jones wedi cario hyd at y pyst. Wedi hanner cyntaf hynod o dynn mi daniodd y gwyddelod yn syth ar ôl yr egwyl efo dwy gais sydyn. Roedd Cymru'n edrych yn sigledig am sbel, ond wnaethon nhw ail-setlo efo dwy cic gosb i ddod o fewn dau pwynt o Iwerddon. Mi ddoth y pump munud olaf â drama go iawn. Mi sgoriodd Cymru gôl adlam i gropian un pwynt o flaen i'r gwyddelod, cyn wnaeth Stephen Jones camgymeriad mawr o'r ail-ddechrau a rhodd tir a meddiant i ddynion yr ynys werdd. Mi sgoriodd Iwerddon gôl adlam syml cyn panico a throseddu yn y ryc i roi cyfle i Gymru i ennill y gêm efo'r cloc wedi troi yn goch. Ro'n i bron yn meddu gwylio wrth i Stephen Jones paratoi cicio o'r llinell hanner, ond fel dyni gyd yn gwybod mi fethodd a hanes yw'r gweddill! Falle dylai Henson wedi cicio ymgais mor hir, pwy a wir, falle roedd Jones yn ceisio gwneud iawn am golli'r tir wnath arwain at gôl adlam Iwerddon, ond roedd o wedi bod yn cicio'n dda trwy'r gêm, a methodd Henson ei unig cic arall. Ta waeth, mae un peth yn sicr, wnath Cymru tangyflawni trwy gorffen yn pedwaredd yn y tabl, ond gobeithio mi fydd hynny'n rhoi mwy o awch iddyn nhw wrth i ni agosau at cwpan y byd...

20.3.09

13...?

Dwi newydd gwylio 'Bwrw'r Bar', ac erbyn hyn dwi wir yn edrych ymlaen yn arw at y gêm fawr.
Mae gan chwaraewyr Cymru tipyn o her o'u blaenau, ac mi fydd hi'n camp enfawr i gipio'r pencampwriaeth trwy rhoi cweir i'r Gwyddelod, ond mae'r llwyfan wedi ei osod am b'nawn bythgofiadwy a llawn cyffro. Mae 'na rywbeth arbennig am y 'chwe gwlad', dwi'n mwynhau gwylio pob gêm dwi'n gallu gwylio, ond does dim byd gwell na gêm ar sadwrn olaf y cystadleuaeth efo pob dim i ennill neu i golli, a phawb ar bigau'r drain....

19.3.09

Dim cydbwysedd yn y Bae....

Tiwniais mewn i 'Bawb a'i Farn yr heno 'ma'n edrych ymlaen at y rhaglen arbennig o adeilad ysblenydd y Senedd. Roedd set y rhaglen wedi ei codi yn nghanol y prif neuadd ac roedd y lluniau ar y teledu'n edrych yn drawiadol dros ben. Wedyn mi glosiodd un or camerau ar y panel, Rhodri Morgan y prif wenidog a gwestai arbennig, Yr arglwydd Llandudno, rhyw foi o'r Ceidwadwyr, a Dafydd Wigley, am olwg tadol! Mae'r Cynulliad yn ymfalchio yn y ffaith bod gynnon nhw canran sylweddol (tua 45%) o ferched yn eu plith, ond pe tasai rhywun wedi tiwnio mewn heno, mi fasai hi wedi bod yn hawdd i ddychmygu rhai glwb i ddynion gwallt gwyn roedden nhw'n ei gwylio, nid rhaglen o bencadlys corff efo cydbwysedd heb ei ail yn y byd gwleidyddol. Dwn i ddim pwy sy'n dewis y paneli ar gyfer y rhaglen yma, ond roedd cydbwysedd y panel yn edrych yn hollol anghywir i mi. Ty'd 'mlaen S4C, mae'n rhaid gwneud yn well y tro nesaf.....

14.3.09

Dros y parc...

Mi glywais awdur llyfr newydd 'Across the Park' yn siarad y bore 'ma ar raglen pêl-droed 'Ar y Marc'. Mae ei lyfr o'n dilyn y cysylltiadau rhwng clybiau pêldroed dinas Lerpwl sef Everton a Lerpwl, y dau clwb yn sefyll wrth ymyl Parc Stanley. Peter Lupson ydy ewn yr awdur a siaradodd Gymraeg clir a chywir, er nad oedd on swnio cweit fel brodor o Gymru. Cyn diwedd y cyfweliad mi holodd Dylan Jones am y ffaith ei fod o'n siarad Cymraeg. Mi ddwedodd fod ei wraig yn Gymraes Cymraeg o Fynydd Llandegai ger Fangor, ac mi ddysgodd y Gymraeg er mwyn siarad a'u teulu hi.

Nes ymlaen wnes i ei 'ooglo', a des i o hyd i fwy o wybodaeth amdanaf. Gafodd ei eni yn Awstria cyn symud i Loegr fel hogyn fach, mae o'n gweithio fel athro Saesneg mewn ysgol preifat dim ond cwpl o filltiroedd o fan'ma yn Hoylake, ac mae o'n byw yng Nghilgwri hefyd. Mae o wedi sgwennu llyfrau ar gyfer dysgwyr o'r Almaeneg a Ffrangeg, felly mae o'n dipyn o ieithydd. Ar ôl wneud yr ymchwil ar y we, ro'n i yn ein siop lyfrau lleol a welais i boster yn hysbysebu 'darlith' ganddo fo yn y siop am ei lyfr newydd. Mi faswn i wedi hoffi mynd, ond yn anffodus mae'n digwydd ar yr un noson ag fy nhosbarth nos, a mi fasai hi'n dynn iawn i gyraedd y dosbarth mewn pryd. Weithiau dach chi'n darganfod bobl sy'n siarad yr iaith 'ma yn hollol annisgwyl, sy'n wastad yn teimlad braf.

13.3.09

Diwrnod Trwynau Coch

Mae hi'n Ddiwrnod Trwynau Coch heddiw, ac mi fydd 'na wledd o adloniant i wneud iddyn ni chwerthin ar ein sgrînau bach heno. Wrth rheswm caiff yr hwyl a sbri ei brithio efo clipiau fideo, Affricaniaid yn dioddef trychineb ar ben trychineb, plant yn ysgwyddo cyfrifoldeb oedolion. Cawn ni ein atgoffa o ba mor syml mi fasai helpu lleihau effeithiu afiechydon megis cholera a malaria, rhwng ein celebs annwyl yn troi ein dagrau dros dro'n chwerthin. Mae'r holl digwyddiad yn gallu wneud rhywun teimlo'n anghyfforddus ofnadwy, a dyna'r pwynt am wn i. Mi gaiff ein cydwybod casgliadol eu procio gan brocwr mawr coch siâp trwyn, a chaiff swm sylweddol ei cyhoeddi mewn ffigyrau llachar ar ddiwedd y noson.

Ond dim ond diferyn yn y môr mi fydd hi wrth cwrs, plaster bychan dros craith enfawr. Mae'r ffaith ei bod hi'n bosib cael gymaint o effaith trwy cyfranu cyn lleiad o bres, yn tanlinellu anghysondeb ein byd. Euogrwydd yn gallu bod modd effeithiol iawn o godi arian, ond os dyni'n bodloni ein teimladau trwy lluchio deg punt mewn i'r casgliad (fel wna i gyn diwedd y noson mae'n siwr...) onid oes 'na beryg o gladdu'r cydymdeimlad, sy'n dod i'r wyneb pob flwyddyn neu ddau, yn andros o rad....

12.3.09

Arbrawf....

Dwi'n arbrofi efo fideos ar hyn o bryd er mwyn helpu rhai o'r dosbarth nos wneud tipyn o ymarfer adre, felly ymddiheuriadau am gynnwys y fideo, dim ond gweld os mae'r peth yn ymarferol neu defnyddiol ydwi a dweud a gwir.

10.3.09

y rhufeiniaid a ballu...

Dwin ceisio cadw fyny efo nifer o raglenni S4C ar hyn o bryd, gan cynnwys 'Rhufeiniad' ac 'Angell yn India'. Gwyliais i'r Rhufeiniaid heno ar ôl coleg, ond yn anffodus roedd 'na flychau pob hyn a hyn yn y swn oherwydd signal eitha wan, felly mi fydd rhaid i mi wneud yr ymdrech i'w gwylio eto ar S4/Clic er mwyn gwneud synnwyr o'r hanes hynod o ddiddorol. Roedd Rhun ap Iorwerth yn dilyn gorymdaith y llengoedd rhufeinig dros de a chanolbarth prydain yn y pennod cyntaf hon, gan cynnwys hanes anhygoel y gwrthryfelwr Caradog, a gafodd ei gludo efo ei deulu i Rufain yn ôl y son. Yna roeddent i gael eu di-enyddio, ond ar ôl iddo cael cyfle 'dweud ei dweud', yn ôl yr hanes, mi ddangosodd y rhufeiniaid trugaredd annisgwyl, a wnaethon nhw treulio gweddill eu bywydau yn byw yn y 'dinas tragwyddol'. Mae hi'n dipyn o hanes, a chafodd y gwbl ei gyflwyno mewn dull gwyliadwy dros ben.

Edrychaf ymlaen at y pennod nesa a hanes Buddyg...

9.3.09

Yn ôl ar 'Seesmic'..

Mae hi wedi bod yn sbel go hir, ond wnes i recordio pwt ar 'seesmic' heno, gwefan arbrofol rhanu fideos. Mi fasai'n braf gweld mwy o fideos Cymraeg yn fana, mae'n digon rhwydd i ddefnyddio.....

8.3.09

Trip yr Ysgol Gymraeg...

Ges i fy nennu ddoe gan y ragluniau i raglen S4C o'r enw 'Trip yr Ysgol Cymraeg', a gafodd ei cyflwyno gan ganolwr Cymru Nicky Robinson, sef maswr y Gleision Caerdydd. Mi ddilynodd y rhaglen hanes addysg cyfrwng Gymraeg dros Cymru gyfan, ond yn bennaf lawr yn y de dwyrain lle gafodd Nicky ei eni a'i fagu ar aelwyd di-gymraeg.

Roedd 'na wendidau yn y rhaglen yn sicr, a gafodd ei chyd-cyflwyno gan griw o chweched dosbarth ysgol Bro Morgannwg yn y Barri. Mae'n amlwg er enghraifft nad ydy'r rhan mwyaf o'r disgyblion yn defnyddio llawer o Gymraeg tu allan i stafell dosbarth yr ysgol, sydd ddim mewn gwirionedd yn syndod, mewn ardal mor Saesneg ar ran iaith. Ond efo arweinyddiaeth ac ysbrydoliaeth Nicky Robinson, mi lwyddon nhw greu rhaglen diddorol am bwnc sy'n falle braidd yn 'sych' ar y wyneb. Mi deithion nhw ar draws Cymru gyfan, yn darganfod hanes gynnar addysg cyfrwng Gymraeg yn y llyfrgell genedlaethol,yn ymweled â nifer o ysgolion a chyn-ysgolion, gan cynnwys Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy, lle cawson nhw cyfle cyfnewid profiadau efo cyd disgblion yn fana. Mi aeth Nicky yn ôl i'w gartref i gyflwno ei fam, wnath penderfynu anfon ei hogiau i ysgol Gymraeg a hithau yn tarddu o Middlsborough. Erbyn hyn mae Mrs Robinson wedi dysgu Cymraeg ei hun, a bellach mae hi'n dysgu P.E. trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyn ddiwedd y rhaglen gafodd criw Ysgol Bro Morgannwg cyfle i cyfweled â'r prif weinidog Rhodri Morgan o flaen y Senedd, ac yntau'n un o ddisgyblion cynnharach y meithinfra Cymraeg cyntaf yng Nghaerdydd. Erbyn hyn roedd eu hyder nhw'n codi, a wnaethon nhw swyddogaeth dda o holi gwleiddydd amlycaf Cymru.

Diweddglo'r rhaglen oedd y to ifanc eu hun yn dweud eu dweud am yr hyn mae'r Gymraeg yn golygu iddyn nhw, a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol, ac roedd yn ymatebion cadarnhaol yn y bon. Rhaid dweud, efo cymeriadau ysbrydoledig megis Nicky Robinson yn hybu'r iaith ac yn ymfalchio ynddi hi, mae'n amlwg bod yr arbrawf o addysg cyfrwng Cymraeg yn y de wedi bod yn llwyddiant. Wedi dweud hynny, does fawr o dystiolaeth i ddangos bod cynllun uchelgeisiol y cynulliad i greu Cymru dwyieithog yn debyg o gael ei gwireddu yn y dyfodol agos. Mae'r targed afrealistig (heb arrianu yn sylweddol) o weld cynydd o 5 y cant yn y nifer o siaradwyr Cymraeg erbyn 2011 yn sicr o fethu, ond er hynny mi wnath y rhaglen cynnig resymau am obaith.

28.2.09

Eisteddfod y Dysgwyr.... yn rhy Gymraeg?

Mi wnath pump o'r dosbarth nos y taith draw i ogledd Cymru er mwyn profi hwyl Eisteddfod y Dysgwyr 2009. Roedd 'na dros cant yn y neuadd, tipyn llai nag oedd yno y llynedd, ond cawson ni ddigon o gystadlu a falle gormod o feirniadaethau...?

Roedd Gerallt Pennant a chamerau 'Wedi 7' wedi troi i fyny hefyd, er mwyn ddarlledu darn i'r rhaglen yn fyw, i fynd efo darn a gafodd ei saethu efo un o ddosbarthiadau nos Yr Wyddgrug y ddiwrnod cynt.

A dweud y gwir ges i brofiad hollol gwahanol i'r un arferol gan roeddwn i'n ymwybodol iawn o'r ffaith ro'n i'n eistedd efo criw o ddechreuwyr, a phrin iawn wnes i deimlo eu bod nhw yn deall fawr o'r sgwrs o'u blaenau ar y llwyfan. Doedd dim anhawster efo'r canu neu'r llefaru, ond efo'r beirniadaeth y cystadleuthau, mi fasai tipyn bach o gyfaddawdu ar ran 'lefel' y Gymraeg a defnyddwyd wedi bod yn syniad da yn fy mharn i. Pan wnes i i'r eisteddfod y dysgwyr am y tro cyntaf, roedd gen i gryn dipyn o'r iaith, felly o'n in falch o gael y brawf o drio deall yr hyn a dwedwyd o'r llwyfan, ond does gan myfyrwyr mynediad dim cymaint o'r iaith ag hynny.

Ro'n i'n trio gwneud tipyn o gyfiethu yn ystod y digwyddiad, ond roedd arweinyddes y noson (ac mi wnath hi lwyddo i gadw cyflymder a threfn ar y noson yn eitha dda) yn llym iawn ar ran tawelu pawb cyn ac yn ystod y cystadlu (digon teg am wn i!).

Ond mae'n rhaid i mi ddweud gair i ganmol ymdrechion Craig Owen Jones, wnath camu at y llwyfan efo ei bartner i feirniadu cystadleuaeth newydd, i sgwennu traethawd am ryw elfen o hanes Cymru. (Diben y cystadeuaeth yw i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r ymgyrch i godi cofeb i Lywelyn ap Dafydd, mab Llywelyn Fawr a gafodd ei eni yng Nghastell Hen Blas ym Mhagillt). Mae Craig wedi bod yn rhan o'r ymgyrch ers ychydig o flynyddoedd erbyn hyn, ond wnes i'w gyfarfod ychydig o flynyddoedd yn ôl mewn sesiwn sgwrs yn Yr Wyddgrug. Ar y pryd roedd o newydd wedi dechrau dysgu dosbarth nos tra wneud phd ym Mhangor, wedi iddo fo lwyddo i feistrioli'r Gymraeg mewn cyfnod byr iawn. Erbyn heddiw mae o'n gweithio yn y prifysgol fel darlithwr ar gerddoriaeth poblogaidd Cymraeg a Chymreig.

Mae'n ddrwg gen i, dwi wedi crwydro! yn ôl at y pwnc: Mi lwyddodd Craig a'i bartner (dysgwraig a darlithydd o Brifysgol Harvard) i siarad wrth y dysgwyr mewn ffordd wnath eu galluogi deall ychydig mwy, heb siarad llawer o Saesneg yn uniongyrchol. Mi wnaethon nhw ofyn i'r cynulleidfa am ystyr ambell i air neu derm anghyfarwydd heb fod yn nawddoglyd, a llwyddon nhw osod cydbwysedd da rhwng y dysgwyr llai profiadol a'r rhai rhugl.

Mi ga i fwy o ymateb nos fawrth gan criw y dosbarth nos siwr o fod, ac mae eu hymateb nhw'n hollbwysig gan bod iddyn nhwthau a gafodd y digwyddiad ei threfnu...

25.2.09

Tŷ llawn....

Dyni wedi mynd heibio i'r nodwr hanner ffordd yn y cwrs mynediad erbyn hyn, felly o'n i'n falch iawn o weld 'tŷ llawn' neithiwr, efo'r dosbarth i gyd yna, gan cynnwys myfyriwr ychwanegol sydd newydd ymuno â'r dosbarth (mae o'n dilyn cwrs yr Open University ar yr un pryd). Ro'n i'n falch hefyd o weld myfyrwraig yn ôl wedi llawdriniaeth poenus ar ei troed, triniaeth sydd wedi ei chadw hi oddi ar ei thraed am rai chwech wythnos. Dwi'n meddwl bod y dosbarthiadau Cymraeg yn cadw eu niferoedd yn well na'r rhan mwyaf o ieithoedd eraill sydd ar gael yn y Coleg, rhywbeth sy'n calondid mawr i mi fel tiwtor yn ei flwyddyn cyntaf (eitha simsan) o ddysgu.

Nos wener yma yw noson 'Eisteddfod y Dysgwyr', ac dwi'n falch o ddweud bod nifer sylweddol o'r dosbarth yn bwriadu mynychu, efo ambell i un hyd yn oed yn ystyried cystadlu! Dweud a gwir dwi'n mor falch ohonyn nhw, a dwi'n edrych ymlaen at fod yna er mwyn eu cefnogi, a siwr o fod i wneud cryn dipyn o gyfieithu ar eu rhan gan bod yr holl digwyddiad wrth rheswm yn cael ei cyflwyno yn y Gymraeg. Dwi wedi bod yn ofalus i beidio gor-heipio'r noson, un sy'n gallu codi braw ar ddysgwyr newydd. Ond fel dwedodd un ohonynt 'It gets you out of the house doesn't it!'. Felly efo'r agwedd yna a chwmni da'r 'Criw Cilgwri' mae'n sicr o fod noson i gofio....

17.2.09

Ar y gorwel....

Mae rhaglen BBC2 'Horizon' pob tro yn ddiddorol, ond ar bennod a gafodd ei darlledu heno, ces i fy hudo gan raglen wnath archwilio 'ffiwsion niwcliar', a'r posibilrwydd o'r technoleg yma yn datrys ein problemau ynni yn y dyfodol agos. Mae'r cyflwynydd (dychrynllyd o ifanc), yr athro Brian Cox, wnath ein arwain ni o amgylch nifer o'r arbrofion anhygoel sy'n mynd ymlaen dros y byd ar hyn o bryd i ddatblygu cyfundrefn sy'n medru creu pŵer masnachol trwy ffiwsion. Mae'r her yn un enfawr, ac mae'r peirianwaith sy wedi cael ei creu i'w cyflawni'r her yn fwy! Mae'n ymddangos (o'r hyn wnes i lwyddo i ddeall) eu bod nhw yn gallu gwneud y proses o ffiwsion, ond dim ond am gyfnodau byr iawn iawn. I gymlethu pwnc cymleth, mae 'na nifer o ffyrdd gwahanol o geisio gwneud y ffiwsion 'ma (sef yr un proses sy'n mynd ymlaen tu fewn i'r haul), a does neb yn sicr eto i ba gyfeiriad mi fydd y datblygiad yn mynd. Mae 'na gydweithio'n mynd ymlaen rhwng nifer o wledydd y byd, ond maint y buddsoddiad 'ma yn gymharol bach (er biliynau ar filiynau o ddoleri!). Yn ôl un arbennigwr ynni o'r UDA, does gynnon ni ddim gobaith canari o gyflawni'r angen ynni presennol (heb son am y tyfiant annochel a ddaw ar ran poblogaeth a galw) trwy ynni adnewyddol, mor fawr yw ein dibyniad ni ar danwydd ffosil erbyn hyn, heb buddsoddiad anferth ar ddatblygiadau enfawr tu hwnt.

Ond rhaglen optimisdaidd oedd hi yn y bon gan yr athro hoffus. Do'n i ddim yn deall y gwyddoniaeth o bell ffordd, ond gawson ni flas o'r her sy'n gwynebu gwyddonwyr y byd. Mae 'na obaith o ddatblygu'r technoleg 'ma er mwyn cynhyrchu trydan 'glan', yn ôl yr arbennigwyr. Ond er mwyn cyflawni'r her enfawr 'ma mewn pryd i lleihau effaith cynhesu byd eang, mae'n rhaid i nifer o wledydd cydweithio a buddsoddi rwan, ac hyd yn oed wedyn does neb yn proffwydo trydan 'ffiwsion' cyn tua 2030.... felly paid â dal dy wynt....

15.2.09

arwydd annisgwyl....


Dwi'n darllen cwynion o bryd i'w gilydd am ddiffyg arwyddion dwyieithog ar strydoedd Cymru, yn enwedig yn mannau lle mae arwyddion dros dro yn ymddangos oherwydd gwaith ar y ffordd ac ati. Ond gallai'r esboniad bod, falle, i wneud â'r ffaith yn Lloegr mae nifer ohonynt! Dwi wedi gweld ambell i set o arwyddion dwyiethog yn ymddangos yma yng Nghilgwri o blaen, ond byth mor agos at ein tŷ ni, hynny yw reit tu allan y drws.
Fel arfer gweithwyr Dŵr Cymru, cwmni sydd gan gorsafoedd pwmpio ochr yma i'r ffin, sy'n cyfrifol amdanynt, ond y tro 'ma mae rhai 'utility' arall sy'n trwsio'r goleuadau stryd wedi eu gosod yr arwydd dwyieithog.

Ond mor cyffrous ro'n i, i weld arwydd dwyieithog ar ein stryd ni, wnes i bron colli'r ffaith bod yr arwydd yn cyfeirio'r cerddwyr druan (wedi ei drysu yn barod ar ôl gweld iaith 'estron'!) yn syth tuag at ochr y traffic!!

10.2.09

Mae'r sgowsers yn cofio o hyd....


Piciais i mewn i Barc Penbedw heddiw er mwyn ymweled â'r pafiliwn ysblenydd newydd am baned o goffi, gan o'n i wedi bod yn gweithio dim ond rownd y cornel. Roedd hi'n ddiwrnod hyfryd er oer, felly penderfynais mynd ar drywydd cof colofn dwi wedi clywed un or dosbarth nos yn son amdanhi, sef y maen a gafodd ei godi i ddathlu Eisteddfod 1917. Dwi wedi byw yn yr ardal trwy fy mywyd, ond dwi erioed wedi gweld y colofn 'ma. Mae Eisteddfod Birkenhead 1917 yn adnabyddus yn y bon oherwydd yr amgylchiadau ynglŷn â'r cadeirio, a'r ffaith mi gafodd y cadair ei gorchuddio efo brethyn du, gan fod 'Hedd Wyn' ennillydd y cadair, sef Ellis Humphrey Evans wedi cael ei ladd yn y rhyfel mawr ychydig o ddyddiau yn gynt.

Mi ddes i o hyd i'r darn o farmor heb ormod o drafferth a dweud y gwir. Mae'n sefyll o fewn ffens dur mewn cyflwr eitha dda, o ystyried pa mor ddifreintiedig ydy'r ardal o amgylch y parc ar ddwy ochr o leiaf y dyddiau 'ma. Ond mae'r parc wedi ei adnewyddu a'i adfywio erbyn hyn, wedi flynyddoedd o fod yn dipyn o ardal 'no-go' fel petai!

Mae'n anhygoel gweld cofeb i ddarn o hanes Cymru mewn parc ar Lannau Mersi, parc wnaeth unwaith atseinio i filoedd o leisiau Cymraeg...

6.2.09

Thatcher, Brand a'r tegan bach du

Dwi wedi cael tipyn mwy o amser dros y cwpl o ddyddiau diwetha i bori dros y papurau newyddion (tra ddisgwyl mewn 'stafelloedd aros' yr ysbyty yn bennaf!). Darllenais efo syndod ddoe y straeon am ferch yr hen 'ddynes dur' sef Carol Thatcher, a'i sylw sarhaus tuag at chwaraewr tennis croen du. Dwi wastad wedi cael rhai fymryn o edmygedd tuag at y Thatcher 'ifanc', ei steil dillad, cymysgedd o ddillad efo golwg siop elusen (mewn ardal cyfoethog), ac 'accessories' mewn lliwiau sy'n stryffaglu a brwydro i fatsio, heb son am y gwallt efo golwg lliw ffug a steil plentynaidd. Ond unwaith yn Thatcher wastad yn Thatcher mae'n ymddangos, ac falle dyni wedi gweld cipolwg o liwiau go iawn yr 'Iron Lady' trwy hilioldeb 'ffwrdd â hi' y ferch. Dydy'r 'annwyl' Carol ddim yn gweld unrhywbeth o'i le yn cyfeirio at unigolyn croen du fel 'that Gollywog', ac er gwaethaf y cyfle mi ddoth y BBC iddi hi i ymddiheuro yn ddi-amod, mi wrthodd dros cyfnod o bump diwrnod.

Wnath y ffwdan 'ma fy atgoffa o gasgliad ffigyrau 'Goliwog' mi wnaeth fy chwaer a fi fel plant. Roedd rhaid i rywun danfon nifer o 'docenni' Jam Robertsons i ffwrdd er mwyn honi eich 'model' crochenwaith bach o gymeriad 'Golly' yn canu rhyw offeryn neu rwbath. Ar y pryd wrth rheswm, roedden ni'n hollol ddiniwed i ba mor sarhaus a gallai'r cymeriadau hynny bod i ran sylweddol o'n cymdeithas. Prin iawn welon ni person du adeg hynny yn Wallasey a dweud y gwir, ac roedd sioe 'The Black and White Minstrels' prif cwrs ar fwydlen y BBC ar nosweithiau sadwrn yn y chwedegau.

Ond dyni'n gwybod erbyn hyn, ac mae 'na resymau amlwg i feddwl ein bod ni wedi tyfu fel gymdeithas. Diolch byth nad ydy pobl breintiedig megis Carol Thatcher yn cael dianc efo hilioldeb 'cyhoeddus'. Camgymeriad mawr oedd datgan y fath barn o flaen 'Jo Brand', ond dwin falch mi wnath hi! Erbyn hyn mae'r frenhines wedi ymddiheuro a thynnu doliau 'Gollywog' oddi ar silffoedd siop 'Sandringham', ond ges i ddim syndod i ddarllen am hyn, mae'r Dug Caeredin wedi eu ychwanegu nhw at ei gasglid o ei hun 'swn i ddim yn synnu!!

Wna i roi'r geiriau olaf i Hannah Pool, a sgwennodd yn y Gaurdian dydd gwener. Dyma nhw: "Unless you have been kicked, spat at or had eggs thrown at you, all while being called this hateful term, it is unlikely you will understand why such a small doll can cause such a big fuss". Ar ôl darllen ei cholofn hi, o'n i'n deall yn well....

2.2.09

Eira,...cymhedrol

Cawson ni eira heddiw, fel y rhan mwyaf o Brydain Fawr, ond nid yr eira mawr fel cafodd ein ffrindiau yn y de (hynny yw de Lloegr), eira 'cymhedrol' 'swm i'n ei alw fo. Er gwaethaf hynny, mi lwyddodd fy merch i lithro a syrthio yn drwm ar y palmant tra chwarae tu allan efo ffrindiau. Wedi peth ystyriaeth mi benderfnom ni mynd â hi i'r ysbyty, jysd rhag ofn fel petai, lle darganfodon nhw 'torriad greenstick i'w humerus... Roedd hi'n llawer rhy boenus am ddim ond cleisiau, ond wedi dôs o barasetamol mi ildiodd y poen rhywfaint, ac erbyn 9 o'r gloch roedden ni adre, wedi llai 'na awr a hanner yn yr ysbyty. Ar noson mor peryglus, ac efo plentyn yn cyrraedd 'Adran A&E i Blant' yn gloff pob yn ail munud, ro'n ni'n bles iawn efo'r gwasanaeth a gawson ni,rhywbeth do'n i ddim yn disgwyl i'w gael a dweud y gwir.

Erbyn hyn mae'r hogan yn cysgu, wedi profiad poenus, ond diolch byth gweddol syml ar ran triniaeth, hynny yw 'sling' am gwpl o wythnosau a synnwyr cyffredin ar ran gwneud ei phethau arferol. Gallai pethau wedi bod lot waeth a chymleth!

30.1.09

nos wener ar s4c...

Doed 'na ddim llawer o raglenni S4C sy'n apelio i mi ar nos wener fel arfer a dweud y gwir, ond heno mi switsiais i'r teledu drosodd i weld rhaglen 'Tudur Owen o'r Doc', a rhaid i mi ddweud wnes i'w fwynhau'n fawr iawn. Mae'n well gen i weld Tudur yn gwneud rhaglen yn ei groen ei hun, yn hytrach nag fel ei gymeriad, P.C. Leslie Wynne, er o'n i'n ei hoffi o'n gwisgo ffurfwisg yr heddwas druan, ti'n gallu cael gormod o beth da 'dwyt! Heno roedd gynno fo gwesteion diddorol hefyd, sef Caryl Parry Jones a Rhodri Meilir, seren erbyn hyn o un o 'sitcoms' mwya' poblogaidd y BBC 'My Family'. Mae'n rhaglen efo cynulleidfa digon bywiog, rhywbeth na allech chi ddweud am sawl cynulleidfa S4C. Mi fydda i'n gwylio wythnos nesaf yn bendant.

Diwedd y rhaglen wnes i sticio efo S4C ar ôl gweld yr hysbyseb am 'Nodyn', rhaglen cerddorol sy'n pob tro yn diddorol. Wythnos hon gawson ni 'bwydlen' ardderchog, sef Ryland Teifi yn canu mewn hen fodurdy bysiau ym Mhencader, yr hyfryd a dawnus Amy Wadge yn canu mewn hen gapel ym Mhontypridd a Meic Stevens yn canu am bentre ei blentyndod mewn cwt cychod yn Solfach. 'Lein yp' a pherfformiadau gwych ar rhaglen sydd yn taro'r 'Nodyn' ac y gyfan wedi ei gyflwyno gan Elin Fflur sy'n dod drosodd yn reit naturiol. Felly chwarae teg i S4C am gyflwyno amserlen werth ei gweld am nos wener...

28.1.09

Neithiwr....Heno....

Mi es i draw i goleg neithiwr heb boeni rhy lawer, ond efo rhyw deimlad bach nerfus yn gefn fy meddwl ynglŷn â wythnos nesa, sef yr wythnos o'n i'n disgwyl cael pennaeth yr adran yn y dosbarth i fy adolygu. Felly dychmygwch fy syndod wrth iddo fo dweud wrth i mi gyrraedd, "I'll be down in a few minutes to sit in your class"!! Wel, driais fy ngorau i guddio'r sioc o'n i'n teimlo tu mewn, cyn llwyddo 'ail-grwpio' fy hun a mynd i lawr i drefnu'r sesiwn. Pan gyrraedais y dosbarth roedd fy meddwl wedi mynd yn blanc, ac erbyn hyn roedd ambell un o'r dosbarth yna yn barod, felly dyma fi'n ceisio troi'r cyfrifiadur a'r taflunwr ymlaen tra cynnal sgwrs a threfnu fy ngwaith papur ar yr un pryd. Diolch byth ro'n i wedi cwplhau'r darpariaeth yn weddol trylwyr, ac erbyn i Steve dod lawr, ro'n i wedi ennill y brwydyr efo'r technoleg ac o'n i wedi dod o hyd i'r nodiadau bras (Cymraeg!) dwi'n ceisio eu dilyn pob gwers. Ro'n i wedi bwriadu eu wneud yn Saesneg wythnos nesaf er mwyn i Steve deall fy nghynllun gwers, ond ar y noson wnath o ddim ofyn i'w weld beth bynnag, diolch byth...

Wedi meddwl amdanhi, ni aeth y gwers yn rhy ddrwg, wel y hanner cyntaf o leiaf, achos ar ôl i Steve gadael wedi rhai dri chwater awr, mi aeth y gwers yn reit fler, wedi'r rhyddhad, ond chwarae teg roedd y dysgwyr yn reit cynhorthwyol ac mi aethon nhw deall y sefyllfa yn iawn.

Heno o'n i fod i fynd i'r cwis misol draw yn Yr Wyddgrug, ond yn anffodus mi ddoth llen o niwl i lawr amser te, ac efo rhew ar y ffordd, roedd synnwyr cyffredin yn dweud wrtha fi i beidio teithio cylch o hanner cant milltir yn y tywydd drwg. Mae'n bechod ond dyna ni....

21.1.09

darpariaeth newydd S4C i ddysgwyr...

Ces i gip sydyn ar wefan S4C i ddysgwyr heno, sydd wedi mynd trwy nifer o newidiadau ers i mi ymweled â'r safle'r rhai fisoedd yn ôl. Mae 'na bob math o ddefais defnyddiol i'r dysgwyr, yn cynnwys 'sioeau sleid' o gynnwhysion sawl rhaglen efo hanes y rhaglen wedi ei sgwennu fel 'narrative' ar waelod pob llun. Mi es i drwy cwpl o raglenni allan o'r cyfres newydd 'Y Dref Cymreig' yn y dull hon, yn meddwl 'Mi allwn i ddefnyddio rheiny yn y dosbarth nos'! Mae 'na fodd dewis lefelau gwahanol, a graffegau eitha gŵl i'ch helpu wneud y dewis cywir.

Dwi'n cofio ychydig o fisoedd yn ôl yn 'noson gwilwyr S4C' yn Lerpwl, wnath dynes o'r cwmni teledu'n crybwyll y gwasanaeth newydd, roedd adeg hynny dwi'n meddwl dim ar gael, ond chwarae teg iddyn nhw, mae nhw wedi 'danfon'r nwyddau' fel petai....

18.1.09

'm 'n ddigidol bucheddu...

Wrth crwydro'r we'n chwilio am feddalwedd er mwyn gwella cyflwr sal fy nghluniadur, mi ddes i o hyd i safle 'My Digital Life'. Wrth sylwi teclyn cyfiethu fel rhan y wefan, mi gliciais ar y ddraig goch fechan ymhlith nifer o faneri dim ond trwy diddordeb a dweud y gwir. Yr hyn a welais ymddangos o flaen fy llygaid oedd y Cymraeg rhyfeddaf a welais i erioed. Mi gafodd 'My Digital Life' ei trosglwyddo i -'M 'N Ddigidol Bucheddu- a 'Tune up Utility' i 'Alaw i fyny Utility'! Roedd y tudalen i gyd yn llanast o eiriau, cymysgedd o Saesneg a Chymraeg heb gystrawen dealladwy hyd a welaf i. Dwi wedi darllen ambell i ganlyniad o beriant cyfieithu o'r blaen, ond ni faswn i wedi coelio pa mor wael a gallen nhw bod hed baglu dros y wefan honno, anhygoel...

9.1.09

yn ôl wedi'r gŵyl...

Ailddechreuodd y dosbarthiadau nos dydd mawrth, ac er gwaethaf yr oerni ro'n i'n falch o weld griw dda yno. Mi aeth y dosbarth yn weddol dda dwi'n credu, mae gen i feddalwedd 'powerpoint' ar gael ar gluniadur fy merch erbyn hyn, felly mae hynny'n gwneud pethau'n fwy hwylus ar ran taflunio pethau ar y sgrîn yn y dosbarth. Roedd Miri'n awyddus i mi ddefnyddio pob 'animation' o dan yr haul yn y cyflwyniad, ond llwyddais i gadw pethau'n syml gyda dim mwy na ambell i 'fade', mae defnyddio gormod o 'gimics' yn dipyn o 'gliche' erbyn hyn, ond mae'n well cael pethau'n cliriach na llawysgrif fi weithiau.

Derbyniais neges testun dydd iau gan un o'r dosbarth ar ei dychweled o Hawia'i! felly bydd cyfle wythnos nesaf i drafod tywydd braidd yn gynnesach falle...!

7.1.09

Dim ymennyddwr....


Stopiais y car bore ddoe ar y ffordd i'r gweithdy, yn bennaf er mwyn rhyfeddu ar y cwmwl unig oedd yn hongian dros Glannau Dyfrdwy. Roedd hi fel rhai gwmwl 'madarchen' gwastad, a dynodd fy sylw oherwydd diffyg cymylau eraill. Rhyfeddais hefyd ar erwau gwyneb y llyn morol, roedd min y dŵr wedi dechrau rhewi, rhywbeth sy'n digon anghyffredin ochr yma, gan fod dŵr hallt y môr yw prif cyflenwad y llyn. Wedi ychydig o bendroni, wnes i sylweddoli bod pwerdy nwy Cei Connah oedd ffynhonell y cwmwl annaturiol o fy mlaen, nid canlyniad damwain afiach cemegol yn 'Stanlow'! Ond wedi ychydig o ryddhad mi welais eironi y sefyllfa. Mae'r cwmwl hon yn arwydd gweladwy o sut gymaint o nwyon dyni'n rhyddhau i'r awyr trwy'r dydd a'r nos, nwyon sydd yn ôl pob son yn achosi'r newid yn yr hinsawdd, ac hynny yn ei tro yn debyg o galedu ein gaeafau ni (wel ym Mhrydain o leia), sy'n cynyddu'r galw am ynni... mae'n cylch cythreulig perffaith! Pe taswn i wedi troi o gwmpas, mi faswn i wedi gweld fferm gwynt enfawr ar y gorwel, un sy'n ddigon deiniadol (yn fy Nharn i), ac heb gwmwl enfawr uwchben. Roedd na fwy o ddadlau yn y wasg yr wythnos 'ma, ynglŷn â datblygiad 'Gwynt y Môr', anferth o fferm gwynt sy'n ar fin cael ei codi ger Llandudno. Mae criw o'r enw 'Save our Scenery' yn cwyno am yr effaith gallair datblygiad cael ar dwristiaeth yn ardal Llandudno. Ar fore eithafol ar ran y tywydd, roedd y peth yn teimlo fel 'no brainer' o safpwynt fi...

3.1.09

newid arall...

Dwi wedi newid y llun sy'n goleuo'r blog hon unwaith eto heno. Doeddwn i ddim rhy hapus i 'dwyn' llun rhywun arall o'r we i fod yn onest, felly tynnais y llun newydd y p'nawn 'ma gyda'r ffôn, tra roedden ni yn y tywyni tywod wrth ymyl y traeth, Roedd hi'n machlud haul hyfryd gyda holl mynyddoedd y gogledd o fewn golwg dda, yn cynnwys y Carneddau sydd i'w gweld yn y pellter i'r dde.

Rhewi...

Dyni wedi bod yn mwynhau'r tywydd rhewllyd dros y Nadolig a dweud y gwir. Dyni wedi bod yn mynd am dro efo'r ci pob dydd, y merch (a finnau!) yn cael llawer o hwyl yn chwarae ar y pyllau beision sydd wedi troi fel 'gylchoedd sglefrio'. Mae'r coed wedi bod yn andros o hardd, yn wyn i gyd, eu brigau noeth yn dal y barrug bregus trwy gydol y dydd. Ond glywais i ochr arall yr hanes ar y newyddion y bore 'ma, un o'n i heb meddwl amdanhi mewn gwirionydd, efo'r Prif Wenidog (mr Brown) yn galw am ysbryd 'y blitz' er mwyn helpu'r henoed goroesi'r oerni 'ma. Yn ôl rhagolygon y tywydd mi fydd hi'n rhewi am ychydig o ddyddiau i ddod, ac mae hynny'y newyddion ddrwg i ganran sylweddol, hynny yw'r rhai sy'n poeni am dalu biliau tanwydd, y rhai sy'n treulio amser hir yn eu tai, iddyn nhw does fawr o hwyl i gael yn yr oerni 'swn i'n meddwl. Siwr o fod mi wna i newid fy meddwl hefyd wrth i mi ddychweled i'r oergell dwi'n ei alw'n weithdy bore dydd llun...