Dyma'r darn a sgwennais ar ran cystadleuaeth 'Gwobr Dafydd ap Llywelyn'
eleni, sy'n rhan o Eisteddfod y Dysgwyr y Gogledd Dwyrain. Mae rhaid i chi sgwennu tua 500 o eiriau ar unrhyw agwedd o hanes yr ardal. Gafodd y cystadleuaeth ei sefydlu mewn rhan i godi proffeil ymgyrch i godi colofn yn Sir y Fflint i'r unig tywysog Cymreig i gael ei eni yna, rhywle ger Bagillt os cofiaf yn iawn.
Gwlad y Mór
Wrth groesi’r ffin ar un o lonydd di-ri yr A550, mae’n annodd dychmygu profiad teithiwr yn dilyn yr un drywydd cyn i ’Wlad y Mor’ codi o leithder y Dyfrdwy.
Buodd groesfan yno ers canrifoedd lawer. Fel rhyd isaf y Dyfrdwy, roedd rhyd Shotwick yn ffordd pwysig rhwng Gymru a Lloegr, a phasiodd ‘Saltesway’ trwyddo ers yr oesoedd tywyll, yn dod â halen o Swydd Caer i Gymru. Er gwaethaf y peryg o groesi aber lanwol, cynnigodd lwybr llygad, a modd osgoi tollau a lladron pen ffordd lonydd coediog. Defnyddwyd y rhyd sawl tro fel llwybr milwrol, ac yn y 11C cododd Castell Shotwick yn ymyl y rhyd gan Iarll Caer, er mwyn gwarchod ei diroedd rhag ymosodiadau o Gymru. Arweinodd Harri II a Harri III byddinoedd dros y rhyd yn ystod eu hymgyrchoedd yn erbyn Cymru, ac yn 1277 ymwelodd Edward I â’r castell, cyn arwain byddin enfawr dros yr aber ar ddechrau ei waith o godi ‘cylch haearn’ o amgylch Cymru, a hynny ar ben arall y croesfan yn y Fflint.
Er afon o bwys morwrol buodd y Dyfrdwy ers dyddiau’r Rhufeiniaid, erbyn y 17C roedd lleidio difrifol yn rhwystro sawl llong rhag gyrraedd porthladd Caer, ac yn bygythio ffyniant y ddinas. Wedi degawdau o drafodaethau, a geiau eraill yr aber yn fynnu ar draul Caer, penderfynodd awdurdodau’r ddinas torri camlas er mwyn gwella mynediad i’r porthladd.
Agorwyd y ’New Cut’ o Gei Connah i Saltney yn 1737, gan symud cwrs y Dyfrdwy i ddilyn glannau Sir y Fflint. Yn ogystal â hwyluso’r daith i Gaer, creuwyd y camlesu cyfle i sychu rhagor o’r gorsydd, proses oedd wedi dechrau cyn i’r camlesu mae‘n debyg (cofnodwyd yr enw ’Sealand’ cyn i’r gwaith camlesu). Maes o law fe fyddai’r filoedd o erwau newydd yn dod â thyfiant enfawr i’r ardal, er methiant oedd yr ymdrechion i achub porthladd Caer yn y tymor hir, wrth i’r siltio parhau, a’r Dyfrdwy’n ildio i lewyrch y Mersi.
Gyda draenio’r gorsydd a’r camlesu daeth pennod newydd i’r aber gyda ffyrdd a gwasanaethau ferri, gan cynnwys Y Fferi Isaf (Queensferry), yr un bwysigaf. Yn 1890 pontwyd y Dyfrdwy gerllaw gan reilffordd, a disodlwyd y gwasanaeth fferi gan bont ffordd yn 1897. Roedd y rheilffyrdd yn sbardun i don newydd o ddatblygiadau ar y tir adenilledig. Yn 1896 agorodd John Summers gwaith dur ger y Dyfrdwy, wrth fanteisio ar dir rhad yn ymyl yr afon. Yn ei hanterth gweithiodd ddros 13,000 yna, er daeth y gwaith cynhyrchu dur i ben yn 1980 gyda cholled enfawr o swyddi.
Heddiw, wrth wibio heibio i’r ddraig enfawr wrth ymyl y ‘traffordd’ a’r ffatrioedd a ddenwyd i lenwi bwlch ‘Summers‘, mae’n werth cofio, digon hawdd gallai’r darn rhyfedd hwn o Gymru wedi troi yn rhan o Loegr. Yn ôl un hanes er mwyn cadw beddau llaith morwyr o Gymru - a gollodd yn yr afon - yng Nghymru, fe arhosodd y ffin yn ei unfan. Mae hanes diweddarach yn son am ffermwr o Wlad y Mor, a lwyddodd i wrthsefyll ymdrechion yr Arolwg Ordanans i ‘dacluso’ y ffin trwy ei symud i ddilyn y camlas, ac hynny ar y cyd gyda’r hên Sîr Clwyd. Pa hanes bynnag sy’n wir, darn pwysig o Sîr y Fflint yw’r tir a gipiodd o’r môr erbyn hyn.