14.4.09

penblwydd llawn tristwch...



Mae'n annodd credu bod hugain mlynedd wedi pasio ers i drychineb Hillsborough digwydd. Dwi'n cofio'r ddiwrnod yn glir, roedden ni'n digwydd bod yn aros efo ffrind mewn carafan yn Harlech. Roedden ni wedi bod allan am dro ar y traeth, ac ar ôl iddyn ni ddychweled i'r carafan dyma ni'n troi'r teledu ymlaen i weld y gêm, ond wrth cwrs wnaethnon ni ddim gweld gêm, dim ond sawl aelod o'r torf yn cael eu gwasgu yn erbyn ffens 'diogelwch', a chyrff y meirw, a'r rhai efo anafiadau difrifol yn cael eu cludo i ffwrdd o'r cae ar gefn byrddau hysbysebion gan eu cyd-cefnogwyr. Roedd hi'n oriau cyn ddaeth gwir faint y drychineb i'r amlwg, ac doedd neb yn gallu coelio'r peth mewn gwirionedd, efo 96 o gefnogwyr Lerpwl wedi eu lladd ar ddiwrnod heulog oedd i fod yn ddathliad o beldroed ar ei gorau.

Er gwaethaf y blynyddoedd mawr sydd wedi mynd heibio, mae'r creithiau'n dal i fod yn boenus i'r teuleuoedd a gollodd annwyliaid yna, a dwi'n cael fy atgoffa pob tro mod i'n mynd i'n mynwent lleol i ymweled â beddau aelodau'r teulu. Yn fan'na, yn goch a gwyn i gyd yw bedd un o'r 96, a'r cofeb taclus a lliwgar i'w fywyd byr.

Cafodd neb eu cosbi dros Hillsborough (er mae'n sicr wnaeth nifer o benderfyniadau annoeth arwain at y canlyniad trychinebus), dim ond y cefnogwyr druan wnaeth colli eu bywydau, heb gofio'r miloedd oedd yn dystion i'r golygfeydd arswydus a'u teuleuoedd a'u ffrindiau. Mae sawl wedi eu amau o fod yn gyfrifol dros y degawdau, FA Lloegr, yr heddlu, hyd yn oed y cefnogwyr eu hun, er mawr cywilydd gan bapur newydd y 'Sun'. Hyd heddiw mae gwerthiant y tabloid unsillafog ar Lannau Mersi'n dim ond deg y cant o'r hyn yr oedd hi cyn i Kelvin McKenzie sgwennu ei eiriau gwenwynig am gefnogwyr Lerpwl. Mae'r ffaith bod cefnogwyr Everton wedi sefyll yn sownd ochr wrth ochr efo cefnogwyr Lerpwl ynglŷn â hyn yn dweud cyfrolau.

Ond trwy Hillsborough, a'r adolygiad a ddaeth yn ei sgil, mae stadia dros y Deyrnas Unedig wedi eu gwneud yn fwy diogel, a ni ddylai trychineb o'r fath digwydd eto, gobeithio'n wir...

11.4.09

fy nghyfaill newydd....



Mi aethon ni dros y dŵr heddiw er mwyn cyfarfod dynion dur Antony Gormley, sef y cerflun(iau) rhyfeddol o'r enw 'Another Place' sy'n sefyll ar hyn o bryd ar draeth Crosby ar gyrion dinas Lerpwl. Roedd y tywydd yn hyfryd a chawsom ni dro braf ar dywod aur glannau'r Mersi yn mynd o un corff dur i'r llall, ac mae na ddigon ohonynt i'w gweld, rhai gant dwi'n credu, yn ymestyn dros tair cilomedr o'r traeth. Dwn i ddim be i wneud o'r cerflun a dweud y gwir, ond heb os mae nhw wedi dennu miloedd ar filoedd o ymwelwyr i'r ardal i sythu mewn syndod a sylwebu.



Un o'r dynion dur Gormley yn edrych ar gwch 'tug' yn gadael y Mersi


Mae'n anhygoel dod o hyd i draeth mor braf dim ond tafliad carreg o borthladd 'container' enfawr Seaforth, ac mae'r tywyni tywod yn para am filltiroedd lawer hyd at Southport a thu hwnt. Fel cefndir ysblenydd i'r celfyddyd awyr agored, roedden ni'n gallu gweld mynyddoedd Eryri, gan cynnwys Copa'r Wyddfa a sawl arall.

10.4.09

wps....

Mi wnaeth Gary Owen tipyn o gamgymeriad heno wrth darllen bwletin y newyddion. Tra ddarllen y canlyniadau chwaraeon, dyma fo'n dweud "Huddersfield six" cyn cywiro ei hun yn sydyn iawn a dweud "chwech". Mae'n gwneud i mi deimlo'n well i glywed darlledwr mor brofiadol cymysgu ei ieithoedd fel hyn, rhywbeth dwi'n ffindio fy hun yn gwneud o dro i dro. Yn ddiweddar dwi wedi clywed fy hun yn dweud 'neges' yn hytrach na 'message' tra siarad Saesneg am rhyw rheswm...

9.4.09

Barn...

Wnes i dderbyn copi am ddim o gylchgrawn Barn y bore 'ma (gan mod i wedi cytuno i danysgrifio) ac mae rhaid i mi ddweud bod golwg y peth yn ddigon deniadol. Mae'n flynyddoedd ers i mi weld copi ohono fo, dwi'n cofio gweld ambell i gopi yn nhŷ fy Nain a Thaid yn ôl yn y saithdegau, ond prin iawn faswn i wedi darogan gweld fy hun yn darllen yr un cylchgrawn rhai 35 o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac yn ei ddeall!!

Mae na golofnwyr diddorol ymlith y rhai sy'n cyfrannu at gyfrol digon swmpus. Chris Cope o'r 'blogysawd' Cymraeg, Gareth Miles ac Elin Llwyd Morgan, dau awdur dwi wedi mwynhau eu llyfrau nhw, Dot Davies o Radio 5 efo'r chwaraeon a Richard Wyn Jones yr hanesydd cyfarwydd i wilwyr S4C. Fel y cyfriw felly 'lein yp' cryf efo digon o amrywiaeth i rywun pori drosti hi am y fis rhwng pob cyhoeddiad.

6.4.09

Bathodynnau




Dros y blynyddoedd dwi wedi bod yn berchen i ambell i fathodyn 'dwi'n dysgu Cymraeg', ges i un gan Bwrdd yr Iaith, ac mi ddoth un arall o 'Acen' os cofiaf yn iawn. Mae gen i un o hyd efo dim mwy na 'logo' newydd Bwrdd yr Iaith arno, un neis enamel ydy o a dylwn i'w wisgo, ond fel arfer dwi'n methu cael hyd iddo fo pan dwi ei eisiau fo, mor anhrefnus ydw i!!

Felly pan soniais i'r dosbarth nos am y bathodynnau yn ddiweddar, ro'n i'n ffyddiog o lwyddo ffynhonellu rhai ohonynt ar gyfer y dysgwyr heb fawr o drafferth. Wnes iw crybwyll nhw i Rhian o Fenter Sir y Fflint, ond nad oedd hi'n credu roedd gynnon nhw'r un ar ôl, ond wedi ychydig o ymchwil ar y we, penderfynais mynd ati i darlunio cynllun syml fy hun (wedi fy ysbrydoli gan weld crysiau T ardderchog Emma Reese!) ac archebu 'batch' o fathodynau ar gyfer y dosbarth fel anrheg bach cyn diwedd y cwrs. Mae 'na gymaint o gwmniau erbyn hyn yn cynnig gwasanaeth cynhyrchu bathodynnau o dy gynllun dy hun roedd hi'n annodd dewis un, ond yn y pendraw dewisias un or enw 'badges for bands' sy'n cynnig prisiau rhesymol dos ben (gawn i weld safon ei gwaith cyn diwedd y wythnos...gobeithio), ac sy'n gwireddu dy gynllun o fewn dyddiau!

Mae'r darlun yn eitha syml, ond dwi'n gobeithio mi fydd y 'D' coch yn sefyll allan ac yn helpu tynnu sylw y siaradwyr Cymraeg sy'n fodlon helpu dysgwyr. Mi gafodd un o'r dosbarth profiad digalonus ychydig o wythnosau yn ôl pan wnath bron pob un Cymro/aes Cymraeg wnath hi fentro siarad Cymraeg efo nhw yn troi'n syth i Saesneg, felly dyna pam wnes i grybwyll gwisgo bathodyn, er mwyn rhoi siawns iddyn nhw dod at y dysgwyr...gawn ni weld....

3.4.09

mater o Farn....

Ges i alwad ffôn gan Alaw y bore 'ma, cyn swyddog Menter Iaith Sir y Fflint sy'n bellach yn gweithio i 'Momentwm', cwmni cysylltiadau cyhoeddus. Roedd Alaw yn hel tanysgrifwyr i gylchgrawn 'Barn', swydd eithaf annodd mi faswn i'n meddwl, yn enwedig o ystyried y sefyllfa arianol sydd ohonyn ni. Fel mae'n digwydd, ro'n i wedi bod yn ystyried tanysgrifio i 'Barn' ers sbel, ar ôl i mi ddarllen mai Chris Cope yn un o'u cyfranwyr cyson, yn ogystal a Gareth Miles ac Elin Llwyd Morgan, ac fel a bwyntiodd allan Alaw, mae'n annodd dod o hyd i gylchgronnau o'r fath yma yn Lloegr, felly mae tanysgrifio'n gwneud synnwyr. Felly edrychaf ymlaen at dderbyn fy nghopi cyntaf cyn bo hir, ac i ehangu fy mhrofiad o ddarllen yn y Gymraeg....

2.4.09

cwis.... y dosbarth nos

Maen annodd credu, ond dwi wedi cwblhau dros y deuparth (dwy rhan o dri)fel tiwtor o'r cwrs mynediant. Mae gynnon ni pythefnos o wyliau y Pasg cyn dychweled am wyth wythnos rhagor o wersi. Dychrynllyd yw'r unig gair i ddisgrifio pa mor sydyn mai'r misoedd wedi mynd heibio. Dwi'n sicr mi fydd rhai o'r criw yn ôl am fwy o 'gosbedigaeth' flwyddyn nesaf, i rai mi fydd y flwyddyn yma wedi bod dim ond dechreuad i daith eitha hir, i eraill diddordeb tymor byr falle, pwy a wir. Os ga i fy ngalw yn ôl, ffindia i allan!

Am noson olaf y tymor hwn, o'n i wedi trefnu cwis bach. Ro'n i'n poeni braidd amdanhi, ond mi aeth popeth yn iawn yn y diwedd. Mi holltais y dosbarth mewn tri tîm o bedwar, a 'powerbwyntiais' y cwestiynau ynghyd â'u adrodd. Roedd y cwestiynau wedi cael eu sgwennu mewn ffurf a dylien nhw wedi deall (pe tasent wedi cofio popeth o'r cwrs hyd yn hyn!!), ac efo pedwar pen yn gweithio ynghyd, mi lwyddodd y timau i ddeall y rhan mwyaf o'r hugain cwestiwn am wybodaeth cyffredinol a Chymru. Mi fydd rhaid i mi wneud yr un fath o cwis unwaith eto cyn diwedd y cwrs, er mwyn cadw'r hwyl, ac a dweud y gwir trist, wnes i fwynhau ei sgwennu!!

27.3.09

Cymraeg ar BBC1....prif amser.....!

Mae'r actor o Ruthun Rhys Ifans yn wneud gwestai da iawn fel arfer ar sioeau 'chat', a na chawsom ein gadael lawr heno chwaith ar raglen Jonathon Ross. Roedd Ross wedi mynd i'r trafferth o roi ei ddesg a setee ar set oedd yn symud fel pe tasen nhw ar fwrdd llong (am fod Rhys Ifans yn hyrwyddo ei ffilm o am Radio Caroline yn y chwedegau). Roedd Rhys yn methu ymdopi efo'r symudiad cyson a jociodd am dal 'scurvy', cyn gafael yn afal a digwydd bod ar ddesg JR a'i fwyta er mwyn gwella'r salwch dychmygol!

Tra son am ei fand 'The Peth', gofynodd Ross os oedd y band yn canu yn Gymraeg. Dwedodd Ifans roedd eu caneuon Cymraeg yn hiraf na'r rhai Saesneg, cyn cyfieithu llinell a fwydodd iddo fo gan Ross i'r Gymraeg er mwyn dangos y gwahaniaeth. Ychwanegodd roedd gan y Gymraeg llai o eiriau na Saesneg, a dyna pam wlad o feirdd yw Cymru, am fod 'na fwy o angen am ddisgrifiadau barddonol er mwyn cyfleu pethau. Roedd y 'craic' yn dda rhwngddyn nhw, ac roedd hi'n braf clywed yr actor enwog yn siarad efo falchder a hiwmor am y Cymraeg ar un o raglenni 'prif-amser' y BBC.

23.3.09

Dean yw'r dyn

Mae pethau'n y Cae Ras yn mynd o ddrwg i waeth efo rhediad gwael Wrecsam yn parhau. Onibai am buddugoliaeth unig wythnos diwetha mae'r cochion heb ennill am ryw unarddeg o gemau. Ildio gôl yn amser ychwanegol oedd hanes y gêm heno, ar ôl i Wrecsam rheoli'r gêm am gyfnodau helaeth, a tharo'r pren cwpl o weithiau. Mae'r cyfle o ennill lle yn gemau'r 'ail cyfle' (hynny yw'r play offs), bron wedi diflannu erbyn hyn, ac efo Dean Saunders i ffwrdd am bythefnos efo tîm Cymru, nad oes na fawr gobaith mewn realaeth.

Cyfnod o ail-adeiladau mi fydd hi dros y misoedd nesaf, darpariaeth ar gyfer y tymor i ddod a chais go-iawn i herio am eu lle yn ôl yn uchelfannau pensyfrdanol yr ail cynghrair. Gobeithio'n wir mi fydd Dean dal i fod yna i'w arwain yna...

21.3.09

Siom yng nghanol y cyffro...

Mae rygbi'n gallu creu digwyddiadau hynod o gyffrous, ond na allai neb wedi disgwyl i ganlyniad yr holl chwe gwlad dibynnu ar gic olaf y pencampwriaeth. Yn y pendraw mi aeth yr holl gwobrau i Iwerddon, y coron drifflyg, y pencampwriaeth a'r camp lawn, tipyn o gamp, ond gallai un ohonynt wedi aros yng Ngymru pe tasai cic olaf Stephen Jones wedi cario hyd at y pyst. Wedi hanner cyntaf hynod o dynn mi daniodd y gwyddelod yn syth ar ôl yr egwyl efo dwy gais sydyn. Roedd Cymru'n edrych yn sigledig am sbel, ond wnaethon nhw ail-setlo efo dwy cic gosb i ddod o fewn dau pwynt o Iwerddon. Mi ddoth y pump munud olaf â drama go iawn. Mi sgoriodd Cymru gôl adlam i gropian un pwynt o flaen i'r gwyddelod, cyn wnaeth Stephen Jones camgymeriad mawr o'r ail-ddechrau a rhodd tir a meddiant i ddynion yr ynys werdd. Mi sgoriodd Iwerddon gôl adlam syml cyn panico a throseddu yn y ryc i roi cyfle i Gymru i ennill y gêm efo'r cloc wedi troi yn goch. Ro'n i bron yn meddu gwylio wrth i Stephen Jones paratoi cicio o'r llinell hanner, ond fel dyni gyd yn gwybod mi fethodd a hanes yw'r gweddill! Falle dylai Henson wedi cicio ymgais mor hir, pwy a wir, falle roedd Jones yn ceisio gwneud iawn am golli'r tir wnath arwain at gôl adlam Iwerddon, ond roedd o wedi bod yn cicio'n dda trwy'r gêm, a methodd Henson ei unig cic arall. Ta waeth, mae un peth yn sicr, wnath Cymru tangyflawni trwy gorffen yn pedwaredd yn y tabl, ond gobeithio mi fydd hynny'n rhoi mwy o awch iddyn nhw wrth i ni agosau at cwpan y byd...

20.3.09

13...?

Dwi newydd gwylio 'Bwrw'r Bar', ac erbyn hyn dwi wir yn edrych ymlaen yn arw at y gêm fawr.
Mae gan chwaraewyr Cymru tipyn o her o'u blaenau, ac mi fydd hi'n camp enfawr i gipio'r pencampwriaeth trwy rhoi cweir i'r Gwyddelod, ond mae'r llwyfan wedi ei osod am b'nawn bythgofiadwy a llawn cyffro. Mae 'na rywbeth arbennig am y 'chwe gwlad', dwi'n mwynhau gwylio pob gêm dwi'n gallu gwylio, ond does dim byd gwell na gêm ar sadwrn olaf y cystadleuaeth efo pob dim i ennill neu i golli, a phawb ar bigau'r drain....

19.3.09

Dim cydbwysedd yn y Bae....

Tiwniais mewn i 'Bawb a'i Farn yr heno 'ma'n edrych ymlaen at y rhaglen arbennig o adeilad ysblenydd y Senedd. Roedd set y rhaglen wedi ei codi yn nghanol y prif neuadd ac roedd y lluniau ar y teledu'n edrych yn drawiadol dros ben. Wedyn mi glosiodd un or camerau ar y panel, Rhodri Morgan y prif wenidog a gwestai arbennig, Yr arglwydd Llandudno, rhyw foi o'r Ceidwadwyr, a Dafydd Wigley, am olwg tadol! Mae'r Cynulliad yn ymfalchio yn y ffaith bod gynnon nhw canran sylweddol (tua 45%) o ferched yn eu plith, ond pe tasai rhywun wedi tiwnio mewn heno, mi fasai hi wedi bod yn hawdd i ddychmygu rhai glwb i ddynion gwallt gwyn roedden nhw'n ei gwylio, nid rhaglen o bencadlys corff efo cydbwysedd heb ei ail yn y byd gwleidyddol. Dwn i ddim pwy sy'n dewis y paneli ar gyfer y rhaglen yma, ond roedd cydbwysedd y panel yn edrych yn hollol anghywir i mi. Ty'd 'mlaen S4C, mae'n rhaid gwneud yn well y tro nesaf.....

14.3.09

Dros y parc...

Mi glywais awdur llyfr newydd 'Across the Park' yn siarad y bore 'ma ar raglen pêl-droed 'Ar y Marc'. Mae ei lyfr o'n dilyn y cysylltiadau rhwng clybiau pêldroed dinas Lerpwl sef Everton a Lerpwl, y dau clwb yn sefyll wrth ymyl Parc Stanley. Peter Lupson ydy ewn yr awdur a siaradodd Gymraeg clir a chywir, er nad oedd on swnio cweit fel brodor o Gymru. Cyn diwedd y cyfweliad mi holodd Dylan Jones am y ffaith ei fod o'n siarad Cymraeg. Mi ddwedodd fod ei wraig yn Gymraes Cymraeg o Fynydd Llandegai ger Fangor, ac mi ddysgodd y Gymraeg er mwyn siarad a'u teulu hi.

Nes ymlaen wnes i ei 'ooglo', a des i o hyd i fwy o wybodaeth amdanaf. Gafodd ei eni yn Awstria cyn symud i Loegr fel hogyn fach, mae o'n gweithio fel athro Saesneg mewn ysgol preifat dim ond cwpl o filltiroedd o fan'ma yn Hoylake, ac mae o'n byw yng Nghilgwri hefyd. Mae o wedi sgwennu llyfrau ar gyfer dysgwyr o'r Almaeneg a Ffrangeg, felly mae o'n dipyn o ieithydd. Ar ôl wneud yr ymchwil ar y we, ro'n i yn ein siop lyfrau lleol a welais i boster yn hysbysebu 'darlith' ganddo fo yn y siop am ei lyfr newydd. Mi faswn i wedi hoffi mynd, ond yn anffodus mae'n digwydd ar yr un noson ag fy nhosbarth nos, a mi fasai hi'n dynn iawn i gyraedd y dosbarth mewn pryd. Weithiau dach chi'n darganfod bobl sy'n siarad yr iaith 'ma yn hollol annisgwyl, sy'n wastad yn teimlad braf.

13.3.09

Diwrnod Trwynau Coch

Mae hi'n Ddiwrnod Trwynau Coch heddiw, ac mi fydd 'na wledd o adloniant i wneud iddyn ni chwerthin ar ein sgrînau bach heno. Wrth rheswm caiff yr hwyl a sbri ei brithio efo clipiau fideo, Affricaniaid yn dioddef trychineb ar ben trychineb, plant yn ysgwyddo cyfrifoldeb oedolion. Cawn ni ein atgoffa o ba mor syml mi fasai helpu lleihau effeithiu afiechydon megis cholera a malaria, rhwng ein celebs annwyl yn troi ein dagrau dros dro'n chwerthin. Mae'r holl digwyddiad yn gallu wneud rhywun teimlo'n anghyfforddus ofnadwy, a dyna'r pwynt am wn i. Mi gaiff ein cydwybod casgliadol eu procio gan brocwr mawr coch siâp trwyn, a chaiff swm sylweddol ei cyhoeddi mewn ffigyrau llachar ar ddiwedd y noson.

Ond dim ond diferyn yn y môr mi fydd hi wrth cwrs, plaster bychan dros craith enfawr. Mae'r ffaith ei bod hi'n bosib cael gymaint o effaith trwy cyfranu cyn lleiad o bres, yn tanlinellu anghysondeb ein byd. Euogrwydd yn gallu bod modd effeithiol iawn o godi arian, ond os dyni'n bodloni ein teimladau trwy lluchio deg punt mewn i'r casgliad (fel wna i gyn diwedd y noson mae'n siwr...) onid oes 'na beryg o gladdu'r cydymdeimlad, sy'n dod i'r wyneb pob flwyddyn neu ddau, yn andros o rad....

12.3.09

Arbrawf....

Dwi'n arbrofi efo fideos ar hyn o bryd er mwyn helpu rhai o'r dosbarth nos wneud tipyn o ymarfer adre, felly ymddiheuriadau am gynnwys y fideo, dim ond gweld os mae'r peth yn ymarferol neu defnyddiol ydwi a dweud a gwir.

10.3.09

y rhufeiniaid a ballu...

Dwin ceisio cadw fyny efo nifer o raglenni S4C ar hyn o bryd, gan cynnwys 'Rhufeiniad' ac 'Angell yn India'. Gwyliais i'r Rhufeiniaid heno ar ôl coleg, ond yn anffodus roedd 'na flychau pob hyn a hyn yn y swn oherwydd signal eitha wan, felly mi fydd rhaid i mi wneud yr ymdrech i'w gwylio eto ar S4/Clic er mwyn gwneud synnwyr o'r hanes hynod o ddiddorol. Roedd Rhun ap Iorwerth yn dilyn gorymdaith y llengoedd rhufeinig dros de a chanolbarth prydain yn y pennod cyntaf hon, gan cynnwys hanes anhygoel y gwrthryfelwr Caradog, a gafodd ei gludo efo ei deulu i Rufain yn ôl y son. Yna roeddent i gael eu di-enyddio, ond ar ôl iddo cael cyfle 'dweud ei dweud', yn ôl yr hanes, mi ddangosodd y rhufeiniaid trugaredd annisgwyl, a wnaethon nhw treulio gweddill eu bywydau yn byw yn y 'dinas tragwyddol'. Mae hi'n dipyn o hanes, a chafodd y gwbl ei gyflwyno mewn dull gwyliadwy dros ben.

Edrychaf ymlaen at y pennod nesa a hanes Buddyg...

9.3.09

Yn ôl ar 'Seesmic'..

Mae hi wedi bod yn sbel go hir, ond wnes i recordio pwt ar 'seesmic' heno, gwefan arbrofol rhanu fideos. Mi fasai'n braf gweld mwy o fideos Cymraeg yn fana, mae'n digon rhwydd i ddefnyddio.....

8.3.09

Trip yr Ysgol Gymraeg...

Ges i fy nennu ddoe gan y ragluniau i raglen S4C o'r enw 'Trip yr Ysgol Cymraeg', a gafodd ei cyflwyno gan ganolwr Cymru Nicky Robinson, sef maswr y Gleision Caerdydd. Mi ddilynodd y rhaglen hanes addysg cyfrwng Gymraeg dros Cymru gyfan, ond yn bennaf lawr yn y de dwyrain lle gafodd Nicky ei eni a'i fagu ar aelwyd di-gymraeg.

Roedd 'na wendidau yn y rhaglen yn sicr, a gafodd ei chyd-cyflwyno gan griw o chweched dosbarth ysgol Bro Morgannwg yn y Barri. Mae'n amlwg er enghraifft nad ydy'r rhan mwyaf o'r disgyblion yn defnyddio llawer o Gymraeg tu allan i stafell dosbarth yr ysgol, sydd ddim mewn gwirionedd yn syndod, mewn ardal mor Saesneg ar ran iaith. Ond efo arweinyddiaeth ac ysbrydoliaeth Nicky Robinson, mi lwyddon nhw greu rhaglen diddorol am bwnc sy'n falle braidd yn 'sych' ar y wyneb. Mi deithion nhw ar draws Cymru gyfan, yn darganfod hanes gynnar addysg cyfrwng Gymraeg yn y llyfrgell genedlaethol,yn ymweled â nifer o ysgolion a chyn-ysgolion, gan cynnwys Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy, lle cawson nhw cyfle cyfnewid profiadau efo cyd disgblion yn fana. Mi aeth Nicky yn ôl i'w gartref i gyflwno ei fam, wnath penderfynu anfon ei hogiau i ysgol Gymraeg a hithau yn tarddu o Middlsborough. Erbyn hyn mae Mrs Robinson wedi dysgu Cymraeg ei hun, a bellach mae hi'n dysgu P.E. trwy gyfrwng y Gymraeg. Cyn ddiwedd y rhaglen gafodd criw Ysgol Bro Morgannwg cyfle i cyfweled â'r prif weinidog Rhodri Morgan o flaen y Senedd, ac yntau'n un o ddisgyblion cynnharach y meithinfra Cymraeg cyntaf yng Nghaerdydd. Erbyn hyn roedd eu hyder nhw'n codi, a wnaethon nhw swyddogaeth dda o holi gwleiddydd amlycaf Cymru.

Diweddglo'r rhaglen oedd y to ifanc eu hun yn dweud eu dweud am yr hyn mae'r Gymraeg yn golygu iddyn nhw, a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol, ac roedd yn ymatebion cadarnhaol yn y bon. Rhaid dweud, efo cymeriadau ysbrydoledig megis Nicky Robinson yn hybu'r iaith ac yn ymfalchio ynddi hi, mae'n amlwg bod yr arbrawf o addysg cyfrwng Cymraeg yn y de wedi bod yn llwyddiant. Wedi dweud hynny, does fawr o dystiolaeth i ddangos bod cynllun uchelgeisiol y cynulliad i greu Cymru dwyieithog yn debyg o gael ei gwireddu yn y dyfodol agos. Mae'r targed afrealistig (heb arrianu yn sylweddol) o weld cynydd o 5 y cant yn y nifer o siaradwyr Cymraeg erbyn 2011 yn sicr o fethu, ond er hynny mi wnath y rhaglen cynnig resymau am obaith.

28.2.09

Eisteddfod y Dysgwyr.... yn rhy Gymraeg?

Mi wnath pump o'r dosbarth nos y taith draw i ogledd Cymru er mwyn profi hwyl Eisteddfod y Dysgwyr 2009. Roedd 'na dros cant yn y neuadd, tipyn llai nag oedd yno y llynedd, ond cawson ni ddigon o gystadlu a falle gormod o feirniadaethau...?

Roedd Gerallt Pennant a chamerau 'Wedi 7' wedi troi i fyny hefyd, er mwyn ddarlledu darn i'r rhaglen yn fyw, i fynd efo darn a gafodd ei saethu efo un o ddosbarthiadau nos Yr Wyddgrug y ddiwrnod cynt.

A dweud y gwir ges i brofiad hollol gwahanol i'r un arferol gan roeddwn i'n ymwybodol iawn o'r ffaith ro'n i'n eistedd efo criw o ddechreuwyr, a phrin iawn wnes i deimlo eu bod nhw yn deall fawr o'r sgwrs o'u blaenau ar y llwyfan. Doedd dim anhawster efo'r canu neu'r llefaru, ond efo'r beirniadaeth y cystadleuthau, mi fasai tipyn bach o gyfaddawdu ar ran 'lefel' y Gymraeg a defnyddwyd wedi bod yn syniad da yn fy mharn i. Pan wnes i i'r eisteddfod y dysgwyr am y tro cyntaf, roedd gen i gryn dipyn o'r iaith, felly o'n in falch o gael y brawf o drio deall yr hyn a dwedwyd o'r llwyfan, ond does gan myfyrwyr mynediad dim cymaint o'r iaith ag hynny.

Ro'n i'n trio gwneud tipyn o gyfiethu yn ystod y digwyddiad, ond roedd arweinyddes y noson (ac mi wnath hi lwyddo i gadw cyflymder a threfn ar y noson yn eitha dda) yn llym iawn ar ran tawelu pawb cyn ac yn ystod y cystadlu (digon teg am wn i!).

Ond mae'n rhaid i mi ddweud gair i ganmol ymdrechion Craig Owen Jones, wnath camu at y llwyfan efo ei bartner i feirniadu cystadleuaeth newydd, i sgwennu traethawd am ryw elfen o hanes Cymru. (Diben y cystadeuaeth yw i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r ymgyrch i godi cofeb i Lywelyn ap Dafydd, mab Llywelyn Fawr a gafodd ei eni yng Nghastell Hen Blas ym Mhagillt). Mae Craig wedi bod yn rhan o'r ymgyrch ers ychydig o flynyddoedd erbyn hyn, ond wnes i'w gyfarfod ychydig o flynyddoedd yn ôl mewn sesiwn sgwrs yn Yr Wyddgrug. Ar y pryd roedd o newydd wedi dechrau dysgu dosbarth nos tra wneud phd ym Mhangor, wedi iddo fo lwyddo i feistrioli'r Gymraeg mewn cyfnod byr iawn. Erbyn heddiw mae o'n gweithio yn y prifysgol fel darlithwr ar gerddoriaeth poblogaidd Cymraeg a Chymreig.

Mae'n ddrwg gen i, dwi wedi crwydro! yn ôl at y pwnc: Mi lwyddodd Craig a'i bartner (dysgwraig a darlithydd o Brifysgol Harvard) i siarad wrth y dysgwyr mewn ffordd wnath eu galluogi deall ychydig mwy, heb siarad llawer o Saesneg yn uniongyrchol. Mi wnaethon nhw ofyn i'r cynulleidfa am ystyr ambell i air neu derm anghyfarwydd heb fod yn nawddoglyd, a llwyddon nhw osod cydbwysedd da rhwng y dysgwyr llai profiadol a'r rhai rhugl.

Mi ga i fwy o ymateb nos fawrth gan criw y dosbarth nos siwr o fod, ac mae eu hymateb nhw'n hollbwysig gan bod iddyn nhwthau a gafodd y digwyddiad ei threfnu...

25.2.09

Tŷ llawn....

Dyni wedi mynd heibio i'r nodwr hanner ffordd yn y cwrs mynediad erbyn hyn, felly o'n i'n falch iawn o weld 'tŷ llawn' neithiwr, efo'r dosbarth i gyd yna, gan cynnwys myfyriwr ychwanegol sydd newydd ymuno â'r dosbarth (mae o'n dilyn cwrs yr Open University ar yr un pryd). Ro'n i'n falch hefyd o weld myfyrwraig yn ôl wedi llawdriniaeth poenus ar ei troed, triniaeth sydd wedi ei chadw hi oddi ar ei thraed am rai chwech wythnos. Dwi'n meddwl bod y dosbarthiadau Cymraeg yn cadw eu niferoedd yn well na'r rhan mwyaf o ieithoedd eraill sydd ar gael yn y Coleg, rhywbeth sy'n calondid mawr i mi fel tiwtor yn ei flwyddyn cyntaf (eitha simsan) o ddysgu.

Nos wener yma yw noson 'Eisteddfod y Dysgwyr', ac dwi'n falch o ddweud bod nifer sylweddol o'r dosbarth yn bwriadu mynychu, efo ambell i un hyd yn oed yn ystyried cystadlu! Dweud a gwir dwi'n mor falch ohonyn nhw, a dwi'n edrych ymlaen at fod yna er mwyn eu cefnogi, a siwr o fod i wneud cryn dipyn o gyfieithu ar eu rhan gan bod yr holl digwyddiad wrth rheswm yn cael ei cyflwyno yn y Gymraeg. Dwi wedi bod yn ofalus i beidio gor-heipio'r noson, un sy'n gallu codi braw ar ddysgwyr newydd. Ond fel dwedodd un ohonynt 'It gets you out of the house doesn't it!'. Felly efo'r agwedd yna a chwmni da'r 'Criw Cilgwri' mae'n sicr o fod noson i gofio....

17.2.09

Ar y gorwel....

Mae rhaglen BBC2 'Horizon' pob tro yn ddiddorol, ond ar bennod a gafodd ei darlledu heno, ces i fy hudo gan raglen wnath archwilio 'ffiwsion niwcliar', a'r posibilrwydd o'r technoleg yma yn datrys ein problemau ynni yn y dyfodol agos. Mae'r cyflwynydd (dychrynllyd o ifanc), yr athro Brian Cox, wnath ein arwain ni o amgylch nifer o'r arbrofion anhygoel sy'n mynd ymlaen dros y byd ar hyn o bryd i ddatblygu cyfundrefn sy'n medru creu pŵer masnachol trwy ffiwsion. Mae'r her yn un enfawr, ac mae'r peirianwaith sy wedi cael ei creu i'w cyflawni'r her yn fwy! Mae'n ymddangos (o'r hyn wnes i lwyddo i ddeall) eu bod nhw yn gallu gwneud y proses o ffiwsion, ond dim ond am gyfnodau byr iawn iawn. I gymlethu pwnc cymleth, mae 'na nifer o ffyrdd gwahanol o geisio gwneud y ffiwsion 'ma (sef yr un proses sy'n mynd ymlaen tu fewn i'r haul), a does neb yn sicr eto i ba gyfeiriad mi fydd y datblygiad yn mynd. Mae 'na gydweithio'n mynd ymlaen rhwng nifer o wledydd y byd, ond maint y buddsoddiad 'ma yn gymharol bach (er biliynau ar filiynau o ddoleri!). Yn ôl un arbennigwr ynni o'r UDA, does gynnon ni ddim gobaith canari o gyflawni'r angen ynni presennol (heb son am y tyfiant annochel a ddaw ar ran poblogaeth a galw) trwy ynni adnewyddol, mor fawr yw ein dibyniad ni ar danwydd ffosil erbyn hyn, heb buddsoddiad anferth ar ddatblygiadau enfawr tu hwnt.

Ond rhaglen optimisdaidd oedd hi yn y bon gan yr athro hoffus. Do'n i ddim yn deall y gwyddoniaeth o bell ffordd, ond gawson ni flas o'r her sy'n gwynebu gwyddonwyr y byd. Mae 'na obaith o ddatblygu'r technoleg 'ma er mwyn cynhyrchu trydan 'glan', yn ôl yr arbennigwyr. Ond er mwyn cyflawni'r her enfawr 'ma mewn pryd i lleihau effaith cynhesu byd eang, mae'n rhaid i nifer o wledydd cydweithio a buddsoddi rwan, ac hyd yn oed wedyn does neb yn proffwydo trydan 'ffiwsion' cyn tua 2030.... felly paid â dal dy wynt....

15.2.09

arwydd annisgwyl....


Dwi'n darllen cwynion o bryd i'w gilydd am ddiffyg arwyddion dwyieithog ar strydoedd Cymru, yn enwedig yn mannau lle mae arwyddion dros dro yn ymddangos oherwydd gwaith ar y ffordd ac ati. Ond gallai'r esboniad bod, falle, i wneud â'r ffaith yn Lloegr mae nifer ohonynt! Dwi wedi gweld ambell i set o arwyddion dwyiethog yn ymddangos yma yng Nghilgwri o blaen, ond byth mor agos at ein tŷ ni, hynny yw reit tu allan y drws.
Fel arfer gweithwyr Dŵr Cymru, cwmni sydd gan gorsafoedd pwmpio ochr yma i'r ffin, sy'n cyfrifol amdanynt, ond y tro 'ma mae rhai 'utility' arall sy'n trwsio'r goleuadau stryd wedi eu gosod yr arwydd dwyieithog.

Ond mor cyffrous ro'n i, i weld arwydd dwyieithog ar ein stryd ni, wnes i bron colli'r ffaith bod yr arwydd yn cyfeirio'r cerddwyr druan (wedi ei drysu yn barod ar ôl gweld iaith 'estron'!) yn syth tuag at ochr y traffic!!

10.2.09

Mae'r sgowsers yn cofio o hyd....


Piciais i mewn i Barc Penbedw heddiw er mwyn ymweled â'r pafiliwn ysblenydd newydd am baned o goffi, gan o'n i wedi bod yn gweithio dim ond rownd y cornel. Roedd hi'n ddiwrnod hyfryd er oer, felly penderfynais mynd ar drywydd cof colofn dwi wedi clywed un or dosbarth nos yn son amdanhi, sef y maen a gafodd ei godi i ddathlu Eisteddfod 1917. Dwi wedi byw yn yr ardal trwy fy mywyd, ond dwi erioed wedi gweld y colofn 'ma. Mae Eisteddfod Birkenhead 1917 yn adnabyddus yn y bon oherwydd yr amgylchiadau ynglŷn â'r cadeirio, a'r ffaith mi gafodd y cadair ei gorchuddio efo brethyn du, gan fod 'Hedd Wyn' ennillydd y cadair, sef Ellis Humphrey Evans wedi cael ei ladd yn y rhyfel mawr ychydig o ddyddiau yn gynt.

Mi ddes i o hyd i'r darn o farmor heb ormod o drafferth a dweud y gwir. Mae'n sefyll o fewn ffens dur mewn cyflwr eitha dda, o ystyried pa mor ddifreintiedig ydy'r ardal o amgylch y parc ar ddwy ochr o leiaf y dyddiau 'ma. Ond mae'r parc wedi ei adnewyddu a'i adfywio erbyn hyn, wedi flynyddoedd o fod yn dipyn o ardal 'no-go' fel petai!

Mae'n anhygoel gweld cofeb i ddarn o hanes Cymru mewn parc ar Lannau Mersi, parc wnaeth unwaith atseinio i filoedd o leisiau Cymraeg...

6.2.09

Thatcher, Brand a'r tegan bach du

Dwi wedi cael tipyn mwy o amser dros y cwpl o ddyddiau diwetha i bori dros y papurau newyddion (tra ddisgwyl mewn 'stafelloedd aros' yr ysbyty yn bennaf!). Darllenais efo syndod ddoe y straeon am ferch yr hen 'ddynes dur' sef Carol Thatcher, a'i sylw sarhaus tuag at chwaraewr tennis croen du. Dwi wastad wedi cael rhai fymryn o edmygedd tuag at y Thatcher 'ifanc', ei steil dillad, cymysgedd o ddillad efo golwg siop elusen (mewn ardal cyfoethog), ac 'accessories' mewn lliwiau sy'n stryffaglu a brwydro i fatsio, heb son am y gwallt efo golwg lliw ffug a steil plentynaidd. Ond unwaith yn Thatcher wastad yn Thatcher mae'n ymddangos, ac falle dyni wedi gweld cipolwg o liwiau go iawn yr 'Iron Lady' trwy hilioldeb 'ffwrdd â hi' y ferch. Dydy'r 'annwyl' Carol ddim yn gweld unrhywbeth o'i le yn cyfeirio at unigolyn croen du fel 'that Gollywog', ac er gwaethaf y cyfle mi ddoth y BBC iddi hi i ymddiheuro yn ddi-amod, mi wrthodd dros cyfnod o bump diwrnod.

Wnath y ffwdan 'ma fy atgoffa o gasgliad ffigyrau 'Goliwog' mi wnaeth fy chwaer a fi fel plant. Roedd rhaid i rywun danfon nifer o 'docenni' Jam Robertsons i ffwrdd er mwyn honi eich 'model' crochenwaith bach o gymeriad 'Golly' yn canu rhyw offeryn neu rwbath. Ar y pryd wrth rheswm, roedden ni'n hollol ddiniwed i ba mor sarhaus a gallai'r cymeriadau hynny bod i ran sylweddol o'n cymdeithas. Prin iawn welon ni person du adeg hynny yn Wallasey a dweud y gwir, ac roedd sioe 'The Black and White Minstrels' prif cwrs ar fwydlen y BBC ar nosweithiau sadwrn yn y chwedegau.

Ond dyni'n gwybod erbyn hyn, ac mae 'na resymau amlwg i feddwl ein bod ni wedi tyfu fel gymdeithas. Diolch byth nad ydy pobl breintiedig megis Carol Thatcher yn cael dianc efo hilioldeb 'cyhoeddus'. Camgymeriad mawr oedd datgan y fath barn o flaen 'Jo Brand', ond dwin falch mi wnath hi! Erbyn hyn mae'r frenhines wedi ymddiheuro a thynnu doliau 'Gollywog' oddi ar silffoedd siop 'Sandringham', ond ges i ddim syndod i ddarllen am hyn, mae'r Dug Caeredin wedi eu ychwanegu nhw at ei gasglid o ei hun 'swn i ddim yn synnu!!

Wna i roi'r geiriau olaf i Hannah Pool, a sgwennodd yn y Gaurdian dydd gwener. Dyma nhw: "Unless you have been kicked, spat at or had eggs thrown at you, all while being called this hateful term, it is unlikely you will understand why such a small doll can cause such a big fuss". Ar ôl darllen ei cholofn hi, o'n i'n deall yn well....

2.2.09

Eira,...cymhedrol

Cawson ni eira heddiw, fel y rhan mwyaf o Brydain Fawr, ond nid yr eira mawr fel cafodd ein ffrindiau yn y de (hynny yw de Lloegr), eira 'cymhedrol' 'swm i'n ei alw fo. Er gwaethaf hynny, mi lwyddodd fy merch i lithro a syrthio yn drwm ar y palmant tra chwarae tu allan efo ffrindiau. Wedi peth ystyriaeth mi benderfnom ni mynd â hi i'r ysbyty, jysd rhag ofn fel petai, lle darganfodon nhw 'torriad greenstick i'w humerus... Roedd hi'n llawer rhy boenus am ddim ond cleisiau, ond wedi dôs o barasetamol mi ildiodd y poen rhywfaint, ac erbyn 9 o'r gloch roedden ni adre, wedi llai 'na awr a hanner yn yr ysbyty. Ar noson mor peryglus, ac efo plentyn yn cyrraedd 'Adran A&E i Blant' yn gloff pob yn ail munud, ro'n ni'n bles iawn efo'r gwasanaeth a gawson ni,rhywbeth do'n i ddim yn disgwyl i'w gael a dweud y gwir.

Erbyn hyn mae'r hogan yn cysgu, wedi profiad poenus, ond diolch byth gweddol syml ar ran triniaeth, hynny yw 'sling' am gwpl o wythnosau a synnwyr cyffredin ar ran gwneud ei phethau arferol. Gallai pethau wedi bod lot waeth a chymleth!

30.1.09

nos wener ar s4c...

Doed 'na ddim llawer o raglenni S4C sy'n apelio i mi ar nos wener fel arfer a dweud y gwir, ond heno mi switsiais i'r teledu drosodd i weld rhaglen 'Tudur Owen o'r Doc', a rhaid i mi ddweud wnes i'w fwynhau'n fawr iawn. Mae'n well gen i weld Tudur yn gwneud rhaglen yn ei groen ei hun, yn hytrach nag fel ei gymeriad, P.C. Leslie Wynne, er o'n i'n ei hoffi o'n gwisgo ffurfwisg yr heddwas druan, ti'n gallu cael gormod o beth da 'dwyt! Heno roedd gynno fo gwesteion diddorol hefyd, sef Caryl Parry Jones a Rhodri Meilir, seren erbyn hyn o un o 'sitcoms' mwya' poblogaidd y BBC 'My Family'. Mae'n rhaglen efo cynulleidfa digon bywiog, rhywbeth na allech chi ddweud am sawl cynulleidfa S4C. Mi fydda i'n gwylio wythnos nesaf yn bendant.

Diwedd y rhaglen wnes i sticio efo S4C ar ôl gweld yr hysbyseb am 'Nodyn', rhaglen cerddorol sy'n pob tro yn diddorol. Wythnos hon gawson ni 'bwydlen' ardderchog, sef Ryland Teifi yn canu mewn hen fodurdy bysiau ym Mhencader, yr hyfryd a dawnus Amy Wadge yn canu mewn hen gapel ym Mhontypridd a Meic Stevens yn canu am bentre ei blentyndod mewn cwt cychod yn Solfach. 'Lein yp' a pherfformiadau gwych ar rhaglen sydd yn taro'r 'Nodyn' ac y gyfan wedi ei gyflwyno gan Elin Fflur sy'n dod drosodd yn reit naturiol. Felly chwarae teg i S4C am gyflwyno amserlen werth ei gweld am nos wener...

28.1.09

Neithiwr....Heno....

Mi es i draw i goleg neithiwr heb boeni rhy lawer, ond efo rhyw deimlad bach nerfus yn gefn fy meddwl ynglŷn â wythnos nesa, sef yr wythnos o'n i'n disgwyl cael pennaeth yr adran yn y dosbarth i fy adolygu. Felly dychmygwch fy syndod wrth iddo fo dweud wrth i mi gyrraedd, "I'll be down in a few minutes to sit in your class"!! Wel, driais fy ngorau i guddio'r sioc o'n i'n teimlo tu mewn, cyn llwyddo 'ail-grwpio' fy hun a mynd i lawr i drefnu'r sesiwn. Pan gyrraedais y dosbarth roedd fy meddwl wedi mynd yn blanc, ac erbyn hyn roedd ambell un o'r dosbarth yna yn barod, felly dyma fi'n ceisio troi'r cyfrifiadur a'r taflunwr ymlaen tra cynnal sgwrs a threfnu fy ngwaith papur ar yr un pryd. Diolch byth ro'n i wedi cwplhau'r darpariaeth yn weddol trylwyr, ac erbyn i Steve dod lawr, ro'n i wedi ennill y brwydyr efo'r technoleg ac o'n i wedi dod o hyd i'r nodiadau bras (Cymraeg!) dwi'n ceisio eu dilyn pob gwers. Ro'n i wedi bwriadu eu wneud yn Saesneg wythnos nesaf er mwyn i Steve deall fy nghynllun gwers, ond ar y noson wnath o ddim ofyn i'w weld beth bynnag, diolch byth...

Wedi meddwl amdanhi, ni aeth y gwers yn rhy ddrwg, wel y hanner cyntaf o leiaf, achos ar ôl i Steve gadael wedi rhai dri chwater awr, mi aeth y gwers yn reit fler, wedi'r rhyddhad, ond chwarae teg roedd y dysgwyr yn reit cynhorthwyol ac mi aethon nhw deall y sefyllfa yn iawn.

Heno o'n i fod i fynd i'r cwis misol draw yn Yr Wyddgrug, ond yn anffodus mi ddoth llen o niwl i lawr amser te, ac efo rhew ar y ffordd, roedd synnwyr cyffredin yn dweud wrtha fi i beidio teithio cylch o hanner cant milltir yn y tywydd drwg. Mae'n bechod ond dyna ni....

21.1.09

darpariaeth newydd S4C i ddysgwyr...

Ces i gip sydyn ar wefan S4C i ddysgwyr heno, sydd wedi mynd trwy nifer o newidiadau ers i mi ymweled â'r safle'r rhai fisoedd yn ôl. Mae 'na bob math o ddefais defnyddiol i'r dysgwyr, yn cynnwys 'sioeau sleid' o gynnwhysion sawl rhaglen efo hanes y rhaglen wedi ei sgwennu fel 'narrative' ar waelod pob llun. Mi es i drwy cwpl o raglenni allan o'r cyfres newydd 'Y Dref Cymreig' yn y dull hon, yn meddwl 'Mi allwn i ddefnyddio rheiny yn y dosbarth nos'! Mae 'na fodd dewis lefelau gwahanol, a graffegau eitha gŵl i'ch helpu wneud y dewis cywir.

Dwi'n cofio ychydig o fisoedd yn ôl yn 'noson gwilwyr S4C' yn Lerpwl, wnath dynes o'r cwmni teledu'n crybwyll y gwasanaeth newydd, roedd adeg hynny dwi'n meddwl dim ar gael, ond chwarae teg iddyn nhw, mae nhw wedi 'danfon'r nwyddau' fel petai....

18.1.09

'm 'n ddigidol bucheddu...

Wrth crwydro'r we'n chwilio am feddalwedd er mwyn gwella cyflwr sal fy nghluniadur, mi ddes i o hyd i safle 'My Digital Life'. Wrth sylwi teclyn cyfiethu fel rhan y wefan, mi gliciais ar y ddraig goch fechan ymhlith nifer o faneri dim ond trwy diddordeb a dweud y gwir. Yr hyn a welais ymddangos o flaen fy llygaid oedd y Cymraeg rhyfeddaf a welais i erioed. Mi gafodd 'My Digital Life' ei trosglwyddo i -'M 'N Ddigidol Bucheddu- a 'Tune up Utility' i 'Alaw i fyny Utility'! Roedd y tudalen i gyd yn llanast o eiriau, cymysgedd o Saesneg a Chymraeg heb gystrawen dealladwy hyd a welaf i. Dwi wedi darllen ambell i ganlyniad o beriant cyfieithu o'r blaen, ond ni faswn i wedi coelio pa mor wael a gallen nhw bod hed baglu dros y wefan honno, anhygoel...

9.1.09

yn ôl wedi'r gŵyl...

Ailddechreuodd y dosbarthiadau nos dydd mawrth, ac er gwaethaf yr oerni ro'n i'n falch o weld griw dda yno. Mi aeth y dosbarth yn weddol dda dwi'n credu, mae gen i feddalwedd 'powerpoint' ar gael ar gluniadur fy merch erbyn hyn, felly mae hynny'n gwneud pethau'n fwy hwylus ar ran taflunio pethau ar y sgrîn yn y dosbarth. Roedd Miri'n awyddus i mi ddefnyddio pob 'animation' o dan yr haul yn y cyflwyniad, ond llwyddais i gadw pethau'n syml gyda dim mwy na ambell i 'fade', mae defnyddio gormod o 'gimics' yn dipyn o 'gliche' erbyn hyn, ond mae'n well cael pethau'n cliriach na llawysgrif fi weithiau.

Derbyniais neges testun dydd iau gan un o'r dosbarth ar ei dychweled o Hawia'i! felly bydd cyfle wythnos nesaf i drafod tywydd braidd yn gynnesach falle...!

7.1.09

Dim ymennyddwr....


Stopiais y car bore ddoe ar y ffordd i'r gweithdy, yn bennaf er mwyn rhyfeddu ar y cwmwl unig oedd yn hongian dros Glannau Dyfrdwy. Roedd hi fel rhai gwmwl 'madarchen' gwastad, a dynodd fy sylw oherwydd diffyg cymylau eraill. Rhyfeddais hefyd ar erwau gwyneb y llyn morol, roedd min y dŵr wedi dechrau rhewi, rhywbeth sy'n digon anghyffredin ochr yma, gan fod dŵr hallt y môr yw prif cyflenwad y llyn. Wedi ychydig o bendroni, wnes i sylweddoli bod pwerdy nwy Cei Connah oedd ffynhonell y cwmwl annaturiol o fy mlaen, nid canlyniad damwain afiach cemegol yn 'Stanlow'! Ond wedi ychydig o ryddhad mi welais eironi y sefyllfa. Mae'r cwmwl hon yn arwydd gweladwy o sut gymaint o nwyon dyni'n rhyddhau i'r awyr trwy'r dydd a'r nos, nwyon sydd yn ôl pob son yn achosi'r newid yn yr hinsawdd, ac hynny yn ei tro yn debyg o galedu ein gaeafau ni (wel ym Mhrydain o leia), sy'n cynyddu'r galw am ynni... mae'n cylch cythreulig perffaith! Pe taswn i wedi troi o gwmpas, mi faswn i wedi gweld fferm gwynt enfawr ar y gorwel, un sy'n ddigon deiniadol (yn fy Nharn i), ac heb gwmwl enfawr uwchben. Roedd na fwy o ddadlau yn y wasg yr wythnos 'ma, ynglŷn â datblygiad 'Gwynt y Môr', anferth o fferm gwynt sy'n ar fin cael ei codi ger Llandudno. Mae criw o'r enw 'Save our Scenery' yn cwyno am yr effaith gallair datblygiad cael ar dwristiaeth yn ardal Llandudno. Ar fore eithafol ar ran y tywydd, roedd y peth yn teimlo fel 'no brainer' o safpwynt fi...

3.1.09

newid arall...

Dwi wedi newid y llun sy'n goleuo'r blog hon unwaith eto heno. Doeddwn i ddim rhy hapus i 'dwyn' llun rhywun arall o'r we i fod yn onest, felly tynnais y llun newydd y p'nawn 'ma gyda'r ffôn, tra roedden ni yn y tywyni tywod wrth ymyl y traeth, Roedd hi'n machlud haul hyfryd gyda holl mynyddoedd y gogledd o fewn golwg dda, yn cynnwys y Carneddau sydd i'w gweld yn y pellter i'r dde.

Rhewi...

Dyni wedi bod yn mwynhau'r tywydd rhewllyd dros y Nadolig a dweud y gwir. Dyni wedi bod yn mynd am dro efo'r ci pob dydd, y merch (a finnau!) yn cael llawer o hwyl yn chwarae ar y pyllau beision sydd wedi troi fel 'gylchoedd sglefrio'. Mae'r coed wedi bod yn andros o hardd, yn wyn i gyd, eu brigau noeth yn dal y barrug bregus trwy gydol y dydd. Ond glywais i ochr arall yr hanes ar y newyddion y bore 'ma, un o'n i heb meddwl amdanhi mewn gwirionydd, efo'r Prif Wenidog (mr Brown) yn galw am ysbryd 'y blitz' er mwyn helpu'r henoed goroesi'r oerni 'ma. Yn ôl rhagolygon y tywydd mi fydd hi'n rhewi am ychydig o ddyddiau i ddod, ac mae hynny'y newyddion ddrwg i ganran sylweddol, hynny yw'r rhai sy'n poeni am dalu biliau tanwydd, y rhai sy'n treulio amser hir yn eu tai, iddyn nhw does fawr o hwyl i gael yn yr oerni 'swn i'n meddwl. Siwr o fod mi wna i newid fy meddwl hefyd wrth i mi ddychweled i'r oergell dwi'n ei alw'n weithdy bore dydd llun...

31.12.08

Blwyddyn newydd... delwedd newydd...

Blwyddyn newydd dda!! Dwi wedi treulio tipyn o amser dros y gwyliau yn ailfampio'r hen flog 'ma, a dyma fo wedi ei orffen (wel bron) yn ei newydd gwedd ar gyfer 2009! Yn ogystal â newid golwg y blog, dwi wedi ymdrechu 'cymraegeiddio' golwg y tudalen trwy cael gwared o'r Saesneg sy'n brithio'r patrymluniau gwreiddiol. Dim ond diogrwydd sydd wedi fy atal rhag gwneud hyn yn gynt a dweud y gwir, ond dwi'n falch fy mod i wedi trafferthu rwan, ac mae'n edrych yn fwy 'unffurf' erbyn hyn.

Na alla i gymryd unrhyw clod ar gyfer y llun newydd sy'n goleuo brig y tudalen rhaid i mi gyfadde. Mi ddes i o hyd iddi hi ar y we mewn gwirionydd, er mae'n golygfa sy'n ddigon cyfarwydd iddyn ni, ac o fan'ma yn West Kirby gafodd y llun ei dynnu, ac mai Gogledd Cymru yw'r tir yn pellter. Mi aethon ni â'r ci lawr i'r traeth y bore 'ma a chafodd 'Layla' syndod mawr wrth ceisio troi ei 'brêcs' ymlaen wedi cyrraedd ei thegan. Roedd y llanw wedi rhewi ar wyneb y traeth ar ei ffordd allan, a wnaethpwyd rhan o'r traeth i gylch sglefrio enfawr, rhywbeth dwi heb gweld o'r blaen, ond rhywbeth a wnath ein taith arferol tipyn bach gwahanol ar ddiwrnod arbennig

29.12.08

2008 yn dod i ben....

Wel mae'r Dolig wedi mynd, a dani'n reit mewn canol y cyfnod rhyfedd hon sy'n gwahanu'r gŵyl Cristnogol a dathlaidau y calan gaeaf. Y dyddiau 'ma dwi'n tueddi osgoi gwaith am y pythefnos cyfan, sy'n saib hyfryd, ac un dwi wir yn mwynhau, yn enwedig dros cyfnod mor gaeafaidd ar ran y tywydd. Does fawr o ddiben ceisio cynnhesu'r gweithdy am ambell i ddiwrnod ,ac mae'n annodd gweithio mewn rhywle sy'n teimlo fel oergell.

Wnes i dderbyn nifer o anrhegion hyfryd ga cynnwys un gan fy merch mi wnaeth hi brynu efo ei phres ei hun (blwch o siocledi Thorntons) sy'n arwydd arall ei bod hi'n tyfu'n ofnadwy o sydyn. Wnes i dderbyn llyfr diweddaraf Dewi Prysor gan fy rhieni, nofel dwi'n edrych ymlaen ati hi'n arw, ar ôl i mi ddarllen y dwy eraill gan yr awdur difyr o Feirionydd.

Does gynnon ni ddim byd wedi ei trefnu ar ran nos galan eto, gawn ni weld, dros y flynyddoedd diweddar dyni heb gwneud llawer a dweud y gwir, er gwaethaf ambell i wahoddiad, tydi pethau ddim cweit mor hawdd efo plentyn ifanc (wel ifanc..ish erbyn hyn!).

Felly, Blwyddyn newydd dda i bawb sy'n darllen, a wela i chi yn 2009 siwr o fod...

20.12.08

Siopa Dolig....

Mi aethon ni i Lerpwl y p'nawn 'ma er mwyn cwplhau'r siopa Dolig. Doedd hi ddim cweit mor ddrwg ag o'n i'n disgwyl a dweud y gwir, ac er ddylsen ni wedi mynd ar y tren er mwyn hwyluso'r profiad, mi lwyddon ni i barcio mewn un o'r meysydd parcio dan ddaear yn natblygiad siopa newydd 'Liverpool 1'... er mawr syndod i mi!

Mi wariom ni cryn dipyn hefyd ar set o lliein, 'mat baddon' a brwsh toiled! er mwyn dathlu'r ffaith bod y gwaith ar yr ystafell molchi wedi dod i ben diolch byth! ac erbyn hyn mae'r brwsh, yn ei blwch 'chrome' sgleiniog a'r lleill wedi ei gosod yn ei le.

Does gen i ddim gormod i wneud yn y gwaith wythnos nesaf ar wahan i orffen un 'cabinet rheddiadur' ar gyfer ffrindiau. Mi wnaiff pob jobyn arall sydd gen i 'ar y llyfrau' aros tan y flwyddyn newydd rwan, felly dwi'n edrych ymlaen yn fawr at cael seibiant o'r waith am o leia deg ddiwrnod.

17.12.08

post olaf cyn y dolig, mae'n siwr...

Mae'n hen bryd i mi ychwanegu rhywbeth at y blog hon, neu mi fydd 2009 wedi cyrraedd. Mae'r dyddiau wedi bod yn toddi mewn i'w gilydd wrth i mi geisio cwblhau nifer o jobiau gwahanol yn ogystal a'r prosiect ar y stafell ymolchi adre (sydd wedi troi allan i fod jobyn andros o fawr, wel o leiaf ar ran amser). Mae'r peth bron a bod wedi ei gorffen, wel ar wahân i'r teils ar y llawr ac ambell i beth bach, ond yn aml iawn mae'r pethau bach i orffen jobyn yw'r rheiny sy'n cymryd mwy o amser, ta waeth mae'r 'llinell terfyn' o fewn golwg erbyn hyn.

Ar ran y nadolig, mi wnes i rywbeth tipyn bach yn wahanol yn y dosbarth nos Cymraeg olaf cyn y dolig. Ro'ni'n gwybod mi fasa rhai o'r dosbarth i ffwrdd, felly penderfynais beidio wneud gwers arferol, ac yn ei le i fynd trwy geiriau ychydig o ganeuon nadoligaidd Cymraeg. Ro'n i wedi printio allan y geiriau o 'Noson Oer Nadolig', 'Nadolig Llawen'(war is over), ac 'Eira Mawr' er mwyn iddyn ni mynd trwyddynt cyn gwrando ar y caneuon eu hun. Mi wnaethon nhw eu mwynhau dwi'n meddwl, ac mi aeth pawb adre gyda chrynoddisg o'r caneuon fel anrheg Nadolig gynnar!

Tra dwi'n son am y Nadolig, mi aethon ni fel teulu i'r wasanaeth teuleuol 'crib' yn y cadeirlan yn Lerpwl dros y penwythnos, ac roedd hi'n braf cael dianc o'r holl brysurdeb a gwallgofrwydd sy'n cysylltiedig gyda'r gŵyl erbyn heddiw, ac i fwynhau'r cerddoriaeth ac awyrgylch anhygoel tu mewn i ofod enfawr yr adeilad ysblenydd hon.

21.11.08

Y baddondy pennod 2....

Wel mae'r baddondy'n dod ymlaen yn araf bach. Mi dynnais y rheiddiadur a'r hen ddellt a phlaster oddi ar y wal pared dydd mawrdd (doedd dim rhaid wneud llawer o dynnu a dweud y gwir!), a sgriwiais 'ply' hanner modfedd yn ei le er mwyn creu gwyneb gwastad ar gyfer y teils. Erbyn hyn dwi wedi gorffen y rhan mwyaf o'r teilio, ar wahan i'r ardal tu gefn i'r toiled. Mi fydd rhaid i mi dynnu'r toiled cyn gwneud hynny, ac mae'r ffaith fy mod i wedi colli rhan o'r plastwr fanna ddim wedi wneud llawer i fy helpu. Ar y cyfan dwi'n reit hapus gyda'r canlyniadau hyd yn hyn, gobeithio o fewn wythnos mi fydd y basin newydd wedi ei ffitio ac mi fydda i wedi gwblhau gweddill y 'groutio', ac mi fydd y diwedd o fewn fy ngolwg.

8.11.08

hanes y baddondy.. hyd yn hyn...

Wel mae'r prosiect wedi cychwyn yn y pendraw! Wedi i'r holl trafod, ystyried a phendroni, yr holl tudalennu trwy gylchgronau cynllunio mewnol a chlicio trwy gwefanau di-ri, heb son am yr ymweliadau cyson i Wickes, B a Q a 'Bathrooms 'r' Us' neu beth bynnag ydy enw y lle. Mae'r baddondy, neu'r 'stafell molchi' yn un o'r ystafelloedd annoddach i weithio ynddo fo (yn gyfartal gyda'r gegin falle..), mae pawb eisiau ei ddefnyddio trwy'r amser, ac mae rhaid i'r ystafell cael ei ifaciweiddio pob deg funud (o leiaf mae'n teimlo fel hynny..) er mwyn i'r 'cyfleusterau' (neu ddiffyg ohonynt!) cael eu defnyddio.

Ta waeth, mi ddechreuais i drwy tynnu'r hen sgrîn cawod a'r baddon allan bore dydd llun, felly doedd dim edrych yn ôl. Roedd rhaid i mi gael y baddon newydd yn ei le cyn amser te er mwyn plesio gennod y tŷ, felly roedd gen i dalcen galed i'w cyflawnu y tasg o fy mlaen. Diolch byth roedd 'na wynt teg ar fy ôl a mi lwyddais i 'cam 1' erbyn saith o'r gloch. Mae'r pibellau plastig sy'n ar gael i 'blymwyr ffug' fel finnau (y rhai sy'n disodli pibellau copr o'r enw 'pushfit') wedi galluogi'r rheiny heb hyfforddiant yn y byd plymio mynd amdanhi i ffitio mewn geginau a baddondai heb angen galw mewn plwmwr sy'n o brofiad yn gallu costio cryn dipyn. Wedi dweud hynny, dwi ddim yn meiddio gwneud dim byd i wneud â'r gwres canolog, felly fydd rhaid i mi galw'r plwmwr draw er mwynn tynnu'r rheiddiadur cyn teilio'r muriau, ond yntau oedd yr un wnath awgrymu defnyddio'r pibellau plastig yn hytrach na ei alw o i wneud y waith mewn copr!

Yfory dwi'n mynd i archebu'r toiled a basin, rhan o ddetholiad sydd wedi eu cynllunio yn enwedig ar gyfer baddondai bychan, fel un ni. Felly mae cam 2 ar fin ddechrau...

28.10.08

Dewi ar daith...

Mi wyliais raglen diddorol iawn heno wrth i Dewi Llwyd mynd ar daith o Cardiff-by-the-Sea yng Nghaliffornia i Fangor, Pensylvannia. Diben y daith wrth rheswm (yn cofio agosatrwydd diwrnod pleidleisio yr Unol Daleithiau) oedd cael rhyw flas o deimlad pobl y wlad rhyfeddol hon ynglŷn â'r dewis o'u blaennau nhw, ac yn enwedig rhai o'r Cymry sydd wedi ymgartrefu yna. Fel gwlad sydd wedi derbyn miliynau o fewnfudwyr dros y canrifoedd, does dim syndod mi ddoth Dewi o hyd i ddigon o Gymry, hyd yn oed yn y corneli mwyaf anghysbell y wlad, ond mi gawson ni gyd ein syfrdanu mi faswn i'n meddwl clywed teulu o Las Vegas, a'r plant i gyd yn cael eu magu ar aelwyd Cymraeg gan merch o Aberystwyth a'i gwr, milwr Americanaidd, sydd erbyn hyn yn siarad Cymraeg yn rhugl. Falle y peth mwyaf dychrynllyd (wel i mi beth bynnag), oedd gweld hogyn o Amlwch, sydd wedi llyncu'r breuddwyd Americanaidd yn ôl y cipolwg a welom ni, 'lock, stock a smoking barel'. Fel 'dyn diogelwch' rhywle yng Nghaliffornia pell, mae o'n wrth ei fodd gyda'r 'diwylliant dryllau' sy'n cael ei gweld gan sawl fel hawl dynol. Fel cyn bleidleisiwr Ieuan Wyn Jones ar Ynys Môn, roedd ei drawsnewidiad i gefnogwr brwd y Weriniaethwyr ac 'arfau di-ri' ar y strydoedd yn annodd coelio, ond wedi dweud hynny, mae'n peth da falle mae 'na wlad o'r fath iddo fo i symud iddi hi.. pob lwc iddo fo yn ei wlad mabwysiedig, siwr o fod mae Amlwch yn lle saffach o lawer yn sgil ei ymadawiad..!

Mi gafodd Dewi Llwyd y cyfle hefyd i ddefnyddio ei Sbaeneg rhugl yn 'Mecsico Newydd', yn rhai lefydd yna mai siaradwyr Sbaeneg yw'r mwyafrif o lawer, ac roedd hi'n braf cael gweld rhywfaint o'r amrywiaeth eang sy'n bodoli mewn gwlad dyni'n ei gweld yn 'unochrog' weithiau. Er dwi wedi cael llond bol o'r holl etholiad erbyn hyn (diolch i'r BBC am hynny) llongyfarchiadau i S4C am wneud rhaglen mor ddiddorol ar ei gefn.

26.10.08

Bruce....

O'r diwedd dwi wedi gwneud y buddsoddiad mwyaf mod i erioed wedi gwneud yn yr iaith Cymraeg, (wel ar wahan i danysgrifio i 'Golwg'...) trwy prynu copi o'r cyfrol swmpus o'r enw 'Geiriadur Yr Academi', neu'r 'Geiriadur Bruce'fel mae'n cael ei alw weithiau. A dweud y gwir, dwi wedi bod yn ystyried ei brynu ers misoedd lawer, ond efo tipyn o arian yn llosgi twll yng ngwaelod fy mhoced yn sgil jobyn 'pres parod', a finnau ar 'Amazon' yn archebu llyfr arall, wnes i ati i glicio'r dolen 'add to basket'. O fewn eiliadau roedd y llyfr mawr brown a glas ar ei ffordd i'n tŷ ni.

Y ddiwrnod wedyn, mi es i adre o'r gweithdy amser cinio i ddod o hyd i gerdyn yn y porth yn dweud o'n i newydd colli cludiad 'City Link', ac mi fydd rhaid i mi drefnu ail-cludiad ar y ddiwrnod gweithio nesaf, sef ar ôl y penwythnos. "Diawl" meddyliais, (neu rhywbeth felly...) cyn mynd amdanhi i greu brechdan sydyn a dychweled y tri chwater milltir i'r gweithdy. Ond am gyd-ddigwyddiad, ar y ffordd yn ôl, dyma fi'n gweld fan melyn a gwyrdd City Link yn y pellter yn diflannu rownd cornel. 'Beth yw'r siawns o'r fan yna'n bod y fan efo 'mecyn fi ar ei bwrdd?' meddyliais, cyn wibio ar ei ôl. Cyn bo hir mi ddoth y fan i stop, er mwyn gadael pecyn arall siwr o fod, a neidiais i allan o fy fan fi i holi gyrrwr 'City Link' ynglŷn â'r pecyn Amazon. Teimlais fawr rhyddhad pan cadarnhaodd y gyrrwr, do, roedd pecyn fi ar ei fan, ac mai dim ond rhaid i mi dweud fy nghôd post a rhoi llofnod ar ddarn o babur i dderbyn fy mhecyn o Amazon.

Agorais y pecyn gyda'r parch priodol i becyn gwerth hanner cant o bunoedd, a ches i mo fy siomi pan deimlais y geiriadur ysblenydd yn fy nwylaw am y tro cyntaf. Mae'n sicr o fod yn defnyddiol tu hwnt, yn enwedig yn y cyfnod yma, pan dwi'n ceisio trosglwyddo'r iaith i eraill, heb fod yn siaradwr Cymraeg brodorol. Mae'n llawn enghreifftiau o sut i ddefnyddio'r geiriau di-ri sy'n llenwi ei mil a thri chwater o dudalenau tennau. Mae'n dipyn o fuddsoddiad yndy, ond hyd yn hyn un dwi'n gweld fel un gwerth yr arian.

23.10.08

Noson Gwylwyr Lerpwl...

Yn ôl cyflwynydd y noson, mi welodd Noson Gwylwyr S4C yn Lerpwl un o'r cynulleidfaoedd mwyaf a welodd o mewn cyfarfod o'r fath. Roedd hi'n braf gweld yr ystafell crand yn y Bluecoat Chambers (adeilad hanesyddol ac enwog,ac yn perffaith am baned a saib bach o fwrlwm y ddinas) llawn o wylwyr y sianel, yn barod i fynegu eu barn am gynhyrch yr orsaf teledu Cymraeg. Clywon ni hefyd gan arbennigwr technegol manylion ynglŷn â'r 'signal' digidol bydd dim ond ar gael (neu ddim!) i wylwyr dros y ffin wedi'r newidiadau i ddod. Mae'n ymddangos bod y signal digidol yn llawer mwy pennodol ar ran daearyddiaeth na'r signal analog, ac o'r herwydd yn llai tebygol o gario yn bell tu hwnt i ffiniau Cymru. Fel person sy'n dibynnu ar y signal analog, roedd hynny'n newyddion ddrwg, ond erbyn hyn dwi wedi derbyn mi fydd rhaid i mi fuddsoddi mewn disgyl lloeren a blwch o driciau er mwyn cario ymlaen gwylio'r sianel ar y teledu. O'n i'n gobeithio mi fasai'r signal digidol yn cryfhau ar ôl i'r signal analog cael ei diffodd, ond yn ôl pob son does fawr siawns o hynny'n gwneud effaith fan hyn yn Lloegr. Dwi'n meddwl mai Freesat ydy'r ffordd gorau i fynd i finnau, yn enwedig gyda S4C yn dechrau darlledu rhai pethau mewn fformat HD cyn bo hir. Mae gynnon ni teledu HD ond 'sgynnon ni ddim ffordd o dderbyn y lluniau yn y dull honno, ond mi fasai Freesat yn ei galluogi hynny.

Mae'n ddrwg gen i! dwi wedi crwydro'n bell o 'deitl' y blog 'ma, sef y noson ei hun! Roedd hi'n noson da, gyda sawl person yn dweud eu dweud am raglenni hen a newydd. Wnes i ddim dweud dim byd yn ystod y trafodaeth cyhoeddus, ond ces i gyfle i sgwrsio efo un o rheolwyr y sianel ynglŷn â'r darpariaeth i ddysgwyr (yn gwisgo fy het fel 'tiwtor' yn ogystal a dysgwr) a soniodd hi am wasanaeth newydd i ddysgwyr, bydd yn cael ei lansio yn y flwyddyn newydd, ac mae'n amlwg o sgwrsio gyda hi bod dysgwyr yn rhan bwysig o 'gynulleidfa targed' S4C, rhywbeth dwi'n cydfynd a hi'n llwyr. Awgrymodd un o do ifanc y cynulleidfa gwneud rhaglen yn dilyn hynt a helynt dysgwyr yn gwneud tasgiau gwahanol fel rhyw fath o 'teledu realaeth', soniodd y rheolwraig am 'Welsh in a Week' a meddyliais i am 'Cariad @ Iaith', y cyfres am ddysgwyr o Nant Gwrtheyrn, rhaglenni diddorol iawn, ac felly mae'n hen bryd ailgylchu'r syniad mewn newydd wedd, gawn ni weld...

Awgrymodd Dion, boi trin gwallt enwog o Lerpwl, cynhyrchu rhaglen fatha 'Come Dine with Me' yn y Gymraeg er mwyn dennu cynulleidfa ifancach, ac yn y fan a'r lle datblygodd y syniad i fod yn rhaglen realaeth wedi ei gosod mewn siop trin gwallt yn Lerpwl efo Cymru Cymraeg y ddinas (neu falle dysgwyr hefyd!) yn dod am driniaeth a sgwrs difyr a Dion!! Syniad diddorol tu hwnt..

Wrth rheswm roedd 'na gwyno am regi a rhyw ar y sianel (cofiwch roedd 'na griw go lew o gapelwyr yna) ond yn y bon roedd 'na ymateb cadarnhaol gan yr ifanc a'r hen. Roedd un o fy myfyrwyr yn ddigon dewr i droi fyny efo ei gariad (sy'n siarad Cymraeg), chwarae teg iddo fo, gwisgodd y clustffoniau oedd ar gael gyda cyfiethiad Saesneg ar y pryd, a dwi newydd derbyn tecst yn dweud sut gymaint a wnaethon nhw mwynhau'r noson. Felly noson da, a diolch i S4C am ei drefnu.

22.10.08

Nos fercher..

Mae'n nos fercher, y noson fel arfer mi faswn i wedi treulio draw yn y dafarn yn Yr Wyddgrug, ond gan mod i'n mynd i 'Noson Gwylwyr S4C' yn Lerpwl nos yfory, mi dreuliais y noson adre yn gwneud sesiwn ar y peiriant rhwyfo. Er dwi'n licio gweld fy hun fel person weddol 'heini', dwi wedi sylwi ar ychydig o bwysau ychwanegol yn trio cuddio o dan fy nghrysau-t yn ddiweddar, a nad ydy hynny delwedd dwi isio sbio arnhi hi yn y drych bob bore!!

Felly ffwrdd â fi ar y peiriant diawledig am hanner awr, cyfnod wnath gadael i mi wrando ar albwm newydd 'Keane' wnes i lawrlwytho yn syth at yr i-pod touch ychydig o ddyddiau yn ôl. Mi brynais i eu hail albwm nhw cwpl o flynyddoedd yn ôl, ac a dweud y gwir mae hi wedi cael ei chwarae yn aml iawn yn y car. Dwi'n gweld tebygrwydd yng ngherddoriaeth Keane i nifer o grwpiau mi wnes i dyfu fyny efo nhw yn saithdegau, mae 'na gallu cerddorol yn eu gwaith nhw a sawl can cofiadwy wedi dim ond cwpl o 'wrandawiadau' (dyna clamp o air..). Mae trac teitl yr albwm, sef 'Perfect Symmetry' yw ffefryn fi ar hyn o bryd, ac un i fatsio unrhyw beth mi wnaethon nhw wedi recordio o'r blaen, yn fy mharn i o leia..

21.10.08

'bliws' hanner tymor...

Wel dwi newydd gorffen fy hanner tymor gyntaf fel tiwtor Cymraeg, ac a dweud y gwir mae gen i amrywiaeth o deimladau amdanhi. Yn gyntaf mae'n rhaid i mi ddweud mae gen i griw reit glen o bobl yn y dosbarth, ac mewn ffordd dwi'n teimlo pwysau mawr ar fy ysgwyddau i gynnig y gwasanaeth mai nhw'n ei haeddu. Mae nhw i gyd wedi talu rhai cant a hanner o bunoedd am y 'fraint' o fod yn y dosbarth, a minnau nid hyd yn oed Cymro Cymraeg! Mae diffyg fy Nghymraeg yn un peth, ond diffyg fy mhrofiad o ddysgu unrhyw iaith ydy'r peth sy'n fy mhoeni fi'r heno 'ma, wedi gwers siomedig ar ran y tiwtora. I wneud pethau'n waeth, mae'n rhaid i mi ddisgwyl rwan am bythefnos holl cyn drio gwneud swydd gwell o'r wers nesaf. Dwi ddim un i wneud esgusodion, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth fy hun (i wneud fy hun teimlo'n well!) 'wedi blino' yr oeddwn i, wedi nos braidd yn ddi-cwsg ar ôl i'r merch deffro yn chwydu ei bol tua hanner y nos (mae hi wedi gwella yn ystod y ddiwrnod).

Do'n i ddim yn meddwl bod dysgu'r Gymraeg i eraill yn debyg o fod rhywbeth hawdd i wneud, ond dwi wir gobeithio wnaiff y criw glen 'ma yn aros gyda fi yn ddigon hir i fi cael profi i fi fy hun mod i'n gallu gwneud swydd 'digonol' o leia o'u dysgu.

16.10.08

S4C yn holi pobl Lerpwl....

Mae S4C yn dod i Lerpwl wythnos nesaf efo un o'u 'Noson Gwilwyr'. Mae 'na addewid o 'luniaeth' hefyd i'n temptio ni, yn ogystal â lleoliad hyfryd a hanesyddol y 'Bluecoat Chambers' sydd newydd cael eu adnewyddu. Dwi'n edrych ymlaen at weld be' sydd ar y gweill (mae 'na wedi bod cryn 'heip' am y cyfres newydd o 'Con Passionate' ar yr orsaf yn barod) ar gyfer yr hydref, gobeithiaf yn wir rhywbeth gwell na'r rwtsh mi welom ni yn ddiweddar am Salon Imogen Thomas, am wastraff o amser.. a Chymraeg andros o wan. Pe tasai pawb yn siarad Cymraeg fel Imogen, mi fasai'r hen iaith mewn peryg go iawn o golli ei statws fel iaith ar wahan! Ta waeth, falle fydda i'n cael cyfle i ddweud fy dweud nos iau?

15.10.08

Yr her fawr Cymraeg......

Mi ddes i o hyd i defnydd ardderchog ar ran dysgu'r Gymraeg ar safle 'The Big Welsh Challenge' wythnos diwetha. Wnes i ddefnyddio ychydig o'r 'clips' bach neithiwr yn y dosbarth nos, diolch i'r technoleg sy'n ar gael mewn pob un ystafell dosbarth ysgol erbyn hyn. Ar ól i mi gael cymhorth yr ysgrifenyddes i droi'r 'taflunydd' ymlaen ac i fy logio ar rwydwaith yr ysgol roedd popeth yn iawn. Ces i ddim trafferth nes bod y 'cyfundrefn' fy nghloi i allan yn awtomatig wedi cyfnod o ddiweithgarwch! Mi wibiais i fyny'r grisiau i'r swyddfa er mwyn cael y cyfrinair a chario ymlaen gyda'r dosbarth.

Gobeitho mae'r yr amrwymiad o gael rhywun arall (Glyn Wise!!) yn dysgu y dosbarth, trwy gwyrthiau technoleg cyfoes, wedi bod o fudd i'r dysgwyr! mae'n rhywbeth iddyn nhw cael defnyddio adre hefyd wrth cwrs sy'n peth da. Pe tasai'r gwersi ar lein 'ma ar gael pan o'n i yn dechrau ddysgu Cymraeg, mi faswn i wedi eu croesawu á breichiau ar led, heb os nag onibai!

8.10.08

Grrrr...

Mae'r e-bost wedi torri eto... grrrr. Wnaethon ni golli'r gwasanaeth am ychydig o ddyddiau mis neu ddwy yn ôl, gyda 'outlook express' yn gofyn am fy 'nhrwyddedair' tro ar ôl tro amser ac wedyn yn ei wrthod, yn gwneud i mi regi o dan fy ngwynt tro ar ôl tro. Wnes i drio cael golwg ar fy e-byst trwy 'mail2web' hefyd, ond does dim gwasanaeth ffordd yna chwaith. Mae'n edrych fel yr un un problem sydd ar fai, felly does fawr o bwynt gwastraffu amser yn ceisio siarad gyda rhywun ar linell cymhorth drud, fel mi wnes i'r tro diwetha. Os dwi'n cofio'n iawn mi ddoth y gwasanaeth yn ôl fel webmail (neu 'gwebost'!)yn gyntaf, cyn i'r peth dechrau gweithio ar OE.

Ond sdim ots, ar wahan i ambell i sylw ar y blog hon, neu ambell i neges o bwys yn cysylltiedig â'r gwaith, mi fydd y 'blwch mewn' llawn rwtsh llwyr sy'n debygol o hedfan yn syth i'r 'blwch o eitemau sydd wedi eu dileu, ond sy'n dal i cymryd lle ar ddreif galed fy ngliniadur am ryw rheswm'!

Ar nodyn mwy cadarnhaol, mi wnes i fwynhau'r cwmni a'r sgwrs yn y sesiwn sgwrs heno yn Yr Wyddgrug, ac mi aeth y dosbarth nos fawrdd yn weddol, gyda phawb erbyn hyn wedi talu am y flwyddyn cyfan, sy'n arwydd da dwi'n meddwl

4.10.08

Deano...

Ces i syndod i glywed y newyddion bod Dean Saunders wedi derbyn yr her o ddod â Wrecsam yn ôl o'r sefyllfa amharchus o chwarae o flaen 800 o bobl mewn llefydd anhysbys megus 'Forest Green'(mae'n ddrwg gen i Forest Green ond lle?). Dim llai na sarhad ydy hi i glwb o statws Wrecsam, Clwb gyda hanes cyfoethog o guro timau mawr yng nghwpan yr FA, a chystadlu yn yr hen ail cyngor (Y 'championship erbyn heddiw) o flaen 15,000 mil o fobl yn rheolaidd, ... o'r gorau, dwi'n mynd pell yn ôl rwan.

Ta waeth, mae'n ymddangos bod cyraeddiad 'Deano' wedi gweithredu fel ysbrydoliaeth go effeithiol i'r chwaraewyr druan, wrth i Wrecsam dod yn ôl nid unwaith ond dwywaith oddi cartef yn erbyn 'Green Forest' cyn gipio gôl yn y munud olaf i ennill 3-2. Mae Sanders wedi gorchymyn y tîm i sesiwn hyfforddi dydd sul, rhag ofn i'r canlyniad mynd i'w pennau cyn i'r gem hollbwysig yn erbyn Caer Efrog nos fawrdd. Pob lwc iddo fo..!

1.10.08

Y gwasanath genedlaethol yn ei newydd wedd...

Mae Radio Cymru yn setlo mewn i'w patrwn beunyddiol newydd ar ôl i'r newidiadau ysgubol i amserlen y dydd. Mae'n hen amser i rai o'r hen 'jingles' cael eu dileu o'r tonfeydd, felly o'n i'n falch o glywed syniau'r rhai newydd yn tori ar draws bore llun yn gynharach yn y wythnos. A dweud y gwir, er o'n i'n eitha feirniadol o'r penderfyniad i symud Jonsi i'r p'nawniau am dair awr, ar fy rhan i dwi'n ddigon falch, gan mod i'n tueddi gwneud gwaith sy'n caniatau i mi wrando'n fwy astud yn y boreuau, ac mae'n well gen i wrando yn astud i bar newydd y boreuau sef Daf Du ac Eleri Sion a'u ambell i westeion, na Jonsi i fod yn onest! Mae'n siwtio amserlen fi hefyd bod Taro'r Post wedi symud i hanner y dydd, rhaglen arall dwi'n mwynhau canolpwyntio arnhi pan gwneud gwaith cymharol dawel wrth y fainc, sy'n digwydd bod drws nesaf i'r set radio. Erbyn un o'r gloch dwi wedi diffodd y radio fel arfer, wel os dwi ddim yn gyrru beth bynnag. O'r hyn dwi wedi clywed mae hen Jonsi wedi ei 'ailfampio' rhywfaint, ac mae 'na ryw creider i'r sioe, er dwi'n dal i feddwl mai tair awr yn dalp sylweddol o'r amserlen i roi i un cyflwynydd ar orsaf megis RC. Digon o westeion a llawer o gerddoriaeth, dyna'r ateb falle!! mae'r rheithgor yn dal i fod allan, er dwi wedi mwynhau y rhan mwyaf o'r cynnyrch dwi wedi ei glywed hyd yn hyn.

30.9.08

Mi ddoth pawb yn ôl...!

Mae'n pump ar hugain wedi chwech, a dyma fi'n eistedd mewn ystafell dosbarth gwag, yn disgwyl i weld faint o'r dosbarth bydd yn dycheled ar ôl i'r 'wythnos blasu'! Pump munud yn ddiwedarach, roedd y dosbarth yn llawn a'r criw i gyd wedi dychweled (wel ar wahan i un wnath dweud wythnos diwetha am fod i ffwrdd heno) ac anadlais i'n rhwyddach o lawer. Dwi'n meddwl wnes i swydd gwell heno. Sticiais i i gynllun y gwers bron a bod, ac ar y cyfan roedd fy amseru'n gywir. Gawsom ni dipyn o hwyl dwi'n meddwl, yn enwedig pan sylwais i ar gynnwys un o'r 'dialogues' yn y cwrslyfr sy'n mynd rhywbeth fel:

'S'mae, John dw i, pwy dach chi?',
'Siôn dw i',
'Sut dach chi Siôn'
'Ofnadwy'
'Braf eich cyfarfod chi, Hwyl'.

Mi adawodd john fel 'ystlum allan o uffern' pan glywodd ymateb Siôn druan!

Mae'n pwysig ceisio cael tipyn o hwyl mewn dosbarth, ac mae pethau bach fel hynny'n gallu helpu torri'r rhew (rhaid ynddiheuro am cyfieithu holl diarhebion Saesneg!) rhwng aelodau'r dosbarth, ond ar y cyfan mewn dosbarth nos mae pawb yn dod ymlaen yn reit dda.

27.9.08

temtasiwn yr afal...

Wnes i bigo draw i Lerpwl ddoe efo'r bwriad o ddisodli fy hen i-pod mini (sydd bellach heb y gallu cadw siarj yn ei batri am fwy nag awr) gyda un o'r i-pod nano's newydd. O'n i'n penderfynol o gael un du, ond yn John Lewis du oedd yr unig lliw nad oedd ganddynt, felly pigiais i rownd y gornel i'r siop 'Apple'. Does dim byd o'i le, meddyliais, cael chwarae sydyn gyda'r holl teganau o fy nghwmpas cyn ofyn i un o'r pobl Apple am un o'r Nano's du. Ond oedd! mi gwympais i mewn cariad gyda teclyn sgleiniog llyfn, o'r enw 'i-pod touch' a felly gwariais i ychydig mwy na'r cant punt o'n i'n bwriadu ei gwario. Wedi dweud hynny, mae'r gwahaniaieth yn y dwy teclyn yn sylweddol, ac yn sicr gwerth y chwe deg punt sydd rhyngddynt ar ran pris. Mae'r touch yn debyg i i-phone (ond heb y ffon), ac ar wahan i chwarae cerddoriaeth, chi'n cael syrffio'r we arnhi hi (trwy wi-fi), dangos eich lluniau ar ei sgrin anhygoel, gwylio fideos a ffilmiau, yn ogystal a lawrlwytho pob math o 'applications' a gemau. Mae gan Apple dawn o greu dyfeisiadau technolegol sy'n cydbwyso ffurf a ffwythiant, mewn ffordd deniadol iawn. Dwi erioed wedi defnyddio 'Mac' fel cyfrifiadur, ond dwi'n sicr o gael fy nhenu yn ôl at demtasiynau'r siop 'Afal'

23.9.08

Un o dan fy ngwregys...

Wel mae'r dosbarthiadau nos wedi cychwyn a dwi'n meddwl mi aeth popeth yn iawn. Mae 'na ddeuddeg yn y dosbarth a phob un ohonynt yn reit glen a dweud y gwir, a mi ddoth pawb ymlaen gyda eu gilydd dwi'n meddwl. Ar ôl yr hanner awr cyntaf roedd fy ngheg yn andros o sych, felly o'n i'n wirioneddol parod i anfon pawb i gael paned erbyn hanner wedi saith. I fod yn hollol gonest, do'n i ddim yn deimlo'n rhy hapus gyda fy mherfformiad yn yr hanner cyntaf fel petai, wedi treulio tri chwater awr yn mynd trwy'r wyddor a'r hen 'ddiphthongs', o'n i'n meddwl roedd pobl yn edrych eitha ddiflas, felly ymdrechais i wella pethau wedi'r egwyl trwy gwneud cwpl o weithgareddau gwahanol. Mi hedfanodd yr ail hanner, a chyn i mi wybod roedd hi'n hanner wedi wyth. Mi ddoth cwpl o bobl i fyny i ddweud eu bod nhw wedi mwynhau, felly gobeithio nad ydwi wedi llwyddo cadw pobl i ffwrdd! Gawn ni weld wythnos nesaf! Ar y ffordd allan ges i siawns i drafod y noson gyda David Jones, a fel y dwedodd "that's one under your belt".

21.9.08

Haf bach Mihangel...Bendith i Wŷl Fwyd

Mi ddoth yr haf bach Mihangel mae pawb wedi bod yn son amdanhi yn y pendraw. Roedd trefnwyr Gwŷl Fwyd Yr Wyddgrug siwr o fod yn falch ohoni, wrth i'r gwŷl beunyddiol cael ei bendithio gan heulwen cynnes mis medi. Yn yr hysbysebion mi wnaethon nhw frolio am lleoliad 'fully tarmacked' yr wŷl. Mi faswn i ddim wedi meddwl bod hynny'n rhywbeth i frolio amdanhi fel arfer, ond wedi profiad gwlyb tu hwnt cwpl o flynyddoedd yn ôl, ac ar ôl haf siomedig iawn, falle roedd pawb yn ofni'r gwaethaf. Ond disgleiriodd yr haul, a gafodd y maes parcio 'tarmacaidd' ei llenwi gyda aroglau blasus gynhyrch y stondinwyr, yn hytrach na'r nwyon gwenwynig arferol. Mi wnaethon ni flasu nifer o gawsau arbennigol, ambell i olewydd wedi ei stwffio, a llond llaw o wahanol cwrwau (y rhan mwyaf ohonynt o Gymru fach).
O'n i'n poeni braidd am y taith adre i Gilgwri ar ddydd sul heulog, gyda'r holl ymwelwyr a 'phenwythnoswyr' yn dychweled i lannau Mersi a Manceinion o'r arfordir. Mae'r gwaith ffordd ar y ffin ar hyn o bryd yn gallu achosi cur ben go fawr pan mae'n brysur, ond doedd dim rheswm i mi boeni, mi hwylion ni drwy Ewloe a Queensferry didrafferth, efallai roedd pawb yn gwneud y gorau o bob awr o heulwen ac aros yn hwyrach nag fel arfer.

19.9.08

Celt a chwrw...

Cafodd un o bebyll Gwŷl Fwyd Yr Wyddrug ei trawsffurfio i leoliad gig Menter Iaith neithiwr, gyda 'Celt' yr 'entre', prif cwrs a phwdin. Mi rodd yr hogiau o Fethesda perfformiad proffesiynol dros ben, ond yn anffodus nad oedd digon o bobl yno i lenwi pabell chwater ei maint, felly roedd 'na awyrgylch eitha wastad i ddweud y leiaf. Nes ymlaen (yn sgil cwpl o biseri o Pimms), mi frasgamiodd griw o ferched tuag at y llwyfan (hynny yw'r rhan o'r maes parcio sy'n lleoliad yr wŷl) er mwyn 'strytio' eu stwff o flaen y band. Chwaraeodd Celt detholiad eang o'u caneuon bywiog, a chwpl o 'nymbars' araf cyn gorffen efo'r clasur 'Rhwng Bethlehem a'r Groes'. Erbyn hynny roeddwn i wedi cael fy llusgo gan Dilys, mam Alaw (sydd newydd gadael y Fenter yn anffodus) i siglo'n letchwith trwy'r tri cân olaf (dwi ddim yn symud yn rwydd hyd yn oed wedi cwpl o beints, heb son am fod yn hollol sobor!), ond o leiaf mi ddoth y noson i ben gyda thipyn o awyrgylch. Oni bai am yr amser (cafodd y venue trwydded cerddoriaeth hyd at 10.30 yn unig) dwi'n sicr mi fasa'r hogiau wedi dychweled i'r llwyfan am encore arall haeddiannol. Roedd rhaid i mi wrthod gwahoddiad i'r Castell Rhuthun am beint yn anffodus gyda'r taith o dri chwater awr o fy mlaen, a minnau'n teimlo eitha flinedig wedi wythnos o waith a chodi'n gynnar.

Mae'n bechod nad ydy digwyddiadau o'r fath yn cael mwy o gefnogaeth mewn ffordd, falle roedd y pris o £7.00 yn ormod i lawer, dwn i ddim, ond mi fethodd sawl perfformiad cryf gan Celt (gyda cwrw da am ddim ond £2 y peint hefyd!).

Diwedd pennod....

Roedd 'na deimlad o dristwch ar donfeydd Radio Cymru p'nawn 'ma efo'r darllediad olaf o sioe ceisiadau 'Dylan a Meinir'. Anfonais i e-bost yn gofyn am gais ('Adre' gan Gwyneth Glyn, cân mi glywais hi'n canu'n fyw ar y sioe am y tro gyntaf ychydig o flynyddoedd yn ôl) a charae teg i Dylan ces i e-bost yn ôl ganddo fo yn dweud diolch am yr holl cefnogaeth. A dweud y gwir mae hi wedi bod yn pleser pur yn gwrando ar a sioe, ac ar sioe Owain a Dylan cyn hynny. Ar hyn o bryd dwi'n gwrando ar raglen olaf Daf Du ar C2, ond wrth cwrs mae Daf yn symud i'r bororau (peth da dwi'n meddwl), ond yn achos Dyl a Mei does dim 'slot' arall iddyn nhw, ar hyn o bryd o leia. Dwn i ddim sut fath o raglen fydd Jonsi (am tair awr!!) yn y p'nawn, gawn i weld, wna i roi tro iddo fo beth bynnag, ond dwi ddim yn edrych ymlaen gyda llawer o frwdfrydedd a dweud y gwir...

16.9.08

Taro 9 yn taro deuddeg...?

Mae Caryl Parry Jones wedi codi nyth cacwn heddiw trwy ceisio gwynebu un o'r 'tabws' mwyaf yr iaith Cymraeg, hynny yw safon yr iaith sy'n cael ei siarad, a'r dirywiad mae hi wedi gweld ymhlith Cymraeg y to ifanc. O'r hyn dwi'n clywed mae ganddi hi bwynt, ond fel dysgwr dwi ddim yn meddwl mae gen i hawl i ddweud llawer am y pwnc. Dwi'n clywed hen bobl yn defnyddio Cymraeg llawn Saesneg weithiau, a dwi'n clywed pobl ifanc yn siarad Cymraeg sy'n swnio'n ddigon 'cywir' i mi, felly dydy hi ddim yn rhywbeth syml i ddadansoddi. Wedi dweud hynny, dwi yn poeni am dueddiad pobl ifanc i daflu mewn cymalau holl o Saesneg, er enghraifft 'Oh my God, mae hi'n completely obsessed efo fo' mi glywais rhywle yn ddiweddar. Fel person sy'n ar fin gweithio fel tiwtor Cymraeg, dwi eisiau gwybod y ffyrdd Cymraeg o fynegu pethau, dwi ddim yn meddwl mi fasai'n creu argraff da o'r Gymraeg i ddweud wrth y dysgwyr mae 'completely obsessed' yn ffordd derbyniol o gyfathrebu'r teimlad hynny yn y Gymraeg...!

Dwi wedi clywed y dadl, ac mae'n annodd i ddadlau yn ei erbyn os dychi newydd clywed brawddeg fel yr enghraifft uwchben, pam ydyni'n gwario gymaint o bres ar y Gymraeg pan mae siaradwyr yr iaith yn mor barod i lenwi'r iaith gyda Saesneg.

Siwr o fod mi fydd 'na fwy o ddadlau ar Taro'r Post yfory..

12.9.08

Noson Gofrestru

Mi gawson ni noson gofrestru llwyddianus nos fawrdd gyda digon o ddysgwyr yn cofrestru i gynnal y cyrsiau Cymraeg lefel 1 a lefel 2 yma yng Nghilgwri. Mi fydd y gwersi'n dechrau mewn jysd dros wythnos, felly mae'n rhaid i mi fynd wrthi o ddifri rwan i drefnu fy mhen (a'r gwaith papur wrth cwrs) ar gyfer y noson agoriadol.

Roedd bwrdd cofrestru 'Cymraeg' un o'r brysuraf ar y noson, allan o dua saith a gynnigwyd gan y Coleg Iaith. Mi welon ni griw reit amrywiol o ddarpar dysgwyr ar rhan oedran a chefndir, hyd yn oed dyn o Darlington sy'n aros yn lleol trwy'r wythnos o'herwydd gwaith. Gafodd ei eni yng Nghaerdydd, er gadawodd y prifddinas fel babi. Mi welon ni gwpl o hogiau ifanc hefyd sy'n awyddus i ennill pwyntiau 'brownie' gan eu cariadon o Gymru fach! Dwi'n edrych ymlaen at y dosbarth cyntaf!!

3.9.08

Cymru, Lerpwl a Stryd Hope...



Y golygfa bendigedig o ben twr Cadeirlan Lerpwl tuag at y Gadeirlan Pabyddol (neu 'Pabell Paddy' fel mae'n cael ei galw) mae Stryd Hope yn eu cysylltu.

Clywais 'raglun' heddiw o ddrama o'r enw 'Dyddiau Hope Street' sy'n cael ei darlledu p'nawn Sul ar Radio Cymru. Gwrandawais yn astud ar ôl glywed enw'r ddrama gan fy mod i'n cyfarwydd iawn gyda'r ardal 'Stryd Gobaith' o fy nyddiau fel myfyriwr yn Ninas Lerpwl. Hope Street yw'r heol (trwy cyd-ddigwydiad) sy'n arwain o'r Gadeirlan Anglicanaidd at y Gadeirlan Pabyddol, ac enw braidd yn eironig gan ystyried yr hanes cythryblus rhwng y dau ffydd yn Lerpwl (Dwn i ddim os oes cysylltiad rhwng enw'r stryd a phentre Hope (Yr Hob) yn y Gogledd?). Ta waeth, yn ôl y rhaglun, hanes digwyddiadau yn ystod cyfnod y chwedegau yw'r ddrama, gyda cyffro 'Beatlemania' fel cefndir. Roedd hyn yn gyfnod pan oedd presenoldeb y Cymry Cymraeg yn dal i weddol cryf ar Lannau Mersi, cyfnod dwi'n ychydig yn rhy ifanc i'w cofio a dweud y gwir, ond dwi'n edrych ymlaen at ei chlywed.

A phan dwi'n wrthi'n son am gysylltiadau rhwng Lerpwl a Chymru, darllenais yn fy nghopi newydd o 'Sgrîn', bod S4C yn cynnal 'noson gwylwyr' yng Nghanolfan Bluecoat y Ddinas ar 23 Hydref am 7 o'r gloch. Wedi llwyddiant ei darllediad o 'Bawb a'i Farn' yn cynnharach yn y flwyddwn, mae'n ymddangos eu bod nhw wedi sylweddoli erbyn hyn mae ganddynt nifer sylweddol o wylwyr ar Lannau Mersi. Gobeithio ga i'r siawns i fynychu'r cyfarfod, a dweud fy nweud falle am ambell i raglen dda ac ambell i un gwael...!

1.9.08

Mis Medi...

Wel mae mis Medi wedi cyrraedd, a dwi'n dechrau teimlo braidd yn nerfus. O fewn cwpl o wythnosau mi ddylwn i fod yn dysgu Cwrs Mynediad, yma yng Nghilgwri, hynny yw os mai digon yn troi i fyny i gofrestru. Dros y cwpl o flynyddoedd diwetha, yn ôl pob son mae'r niferoedd wedi bod yn ddigon iach, ond gawn ni weld. Er fy nerfau, dwi'n edrych ymlaen at y profiad. Mae dysgu pobl sydd eisiau dysgu'n plesur pur, sy'n wahanol i rai o'r profiadau dwi wedi cael mewn colegau dros y flynyddoedd gyda 'myfyrwyr' oedd yna dim ond i wastraffu eu amser. Ar ben hynny, mae cael y cyfle i drosglwyddo ychydig o'r Gymraeg wir yn fy ngynhyrfu. Dwi wedi treulio cymaint o oriau'n astudio'r iaith 'ma, ond gŵn i mae llawer o wendidau yn fy Ngymraeg, ond dwi'n gobeithio trwy mynd yn ôl i'r dechrau cyntaf gyda'r pobl ar y cwrs, mi wna i lenwi ychydig o'r tyllau amlycaf!

Dros y wythnosau nesaf felly, mae angen i mi wneud cryn dipyn o waith paratoi ac ymarfer i'r her i ddod!

31.8.08

Y Côr Olaf ar ei Draed...

Fel teulu, dyni'n tueddi treulio rhan o nos sadwrn (mae'n drist dwi'n gwybod!) yn gwilio'r fath o raglen sydd bron yn traddodiadol bellach, sef y rhaglenni 'talent' di-ri. O'r holl rhaglenni sydd wedi eu cynhyrchu erbyn hyn, mae'n debyg roedd 'Last Choir Standing' y llwyddiant mwyaf annisgwyliadwy (os llwyddiant yr oedd hi ar ran ffigyrau gwilio? dwn i ddim) A dweud y gwir mae'n debyg mai 'Last Choir Standing' oedd yr unig rhaglen o'r fath hon sy'n wir am dalent, a nid yn bennaf am gael hwyl ar bennau y miloedd o 'eisiau-bod-iaid' sy'n fwy na barod i dderbyn unrhyw fath o gyhoeddusrwydd i gadw eu breuddwyddion ffôl yn mynd.

Un o'r pethau mwyaf anhygoel am y cyfres 'Last Choir' efallai, yw'r ffaith a welon ni ddau côr o Gymru yn y dau olaf, ac hynny allan o ganoedd wnath cystadlu. Mae 'na wirionedd yn y 'cliches' am Gymru efallai, mae'r 'Gwlad o Gân' wedi dangos rhyw dyfnder cerddorol sy'n bodoli o hyd, diolch yn bennaf i gyfunfrefn o gystadlu a pherfformio sy'n cael ei maethu trwy'r rhwydwaith o eisteddfodau.

O'r dau côr y y rownd terfynol, mi faswn i wedi hoffi gweld 'Ysgol Glanaethwy' yn dod i'r brig, mae'n well gen i gôrau o ferched a dynion, ac o'n i'n meddwl mi roddon nhw berfformiadau'n fwy gwefreiddiol ar y noson. Ond 'sdim ots, mi ennillodd 'Only Men Aloud' (neu 'Cantorion' i roi eu enw Cymraeg iddynt, er does fawr o saiwns o'r enw hon yn cael ei defnyddio o hyn ymlaen!), ond ennillodd brwdfrydedd y corau i gyd!

24.8.08

Cwm y Glo

Dyni newydd dychweled o bedwar diwrnod yng Nghwm y Glo, pentre bach rhwng Caernarfon a Llanberis. Mae'n ardal hyfryd tu hwnt, ac un ro'n i ddim yn cyfarwydd efo hi a dweud y gwir, wel ar wahan i ambell i daith drwyddi hi er mwyn cyrraedd rhyw mynydd neu'i gilydd. Mi gawsom ni i gerdded yn syth o'r bwthyn, i fyny'r bryniau tu gefn iddi, a gweld golygfeydd ysblenydd o'r Wyddfa a'r mynyddoedd eraill o'i gwmpas. Mi gerddon ni dros y topiau cyn disgyn lawr i Lanberis a thaith hynod o ddiddorol o gwmpas yr Amgeuddfa Lechi. Gyda'r glaw yn dechrau bwrw'n drwm, penderfynom ni anelu at orsaf Rheilffordd Llyn Padarn, er mwyn dal y tren i 'orsaf' bellach y lein cul sef 'Penllyn', llai na milltir o'n bwthyn bach. Yn ôl y dynes roedd ar ddyletswydd yn y 'swyddfa tocynnau', er roedd modd iddi gwerthu tocynnau un ffordd, doedd dim platfform yng nghorsaf Penllyn!! Pe taswn ni i ddewis adael y tren yn y fan yna, mi fasen ni'n gwneud y peth 'at our own risk', a nad oedd hi'n gallu dweud o sicrwydd bod 'allanfa' ar gael i ddianc yr orsaf rhyfedd honno!! Wedi sawl eiliad o oedi, mi wnaethon ni ein esgusodion cyn camu allan o'r cwt pren. Roedd hi'n bwrw hen wragedd a ffyn erbyn hynny, felly ar ôl cipolwg ar y map, a golwg ar y 'platfform' isel yng nghorsaf Llanberis, penderfynon ni 'gamblo' ar naid o'r dren i ansicrwydd 'steision' Penllyn, yn hytrach na tro gwlyb gyda'r merch yn grwgnach pob cam o'r tair milltir 'adre' (ond chwarae teg, roedd hi wedi cerdded tua wyth milltir erbyn hynny). Felly yn ôl â fi at yr 'cyntedd' bwcio i gwario'r £11.40 yr oedd cost y taith. Y tro yma wnes i siarad yn y Gymraeg (ro'n i ar ben fy hun), ac wrth lwc, ges i'r docynnau am £10.00, gostyngiad iethyddol 'diamod' (discretional) tybiwn i!! (dwi wedi clywed si am yr un peth yn digwydd yng nghaffi copa'r Wyddfa). Wedi chwater awr o grwydro'n hamddenol ar hyd glannau Llyn Padarn, cyrraeddon ni Benllyn, a gyda phawb ar y tren yn edrych yn syn arnon ni, mi neidiodd y pedwar ohonynt (yn cynnwys y ci) oddi ar y tren, cyn dweud diolch yn fawr i'r 'gaurd' a cherdded i mewn i wlybaniaeth y llwyni....

18.8.08

'Ryff Gaed'

Ces i gopi o'r 'Rough Guide to Wales' fel anrheg heddiw, sy'n amserol iawn gan ein bod ni'n mynd lawr i ardal Llanberis am ychydig o ddyddiau dydd mercher. Pob tro dwi'n gweld teithlyfrau am Gymru (mewn siop llyfr fel arfer), dyma fi'n ffeindio fy hun yn eu chwilota am son am y Gymraeg (neu diffyg son!). Faswn i wedi disgwyl i'r 'ryff gaed' tynnu sylw a dangos parch i iaith lleafrifol, a ces i mo fy siomi wrth bodio trwy'r cyfrol am tro cyntaf. A dweud y gwir teimlais roedd y teithlyfr wedi gor-bwysleisio cryfder sefyllfa'r Gymraeg trwy dweud pethau fel: 'magazines,newspapers and websites in the old language are mushrooming'. Mae'n amlwg mi gafodd y pennod am yr iaith ei sgwennu cyn i freuddwyd pabur dyddiol 'Y Byd' dod i ben. Dwi ddim yn gweld y sefyllfa 'ar y tir' yr un mor cadarnhaol a'r llyfr hon yn ei awgrymu, ond mae'n braf beth bynnag bod rhai ymwelwyr o leiaf yn dod i Gynru gyda dealltwriaeth am yr iaith a'r diwylliant sydd yn glwm iddi hi.

16.8.08

Wrecsam v 'Rushden a'r Diamwntiaid'

Gallai realaeth bywyd yn y 'Sgwâr Glas' dechrau brathu heddiw os nad ydy Wrecsam yn dod adre gyda rhywbeth o 'Irthlingborough' (dyna esboniad syml i enw'r clwb..) sef lleoliad tîm enwog Rushden & Diamonds. Mae'r Diamwntiaid yn hedfan yn uchel wedi dwy buddigoliaeth, felly bydd gan Wrecsam talcen galed i greu canlyniad ym Mharc Nene, ond mae'n rhaid ni fyw mewn gobaith. Wedi colled siomedig i fyny yng Ngaer Efrog nos iau, mae'n rhaid i'r Ddregiau cadw'r momentwm er mwyn denu torf i'r gêm gartref nesa', nos iau yn erbyn Rhydychen. Gyda dwy gêm arall oddi cartref i ddod ym mis Awst, mae'n well iddyn nhw ail-danio'r fflamau yn reit sydyn!

Tegeingl..

Mi aethon ni lawr i Glwb Rygbi'r Wyddgrug neithiwr i flasu Gwŷl y Tegeingl, gŵyl y werin cudd, sydd wedi ei threfnu gan griw brwdfryddig yr ardal yn sgil llwyddiant gigs Gymdeithas yr Iaith ar yr un un safle yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol 2007.

Mi welon ni dair artist, mae Steve Tilston yn cerddor profiadol a dawnus dros ben, ges i fy hudo gan ei dechneg ar y gitâr a gafodd o ymateb gwres iawn gan y cynulleidfa yn ei wylio ar y prif llwyfan. Wedyn mi glywon ni 'Fernhill', grwp gwerin 'Cymreig', sy'n creu sŵn diddorol gyda cymysgedd annarferol o offerynau. Mwynheuais sŵn y 'trwmped wedi ei miwtio', y ffliwt pren a llais pwerus a chlir cantores y band, ond roedd ambell i gan yn eitha hirwyntog a diflas i fi. Mi lwyddodd 'arweinydd' y noson i gynhyrfu'r dorf (roedd wedi crebychu braidd erbyn hynny) yn ddigon i denu'r band yn ôl i'r llwyfan am encore, ond erbyn hynny roedden ni'n barod am rhywbeth arall.

Mi ddoth honno i'r llwyfan mewn ffurf beichiog 'Martha Tilston', merch i Steve a chwaraeodd yn cynharach yn y noson. Yn syth mi deimlon ni wefr o'r llwyfan, dyma perfformwraig â phersonoldeb fawr ar y llwyfan. Mi fynnodd ei chaneuon eich sylw, ac wrth iddi hi gyflwyno ei chyd-gerddorion ifanc a blewog, mi gawson ni ein tynnu mewn i'w byd cerddorol hudol. Roedd y noson yn rhedeg ychydig yn hwyr erbyn hynny, felly roedd rhaid iddyn ni colli (gyda thristwch) hanner ei set. Roedd 'na awyrgylch braf ar y maes wrth iddyn ni gyfeirio at yr allanfa, gyda sŵn amrywiaeth o weithgareddau cerddorol yn dod ynghyd yn ei ganol.

Mae criw y Tegeingl wedi gweithio'n ddi-saib am fisoedd lawer i sicrhau llwyddiant yr Wŷl, gobeithiaf yn wir mi fydd y tywydd 'braf' yn parhau dros y sadwrn (rhywbeth sy'n gallu 'make or break' yn arianol gwyliau bach megis hon), ac mi fydd y niferoedd mae nhw'n haeddu eu cael yn heidio at y maes i weld yr amrywiaeth o artistaid talentog, a blasu hwyl y Gŵyl.

12.8.08

Dŵr Rhwyfwr...

Mae 'na declyn arall yn llenwi gofod prin ein tŷ ni heddiw. Y peth mewn cwestiwn yw 'Water Rower', sef periant rhwyfo sy'n defnyddio tanc o ddŵr gyda rhawffyn ynddi er mwyn creu gwrthiant. Dyni wedi cael ambell i declyn 'cadw'n heini' dros y flynyddoedd, gan cynnwys cwpl o beiriannau rwyfo eitha rhad, ond yn anffodus dydy hi ddim yn talu i brynu pethau o'r fath yn y tymor hir, fel mae'r hen ddwediad yn mynd: 'Prynu yn rhad, prynu dwywaith' (neu rhywbeth felly). Mae sawl cynhyrchwr o bethau felly siwr o fod yn dibynnu ar y ffaith bod y rhan mwyaf o beiriannu 'cadw'n heini' yn diweddu ei bywydau yn rhwdu yn dawel mewn cornel dywyll y garej, wedi dim ond ychydig bach o ddefnydd 'blin'.

Mae'r 'Water Rower' yn peirriant 'difrifol' (gyda phris difrifol hefyd!), sy'n addas i'r gampfa yn ogystal â'r tŷ yn ôl yr hysbyseb. Mae hi wedi cael ei wneud allan o bren onnen yn y bon, ac mae pethau i'w weld yn ddigon solet. Yn ogystal â hynny, mae'n posib ei gadw o ar ei ben mewn gofod tua'r un faint a chadair 'dining', heb fawr o ffwdan sy'n peth hanfodol i ni. Mae'r profiad o rwyfo dychi'n cael yn llawer mwy boddhaol hefyd, gyda dim ond swn y dŵr yn cael ei dasgu tu mewn i'r drwm glir gan y rhawffyn 'stainless steel', i'w clywed dros sŵn y rhwyfwr yn ceisio dal ei wynt..!

A dweud y gwir nid fi yw'r rhwyfydd mwyaf brwdfrydig y tŷ, y gwobr hon yn mynd i 'ngwraig sydd yn aml iawn i'w gweld yn gweithio allan. Dwi wedi bod o dan yr argraff gan fy mod i'n gwneud gwaith corfforol pob dydd does dim rhaid i mi wneud llawer arall, ond gyda fy mhedwardegau yn carlamu heibio, dwi'n dechrau meddwl rwan yw'r amser i ddechrau edrych ar fy ôl tipyn bach yn well, felly dwi wedi rhoi i'r neilltu cwpl o sesiynau pob wythnos i dreulio ar y 'Dŵr Rhwyfwr', edrych ymlaen...

11.8.08

Hardeep mewn diwylliant Cymraeg....

Mi glywais adolygiad raglen BBC2 am yr Eisteddfod ddoe, tra wrando ar sioe Radio Cymru Sian Thomas. Felly neithiwr mi es i ati i'w lawrlwytho a'i gwylio ar bbc i-player (gwasanaeth defnyddiol er andros o araf am ryw rheswm). Dwi'n hoff iawn o'r Albanwr 'Sikhaidd' Hardeep Singh, mae ganddo fo ardull sych, hamddenol, efo gallu i gymryd i 'mickey' o bethau mewn ffordd tyner, heb bod yn or-greulon megis sawl digrifwr.

Mi wnath o argraff drawiadol ar y 'Maes' mewn ei dwrban lliw 'pafilion', wrth iddo fo grwydro caeau Pontcanna yn siarad gyda eisteddfodwyr, wrth ei fodd yn ymarfer cyfarchion newydd ei dysgu gan Nia Parry. Mi wnath o ymdrech parchus i ynganu'r geiriau'n iawn, wrth siarad gyda amrywiaeth eang o bobl. Cryfder y sioe efallai (ar wahan i bresenoldeb Hardeep ei hun), oedd y nifer mawr o wynebau rhwngwladol gafodd Hardeep y cyfle i siarad gyda nhw, gan cynnwys Bryn Terfel, Connie Fisher, Cerys Maththews a Matthew Rhys, pobl mi gyfarchiodd Hardeep gyda gwres naturiol a diddordeb go-iawn. Ond pwysicach na'r pobl enwog oedd ar gael iddo fo, mi wnath o dynnu sylw at yr ieunctid, rhywbeth roedd yn amlycach eleni yn sgil y coroni o'r 'Baby Faced Bard', a gafodd Huw Stephens y cyfle i gyflwyno rhai o fandiau addawol o lwyfan Faes B.

Wnes i fwynhau'r sioe, un mi aeth allan dros Prydain Fawr ar BBC2. Mi gafodd Hardeep blas digon mawr ar ddigwyddiadau y brifwyl i wneud rhaglen deallus, doniol, sensatif, am sefydliad tydi'r rhan mwyaf ohonon ni ddim yn deall yn rhy dda.

Os wnaethoch chi ei fethu, ewch i bbc i-player lle mae'n ar gael am sbel i ddod, mae'n werth ei weld:

http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/b00d18bm/

10.8.08

y ddreigiau ar dan...

Mi gafodd Wrecsam y cychwyn gorau i'w tymor cyntaf yn 'Uwchgyngrair y Sgwâr Glas'(neu'r conference) ddoe. Dioddefodd Stevenage cweir go iawn, ond falle yn fwy pendant na'r canlyniad 5-0 roedd y nifer o ffydloniaid wnath troi i fyny, yn agos iawn at bump mil! Mi fydd hyn, yn ogystal a'r sgôr codi ofn ar y timau sy'n ymweled â'r Cau Ras dros y wythnosau i ddod.

Mae gen y cochion dwy gêm oddi gartref (yn dechrau nos iau yng Nghaer Efrog) i gadarnhau eu cychwyn disglair cyn croesawi Oxford (tîm dwi'n cofio yn yr hen 'First Division' yn eu dyddiau o dan ddylanwad pres amheus Robert Maxwell) i'r Cae Râs ar Awst 21ain. Erbyn hynny mi fydden ni'n gwybod os canlyniad 'ffrîc' yn unig mi welon ni dydd sadwrn! neu ddechreuad o ymgyrch go gry'...

7.8.08

camp ieithyddol Madison...

Nad yw'r enw Madison Tazu yn un rhwydd i'w anghofio, yn enwedig mewn gwlad o Jonsiaid di-ri. Ond ar ôl i'w champ iethyddol hi, prin iawn mai unrhywun ohonon ni sydd ymdrechu i gael gafael yn yr iaith hon yn debyg o angofio'r enw hyfryd am flynyddoedd maith. Mae'n dim ond cwta deg mis ers i Madison mynd ati gyda phenderfyniad cadarn i feistri'r Cymraeg cyn gynted â phosib, ac hynny yn ôl y son, ar ôl iddi hi cael ei gwahardd o ddosbarthiadau Cymraeg yn yr ysgol yn Aberteifi. 'Gwrthryfel' mi wnaeth hi yn erbyn y Gymraeg y dyddiau yna, ond wedi iddi hi symud o Gymru i Brighton a threulio peth amser yn crwydro o amgylch y planed, mi welodd hi'r werth yn ddiwylliant ei gwlad ei hun (wel y wlad a gafodd ei magu ynddi hi wedi ei geni yn Lloegr). Mae hi'n wir hanes anhygoel, ac o glywed safon ei Chymraeg mai'n sicr ei bod hi'n wir haeddu ei gwobr. Roedd safon y pedwar yn y rownd terfynol yn andros o uchel eleni, ac roedd hanes pob un yn diddorol a gwahanol, ond dwi erioed wedi clywed dysgwr yn siarad cystal wedi deg mis o ddysgu, llongyfarchiadau mawr iddi hi.

Fel gwrthgyferbyniad llwyr i gamp dysgwraig y flwyddyn efallai, mi welais i yrrwr tacsi yn siarad ar y newyddion am y cynnydd yn ei busnes dros wythnos yr Eisteddfod, ac yntau wedi bod yn disgybl yn ysgol Glan Taf rhai deng mlynedd yn ôl. Mi ddwedodd (yn ei 'Gymraeg' rwdlyd tu hwnt) roedd o wedi siarad mwy o Gymraeg dros y wythnos yma nag dros y deg mlynedd diwetha, tystiolaeth sy'n adlewyrchu'r realaeth ieithyddol y prif ddinas efallai, i sawl sydd wedi bod trwy addysg cyfrwng Cymraeg yna, ac rhywbeth dwi'n cyfarwydd gyda hi o Sir y Fflint.

21.7.08

Llyfr y Flwyddyn

Dwi wedi treulio peth amser dros y wythnos diwetha gyda fy 'mhen yn sownd mewn Llyfr 'W.T. Davies' a Gareth Miles, sef ennilydd Llyfr y Flwyddyn 08 ,Y Proffwyd a'i Ddwy Jesabel'. Mae gan y llyfr golwg andros o sober, a basai hynny fel arfer wedi fy atal rhag hyd yn oed sbio arno fo mewn siop, felly dwi'n andros o falch wnes i'w archebu dros y we heb ei barnu ar sail y clawr. Un eitha anwybodus ydwi ar ran digwyddiadau diwygiad 1904-1905 (er welais i ddrama amdanhi cwpl o flynyddoedd yn ôl), ond mae'r pwnc yn fy ymddiddori'n fawr iawn. Darn o ffuglen ydy'r llyfr hon (er mae gen i gywilydd cyfadde mi es i ar y we i ymchwilio hanes 'Ivor Lewis' diwigiwr y llyfr hon!), wedi ei seilio ar ddigwyddiadau a amgylchodd ddiwygiad Evan Roberts. Mae'r debygrwydd rhwng yr hanes go iawn a'r stori hon yn peri dryswch mewn darllenwr sy'n hanner cyfarwydd gyda'r stori, megis finnau, fel wnaeth y son o'r cyd-awdur 'W.T. Davies', a ysgrifenodd y 'darn' er mwyn ei cyhoeddi mewn papur newydd yr oedd o'n gweithio iddi hi. Am syniad! dyma fi'n ei llyncu'r peth yn gyfan gwbl, ond hyd yn oed heb syniad y 'ffug-awdur', mae'r hanes yn un diddorol dros ben, a'r ffaith mi wnes i'w darllen mewn llai 'na wythnos yn dystiolaeth plaen dros hynny. Mae'r Gymraeg yn eitha annodd i ddysgwr a dweud y gwir, ac roedd rhaid i mi fodio'r hen eiriadur mawr trwy'r amser, ond wnes i wirioneddol ei mwynhau. Mae cryn dipyn o'r hanes yn cael ei lleoli mewn plasty o'r enw 'Cambria View' fan'ma ar benrhyn Cilgwri (Ty Maer Lerpwl yn ôl y stori), ar ochr gorllewinol Wirral, ac mae 'na son o'r diwigiwr yn ymweled â'r ceidwad y goleudy ar Ynys Hilbre, Cymro Cymraeg.

Mae'n rhaid i mi ffeindio rhywbeth arall i lenwi fy mrêcs coffi rwan!

17.7.08

Hafana..



Cryno ddisg newydd Elin Fflur yw Hafana a gafodd ei rhyddhau y wythnos diwetha. Dwi'n meddwl mai llais ardderchog gan y cantores o Fôn , felly o'n i'n awyddus i gael hyd i gopi o'i albwm diweddaraf, rhywbeth mi wnes i yn y pendraw trwy Amazon (£11.99). Rhoddais Hafana'n syth ar y cyfrifiadur er mwyn fy ngalluogi ei drosglwyddo i'r i-pod, ac yn y modd hynny wnes i wrando arnhi hi yn y gwaith y pnawn 'ma.

Roeddwn i wedi clywed eisioes nifer o'r traciau ar y radio felly o'n i'n gwybod be' i ddisgwyl mewn ffordd. Mae Elin wedi sefydlu mwy o'i hardull ei hun ar yr albwm hon dwi'n credu. Mae hi'n arbennigwraig pen ei champ ar y 'power balad' Cymraeg, ond ar Hafana mae hi'n rheoli ei llais yn fwy ofalus dwi'n meddwl, rhywbeth sy'n cael ei arddangos yn dda yn yr 'ail-cymysgedd' o'i chân 'Cân i Gymru' o'r llynedd 'Arfau Blin'. Mae 'na rhyw ddebygrwydd rhwng nifer o'r caneuon, er gyda mwy o wrandawiadau fel arfer mae caneuon yn teimlo'n fwy unigryw, gawn ni weld. Ond ar ôl i mi wrando ar y cyfanwaith tair waith dwi'n falch wnes i'w prynu.

Trac ffefryn fi ar hyn o bryd yw 'Tywysoges Goll', gitar acŵstic hyfryd a llais angelaidd y cantores yn adrodd hanes Gwenllian, trac sy'n dal naws y clawr yn berffaith (llun a gafodd ei beintio gan Nain Elin Fflur).

O'r gorau, dwi'n hên 'prog rocker' canol oed, ond mae Hafana'n gwneud y tro i mi!

8.7.08

diolch..

Diolch yn fawr i bawb wnaeth sgwennu sylwadau cefnogol ynglŷn â fy mhost diweddaraf. Yndy Corndolly, dwi'n son am yr un David Jones dwi'n meddwl, gyda llaw, mae'n braf dod o hyd i flog Gymraeg arall, dwi'n edrych ymlaen at ddarllen mwy.

Dwi'n eitha flinedig ar hyn o bryd gan mod i wedi bod yn ceisio gwneud argraff ar y pentwr o waith papur, ffufrlenni ac ati, sy'n i weld yn anghenrheidiol y dyddiau 'ma, er mwyn gwneud unrhyw fath o weithgaredd megis dysgu. Gobeithio ga i bassio'r 'police check'...

6.7.08

her newydd

Dwi wedi derbyn her newydd eleni, hynny yw i weithio fel tiwtor Cymraeg i ddosbarth nos o ddechreuwyr pur. Er dwi'n nabod nifer o diwtoriaid eraill sy'n dysgwyr, mae'r cam hon yn teimlo fel un heriol iawn. Mae'r dosbarth nos mewn cwestiwn yn cael ei chynnal yn 'Ysgol Gramadeg Cilgwri i Ferched' (Wirral Grammar for Girls), a gafodd ei sefydlu cwpl o flynyddoedd yn ôl o herwydd y nifer o fyfyrwyr o Gilgwri oedd yn mynychu dosbarthiadau yn Sir y Fflint. Mae'r niferoedd wedi bod yn parchus iawn yn ôl pob son dros y dwy flynedd diwetha, felly mae David Jones y tiwtor presennol yn awyddus i ddarparu ail flwyddyn i'r rhai sydd wedi cwplhau'r un gyntaf. A dyma lle dwi'n ffitio mewn i'r cynllun, fel tiwtor i gymryd blwyddyn un. Gobeithiaf yn wir na chaiff y myfyrwyr eu siomi wrth weld 'sgowser' o'u blaenau nhw, a nid Cymro neu Gymraes Cymraeg. Er dwi'n ddigon hyderus yn fy Nghymraeg wrth siarad yn y dafarn ac yn ymlaen, petasai unrhywun i ofyn i mi gwestiwn lletchwith ynglŷn â gramadeg, mi fasai rhaid i mi ddiflannu mewn pentwr o lyfrau, neu well na hynny drws nesaf, lle fydd David yn dysgu yr ail flwyddyn! Edrycahf ymlaen at fis medi....

13.6.08

Hanes hudol y 'Madarch'

Dwi newydd dechrau nofel diweddaraf Dewi Prysor 'Madarch', llyfr sydd wedi bod allan ers nifer o fisoedd rwan, sy'n dilyn hynt a helynt y criw o gymeriadau a cafodd eu cyflwyno iddyn ni yn ei lyfr gyntaf 'Brithyll'. Wedi darllen 'Brithyll', roedd cael mewn i 'Fadarch' yn lot haws a dweud y gwir, wedi dod i arfer gyda ei syllafiadau 'tafodiaethol' a natur y cymeriadau, sy'n ymddangos i dreulio y rhan mwaf o'u bywydau o dan dylanwad alcohol a chymysgedd o gyffuriau, fel arfer ar yr un pryd..! Er dim ond chwater ffordd trwyddo fo ydwi ar hyn o bryd, mae'n andros o ddarlenadwy, felly dwi'n sicr o wneud cryn dipyn o symud ymlaen dros y penwythnos. Mae'n reit braf bod mewn sefyllfa o edrych ymlaen at godi llyfr eich bod chi'n hanner ffordd trwyddo. Wna i sgwennu mwy amdano ar ôl ei orffen

10.5.08

Guto a Boris... cyd-cysgwyr rhyfedd...?

Ces i fy siomi a dweud y gwir i ddarllen mai Guto Harri wedi ei benodi fel cyfarwyddwr cyfathrebu (PR) i'r Maer Llundain newydd, sef y cymeriad 'lliwgar' a dadleuol Boris Johnston. Dwi wedi clywed Guto dros y flynyddoedd yn cyfranu at raglenni Radio Cymru yn ogystal a'i waith blaenllaw gyda newyddion y BBC, ac wedi parchu ei newyddiaduriaeth an-rhagfarnllyd (mi fasech chi'n disgwyl dim llai o newyddiadurwr o'r fath). Erbyn hyn dyni'n gwybod ei wir lliw, hynny yw glas, ac yn waeth na hynny, glas 'Boris Johnstonaidd'. Mi fydd hi'n amhosib iddo fo mynd yn ôl i weithio fel newyddiadurwr o'r un fath, ond falle mae ganddo fo uchelgeisiau i fod yn wleidydd yn ei hawl ei hun, mae'n debyg iawn pe tasai o i lwyddo cadw Boris ar denyn, mi fasai David Cameron yn ei ddyled o ddifri! Gyda lliwiau Guto wedi ei hoelio yn sownd i'r hwylbren erbyn hyn, synnwn i ddim i weld enw Guto'n cyrraedd rhestr ymgeiswyr rhyw sedd i'r toriaid rhywbryd yn y dyfodol...

3.5.08

yr iaith ar waith

Dwi wedi bod yn gweithio i gwsmer draw yn Sir y Fflint y wythnos hon, rhywun wnes i gysylltu yna trwy'r sesiynau sgwrs dwi'n mynychu. Mae'n gwefr i mi fod yr holl jobyn, o'r trafodaethau cyntaf wedi cael eu gwneud trwy cyfrwng y Gymraeg. Dydd iau, pan o'n i'n gweithio 'on site' fel petai, wnes i siarad gyda chwech o bobl yn ystod y dydd, a dim ond unwaith wnes i ddefnyddio Saesneg, ac hynny yn bennaf gan mod i'n siarad gyda gyrrwr 'fan', a digwydd dod o Fanceinion!

Mae'n drueni nad ydwi'n cael mwy o ddydiau fel hyn, lle mae'r Gymraeg yn rhan naturiol o batrwm bywyd. Mea'n hawdd gweld sut mae pobl sy'n symud i wledydd tramor yn llwyddo codi ieithoedd yn weddol sydyn, wel os mae ganddyn nhw'r awch a digon o gyswllt dydd i ddydd i'r cymuned eu bod nhw yn byw ynddi hi.

Ond ar y cyfan roedd hi'n wythnos lle defnyddiais i fwy o Gymraeg na ddefnyddiais erioed o blaen, gyda'r noson cwis misol yn digwydd ar y nos fercher yn y Castell Rhuthun Yr Wyddgrug, a themlais roeddwn i wedi gwneud cryn gwelliant dros y wythnos. Dwi'n edrych ymlaen at gario ymlaen wythnos nesaf, ac i ambell i sgwrs Cymraeg arall wrth fy ngwaith...

29.4.08

Dim Byd...

Fel arfer dwi'n croesawu siec yn y post, ond mi rodd yr un a derbyniais i ddoe dim blesur i mi o gwbl. Siec gan 'Y Byd' dwi'n son amdanhi, am y swm mi anfonais atyn nhw tua flwyddyn yn ôl fel tanysgrifiad. Darllenais i rywle mai Cwmni 'Dyddiol' yn ystyried cynlluniau eraill... falle papur wythnosol... pwy a wŷr? Mi fasai'n braf cael weld rhywfath o gyhoeddiad fel canlyniad i'r holl ymdrechion dros y flynyddoedd, ond falle na ddylswn i fod mor fol ag i roi ffydd yn y cwmni 'to, yn enwedig ar y ddiwrnod pan dychwelodd fy 'mhuddsoddiad'.

8.4.08

Wedi Tri

Fel gwiliwr cyson o Wedi 7, ges i gyfle angyffredin i wilio Wedi 3 heddiw. Digwydd bod o'n i'n gwneud tipyn o beintio adre a phenderfynais troi'r teledu ymlaen tra sipian panad o goffi. Wedi ychydig o ffidlan gyda'r rimôt er mwyn osgoi'r sianeli siopa ac hen gyfresi ditectif mi ddes i o hyd i raglen Cymraeg, ac yn well byth un sydd yn mynd allan yn fyw. Wedi ychydig o drafod gyda Dr Ann ynglŷn â rhyw afiechyd heb wellhad, a sesiwn coginio cystal ag unrhywun a gafodd ei wneud ar 'This Morning' roedd na beryg go iawn o'r peintio'n dod i ben am y ddiwrnod. Ond na, gyda "Bydd Wedi 3 yn ôl mewn tri" yn atseinio yn fy nglustiau, mi ddoth yr hysbysebion i fy nhynnu i allan o stad dioglyd. Felly edrychaf ymlaen at y tro nesaf dwi'n adre dros y p'nawn, at ddal i fyny gyda Dr Ann a'i afiechydon di-ri...

5.4.08

ymdrech....

Y dyddiau yma, does gen i fawr o awch i dreulio llawer o amser o flaen y sgrîn bach hon. Falle dwi wedi laru gyda'r holl technoleg, dwn i ddim, neu falle mae'r nofelti jysd wedi diflanu? Mae hynny'n rhywbeth rhyfedd i ddweud dwi'n gwybod. Deng mlynedd yn ôl, ni allwn i wedi dychmygu y ffaswiwn newidiadau yn y byd technoleg. Cyfrifiaduron mor bwerus ac yn mor rad, gluniaduron mor dennau!, ffônau sy'n gwneud pob dim onibai panaid o dê, y we! (o'r gorau, o'n i'n dipyn bach yn hwyr yn darganfod pethau cyfrifiadurol yn gyffredinol). Mae'n ymdrech go fawr pob tro erbyn heddiw mynd ar-lein er mwyn gwirio fy e-byst... falle oherwydd y ffaith sbam ydyn nhw yn y bon..., ond gobeithio'n wir ydwi dim ond cyfnod dros dro, neu 'ffês'ydy hyn. Mae'r we yn rhywbeth gwyrthiol i'r rhai ohonyn ni sy'n cofio bywyd di-gyfrifiadurol (doedd dim cyfrifiaduron gyda fy ysgol i o gwbl, ond gafodd y genod cyfle i ddysgu teipio!!), ac er mae'n anochel mi fydden ni'n cymryd unrhywbeth yn ganiataol wedi cyfnod, dwi ddim eisiau teimlo mor flinedig gyda theclyn mor ddefnyddiol. Onibai am y we, mae'n anhebyg mi faswn i wedi mynd ati i ddysgu'r iaith 'ma, heb son am lwyddo i gael rhyw fath o grap arnhi hi!

Wel tan y tro nesa mi alla i wneud yr ymdrech i logio ymlaen...hwyl