11.4.05

steddfod 07....mae'r dadlau'n parhau

Wel mae'r dadlau'n y cyfrwng wedi ail-dechrau am 'sgowsteddfod' yn 2007. Erbyn hyn, gan fod Sir y Fflint wedu tynnu eu hun allan o'r 'ras', (dwn i ddim os mae ras yw'r gair cywir...) does gan pwyllgor y steddfod dim lot o ddewis.
Er oeddwn i'n fwy cefnogol o gais Fflint na'r un Lerpwl (pan roedd 'na dewis), bellach dwi'n cynhesu braidd i'r syniad o wyl yn Parc Sefton. Mae'n lleoliad braf iawn, efo'i 'ty palm' fendigedig sydd newydd cael ei hatgyweirio. Does gan pobl y Gogledd dim problem yn teithio at Glannau Mersi pob wythnos er mwyn gwilio'r peldroed (mae Cymru hyd yn oed wedi chwarae ambell gem peldroed 'adre' yn y Dinas), pam lai 'steddfod?

Fasai'n penderfyniad dewr gan pwyllgor y steddfod i'w derbyn gwahodd Cyngor Lerpwl, yn enwedig gan fod carfan o Gymry Lerpwl wedi gofyn iddyn nhw peidio, ond mae eu dewisiadau nhw'n diflannu o flaen eu llygaid.
Diddorol dros ben.