28.4.09

Cymhlethdodau....

Mae hi wedi bod yn wythnos eitha hectig a dweud a gwir, a dwi ddim wedi cael llawer o amser i flogio neu gwneud dim byd ar wahan i weithio a thrio cefnogi fy ngwraig, am fod ei thad hi wedi bod yn yr ysbyty yn ddifrifol sal. Erbyn hyn mae o wedi setlo ac mae pethau'n edrych ychydig yn well, ond mae o'n sicr o fod yna am sbel i ddod, felly mi fydd 'na lawer o yn ôl ac ymlaen i wneud dros y wythnosau nesaf hefyd. Mae'n penblwydd wyth deg fy nhad dydd iau hefyd, felly dani'n edrych ymlaen at bryd o fwyd mewn gwesty lleol er mwyn helpu fo ddathlu achlysur mor arbennig.

Wnes i fy nosbarth nos heno, gobeithio wnes i'n o lew, roeddwn i heb wneud mawr o ddarparu. Mae'r ffaith bod y cwrslyfr yn dysgu 'es i, ces i, ddes i, ac ati, a'r Big Welsh Challenge yn defnyddio 'wnes i fynd, wnes i gael, wnes i ddod' wedi peri ychydig o dryswch, heb son am y ffaith bod un o'r dosbarth yn dysgu'r cwrs OU sy'n defnyddio'r ffurf mwy ffurfiol i fynegi'r gorffenol. Wnes i ddim meiddio crybwyll bod 'na ffordd arall, sef 'ddaru', o newid berf i'r gorffenol! Mae'r hen iaith yma yn gallu eich drysu weithiau tydy! er mae Saesneg yr un mor gymhleth mae'n siwr, wel dyna be dwi'n dweud i'r dosbarth, er dwi heb eu argyhoeddi nhw o hynny eto!

21.4.09

Bathodynau a ballu....

Wedi tair wythnos rhwng y dosbarth olaf a'r un heno, o'n i'n falch o weld ystafell llawn o fy mlaen. Wedi tipyn bach o adolygu o'r pethau ro'n ni'n gwneud cyn y Pasg, mi aethon ni ymlaen i ddechrau y 'gorffenol', hynny yw 'wnes i' ac ati. Mi wnath David JOnes awgrymu dylsen ni'n dilyn Cymraeg y cwrslyfr, hynny yw 'mi es i' yn hytrach na 'wnes i fynd', rhywbeth dwi'n clywed fy hun yn dweud yn amlach y dyddiau yna ( a ffurf a defnyddwyd yn 'Y Big Welsh Challenge'), felly mae'n well i mi ddilyn ei gyngor, gan fod 'na siawns mi fydd fy nhosbarth i'n cael eu tiwtora ganddo fo yn yr ail flwyddyn!

Mi gyflwynais rhai o wersi 'Say omething in Welsh' yn ystod y nos, ac mae'n rhaid i mi ddweud mi gawson nhw dderbyniad weddol dda. Dwi'n sicr o fynd yn ôl atyn nhw mewn gwersi eraill, a gobeithio mi fydd rhai yn y dosbarth yn eu defnyddio rhwng y dosbarthiadau.

Mi gafodd pawb yn y dosbarth un or bathodynau 'dwi'n dysgu Cymraeg' newydd, felly gawn ni weld os mae nhw'n gwneud unrhyw gwahaniaeth i'r rhai sydd wedi trio (heb fawr o lwyddiant) defnyddio eu Cymraeg efo Cymry Cymraeg....

18.4.09

Taith Anfield

Mi aethon ni ar daith o stadiwm Anfield y bore 'ma, a phrofiad gwerthchweil yr oedd hi i rywun efo diddordeb yn y 'gêm hardd'. Dechreuodd y taith wrth mynedfa'r chwaraewyr o dan brif eisteddle'r stadiwm, mynedfa a gafodd ei addasu wedi ymosodiad wyau ar reolwr Man Utd rhai flynyddoedd yn ôl. Dwedodd ein tywysydd mi gafodd yr unigolyn wnath lluchio'r tafledigion hirgron ei siarsio efo 'diffyg gallu taflu'n gywir' ....! dim ond y gyntaf o sawl jôc am brif gelynion Lerpwl.

Wedi ymweliad â'r ystafeloedd newid (yn syfrdanol o blaen ac 'anfoethus'), mi aethon ni o dan yr arwydd enwog 'This is Anfield' at ochr y cae, a'r seddi ar gyfer y rheolwr, ei garfan o hyfforddwyr, eilyddion a ballu. Wedi siawns i bawb cael tynnu llun yn eistedd mewn cardair Rafa Benitez, mi aethon ni ymlaen at 'y Kop', lle disgrifiodd y tywysydd yr hen drefniadau ar ran ateb galw natur tra sefyll efo 30,000 o bobl o'ch amgylch chi. Does dim ond rhaid dweud gafodd llawer o baburau newydd eu gwerthu cyn pob gêm a ni chafodd sawl un eu darllen, a nad oedd hi'n syniad da i wisgo dy sgidiau gorau ar risiau'r Kop....

Ar ôl ymweled â'r siop, mi aethon ni i Amgeuddfa Anfield, arddangosfa diddorol iawn yn dilyn hynt a helynt y clwb o'r dyddiau gynnar i'r presennol, casgliad yn wirioneddol diddorol i gefnogwr Lerpwl, neu genogwyr peldroed yn gyffredinol.

Ar y ffordd o'r stadiwm wnaethon ni basio cofeb Hillsborough, a chawsom ni ein syfrdanu gweld cymaint o flodau yna, canoedd o fwnsiaid ohonynt, teyrnged addas iawn i'r penblwydd trist sydd newydd bod.

14.4.09

penblwydd llawn tristwch...



Mae'n annodd credu bod hugain mlynedd wedi pasio ers i drychineb Hillsborough digwydd. Dwi'n cofio'r ddiwrnod yn glir, roedden ni'n digwydd bod yn aros efo ffrind mewn carafan yn Harlech. Roedden ni wedi bod allan am dro ar y traeth, ac ar ôl iddyn ni ddychweled i'r carafan dyma ni'n troi'r teledu ymlaen i weld y gêm, ond wrth cwrs wnaethnon ni ddim gweld gêm, dim ond sawl aelod o'r torf yn cael eu gwasgu yn erbyn ffens 'diogelwch', a chyrff y meirw, a'r rhai efo anafiadau difrifol yn cael eu cludo i ffwrdd o'r cae ar gefn byrddau hysbysebion gan eu cyd-cefnogwyr. Roedd hi'n oriau cyn ddaeth gwir faint y drychineb i'r amlwg, ac doedd neb yn gallu coelio'r peth mewn gwirionedd, efo 96 o gefnogwyr Lerpwl wedi eu lladd ar ddiwrnod heulog oedd i fod yn ddathliad o beldroed ar ei gorau.

Er gwaethaf y blynyddoedd mawr sydd wedi mynd heibio, mae'r creithiau'n dal i fod yn boenus i'r teuleuoedd a gollodd annwyliaid yna, a dwi'n cael fy atgoffa pob tro mod i'n mynd i'n mynwent lleol i ymweled â beddau aelodau'r teulu. Yn fan'na, yn goch a gwyn i gyd yw bedd un o'r 96, a'r cofeb taclus a lliwgar i'w fywyd byr.

Cafodd neb eu cosbi dros Hillsborough (er mae'n sicr wnaeth nifer o benderfyniadau annoeth arwain at y canlyniad trychinebus), dim ond y cefnogwyr druan wnaeth colli eu bywydau, heb gofio'r miloedd oedd yn dystion i'r golygfeydd arswydus a'u teuleuoedd a'u ffrindiau. Mae sawl wedi eu amau o fod yn gyfrifol dros y degawdau, FA Lloegr, yr heddlu, hyd yn oed y cefnogwyr eu hun, er mawr cywilydd gan bapur newydd y 'Sun'. Hyd heddiw mae gwerthiant y tabloid unsillafog ar Lannau Mersi'n dim ond deg y cant o'r hyn yr oedd hi cyn i Kelvin McKenzie sgwennu ei eiriau gwenwynig am gefnogwyr Lerpwl. Mae'r ffaith bod cefnogwyr Everton wedi sefyll yn sownd ochr wrth ochr efo cefnogwyr Lerpwl ynglŷn â hyn yn dweud cyfrolau.

Ond trwy Hillsborough, a'r adolygiad a ddaeth yn ei sgil, mae stadia dros y Deyrnas Unedig wedi eu gwneud yn fwy diogel, a ni ddylai trychineb o'r fath digwydd eto, gobeithio'n wir...

11.4.09

fy nghyfaill newydd....



Mi aethon ni dros y dŵr heddiw er mwyn cyfarfod dynion dur Antony Gormley, sef y cerflun(iau) rhyfeddol o'r enw 'Another Place' sy'n sefyll ar hyn o bryd ar draeth Crosby ar gyrion dinas Lerpwl. Roedd y tywydd yn hyfryd a chawsom ni dro braf ar dywod aur glannau'r Mersi yn mynd o un corff dur i'r llall, ac mae na ddigon ohonynt i'w gweld, rhai gant dwi'n credu, yn ymestyn dros tair cilomedr o'r traeth. Dwn i ddim be i wneud o'r cerflun a dweud y gwir, ond heb os mae nhw wedi dennu miloedd ar filoedd o ymwelwyr i'r ardal i sythu mewn syndod a sylwebu.



Un o'r dynion dur Gormley yn edrych ar gwch 'tug' yn gadael y Mersi


Mae'n anhygoel dod o hyd i draeth mor braf dim ond tafliad carreg o borthladd 'container' enfawr Seaforth, ac mae'r tywyni tywod yn para am filltiroedd lawer hyd at Southport a thu hwnt. Fel cefndir ysblenydd i'r celfyddyd awyr agored, roedden ni'n gallu gweld mynyddoedd Eryri, gan cynnwys Copa'r Wyddfa a sawl arall.

10.4.09

wps....

Mi wnaeth Gary Owen tipyn o gamgymeriad heno wrth darllen bwletin y newyddion. Tra ddarllen y canlyniadau chwaraeon, dyma fo'n dweud "Huddersfield six" cyn cywiro ei hun yn sydyn iawn a dweud "chwech". Mae'n gwneud i mi deimlo'n well i glywed darlledwr mor brofiadol cymysgu ei ieithoedd fel hyn, rhywbeth dwi'n ffindio fy hun yn gwneud o dro i dro. Yn ddiweddar dwi wedi clywed fy hun yn dweud 'neges' yn hytrach na 'message' tra siarad Saesneg am rhyw rheswm...

9.4.09

Barn...

Wnes i dderbyn copi am ddim o gylchgrawn Barn y bore 'ma (gan mod i wedi cytuno i danysgrifio) ac mae rhaid i mi ddweud bod golwg y peth yn ddigon deniadol. Mae'n flynyddoedd ers i mi weld copi ohono fo, dwi'n cofio gweld ambell i gopi yn nhŷ fy Nain a Thaid yn ôl yn y saithdegau, ond prin iawn faswn i wedi darogan gweld fy hun yn darllen yr un cylchgrawn rhai 35 o flynyddoedd yn ddiweddarach, ac yn ei ddeall!!

Mae na golofnwyr diddorol ymlith y rhai sy'n cyfrannu at gyfrol digon swmpus. Chris Cope o'r 'blogysawd' Cymraeg, Gareth Miles ac Elin Llwyd Morgan, dau awdur dwi wedi mwynhau eu llyfrau nhw, Dot Davies o Radio 5 efo'r chwaraeon a Richard Wyn Jones yr hanesydd cyfarwydd i wilwyr S4C. Fel y cyfriw felly 'lein yp' cryf efo digon o amrywiaeth i rywun pori drosti hi am y fis rhwng pob cyhoeddiad.

6.4.09

Bathodynnau




Dros y blynyddoedd dwi wedi bod yn berchen i ambell i fathodyn 'dwi'n dysgu Cymraeg', ges i un gan Bwrdd yr Iaith, ac mi ddoth un arall o 'Acen' os cofiaf yn iawn. Mae gen i un o hyd efo dim mwy na 'logo' newydd Bwrdd yr Iaith arno, un neis enamel ydy o a dylwn i'w wisgo, ond fel arfer dwi'n methu cael hyd iddo fo pan dwi ei eisiau fo, mor anhrefnus ydw i!!

Felly pan soniais i'r dosbarth nos am y bathodynnau yn ddiweddar, ro'n i'n ffyddiog o lwyddo ffynhonellu rhai ohonynt ar gyfer y dysgwyr heb fawr o drafferth. Wnes iw crybwyll nhw i Rhian o Fenter Sir y Fflint, ond nad oedd hi'n credu roedd gynnon nhw'r un ar ôl, ond wedi ychydig o ymchwil ar y we, penderfynais mynd ati i darlunio cynllun syml fy hun (wedi fy ysbrydoli gan weld crysiau T ardderchog Emma Reese!) ac archebu 'batch' o fathodynau ar gyfer y dosbarth fel anrheg bach cyn diwedd y cwrs. Mae 'na gymaint o gwmniau erbyn hyn yn cynnig gwasanaeth cynhyrchu bathodynnau o dy gynllun dy hun roedd hi'n annodd dewis un, ond yn y pendraw dewisias un or enw 'badges for bands' sy'n cynnig prisiau rhesymol dos ben (gawn i weld safon ei gwaith cyn diwedd y wythnos...gobeithio), ac sy'n gwireddu dy gynllun o fewn dyddiau!

Mae'r darlun yn eitha syml, ond dwi'n gobeithio mi fydd y 'D' coch yn sefyll allan ac yn helpu tynnu sylw y siaradwyr Cymraeg sy'n fodlon helpu dysgwyr. Mi gafodd un o'r dosbarth profiad digalonus ychydig o wythnosau yn ôl pan wnath bron pob un Cymro/aes Cymraeg wnath hi fentro siarad Cymraeg efo nhw yn troi'n syth i Saesneg, felly dyna pam wnes i grybwyll gwisgo bathodyn, er mwyn rhoi siawns iddyn nhw dod at y dysgwyr...gawn ni weld....

3.4.09

mater o Farn....

Ges i alwad ffôn gan Alaw y bore 'ma, cyn swyddog Menter Iaith Sir y Fflint sy'n bellach yn gweithio i 'Momentwm', cwmni cysylltiadau cyhoeddus. Roedd Alaw yn hel tanysgrifwyr i gylchgrawn 'Barn', swydd eithaf annodd mi faswn i'n meddwl, yn enwedig o ystyried y sefyllfa arianol sydd ohonyn ni. Fel mae'n digwydd, ro'n i wedi bod yn ystyried tanysgrifio i 'Barn' ers sbel, ar ôl i mi ddarllen mai Chris Cope yn un o'u cyfranwyr cyson, yn ogystal a Gareth Miles ac Elin Llwyd Morgan, ac fel a bwyntiodd allan Alaw, mae'n annodd dod o hyd i gylchgronnau o'r fath yma yn Lloegr, felly mae tanysgrifio'n gwneud synnwyr. Felly edrychaf ymlaen at dderbyn fy nghopi cyntaf cyn bo hir, ac i ehangu fy mhrofiad o ddarllen yn y Gymraeg....

2.4.09

cwis.... y dosbarth nos

Maen annodd credu, ond dwi wedi cwblhau dros y deuparth (dwy rhan o dri)fel tiwtor o'r cwrs mynediant. Mae gynnon ni pythefnos o wyliau y Pasg cyn dychweled am wyth wythnos rhagor o wersi. Dychrynllyd yw'r unig gair i ddisgrifio pa mor sydyn mai'r misoedd wedi mynd heibio. Dwi'n sicr mi fydd rhai o'r criw yn ôl am fwy o 'gosbedigaeth' flwyddyn nesaf, i rai mi fydd y flwyddyn yma wedi bod dim ond dechreuad i daith eitha hir, i eraill diddordeb tymor byr falle, pwy a wir. Os ga i fy ngalw yn ôl, ffindia i allan!

Am noson olaf y tymor hwn, o'n i wedi trefnu cwis bach. Ro'n i'n poeni braidd amdanhi, ond mi aeth popeth yn iawn yn y diwedd. Mi holltais y dosbarth mewn tri tîm o bedwar, a 'powerbwyntiais' y cwestiynau ynghyd â'u adrodd. Roedd y cwestiynau wedi cael eu sgwennu mewn ffurf a dylien nhw wedi deall (pe tasent wedi cofio popeth o'r cwrs hyd yn hyn!!), ac efo pedwar pen yn gweithio ynghyd, mi lwyddodd y timau i ddeall y rhan mwyaf o'r hugain cwestiwn am wybodaeth cyffredinol a Chymru. Mi fydd rhaid i mi wneud yr un fath o cwis unwaith eto cyn diwedd y cwrs, er mwyn cadw'r hwyl, ac a dweud y gwir trist, wnes i fwynhau ei sgwennu!!