29.10.11

dau adeilad, dau hanes....

Agorwyd 'Bethel' yn Heathfield Rd, Lerpwl ym 1927. Gafodd ei godi fel cartref newydd i gynulleifda Capel Webster Rd, ac efo lle i 750 o bobl.  Roedd hyn yn adeg llewyrchus iawn i Gymry Glannau Mersi, penllanw cymdeithas Cymraeg Lerpwl, a chyfnod a welodd ymweliad arall gan yr Eisteddfod Genedlaethol i ddinas Lerpwl (1929), a hynny'r tro olaf i'r Prifwyl gadael tir Cymru.

 'Bethel', Heathfield Rd. Lerpwl
Chwech mlynedd yn ddiweddarach (1933) agorwyd 'y Tudor' yn West Kirby, sinema a theatr efo lle i 1100 o bobl.  Buodd theatr fictorianaidd ar yr un safle o'r enw 'The Queens', ond codwyd y Tudor ar yr un safle ar ol iddo gael ei ddinistrio gan tân.  Cymysgedd nodweddiadol o bensaerniaeth Art Deco a 'Thuduraidd ffug' oedd y Tudor, a gafodd ei gynllunio mae'n debyg i adlewyrchu arddull adeiladau du a gwyn eraill West Kirby.


Y 'Tudor' yn y 1960au hwyr
Erbyn y chwedegau roedd cymdeithas Cymraeg Lerpwl ar ei lawr, gyda sawl capel yn cau eu drysau (neu uno gyda chapeli eraill) a chynulleidfaoedd y gweddill yn mynd yn hynach.  Ar ol y rhyfel roedd 'na ostyngiad sylweddol yn y nifer o Gymry Cymraeg yn symud i lannau Mersi, hynny yw'r rheiny oedd wedi cynnal y capeli dros ganrif a mwy.  Yn ogystal a hynny roedd yr iaith ei hunan yn brwydro i dal ei thir yng Nghymru, ac roedd capeli hyd yn oed yna yn stryffaglu yn sgil newid cymdeithasol enfawr.

Roedd cynulleidfaoedd sinemau ar eu lawr hefyd yn ystod y 60au (yn sgil newid cymdeithasol enfawr arall sef dyfodiad y teledu i bron pob cartref), ac mi gauwyd nifer mawr.  Dyna fuodd hanes y Tudor, a chyflwynwyd y ffilm olaf yn West Kirby ym 1965.  Ailagorodd am gyfnod fel neuadd Bingo cyn cael ei droi yn fwyty gyda thema ffilmiau o'r enw 'GoodTimes'.  Maes o law mi ddaeth ei gyfnod fel bwyty i ben, ac mi drodd yr adeilad yn 'arcade' siopa.  Aflwyddiant oedd y fenter honno, ond gafodd ei addasu i fod yn swyddfeydd i'r cyngor lleol.  Gadawodd y cyngor tua 7 mlynedd yn ol bellach, yn gadael i'r Tudor druan pydru yn y fan a'r lle.


 dymchwelwyr yn dechrau tynnu Bethel lawr (2011)
Erbyn y 90au mae'n ymddangos roedd 'Bethel' yn llawer rhy fawr i anghenion aelodaeth y capel.  Er mwyn i'r achos goroesi yn Lerpwl, roedd angen meddwl o ddifri am yr opsiynau, gan gynnwys gwerthu'r prif adeilad a defnyddio rhan arall o'r capel yn ei le.  Mae'n syndod efallai, ond nad oedd 'Bethel' yn adeilad rhestredig, er gwaethaf ymdrechion y 'Wavertree Society', sy'n brwydro cadw cymeriad pensaerniol yr ardal.  Buodd Bethel tirnod amlwg yn Wavertree am dros 80 mlynedd, ond methiant oedd yr ymdrechion i ddod o hyd i ddefnyddwyr arall.  Yn ol y ffigyrau dim ond rhai £60,000 o waith cynnal a chadw oedd angen arno, sydd ddim yn swm enfawr o ystyried faint ac oedran yr adeilad, sy'n wneud ei golled yn waeth rhywsut.   Dymchweliad felly oedd diwedd trist i un o symbol olaf Cymreictod Lerpwl, ond mi fydd achos 'Bethel' yn parhau mewn capel modern a lot llai sydd newydd cael ei agor ar ddarn o'r un safle.  Caiff gweddill y safle ei werthu a datblygu fel fflatiau yn ol pob son.


y 'Tudor' yn diflanu yr wythnos yma,
ond wnaiff y facade goroesi o leiaf

Draw yn West Kirby roedd cwmni Aldi wedi bod yn llygadu safle'r Tudor.  Wnaethpwyd cais i godi archfarchnad yno a chyhoeddwyd lluniau hardd o'u cynlluniau gan gynnwys facade Tuduraidd y Tudor fel prif fynedfa i'r siop arfaethedig.  Derbyniodd y cynllun croeso gwresog yn y bon, gan y cyngor a'r cyhoedd, ond erbyn i'r cais cynllunio cael eu cyflwyno doedd dim arwydd o'r hen sinema!   Yn wahanol i gapel Bethel, roedd y Tudur yn adeilad rhestredig, a mynodd y cyngor bod facade yr adeilad (o leiaf) yn cael ei gadw.  Er gwaethaf safiad Aldi bod archwiliad wedi darganfod gwendid strwythyrol yn facade y Tudur a fasai'n gwneud iddo fo yn rhy gostus i'w gadw,  mi fynnodd y cyngor eu bod nhw'n cadw at eu cynllun gwreiddiol. 
Dros yr wythnos diwetha maen nhw wedi bod wrthi'n ddymchwel y rhan mwyaf o'r Tudur, ond o leiaf mi fydd darn yn goroesi fel rhan o'r archfarchnad.  Ond mae'n siom efallai na lwyddodd yr awdurdodau yn Lerpwl cyrraedd y fath cyfaddawd.... 




22.10.11

Hwyl fawr Wooly....

Y gig go iawn cyntaf i mi fynychu erioed oedd yn y Liverpool Empire.  Does dim byd tebyg i'r profiad o glywed swn band roc yn perfformio am y tro cyntaf, a hynny mewn awyrgylch trydanol theatr dan ei sang.  Er nad oedd y band y roedden ni'n eu disgwyl yn un ffasiynol erbyn 1978 (os erioed!), roedd gan Barclay James Harvest dilyniant cadarn, ac roedd yr Empire wedi 'gwerthu allan' ar gyfer eu hymweliad blynyddol fel arfer.


Ro'n i wedi baglu dros gopi fy chwaer o 'Time Honoured Ghosts' (Polydor 1975) a dweud y gwir cwpl o flynyddoedd yn gynnharach, wrth bori trwy ei chasgliad o LP's, a ches i fy nenu yn syth gan lun trawiadol y clawr i (sy'n fy atgoffa i o dirlun Ddyffryn Clwyd),  a maes o law gan y casgliad o ganeuon bachog â harmoniau persain y band o Sir Caerhirfryn. Erbyn iddyn nhw recordio'r albym hon yn Los Angeles, roedden nhw wedi rhoi'r gorau i deithio a recordio efo cerddorfa llawn (cyfnod arbrofol a gofnodwyd ar eu halbyms cynnar i label 'prog rock' EMI 'Harvest').  Serch hynny roedd trefniadau 'cerddorfaol' yn amlwg o hyd ar ambell i drac, diolch i 'Melotrons' a Hammond Stuart 'Wooly' Wolstenholme, a'i gyfansoddiadau 'bugeiliol', pryddglwyfus.     Syndod felly oedd darganfod bod Wolstenholme, a nid un o'r brifleisydd, oedd 'personoliaeth' y band ar y llwyfan, a'r un a fasai'n llenwi'r bylchau rhwng y caneuon gyda ffraethineb annisgwyl.   Wnaethon ni adael y theatr y noson honno gyda syniau'r encore olaf yn atseinio yn ein glustiau, a blas am gigiau byw.  Dros y cwpl o flynyddoedd nesa mi welon ni nifer o 'fwystfilod prog roc' yn yr Empire, ond roedd eu hamser yn dirwyn i ben, ac roedd ton newydd yn brysur eu ysgubo i'r neilltu. 

Cododd 'wahaniaethau cerddorol' mewn sawl band, wrth iddyn nhw geisio (yn ofer gan amlaf) addasu.   Mae'n debyg roedd hyn yn ormod i'r hen Wooly, a gadawodd BJH tua '79 wrth i'r band newid cyfeiriad a dilyn llwyddiant masnachol ar y cyfandir.  Digwydd bod mi welais Wolstenholme (a'i Felotrons!) unwaith eto, ond y tro yma yn hyrwyddo albym 'solo' fel cefnogaeth i daith Judy Tzuke yn 1980,

Byddai fy ngwybodaeth am hanes Wooly wedi dod i ben yna a dweud y gwir, hynny yw onibai am wyrth y we!  Des i o hyd i weddill ei hanes yn ddamweiniol mewn ffordd tra googlo yn ddiweddar, ond hanes trist ydy o mae'n ddrwg gen i ddweud.

Nid oedd ei brosiect solo (Maestoso) yn llwyddiant masnachol, a dechreuodd Wooly yrfa newydd fel fferwmr organic, yn gyntaf yn Sir Caerhirfryn ac wedyn yng nghorllewin Cymru.  Roedd ei hen gyd-aelodau yn BJH wedi hercian ymlaen hebddo fo am ormod o flynyddoedd mae'n debyg, ar gefn llwyddiant masnachol yn yr Almaen, cyn chwalu o'r diwedd yn 1997.  Maes o law mi gododd ddwy fersiwn o'r band gyda enwau hurt o hirwyntog (e.e. Barclay James Harvest Through the Eyes of John Lees!) a datblygodd cryn chwerwder rhwng y dwy carfan. 

Mi dreuliodd Wolstenholme cyfnodau yn yr ysbyty yn dioddef iselder difrifol, er yn sgil tranc BJH mi gytunodd i ail-ymuno â John Lees a chwarae yn fersiwn yntau o'r band.  Ond doedd dim dianc rhag ei broblemau iselder, ac ym mis rhagfyr eleni, ar ol tynnu allan o daith arall efo Lees mi laddodd ei hunan.  Diwedd trist i un o gymeriadau tawelaf roc a rol, ond dyma deyrnged addas.  Heddwch i'w llwch..   



Noson Enoc Huws...

Mi aeth y noson Enoc Huws (rhan o Ŵyl Daniel Owen Yr Wyddgrug) yn dda dwi'n credu, efo nifer go lew o bobl yn gwasgu mewn i ystafell fyny'r grisiau ym Mar Gwin y Delyn. Roedd o'n braf gweld Ernie a Mark yna o'r dosbarthiadau nos, a chael cyfle am sgwrs efo ffrindiau eraill. Roedd Eirian wedi trefnu cwis gweledol, hynny ydy cyfres o luniau o bobl 'enwog' i ni i'w enwi, efo thema'n eu cysylltu nhw. Wnaethon ni un darn o Enoc Huws, ac wedyn un rownd o'r cwis, ac yn y blaen, nes cyrraedd diweddglo stori 'gafaelgar' Daniel Owen. Mi fasai wedi bod yn braf cael riff drymiau 'Eastenders' ar ddiwedd pob darn! Roedd 'na 'cyfieithu ar y pryd' ar gael yn ystod y cyflwyniad o Enoc Huws (sy'n annodd mewn rhannau i rai Cymry Cymraeg heb son am ddysgwyr) diolch i Rebecca o Fenter Iaith Sir Y Fflint, gwasanaeth amhrisiadwy i'r rhai di-gymraeg oedd yna. Rhywsut wnaeth ein tîm ni lwyddo i ennill y cwis! a'r bocs o siocledi blasus.. ond gaeth pawb rhannu'r siocledi dwi'n credu!!

Noson da.

13.10.11

Yr Wythnos hyd yn hyn...

Mae hi wedi bod wythnos andros o brysur hyd yn hyn, a prin ydwi wedi cael y cyfle i dreulio amser o flaen sgrin y gliniadur (roedd rhaid i mi siecio sillafiad!).   Y dyddiau yma rhaid cyfadde fy mod i'n treulio mwy o amser o flaen sgrin yr ipad ('tablediadur' ella?), teclyn  sydd wedi trawsnewid y ffordd ein bod ni (yn y ty yma beth bynnag) yn wneud pob math o bethau cyfrifiadurol.

Dwi newydd dechrau jobyn sylweddol yn y gwaith, sef 'astudfa', a fydd yn cael ei wneud o fasern (maple...?), yng nghanol archebu'r defnydd ydwi ar y funud, gan gynnwys y pren solet, veneered mdf, rhedwyr drors ac ati.

 Dydd mercher es i i'r Wyddgrug er mwyn ymarfer y cyflwyniad 'Enoc Huws' wnaethon ni (Criw Ty Pendre hynny yw) ym Maes-D yn ol ym mis Awst.  Mi fydden ni'n ei wneud y cyflwyniad unwaith eto, y tro yma ym 'Mar Gwin y Delyn' ar nos fercher.  Roedd yr ymarfer braidd yn fler, ond nad oedd y rhan mwyaf ohonon ni wedi edrych ar y darn ers dros dwy fis, felly ro'n i'n synnu dim.  Gawn ni siawns arall i ymarfer wythnos nesa, ond mi fydd popeth yn iawn ar y noson mae'n siwr!!
Mae'r noson wedi ei anelu at ddysgwyr, felly mi fydd 'na daflennau ar gael sy'n cynnwys cyfieithiad o'r darn ein bod ni'n cyflwyno, a cwis rhwng y darnau hefyd. Noson cymdeithasol felly.

Ar ol dysgu gyda'r nos dydd mercher, mi es i lawr i'r Lever Club yn Port Sunlight i'n 'sesiwn sgwrs' bach ni.  Unwaith eto roedd 'na griw da yno, ac mi aeth pethau'n dda dwi'n credu.  Mae pawb yn trio defnyddio cymaint o Gymraeg a phosib sy'n wych, a dwi'n mwynhau cael diod sydyn ymhlith ffrindiau, ar ol gorffen dysgu am yr wythnos. Na fydd 'na gyfarfod yr wythnos nesa gan mod i'n gwneud y peth Daniel Owen, ond gobeithio mi fydd un neu ddau o'r sesiwn sgwrs yn mentro draw i Sir y Fflint hefyd.... 

  

2.10.11

Gwibdeithiau diogelach i feicwyr..?

Gefais wibdaith bach arall ar y beic yn ystod yr wythnos, y tro hwn yn rhannol i drio darganfod ffordd 'amgen' trwodd i lannau Dyfrdwy.  Soniais sbel yn ol am hen lon John Summers, oedd yn arfer torri tua 6 milltir oddi ar daith beicio i Sir y Fflint o'r darn yma o Gilgwri, ac sy'n 'llwybr llygad' at y bont 'newydd' (Pont Sir y Fflint). Ond ges i'm ceryddu gan ffermwraig wrth i mi wyrio 'ychydig' oddi ar lwybr cyhoeddus rhwng Shotwick a Puddington, wrth drio darganfod ffordd drwodd i'r ffin!  Wrth gwrs ymddiheurais yn gwrtais wrth esgus mod i wedi colli fy ffordd, ond mae'n amlwg bod y stad mawr (sy'n rhwystr sylweddol i gerddwyr a beicwyr yng nghornel deuheuol Cilgwri) yn gweld lot o bobl 'ar goll'.  Er i mi barchu'r ffermwyr, tir âr ydy hwn, heb yr un anifail fferm i'w weld, a lonydd fferm llydan, rhy groesawgar o lawer i deithwyr 'direidus'!

Cronfa Dwr Llyn Shotwick, yn edrych tuag at Burton (gwelir y map)
Ar ol i mi adael tir y fferm (lawr y llwybr cyhoeddus), anelais i lawr i'r gors o gyfeiriad Ystad Diwyddiannol Glannau Dyfrdwy, sef ochr draw i'r Sealand Ranges.  Digwydd bod roedd gatiau'r meysydd saethu ar agor, gan fod cwmni garddio'n torri'r lawntydd (wir!), ond penderfynais peidio siawnsio 'troseddu' eto, ond troi i'r dde i ddilyn llwybr sy'n glynu at gwrs rheilffordd Wrecsam i Bidston, sef 'Lein y Gororau', yn ymyl hen seidings.  Culiodd y llwybr yn y pendraw yn anffodus, yn fy ngadael heb nunlle i fynd ond yn ol, a finnau llai na chwater milltir o gyrraedd ochr draw tir gwaharddiedig y 'ranges'.  Welais feiciwr arall ar y ffordd yn ol, ac mi holodd o fi i weld os ro'n i wedi croesi 'ffordd y gorsydd'.  'Naddo' dwedais, ond cawsom ni sgwrs diddorol am ei brofiadau o.  Un dro wnaeth car swyddog y meysydd saethu trio torri yn ei flaen er mwyn ei rwystro rhag reidio! tra tro arall mi stopiodd fws mini o 'gadets' a'u sarjant a'i helpu codi ei feic dros y giat!  Negeseuon cymysg felly!

                     
Ta waeth, ar ol i mi gyrraedd adre, mi es i ar y we a ffeindio rhyw fforwm sy'n trafod hynt a helynt beicwyr lleol.  Darganfodais bod ymgyrch yn drio ail-agor y 'marsh rd.' a hynny yn rhannol yn sgil sawl damwain ar yr A540 rhwng geir a beiciau.  Mae 'na 'lwybrau' beicio eisioes sy'n ymlwybro lawr lonydd tawelach Cilgwri yng nghyfeiriad Caer a lannau Dyfrdwy, ond i gyrraedd ambell i ddarn mae angen mentro ar y A540, ffordd sy'n peryg bywyd mewn mannau.  Pe tasai'r lon dros y gors ar agor, fasai hynny'n gadael i feicwyr teithio rhwng West Kirby a Chaer yn mwy neu lai di-draffic, trwy uno'r Wirral Way a'r llwybr Cei Connah-Caer!

Ar y funud mae nifer o sefydliadau yn rhan o broses ymgynghori, Sustrans, yr MOD, Railtrack, y RSPB (sy'n biau tir cyfagos) a Chynghorau Sir Y Fflint a Swydd Caer.  Mi fydd y cynllun yn sicr o gymryd cwpl o flynyddoedd i wireddu, ond o leiaf mae 'na rywbeth ar y gorwel.