29.1.10

Tonnau Tryweryn....

Dwi mewn canol llyfr o'r enw Tonnau Tryweryn gan Martin Davies ar hyn o bryd, sef hanes gafaelgar nifer o gymeriadau, a'r effaith mai boddi Cwm Tryweryn yn cael arnynt. Does yr un ohonynt yn byw yn y Cwm ei hun, sy'n wneud y llyfr yn un annisgwyl rhywsut, ond rhywffordd neu gilydd mae crychdonnau dyfroedd Tryweryn yn cael effaith arnynt.

Mae'r hanes yn dechrau yn yr unfed canrif ar hugain, cyn troi yn ôl at dechrau'r chwedegau a bywyd yng Nghogledd Cymru gyda gwaith ar y cronfa dŵr newydd cychwyn.
Cyn hir dyni'n dilyn hanes un o'r prif cymeriadau'n nyrsio yn Lerpwl, a ches i sioc i dod ar draws y darn lle mae hi'n ymweled â rhieni cyfoethog ei ddarpar gŵr, sy'n digwydd byw mewn tŷ crand yn Meols Drive, Hoylake, sy' dim ond hanner milltir o fa'ma!

Dyma 'tudalen troi-wr', ac un dwi'n mwynhau yn fawr hyd yma a dwi'n edrych ymlaen at cael siawns i eistedd lawr gyda fo 'to...

25.1.10

Dyfroedd Cilgwri....


argraffiad o'r sut gallai'r datblygiad edrych rhywbryd yn y dyfodol...

Mae cynlluniau andros o uchelgeisiol ar y gweill i drawsnewid ardal dociau Penbedw a Wallasey i rywbeth o'r enw 'Wirral Waters'. Syniad 'Peel Holdings' yw'r cynllun, yr un un gwmni sydd wedi bod yn cyfrifol am drawsnewidiad 'Salford Quays', ac am ddatblygiad y Trafford Centre (uffern ar y ddaear!), sef y canolfan siopa enfawr ar gyrion Manceinion. Dwn i ddim be' i wneud o'r cynlluniau a dweud y gwir, mae'n bron a bod anghredadwy bod cwmni preifat yn son am fuddsoddi cymaint o bres (£4.5 biliwn!!) mewn i ardal mor ddifreintiedig a Phenbedw, ond mae gan y cwmni 'track record' yn andros o sylweddol, a nhw sydd biau'r tir yn barod!

Wedi dweud hynny, mi fasai'n peth da i adnewyddu'r hen ddociau a wneud y gorau o safle efo golygfeydd godidog dros y dwr tuag at lannau Lerpwl.
Yn ôl y cwmni 'Manhattan ar y Merswy' mi fydden nhw'n ei greu, sy'n dipyn o honiad, os nad yn chwerthinllyd. Calon y cynllun yw canolfan siopa enfawr (sypreis sypreis!), sy'n sicrhau y caiff ei 'dynnu mewn' i gael ei graffu'n fanwl gan y llywodraeth. Mae'n debyg mi fydd 'na gwynion gan canolfanau eraill cyfagos sy'n sicr o gael ei effeithio gan ddatblygiad o'r fath yma, ond fel arfer os mae cwmni'n addo digon o swyddi mewn ardal o ddiweithdra tymor hir mi fydd y datblygiad yn un annodd i'w wrthod. Gwiliwch y gofod hwn, fel mae nhw'n dweud...

21.1.10

Hanes Cuddieddig Cilgwri....



Ro'n i'n eistedd tu allan i 'Screwfix' y bore 'ma, wrth ymyl iârd trwsio llongiau Cammel Laird, pan sylwais ar adfeiliau Priordy Penbedw yn sbecian dros llong ferri enfawr oedd mewn un o ddociau sych y iârd. Ar y ffordd adre penderfynais droi o'r prif ffordd tuag at yr hên briordy, er mwyn cael gweld yn well y golygfa rhyfeddol, ac am nad ydwi wedi bod yn y Priordy ers talwm. Wrth yrru trwy'r ystâd diwidiannol di-nod sy'n ei amgylchynu erbyn hyn, mae dod o hyd i adfeiliau'r priordy a thŵr cyn eglwys plwyfol y dref (a gafodd ei dymchwel yn y saithdegau), yn cuddio rhwng y ffatrioedd a'r dociau yn rhyfedd o beth. Wrth cyrraedd adre roedd rhaid i mi wneud ychydig o 'Googlo' er mwyn atgoffa fy hun o hanes y lle, un sydd â chysylltiadau a Chymru.


Wnewch chi weld Lerpwl dros yr afon yn y llun yma.

Cafodd Briordy Penbedw ei sefydlu yn 1150, sy'n wneud i'r darnau sydd ar ôl yr adeiladau hynaf ar Lannau Mersi. Adeg hynny doedd fawr neb yn byw yng Nghilgwri, a llecyn distaw a gwledig ar lannau coediog y Mersi oedd lleoliad y Priordy, (Mae un ddamcaniaeth am wraidd enw'r dre'n cyfeirio at 'bentir llawn bedw', yr un ddamcaniaeth sydd ar wraidd y fersiwn Cymraeg, er dim ond yn yr hugainfed canrif a bathwyd y fersiwn hon!). Yn 1275 a 1277 mi dreuliodd Edward 1 nifer o ddyddiau yn y Priordy, ar ei ffordd i'w ymgyrchoedd yng Nghogledd Cymru, arwydd o bwysigrwydd y sefydliad yn yr ardal ar y pryd. Mi aeth y mynachod ymlaen i sefydlu fferri dros y Mersi yn 1330, taith oeddent yn ei wneud er mwyn gwerthu eu cynnhyrch dros y dŵr hefyd. Mi ddaeth pethau i ben i'r mynachod gyda diddymuiad y mynachglogydd gan Henry V111, a chauodd Priordy Penbedw yn 1536. Yn 1821 codwyd eglwys St Marys wrth ymyl i adfeiliau'r Priordy, ond cafodd yr adeilad hwnnw ei dymchwel yn ôl yn 1970, ar wahan i rai o'r waliau a'r tŵr clychau sydd gan feindwr hyfryd ac amlwg.

Erbyn heddiw mae hen dŷ'r siapter y priordy yn cael ei defnyddio fel eglwys, ac mae 'na ganolfan treftadaeth yna, ond mae 'English Heritage' yn poeni am gyflwr y safle yn ôl y son, sy'n codi pryder am ddyfodol y safle. Y tro nesaf i mi fynd i Screwfix, rhaid i mi dreulio mwy o amser yna...

18.1.10

Faint o'r gloch ydy hi....


Dwi newydd cyrraedd diweddglo cyffrous a throellog nofel diweddaraf Llwyd Owen sef ’Mr Blaidd’( ISBN: 9781847711762), ei bedwaredd nofel ac un sy’n cadw at ei ardull unigryw o ysgrifennu yn y Gymraeg. Mae o’n ein tywys ni drwy strydoedd brwnt y dref dychmygol: Gerddi Hwyan (“sydd ddim yn anhebyg ar ran faint i Ben y Bont“), ar gyrion y prifddinas, a chartref i’r ’Diwydiant Ffilm Cymreig’, sydd ar ei lawr erbyn cyfnod y llyfr (yn y dyfodol agos). Gyda diflanniad ei hefaill Ffion heb ei datrys gan heddlu’r De, mae merch fferm Fflur yn benderfynol o fynd yna i ddod o hyd i’r gwir.
Prin fasai hi wedi dychmygu i ddigwyddiadau datblygu fel y maen nhw, gyda phob math o brofiadau yn ei disgwyl ar hyd ei ffordd.

Mae Llwyd Owen yn sgwennu plotiau da, sy’n symud ar garlam, a hoffais y pennodau cymharol byr sy’n fy helpu i i deimlo fy mod i’n cyflawni rhywbeth sylweddol trwy gorffen pennod yn ystod amser cinio yn y gwaith!

Er hynny mae ‘na rywbeth am un neu ddau o’r cymeriadau sydd ddim cweit yn taro deuddeg I mi. Mae Fflur druan yn ymdopi â chymaint o newidiadau enfawr yn ei bywyd dros cyfnod mor fyr, mae’n rhaid i‘r darllenwr ‘gohirio anghrediniaeth’ (ouch…) i raddau.

Ond wedi dweud hynny, dyma lyfr wnes i wir yn mwynhau, mae’n darllenadwy, mae’n gafaelgar, a des i o hyd i eirfa prin iawn faswn I wedi dod o hyd iddi heb y llyfr hon! Felly i gloi… llyfr da ond nid un fydd yn herio (yn fy mharn i) am ‘Llyfr y Fflwyddyn’ y tro ‘ma, ond werth ei ddarlen yn sicr.

17.1.10

Tir Iolo

Pob hyn a hyn mae S4C yn dod â chyfres arbennig i ni, ac o'r hyn dyni wedi gweld hyd yn hyn, 'Tir Cymru' dwi'n credu yw un ohonynt. Yn y cyfres 'ma mae'r nuturiaethwr Iolo Williams, (David Attenborough Cymru?), yn crwydro'r wlad yn edrych at sut gafodd tirlun Cymru ei greu, ac mae'r ffotograffiaeth fel fasech chi'n ei disgwyl yn arbennig o dda. Heno roedd Iolo yn gwasgu ei gorff trwy tyllau a chraciau er mwyn chwilio rhai o ogofau Cymru, a'r holl tirlun anhygoel dan ddaear sy'n bell o olwg y rhan mwyaf ohonyn ni. Dwi wedi gosod y peiriant recordio i wneud y cyfres, rhag ofn i mi golli un dros y wythnosau nesaf!

12.1.10

cymylau'n casglu

Gyda ambell i un o'r dosbarthiadau nos sy'n rhedeg ar nos fawrdd yn edrych braidd yn wag yr heno 'ma, ro'n i'n falch o weld llond dosbarth yn fy wynebu ar ôl i'r seibiant (oedd yn hirach oherwydd y tywydd). Falle roedd myfyrwyr yn rhai o'r dosbarthiadau'n dal i boeni am gyflwr y ffyrdd, ond ges i ddim problem heno o gwbl (am wahaniaeth i'r wythnos diwetha!). Mae'n wastad yn annodd i'r myfyrwyr dychweled ar ôl torriad o nifer o wythnosau (ac i'r tiwtor hefyd!) ond gobeithio mi aeth pethau'n weddol. Mi fydd y cwpl o wythnosau nesaf yn pwysig iawn ar ran fy hyder, ac efo 'cwmylau' OFFSTED yn casglu uwchben i'r ysgol, dwi angen cwpl o sesiynau dda rhag ofn i'r 'arolygydd' ymweled âg un o fy nhosbiarthadau i yn ystod yr wythnos olaf o'r mis...

10.1.10

Rhagor o olygfeydd....



Mi wnaethon ni weld rhagor o olygfeydd rhyfeddol ar y traeth ddoe, wrth i ni fynd am dro crwn o gwmpas y dre, efo'r bwriad o gael tipyn o awyr iach tra wneud y siopa yn Morrisons ar y ffordd yn ôl. Roedd o'n braf gweld cymaint o bobl yn cerdded yn hytrach na gyrru i'r archfarchnad, gan fod cyflwr y ffyrdd yn dal i fod yn peryglus, ac o'herwydd hynny mae'n ymddangos bod pobl yn fwy parod i gymdeithasu a rhannu eu profiadau o'r rhew ac eira.



Tynnais y llun hon o'r clogwynau bychan a greuwyd gan effaith y llanw ar eira ar y traeth. Roedd Layla'r milgi fach yn gwisgo dau got oherwydd y tymheredd, ond doedd hi ddim yn rhy hoff o sefyll yn yr un fan am hir, am fod ei thraed yn teimlo'n ofndwy o oer am wn i...bechod!

8.1.10

Golygfeydd gaeafol...


Dani wedi cael ein bendithio gan ddyddiau bendigedig o glîr er gwaethaf yr oerni anghyffredin sydd wedi setlo dros yr Ynysoedd Prydeinig. Pigiais lawr i Morrisons tua pedwar o gloch y p'nawn 'ma a ches i fy nennu lawr i'r prom gan fachlud yr haul.
Ges i syndod i wedl sut gymaint o eira sy'n dal i orwedd ar y traeth, ac hynny tridiau ar ôl i'r eira olaf gaethon ni!




Tynnais y llun yma tua wythnos yn ôl, ar ôl i'r mor gadael llinell o rew pluog ar hyd uchafbwynt y llanw, golygfa rhyfedd iawn!

6.1.10

Helynt yr Eira....

Mae gan pawb hanes i'w adrodd am y tywydd 'ofnadwy' dani wedi 'diodde' yma ym Mhrydain yn ystod yr wythnos diwetha mae'n siwr. Yn sicr mae hi wedi peri nifer o broblemau ynglŷn â chludiadau o ddefnyddiau i'r gwaith (dwi'n disgwyl llwyth o MDF er mwyn gorffen cypyrddau dillad a ddechreuais i gwsmer cyn y dolig), ond doedd hynny ddim o bwys o gymharu i'r trafferthion teithio a ddioddefodd gan filoedd o deithwyr. Clywais am un berson lleol a dreuliodd wyth awr deithio 15 milltir!

Dydd mawrth mi gauodd ysgol y merch hanner awr yn gynnar er mwyn i'r genod cael siawns o gyrraedd adre yn ddi-drafferth, ond yn anffodus roedd y bysiau wedi stopio rhedeg erbyn hanner awr wedi tri oherwydd cyflwr peryglus y ffyrdd (a damwain bws), a ches i alwad ffôn yn ofyn am lifft. Ro'n i ar fin gadael y gweithdy i nôl y car o adre pan glywais roedd un o'r tadau eraill wedi gadael am yr ysgol yn barod, er mwyn dod â'r tair ferch yn ôl i West Kirby. Roedd hynny'n bendith mewn ffordd gan nad oedd modd gyrru'r car lawr yr allt yn ddiogel, a does gen i ddim ond un sedd sbâr yn y fan (gadawa i ar waelod yr allt mewn tywydd rhewllyd). Ond ar ôl dros awr o aros doedd dim arwydd o'r tad druan oedd wedi mentro tuag at yr ysgol, ac roedd y merched yn dal i ddisgwyl ac roedd hi'n dechrau nosi yn ogystal â bod yn ofnadwy o oer. Penderfynais drio gyrru tuag at yr ysgol yn y fan, yn gobeithio derbyn galwad ffôn cyn cyrraedd yn dweud roedd y genethod ar eu ffordd adre yng nghar y tad arall.
Hanner ffordd ar fy nhaith i'r ysgol, o'n i'n dechrau meddwl camgymeriad oedd fy ymdrech i wneud y siwrne, wrth i'r tagfa o geir oedd yn cropian ar hyd y prif ffordd dod i stop hanner ffordd i fyny allt hir. Wedi sbelan ystyried y posibilrwydd annymunol o cefnu ar y fan a cherdded gweddill y ffordd i'r ysgol (2 milltir), llwyddom basio cerbyd wedi ei gadael gan ei g/yrrwr, ac wedyn bws wedi torri lawr. Roedd pob lôn fel cylch sgleifrio a doedd dim arwydd bod yr un ohonynt wedi eu graeanu.
Yn y pendraw ac ar ôl tua awr ar y ffordd (i deithio 4 milltir) cyrraeddais yr ysgol a des i o hyd i'r genod oedd yn llechu yn y derbynfa efo sawl disgybl arall. Ar ôl sgwrs efo un o'r athrawon mi es i â nhw i'r fan er mwyn iddynt cynhesu ychydig cyn ffonio rhieni er mwyn penderfynu be' i wneud. Penderfynom geisio cludo'r genod adre yng nghefn y fan (rhywbeth na faswn i'n wneud fel arfer wrth rheswm) am nad oedd arwydd o'r tad arall, ac hynny rhai dwy awr ar ôl iddo fo gadael ei dŷ.

Ta waeth, prin oedden ni wedi gadael yr ysgol, yn teithio dim ond 5 m.y.a. pan gafodd y merch galwad ffôn i ddweud bod tad ei chyfaill wedi cyrraedd yr ysgol ar droed, ar ôl i'w gar dod yn sownd rhywle yn yr eira, stopiom ni er mwyn i ni gynnig lifft iddo fo. Gwrthododd y lifft gan mynnu roedd o'n mwynhau y dro, cyn i mi jocio ei fod o'n debyg o gerdded y pump milltir yn cyflymach na ninnau yn y fan.

Felly er mwyn torri stori hir yn byr (wel byrach o leiaf!) cropiom ni adre ar ffyrdd oedd yn iâ i gyd mewn tua awr a hanner, gan fynd y ffordd hirach er mwyn osgoi allt serth. Cyrraeddom ni West Kirby tua chwater wedi saith jysd mewn pryd i weld y tad arall yn cyrraedd ei ddrws wedi cerdded yr un taith!

Mae'r ysgolion i gyd wedi bod ar gau heddiw diolch byth ac mae'r plant wedi mwynhau'r eira. Wrth cwrs wrth gweld y newyddion heno 'ma, mi glywais straeon llawer iawn gwaeth na stori bach ni, oedd yn y diwedd dim ond angyfleustra bach, ond gallai pethau wedi bod llawer mwy cymhleth pe tasai'r fan wedi dod yn sownd fel o'n i'n poeni am sbelan ar y ffordd i'r ysgol!

5.1.10

Colled enfawr....

Mi glywais â thristwch y newyddion am farwolaeth Yr Athro Hywel Teifi Edwards. Fel dysgwr yn dysgu tafodiaeth y Gogledd, roedd ei Gymraeg graenus Deuheol yn dipyn o her y tro cyntaf i mi i'w glywed ar y radio neu ar raglenni S4C, ond er hynny ro'n i'n deall am ba bynnag pwnc yr oedd o'n siarad, roedd o'n siarad gydag hangherdd ac ymroddiad.

Dwi'n cofio gwylio gwasanaeth coffa Ray Gravel ar S4C, ac yn gweld ei gyfaill yn talu ei deyrnged difyr ac hael iddo, gwrandawodd pawb yn eiddgar. Erbyn hynny roedd gen i ddigon o grap ar y Gymraeg i werthawrogi cryn ystyr ei eiriau, yn ogystal ag yr angherdd tu ôl iddynt. Ro'n i'n heb sylweddoli cyn i'w farwolaeth ei fod o'n dad i Huw Edwards, y newyddiadurwr ac angor BBC News at Ten oedd o (rhywbeth sy'n amlwg rwan wrth sbio ar luniau ohonynt).

Fydda i'n ei gofio fel cyfranwr cyson i donfeydd Radio Cymru, yn sylwebu ar ei arbenigeddau, sef hanes Cymru'r oes Fictoriaidd ac hanes yr Eisteddfod Genedlaehol, a llawer mwy hefyd. Fel Grav, mae o'n gadael sgidiau mawr i'w llenwi... dyma colled enfawr.

3.1.10

Defnyddio'r Gymraeg..

Ges i ddirwy parcio tua pythefnos yn ôl mewn maes parcio yng nghanol y Wyddgrug, tra wneud tipyn o siopa Nadolig. Doedd gen i ddim y newid cywir a chymerais i siawns a fod yn deg. Hugain o bunoedd oedd y ddirwy, ond chwarae teg, trwy dalu o fewn wythnos roedd modd arbed hanner y pres. Wrth rheswm, anghofiais yn llwyr i dalu o fewn y saith diwrnod, a neithiwr deffrais mewn pwll o chwys wedi cofio yng nghanol breuddwyd am ryw rheswm! (falle dwi'n gor-ddweud yr hanes, ond cofiais yn ystod yn nos ta beth).

Y bore 'ma felly, mi es i ati i dalu y cyfanswm llawn (£20) dros y we ar wefan Sir y Fflint, yn dewis wrth cwrs i ddilyn y 'trywydd' Cymraeg! Rhaid cyfadde roedd y profiad yn un ddigon hwylus (o ystyried o'n i'n talu pres a chael dim byd yn ôl!), a llwyddais wneud yr holl busnes yn y Gymraeg, yn ogystal a sylwi ar ambell i wall yng Nghymraeg y safle ('prowr' = 'porwr' mae'n siwr?).

Ond rhywbeth wnes i sylwi arno ar ddiwedd y proses (wrth cofnodi manylion yr anfoneb electronig wnaeth ymddangos fel prawf o'r taliad) oedd y rhif WW00000005. Dwi'n cymryd y WW yn cyfeirio at y ffaith mai anfoneb 'Welsh' oedd hi?.. sy'n awgrymu yr anfoneb a derbyniais oedd y pumed a gynhyrchwyd yn yr iaith yma... dwn i ddim? Gobeithio nad ydy hynny'n adlewyrchiad o'r tueddiad cyffredinol i'r Gymry Gymraeg peidio â dewis yr opsiynau Cymraeg pan mae 'na ddewis ar gael, ond tybiwn i dyma'r gwir amdani. Ond llongyfarchiadau beth bynnag i Gyngor Sir y Fflint am gynnig gwefan dwyieithog effeithiol a defnyddiol (ar ran talu biliau o leiaf)' ac un ein bod ni ochr yma o'r ffin yn gallu 'mwynhau'!

1.1.10

Wedi Dwy Fil a Naw...

Wel mae degawd arall wedi dod i ben, trobwynt sy'n wneud i rywun meddwl yn ddyfnach na throad blwyddyn arferol, mae'n siŵr. A dweud y gwir, nad ydwi'n person ofergoelus, ac mae troad un flwyddyn yn union yr un fath ac un arall mewn gwirionedd, dim ond 'damwain hanesyddol' sy'n rhoi pwyslais arbennig ar flwyddyn penodol. Ond falle mae angen arnyn ni rywbeth i ganolbwyntio'r meddwl pob hyn a hyn, rhywbeth i wneud iddyn ni gymryd stock o'r hyn ein bod ni wedi cyflawni (neu ddim wedi cyflawni!), ac er mwyn cynllunio i'r dyfodol?

Wedi dweud hynny, nad ydwi'n person 'cynllun pum blynedd' fel petai, byw o un ddiwrnod i'r llall ydwi fel y cyfryw, yn ceisio cyflawni ambell i 'uchelgais' ar hyd y ffordd. Meddwl ro'n i'r bore 'ma, deng mlynedd yn ôl doedd gen i ddim clem sut i droi cyfrifiadur ymlaen, a doedd gen i ddim Cymraeg (o leia dim Cymraeg ro'n i'n gallu defnyddio i gael sgwrs). Pe tasai rhywun wedi dweud wrtha i yn y flwyddyn 2000, mi faswn i'n gweithio fel tiwtor Cymraeg rhan amser ac yn cynnal blog Cymraeg ar y we (doedd gen i ddim clem be' oedd y we adeg hynny chwaith, ar wahân i gofio Mr Blair yn sôn am bawb yn cael mynediad i'r 'information superhighway' mewn ambell i gynhadledd i'r wasg!), mi faswn i wedi tybio person gwallgof oedden nhw! Ond dyna gyffro bywyd 'tydy? y pethau dyni heb eu rhagweld sy'n gallu newid ein bywydau, er mae ochr arall y ceiniog sgleiniog honno'n gallu bod yn afloyw, ac yn dod â thristwch i'n bywydau hefyd, o bryd i'w gilydd...

Dwi heb feddwl am adduned(au) eto, ond mae'n debyg meddylia i am un a wna i fethu cyflawni cyn diwedd y dydd!