23.8.05

cyfweliad taro'r post...

Dydd mawrth diwetha roedd 'na ryw boi o Aberaeron yn cwyno (ar sioe 'taro'r post')bod safon y dysgwyr sy'n cystadlu yn y 'llefaru' yn rhy dda! Dwi'n meddwl roedd ei ferch yng nhgyfraith yn cystadlu a dyna pam roedd o wedi dod i'r penderfyniad 'na yn enwedig gan bod hi'n dechreuwr.

Roedd rhaid i mi ymateb, felly ffoniais i y sioe i ddweud fy dweud. Mi ges i sgwrs cwta efo ymchwilydd y rhaglen ar ol i mi ffonio rhif y sioe cyn cymerodd hi fy rhif i. Wnes i ddim meddwl lot mwy amdanhi mewn gwirionydd nes canodd y ffon yn hwyrach yn y dydd. Roedd yr un ymchwilydd yn gofyn wrthi fi 'swn i'n fodlon cael sgwrs ar y rhaglen yfory. 'Dim problem' mi ddwedais, 'ond fydda i ar gwyliau bach yfory'. 'Dim problem' meddai hi, 'fasech chi'n recordio ymweliad cyn i'r rhaglen yn cael ei darlledu'. 'Oce', dwedais!

Felly dyma fi, yn disgwyl galwad ffon Dylan Jones wrth i mi trio cario ymlaen efo'r pacio. Mi ddoth y galwad yn union yr amser naethon ni cytuno, a mi ges i fy nhgyfle i ymateb. Mi ddefnyddiodd y rhaglen cryn dipyn ohono fo, ond bobl bach dwi'n swnio mor 'sgows'!

14.8.05


Pobl ar y maes yn gwilio Dafydd Iwan ac Ar Log, y pafiliwn ac Eryri yn y pellter. Posted by Picasa

Alun Tan Lan

Perfformiodd y canwr dawnus Alun Tan Lan set bach ar lwyfan 'Maes-d' ar dydd iau'r eisteddfod. Wnes i fwynhau ei ddull o ganu yn arw. Mae'n un arall i roi ar fy fhestr o grynoddisgiau mod i eisiau (Gwyneth Glyn ydy un arall), ond yn anffodus does dim disgownt ar gael ar CD's Cymraeg felly mae rhaid i fi aros ychydig.

Wrth cyd digwyddiad yn llwyr, mae 'na berfformiad acwstic yn cael ei darlledu o Alun TL a Gwyneth Glyn am chwech o'r gloch ar Radio Cymru y heno 'ma, gan cynnwys ddeuawd sy' 'di cael ei sgwennu yn arbennig i'r perfformiad. Edrych ymlaen yn barod...
Posted by Picasa

Llwydd Plaid Cymru yn difyrru eisteddfodwyr....


Meddai Dafydd Iwan rhwbeth fel: 'Er bod ni ddim wedi cael gwahoddiad swyddogol i ganu yn yr eisteddfod eleni, dyni'n mynd i ganu yma (ar stondin ei gwmni recordio fo 'Sain')beth bynnag! cyn iddo fo dechrau set acwstic ag 'Ar Log'. Posted by Picasa

10.8.05

crynoddisgiau a llyfrau

Wnes i brynu cwpl o grynoddisgiau ar faes yr Eisteddfod sef 'Jig Cal' gan Sibrydion a 'Brigyn' gan... Brigyn. Mae Sibrydion wedi codi o'r gweddillion 'Big Leaves' sef y brodyr Meilir ac Osian Gwynedd hanner y pedwarawd dawnus o Fethesda. Mae 'na gyffyrddiadau neis iawn ar yr albwm, a nifer o draciau cofiadwy. Gwerth ei brynu yn fy mharn i. Wrth cyd- digwyddiad cafodd albwm Sibrydion ei chynhyrchu gan yr hogiau Brigyn! sef y brodyr Roberts oedd yn aelodau'r grwp poblogaidd Epitaff. Mae'r cynhyrchiad o'r dau albwn yn arbennig o dda ond mae ardull cerddorol Brigyn yn hollol wahanol. Mae'r hogiau yn gallu sgwennu alawon cofiadwy, reit 'catchy' ac eu trefnu nhw yn syml ond effeithiol iawn.

Ro'n i eisiau prynu albwm newydd Gwyneth Glyn (wnes i fethu ei ffeindio) ac Alun Tan Lan, mi welais i'n canu ar lwyfan Maes-d. On yn anffodus roedd y pres yn rhedeg allan.

Un peth arall wnes i brynu i fy hun oedd llyfr gan Bethan Gwanas. Mae 'Gwrach y Gwyllt' yn dipyn o 'botboilwr' (ddrwg gen i!), sy'n llawn o rhyw, S a M ac iaith lliwgar (dim ond chwater y ffordd drwyddi hi ydwi hefyd!) Yn ol y clawr 'Does dim nofel Cymraeg yn debyd iddi'. Bobl bach, dwi'n gallu ei chredu!

Wel yn ol at y llyfr......

9.8.05

rhagor am yr eisteddfod

Fel wnes i crybwyll yn barod, mi ges i ddiwrnod lawr yn yr Eisteddfod bron wythnos yn ol erbyn hyn. Roedd rhaid i mi gadael Cilgwri andros o gynnar er mwyn gwneud yn siwr o gyrraedd Y Faenol tua hanner wedi wyth. Dim ond taith o jest dros saith deg milltir ydy o, ond fel arfer mae'n gallu cymryd awr a hanner. Gan mod i'n cystadlu yn y llefaru i ddysgwyr erbyn naw o'r gloch, o'n i eisiau bod ar y maes hanner awr yn gynt er mwyn cael panaid a cyfle i ffeindio Maes-d (enw dros pabell y dysgwyr eleni).

Fel y digwyddodd, roedd 'maes-d' o flaen eich llygaid wrth i chi cerdded trwy mynedfa'r faes, felly doedd dim problem fan'na. Roedd 'na tua hugain o gystaleuwyr yn cymryd rhan yn y cystadleuaeth, ac yr un nifer o leia yn eu cefnogi nhw. Efo'r beirniadau a'r swyddogion maes-d fasai wedi bod bron hanner cant yn y cynulleidfa, digon i mi ta waeth.

Wnes i ddim anghofio'r geiriau, ond es i ddim ymlaen at llwyfan y pafiliwn yn y prynhawn. Mewn gwirionedd, ar ol i mi clywed safon y cystadleuwyr eraill, ges i ddim sioc i fethu clywed fy enw fi yn y rhestr o dri a chafodd eu dewis i symud ymlaen.

Dim ond deg o'r gloch oedd hi erbyn hynny, felly ges i weddill y ddiwrnod i grwydro'r maes a dewis llyfrau, chrynoddisgiau, anrhegion i'r teulu ac ati.

rhagor i ddilyn.....

4.8.05

'steddfod

Wel, ar ol bwlch eitha mawr yn y blog 'ma, dwi'n awyddus i gario 'mlaen. Dim ond prinder o amser a gweithgareddau eraill yn y maes o ddysgu Cymraeg wedi fy rhwystro yn erbyn gwneud mwy o flogio.

Beth bynnag, ar ol fy nhiwrnod ar Maes yr eisteddfod ddoe, ro 'n i'n penderfynol am gario ymlaen. Felly dwi'n sgwennu adroddiad bach am ddiwrnod fi ar y Faenol ddoe. Rhagor i ddilyn!