24.8.10

Diwrnod tu gefn i'r tywysoges...

Gaethon ni ddiwrnod ardderchog ar fwrdd y North Wales Coast Express dydd Sul, ecscyrsion arbennig o Lerpwl i Gaergybi ac yn ól.  Ymunom ninnau á'r trén yn Frodsham, gan bod ffrind fy merch yn dod á ni, ac roedd hi'n aros efo ei nain nid yn bell o fan'na.   A dweud y gwir gyda'r tren yn cymryd tua awr a hanner i grwydro o Lerpwl i Frodsham wrth stopio i godi teithwyr o nifer o lefydd ar hyd y ffordd, mi fasa'r trip i Gaergybi wedi cymryd oesoedd! 
Gaethon ni banic sydyn wrth weld ffrydiau o stém yn saethu mewn i'r awyr wrth i ni gyrraedd y maes parcio, ond sylweddolais mai stop dyfrio oedd Frodsham, ac roedd gorffwys o chwater awr wedi ei neilltuo yn yr amserlen i  lenwi'r injan, ac yn bwysicaf er mwyn gadael i bobl cael siawns camu ar y 'footplate' a chael rhywun tynnu eu lluniau yn fan'na.



Ar ól i ni lwyddo i ffindio ein bwrdd ni, dyna ni'n dechrau ar y darn cyntaf o'r taith, sef y ddeuddeg milltir i Gaer a'n profiad cyntaf o deithio tu gefn i'r Tywysoges Elizabeth.  Doeddwn ni ddim yn disgwyl i'r hen leidi mynd cweit mor gyflym a dweud y gwir, ond o fewn dim roedden ni wedi cyrraedd Cymru ac roedden ni'n tarannu trwy'r Fflint, Prestatyn a'r Rhyl (peth da!) tuag at y stop nesaf ym Mae Colwyn.  Yn ól y llyfryn a roddwyd i bawb gan drefnwyr y taith, 75mya yw cyflymder uchaf yr injan erbyn heddiw (er mi aeth hi lot gyflymach yn ei hanterth), ond teimlodd yn andros o gyflym yng ngherbydau o'r 1960au.   Ro'n i wedi anghofio pa mor braf yw teithio lawr yr arfordir ar y tren, wedi hen arfer á'r siwrne ar yr A55.
Mi wnaethon ni pigo lawr i Landudno hefyd (lle gadawodd nifer o'n cyd-deithwyr)  gyda injan diesel yn gwneud y gwaith o'n tynnu ni'n ól i'r jyncsion.   Ar ól gorffwys arall a mwy o ddwr i'r injan dechreuom ni ar y darn harddach o'r taith o bosib, tuag at Fangor a'r Pont Britannia wrth cwrs.   Gaeth y Tywysoges cyfle arall i 'ymestyn ei choesau'  ar y llinell syth dros Ynys Món, cyn arafu i groesi i Ynys Gybi a gorsaf y porthladd.



Mwynheuom ni groesi'r bont newydd i'r dre, cyn crwydro lawr at y 'traeth' a chael paned yn y caffi bach yn ymyl yr Amgueddfa Morwrol.

Clywais dim ond un berson yn siarad Cymraeg yng Nghaergybi, sef dyn ifanc oedd yn siarad á phlentyn bach.  Stopiais i'w holi (yng Nghymraeg) am gyfeiraidau i'r prom,  a ges i "Sorry I don't live round here" yn ól!  Ffarweliais á fo gyda "sdim ots, diolch yn fawr"!

Mi aeth y dwy awr a hanner yn gyflym iawn, a chyn pen dim roedden ni'n ól yn yr orsaf ac ar fwrdd y trén.  Gaethon ni siawns i gyfnewid straeon gyda'r pobl ar y bwrdd nesaf ar ól iddynt ail ymuno á'r trén yn Llandudno, ac aeth y taith yn ól yr un mor hwylus á'r un allan, gyda golygfeydd gwych i'w mwynhau pob cam o'r ffordd bron.   Un o'r pethau brafiach i mi, ( a rhywbeth wnaeth y genod mwynhau) oedd y siawns i sefyll wrth y drysau, tynnu'r ffenest i lawr a theimlo'r gwynt (o'n i'n mynd i ddweud yn fy ngwallt, ond does gen i fawr y dyddiau 'ma!), rhywbeth na chei di wneud yn aml ar drennau cyfoes.  



Diwrnod tu gefn i'r tywysoges.. diwrnod i'r brennin! 

20.8.10

Trén Gyflym Arfordir Gogledd Cymru...

6120 Y Tywysoges Elizabeth yn arwain 'The Dalesman' rhywdro
Dwi'n edrych ymlaen at daith trén dydd sul, un wnes i ddewis fel anrheg penblwydd eleni.  Mae'r 'North Wales Coast Express' yn mynd o Lerpwl i Gaergybi yn ystod yr haf, ac hynny o dan bwer injan stém, ac efo set o gerbydau 'traddodiadol' (sef hen!).   Mae gen i gof brith o weld injans stém fel plentyn bach yn mynd trwy Borth ar eu ffordd i Aberystwyth).  Bwystfilod hudol oeddent i mi, du, budr a swnllyd, ond dwi ddim yn cofio cael y cyfle i deithio ar un ohonynt, ac roedd rheilfyrdd Glannau Mersi hen wedi eu trydaneiddio neu ddiesel-eiddio erbyn y chwedegau.   Mi fydd yn wefr felly i fynd ar daith tu gefn i'r 'Princess Elizabeth' sy'n arwain y taith dydd sul, darn o beirianwaith 77oed erbyn hyn! Wnaeth y peiriant arbennig hon torri record yn 1936 trwy deithio'n ddi-stop o Glasgow i Euston (401 milltir) o dan 6 awr.  Y diwrnod wedyn dychwelodd y tren yr un mor gyflym i'r Alban, cyflymder ar gyfartaledd o 70mya.  Dwi ddim yn disgwyl (o edrych ar amserlen y daith) a fydden ni'n torri record dydd sul, ond gobeithio gawn ni dywydd weddol er mwyn mwynhau'r golygfeydd godidog sydd ar gael ar hyd rheilffordd yr arfordir.

Mi fydden ni'n ymuno á'r tren yn Frodsham ac yn mynd yr holl ffordd i Gaergybi, lle fydden ni'n treulio ychydig o oriau cyn ddychweled ar yr un tren.  Wna i bostio ambell i lun yn fan hyn mae'n siwr!

12.8.10

Newidiadau enfawr yn agoshau yng Nghilgwri...?

Mae'r cynllun mwyaf erioed a roddwyd o flaen pwyllgor cynllunio ym Mhrydain newydd ei basio.
Son ydwi am 'Wirral Waters' y datblygiad anferth mae 'Peel Holdings' (perchnogion presennol yr hen 'Mersey Docks and Harbour Board', a datblygwyr Salford Quays) eisiau gwireddu yn ardal dociau Penbedw a Wallasey.


un o nodweddion y dociau sy'n rhan o'r cynlluniau

Mae'r cynllun yn ei gyfanrwydd yn debyg o gymryd o leiaf 30 o flynyddoedd i gwblhau, sy'n cynnig rheswm i fod yn amheus iawn am y lluniau cyfrifiadurol sydd i'w gweld ar eu gwefan lliwgar. Ond gyda'r caniatad cynllunio newydd ei basio, mae'n rhaid cymryd y peth o ddifri, gan fod lot o bobl wedi buddsoddi llawer o arian i gyrraedd y pwynt hyn. Wrth rheswm mi fydd rhaid i'r cyngor derbyn caniatad gan y llywodraeth am gynllun mor fawr (£4.5 biliwn erbyn hyn), ond gyda swyddi'n andros o brin yn yr ardal (un ddifreintiedig tu hwnt), mi fydd yr addewid o hyd at 20,000 o swyddi newydd (yn ystod y cyfnod o waith adeiladu am wn i) yn ddadl cryf yn ei blaid.


Lerpwl o ddociau Cilgwri

Dwi ddim yn sicr be dwi'n meddwl amdano fo a dweud y gwir. Dwi'n cofio'r dociau'n fwrlwm o weithgareddau (er ar eu lawr oeddent adeg hynny mae'n siwr), a hyd yn oed 'shunters' stem yn rhannu'r pontydd siglo a cheir Yn sicr mae 'na rannau helaeth o'r dociau sy'n dawel iawn y dyddiau 'ma, ac mae'n rhaid wneud rhywbeth gyda nhw. Ar y llaw arall mae 'na longiau yn dod trwyddyn nhw o hyd, ac mae 'na awyrgylch arbennig o'u hamgylch, rhywbeth a gollir yng nghynlluniau 'Peel Holdings'.


Mi fydd 'na lot o drafodaethau mae'n siwr cyn i'r dyddiad dechrau presennol (rhywbryd yn 2012), felly mi fydd hi'n cyfnod diddorol iawn yng Nghilgwri....

1.8.10

Taith i Lerpwl...

Pier Head Lerpwl o fynediad y Doc Albert
(Yr amgueddfa yw'r adeilad onglog i'r chwith i gloc yr adeilad Liver)

Mi aethon ni draw i Lerpwl p'nawn ddoe, yn rhanol er mwyn, chwilio am sofa newydd, ond hefyd i ffeindio rhywle i gael te.   Roedd canolfan siopa Lerpwl One yn fwrlwm o siopwyr yn ogystal ag ambell i griw yn dathlu parti iár, ac roedd y rhan mwyaf o'r bwytai'n llawn dop, gyda tagfeydd yn ymestyn o ddrws ambell i un.  Mi benderfynom maes o law cael blas ar fwydydd 'cadwyn bar nwdl' Wagamama, a chawsom ein plesio gan y gweinu ardderchog, a'r bwyd blasus.   Yr unig peth nad oedden ni'n cyfarwydd gyda fo, oedd y ffaith mi ddaeth ein cyrsiau ar brydiau gwahanol.  Gaethon ni ein rhybuddio am hyn wrth archebu i fod yn deg, ac roedden ni'n bwriadu rhanu'r bwydydd beth bynnag felly doedd dim ots.

Ar ól gorffen mi aethon ni am dro lawr i'r Pier Head a'r Doc Albert, i weld sut mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen ar adeilad newydd Amgueddfa Lerpwl.  Ni fydd yr Amgueddfa ar agor tan 2011, ond mae'r adeilad bron wedi ei gorffen yn ól ei golwg, felly edrychaf ymlaen at ymweled á hi y flwyddyn nesa.
Mae glannau'r afon yn Lerpwl wedi eu trawsnewid yn llwyr dros y flynyddoedd diwetha, ac maen nhw wir gwerth eu gweld, yn enwedig ar noson braf yr haf!