24.11.06

Harrius Potter

Mae fy merch bach wedi dechrau (wel ailddechrau mewn gwirionydd) darllen cwpl o'i nofelau Harry Potter. Roedden ni'n cael sgwrs bach am un ohonynt ddoe pan dwedais fod un o'r cyfres wedi cael ei cyfieithu i'r Cymraeg. "Pa un" meddai hi(wel "which one" wrth cwrs a dweud y gwir), "dwi'm yn gwbod" dwedais, 'chwilia i ar y we'. Mewn flach ffeindias i'r ateb, sef 'Harri Potter, Maen yr Athronydd', "O ie, 'The philosophers stone' one" dwedais. Wel does gan fy merch dim copi o'r un hon, felly penderfynais prynu dwy copi, un yn y Saesneg iddi hi a'r llall yn y Gymraeg i fi. Dwi erioed wedi darllen un gair o waith JK Rowling ond fydd hi'n dipyn o hwyl i fi i ddarllen y fersiwn Gymraeg tra fy merch yn darllen yr un Saesneg (wel falle..).

Roedd gan Amazon 'cynnig' arbennig ar gyfer pobl sydd eisiau prynu dwy copi o'r llyfr mewn iethoedd wahanol, ond dim ond tasech chi'n prynu fersiwn Cymraeg a'r fersiwn Gaelic gyda eu gilydd..? Tydi hynny ddim yn debyg o ddigwydd yn aml iawn 'tydi!
(Mae'r fersiwn Ladin sef Harius Potter yn swnio reit diddorol..)

23.11.06

Y Sioe Celf

Dwi ddim yn gwilio llawer o s4c (mae'n well gen i'r radio) ond mae 'na rai rhaglenni bod nhw yn gwneud reit dda. Un ohonynt (yn fy mharn i ta waeth) ydy'r Sioe Celf, sy'n ar ein sgriniau ar hyn o bryd. Dwi'n methu meddwl am unrhyw sioe o'r un fath yn Saesneg sy' ddim yn 'rhwysgfawr' neu ofnadwy o hunan-pwysig (dwi'n meddwl am bethau fel 'Newsnight Review' neu 'Sioe Glan y De' efo'r 'bwffontiaidd' Melvyn Bragg (enw anffodus 'tydi!).
Mae safon cynhyrchu Y Sioe Celf yn uchel (o'r credydau agorol) ac mae 'na wastad nifer o bynciau reit eang arnhi hi, nid dim ond pethau 'gor-cul' Cymreig sy'n weithiau'r achos efo rhaglenni S4C. Cyfres arall o werth yn diweddar oedd 'Natur Anghyfreithlon efo Iolo 'coesau cyhyrog' Williams. Da iawn y cynhyrchwyr..

19.11.06

noson cwis

Mi es i i noson cwis nos iau draw yn Yr Wyddgrug a chafodd ei trefnu gan CYD a'i cyflwyno gan cwpl o fois o'r De. Un ohonynt o Pobl y Cwm ers talwm a'r llall o chydig o raglenni eraill S4C. Ymddiheuriadau dros anghofio eu henwau nhw, achos chwarae teg iddynt, roedd hi'n noson hwylus dros ben. Mi ddaeth ein tim ni yn ail(allan o tua wyth), ond dim lot o ddiolch i fi. Ar wahan i hynny dwi'n dal i drio cwblhau traethawd am bwnc hanes y Celtiaid ar gyfer y cwrs Llambed sy'n cymeryd oes oesoedd i'w gorffen hi.

Wrth cyd-digwyddiad, mae fy merch naw oed (sy'n gwneud lot o stwff am y rhufeiniaid ar hyn o bryd yn yr ysgol) wedi bod yn sgwennu darn ar gyfer papur dychmygol o'r enw 'Y Celtic Times' yn adrodd hanes brwydyr rhwng y rhufeiniad a chriw Boudica o'r safbwynt y Celtiaid, felly dyni wedi bod yn son cryn dipyn am hanes y Celtiaid. Mae hanes yn yr ysgolion y dyddiau yma yn gymaint well nag yr oedd hi'n ol yn y saithdegau o'r hyn dwi'n cofio!

2.11.06

esgusodion

Er bo fi ddim wedi gwneud llawer o flogio y fan'ma dros y wythnosau diweddar, dwi wedi bod yn gweithio cryn dipyn ar fy Nghymraeg. Dwi'n darllen nofel newydd Bethan Gwanas ar hyn o bryd, ac fel mae'n dweud ar y clawr (tydi nhw ddim yn dweud pwy dwedodd!), ond dipyn o 'clincar' ydy hi. Dwn i ddim ystyr y gair, sdim son amdanhi yn y geiriadur mawr, ond mae'n swnio'n addas. Dwi'n hanner ffordd drwyddi erbyn hyn ar ol tua wythnos sy'n clamp go iawn i finnau, mor araf ydwi yn darllen mewn unrhyw iaith. Ar wahan i'r darllen dwi'n gweithio ar draethawd am y 'Celtiaid ym Mhrydain' sy'n rhan o fy nghwrs Llambed, ac mae hyn wedi achosi anhawsterau go iawn i mi, er bo fi'n sgwennu hi'n Saesneg, mae'n ymddangos llwyth o waith er mwyn enill 10 o gredydau yn cymharu i'r modiwlau arall dwi 'di cwblhau yn barod. O wel,nol at y Celtiaid...