23.10.05

Ynys pell

Tra oedden ni ar dro bach ar ucheldir penrhyn Cilgwri (Thurstaston Hill sy'n dim ond tua 100m) y prynhawn 'ma, roedden ni'n gallu gweld darn o dir ar y gorwel efo'r llygad noeth tu hwnt i'r Gogarth wrth iddyn ni edrych lawr arfordir y Gogledd. Mae hyn, yn fy nhgof i ta waeth, yw digwyddiad prin iawn. Gan nad oes llawer o dir uchel ar Ynys Mo^n (yn cymharu i'r tir mawr o leia), rhaid bod y llanw yn is iawn i gadael iddyn ni cael cipgolwg ohonhi.

Trwy edrych ar y map ar ol cyrraedd adre dwi bron yn sicr roedden ni'n sbio ar Mynydd Parys (lle rheoliodd fy hynafiaid i mwynglawdd copr ers talwm) ger Amlwch sy'n bellter o rhyw 40 milltir neu fwy fel yr hed y fran. Yn anffodus doedd gen i ddim ysbienddrych ar y pryd er mwyn weld yn glirach, ond roedd hi'n braf jysd i fod allan ar ddiwrnod fel hyn.

16.10.05

Amy 'Woj'

Mae'r cantores o Gaerdydd Amy Wadge wedi ryddhau camp o sengl (wel yn fy mharn i) sy'n ar gael yn Gymraeg neu Saesneg. USA Oes Angen Mwy yw ei thrac Cymraeg cyntaf dwi'n meddwl os na dyni'n cyfri ei chan Adre Nol o'i halbwm WOJ sy'n cynnwys pennod Cymraeg.

Mi wnath Amy ymddangos yn y cyfres Cariad @ iaith efo'r lyfli Janet Street Porter flwyddyn neu mwy yn ol. Ar y pryd roedd hi'n son am eisiau recordio traciau Cymraeg.

Mae ei chrynoddisgiau ar gael drwy ei label record sef manhaton records:

www.manhatonrecords.com

Mi wnnes i lawrlwytho'r albwm WOJ o i-tunes

'Y Byd'

Mi glywais Gwilym Owen yn holi un o'r pobl sy'n gweithio i sefydlu y papur dyddiol Cymraeg gyntaf sef 'Y Byd y wythnos diwetha. Dwi wedi bod yn derbyn e-lythyr ers i mi cofrestru fy niddordeb yn y prosiect tua flwyddyn yn ol. Fel llawer sy 'di gwneud yr un peth mae hi wedi bod cyfnod braidd yn siomedig gan bod pethau'n ymddangos i symud mor araf.

Mae 'na swm o dri cant mil mai rhaid i'r cwmni codi trwy gwerthu cyfranddaliadau (shares) er mwyn sicrhau yr arian cyhoeddus hanfodol i'r cynllun. Erbyn rwan mae'r diffyg lawr i lai 'na dri deg mil o bunoedd (sy ddim yn swm mawr tydi) felly mae'n posib i unrhywun wneud wahaniaeth go iawn trwy prynu cyfranddaliadau. Dwi newydd derbyn pecyn o wybodaeth am buddsoddi felly rhaid i mi pori drosti cyn penderfynu.

www.ybyd.com

9.10.05

dwi'n methu credu...

Ie, dwi'n methu credu bod dwy fis wedi mynd heibio ers dyddiau'r eisteddfod, a minau heb sgwennu dim byd ar y blog 'ma hefyd.

Ar ol tipyn o fwlch dros yr haf, dwi 'di ail-ddechrau mynegu'r sesiynau sgwrs draw yn yr Wyddgrug pob nos iau ac yn parhau i'w fwynhau. Dyni wedi weld ychydig o wynebu newydd ers yr haf sy'n dda o beth, wrth cwrs pob mis medi mae 'na griw newydd o ddysgwyr yn gwneud dechreuad ar yr iaith mewn amrywiaeth o ddosbarthiadau sy'n cael ei chynnal. Does gan llawer ddigon o hyder i ddod i sesiwn sgwrs yn anffodus, felly mae'n pwysig dyni'n croesawu'r rhai sy'n gwneud y cam dewr o ddod, gan bod hi'n rhywbeth sy'n gallu gwneud byd o wahaniaeth iddi ni ddysgwyr.