26.9.11

Gwlybdiroedd Cydwladol Burton Mere...

Bore dydd Sul, pigiais allan ar fy meic pen bore gyda'r bwriad o drio dod o hyd i ffordd arall o gyraedd Pont Sir y Fflint.  Caewyd  hen lon dros gorsydd aber y Dyfrdwy gan y weinidogaeth amddiffyn ychydig o flynyddoedd yn ol. Roedd y llwybr llygad yma'n arfer cysylltu pentre Burton yng Nghilgwri gyda gwaith dur Shotton.  Er ffordd preifat buodd y lon erioed, gafodd feicwyr a cherddwyr rhwydd hynt ei ddefnyddio, cyn belled a nad oedd dryllau'r Sealand Ranges' yn tanio.  Ta waeth, ers ychydig o flynydoedd rwan mae arwydd ar lidiart hanner ffordd lawr y lon, mwy neu lai ar y ffin, yn rhybuddio darpar teithwyr o ddirwy go lew a fydd yn eu disgwyl pe tasen nhw i fentro ar dir y MOD.

 Ond ar ol pori dros mapiau yr OS a delweddau daearyddol google earth, penderfynais anelu at lon bach arall sy'n ymddangos i arwain at y corsydd ac at ffin Cymru,   Ar ol i ryw tri chwater awr o bedlo cyson mi ges i fy hun ar dop y lon cul mewn cwestiwn, ond sylwais yn syth ar arwydd newydd yna, a hynny yn dy gyfeirio at 'RSPB Burton Mere Wetlands'.
Mi fentrais i lawr, a chwta hanner milltir o'r 'prif ffordd' cyrheuddais adeilad newydd sbon yr RSPB yn Burton Mere.  Yna mae 'na gyfres o lynoedd newydd a hen, sy'n dennu pob math o adar  (yn ol dynes o'r elusen adar wnes i siarad efo hi). Er bod y RSPB wedi cael gwarchodfa yn fan'na ers nifer o flynyddoedd, maen nhw newydd prynu'r hen bysgodfa ac wedi addasu'r llynoedd pysgota er les yr adar, yn ogystal a chodi 'hides' newydd a chyfres o lwybrau rhyngddynt.   Mae'r llecyn yma o dir yn pontio'r ffin rhwng Lloegr a Chymru, gyda thraean y gwarchodfa yn rhan o Sir y Fflint.  Digon addas oedd o felly cael Iolo Williams yno dydd gwener er mwyn rhoi stamp 'springwatch' ar yr agoriad swyddogol (rhywbeth wnes i ddarganfod ar ol cyrraedd adre a 'googlo' y lle). 

Iolo yn Burton Mere

Wrth sefyll ar lannau un o'r llynoedd yn sbio dros yr aber, sylweddolais, er mor agos ro'n i at Gymru (200llath?) nad oedd modd croesi'r gors o fan'na, ac mi fasa rhaid i mi bori eto dros y mapiau. ond er hynny ro'n i'n falch o ddod o hyd i rywle mor hyfryd, a rhywle i ddychweled ato heb beic!

21.9.11

Noson Cofrestru

Mi es i i'r Ysgol heno er mwyn siarad efo'r rheiny sydd am gofrestru i wneud y dosbarthiadau nos Gymraeg.  Gaeth pawb noson eitha siomedig a dweud y gwir, gyda dim ond 65 o bobl yn dod trwy'r drws (tua hanner y nifer a ddoth y llynedd).  Ges i chwech o bobl yn cofrestru i wneud Cymraeg lefel un, sydd gobeithio'n ddigon i gynnal y cwrs, a fel arfer mi fydd ambell i berson wedi ffonio fyny i fynegi diddordeb erbyn dechrau'r cyrsiau.  Maen nhw isio wyth o bobl ar gyfartaledd mewn pob dosbarth.  Ond mae gynnon ni i gyd (y tiwtoriaid) pryderon am ein cyrsiau, gan bod angen 150 o fyfyrwyr ar y cofrestrau i wneud y cyrsiau yn cynnaladwy, ac os na gawn ni y ffigwr yna, mi allen nhw (yr ysgol) tynnu'r plwg ar y cyrsiau i gyd.  Maen nhw am roi hysbyseb arall yn y papur, ond mae ysgol lleol arall (sydd newydd troi'n academi) wedi dewis cynnig yr un fath o gyrsiau (tra geisio potsian tiwtoriaid!) er dim ond yn yr ieithoedd mwyaf poblogaidd, ac am brisiau cryn dipyn yn llai.  Canlyniad o newidiadau strwythyrol yw hyn, hynny yw mae'r academis newydd yn medru gwneud yr hyn a mynnon nhw, heb gorfod cydweithredu o dan ymbarel yr awdurdod lleol.  Gawn ni weld wythnos nesa!

13.9.11

Ai yng Nghymru yw rhan o Gilgwri...?

Meddwl ro'n i heddiw wrth seiclo lawr Cilgwri yn dilyn glannau'r Dyfrdwy am gwestiwn dwys iawn.. sef lle mae'r penrhyn yma yn orffen!  A dweud y gwir do'n i ddim yn hollol siwr, a gafodd  y sefyllfa ei cymhlethu rhywsut  pan sefydlwyd bwrdeistref newydd o'r enw 'Wirral' yn ol yn y saithdegau.  Cyn hynny roedd na ddau bwrdeistref sirol sef Penbedw a Wallasey, a chwpl o fwrdeistrefi trefol fel Hoylake a Bebington, i gyd yn rhan o Swydd Caer.  Gaethon nhw eu taflu gyda eu gilydd a'u gwneud yn rhan o 'Merseyside' o dan yr enw 'Metropolitan Borough of Wirral' yn '72, gyda gweddill y penrhyn yn aros yn Swydd Caer. Ond yn ddaearyddol wrth gwrs mae Cilgwri yn dal i ymestyn mwy neu lai hyd at Gaer ac yn gynnwys llefydd fel Ellesmere Port.  Yn ol llyfr Domesday "two arrow falls from the city walls" yw ffin Cilgwri, a wnaeth hynny gwneud i mi feddwl ac edrych ar fap!

Ar un adeg mi glynodd yr afon Dyfrdwy mwy neu lai at arfordir Cilgwri hyd at Blacon, a dilynodd y ffin cwrs yr afon. Pan camlasodd yr afon tua 1737, a hynny ar ochr draw yr aber, symud y ffin er mwyn gadw at gwrs yr afon oedd y cynllun gwreiddiol, ond yn y pendraw cadawodd y ffin at hen gwrs yr afon.  Enillodd ochr Cilgwri yr aber y tiroedd newydd o'r gorsydd felly, ardal sydd heddiw yn gartref i bentre Sealand, Garden City, ac wrth gwrs Ystad Diwidiannol Glannau Dyfrdwy.  Digon rhesymol ydy o felly i honni'r darn bach yma o Gymru fel rhan o Gilgwri, wrth gofio bod Owain Glyndwr yn honni y penrhyn gyfan fel rhan o'i Gymru newydd..

8.9.11

Trip i'r llawr sglefrio....



Mi aethon ni â Miriam i lawr sglefrio Glannau Dyfrdwy dros y penwythnos a gaethon ni lot  hwyl a bron dwy awr ar yr iâ.  Wnes i lwyddo aros ar fy nhraed (neu sgidiau sglefrio) mwy neu lai, a dim ond unwaith wnaeth Miri lanio ar ei phen ol, a hynny mewn ffordd digon gosgeiddig!

Mae'n tua tair mlynedd ers i ni ymweled â'r rinc er mawr cywilydd i mi, felly nad oedd ein perfformiad cynddrwg a hynny, a dani'n penderfynol o fynd yn amlach yn ystod gweddill y flwyddyn.
Ai Sgymraeg ydy hon...?

Pan o'n i yn fy arddegau roedden ni'n arfer dal y tren i Shotton, sydd dim ond pum munud o Ganolfan hamdden Glannau Dyfrdwy a'i llawr sglefrio, yr un agosaf i Lannau Mersi.  Roedd trip ar y tren i'r rinc efo ffrindiau'n ddiwrnod mawr allan, a dwi'n cofio cael lot o hwyl yna yn ystod y gwyliau ysgol.
Mae gan y ganolfan hamdden lot o arwyddion dwyieithog, ond mae 'na ambell i gam amlwg yn eu plith yn anffodus, fel yr un yn y llun!

4.9.11

Wedi 7 o Lerpwl...

Dydd mawrth mi ddaeth Gerallt Pennant a chriw ffilmio draw i Lerpwl i saethu darn bach am yr amgueddfa newydd.  Roedd Gerallt ei hun yn gwneud y gwaith cynhyrchu mewn gwirionedd, a'r dyn camera y gwaith cyfarwyddo i bob pwrpas, y dau'n gweithio'n hynod o gelfydd.

Roedd o'n braf cael siawns cyfarfod a siarad efo'r Parchedig Ddr. D. Ben Rees (neu Ben fel pobl yn ei alw!) sy'n arbennigwr ar Gymry Lerpwl, er o Landdewi Brefi mae o'n dod yn wreiddiol.  Mae o wedi gweithio'n ddi-baid dros Gymry'r ddinas ers degawdau, ac efo Amgueddfa Lerpwl fel cynghorydd hanes o ran pobeth Cymreig.  Roedd o'n falch iawn i weld yr arddangosfa yn cael ei agor tua mis yn ol, ac hynny mewn rhan mor amlwg o'r amgueddfa.

Drws nesa i'r arddangosfa am y Cymry mae arddangosfa hynod o ddiddorol am ddatblygiad Eglwys Cadeiriol y Catholygion yn Lerpwl yn y 20C.  Mae model enfawr o'r Cadeirlan arfaethedig a gynllunwyd gan Lutyens i weld (gei di weld hyn yn y cefndir ar Wedi7). Cynllun byth a wireddwyd oedd hyn wrth gwrs, ar wahan i'r claddgell (crypt) sy'n i'w weld o dan y Cadeirlan presennol. Mae 'na lun ar y wal o orwel Lerpwl pe tasai'r adeilad wedi ei godi, gyda chatref y Pabyddion yn twrio uwchben Cadeirlan yr Anglicaniaid, sydd yn ei hawl ei hun yn gawr o eglwys.

Ta waeth, mi aeth y cyfweliad yn olew fel y dwedais mewn post arall dwi'n meddwl. Gei di weld y canlyniad am weddill yr wythnos ar S4Clic.