21.11.08

Y baddondy pennod 2....

Wel mae'r baddondy'n dod ymlaen yn araf bach. Mi dynnais y rheiddiadur a'r hen ddellt a phlaster oddi ar y wal pared dydd mawrdd (doedd dim rhaid wneud llawer o dynnu a dweud y gwir!), a sgriwiais 'ply' hanner modfedd yn ei le er mwyn creu gwyneb gwastad ar gyfer y teils. Erbyn hyn dwi wedi gorffen y rhan mwyaf o'r teilio, ar wahan i'r ardal tu gefn i'r toiled. Mi fydd rhaid i mi dynnu'r toiled cyn gwneud hynny, ac mae'r ffaith fy mod i wedi colli rhan o'r plastwr fanna ddim wedi wneud llawer i fy helpu. Ar y cyfan dwi'n reit hapus gyda'r canlyniadau hyd yn hyn, gobeithio o fewn wythnos mi fydd y basin newydd wedi ei ffitio ac mi fydda i wedi gwblhau gweddill y 'groutio', ac mi fydd y diwedd o fewn fy ngolwg.

8.11.08

hanes y baddondy.. hyd yn hyn...

Wel mae'r prosiect wedi cychwyn yn y pendraw! Wedi i'r holl trafod, ystyried a phendroni, yr holl tudalennu trwy gylchgronau cynllunio mewnol a chlicio trwy gwefanau di-ri, heb son am yr ymweliadau cyson i Wickes, B a Q a 'Bathrooms 'r' Us' neu beth bynnag ydy enw y lle. Mae'r baddondy, neu'r 'stafell molchi' yn un o'r ystafelloedd annoddach i weithio ynddo fo (yn gyfartal gyda'r gegin falle..), mae pawb eisiau ei ddefnyddio trwy'r amser, ac mae rhaid i'r ystafell cael ei ifaciweiddio pob deg funud (o leiaf mae'n teimlo fel hynny..) er mwyn i'r 'cyfleusterau' (neu ddiffyg ohonynt!) cael eu defnyddio.

Ta waeth, mi ddechreuais i drwy tynnu'r hen sgrîn cawod a'r baddon allan bore dydd llun, felly doedd dim edrych yn ôl. Roedd rhaid i mi gael y baddon newydd yn ei le cyn amser te er mwyn plesio gennod y tŷ, felly roedd gen i dalcen galed i'w cyflawnu y tasg o fy mlaen. Diolch byth roedd 'na wynt teg ar fy ôl a mi lwyddais i 'cam 1' erbyn saith o'r gloch. Mae'r pibellau plastig sy'n ar gael i 'blymwyr ffug' fel finnau (y rhai sy'n disodli pibellau copr o'r enw 'pushfit') wedi galluogi'r rheiny heb hyfforddiant yn y byd plymio mynd amdanhi i ffitio mewn geginau a baddondai heb angen galw mewn plwmwr sy'n o brofiad yn gallu costio cryn dipyn. Wedi dweud hynny, dwi ddim yn meiddio gwneud dim byd i wneud â'r gwres canolog, felly fydd rhaid i mi galw'r plwmwr draw er mwynn tynnu'r rheiddiadur cyn teilio'r muriau, ond yntau oedd yr un wnath awgrymu defnyddio'r pibellau plastig yn hytrach na ei alw o i wneud y waith mewn copr!

Yfory dwi'n mynd i archebu'r toiled a basin, rhan o ddetholiad sydd wedi eu cynllunio yn enwedig ar gyfer baddondai bychan, fel un ni. Felly mae cam 2 ar fin ddechrau...