30.12.09

Pethau Nadoligaidd.......

Wel gawsom ni Nadolig braf, gyda Siôn Corn yn llenwi'n hael sachau pawb ;). Mi aethon ni am dro ar y traeth efo'r cŵn (oedd bron yn wag) ar ôl mynd i'r eglwys, cyn eistedd lawr am bryd o fwyd adre efo teulu Jill, a sesiwn agor anrhegion arall wrth rheswm...

Diwrnod gŵyl Sant Steffan, mi yrron ni draw i Macclesfield i dreulio'r ddiwrnod yn nhŷ fy chwaer a'i phartner, lle roedd fy rhieni'n aros, ac am fwy o bresentau! Fel sy'n traddodiadol adeg yma'r flwyddyn, cawsom brydiau eraill, er gwaethaf bod yn llond ein bolau o'r ddiwrnod gynt! Diwrnod hyfryd arall!

Ar ran fy merch, mae ei hanrheg mwyaf poblogaidd wedi bod 'Super Mario Bros', sef fersiwn newydd o'r hen gêm sy'n addas i'r Wii. Efo hyd at bedwar o 'reolwyr' ar gael, mae hi wedi bod yn anrheg i'r teulu mewn ffordd, ac dyni wedi chwarae arno fo am oriau maith (ac mae 'na bumb o fydoedd dal i'w goresgyn!).

Ar ran fy anrhegion fy hun, ges i bentwr o bethau braf, gan cynnwys y llyfr 'Mr Blaidd' gan Llwyd Owen (digwydd bod a gafodd ei grybwyll i fy Mam ym mlaenllaw ), nofel sydd wedi gafael ynddof yn dynn yn barod, a hynny ar ôl i bedwar pennod yn unig! Mae Llwyd Owen yn gwybod yn iawn sut i sgwennu stori gafaelgar a darllenadwy erbyn hyn (er braidd yn 'graffeg' i rai mae'n siwr), ac dwi'n wrth fy modd bod mewn canol llyfr mor dda. Dwi'n methu aros darllen y pennod nesaf!

23.12.09

Cysill Ar-lein

Dyma fi'n defnyddio Cysill Ar-Lein i gywiro fy ngwallau di-ri am y tro cyntaf. Wna i ddweud ar ddiwedd y paragraff hwn faint yn union o gywiriadau derbyniais, ond ar ôl i mi dorri a gludo nifer o baragraffau eraill yn y teclyn arbennig yma, ges i fy siomi ar yr ochr gorau i weld cyn lleied o wallau (wel, o dan ddeg!). Wrth gwrs nad ydy'r gyfundrefn hon yn gallu cydnabod pob gwall, ac mae'n bosib mae'n siŵr i bethau llithro drwyddi, yn enwedig pethau a ysgrifennwyd gan ddysgwr, ac i frawddegau i beidio gwneud synnwyr heb fod yn 'anghywir', os ti'n gweld fy mhwynt!


(dwi wedi gwthio'r botwm 'gwirio' a deg oedd y nifer o wallau wnaeth Cysill tynnu fy sylw atynt! y rhan mwyaf yn gamsillafiadau i fod yn deg ac ychydig o gamdreiglo wrth gwrs! a diolch i Junko am dynnu fy sylw ati)

20.12.09

Ar y tracs neu oddi ar y cledrau?

Ges i fy nghyffro pan glywais am ddrama newydd S4C 'Ar y Tracs', ffrwyth cyd-sgwennu rhwng dwy ysgrifenwraig o fri, sef Ruth (Gavin a Stacey) Jones a Catrin (Random deaths and Custard) Dafydd. Mae'n braf bod y cwmni teledu wedi dennu dawn disglair megis Ruth Jones i sgwennu ar ran yr orsaf, ac hynny wrth i gyfres arall o 'Gavin and Stacey' (i'r rhai sydd ddim wedi ei gweld neu sy'n byw tramor falle: cyfres comedi llwyddianus iawn, wedi ei seilio â pherthynas rhwng merch o Dde Cymru a hogyn o Dde Lloegr) newydd dechrau ar un o brif sianeli Prydain. Nad ydy Ruth Jones yn siaradwr Cymraeg hollol rhugl, a dyna pam mae'n siwr gafodd Catrin Dafydd (sy'n cyfrannu i sgriptiau Bobl y Cwm) ei gwahodd i sgwennu ar y cyd efo hi.

A dweud y gwir, ges i fy siomi braidd, gan y diffyg Cymraeg yn y cynhyrchiad. Wrth cwrs trwy seilio drama yn rhannol ar fwrdd trên rhwng Abertawe a Llundain, fasai'n hollol abswrd cael drama yn gyfan cwbl Cymraeg, ond roedd hyd yn oed sgyrsiau rhwng y siaradwyr Cymraeg yn Saesneg weithiau, neu yng Nghymraeg wedi eu brithio efo cymaint o Saesneg nes bod o'n teimlo yn annaturiol rhywsut. Ond dwn i ddim, falle dyna sut mae nhw'n siarad yn fan'na?

Wedi dweud hynny, drama arbennig o dda oedd hi. Dwi'n sicr nad ydy ffilmio drama ar drenau go iawn ac mewn gorsafoedd dim yn peth hawdd i wneud, ond gweithiodd bethau'n dda. Wnes i hoffi yn enwedig cymeriad 'cameo' Ruth Jones, gweinyddes caffi'r orsaf o wlad y Pwyl efo dull 'sofietaidd' o drin ei chwsmeriaid.

Dyma fy unig cwyn, drama dwyieithog oedd hi, a ni welais i hi'n cael ei hysbysebu fel 'na, hynny yw on'i'n disgwyl mwy o Gymraeg! Gallai wedi cael ei darlledu ar BBC2Wales heb cymaint o is-deitlau mewn gwirionedd!

19.12.09

Prysurdeb cyn y Dolig...

Yn ôl pob son, heddiw oedd i fod y diwrnod prysuraf y flwyddyn i'r siopau (wel ym Mhrydain beth bynnag), efo tua 15 miliwn o bobl yn ymweled â'r siopau yn ystod y dydd yn ôl amcangyfrifon y rheiny sy'n gwybod y fath pethau.

Mi wnaethon ni anelu yng nghyfeiriad Penbedw tua hanner wedi dau, yn petruso braidd am y sefyllfa parcio. Ni ddylsen ni wedi boeni, er aethon ni i faes parcio pellaf o ganol y dre jysd rhag ofn, mi ddaethon ni o hyd i ddigon o lefydd sbâr. Roedd hanes y dref yn eitha tebyg, iawn, roedd y siopau'n brysur ond nid llawer mwy brysyrach na fel arfer ar p'nawn sadwrn. Perthynas tlawd buodd Benbedw erioed wrth cwrs, i'w chwaer fawr dros y Mersi. Yn sicr mae Dinas Lerpwl wedi gwella yn arw dros y cwpl o flynyddoedd diwetha ar ran bod yn ganolfan siopa deniadol, ond ai adlewyrchiad drist o'r dirwasgiad yn brathu yw cyflwr dref Penbedw, sef y siopau gwag a diffyg siopwyr? Mae'n digon posib. Lwyddon ni orffen y siopa dolig a dychweled adre cyn chwech o'r gloch, cyn cael te ac wedyn gwylio 'Love Actually' ar y teledu y heno 'ma, sy'n digon i godi hwyliau yn barod i'r Dolig....

16.12.09

Noson olaf .... eto!

Sgwennais ddoe am ddosbarth olaf y flwyddyn, ond camarweiniol oedd hynny am ges i ddosbarth flwyddyn un y heno 'ma cyn orffen am y Dolig.

Wnes i gwis bach iddynt, wedi ei seilio ar yr un wnes i efo flwyddyn dau, ond efo mwy o gwestiynau Cymreig eu naws, gan roedd rhaid i mi gyfiethu'r rhan mwyaf ohonynt beth bynnag. Welais i mo'r bwynt o ofyn cwestiynau cyffredinol mwy neu lai yn Saesneg, well gen i gynnig cwestiynau mwy neu lai yn Saesneg ond am Gymru, os ti'n deall be' dwi'n meddwl!

Mi aeth y cwis yn dda (dwi'n meddwl), ac efo cwta chwater awr ar ôl mi wnaethon ni drwy geiriau 'Tawel Nos' a thipyn o eirfa nadoligaidd hefyd. Ar ôl i mi ddod a phethau i ben a dymuno pawb Nadolig Llawen, dyma rhywun yn gadael pecyn ar y desg yn cynnwys dwy botel o win efo labeli arbennig yng Nghymraeg wedi eu gosod arnynt, a dau focs o siocled hefyd, fel anrhegion dolig gan y dosbarth gyfan, a cherdyn wedi ei wneud gan un o'r dosbarth llawn cyfeiriadau doniol i'r cwrslyfr! A phetasai hynny ddim yn digon mi wnaethon nhw i gyd dechrau canu 'Dymunaf Nadolig Llawen'. Am falchder! Dangosodd fy nghymeradwyaeth, cyn bygwth trefnu darn iddynt i ganu yn Eisteddfod y Dysgwyr ym mis chwefror! Roedd hi'n diweddglo melys iawn i dymor sydd wedi bod yn eitha heriol ar ran addasu i ddosbarth ychydig yn fwy, ac efo bwlch mwy rhwng gallu y gwahanol dysgwyr. Diolch i bawb!

15.12.09

Dosbarth olaf y flwyddyn....

Gaethon ni ein dosbarth olaf cyn y dolig heno 'ma, cyfle i wneud rhywbeth llai heriol a ffurfiol. Wnes i ddarparu cwis bach ysgafn, oedd i fod yn dipyn o hwyl, ond sylweddolais hanner ffordd trwyddi falle ro'n i'n gofyn cryn dipyn ohonynt i ddeall pob cwestiwn heb gymhorth.

Dwi'n meddwl gaeth pawb hwyl, ac ar ôl sleisen o fara brith gan Anne, a chacennau indiaidd gan Nigel i godi sychder arnyn ni, i ffwrdd â ni i'r 'Tri Carw' am ddiod mewn awyrgylch llai ffurfiol na'r dosbarth. Mae'r grŵp yn dod ymlaen yn dda, ac roedd hi'n braf cael siawns am sgwrs yn y fath sefyllfa, heb boeni am be' fydda i'n gwneud nesa yn y gwers, fel sy'n digwydd fel arfer mewn egwyl.

Dwi'n meddwl am addasu'r cwis ar ran y dosbarth nos yfory er mwyn gwneud rhywbeth gwahanol efo nhw, gawn i weld sut eith pethau..

7.12.09

diwedd penod.....

Prin iawn fydd fy amser i flogio'r wythnos 'ma. Dyni wedi cytuno dyddiad 'cwblhad' ar werthiant tŷ fy nhad yng nghyffraith, ac hynny ar ddydd gwener! felly gyda'r holl gwaith arferol i wneud hefyd mi fydd hi'n wythnos go brysur.

A dweud y gwir mae hi wedi bod cyfnod llawn straen, achos gaethon ni ein gwthio braidd i dderbyn dyddiad yn gynt na fasen ni wedi licio, mewn rhan oherwydd y dolig sydd yn agoshau'n reit sydyn erbyn hyn, ond roedd rhaid i ni ystyried sefyllfa'r prynnwyr (sy'n cael eu gorfodi i adael y tŷ eu bod nhw'n ei rentu) dydd gwener. Gyda'r chwaer yng nghyffraith a'i theulu'n byw tipyn o bellter o fan'na, mi roddodd y dyddiad cryn bwysau ar Jill a finnau i fynd amdanhi i wneud y gwaith, ac mae hi wedi bod yn annodd i chwaer Jill i ffindio'r amser i deithio draw i ddweud ffarwell wrth cartref ei phlentyndod, a sortio allan ei phethau ei hun sydd yno o hyd.

Ta waeth, mi fydden nhw'n dod draw dydd mercher (sy'n braf gan bod o'n digwydd bod penblwydd Jill, a fydda i yn y Coleg) er mwyn gwneud pethau munud olaf a dweud hwyl fawr i'r tŷ, mi fydd hi'n diwedd penod.....

3.12.09

Digwydd bod neithiwr ro'n i'n eistedd yn y lolfa yn trio tiwnio mewn i radio 5 ar y teledu er mwyn clywed y 'penalty shoot out' yn y gêm rhwng Blackburn a Chelsea (ennillodd Blackburn), pan sylwais ymhlith y sianeli di-ri sydd ar gael ar Freeview S4C. Be' sy'n rhyfedd am hynny? gallwch chi dweud! Wel mae'r teledu yn y lolfa'n derbyn signal gan hen erial sy'n cyfeirio at trosglwyddwr 'Winter Hill' yn Swydd Caerhirfryn, sy'n dweud rhywbeth am gryfder y signal sy'n ymledu dros y ffin o Foel y Parc.

Yn sgîl y canfyddiad yma, wnes i wylio cwpl o raglenni ro'n i heb eu gweld ar y sianel o'r blaen, sef 'Gofod' a 'Cymru Hywel Williams'. Mae Gofod yn cynnig rhaglen cylchgrawn am deg o'r gloch y nos, amser da am raglen llawn amrywiaeth ac 'agwedd' ifanc a ffres, da iawn S4C. Yng 'Ngymru Hywel Williams' cawn ni weld Hywel yn troedio o gwmpas Cymru a'r byd yn sylwebu ar hanes agweddau gwahanol o bywyd Cymreig boed diwylliannol (fel heno), dywydiannol neu economaidd. Yn y rhaglen heno 'ma, mi feirniadodd yr hanesydd o Lundain y sefydliad Eisteddfodol Cymraeg, a'r dylanwad cryf mae'r mudiad hwnnw yn dal i gael ar bob agwedd o'r diwylliant Cymraeg. Galw iddo fo fod yn llai cul ei agwedd oedd Hywel Williams, rhywbeth wnaeth Saunders Lewis rhai degawdau yn ôl fel glysom ni yn y rhaglen, Unwaith eto da iawn S4C...