20.9.06

rhagleni'r hydref

Dwi wedi weld ychydig o dreilars ar S4C yr wythnos hon ar gyfer rhaglenni 'yr hydref' sy'n swnio diddorol i fi.

Yn cyntaf, y rhaglen am gystadleuaeth 'Dysgwr y Flwyddyn' yn mynd allan nos yfory (nos iau), dwi'n ceisio dal y rhaglen yma pob flwyddyn. Mae 'na gyfres hefyd am wreddiau yr iaith Cymraeg, efo'r 'amlddawnus' Gwyneth Glyn sef 'Taith yr Iaith' sy'n fy nhiddori, yn anffodus wnes i anghofio i'w gwilio hi neithiwr felly mi wna i drio recordio'r rhaglen wrth iddi hi cael ei ailddarlledu ar 'digidol' p'nawn yfory.

Mae rhaid i fi wylio 'Mastermind Cymru' hefyd er mwyn gweld ffrind o Sir y Fflint sy'n gwneud cais yn y 'sedd du'. Ac yn olaf mae 'na gyfres drama o'r enw 'Cowbois a Injans' (neu rhywbeth felly) sy'n edrych dipyn o hwyl yn ol y dreiler y welais i.

17.9.06

Tafarn y Byd

Ychydig o wythnosau yn ol, o'n i'n son y fan hyn am drefnu rhywfath o 'sesiynau sgwrs' ar lein (bois bach, mae 'na ddigon ohonyn ni ar lein y dyddiau yma), felly dwi wedi sefydlu blog newydd - 'Tafarn y Byd' - er mwyn cyhoeddi manylion o unrhyw sesiwn sydd ar y gweill, ac efo'r dolenau priodol at skype ac ati Dwi wedi trefnu skypecast arbrofiadol ar nos fawrdd, felly dewch mewn llu..!

10.9.06

Colwynod Cymreig

Fel sgwennais i ddoe, mi yrron ni lawr i'r canolbarth ddoe er mwyn cael golwg ar dorllwyth o golwynod milgwn bach (whippets). Roedd y taith o dua 90 milltir yn eitha araf ond ddaethom ni o hyd y ffermdy bach ger Trefeglwys ar ol bron dwy awr a hanner o yrru yn y pendraw. Roedd 'na ddeunaw o golwynod yna rhwng dwy dorllwyth, felly roedd dewis un ohonynt yn andros o her. Roedd ychydig o'r eist wedi cael ei gwerthu yn barod, felly dim ond tair ohonynt oedd ar ol felly wedi iddyn ni penderfynu ar 'ci benywaidd' fel petai roedd y dewis yn haws o lawer.

Y problem nesa (ac yr un mwya a dweud y gwir), oedd i ffeindio'r tair sydd dal i fod ar werth, yn enwedig efo deunaw o filgwn bach yn chwarae o gwmpas eich coes. Roedd gen i lun ohonynt efo llythren wrth ymyl i bob un colwyn, ond roedd ein tasg ni o ffeindio'r tair o'r lluniau yn bron amhosib. Pob un wnes i feddwl oedd yn ast oedd yn ddigwydd bod bachgen. Ta waeth efo help 'scanner' a 'meicrochips' sydd ynddyn nhw i gyd, mi lwyddom ni dewis un o'r anifeiliad annwyl. Mi ffydden ni'n dychweled i'w casglu'r colwyn Cymreig 'Layla' ym mhen tri wythnos.

9.9.06

Taith i'r canolbarth

Dyni'n mynd lawr i'r canolbarth y bore 'ma,i ardal Caersws, er mwyn cael golwg ar dorllwyth o whippets (eh up lad) tua pump wythnos oed. Dani wedi bod yn chwilio am gi newydd ers sbel rwan, wedi iddyn ni golli ein 'whippet croes' tua flwyddyn yn ol. Taith o ryw dwy awr ydy hi dwi'n meddwl, felly gobeithio mae popeth yn iawn efo nhw, os mae nhw yn, fydden nhw yn barod i gasglu i mewn tair wythnos. Rhywfath o 'ganolfan achub' ydy hi, yn y mynyddoedd, ond dwi ddim yn meddwl fydd 'na cyfle i siarad Cymraeg yna o brofiad fy sgwrs ar y ffon, swniodd hi dipyn o 'brummie' i mi.

Mi wna i sgwennu mwy ar ol cyrraedd adre...

7.9.06

noson diddorol

dwi ddim yn teimlo bo fi'n cael fawr o amser i sgwennu dim byd ar hyn o bryd, ond rhaid i sgwennu ychydig am y sesiwn sgwrs heno. Mae Dafydd erbyn hyh wedi gadael ei swydd efo menter iaith er mwyn dilyn cwrs PGCE (pob lwc iddo fo), felly heno oedd noson cyntaf Alaw yn gwneud y sesiwn sgwrs. Dim ond y dau ohonyn ni oedd yna nes i 'Mo', cariad Alaw ymuno a^ ni. Boi glen iawn ydy o o Abertawe, ond o Kuwait yn wreiddiol. Mae o wedi dysgu ychydig o Gymraeg, ond mae o'n awyddus i ddysgu mwy chwarae teg iddo fo. Wrth cwrs Arabeg yw ei famiaith ond mai ei Saesneg (acen Abertawe) yn fendigedig, ddylai fo dysgu yn gyflym.

wel dwi wedi blino yn rhacs felly...nos da

2.9.06

ges i fy nghytio...

Dwi'n teimlo eitha gyted wrthi i Gymru gadael gol i mewn yn munud olaf y gem yn erbyn y Weriniaeth Siec. O'n i'n ceisio gwrando ar sylwebaeth ar radio Cymru wrth i'r teulu gwilio'r ffycin 'Marias'(glywais i un ohonyn yn siarad Cymraeg ar raglen jonsi gyda llaw) yn gwneud eu stwff ar y teledu (mae Lloyd Webber yn ofnadwy o iasol 'tydi) a ches i ddim lot o cydymdeimlad wrth i mi wneud swniau o 'fod yn gyted' ar ol y chwiban olaf :(

Yr unig pwynt da.. o'r hyn wnes i glywed perfformiad da oedd hi.