29.12.11

teledu'r wy^l a ballu....

Blwyddyn Newydd Dda i bawb sy'n dilyn y blog 'ma.   Gobeithio gewch chi flwyddyn llewyrchus a hapus!

Dwi wedi gwneud un adduned bach, a hynny i ymdrechu darllen un llyfr Cymraeg pob mis dros y deuddeg fis nesa, felly gawn ni weld am ba hyd wneith hynny parhau.

Mae'r flwyddyn diwetha wedi bod yn un mawr mewn gwirionedd (a drud!), gyda Jill a finnau'n dathlu penblwyddi 'mawr', yn ogystal a dathlu penblwydd priodas arian hefyd.  Mae'r tri ffigwr yn wneud cyfanswm o 125 mlynedd, wna i adael i chi wneud y 'syms'!!

O ran fy astudiaethau Cymraeg, dwi'n edrych ymlaen at gwrs ysgrifennu creadigol yn Nhy Pendre ym mis ionawr gyda Aled Lewis Evans, yn ogystal a mynd i Nant Gwrtheyrn ar gwrs 'hyfrededd' ym mis chwefror (gobeithio! - hynny yw os mae digon wedi cofrestru i gynnal y cwrs), neu efallai yn y gwanwyn.

Rhaid i mi ddweud mod i wedi mwynhau yn fawr iawn nifer o raglenni S4C dros cyfnod y nadolig.
Nad ydw i'n ffan mawr o sioeau 'adloniant' y sianel fel y cyfriw, hynny yw pethau fel 'Noson Lawen', neu sioeau 'Rhydian' ac 'OMA'.  Maen nhw'n ymweld i mi braidd yn 'ailradd' o gymharu i sioeau Saesneg yn yr un genre,  ond dwi'n derbyn bod 'na gynulleidfa yn barod i'w gwylio.
 Son ydwi am bethau fel 'Orig', y ffilm am Richard Burton, a'r ffilm ardderchog am brofiad Richard Harrington yn chwarae rhan Burton.  Mae ein sianel Cymraeg annwyl ni'n yn gallu wneud rhai pethau cystal ag unrhyw sianel.   Mae hyd yn oed 'Pryd o Ser Dudley' wedi bod yn 'wyliadwy' iawn, gyda golygu a chynhyrchu crefftus a chriw o 'selebs' digon dymunol,  Da iawn S4C.

Mae'r ipad wedi bod yn chwyldroadol a dweud y gwir yn y ffordd mod i'n gwylio'r sianel gyda 'app' S4Clic yn gynnig ffordd syml a dibynadwy o ddal i fyny efo cynhyrch y sianel unrhywle yn y ty, hyd yn oed y ty bach!!

hwyl am y tro...

28.12.11

'Strydoedd Cymreig' Cilgwri...

Mae strydoedd Cymreig Lerpwl yn y Dingle, 'The Welsh Streets', wedi cael cryn dipyn o sylw yn ddiweddar (yn bennaf oherwydd cysylltiad y Beatles) wrth i Gyngor Lerpwl cynllunio i ail-datblygu'r ardal. Gaeth lot fawr o dai ochr yma i'r Mersi eu hadeiladu gan Gymry hefyd wrth gwrs, felly meddwl roeddwn i un diwrnod - wrth yrru heibio i Mona St - faint o 'strydoedd Cymreig' sydd yng Nghilgwri?

Un o strydoedd Cymreig Penbedw
Digwydd bod mae 'na restr hirfaith o strydoedd y penrhyn ar gael ar y we, felly wnes i ddechrau pori trwyddo fo (peth trist i wneud dwi'n gwybod!), a hyd yma dwi wedi ffeindio tua 80! siwr o fod mae 'na ragor.

Ges i syniad wedyn, i dynnu llun ohonyn nhw i gyd a gwneud rhywfath o lun 'montage'... dwi'n gwybod bod hyn yn swnio braidd yn obsesif, ond sdim ots, y bwriad ydy i fynd ar daith beicio a thynnu ychydig o luniau pob wythnos neu pythefnos ella, neu dynnu llun os dwi'n digwydd bod yn pasio, gawn ni weld!
Yr unig 'stryd Cymreig' dwi wedi darganfod yn West Kirby hyd yma

Os dachi'n gallu helpu trwy dynnu llun o arwydd stryd Cymreig yng Nghilgwri a'i e-bostio ataf, faswn i'n ddiolchgar iawn!



21.12.11

Damcaniaeth ar chwal...

Ges i neges diddorol yr wythnos yma gan aelod o fy nosbarth nos yn dweud ei fod yn gallu esbonio  'cyfrinach' y capel ym Mhenbedw.  Fel perianydd sifil mae o'n cyfarwydd â'r arwydd sydd wedi ei gerfio ar bostyn giât yr hen gapel briciau cochion, a dim byd i wneud efo'r Orsedd ydy o, ond yn hytrach 'benchmark' yr Arolwg Ordanans, sy'n dynodi uchder lleoliadau dros lefel y mor!!  Nad ydy'r symbolau yma'n cael eu defnyddio bellach, ond mae 'na gofnod o'r un yma yn cael ei gwirio gan yr OS  1961.

Er hynny, a diolch i ymchwil Gary, dwi'n gallu cadarnhau y buodd capel Claughton Rd yn gapel Cymraeg cyn i'r eglwys presennol (Emmanuel) cymryd drosodd yn 1918.  Ar fap OS o 1911 mae'n ei alw'r adeilad 'Free Ch. (Welsh)', ond erbyn 1936 mae'r map yn cofnodi bod enwad yr adeilad wedi newid.  Dwn i ddim faint o enwadau 'rhydd' a fodolodd canrif yn ol, ond buodd capel yr Annibynwyr llai na hanner milltir o Claughton Rd yn dyddio yn ol i 1844, a chapel mawr y Presbyteriaid yn Parkfield dim ond rownd y cornel.  Mae'n bosib felly capel y Methodiastiad Weslyaidd oedd o? ond rhaid wneud mwy o ymchwil,  neu ofyn i Dr D. Ben Rees wrth gwrs!

17.12.11

scribl am scrabl....

Mae'n peth amser ers i mi bostio ar y blog yma, er i mi sgwennu ambell i beth a'u cadw fel drafft.  Dwn i ddim pam, ond ella mod i wedi bod yn ceisio sgwennu traethawd yn hytrach na jysd rhoi pethau bach ymlaen (sy'n syniad gwell tybiwn i!).  Ta waeth, ella mi dria i orffen ambell i un o'r drafts rhywdro, gawn ni weld.

Dros yr wythnos yma dwi wedi bod yn brysur trio gorffen cwpl o jobsys cyn y dolig, ac hefyd dysgu fy nosbarthiadau nos olaf y flwyddyn. Sgwennais i bwt ar Ddysgwyr Cilgwri am y rheiny.

Ges i fy ngem cyntaf o Scrabble Cymraeg hefyd, hynny yw fersiwn ar-lein ohono, sydd ar gael i ddefnyddio am ddim ar wefan www.wabble.org   

Diolch i Ro am y gem, ac er i ni gael ambell i anhawster technolegol, gaethon ni hwyl dwi'n credu, a ddysgais i nifer o eiriau newydd.   Dwi am ei drio fo eto cyn hir ( a Ro hefyd gobeithio), ond mae 'na le i bedwar o amgylch bwrdd Scrabl cofiwch!  a fasai hynny'n rhoi mwy o amser i ni feddwl am y gair nesaf hefyd! 

Dwn i ddim os problemau'r meddalwedd oedd gwraidd ein anhawsterau wrth chwarae, ond mae 'na fodd rhoi adborth i ddatblygwr y gem, felly gobeithio wneith pethau gwella dros amser.