Nos Lun diwetha mi es i i gyfarfod Cymdeithas Cymry Penbedw efo criw o ddysgwyr Cilgwri i
gyflwyno'r sgets a wnaethon ni yn Eisteddfod y Dysgwyr yn ôl ym mis Mawrth,
yn ogystal a cherdd ysgafn Geraint Lôvgreen, 'Bocsys Byrgars McDonalds'!
Roedd 'na griw go lew yno ar y noson, gan gynnwys nifer o ddysgwyr o ddosbarth West Kirby, sy'n cyfarfod pob wythnos o dan arweiniad Tom Thomas llwydd y Gymdeithas eleni. Wnaethon nhw gyflwyno darn difyr iawn yn edrych ar y wahaniaeth rhwng tafodiaethau Cymru, a'r 'her' sy'n gwynebu dysgwyr o'u herwydd.
Roedd croeso'r gymdeithas yn wresog, a'r perfformiadau yn dda iawn, yn enwedig o ystyried bod tua chwech mis wedi mynd heibio ers i ni eu cyflwyno'r tro diwetha. Ar ôl y cyflwyniadau wnaeth pawb mwynhau sgwrs, paned a raffl cyn dweud nos da. Noson gwerth chweil, a diolch i bawb a gymerodd rhan.