22.2.06

Taliad...!

Mi ges i syndod braf heddiw, hynny yw taliad o pumtheg punt dros cyfrannu ar 'Taro'r Post'!
Wedi meddwl amdanhi, ges i galwad ffon oddi wrth Mia (ymchwilydd ar y rhaglen) yn gofyn am fy nhgyfeiriad ar ol i mi ymddangos ar y rhaglen a mi ddwedodd hi roedden nhw mynd i fod yn anfon rhywbeth am fy nrafferth. A dweud y gwir ro'ni'n disgwyl rhyw pecyn Radio Cymru neu grys-t falle, ond nac ydy, taliad go iawn oedd hi. Dwi'n edrych ymlaen at sieciau arall am y dwy wythnosau eraill erbyn hyn, ond mae rhaid i mi cadw y 'dayjob' yn anffodus.

20.2.06

Eistedd ar y fainc...

Dros y tair wythnos diweddera, ro'n i wedi cael y profiad o fod ar fainc y rhaglen 'Taro'r Post' pob dydd llun. Fel dysgwr yr iaith 'ma ro'n i'n braidd yn nerfus ar ol derbyn y gwahoddiad (ro'n i wedi siarad ar y rhaglen unwaith o'r blaen ond ddim 'yn fyw' fel petai). Heb waith galed y golygydd sut faswn i'n swnio....! Mae'r rhaglen yn cael ei darlledu dros amser cinio, yn trafod unrhyw pwnc o ddan y haul, rhywbeth yn y newyddion neu o ddidordeb penodol i un o'r gwrandawyr (dychi'n gallu rhoi eich barn o'r 'bocs sebon'). Mae'r aelodau y fainc yn cael eu dal ar y lein er mwyn dweud eu dweud ar y pynciau dan sylw (falle os neb arall wedi ffonio..!) o bryd i'w gilydd yn ystod y rhaglen. Dych chi'n cael wybod am y pynciau cyn i'r rhaglen yn mynd allan i rhoi amser i chi i feddwl am farn amdanhi. Y pynciau ddoe oedd ' Fliw adar', Rygbi (eto..gwych), ac prisiau nwy. Dwi ddim yn berson i weiddi fy mharn o'r to fel arfer, yn enwedig yn y Cymraeg, ond mae hi wedi bod profiad diddorol iawn i feddwl o ddifri am y pynciau, ac heb os mae fy nhgymraeg wedi gwella trwy'r profiad.

19.2.06

Gwynt y Mor



Ro'n i'n meddwl wrth sbio ar y llun mi wnes i bostio o'r golygfa dros Aber Dyfrdwy am y melynau gwynt sy'n rhan o'n tirlun erbyn hyn.

Mae'r fferm wynt 'North Hoyle' yma mewn golwg hawdd o'r arfordir gogledd Cilgwri (jysd tu cefn i Ynys Hilbre ar y llun yn fy mhost diweddarach am yr alarch). Mae'r dadl am y ffermydd bod nhw yn bwriadu codi ar hyd arfordir y Gogledd yn dechrau poethi rwan ('Gwynt y Mor' ger Llandudno yw'r un dan sylw ar hyn o bryd), ewch i'r tudalen yma er mwyn weld sut gallai hi edrych yn cymharu i'r eraill sydd yna yn barod neu sydd mewn y pibell hefyd: http://www.npower-renewables.com/gwyntymor/pdfs/gymphotomontages.pdf

Wedi byw mewn golwg o North Hoyle ers cwpl o flynyddoedd rwan, rhaid i mi dweud dwi ddim yn weld llai o bobl yn dod draw i West Kirby (lle poblogaidd iawn am 'trip dydd' ar Lannau Mersi) er mwyn cerdded o gwmpas y llyn morol neu mynd am daith i Hilbre. O bellter yr arfordir mae nhw yn edrych fel grwp o cychod hwylio i mi, ac mewn gwirionydd mae'r rigiau nwy allan yn y bae yn edrych llawer mwy hyll. Ar rhan y Gogledd, mae'r arfordir yna wedi cael ei ysbeilio ers talwm drwy gorddatblygiad a hyllbeth fel 'Wylfa' ac 'Y Rhyl'........

15.2.06

Dick Roose

Dick Roose, neu Dr.Leigh Richmond Roose oedd perthynas pell i fi (cefnder fy Nhaid)a chwaraeodd peldroed (rhwng y pyst) dros Cymru a nifer golew o glwbiau mawr y cyfnod gan cynnwys Arsenal, Everton a Stoke. Dwi wedi clywed fy Mam yn son amdanhi ers o'n i'n ifanc ond heno mi ges i'r pleser o'i weld o yn chwarae dros Cymru ar Rhaglen 'Wedi 7'. Dim ond eiliad neu ddau oedd o ar y sgrin, ond mae'n anhygoel i weld y lluniau du a gwyn a chafodd ei ffilmio yn ol yn 1906. Mae'r ffilm yn cael ei chadw erbyn hyn lawr yn Aberystwyth yn yr archif ffilm genedlaethol dwi'n credu ar ol a chafodd ei ddarganfod yn 1997. Roedd yr eitem Wedi 7 yn ceisio tynnu sylw at y ffaith bod canmlwyddiant y ffilm unigryw yma yn cael ei dathlu yn y Cae Ras yn Wrecsam. Mae'r trefnwyr yn gobeithio cynnal gem rhwng timau plant s'yn cynhyrchioli Cymru ac Iwerddon (yr un un gwledydd a chwaraeodd yn ol yn 1906), a chodi plac i nodi'r ffaith. Mae nhw'n gobeithio cael perthnasau'r chwaraewyr oedd yn y gem gwreiddiol yna er mwyn helpu dathlu. Bydda i'n hapus i foddio (oblige?) a dweud 'Iechyd da Dick Roose'. Cymeriad a hanner yn ol pob son!

Mae Wedi 7 ar gael erbyn hyn 'ar alw' ar:
www.wedi7.com

14.2.06

Ymddiswyddiad Mike Ruddock

Dwi newydd cael dipyn o sioc wrth darllen gwefan BBC Cymru. Mae Mike Ruddock wedi ymddiswyddo dros rhesymau teuleuol.

Does bron neb ohonyn ni yn gallu deall y fath o bwysau sydd ar rywun mewn swydd fel hyn. Mae rhaid iddyn ni gobeithio rwan bod 'na rhywun arall yn ddigon dawnus ac yn barod i lenwi ei sgidiau. Wrth rheswm fydd yr hogiau yn gwneud eu gorau dros gweddill y chwe gwlad er mwyn parchu'r gwaith anhygoel mae o wedi gwneud dros tim rygbi Cymru.

Alarch ar goll




Go brin yw'r adegau dyn i'n cael weld elyrch yn West Kirby, ond ar y bore braf yma, gan bod yr olygfeydd mor glir, mi yrrais i lawr y prom ar y ffordd i'r gweithdy. Yna mi sbiais i alarch yn eistedd ar ben ei hun ar y lon sy'n cynnal at maes parcio'r llyn morol.

Yn y pellter dychi'n weld Ynys Hilbre sy'n gwarchod mynedfa at aber yr Afon Dyfrdwy.

Yn y llun arall dyma'r golygfa dros i arfordir Sir Ddinbych a'r Gogarth tu hwnt. Dyw'r fferm wynt tu cefn i Ynys Hilbre ddim yn sefyll allan mor glir ar camera y ffon lon yn anffodus!

12.2.06

Poster

blogwr rhan amser....

Mae cymaint o bethau wedi bod yn digwydd yn ddiweddar, a dyma fi heb ddigon o amser i flogio amdanyn!

Nos wener roedd noson 'Eisteddfod y Dysgwyr' draw yn Yr Wyddgrug. Roedd 'Clwb y Cyn Filwyr' (dim ond £1.30 am beint!) yn llawn am yr hwyl!? Mi ges i gais yn y llefaru ('Mae'r Byd yn Fwy na Chymru' gan T.E. Nicholas) ond collais i fy ffordd yn ystod y pennod cyntaf ac roedd rhaid i fi ymestyn yn fy mhoced er mwyn ffeindio'r geiriau! Mi wnes i ddim dod yn ol o'r drychineb yna a cholais i fy hyder yn llwyr, perfformiad ofnadw!

Mi wnes i'n well yn y cystadleuaeth sgwennu brawddeg yn defnyddio pob llythyr o'r gair 'Eisteddfod', tasg llawr mwy annodd na fasech chi'n meddwl falle. Fy nhgais :
Esboniodd Iwan seithwaith triongl ei ddwy fenyw o Dalybont.... ennillais i docyn llyfr werth pum punt o Siop y Siswrn am hynny ac un arall dros cynllunio poster er mwyn annog pobl i ddechrau dosbarthiadau Cymraeg . Roedd hi'n braf i weld cymaint o bobl yna a ches i gyfle i siarad efo cyfeillion newydd ac hen.