30.8.06

Heledd yn cael eiliad Meg Ryan..


Cipiais i'r llun yma tra wylio wedi 7 yr heno 'ma, pan wnes i sylwi roedd Heledd yn edrych braidd yn 'ecseited' yn adran ei bronnau fel petai. Oce, mae hyn yn ofnadwy o blentynaidd, ond tra sbio arni yn hwyrach, wnes i sylwi roedd golwg fel rhywbeth allan o olygfa enwocaf Meg Ryan ar ei hwyneb hi...

Yn ogystal a^ Heledd Cynwal, fasai'n werth ei weld heb unrhyw gwesteion a dweud y gwir, cawson ni'r pleser o weld Angharad Bryn a Huw Chiswell yn gwneud deuawd o'r can 'Baglan Bay', gwych.

29.8.06

Tafarn ar lein...

Dwi wedi bod yn meddwl ers sbel rwan am greu rywfath o 'dafarn ar lein' er mwyn cyfarfod a siaradwyr Cymraeg eraill am beint neu ddwy. Dwi'n teithio draw i'r Wyddgrug (taith o dua 25 milltir) pan dwi'n gallu nos iau, ond dwi'n sicr bod y tecnoleg yn bodoli yn barod er mwyn gadael iddyn ni creu tafarn 'virtual' i ddysgwyr mwy profiadol cael ymarfer efo Cymry Cymraeg a dysgwyr eraill. Yn sicr, fydd 'na raid iddyn ni ddarparu ein diodydd ein hunan ond pam lai dod a^ chriw o bobl gyda eu gilydd yn y fordd yma am sgwrs.

Dwi wedi lawrlwytho 'Skype' sy'n honni cael y tecnoleg er mwyn gwneud 'Skypecast' sy'n rhywfath o offer i'ch helpu chi creu sgwrs rhwng cymaint a chant o bobl ar yr un pryd. Dwi wedi bod mewn ambell Skypecast and mae'n ymddangos bod y peth yn gweithio i raddau (mae'r 'host' yn gallu rheoli faint o bobl sy'n cael meics 'ar agor' ar yr un pryd - rhywbeth sy'n effeithio safon y swn dwi'n meddwl), ond mae unrhywun yn gallu tynnu sylw y host er mwyn iddyn nhw agor eu meic. Mae Skype yn rhad ac am ddim a dwi wedi cael y peth ar fy nghyfrifiadur ers flwyddyn heb problemau.

Felly mae gen i ychydig o gwestiynau i unrhywun a^ diddordeb:

Oes gynnoch chi unrhyw noson ar gael er mwyn arbrofi efo Skypecast?

Wyti'n gwybod unrhywun system arall sy'n gwneud yr un peth yn well?

Wyti'n meddwl mae'n syniad call...?

Dwi'n byw ym Mhrydain felly dwi'n meddwl am rhywbryd yn ystod y nos (21.30-22.30 falle)

28.8.06

Dychweled y boi o Flaenau

Fel mae bron pawb yng Nghymru yn gwybod erbyn hyn mi ddychwelodd y Glyn Wise enwocaf ym Mhyrydain i'w fro ym Mhlaenau Ffestiniog dros y penwythnos. Fel fasech chi yn disgwyl mi gafodd o andros o groeso gan bobl Blaenau, ei ffrindiau a'i theulu. Yn ol yr hyn a daeth ar draws ar y teledu ar y radio, dydy o ddim wedi newid gormod trwy ei brofiadau ymhlith y pobl a bronnau ffug yn y ty. Dwi'n gobeithio mae ganddo fo asiant da sy'n mynd i edrych ar ei ol o wrth i'r cyfryngau yn trio gwneud arian allan ohono fo, ac fydd o'n 'cyflawni addewid ei enw' fel petai... amser a ddengys.
Dwi'n edrych ymlaen at ei glywed o'n siarad ar raglen jonsi.

blog clywedig

Ychydig o eiriau am y penwythnos...


powered by ODEO

22.8.06

cloeriau (neu 'cypyrddau cloi')

Dwi wedi bod wrthi y wythnos 'ma yn adeiladu canoedd o gloeriau mewn stafelloedd newid clwb golff lleol. Mae'n y fath o waith dwi'n gwneud o bryd i'w gilydd, ac a dweud y gwir mae'n talu yn lot well nag unrhywun job arall dwi'n gwneud (tydi hynny ddim yn dweud lot!), ond ni faswn i'n hoffi eu gwneud nhw trwy'r amser.

Mae gweithio mewn clybiau golff yn gallu bod dipyn o hwyl, yn enwedig gan bod nhw'n llawn o reolau dwp. Fel rhywun sy'n gweithio yn y lle does dim rhaid iddyn ni ddilyn y rheolau wrth cwrs, ac er bod hi'n eitha plentynaidd falle dwi'n mwynhau crwydro yn araf o gwmpas y lolfa yn edrych yn ofnadwy yn anhrefnus (fel arfer) yn gwisgo jins, crys-t a 'threiners'. Yn ol arwydd yn y maes parcio nad ydy pobl yn gallu newid eu sgidiau yna... pam?

Mae'e aelodau wedi dechrau yn barod dod i mewn i'r stafelloedd newid (ar gau)er mwyn sbio ar y waith sy'n mynd ymlaen yna, ac mae gan bron pob un ohonyn barn wahanol am y cloeriau newydd, "Mae nhw yn lot llai na'r hen locers" (mae nhw yn fwy), neu "Mae 'na lai ohonyn nhw nag o'r blaen" (mae 'na fwy). Dwi'n jysd cadw fy mhen i lawr gan bod nhw yn mynd reit ar fy nherfau yn y pendraw, ac does 'na ddim modd o blesio pawb.

21.8.06

neges hanner y nos...

diolch am ymateb... ymddiheuriadau dros y 'crwydro clywedol' 'ma..


powered by ODEO

Send Me A Message

20.8.06

awdioflog 'odeo'


powered by ODEO

Fasai'n braf cael clywed unrhywbeth yn ol er mwyn siecio bod popeth yn iawn...


Send Me A Message

18.8.06

Glyn

Dim ond neges byr i ddweud.. Parch mawr i'r hogyn o Flaenau Glyn Wise, seren ydy o. Cafodd o ei foment mawr a chymerodd. Mewn canol y fwrlwm a chyffro o ddod allan o dy y brawd mawr, dyna Glyn yn dweud ei ddweud am ei iaith a'i ddiwylliant, hyd yn oed Davina yn siarad Cymraeg yn y pendraw. Pob lwc iddo fo..

12.8.06

blogs rhyw....

Tra ddarllen y 'Gaurdian' dydd gwener tynnodd penawd y G2 fy sylw yn syth... 'Revealed! Britains best selling sex blogger'. Wel wrth cwrs mi es i'n syth at y tudalen perthnasol i ddarllen mwy, ac wedyn yn syth at www.girlwithaonetrackmind.blogspot.com

A dweud y gwir teimlais i fel atal blogio yn syth....naddo, dim i wneud hynny!... ond gan bod y blog yma yn mor ffycin diflas. Wrth cwrs, taswn i ddechrau sgwennu blog 'rhyw', mi fasai hynny yn eitha diflas hefyd, yn cymharu i'r 'ferch efo'r meddwl un trac', chwarae teg iddi hi :) ond oes 'na ffasiwn peth a 'blog rhyw Cymraeg' tybed..

3.8.06

gwyliau

Dwi ddim yn mynd i gael cyfle i flogio yma am sbel bach ar ol yfory. Dyni'n mynd i ffwrdd ar ein gwyliau i 'Gogleddhymberdir'(Northhumberland. Dyni wedi aros yn yr un llety o'r blaen, sef apartment pum seren eitha moethus (wel mae'n newid o adre 'does!) mewn hen felin reit ar yr arfordir yn agos at Lindesfarne.

Felly dalia ati, beth bynnag bod chi'n licio gwneud, ac mwynheua'r eisteddfod os ti am fynd..