28.12.10

Blog olaf y degawd...?

Cwestiwn dadleuol mae'n debyg yw pryd yn union mai degawd, canrif, mileniwm yn dod i ben.  Dwi'n cofio adeg yr holl hylabalw lawr yn y Dome i ddathlu'r mileniwm bod rhai'n dadlau nid dechrau'r mileniwm newydd oedd 01.01 2000 o gwbl, ond  01.01.2001.  Yn dilyn y dadl yna ydw i, wrth enwi'r post yma, tra bendroni os ar fin dweud tata wrth degawd yr ydyn ni yn y dyddiau nesaf, neu dim ond y blwyddyn. Mi fyddech chi wedi sylweddoli erbyn hyn fy mod i wedi drysu'n llwyr, ond mewn gwirionedd beth yw'r ots!

Wedi drysu'n lllwyr ydw i hefyd o bryd i'w gilydd ynglyn á fy Nghymraeg.  Dwi'n gwybod - ac yn hapus i gyfadde - fy mod i'n siarad lobscows o'r hen iaith 'ma.  Dwi ddim yn perthyn i unrhyw 'bro' Cymraeg - er gallwch chi ddadlau buodd fro yn fan hyn ar Lannau Mersi, tua 80 o flynyddoedd yn ól (pen llanw Cymriectod Lerpwl ar ran niferoedd o siaradwyr Cymraeg - a llawer o'r rheiny wedi eu geni yn fan hyn).  Mewn erthygl yng nghylchgrawn Barn y mis yma (sy'n edrych a theimlo'n ardderchog yn ei newydd wedd gyda llaw!)  mae D. Ben Rees yn son (ymhlith pethau eraill) am enedigaeth y cerdyn Nadolig Cymraeg, ac hynny yn Lerpwl yn 1909, a'r ffaith a drodd y cardiau i rai dwyieithog o fewn cenhedlaeth er mwyn apelio at y cenhedlaethau nesaf, hynny yw'r rhai ddi-gymraeg neu ansicr eu hiaith.   Os unrhywbeth, mi dria i fabwysiady peth o dafodiaeth Sir y Fflint/Sir Ddinbych, ardaloedd dwi'n teimlo'n agos atynt yn deuleuol ac yn ddaearyddol, ond mae 'na elfennau o Gymraeg Radio Cymru yn cropian mewn i'r hyn sy'n gadael fy ngheg mae'n siwr!
Felly wrth i mi ymdrechu i wella fy Nghymraeg, a cheisio trosglwyddo ychydig i'r dysgwyr eraill fy mod i'n eu tiwtora, dwi'n ffeindio fy hun mewn penbleth rhywsut.   Dwi'n ymwybodol erbyn hyn wrth gwrs o'r 'iaith ffurfiol/llenyddol' hefyd, cywair Cymraeg nad ydw i wedi maeddu son amdano i'r rhai dwi'n eu dysgu hyd yn hyn, rhag ofn i mi godi gormod o fraw arnyn nhw!  Dwi'n ymwybodol hefyd bod rhai ohonynt wrth reswm yn trio darllen pethau Cymraeg, ac yn dod ar draws y cywair hwn... yn ei holl ogoniant, ac heb ddeall fawr ddim yn aml iawn!  Dwi'n trio sbio yn ól er mwyn cofio sut a ddeliais i efo'r 'her' yma, gan mod i'n cofio ymdrechu wneud synnwyr o gopi o hen glasur Cymraeg yn fuan ar ol i mi ddechrau dysgu (am y tro cyntaf).  Rhoddais y ffidl yn y to dwi'n credu, am  gryn nifer o flynyddoedd hefyd!

Un peth wrth gwrs yw dod i ddeall y ffyrdd gwahanol o ysgrifennu yn y Gymraeg, peth hollol wahanol yw gwybod sut a phryd i'w defnyddio (rhywbeth a fydd yn amlwg i'r ychydig ohonoch chi gyda digon o amynedd i gyrraedd y pwynt hon yn y post 'ma..!). Erbyn hyn mae fy Nghymraeg ysgrifenedig yn adlewyrchu'r un fath o 'lobsgows' a'r  iaith fy mod i'n ei siarad mae'n siwr, ond rhan o'r proses o ddysgu yw hyn yn y pendraw am wn i.. gobeithio.

Amser am adduned y flwyddyn newydd.... neu ddau

27.11.10

Digon oer i rewi......

Y traeth rhwng West Kirby a Hoylake - tydy'r llun ddim yn trosglwyddo'r oerni o gwbl!

Mi es i lawr i'r traeth efo'r ci tua hanner awr wedi tri'r p'nawn 'ma.  Roedd hi'n digon oer i rewi pob math o anifeiliaid, boed brain, cathod neu llyffantod (mae'n ymddangos bod gen ti ddewis o nifer o greaduriaid i gynnwys yn yr ymadrodd hyn!).   Dwi'n hoff iawn o dachwedd, adlewyrchiad efallai o'r ffaith fy mod i'n fwy o berson yr hydref na'r haf.  Dwi ddim yn mwynhau gormod o wres, neu ormod o oerni, felly yn yr hydref a'r gwanwyn teimlaf yn fwy cyfforddus.   Wedi dweud hynny, dan ni'n ddigon ffodus i fwy mewn ty gyda gwres canolog yn ogystal a lle tan agored, lle gawn ni losgi'r holl ddarnau sbar o bren a gynhyrchwyd gan saer coed pan dymunon ni (megis heno!).  Dwi'n tybio nad oes y gaeaf yr un mor apelgar i'n cyndeidiau yn yr oesoedd a fu.. neu i anffodusion yr oes sydd ohoni.

22.11.10

Pethau dwi'n darllen ar y funud...

Dwi'n dal i ddarllen am fywyd 'Owen Rees', ac yn dod i ddeall ychydig am ról y capeli ym mywydau Cymry Lerpwl tua canrif a hanner yn ól. Er cyfrol braidd yn drwchus yw 'Owen Rees - A Story of Welsh Life and Thought', mae'n cymharol hawdd i'w ddarllen, ac dwi'n mwynhau'r darlun bod yr awdur (Eleazer Roberts) yn ei beintio o fywyd teuleuol y cyfnod.

Mae Mam Owen yn ddynes garedig a ffyddiog, sy'n glwm a'i chapel, un o nifer yn 'nref' Lerpwl oedd yn perthyn i'r 'Hen Gorff', sef y Methodistiaid Calfinaidd.  Roedd yr amrywiaeth o enwadau'n poeni am ddylanwad y dinas fawr ar y Cymry alltud, a ran o'u dyletswydd yn ninasoedd mawr Lloegr (a Chymru) oedd eu gwarchod rhag atyniadau 'gwrth-cristnogol' llefydd felly.  Gafodd Gymry cyfle i fynychu nifer o ddigwyddiadau'n ystod yr wythnos, yn ogystal (wrth reswm ag oedfeydd y Sul, rhywbeth a wnaeth y mwyafrif ohonynt yn ól cofnodion yr eglwysi. 

Mae'r llyfr yn bwrw golau hefyd a rheolau llym yr eglwysi adeg hynny, a'r ffordd yr oeddynt yn barod i gosbi'n hallt aelodau nad oedd yn dilyn eu dehongliad penodol nhw o'r Beibl.  Mewn un achos a ddisgrifwyd, mae aelod o gapel Owen yn cael ei 'yrru' o'r eglwys gan ei fod wedi derbyn swydd a allai fod yn galw arno i agor gatiau dociau ar y Sul.  Mae dadl yn codi ymhlith rhai aelodau a blaenwyr y capel ynglyn á pha swyddi sy'n hanfodol i'w gwneud ar y saboth.   Mae un aelod yn cyfeirio at arferiad un o'r flaenoriaid o gael ei yrru at y capel mewn cerbyd gan un o'i weision ar ddiwrnodau glawiog.  Cyn hir mae'r gweinidog awdurdodol yn dod á'r dadleuon i ben trwy alw am bleidlais, ac yn 'cyfeirio' at y canlyniad yr hoffai ei weld.  Mae'r docwr druan yn colli'r dydd ac yn gadael ei gapel wrth gwrs.

Yn son am lyfrau, dwi newydd dod o hyd i fersiwn ar lein o 'Hanes y Wladfa' (pwnc arall sy'n fy ymddiddori), ac wedi ei lawrlwytho at y ffo^n.  Digwydd bod dyma destun dau llyfr a  gafodd gyhoeddusrwydd ar Wedi 7 heno.  Y gyntaf oedd llyfr 'bwrdd coffi' Mathew Rhys am ei daith ar gefn ceffyl dros y paith ym Mhatagonia, a'r llall yw hanes y rhai a deithwyd yno ar y Mimosa a llongiau eraill, yr enw dwi'n meddwl oedd 'Stori'r Wladfa'.  Mae gen i ychydig o bethau i roi ar fy rhestr dolig beth bynnag!

16.11.10

7.11.10

Ystadegau... ond pwy i gredu?

Roedd 'na erthygl diddorol yn y Western Mail yr wythnos yma, gyda S4C yn amddiffyn eu ffigyrau gwylio, sy'n dangos cynydd bach yn y nifer o wylwyr i raglenni Cymraeg o gymharu i 2009.  Maen nhw'n dangos hefyd y niferoedd sy'n gwylio dros y ffin (y tro gyntaf i mi weld ystadegau ynglyn á hyn), ffigwr arall sydd wedi tyfu.   Datgelodd Jeremy Hunt, fel ateb i gwestiwn AS o Gymru bod ffigyrrau gwylio'r sianel wedi eu hanneri dros cyfnod o bum mlynedd, ond cyfnod o newid mawr oedd hyn, a welodd y sianel yn rhoi'r gorau i ddarlledu rhaglenni poblogaidd Saesneg ymhlith yr allbwn Cymraeg. Dwedodd Hunt wrth ddefnyddio'r ffigyrrau yna ei bod o wedi wneud yn dda dros S4C!  Mi faswn i'n licio ei weld o'n gorfod ateb cwestiwn arall yn sgil datgeliad y ffigyrrau manwl...

6.11.10

Owen Rees, A Story of Welsh Life and Thought...

Mi ddarganfodais lyfr arall o ddiddordeb i siaradwyr Cymraeg tu hwnt i Gymry'r wythnos yma, sef nofel sy'n adrodd hanes Cymro a fagwyd yn Lerpwl yn ystod ail hanner y pedwaredd canrif ar bymtheg. Dwedais 'ddarganfodais', ond dylwn i wedi dweud 'darllenais amdano' mewn llyfryddiaeth llyfr sy'n dilyn hanes Cymry'r Glannau.  Mae 'Owen Rees, A Story of Welsh Life and Thought' gan Eleazar Roberts yn swnio fel teitl braidd yn anhysbys, ond wrth i mi 'Googlo' fo ges i syndod i gael hyd i nid yn unig copi newydd ar gael trwy Amazon, ond copi digidol yn fan hyn

Ar ól darllen ychydig ohono ar y we, penderfynais mae digon o ddidordeb gen i i fuddsoddi mewn copi 'caled' fel petai, rhywbeth mi wnes i y bore 'ma tra archebu llyfr arall.  Mae'r nofel yn swnio'n diddorol o safbwynt y disgrifiadau o agwedd ffrind gorau Owen Rees (sy'n ei alw fo Taffy wrth rheswm!) tuag at y Gymraeg, a phresenoldeb cryf y Cymry yn ei ddinas. 

Yr unig peth od yw clawr y llyfr (yn ol y llun ar wefan Amazon ta beth).  Mae'r llun yn dangos beic yn bwyso ar wal anhysbys, sy'n edrych fel unrywle ond Lerpwl canrif a hanner yn ol!  Ond ar glawr y fersiwn clawr caled sydd ar gael hefyd, mae 'na lun o dywyni yr anialwch!?  Dwi'n credu bod  'stoc pictiwrs' ydy'r rhain, achos welais i'r un llyfr o feic ar lyfr arall yn y cyfres o ail-argraffiadu maen nhw'n perthyn iddo.

Ta waeth dwi'n edrych ymlaen at ddarllen mwy o'r hanes pe bynnag llun sydd ar y clawr!

4.11.10

Espedwarec...

Fel dyni i gyd yn gwybod, dydy pethau ddim wedi bod yn rhedeg yn esmwyth i S4C ers sbel rwan, gyda phethau'n dod i ben llanw gyda ymddiswyddiad di-rybudd prifweithredwraig y sianel yn ól ym mis gorffenaf.  Ymddiswyddwyd hefyd Rhian Gibson, cyfarwyddydd gyda chyfrifoldeb dros gomisiynu rhaglenni i'r sianel (digwydd bod dwi'n cofio siarad gyda hi am ddarpariaeth i ddysgwyr yn Noson Gwilwyr, Lerpwl).  Mae'n eironeg efallai bod y person a gomisiynwyd Pen Talar - heb os un o'r ddramau gorau a ddarlledwyd ar S4C ers blynyddoedd - wedi gadael cyn i'r cyfres dod i ben.. er mae'n siwr mai ganddi hi gyfrifoldeb dros ambell i dwrci hefyd. 

Yn y distawrwydd byddarol a ddilynodd 'diflaniad' Iona Jones, mi gamodd Arwel Ellis Owen i'r adwy, boi andros o sych sydd i fod i lywio'r 'S.S. S4C' trwy'r dyfroedd cythryblus a thymestlus sydd i ddod. Cymerais i ddim ato fo o gwbl, hynny yw y tro cyntaf i mi ei weld yn cael ei gyfweld yn ei swydd newydd, nag ar noson gwilwyr y sianel pythefnos yn ól chwaith. Ond ers i lywodraeth San Steffan ei drin o (ac gweddill y sianel) fel y baw, mae gen i fwy o gydymdeimlad. 

Nad ydy ein hoff sianel Cymraeg ni wedi cael llawer o gyhoeddusrwydd cadarnhaol yn ddiweddar, gyda'r holl nonsens 'dim gwylwyr' yn yr wasg Saesneg (dydyn nhw ddim yn cyfri plant bach yn y ffigyrau gwylio dros raglenni i blant bach!?).  Ond yn ól S4C,  mae ffigyrau gwilio rhaglenni Cymraeg wedi cynhyddu ychydig dros yr flwyddyn diwetha, sy'n mynd yn groes i'r hyn sy'n cael ei gyhoeddi fel arfer.  Mae'n anheg yn ól y sianel (ac mae synnwyr cyffredin yn dweud bod hyn yn wir) i gymharu'r ffigyrau ar gyfartaledd o'r cyfnod cyn i S4C newid i sianel gwbl Gymraeg, gyda ffigyrau ar gyfartaledd y sianel cwbl Cymraeg presennol.  Yn ól ffigyrrau eraill a glywais,  mae rhaglenni S4C wedi cael eu gwylio tua miliwn o weithiau dros y we yn y naw mis diwetha, modd o wylio fy mod i'n dewis mwy a mwy y dyddiau 'ma 

Ond dwi'n gobeithio nad ydy'r don fach o gefnogaeth i'r sianel - sy'n codi stém yn sgil yr helynt gyda'r BBC (ydy hi'n posib i don codi stém?!), yn gwyngalchu dros y problemau sylfaenol, a arweiniodd at yr ymddiswyddiadau anamserol yn ystod yr haf (o'r gorau, tydi 'ton' yn bendant ddim yn gallu gwyngalchu!!).

Mae S4C yn agos at fy nghalon i erbyn hyn, er gwaethaf yr holl wendidau. Ond mae'r torriadau enbyd yn ei gyllid, a llywodraeth newydd sydd heb ddangos llawer o ddealltwriaeth neu barch tuag at ddarlledu yn y Gymraeg, yn codi ofn am ei ddyfodol.  Ond gaiff y sianel Prifweithredwr/aig parhaol newydd cyn hir, a fydd yn un o'r penodiadau pwysigaf yn hanes y sianel o bosib... dewiswch yn ofalus!

27.10.10

Atgofion Ynyswr...

Ynys Hilbre o 'Ynys Middle Eye'

Dyma enw llyfr a dderbyniais yr wythnos yma, sef hunangofiant Lewis Jones, y Cymro soniais amdana yn fy mhost diweddaraf.  Mae'n wych o lyfr (i rywun o West Kirby sy'n siarad Cymraeg o leiaf!) sy'n ffenest ar fywyd y dyn wnaeth gofalu am orsaf telegraff Ynys Hilbre am gyfnod o dua 35 o flynyddoedd.
Fe ddaeth Lewis yn ffigwr adnabyddus yn ardal West Kirby, a hynny am nifer o resymau, gan cynnwys ei waith o ran elusenau lleol, ac ei wybodaeth am adar Hilbre, ac am achub dwsinau o bobl rhag foddi yn y mo^r.
Fel capelwr ffyddlon, ymunodd ag achos Saesneg yr Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn Hoylake, cyn dod yn rhan o griw a sefydlwyd capel Cymraeg yr un enwad yn West Kirby. Fe ddysgais hefyd, er achos Saesneg bu Capel Hoylake erioed, canrif yn ól gawsant ffrwd Cymraeg yn yr ysgol Sul.  Er mae capel Cymraeg West Kirby hen wedi ei gwerthu i enwad arall, mae'r adeilad yn dal ar ei draed, ond  mae capel y Presbyteriaid  yn Hoylake yna o hyd, ac yn eitha lewyrchus hyd a gwn i.
Roedd Lewis Jones (Ynyswr) yn fardd hefyd, a gaeth o'r fraint o fod yn un o arweinwyr Eisteddfod Genedlaethol 1917 yn Mharc Penbedw (Birkenhead Park).
Gadawodd Ynys Hilbre yn 1923 ar ól ymddeol, a symudodd i ynys arall.   Roedd ei wraig wedi symud yn ól i ardal Gemaes yn Si^r Fo^n dwy flynedd yn gynt oherwydd salwch, ac mae'n amlwg o'r cerdd isod, welodd o eisiau ynys ei febyd erbyn diwedd ei wasanaeth ar Hilbre.  Dychwelodd i Gilgwri o fewn ychydig o fisoedd, ac hynny i fynychu derbyniad arbennig o flaen cannoedd, a derbyn tystysgrif i ddathlu ei weithredau dyngarol yn ystod ei amser ar Hilbre.  Yn ogystal a thystysgrif, derbyniodd Jones siec i brynu car Hillman, a'i briod set o ddillad moduro, gan cynnwys co^t, menyg a het.. am anrhegion!


Gadael Ynys Hilbre

Ynys Hilbre, ger Cilgwri,
Yno bu^m flynyddoedd maith,
Trist yw 'nghalon  wrth ei gadael,
A fy ngrudd gan ddagrau'n llaith;
Ar ei chreigiau mynych syllais
ar brydferthwch Gwalai Wen,-
Dychwel iddi a chwenychais
Cyn i'm heinioes dod i ben.

                                                                                                Ynyswr

19.10.10

Lewis Jones... Ynys Hilbre

Lewis Jones a'i wraig yn croesi o'r ynys i'r tir mawr
Dwi newydd dod o hyd i wybodaeth am lyfr arall dylsai fod o ddiddordeb i mi.   Hunangofiant cyn 'gofalwr' Ynys Hilbre ydy o, sef 'Atgofiant Ynyswr' gan dyn o'r enw Lewis Jones, a ddaeth yn gymeriad go-adnabyddus yng nghyffiniau West Kirby a Glannau Mersi tua canrif yn ól.  Un o Ynys Món roedd o'n wreiddiol, a symudodd i Gilgwri fel rhan o'i swydd gyda'r gwasanaeth Telegraff rhwng Caergybi a Lerpwl.  Roedd o'n bosib gyrru neges semaffór o Lerpwl i Gaergybi mewn llai 'na hanner munud, gan ddefnyddio'r un ar ddeg o orsafoedd arbennig a leolwyd ar hyd yr arfordir (mewn tywydd dda beth bynnag!), tipyn o gamp.  Erbyn i Lewis Jones a'i wraig cyrraedd Hilbre, ar ól cyfnodau mewn nifer o'r gorsafoedd eraill, roedd y cyfundrefn wedi ei 'trydaneiddio', ond roedd Hilbre'n dal i fod yn rhan pwysig o gyfathrebiadau rhwng y dau porthladd.   Treuliodd 35 o flynyddoedd ar Hilbre, yn achub sawl bywyd rhag boddi ar y tywod peryglus sy'n rhannu'r ynys o'r tir mawr.  Symudodd yn ól i Ynys Món ar ól ymddeol, er gafodd ei wahodd yn ól er mwyn derbyn gwobr am ei weithredoedd dyngarol.     Gafodd ei hunangofiant ei gyhoeddi yn Lerpwl ym 1935 a dwi'n edrych ymlaen at dderbyn fy nghopi a darllen ychydig mwy amdano fo.

14.10.10

Llyfr diddorol... wel i finnau..

Yr wythnos hon ddes i o hyd i gopi ail law o lyfr Dr. D Ben Rees am Gymry Glannau Mersi (tra chwilio am rwybeth hollol wahanol!), hynny yw ei ail cyfrol ar y pwnc, sef  'Cymry Lerpwl a'r Cyffuniau yn yr Ugeinfed Ganrif'.  Dwi'n credu bod copi o'r llyfr gan fy rhieni ond prynais gopi beth bynnag am fod hanes Cymry'r ardal yn fy ymddiddori, ac mae gan fy nhaid 'mensh' bach ar bennod am Leigh Richmond Roose, y gólgeidwad oedd yn gefnder iddo fo a chwaraeodd i Everton yn ystod degawd cyntaf y canrif.   Mae'n llawn straeon am Gymry Lerpwl, neu'r rheiny gyda chysylltiadau a'r ddinas (Ian Rush er enghraifft!).  Mae pennod bach am bob un flwyddyn o'r canrif sawl am fywyd ymhlith capelwyr y glannau, sydd ddim yn syndod efallai, gan dreuliodd yr awdur sawl flynedd yn weinidog i gapeli Cymraeg y glannau.

Ymweliad y diwygiwr Evan Roberts, yw testun y pennod am y flwyddyn 1905.  Mi ddaeth y pregethwr enwog a'i garfan i Lerpwl mewn ateb i wahoddiad gan Gyngor Eglwysi Rhyddion Cymraeg Lerpwl, ac mi drefnwyd ar ei ran cyfres o 'gyfarfodydd' mewn capeli a neuaddau.  Mae'n annodd credu heddiw, ond yng nghapel Princes Road, Lerpwl ymgynullodd dros 1800 o bobl i'w weld, gyda sawl arall y tu allan i'r 'cadeirlan Cymreig' Gafodd y camp ei ailgyflawni ar Lannau Mersi sawl waith ac mewn sawl capel dros nifer o nosweithiau.  Ym Mhenbedw trefnwyd cyfarfod hefyd, ond heb ddatgelu'n union ym mha un o gapeli a fasai'r diwygiwr yn ymddangos ynddo.  Roedd tri o gapeli'r dre dan eu sang a chloiwyd eu drysau rhag i bobl cael eu gwasgu.  Gyda miloedd yn aros ac yn canu y tu allan llwyddodd Evan Roberts cyrraedd capel y Methodistiaid (Seisnig) yn Grange Rd tua 7 o'r gloch.  Mae 'na adroddiad a sgwennwyd gan ohebydd un o bapurau'r glannau, oedd yn rhan o'r gynulleidfa'r noson honno, ac mewn sawl cyfarfod arall yn fan hyn.  Er gafodd canoedd eu 'diwygio' yn ystod ei wythnosau yn Lerpwl mae'n sicr,  am yr helynt a ddilynodd ddatganiadau gan y diwygiwr ynglyn á enwad newydd - Eglwys Rydd y Cymry - gafodd ei ymweliad ei gofio yn ol pob son.  Mi ddatganodd y diwygiwr ei fod wedi derbyn neges gan dduw yn dweud nid ar graig cadrn a seilwyd yr enwad newydd, datganiad dadleuol tu hwnt.  Mewn un gyfarfod arbennig (i ddynion yn unig) yn Lerpwl, trodd pethau'n gorfforol a gafodd Evan Roberts ei frifo gan rai o gefnogwyr yr enwad newydd.  Gafodd o egwyl am fis yng Nghapel Curig  ar ól yr helynt yn Lerpwl, yn ddioddef rhywfath o chwalfa nerfol mae'n debyg.

2.10.10

'naw or nefar' am 9 stryd Madryn....

9 Stryd Madryn

O fewn pythefnos, mi fydd Cyngor Lerpwl yn dechrau ar y gwaith o ddymchwel ddeuddeg o 'strydoedd Cymreig' y ddinas, ar ól blynyddoedd o esgeuluso a dadleuon.   Ond ymhlith y tai teras di-ri, ddoi di o hyd i fan geni un o enwogion y ddinas, sef y cyn 'chwilen' (lleiaf dawnus yn ól rhai!) Ringo Starr.   Onibai am y cysylltiadau gyda'r ffab ffór, gallai'r strydoedd di-nod wedi eu dymchwel heb gormod o sylw, wel tu hwnt i'r cymunedau lleol a 'sgowser mabwysiedig' o Gymro Dr. Ben Rees.   Mae'r cyn-weinidog wedi bod wrthi'n ceisio gwarchod treftadaeth Cymreig Lerpwl ers degawdau (y cyn 'Gadeirlan Cymreig' yn Toxteth er enghraifft, sydd bellach yn adfail peryglus), ac wedi cyfrannu erthygl hynod o ddiddorol yng nghylchgrawn 'Barn' y mis yma, yn rhestri ardaloedd o Lerpwl a adeiladwyd gan y Cymry, ac yn rhoi esboniadau i hanes yr enwau. Mi  godwyd y strydoedd Cymreig gan adeiladwyr Cymreig, a llenwyd y rheiny yn aml iawn gan Gymry, a greuodd ardaloedd o'r ddinas - Anfield a Bootle er enghraifft - oedd yn broydd Cymraeg bron... am gyfnod o leiaf!
Oes 'na obaith ar ól i'r strydoedd 'ma, sy'n dystiolaeth i ddylanwad y Cymry ar dyfiant Lerpwl?...  wel 'prin iawn' yw'r ateb.  Y person mwyaf dylanwadol o ran achub hyd yn oed un stryd, sef Stryd Madryn wedi dweud ei fod o'n 'rhy brysur' i rhoi cymhorth i'r ymgyrch.  Ac mae'n ymddangos does fawr o ddiddordeb ar led ymhlith cefnogwyr y Beatles, gyda dim ond ychydig o filoedd yn arwyddo deiseb ar-lein (gan cynnwys finnau gyda llaw!) yn erbyn gweithred y Cyngor.  Pe tasai Lennon neu McCartney wedi digwydd byw mewn un o strydoedd Cymreig y ddinas, mi fasai'r ymgyrch wedi codi bach o stém mae'n debyg, ond does gan Ringo druan fawr o gefnogaeth ar ól yn ninas ei febyd, efallai oherwydd y pethau cas mae o wedi dweud amdani dros y flynyddoedd?

Er gwaethaf y gweithred trist sydd ar fin digwydd (gallai'r tai wedi eu hadnewyddu heb os) yn y Dingle, mae 'na sawl enw stryd Cymreig sy'n ddigon diogel o Jac codi baw's y cyngor, fel y rheiny a restrwyd yn erthygl Barn, ond mi fydd darn pwysig o hanes Cymru-Lerpwl - os nad hanes cerddoriaeth poblogaidd - yn diflannu cyn bo hir.

27.9.10

Tymor Newydd...

Dwi'n paratoi am y dosbarthiadau nos cyntaf o'r flwyddyn 'academaidd' yr wythnos yma, ar ól noson cofrestru brysur nos fercher diwetha. 

Dwi'n credu gawn ni ddosbarth flwyddyn tri digon iach o ran niferoedd, gyda thri aelod newydd yn ymuno á'r grwp, a'r rhan mwyaf yn cario ymlaen o flwyddyn dau.   Ymhlith y rheiny sy'n ymuno á'r dosbarth yw un sydd eisiau ail wneud blwyddyn tri ar ól colli nifer go lew o'i gwersi gyda David Jones y llynedd.  Un arall sydd gan TGAU Cymraeg yn barod! a dyn ifanc sydd wedi bod yn defnyddio saysomethinginwelsh fel modd o ddysgu am rhai naw mis, ac sydd bellach yn eitha rhugl..  Anhygoel! a theyrnged i'r cwrs arbennig yna.

Mae pethau ynglyn á'r dosbarth arall (blwyddyn dau) ychydig yn fwy cymhleth.  Mae 'na griw ohonynt sydd eisiau ail wneud blwyddyn un (gan bod nhw wedi colli ambell i wersiam resymau gwahanol).  Does gen i (na'r Coleg dwi'n credu) problem efo hyn, ond mae'n wneud i mi deimlo mod i wedi methu rhywsut, trwy beidio gweld bod rhai ohonynt yn stryglo cymaint.   Diffyg profiad sy'n cyfrifol am hyn mae'n siwr, hynny a'r ffaith mod i'n rhy awyddus weithiau i symud ymlaen yn rhy gyflym.   Dwi wedi dweud wrthynt mi fydd 'na gyfle i newid eu meddyliau yn ystod yr wythnosau gynnar, gan mod i'n sicr y fydden ni'n neud cryn adolygu dros yr wythnosau nesa, yn hytrach na gwthio ymlaen yn rhy sydyn.

21.9.10

Llyfr Coginio a Chadw Ty...

Derbyniais gopi o'r llyfr hynaf i mi ei brynu heddiw, cyfrol o'r enw 'Llyfr Coginio a Chadw Ty', llyfr a argraffwyd gan 'Hughes a'i Fab' o Wrecsam yn 1880.   Yn ól y clawr, ysgrifennwyd y llyfr gan 'awdwr' 'Llyfr Pawb ar Bob-peth', sef y llyfr sy'n sail i gyfres S4C 'Byw yn ol y Llyfr', gyda Tudur Morgan a Bethan Gwanas.   Rhaid cyfadde mod i heb gweld y cyfres yna eto, er dyna'r rheswm pam es i ar ól dod o hyd i gopi o'r llyfr.  Ffindiais gopi ar e-bay, ond cwpl o ddyddiau'n rhy hwyr yn anffodus, ond cynigodd y gwerthwr copi o'r llyfr yma i mi, sy'n eitha debyg ond efo mwy o reseitiau a ballu, yn hytrach na rheolau ar sut i rhedeg ty delfrydol yn ail hanner y 19C.

Mae 'na bennod 'Rheolau a Chyngorion Teuluoedd' yn cynnwys cyngor ar ddillad priodol, sut i ddinistrio 'bugs' (reseit sy'n cynnwys arsenic!), ac un i 'Dyfu gwallt' (olew olewydd, spirit of rosemary, olew nutmeg) trwy rwbio fo ar dy ben pob nos cyn gwely!  Ond llyfr reseitiau ydy o yn y bon.

Mae 'na ganoedd o reseitiau, sy'n rhoi argraff o'r math o bywydydd a goginiodd yn y cyfnod, ac mae gan rai ohonynt amcangyfrif o'r cost o gynhyrchu'r pryd hefyd.  Rhaid dweud does gen i awydd i flasu sawl ohonynt, pen llo i'w ferwi gyda 'sauce egg' er enghraifft!

Un peth wnaeth fy synnu braidd oedd  gweld cymaint o Saesneg ynddo.  Dyma lyfr gwbl Cymraeg, ond wrth ymyl misoedd y flwyddyn mae 'na gyfieithiadau Saesneg!  Mae 'na lot fawr o enwau Saesneg am fwydydd hefyd (falle nid cymaint o syndod), kidney, mushroom, beans, carrots, sausages, salmon, cod... 'lamb' hyd yn oed, ond dim son am 'gig oen'!  Falle mae hynny'n rhoi argraff o agwedd gwahanol at yr iaith yn y cyfnod yna.  Roedd yr iaith yn modd o gyfathrebu yn unig i sawl efallai, beth oedd yr ots am fenthyg termau Saesneg i'w gyfoethogi? a'r rheiny heb eu cymraegeiddio chwaith, am selsigen Sausage, nid sosej!

17.9.10

Plas Glyn y Weddw....


Dyma'r post olaf i mi sgwennu am ein gwyliau bach ym Mhen Lly^n, a ddaeth i ben ychydig o wythnosau yn ól erbyn hyn!  Ro'n i eisiau sgwennu pwt am yr oriel hyfryd lawr yn Llanbedrog, sef Plas Glyn y Weddw.
Wnaethon ni ymweled á'r lle ym mis chwefror.  Adeg hynny llosgodd tán coed yng nghyntedd y plas Fictorianaidd, a gaethon ni croeso gwresog gan y rhai ar ddyletswydd.  Y tro yma gaethon ni'r un un croeso, ond heb y tán, a mwynheuon ni brecwast hamddenol wrth un o fyrddau'r lawnt ffrynt.  Mae'r caffi mewn ystafell haul ar un ochr y prif 'ty^', ac mae'n lle hyfryd am baned unrhyw adeg o'r flwyddyn, 'swn i'n dychmygu.  
Ro'n i'n awyddus i edrych am lun i brynu er mwyn cofio'r gwyliau y tro yma - mae gennynt gasgliad o brintiau 'argraffiadau cyfyngedig'  gan rai o'r arlunwyr sy'n dangos eu gwaith yn yr oriel - yn ogystal a darnau o'u gwaith gwreiddiol wrth gwrs.   Yn y pendraw doedden ni ddim yn gallu ffindio darn yr oedden ni'n gallu fforddio, doedd fawr o brintiau at ein dant ar ól yn anffodus, ac mai prynu darn gwreiddiol yn cymryd tipyn mwy o ystyriaeth (a phres!), felly rhaid aros tan y tro nesa.

Gyda'r cloc yn tynnu at hanner y dydd roedd hi'n amser i droi am adre, gyda gwyliau blwyddyn arall ar ben!

13.9.10

Porth Iago..

yr olygfa o'r maes parcio
Dwi ddim yn cofio ymweled á Phorth Iago cyn yr wythnos diwethaf.  Roedd yr enw er hynny yn un cyfarwydd i mi - o arwyddion ffyrdd o amgylch Llangwnadl (rhywle arhosom ni sawl gwaith) mae'n debyg.  Dim ond ychydig o filtiroedd yw'r traeth o'r darn distaw 'ma o Ly^n, ac wrth inni yrru tuag ato, cofias seiclo lawr y lón cefn  hyfryd 'na, sy'n eich arwain i gyfeiriad Porthor ('whistling sands') a Phorth Iago, ond heb ymweled á'r traethau am ryw rheswm.   Y tro hyn roedden ni'n benderfynol o gyrraedd y traeth, ac ar ól mentro lawr y lón tuag at maes parcio'r Ymddiriodolaeth Genedlaethol ym Mhorthor - a chael ein siomi gan yr arwydd 'Dim Cwn'-  troi yn ein holau wnaethon ni, a dilyn yr arwydd i Borth Iago, cwta milltir neu ddwy i'r gogledd.   Mae 'na lón cerrig yn eich groesawu i gyfeiriad y trai llai 'na, ac yn eich arwain ceir dros y caeau a thrwy fuarth fferm go 'ymarferol'.  Gewch chi gyfle gollwng eich ddwy punt i 'flwch gonestrwydd' er mwyn parcio yno trwy'r dydd (digon teg), cyn mentro dros gae arall, heibio i wersyllfa'r fferm ac mewn i 'gae parcio' uwchben i borth bach hardd 'Iago'.


5 o'r gloch a bron pawb wedi gadael

Does dim llwybyr hawdd lawr i'r traeth ei hun, dim ond nifer o lwybrau yn igam ogam eu ffyrdd lawr yr allt serth tu cefn iddo fo, rhybeth sy'n rhwystro rhai ymwelwyr mae'n siwr, ond nodwedd sydd hefyd yn helpu cadw ei gymeriad naturiol arbennig.    Treuliom ni wyl y banc hyfryd yna, ond nad oedd y traeth yn orlawn o bell ffordd. Fel Porthor 'drws nesa', mae'n ymddangos bod gan Borth Iago tywod 'unigryw' sy'n neud swn wrth i rywun llithro drosto - wel weithiau! - rhywbeth i neud efo siap y ddarnau o dywod yw hyn o'r hyn a ddarllenais yn rywle dwi'n credu.   Deuddydd yn ddiweddar, ar ddydd mercher olaf mis awst, ddiwrnod arall o heulwen dibaid, dim ond cwpl o ddwsin pobl oedd yna, ac erbyn pump o'r gloch dim ond ni a thri arall!
Gaethon ni nifer o ymweliadau i'r dwr, ac er i'r dwr teimlo'n andros o oer i ddechrau, ar ól treulio deg munud ynddo, teimlodd yn ddigon gynnes i aros mewn am hanner awr a mwy.  Dyma traeth mi fydden ni'n dychweled iddo tro ar ól tro mae'n siwr.

3.9.10

Traeth Towyn....

Traeth Towyn, Tudweiliog
O'r hyn dwi'n cofio gefais fy nghyflwyno i Draeth Towyn gan fy nwraig dros chwater canrif yn ól.  Dwi ddim yn cofio mynd efo fy rhieni fel plentyn (er mi aethon ni i bron pob cwr o Gymru fach!), ond roedd teulu fy ngwraig yn hoff iawn o'r llecyn bach hyfryd o amgylch Tudweiliog, ac yn aros yna pob haf mewn amrywiaeth o fythynod 'sylfaenol' ond cartrefol.  Roedd traethau gogledd Pen Lly^n yn canolbwynt i'w gwyliau nhw - ac yn enwedig Traeth Towyn, un gymharol anghysbell i sawl, ond yn weddol hawdd i'w gyrraedd er hynny.
Pan gyrraeddon ni'r traeth dydd sul, roedd hi'n braf ond yn chwythu'n gryf. Mi brofion ni lli go lew, a chanlyniad yr heulwen ar ein cyrff, a chuddwyd rhywfaint gan effaith oeri'r gwynt.  Mi aeth Jill yn y dwr bron yn syth - er mewn wet suit -  a rhaid cyfadde wnes i ddim a y ddiwrnod hwnnw, er fentrais mewn nifer o weithiau dros y dyddiau nesaf.  Fel y soniais yn y post diwetha, mae'n braf cael siop bach ger y traeth yma - ac un lle gei di ymarfer dy Gymraeg hefyd! - ond diolch byth nad ydy'r lle wedi cael ei dinistrio gan or-ddatblygu, ac mae'r mae's carafannau parhaol yn un fach mewn lliwiau 'naturiol'.  A dweud y gwir does fawr o newid i'w gweld ers y tro gyntaf i mi ymweled á'r lle, ac mae'n un o'r traethau hyfrytach dwi'n ei nabod yng y Gogledd o hyd - er eleni roedden ni i ddarganfod y traeth harddaf i ni ymweled ag ef o bosib, ychydig o filtiroedd lawr yr arfordir...

2.9.10

Adre...

Dyni wedi dychweled o Ben Lly^n heddiw ar ól wythnos o heulwen di-baid.. wel bron, rhywbeth nad oedden ni'n disgwyl o gwbl.  Mae gen i bentwr o luniau i bori trwyddynt, a chyn hir wna i bostio un neu ddau yn fan hyn mae'n siwr.

Wnaethon ni siarad á nifer o bobl yn ystod yr wythnos, gan cynnwys Daloni Metcalfe.  Dwi wedi siarad efo hi o'r blaen, gan ei bod hi'n ffermio efo ei gwr yn ardal Tudweiliog, ac yn rhedeg maes carafannau uwchben i draeth hyfryd y pentre. Mae 'na siop bychan mewn hen gwt ar ran ymwelwyr i'r traeth, ac roedd o'n braf cael pigo mewn a chael sgwrs yn y Gymraeg efo pwy bynnag oedd yn gweithio yna ar y pryd.  Ymddiheurais am fy Nghymraeg 'rhyfedd' i un o'i merched wrth iddi hi ymdrechu i fy nheall un ddiwrnod, ond ymate bodd  'well unrhyw Gymraeg na dim Cymraeg o gwbl' chwarae teg iddi!

Sgwrs arall 'diddorol' gaethon ni ddoe oedd efo rheolwraig y llety lle oedden ni'n aros.  Swniodd fel saesnes (ond dwn i ddim), a datgelodd ei bod hi'n byw yn Llithfaen (y pentre drws nesaf i Bistyll).  'The people are very friendly' meddai hi, 'though it's very Welsh, and the old women all have beards....there are some very odd people there, there's been a lot of interbreeding'.  Ro'n i bron yn methu siarad, mor gul oedd agwedd y dynes hon.  Rhaid cyfadde nad ydwi'n nabod neb o Lithfaen,  a fedra i ddim wneud sylw un ffordd neu'r llall amdanynt, ond dwi'n sicr ni ddylsai dynes mewn swyddogaeth o'r fath bod yn son wrth ei chwsmeriaid yn y ffasiwn yma, beth bynnag ei bod hi'n meddwl mewn preifat.   Mae gan y cwmni pecyn gwybodaeth hefyd sy'n cyflwyno ymwelwyr i ddiwilliant ac iaith yr ardal, gan cynnwys geirfa craidd ar eu rhan, ac arwyddion dwyieithog ar y safle.

Dweud y gwir dwedais i ddim, ond wnes i adael cerdyn sylw yn dweud.. 'diolch am bobeth, dyni'n sicr o ddychweled cyn bo hir' (gyda chyfieithiad saesneg), a fy enw llawn sy'n edrych yn fwy Cymreig!!  Gobeithio wneith hi meddwl ychydig, cyn datgelu ei chulni amharchus at ymwelwyr i'r ardal y tro nesa!?

24.8.10

Diwrnod tu gefn i'r tywysoges...

Gaethon ni ddiwrnod ardderchog ar fwrdd y North Wales Coast Express dydd Sul, ecscyrsion arbennig o Lerpwl i Gaergybi ac yn ól.  Ymunom ninnau á'r trén yn Frodsham, gan bod ffrind fy merch yn dod á ni, ac roedd hi'n aros efo ei nain nid yn bell o fan'na.   A dweud y gwir gyda'r tren yn cymryd tua awr a hanner i grwydro o Lerpwl i Frodsham wrth stopio i godi teithwyr o nifer o lefydd ar hyd y ffordd, mi fasa'r trip i Gaergybi wedi cymryd oesoedd! 
Gaethon ni banic sydyn wrth weld ffrydiau o stém yn saethu mewn i'r awyr wrth i ni gyrraedd y maes parcio, ond sylweddolais mai stop dyfrio oedd Frodsham, ac roedd gorffwys o chwater awr wedi ei neilltuo yn yr amserlen i  lenwi'r injan, ac yn bwysicaf er mwyn gadael i bobl cael siawns camu ar y 'footplate' a chael rhywun tynnu eu lluniau yn fan'na.



Ar ól i ni lwyddo i ffindio ein bwrdd ni, dyna ni'n dechrau ar y darn cyntaf o'r taith, sef y ddeuddeg milltir i Gaer a'n profiad cyntaf o deithio tu gefn i'r Tywysoges Elizabeth.  Doeddwn ni ddim yn disgwyl i'r hen leidi mynd cweit mor gyflym a dweud y gwir, ond o fewn dim roedden ni wedi cyrraedd Cymru ac roedden ni'n tarannu trwy'r Fflint, Prestatyn a'r Rhyl (peth da!) tuag at y stop nesaf ym Mae Colwyn.  Yn ól y llyfryn a roddwyd i bawb gan drefnwyr y taith, 75mya yw cyflymder uchaf yr injan erbyn heddiw (er mi aeth hi lot gyflymach yn ei hanterth), ond teimlodd yn andros o gyflym yng ngherbydau o'r 1960au.   Ro'n i wedi anghofio pa mor braf yw teithio lawr yr arfordir ar y tren, wedi hen arfer á'r siwrne ar yr A55.
Mi wnaethon ni pigo lawr i Landudno hefyd (lle gadawodd nifer o'n cyd-deithwyr)  gyda injan diesel yn gwneud y gwaith o'n tynnu ni'n ól i'r jyncsion.   Ar ól gorffwys arall a mwy o ddwr i'r injan dechreuom ni ar y darn harddach o'r taith o bosib, tuag at Fangor a'r Pont Britannia wrth cwrs.   Gaeth y Tywysoges cyfle arall i 'ymestyn ei choesau'  ar y llinell syth dros Ynys Món, cyn arafu i groesi i Ynys Gybi a gorsaf y porthladd.



Mwynheuom ni groesi'r bont newydd i'r dre, cyn crwydro lawr at y 'traeth' a chael paned yn y caffi bach yn ymyl yr Amgueddfa Morwrol.

Clywais dim ond un berson yn siarad Cymraeg yng Nghaergybi, sef dyn ifanc oedd yn siarad á phlentyn bach.  Stopiais i'w holi (yng Nghymraeg) am gyfeiraidau i'r prom,  a ges i "Sorry I don't live round here" yn ól!  Ffarweliais á fo gyda "sdim ots, diolch yn fawr"!

Mi aeth y dwy awr a hanner yn gyflym iawn, a chyn pen dim roedden ni'n ól yn yr orsaf ac ar fwrdd y trén.  Gaethon ni siawns i gyfnewid straeon gyda'r pobl ar y bwrdd nesaf ar ól iddynt ail ymuno á'r trén yn Llandudno, ac aeth y taith yn ól yr un mor hwylus á'r un allan, gyda golygfeydd gwych i'w mwynhau pob cam o'r ffordd bron.   Un o'r pethau brafiach i mi, ( a rhywbeth wnaeth y genod mwynhau) oedd y siawns i sefyll wrth y drysau, tynnu'r ffenest i lawr a theimlo'r gwynt (o'n i'n mynd i ddweud yn fy ngwallt, ond does gen i fawr y dyddiau 'ma!), rhywbeth na chei di wneud yn aml ar drennau cyfoes.  



Diwrnod tu gefn i'r tywysoges.. diwrnod i'r brennin! 

20.8.10

Trén Gyflym Arfordir Gogledd Cymru...

6120 Y Tywysoges Elizabeth yn arwain 'The Dalesman' rhywdro
Dwi'n edrych ymlaen at daith trén dydd sul, un wnes i ddewis fel anrheg penblwydd eleni.  Mae'r 'North Wales Coast Express' yn mynd o Lerpwl i Gaergybi yn ystod yr haf, ac hynny o dan bwer injan stém, ac efo set o gerbydau 'traddodiadol' (sef hen!).   Mae gen i gof brith o weld injans stém fel plentyn bach yn mynd trwy Borth ar eu ffordd i Aberystwyth).  Bwystfilod hudol oeddent i mi, du, budr a swnllyd, ond dwi ddim yn cofio cael y cyfle i deithio ar un ohonynt, ac roedd rheilfyrdd Glannau Mersi hen wedi eu trydaneiddio neu ddiesel-eiddio erbyn y chwedegau.   Mi fydd yn wefr felly i fynd ar daith tu gefn i'r 'Princess Elizabeth' sy'n arwain y taith dydd sul, darn o beirianwaith 77oed erbyn hyn! Wnaeth y peiriant arbennig hon torri record yn 1936 trwy deithio'n ddi-stop o Glasgow i Euston (401 milltir) o dan 6 awr.  Y diwrnod wedyn dychwelodd y tren yr un mor gyflym i'r Alban, cyflymder ar gyfartaledd o 70mya.  Dwi ddim yn disgwyl (o edrych ar amserlen y daith) a fydden ni'n torri record dydd sul, ond gobeithio gawn ni dywydd weddol er mwyn mwynhau'r golygfeydd godidog sydd ar gael ar hyd rheilffordd yr arfordir.

Mi fydden ni'n ymuno á'r tren yn Frodsham ac yn mynd yr holl ffordd i Gaergybi, lle fydden ni'n treulio ychydig o oriau cyn ddychweled ar yr un tren.  Wna i bostio ambell i lun yn fan hyn mae'n siwr!

12.8.10

Newidiadau enfawr yn agoshau yng Nghilgwri...?

Mae'r cynllun mwyaf erioed a roddwyd o flaen pwyllgor cynllunio ym Mhrydain newydd ei basio.
Son ydwi am 'Wirral Waters' y datblygiad anferth mae 'Peel Holdings' (perchnogion presennol yr hen 'Mersey Docks and Harbour Board', a datblygwyr Salford Quays) eisiau gwireddu yn ardal dociau Penbedw a Wallasey.


un o nodweddion y dociau sy'n rhan o'r cynlluniau

Mae'r cynllun yn ei gyfanrwydd yn debyg o gymryd o leiaf 30 o flynyddoedd i gwblhau, sy'n cynnig rheswm i fod yn amheus iawn am y lluniau cyfrifiadurol sydd i'w gweld ar eu gwefan lliwgar. Ond gyda'r caniatad cynllunio newydd ei basio, mae'n rhaid cymryd y peth o ddifri, gan fod lot o bobl wedi buddsoddi llawer o arian i gyrraedd y pwynt hyn. Wrth rheswm mi fydd rhaid i'r cyngor derbyn caniatad gan y llywodraeth am gynllun mor fawr (£4.5 biliwn erbyn hyn), ond gyda swyddi'n andros o brin yn yr ardal (un ddifreintiedig tu hwnt), mi fydd yr addewid o hyd at 20,000 o swyddi newydd (yn ystod y cyfnod o waith adeiladu am wn i) yn ddadl cryf yn ei blaid.


Lerpwl o ddociau Cilgwri

Dwi ddim yn sicr be dwi'n meddwl amdano fo a dweud y gwir. Dwi'n cofio'r dociau'n fwrlwm o weithgareddau (er ar eu lawr oeddent adeg hynny mae'n siwr), a hyd yn oed 'shunters' stem yn rhannu'r pontydd siglo a cheir Yn sicr mae 'na rannau helaeth o'r dociau sy'n dawel iawn y dyddiau 'ma, ac mae'n rhaid wneud rhywbeth gyda nhw. Ar y llaw arall mae 'na longiau yn dod trwyddyn nhw o hyd, ac mae 'na awyrgylch arbennig o'u hamgylch, rhywbeth a gollir yng nghynlluniau 'Peel Holdings'.


Mi fydd 'na lot o drafodaethau mae'n siwr cyn i'r dyddiad dechrau presennol (rhywbryd yn 2012), felly mi fydd hi'n cyfnod diddorol iawn yng Nghilgwri....

1.8.10

Taith i Lerpwl...

Pier Head Lerpwl o fynediad y Doc Albert
(Yr amgueddfa yw'r adeilad onglog i'r chwith i gloc yr adeilad Liver)

Mi aethon ni draw i Lerpwl p'nawn ddoe, yn rhanol er mwyn, chwilio am sofa newydd, ond hefyd i ffeindio rhywle i gael te.   Roedd canolfan siopa Lerpwl One yn fwrlwm o siopwyr yn ogystal ag ambell i griw yn dathlu parti iár, ac roedd y rhan mwyaf o'r bwytai'n llawn dop, gyda tagfeydd yn ymestyn o ddrws ambell i un.  Mi benderfynom maes o law cael blas ar fwydydd 'cadwyn bar nwdl' Wagamama, a chawsom ein plesio gan y gweinu ardderchog, a'r bwyd blasus.   Yr unig peth nad oedden ni'n cyfarwydd gyda fo, oedd y ffaith mi ddaeth ein cyrsiau ar brydiau gwahanol.  Gaethon ni ein rhybuddio am hyn wrth archebu i fod yn deg, ac roedden ni'n bwriadu rhanu'r bwydydd beth bynnag felly doedd dim ots.

Ar ól gorffen mi aethon ni am dro lawr i'r Pier Head a'r Doc Albert, i weld sut mae'r gwaith yn mynd yn ei flaen ar adeilad newydd Amgueddfa Lerpwl.  Ni fydd yr Amgueddfa ar agor tan 2011, ond mae'r adeilad bron wedi ei gorffen yn ól ei golwg, felly edrychaf ymlaen at ymweled á hi y flwyddyn nesa.
Mae glannau'r afon yn Lerpwl wedi eu trawsnewid yn llwyr dros y flynyddoedd diwetha, ac maen nhw wir gwerth eu gweld, yn enwedig ar noson braf yr haf!

25.7.10

Hwyl fawr Lance....

Armstrong yn ei Tour de France olaf?

Fel rhywun sy'n ymddiddori mewn gwylio nifer o gampau (y rhai arferol am wn i: pél-droed, rygbi, tenis, mabolgampau ac ati), does dim ond un gamp gallwn i ddweud fy mod i wedi profi mewn ffordd cystadleuol go iawn -  er dim ond ar ffon isaf yr ysgol.   Beicio yw'r gamp arbennig honno, ac uchafbwynt y byd beicio wrth reswm yw'r Tour de France.   Mae 'na sawl camp arall ar gefn beic erbyn hyn (beicio mynydd, bmx ac ati) ond does gan yr un ohonynt yr un ramant neu burdeb yn fy mharn i, sef cystadlu i deithio cyn belled á phosib mor gyflym á phosib.  Wrth gwrs mae enw'r camp wedi cael ei lluchio trwy'r baw dros y flynyddoedd, gyda amheuon ynglyn á'r defnydd o gyffuriau anghyffreithiol yn parhau o hyd (er mae'r un amheuon yno yn bodoli y sawl camp arall hefyd), ond mae 'na un enw wedi gwneud mwy na neb i godi proffeil y camp yn y flynyddoedd diweddar, yr enw hwnnw wrth gwrs yw Lance Amstrong.

Dwi'n cofio gwylio rhaglenni sianel 4 am hynt a helynt 'Le Tour' yng nghanol y nawdegau, pan oedd Armstrong ar gychwyn ei yrfa proffesiynol.    Dwi'n cofio clywed son am ei iechyd yn ystod 96, y flwyddyn darganfodwyd cancer yn un o'i geilliau.  Roedd y cancer wedi ymledu i'w ysgyfaint a'i ymenydd erbyn iddo fo gael ei ddarganfod, ac yn ól y prognosis cyntaf nad oedd debygrwydd ohono fo oroesi'i cyflwr.  Diolch byth gafodd ei farn ysbyty arall a'i drin yn llwyddianus, y gweddill wrth gwrs yw hanes erbyn hyn.  Mi lwyddodd Armstrong dod yn ól yn gryfach byth, cyn mynd ymlaen i ennill Le Tour saith waith yn canlynol, record sy'n debyg o barhau am flynyddoedd maith.  Ar ól ymddeol mi ddaeth o'n ól unwaith eto, y tro yma'n bennaf er mwyn ymgyrchu dros ei elusen cancer. Mi lwyddodd i ddod yn drydydd yn y Tour y llynedd (siomedigaeth iddo fo mae'n siwr) ac roedd o wedi addo wneud yn well eleni.   Yn anffodus mi wnaeth o ddisgyn oddi ar ei feic yn ystod ymweliad cyntaf y taith i'r mynyddoed eleni, digwyddiad a gostiodd o ormod o amser, ac roedd rhaid iddo rhoi'r gorau i unrhyw obaith o ennill.  

Ta waeth, mi fydd heddiw diwrnod olaf Lance Armstrong yn y peleton, ac mi fydd o'n sicr o dderbyn hwyl fawr go arbennig gan y Ffrancwyr, genedl sydd wir yn gwerthfawrogi eu beicio.

18.7.10

pethau gwaith-coedaidd...

Ges i gwpl o lyfrau bach ail law'r wythnos yma, un a glywais amdano trwy sgwrs 'twitter' digwydd bod!

Gafodd 'Termau Gwaith Coed' ei gyhoeddi yn 1966, ar ran ysgolion cyfrwng Cymraeg mae'n debyg.  Geiriadur bach ydy o mewn gwirionedd llawn y fath o eiriau fasai rhywun yn defnyddio tra drin coed, a nifer ni allwn i byth yn dychmygu defnyddio yn y maes arbennig hwn 'chwaith - requisition?!

Ta waeth, cracr o lyfr ydy o, ac un fydda i'n cadw yn y gweithdy a defnyddio wrth i mi fynd o gwmpas fy ngwaith pob dydd.
Yfory, er enghraifft mi fydda i'n torri 'uniadau cynffonog', yn hytrach na 'dovetail joints', ac yn defnyddio fy 'llif dyno, gordd a chy^n'.   Fydda i'n ceisio peidio anadlu ormod o lwch llif wrth dorri'r derw hefyd!

Y llyfr bach arall (ond nid cweit mor fach), yw un a gafodd ei gyhoeddi gan Gwasg Prifysgol Cymru yn 1991 (dwn i ddim os mae o dal mewn print) am hanes y ddresel Cymreig.   Fel saer dodrefn, dyma lyfr llawn gwybodaeth diddorol iawn. Mae'r ddresel yn cael ei ddilyn o'i wreiddiau, hynny yw'r cypyrddau deuddarn a thridarn.  Ond dylanwad dodrefnyn o'r cyfandir oedd y ffurf a fasen ni'n adnabod fel dresel Cymreig, steil a ddaeth draw i ynysoedd Prydain ar ól ailsefydlu'r brenhiniaeth Lloegr ym 1660.  Mae'r enw 'dresser' (a newidiodd i 'ddresel' mewn rhannau o Gymru, er defnyddwyd 'dreser' neu 'seld' mewn rhannau eraill) yn dod o'r Ffrangeg 'dressier', ac yn adlewyrchu diben y ddarn, sef 'dress' neu drin bwydydd cyn iddynt cyrraedd y bwrdd.  Llyfr llawn lluniau o hen ddreseli, sawl ohonynt o San Ffagan. 

13.7.10

Hanes Mewnfudwyr Lerpwl...

Mi brynnais llyfrau echddoe gyda'r tocyn llyfr hael a gefais gan myfyrwyr y dosbarth nos.  Ar ól peth amser yn pori silffoedd Waterstones,  penderfynais ar lyfr hanes o'r enw 'Liverpool 800', a gafodd ei gyhoeddi yn 2007 ar benblwydd 800 Lerpwl, a ges i ddigon yn weddill am lyfr bach am pensaerniaeth y ddinas hefyd.  Rhaid cyfadde dwi'n ymddiddori mewn hanes lleol, a phob tro dwi'n ffeindio fy hun mewn siop llyfrau, gaiff fy nennu at y casgliadau o lyfrau am y pwnc (chi'n gwybod, y rhai llawn hen luniau o drefi yn eu hanterth, neu o dlodi eu hanffodusion canrif neu fwy yn ól), neu hen fapiau'r Arolwg Ordanans, sy'n dangos patrymau datblygiad ein dinasoedd a threfi.

Ymhlith yr holl tudelannau, ffindias (ar ól ei brynu hefyd!) pennod am hanes yr holl mewnfudwyr sydd wedi lliwio hanes Lerpwl dros y canrifoedd, gan cynnwys wrth rheswm darn am Gymry Lerpwl.   Gafodd y Cymry enw weddol da fel gweithwyr yn ól y son, a phobl parchus a sobr fel y cyfriw (wrth gwrs dani'n son am ystrydebau yn fan hyn), yn enwedig o gymharu i'r Gwyddelod truan, a ddiodefodd lot mwy o ragfarn er gwaethaf bod yn 23% o boblogaeth y ddinas ar un adeg!  Oherwydd diffyg Saesneg rhan helaeth o'r Cymry 'dwad', roedd tueddiad iddyn nhw gweithio i Gymry eraill, hynny yw Cymry oedd wedi bod yn y ddinas peth amser.  Mi ddoth nifer sylweddol o weithwyr amaethyddol i dreulio eu gaeafau yn gweithio yn stordai y dociau, nifer ohonynt yn cael eu rhedeg gan Gymry.  Roedd 'na asiantaeth arbennig yn Lerpwl ar ran genethod o Gymry, er mwyn dod o hyd i waith iddynt,  gyda nifer yn mynd i weithio mewn tai y Gymry 'sefydlog'.

Wrth gwrs chwaraeodd y capeli rhan mawr yn y proses o helpu Cymry setlo, ac efo tua 90% ohonynt yn mynychu capel neu eglwys yn 1873 (63% trwy cyfrwng y Gymraeg), mae'n hawdd anghofio eu cryfder a dylanwad  (ni fynychodd cymaint o Wyddelod yr eglwysi Catholig hyd yn oed!) .   Yn ól un adroddiad, ar ran y Cymry newydd cyrraedd cynhalwyd yr eglwysi Cymreig oedfeydd yn y Gymraeg.  Roedd Cymry sefydlog y ddinas yn awyddus i gefnogi ymdrechion y rhai newydd dod i wella eu Saesneg, ac roedd defnydd o'r iaith fain yn rhywbeth i anelu ato,  ynghyd á chadw'r traddodiadau Cymraeg yn fyw.  Digon teg am wn i, a gyda chymaint o Gymry Gymraeg 'ar gael' prin a welwyd hynny'n bygythiad i'w hiaith.   Cofiwch, doedd dim rheol iaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol hyd yn oed yn ól yn y 1930au  (y tro diwetha cynhalwyd yr wyl ar Lannau Mersi), ac roedd 'na lawer o Saesneg i'w glywed ar y llwyfan adeg hynny.

Ond digon am Gymry Lerpwl, mae hanes y ddinas yn cynnwys mewnfudwyr o bedwar ban byd, a gafodd sawl ohonynt triniaeth llawer gwaeth na hyd yn oed y Gwyddelod.  Mae'n amhosib anghofio'r cysylltiadau cywilyddus á cheiswasiaeth a ddaeth a sawl o Affrica a'r Caribi i Lerpwl, ac mae gan Lerpwl un o gymunedau Sieniaidd hynaf Ewrop, a sefydlwyd yng nghanol y pedwaredd canrif ar bymtheg.  Erbyn heddiw mae'r rhan mwyaf yn ymfalchio yn y diwylliannau gwahanol sydd wedi creu'r ddinas.  Yn 1851 roedd 50% o boblogaeth y dinas wedi eu geni tu allan i Lerpwl, sy'n tystiolaeth o symudiad enfawr o bobl.  Gyda'r ffasiwn symudiadau ddaeth tlodi enbyd, gyda disgwyliad oes i ferched yng nghanol Lerpwl cyn lleiad a 19, a 26 i ddynion, ffigyrau dychrynllyd o isel.

Mae'n ddrwg gen i, mae hyn yn troi mewn i draethawd (drwg).. felly wna i orffen!

(Gyda llaw, eiliadau cyn i mi gyrru y post hwn, sylweddolais ro'n i wedi defnyddio 'poeri' yn lle 'pori' yn yr ail brawddeg!  Wps... fasai hynny wedi swnio'n ofnadwy!)

9.7.10

Enwau...

Daliais i gip o'r rhaglen 'Coast' heno, oedd yn dilyn arfordir creigiog Cernyw y tro yma.  Wrth i'r cyflwynwraig son am y creigiau cythreulig o beryglus 'The Manacles' (man poblogaidd iawn efo nofwyr tanddwr oherwydd nifer o longdrylliau), soniodd am yr eglwys yn y pentref cyfagos oedd y rheswm dros enw y creigiau.   Mae gan yr eglwys meindwr sy'n weledig o'r mór, ac yn defnyddiol felly i longiau wrth hwylio hebio i'r peryglon creigiog.  Enw Cernyweg y creigiau yw 'Maen Eglos' (Maen Eglwys), a llygriad o hwnnw yw'r fersiwn Saesneg wrth rheswm.  Wrth gwrs mae ystyr yr enw  Saesneg yn gweithio yn y cyd-destun yma, gan fod peryglon y creigiau yn rhwystro cwrs llongwr yn yr un modd a fasai 'gefynnau' (manacles) yn rhwystro taith person.

Gefais fy atgoffa o'r enw Cymraeg Yr Eifl, sydd wedi ei bastardeiddio i 'The Rivals' dros flynyddoedd lawer.  Mae sawl ymwelwr yn meddwl (wrth rheswm) bod y cystadleuaeth rhwng y tair pig ar ran uchder yw gwraidd yr enw, ac yn methu anwybyddus yn aml iawn am yr enw 'gwreiddiol/Cymraeg' a'i ystyr.  Dweud y gwir ro'n i'n anwybyddus o'i ystyr tan i mi gael cip ar Wikipedia a gweld ystyr y gair 'gafl', sef 'fforch' neu 'stride' (yn ól y gwefan hwnnw)

Pethau diddorol (a dadleuol mae'n siwr) yw enwau!

4.7.10

Ynys Món...


Mae'n ychydig o flynyddoedd ers o'n i ar Ynys Món, ond aethon ni ddoe am ginio ym Mhiwmaris efo'r teulu er mwyn dathlu penblwydd fy Mam.  Roeddent yn aros ar yr Ynys am ychydig o ddyddiau mewn gwesty o'r enw Neuadd Lwyd nid yn bell o Bennmynydd.   Am leoliad!   Mae'r Neuadd (hen reithordy) yn edrych yn hyfryd iawn, gyda golygfeydd godidog tuag at y tir mawr ac Eryri o lawnt y ffrynt.

Mi aethon ni i fwyty 'eidalaidd' ym Mhiwmaris 'DaPizza' (neu rhywbeth felly) lle gaethon ni pryd o fwyd blasus iawn.  Ro'n i wedi anghofio pa mor hyfryd oedd y dref castellaidd, a ches i fy synnu i glywed bach o Gymraeg ymhlith holl fwrlwm strydoedd un o leoliadau drytach y Gogledd!

Ar ól dro ar y prom ac i lawr y pier, wnaethon ni dod o hyd i gaffi am baned sydyn, cyn cael ein arwain lawr lonydd culion at Neuadd Lwyd, lle roedd aelodau eraill o'r teulu wedi cyrraedd.

Diwrnod braf, ar wahan i'r tagfa erchyll ar y ffordd allan ger Llanelwy.  

29.6.10

Dim Mynediad...


Pe taset ti i yrru'r holl ffordd ar draws arfordir gogleddol penrhyn Cilgwri o un gornel i'r llall, hynny yw o New Brighton i Hoylake mwy neu lai, mi fasai milltir olaf dy daith yn dy arwain lawr Stanley Rd, heol hollol syth llawn tai crand sy'n ffinio naill ai'r traeth neu cwrs golff y Royal Liverpool.

A dyma fydd diwedd dy daith, llidiart efo arwydd 'Dim mynediad' yn ei ganol.  Wrth rhoi'r ci yng nghefn y car ychydig o ddyddiau yn ól tynnais y llun hwn ar ól gweld y peth (am ryw rheswm)  fel rhyw rhybudd i beidio mentro i'r wlad arall 'na  dros yr aber! Mae'r person sydd wedi gadael ei gar yn sbio dros y tywod fel pe tasai o'n pendroni am be i wneud nesa er mwyn cyrraedd ochr arall yr aber! (wel yn fy nychmynyg - mae'n debyg dim ond mwynhau'r golygfa ydy o).  Welais i ryw arwyddocad yn yr arwydd 'parth di-alcohol' hefyd, fel rhyw gyfeiriad i'r oes a fu, pan oedd Cymru (wel ardaloedd ohoni) yn lle 'sych' pob dydd Sul, adeg dwi'n gallu cofio - jysd!

Gyda Ffynongroyw dim ond pum milltir o fan hyn (red rocks yw enw'r llecyn creigiog yma) does dim syndod caiff ambell i ymwelydd eu clywed yn synnu am ddiffyg bont neu 'causeway' i'n cysylltu á Chymru fach.  Dwi'n cofio tua hugain mlynedd yn ól darllen am gynllun arfaethedig i godi llinell rheilffordd dros yr aber.   Ond nid cynllun er mwyn hybu economi y Gogledd oedd hwnnw, yn hytrach ffordd o agor i fyny farchnad tai ychwanegol i gymudwyr Glannau Merswy, yn ól proses o 'ymgynghori' aeth yn ei flaen ar y pryd.  Mewn gwirionedd 'breuddwyd gwrach' oedd y cynllun, a dwi heb glywed son amdano ers hynny.

Ta waeth mae'n lleoliad hyfryd, sy'n cynnig golygfeydd ysblenydd ar ddiwrnod braf, gan cynnwys ynysoedd Hilbre,  bryniau Sir y Fflint, Y Carneddau a'r Gogarth.


25.6.10

Y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg...

Glywais sgwrs diddorol ar raglen Beti a'i Phobl ddoe, gyda athrawes Cymraeg o'r enw Julia Burns - hogan o Gaerdydd o dras Gwyddelig.  Roedd hi'n cashau'r Cymraeg yn yr ysgol, ond ar ól teithio ychydig a theimlo hiraeth dros ei mamwlad, penderfynodd dysgu'r iaith ar ól dychweled, a threulio ei gyrfa yn dysgu'r iaith (fel ail iaith)  mewn ysgolion.   Pwynt diddorol a gododd yn ystod y sgwrs oedd: ai wneud mwy o ddrwg i'r iaith yn y tymor hir yw gorfodi disgyblion ysgolion cyfrwng Saesneg dysgu'r Gymraeg?  Mae Julie Burns, sydd gan profiad eang yn y maes, yn sicr nad ydy hi o les i'r Gymraeg (yn y broydd di-Gymraeg) i'w gorfodi nhw i'w wneud, ac mi fasai dysgu plant rhagor am hanes Cymru - a thrwy hynny codi ymwybyddiaeth - yn wneud mwy o fudd.  Mae hi'n credu bod sawl disgybl yn gadael ysgol gyda chasineb pur at yr iaith oherwydd gwneud Cymraeg yn yr ysgol.  Mae dechrau dysgu iaith yn unarddeg oed yn rhy hwyr o lawer beth bynnag meddai hi, ac mi fasai'n wneud mwy o synnwyr i roi'r arian mewn i ddysgu'r Gymraeg i blant iau yn yr ysgolion cynradd.

Dwi'n gwybod pa mor annodd yw dysgu iaith i oedolion brwdfrydig erbyn hyn, ni faswn i'n dechrau dychmygu pa mor annodd yw hi i ddysgu iaith i blant yn eu harddegau heb iot o frwdfrydedd ( a lot arall ar eu meddyliau!).  Wrth gwrs mi fydd 'na ambell i eithriad, fel y dysgwyr o ysgolion cyfrwng Saesneg ein bod ni'n eu clywed yn ennill gwobrau yn Eisteddfod yr Urdd, ond tybed be ydy'r canran o bobl sy'n cael eu dennu at yr iaith trwy'r gwersi 'gorfodol' 'na?

22.6.10

Diwedd y daith...?

Enw un o'r rowndiau yn ein cwis diwedd y tymor oedd 'Cymru - Glannau Merswy', hynny yw unrywbeth yn ymwneud á'r cysylltiadau agos rhwng Gogledd Cymru a Glannau Merswy.  Un o'r cwestiynau oedd pryd codwyd y bont ffordd cyntaf dros y Dyfrdwy yn Y Fferi Isaf (Queensferry)?
Yr ateb oedd 1897, blwyddyn Jiwbili diamwnt y Frenhines Victoria, ac o'r dathliad hwnnw daeth enw'r bont, a'r un las a ddilynodd yn y 1920au.
Yn ystod fy ymchwil  des i ar draws y llun gwych yma o'r bont tól gwreiddiol gyda'r cwch fferi'n aros am gwsmeriaid.  Dwn i ddim os parhaodd y gwasanaeth fferi am gyfnod ar ól i'r bont agor.  Yn sicr,  gyda'r bont yn codi tól i'w defnyddio, gallai fferi o leiaf trio cystadlu trwy gynnig prisiau is na thól y bont, am gyfnod o leiaf...falle?  Ond maes o law gaeth yr hen gwch ei suddo yn y fan a'r lle, a llosgwyd darnau o'i sgerbwd ar da^n bwthyn lleol am flynyddoedd i ddod yn ol y hanes.


Cwch Y Fferi Isaf, diwedd y daith?

Mae'n anhygoel wrth edrych ar y llun i feddwl am y cynlluniau presennol (dadleuol) i yrru traffordd dros yr afon yn yr un lleoliad mwy neu lai, pont a fasai bod y pedwaredd un i gael ei chodi yna mewn cyfnod o dipyn mwy na chanrif!

19.6.10

Thomas Brassey....pwy?

Wnes i ddysgu rhywbeth newydd am yr ardal yma heddiw - ond yn hollol ddamweiniol!  Wnes i sylwi ar arwydd gwybodaeth wrth ymyl y bont yn Saughall Massie (pentre cwpl o filtiroedd o fa'ma) ychydig o flynyddoedd yn ól, ond ro'n i heb stopio i edrych arno erioed, er mod i'n gwibio hebio iddo fo bron pob yn ail dydd.  Meddyliais ro'n i'n gwybod be oedd arno fo a dweud y gwir.  Yn 2006 darganfodwyd - tra adeiladau ffordd osgoi - hen adfeilion pren.  Yn ól y dyddio carbon a berfformwyd arnynt, cymysgedd o dderw yn dyddio yn ól i dua 2500 c.c. a phren onnen o dua 800c.c.   Tystiolaeth o ryw strwythyr cynnar oedd y rheiny, yn ól yr arbennigwyr, pont mwy na thebyg, a meddylias a godwyd y 'plac' i ddynodi hanes y darganfyddiad yna.


Pont Saughall Massie a'i phlac

Ond hollol anghywir y roeddwn i! Plac i ddathlu gwaith contractwr o beirianydd Thomas Brassey ydy o, boi wnaeth codi ei bont cyntaf yno yn 1829, cyn symud ymlaen i fod yn un o beirianwyr sifil mwyaf cynhyrchiol a welodd y byd erioed.  Erbyn 1870, ei gwmni o wedi adeiladu 5% o holl reilffyrdd y byd, gan cynnwys pontydd di-ri (Trawsbont Cefn-Mawr ger Wrecsam yn eu plith), ac yma yn Saughall Massie cododd ei bont gyntaf un!  

Pont fach ydy o, ac un ro'n i heb edrych arni'n fanwl tan yr wythnos yma wrth i mi stopio wrth ei hymyl.
Codwyd y bont fel rhan o gynllun i wella ffyrdd a sychu corsydd yn ngogledd Cilgwri, a thrwy hynny dod á'r ardal o dan y gyfraith, oedd adeg hynny'n dal i loches i ladron glan y mór, a arferai gynnau goleuadau er mwyn dennu llongiau tuag at y traeth.
Un o gyffuniau Caer oedd Brassey yn wreiddiol, a symudodd i Benbedw i sefydlu ei fusnes ar ól prentisiaeth fel arolygwr.  Cyfarfodd o á Thomas Telford tra weithio ar yr A5 rhwng Yr Amwythig a Chaergybi, rhywun mae'n siwr a gafodd dylanwad arno fo.

Y peth wnaeth fy synnu i wrth ddarllen y plac yno, a'r holl stwff ar y we er mwyn sgennu'r post 'ma, oedd ro'n i heb dysgu gair amdano fo tra yn yr ysgol...  mae'n annodd coelio!   O feddwl wrth gwrs, mae 'na stryd di-nod ym Mhenbedw (lle oedd cyfnither ngwraig yn byw am sbel) o'r enw Brassey St. ond doeddwn i erioed wedi wneud y cysylltiad.   Erbyn hyn, pob tro dwi'n gyrru dros y bont 'na, wna i feddwl am y boi a gododd hi, a'i gampau peiriannol dros y byd i gyd!

11.6.10

Dysgwr newydd ym Mhangor....

Mae'n ymddangos bod Cymdeithas yr Iaith yn gandryll nad yw prifathro newydd Prifysgol Bangor yn medru'r Gymraeg. Mae'n hawdd cydymdeimlo efo'r safbwynt yma, gyda'r Prifysgol yng nghanol un o gadarnleoedd y Gymraeg. Dwi'n darllen bod Bwrdd yr Iaith wedi bod yn ymchwilio i weld os mae'r penderfyniad yn mynd yn erbyn oblygiadau cyfreithiol y Prifysgol, ond does gynnon nhw fawr o obaith o newid y penderfyniad presennol, dim ond newid polisi i'r dyfodol.. o bosib.

Gwyddel o Felffast yw'r boi sydd wedi ei benodi, rhywun yn ol pob son sydd wedi wneud lot i hybu defnydd o'r Wwyddeleg tu fewn i'w Brifysgol presennol: Maynooth. Yn ól Bangor mae o wedi addo mynd ati i ddysgu'r Gymraeg, ond fel dyni i gyd yn gwybod mae'n haws dweud na wneud, ac mi fydd hi'n sbel go hir cyn iddo fo ddatblygu ei sgiliau ieithyddol i safon digon dda i weithredu ynddi o ddydd i ddydd yn ei swydd newydd.

Ond wrth gwrs, mae dysgwyr yn gallu bod ymhlith y rhai gyda agwedd mwyaf brwdfrydig at eu ieithoedd newydd! Pwy sy'n gallu anghofio Mr Brunstrom, a enillodd glod yr Orsedd dros ei safbwynt ynglyn á'i iaith mabwysiedig. Gallai'r Athro Hughes (y pennaeth newydd) bod yr un mor weithredol dros y Gymraeg a'r cyn-brifgwnstabl efallai, a gallai o weld mwy o werth yn iaith brodorol cartref ei Brifysgol newydd na'r rheiny sydd wedi ei benodi. Mae un peth yn sicr, mi fydd na o leia un ddysgwr newydd ym Mhangor erbyn mis Medi....

9.6.10

Cymhlethdodau Cwpan y Byd....




Wel mae'r wlad yn decharu cael ei boddi o dan fór o faneri San Sior. Ochr yma y ffin fasai rhywun yn ei disgwyl hynny, ond mae rhai pobl wedi mynegi eu siom ar weld cymaint ohonyn nhw'n chwifio yng Nghymru, ac ar werth mewn siopau ac ati. Dwi ddim yn gwybod be' i wneud am hyn a dweud y gwir. Dwi'n swnio fel Sais i bob pwrpas, dwi'n byw yn Lloegr a ges i fy ngeni yma. Er nad ydwi'r fath o berson i wneud sioe mawr o gefnogi tím pel-droed, pe taswn i i fyw yn ddigon hir i weld Cymru llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol cwpan y byd, mi faswn i'n sicr o godi ambell i faner Cymru i ddathlu'r ffaith, sdim ots lle yn y byd ro'n i'n byw ar y pryd.

Wrth gwrs mae pawb yn disgwyl i Loegr cyrraedd o leiaf y chwateri, ac mi fasai unrhywbeth llai yn arwain at y boi Fabio 'na yn derbyn 'pay-off' mawr a theimlo'r gwynt ar ei ól. Dwi ddim yn dymuno gweld Lloegr yn gwneud yn ddrwg yn y cystadleuaeth, ond does fawr o ots gen i os maen nhw'n llwyddo neu beidio chwaith. Mi fasai rhai pobl yn gweld yr agwedd hynny'n rhyfedd fan hyn yn Lloegr, a fi gyda hawl perffaith i gefnogi un o ffefrynau y cystadleuaeth, ond yn dewis peidio. Ond mewn gwirionedd nid dewis ydy o. Dwi ddim yn teimlo owns o angerdd dros dimau Lloegr, nid baner fi yw'r baner coch a gwyn. Pe tasai Loegr i gwympo mi fasai'r rhan mwyaf o faneri diflannu dros nos mae'n debyg ( yn enwedig y rhai yng Ngymru!), a gallai hynny gwneud pethau'n well i'r rhai sy'n cael eu gwylltio gan y Saeson yng Nghymru yn dangos eu lliwiau.

Yn anffodus mae gynnon ni 'aduniad teuleuol' nos sadwrn, a ga i fy ngorfodi i wylio gem cyntaf Lloegr mewn cwmni criw o gefnogwyr lloegr frwdfrydig (sefyllfa hunllefus!). Mi fydd rhaid i mi ganolbwyntio ar safon y peldroed, tra gobeithio mi fydd yr Unol Daleithiau yn chwarae yn weddol, er mwyn i mi sylwi ar ambell i symudiad da ganddynt, a nad ydy Rooney ar dan!

Ta waeth fydda i'n prynu llyfr gan Y Lolfa o'r enw 'Cwpan y Byd' (gwelir uchod) a'i osod ar y bwrdd coffi, ac yn dweud pethau fel 'Dwi'n jysd gobeithio gwylio pél-droed o safon da, sdim ots pwy sy'n chwarae'....

5.6.10

Rhoi Cynnig ar Drydar......

Ar ól cael ffón newydd yn ddiweddar, penderfynais roi gynnig ar y teclyn 'Twitter' sy'n rhan o feddalwedd y ffón yn barod.  Does gen i fawr diddordeb yn y fasiwn rwtsh mae'r rhan mwyaf o bobl  (a dwi'n cyfri fy hun yn y grwp yma wrth cwrs) yn 'trydar' a dweud y gwir, ond fel unrhyw dechnoleg newydd, dwi'n awyddus i weld y posibiliadau o'i defnyddio i wella fy Nghymraeg.  Es i ati felly i ddod o hyd i 'Twittwyr' sy'n trydar yn y Gymraeg,  a des i o hyd i restr go hir ar flog Metastwnsh.  Y problem yw wrth cwrs mae nifer ar y rhestr naill ai wedi rhoi'r gorau i drydar erbyn hyn, neu'n drydar yn Saesneg yn bennaf.  Ta waeth, mae gen i lond ffón o 'tweets' gan 'Golwg360' a chanlyniadau Steddfod yr Urdd.  Mae ambell i berson ro'n i'n eu dilyn wedi codi braw arnaf erbyn hyn, ac wedi cael eu dileu oddi wrth fy rhestr. Roedd un boi'n trydar bob yn ail munud bron (i gyd yn Saesneg) felly ges i wared ohono fo y bore 'ma - mae eisiau bywyd arno fo.

Mae'r temtasiwn wrth cwrs yw i ddilyn pobl enwog, ac mae sawl yn mwynhau ei wneud.  Mae gan Stephen Fry rhyw filiwn a hanner yn ei ddilyn eerbyn hyn.  Rhaid cyfadde dwi'n dilyn Cerys Matthews, a dwi newydd ychwanegu Rob Brydon - jysd gan fy mod i wrth fy modd ag yncl Bryn. 

Felly os ti'n trydar yn y Gymraeg, rhoi wybod i mi os gweli di'n dda...

4.6.10

TIR newydd.....

Mi wnes i dderbyn copi o brosiect newydd Cerys Matthews y bore 'ma, sef 'TIR', casgliad o hen ganeuon Cymraeg a ffotograffiau o gefn gwlad Ceredigion. Mae'n casgliad ardderchog, sy'n cynnwys fersiwn tri pennill o'r anthem genadlaethol! yn ogystal a sawl ffefryn arall. Mae 'na 17 cán ar y CD, gyda'r crynoddisg ei hun tu mewn i glawr blaen llyfr bach (faint CD), sy'n cynnwys y geiriau, eu cyfieithiadau a hanes y caneuon hefyd. Ymhlith geiriau y caneuon mae 'na ffotograffiau o hen Sir Benfro yn bennaf, ac mae nifer o'r cymeriadau yn y lluniau yn gyn-deidiau/neiniau i Cerys Matthews, sy'n rhoi naws personel iawn i'r holl waith. Ar ran y caneuon mae Cerys wedi myn d amdani i roi ei stamp unigryw ei hun arnynt (be arall fasen ni'n ei ddisgwyl!). Mae 'na ambell i gán digyfeiliant bron a bod, tra bod y rhan helaeth yn ddigon syml eu naws. Dwi'n hoffi clywed y rhai sy'n cyfarwydd fel caneuon i gorau meibion (er enghraifft) yn cael ei torri lawr i'r 'asgyrn noeth', ganeuon gwerinol syml. Mae Cerys Matthews yn arbennigwraig am wneud hyn, ac efo 'TIR' mae hi wedi rhoi casgliad gwych iddyn ni i drysori am flynyddoedd i ddod.

Mae copiau wedi eu harwyddo ar gael o 'Earthquake' fel arfer, paid  oedi!

Cotwmopolis...

Tu fewn i Theatr y Cyfnewidfa Brenhinol, Manceinion
Gaethon ni bedair awr ar hugain go ddrud ym mhrif ddinas y gogledd gorllewin (yn ól rhai!), sef y cotwmopolis ers talwm - Manceinion.    Arhosom ni yng Nghwesty'r Midland, hen westy'r gorsaf trén sydd bellach yn ganolfan cynhadleddau 'Manchester Central' (y GMex yn gynt).  Roedd o'n braf cael mwynhau ychydig o foethusrwydd, ac hynny mewn calon dinas cyffrous a bywiog fel Manceinion.  Mae'n sbel ers i ni dreulio amser yna, a'r tro yma gaethon ni gyfle i ymweled á nifer o'r atyniadau amlwg, megis yr olwyn mawr yng nghanol y ddinas a'r Royal Exchange Theatre.  Mae'n chwater canrif ers i ni weld Julie Walters mewn drama yn y theatr anhygoel yma, sy'n fel llong ofod yng nghanol y pensaerniaeth ffug clasurol yr hen gyfnewidfa cotwm -  llawr masnachu mwyaf y byd yn ei anterth.  Os ti'n sbio tuag at y to, gei di weld y prisiau cotwm o hyd ar un o'r hen arwyddion prisiau. Mae'n anhygoel i feddwl a gallai prynu a gwerthu rhywbeth mor syml a chotwm yn creu cymaint o bres  - ond teml i ddioddefaint weithwyr cyffredinol y diwydiant cotwm yw hi erbyn hyn falle, a gofod cyhoeddus arbennig.  

Nes ymlaen gaethon ni bryd o fwyd bendigedig ym 'Mwyty yr Ail Llawr' yn Harvey Nicholls (er mwyn dathlu ein penblwydd priodas - ychydig yn gynnar), wrth edrych dros y sgwár islaw, trít go iawn! 

31.5.10

Ar saffari...

Roedd hi'n ddiwrnod perffaith am daith draw i Barc Saffari Knowsley meddwn i,  wrth i ni drafod be i wneud y bore 'ma.  Roedd hi'n heulog ond nid rhy boeth, gyda gwynt weddol yn chwythu.  Roedden ni heb fod i'r parc am gwpl o flynyddoedd ac wedi crybwyll mynd cwpl o weithiau yn ddiweddar, heb wneud y daith fer at ochr draw Lerpwl.

Roedd tiroedd Stad Knowsley yn enfawr, ac yn perthyn i Iarll Derby, iarllaeth a greuwyd yn y pumthegfed canrif ar ól i goron Lloegr trosglwyddo i ddwylaw'r Tudoriaid.    Tu fewn i'r Iarllaeth oedd porthladd bychan o'r enw Lerpwl, a dyfodd wrth cwrs i fod yn borthladd o bwys rhyngwladol. Adlewyrchiad o grym Lerpwl yw Stad a Neuadd Knowsley am wn i, ty enfawr Siorsaidd ei olwg (sy'n dal i gartref i Iarll Derby a'i deulu), er maen nhw'n  rhedeg rhan ohono fel gwesty pum seren erbyn heddiw.  Mi drowyd ran helaeth o'r 2500 erw mewn i barc saffari tua 40 mlynedd yn ól,  er casglwr o fri oedd un o'r Iarllau yn y deunawfed canrif,  felly ymgartrefodd sawl rhywogaeth o dramor yn y stad canrif a mwy yn gynt!
Cewch eich rybuddio!!
Ond yn ól at ein saffari bach ni.  Fel arfer roedd y llewod yn tynnu llawer o'r sylw gyda ychydig o anghytun rhwngddynt yn codi dipyn o gyffro ymhlith y gwylwyr yn eu ceir.   Crwydrodd gweddill yr haid yn ddifater trwy'r tagfa o geir er mwyn gweld be oedd yn digwydd, gan cynnwys llew bach andros o annwyl, ond erbyn hynny roedd y cathod wedi ail-setlo yn yr haul.

Ser y sioe i'r rhan mwyaf yw'r babwniaid wrth rheswm, gyda'r rhai yn y ceir drud yn dewis osgoi'r 'enclosure' ei hun a gwylio o ochr draw y ffens.  Ond nid i ni y fath dihangfa, ac o fewn dim o amser roedd y car o dan ymysod gan ddwylaw criw chwilfrydig babwniaid bach. Wrth iddyn nhwn wneud eu gorau i dynnu'r rwber o'r weipers a pigo allan y pibell sy'n cyflenwi'r dw'r i olchi'r sgrín, mi wylion ni babwn gwraidd mawr yn neidio fyny ac i lawr ar ben do car arall, wedi ei wylltio ar ól iddynt rhoi bwyd i babwn arall (rhywbeth mae sawl yn dal i wneud er gwaethaf digon o rybudd i beidio!)   Mae lot o bobl yn chwistrellu'r anifeiliaid direidus á'r 'screenwash' i geisio (yn ofer) cael gwared ohonynt o doau eu cerbydau, ond dysgon ni i beidio ychydig o flynyddoedd yn ól, ar ol i system golchi'r car cael ei dinistrio'n llwyr!!  Ddoe gaethon ni ddim niwed, er mi welais mwy nag un bár yn ceisio trwsio 'drych yr adenydd' cyn gadael y maes parcio!

Ar ól gorffen y daith, mi es i draw i'r ffair bach am dro ar y 'dodgems' a chwpl o'r reids arall, cyn pigo mewn i'r bwyty am sglodion a phaned,  diwrnod braf...

28.5.10

teimladau cymysg....

Mi ddarllenais ddau ddarn o newyddion heddiw, un i godi'r calon a'r llall i'w dristhau.   Mi ddysgais drwy'r dolen twitter ar  fy ffón am farwolaeth annisgwyl y prifardd Iwan Llwyd.  Ges i sioc a dweud a gwir, ac aeth fy meddyliau yn ol at noson yn Nhreffynon tua pum mlynedd yn ól mewn cwmni Iwan Llwyd a'i gyd cerddor a bardd - Geraint Lovgreen.  Honno oedd fy 'noson Cymraeg' cyntaf fel petai, gyda'r dau ddyn yn rhannu'r llwyfan o flaen criw o Gymry Gymraeg a dysgwyr, ac yn bownsio oddi wrth eu gilydd.  Yr adeg yna ychydig bach o waith y prifardd ro'n i'n gallu deall (er mwynheuais glywed o'n ei adrodd), ond ges i i ddeall ychydig mwy o waith ysgafnach ei 'bartner mewn cerdd' Mr Lovgreen.  Un hanes dwi'n cofio Iwan Llwyd yn ei ddweud oedd am ei deithiau o amgylch Cymru (yn ystod ei flwyddyn fel bardd plant Cymru os cofiaf yn iawn), un tro yn stopio mewn dafarn yng Ngheredigion a ordro diod, a dyma'r Brummie o landlord yn dweud 'so your not from these parts then?'...  Mi fydd ei golled yn un enfawr mae'n siwr.

Dim ond ychydig ar ól darllen y newyddion  trist yna,  gaeth fy nghalon ei godi mymryn trwy ddarllen am ryddhad albwm newydd Cerys Matthews sef 'TIR', casgliad o ganeuon traddodiadol Cymraeg yn y  bon, wedi eu trin yn ei ffordd unigryw ei hun. Mi ganodd Cerys cwpl ohonynt pan welsom ni hi yn Wrecsam yn ddiweddar, a dwi'n edrych ymlaen at glywed y casgliad gyfan (rhai 17 dwi'n meddwl).  Yn ogystal a llond CD o ganeuon, mae TIR yn cynnwys llyfr bach o ffotograffiau o fywyd yng nghefn gwlad Cymru yn yr oesoedd fictorianaidd ac edwardiaidd.  Mi es i syth ar y we i archebu copi wedi ei arwyddo, dwi'n methu aros!

27.5.10

Hanes i'n ysbrydoli....

Dwi newydd gwylio pennod ardderchog o 'O Flaen dy Lygaid', oedd yn edrych ar fywyd Stel Farrar, dynes wnaeth symud o Nottingham i Eryri.  Dysgwraig yw/oedd Stel, wnaeth newid iaith ei haelwyd pan oedd ei mab cyntaf yn fach, ac ers llwyddo i ddod yn rhugl yn reit sydyn wedi bod yn gweithio i helpu dysgwyr eraill. Cyfaddefodd ei fod ei gwr ar y pryd yn 'pissed off' efo'r newid annisgwyl yma, ac yntau heb fawr o ddiddordeb mewn dysgu'r iaith. Ennillodd Dysgwr y Flwyddyn yn ól yn 1989 dwi'n meddwl.  Dyma dynamo o ddynes, sy'n torri recordiau nofio Prydeinig  yn ei hoedran hi, yn ogystal a rhedeg a beicio tra magu llond llaw o blant!  Mae'r rhaglen yn dilyn ei bywyd wrth iddi hi neshau at ei hanner cant, a hynny o dan cwmwl oherwydd salwch ei mam yn ól yn Nottingham.  Ond ysbrydoliaeth yw Stel Farrar, a dyma raglen werth ei gwylio o'i herwydd, heb son am y golygfeydd ysblenydd o Eryri.

26.5.10

tegan newydd....

Dwi newydd sylweddoli ro'n i'n crafu gwaelod y casgen wrth sgwennu am osod pibell carthffosiaeth!....ond hanes wythnos diwetha ydy hynny erbyn hyn, ac mae 'na rywbeth arall sydd wedi bod yn tynnu fy sylw ers y penwythnos sef fy ffón (tegan) newydd i.  Wrth cwrs doedd fawr o'i le efo'r hen ffón (ar wahan i'r bateri a'r sgrín), ond efo'r cytundeb wedi dod i ben ers ychydig o fisoedd, ro'n i'n ffansio rhywbeth newydd efo alweddell qwerty ar gael, hynny yw ffordd symlach o decstio a ballu.

Yn y pendraw (wedi wneud ymchwil diflas o fanwl ar y we!) mi es i am glamp o ffón, sef yr HTC HD2.  Ar ran faint, ychydig yn fwy na'r i-phone ydy hi, ond gyda sgrín dros hanner modfedd yn fwy, mae'n wneud y gorau o'i ól traed sylweddol. A dweud y gwir, er gwaethaf ei faint, mae'r faith ei bod o'n andros o dennau'n wneud iddi teimlo'n llai ym mhoced fy jíns na fy ffón olaf, rhywbeth wnaeth fy synnu!  Mae faint y sgrín wrth rheswm yn helpu wneud i'r allweddell 'virtual' - sy'n ymddangos ar y sgrín - bod yn weddol hawdd i ddefnyddio, hyd yn oed i rywun efo bysedd trwchus!   Wrth cwrs nid ffón ydy ffón y dyddiau 'ma, ond cyfrifiadur bach sy'n gallu gwneud pob math o bethau, ac mae'r HD2 yn wneud llawer o bethau cystal a unrhyw ffón arall, gan cynnwys gweithredu fel sat-nav yn y car.

Yr unig ddrwg yn y caws yw bywyd a bateri, sy'n cymharol gwael os ti isio wneud lot o bori ar y we ac ati.  Ta waeth, well i mi orffen er mwyn i mi fynd i chwarae gyda'r tegan newydd....

24.5.10

Cyfleusterau newydd.....

Bore Sadwrn es i ati (o'r diwedd) i osod draen newydd i wasanaethu'r gweithdy.  Hyd yn hyn dwi wedi bod yn bodoli heb dy bach, neu hyd yn oed dwr, rhywbeth sydd wedi wneud i mi wibio'r hanner milltir adre mwy nag unwaith mae'n rhaid cyfadde!    Er dwi'n gweithio efo fy nwylaw y rhan mwyaf o'r amser (hynny yw wneud dodrefn) ges i bleser mawr yn gosod y pibellau o dan y ddaear, ac wedi llenwi'r ffos á cherrig man cyn gorchuddio'r gyfan gyda phridd tywodlyd y maes parcio.  Mae'n peth rhyfedd i deimlo rhai foddhad trwy wneud waith na fydd neb erioed yn ei weld!  Ar ol tyllu trwy'r wal rhwng y gweithdai, mi lwyddon ni i gysylltu'r pibell dwr, cyn cael seremoni 'bedyddio'r' cyfleusterau newydd!!

Na fydd rhaid i mi ddibynnu ar fy nghymydog caredig am baneidiau dim mwy,  ac mi fydda i'n gallu cynnig ambell i baned iddo fo.

19.5.10

arolwg...

Ges i fy arolygu yn y dosbarth nos heno, heb fawr o rybudd - sy' ddim yn peth drwg a dweud y gwir.  Mi eisteddodd un o athrawon llawn amser yr ysgol yng nghefn y dosbarth, wrth i mi drio canolbwyntio ar gadw at rywfath o drefn, a phwysicach byth, fy nghynllun gwers!   Mi aeth pethau yn o lew am wn i,  ac wrth i'r dysgwyr gadael y stafell i fynd am eu diodydd 'hanner amser', dyma'r athrawes yn dod draw am air!

Ni ddylswn i wedi poeni, athrawes glen oedd hi, oedd yn cashau gwneud y gwaith adolygu - gan ei bod hi'n dysgu ei hun - a chynigodd dim ond argymhellion adeiladol.  Darganfodais fy mod i'n dysgu yn ei hystafell hi, un o'r ystafelloedd Frangeg/Almaeneg yr ysgol, a rhoddodd hi cwpl o awgrymiadau am sut i ddefnyddio'r technoleg sydd yna i hwyluso'r gwersi.  Wrth cwrs fantais i mi oedd y ffaith nad ydy hi'n deall gair o Gymraeg, a dim ond barnu fy 'ngallu' dysgu oedd hi, nid y Gymraeg ro'n i'n ei dysgu!

17.5.10

Gadael Lennon...

Gorffenais 'Gadael Lennon' heddiw, stori weddol ysgafn wedi ei lleoli yn Lerpwl y chwedegau.   Fwynheuais y llyfr fel y cyfriw, er ges i fy nghythruddo sawl gwaith gan y deialog 'scowsaidd', oedd yn weithiau pell o'r scows sy'n cyfarwydd i mi.    Mae rhaid 'gohirio anghrediniaeth' wrth darllen llyfr weithiau wrth cwrs, ac ambell i waith dyma fi'n dweud wrth fy hun:  "jyst creda, stori yw hi!".   Cryfder y llyfr yw'r ffordd mae'n mynd ati i gyfleu profiadau hogan o gefn gwlad Cymru wrth iddi hi drio ymdopi efo symud i ddinas Lerpwl, a hithau yn wyth mlynedd oed.  Roedd rhaid iddi addasu wrth rheswm,  trwy gollwng ei hacen Pen Llyn a troi'n scowser ar y wyneb, ond ni cholodd ei Chymraeg,  gyda'r capal adeg hynny'n dal i lwyddo cadw cymuned Cymraeg yn fyw yn y ddinas.

Gafodd y llyfr hon apél arbennig i mi oherwydd y cysylltiadau lleol.  Dwn i ddim sut faswn i wedi teimlo amdanhi onibai am hynny,  ond falle na faswn i wedi sylwi ar rai o'r diffygion yn y 'deialog scows' a'r cymeriadau 'gor-ystrydebol' (scows a Chymreig!).

Ta waeth, os ti'n chwilio am lyfr ysgafn a ti'n hoffi Lerpwl neu'r Beatles (neu'r ddau wrth rheswm), wel gei di ddim dy siomi mae'n siwr.