27.11.09

Mater o Farn...

Mae'r Cyngor Llyfrau newydd cyhoeddi eu penderfyniad ynglŷn â'r grant eu bod nhw'n rhoi er mwyn cynnal cylchgrawn Cymraeg. Wnes i brynu copi o'r unig rhifyn o Sylw i gael ei gyhoeddi ac fel dwi wedi dweud o'r blaen mae'n siwr, tanysgrifwr Barn ydwi, felly ges i gyfle i wneud fy mhenderfyniad fy hun. Wedi dweud hynny, pe taswn i i gymryd rhan yn y proses o ddewis rhwng y dau, mi faswn i wedi ffindio fo'n dewis annodd tu hwnt.

Yn y pendraw mi ennillodd Barn yr arian holl pwysig, a chawn nhw'r sicrwydd arriannol i gario ymlaen cyhoeddi am ddeuddeg mis o leiaf. Be digwyddith i Sylw pwy a wir. Prin iawn fydd Y Lolfa yn gallu ei ariannu heb nawdd y Cyngor Llyfrau, er y cylchrediad parchus o dros 2600 o gopiau (ella y nofelti o 'enw' newydd oedd ar sail y ffigwr hon...), sy'n cymharu'n ffafriol i gylchrediad Barn tybiwn i.

Mae'n siom wrth rheswm nad oes modd i'r dau cylchgrawn parhau, ond dyna realaeth y byd cyhoeddi Cymraeg, heb nawdd does dim cyhoeddiadau, sy'n fy atgoffa o hynt a helynt hanes Y Byd....

26.11.09

Dyleit Digidol....

Pan wnes i droi'r teledu ymlaen y bore 'ma (yr un yn y stafell cefn sy'n derbyn y signal o Gymru) cofiais yn syth roedd darllediadau analog wedi dod i ben, wrth i mi wynebu sgrîn du! Switsiais'r set i 'Ddigidol' er mwyn gwylio'r newyddion ond cofiais hefyd dim ond ychydig o sianeli wedi eu tiwnio mewn ar y 'Freeview o Gymru' oherwydd diffyg cryfder y signal. Ta waeth oherwydd y newidiadau, roddais dro ar eu hail-diwnio rhag ofn bod pethau wedi gwella. Cliciais y menu er mwyn galluogi i'r teledu mynd trwy ei phethau, ond ac ar ôl cwpl o funudau ges i fy siomi ar yr ochr gorau wrth i mi cael fy croesawu gan 'Cyw', gwasanaeth S4C i blant ifanc mewn lliwiau llachar glir. Does dim (eto) unrhyw fath o 'bicseleiddio' yn perthyn i'r pictiwr, rhywbeth sy'n tueddi digwydd i signal digidol gwan, dim ond llun cryf a 'miniog'. Felly gobeithio dyma arwydd o'r ffaith a gafodd y signal digidol ei crancio fyny ar ôl i'r analog cael ei diffodd, rhywbeth ro'n i wedi clywed amdani ond byth wedi credu tan heddiw.

23.11.09

derbyniad analog yn dod i ben.....

Erbyn dydd sadwrn, mi fydd y signal analog sy'n ein cyrraedd o Foel y Parc wedi cael ei diffodd am y tro olaf. Be' yn union bydd hyn yn golygu iddyn ni ochr yma i'r ffin does neb yn gallu dweud eto. ar y foment does dim modd i ni dderbyn rhaglenni S4C ar y 'Freeview', er mae gen i 'erial' sy'n cyfeirio at drosglwyddydd Moel y Parc, tua ddeuddeg milltir i ffwrdd. Ond dyni yn derbyn rhai sianeli digidol o'r un un drosglwyddydd yn perffaith clir..! BB1 a BBC2 Wales er enghriafft, ac ambell i sianel siopa hollol diwerth!

Wnes i glywed rhywun ar Daro'r Post yn cwyno am ddiffyg S4C yn ardal Wrecsam ers i'r newid i ddigidol,ond awgrymodd yr 'arbennigwr technegol' bod y signal digidol yn debyg o fod yn gryfach ar ôl dydd gwener, a'r newid i ddigidol yn gyfan gwbl. Wna i geisio ail-diwnio'r teledu dros y penwythnos er mwyn gweld os fydd 'na signal digon cryf yn croesi'r ffin ar ôl i'r holl newudiadau, croesi bysedd!

20.11.09

Dwy ochr hogyn Deiniolen...


Dwi wedi ychwanegu llyfr arall i'r rhestr o'r rhai dwi'n bwriadu darllen dros y misoedd nesaf, ac hynny yw 'Hunangofiant' gan Malcolm Allen.

Fel mae pawb sy'n dilyn pêl-droed yng Nghymru yn gwybod yn iawn, cyn chwaraewr Cymru, yn ogystal a nifer o glybiau yn Lloegr yw Malcolm, a symudodd o'i gartref yn Deiniolen yn un ar bymtheg oed fel prentis i dîm Watford (ac hynny yng Nghyfnod aur y clwb hwnnw gyda arian Elton John yn ei yrru). Mi ddisgynodd olwynion gyrfa Malcolm Allen i ffwrdd yn 28 oed oherwydd anaf difrifol i'w benglîn (ifanc iawn, hyd yn oed yng gnhyd-destun y byd pêl-droed proffesiynol), pan oedd o o dan rheolaeth Kevin Keegan yn Newcastle United.

Dwi wedi clywed a darllen ambell i ddarn (fel pawb arall!) am ei broblemau gor-yfed, gor-yrru ac ati dros y flynyddoedd a ddilynodd ei ymddeoliad 'cynamserol' o chwarae'r gêm hardd , ond mi fydd hi'n diddorol clywed yr hanes trwy ei eiriau ei hun fel petai (wel gyda chymhorth ei gyd-sgwennwr). O'r cyfweliadau dwi wedi eu clywed er mwyn iddo fo hybu'r llyfr, mae'n swnio fel ei fod o wedi sgwennu'r llyfr o'r galon, ac nid jesd er mwyn gwneud pres (oes 'na bres i gael ei wneud allan o sgwennu llyfr Cymraeg? prin iawn tybiwn i). Erbyn hyn mae Malcolm wedi sefydlu ei hun fel un o'r sylwebyddion pêl-droed amlycaf yn y byd darlledu Cymraeg. Mae hynny'n peth rhyfedd mewn ffordd am ei fod o'n byw o hyd yn De Lloegr, ac i'w glywed yn Saesneg prin fasai neb yn sylweddoli Cymro Cymraeg ydy o, ac un sy'n gallu ffrwydro ar y donfeydd wrth bod yn dyst i gôl i Gymru, a chreu rhai o'r 'sgôrgasms' mwyaf anhygoel gei di glywed yn y Gymraeg, neu unrhyw iaith arall mae'n debyg!

19.11.09

Ysgytwad!!

Ges i fy synnu heddiw, wel na, ges i ysgytwad wrth glicio ar stori am flogio Cymraeg ar wefan Golwg360 y p'nawn 'ma. Yno, ymhlith rhestr o'r deg blog uchaf 'amateur' mi sylwais ar y blog hwn! Iawn, rhif deg oedd hi, a nid ar sail y nifer o ddarllenwyr mae'n siwr, ond dewis un o dîm Golwg am wn i. Rhaid cyfadde teimlais wefr ar weld yr enw ymhlith y rhai ro'n i'n disgwyl eu gweld, y mawrion o'r byd bach yma, Morfablog (blog des i o hyd iddo cyn i mi hyd yn oed gwybod be' mae 'blog'!) Dogfael, ac y clasur 'Arth sy'n Dawnsio'.

Yn ôl yr erthygl, mi ddechreuodd Clecs Cilgwri ym 2004, dwi ddim yn cofio a dweud y gwir. Mae 'na wedi bod cyfnodau tawel mae'n siwr, ond mae gwneud y cofnodion yma wedi bod yn rhan pwysig o'r proses o ddysgu Cymraeg i mi, a falch iawn ydwi o'r rhai sydd wedi ei ddilyn dros y flynyddoedd.

17.11.09

Dylai Brif Weinidog Cymru bod yn Siaradwr Cymraeg?

Dyma'r prif cwestiwn a gafodd ei ystyried ar raglen Taro'r Post ddoe, ar ôl i nyth cacwn cael ei godi yn sgîl rhaglen 'Y Byd ar Bedwar' neithiwr. Mae Edwina Hart yn meddwl bod waeth iddi siarad Sienieg neu Fengaleg ar ran ei hetholaeth aml-ddiwylliannol, na siarad y Gymraeg. Gallai rhywun dweud pwynt digon teg yw hyn, ond dwi'n sicr nad ydy pobl o dramor sy'n dod i Gymru yn disgwyl i'r Brif Weinidog siarad eu hieithoedd nhw, tra beidio ffindio'r amser i ddysgu un o ieithoedd swyddogol ei wlad ei hun!

Wrth i Dylan Jones rhoi rhagflas ar y raglen ar sioe 'Eleri Siôn a Dafydd Du' y bore ddoe, dyma Eleri Siôn yn costrellu'r peth mewn chwinciad yn ei ffordd 'di flewyn ar dafod' ei hun: "Wel dyma'r diwedd ar ymgais Ms Hart te" meddai... ac i fod yn onest dwi'n tueddi cytuno. Trwy ateb cwestiwn am ei diffyg Cymraeg mewn ffordd mor annystyriol ac ammddifynnol prin iawn fydda hi'n wrthdroi mantais glir ceffyl blaen y ras, sef Carwyn Jones yr unig Cymro Cymraeg ymhlith y tri ymgeisydd. Mae'r llall Huw Lewis, yn wrthi'n dysgu'r Gymraeg yn ôl pob son efo'r Prifysgol Agored. Doedd gan Ms Hart dim cynlluniau ar ran dysgu'r iaith o'r hyn a glywais chwaith, felly pe tasai hi i ennill y ras, mi gallai hi fod yr arweinydd Plaid Lafur cyntaf i fod yn ddynes, ac yr Prif Weinidog Cymru gyntaf i fod yn ddi-Gymraeg hefyd.

Yn ystod y rhaglen mi ofynnodd un gyfrannwr cwestiwn oedd ar y wyneb yn llygad ei le, sef pa wlad arall sydd gan brif weinidog sy'n methu siarad iaith eu gwlad
eu hun. Wrth cwrs mi ddaeth ateb yn ôl yn rhestri nifer ohonynt (Yr Alban, Iwerddon, Seland Newydd!), ond nid cymhariaethau teg yw'r rheiny gallai rhywun dadlau falle. Wrth cwrs does dim ateb pendant, dwedodd hen Rhodri roedd ei allu o i siarad y Gymraeg yn 'handy', ond falle na ddylsai Cymru cwtogi'r nifer o ddarpar prif weinidogion sydd ar gael trwy rhwystro y di-Gymraeg. Wedi dweud hynny, onid dylsai darpar prif weinidog deall yn bendant bod y Gymraeg yn pwnc sydd angen sensatifrwydd a dealltwriaeth yn hytrach na pâr o sgidiau seis naw.....?

14.11.09

Babanod Toshack yn disgleirio...

Nid yn aml y dyddiau 'ma, gawn ni ymfalchio mewn buddigoliaeth campus tîm peldroed Cymru, ac hynny hefyd ar ddiwrnod pan colli oedd hanes tîm Lloegr! Oce, roedd bois y tri llew yn chwarae yn erbyn tîm gorau'r byd, sef Brasil, ac roedd Cymru'n gwynebu tîm 'ychydig' yn is lawr cynghrair FIFA o dimau'r byd, sef Yr Alban.

Ond wedi dweud hynny, doedd gan Gymru fawr o obaith ar babur cyn i'r gêm (yn enwedig efo nifer o'r chwaraewyr mwyaf profiadol wedi eu tynnu allan am ryw rheswm neu arall), ond llwyddodd y tîm sydd gyda oedran ar gyfartaledd o dim ond 22 curo'r Albanwyr mewn steil yn stadiwm newydd Dinas Caerdydd. Gêmau 'cyffeillgar' oedd y dwy ohonynt, ond does dim ffasiwn peth mewn realaeth, efo pob chwaraewr yn ceisio manteisio ar y cyfle i hawlio lle parhaol yn eu tîm nhw.

Gyda chriw ifanc Cymru yn dechrau disgleirio ar y llwyfan mawr, mae'n rhaid bod dyfodol y tîm genadlaethol yn fwy gobeithiol nag awgrymwyd gan ganlyniad yr ymgyrch diweddaraf i ennill lle yn rowndiau terfynol cwpan y byd. Ond ai Toshack fydd yn eu harwain yn yr ymgyrch nesaf...?

12.11.09

Y 'gwylltiad' yn ein gadael...

Dim ond unwaith welais i Orig Williams (El Bandito) yn perfformio, ac nad oedd hynny ar faes pêl-droed neu o fewn cylch reslo chwaith. Roedd Orig wedi camu mewn i lenwi sgidiau mawr Ray Gravell mewn rhyw 'Noson Joio' a trefnwyd gan Fenter Iaith ychydig o flynyddoedd yn ôl. A dweud y gwir ro'n i wedi cael fy siomi gan fethiant (hollol dealladwy) 'Grav' i wneud y gig, oedd ar noson budr canol gaeaf mewn gwesty yn Y Fflint, ac o flaen llai 'na bump ar hugain o bobl mae'n siwr. Doedd gen i fawr o wybodaeth am (neu ddiddordeb mewn, rhaid cyfadde) yrfa reslwr enwocaf Cymru pryd hynny, felly 'dyn gwadd' ail-radd roedd o i mi, er roedd fy nhad (a ddaeth i'r noson efo fi) yn cofio Orig o'i golofn 'Siarad Plaen' yn y Daily Post. Ond wedi awr gyfan o gael ein diddanu gan straeon o'r cylch reslo a'r cau pêl-droed, yn ogystal a hanes ei blentyndod yn Nyffryn Conwy, rhaid dweud ro'n i'n falch iawn ges i gyfle i'w glywed, er drist oedd ei weld o yn methu cerdded heb ffyn fagl (arwydd mae'n siwr o'r holl niwed achoswyd gan ei yrfaeoedd yn y byd chwaraeon).

Ond mae'n amlwg o'r holl teyrngedau clysom ni heddiw yn y cyfryngau, roedd 'na lawer o bobl yn meddwl lot amdanaf, ac am lawer mwy nag ei ddawn yn y cylch reslo.

9.11.09

Blodau....

Gwiliais y pennod cyntaf o ddrama newydd S4C Blodau neithiwr, neu ddylswn i ddweud wnes i drio ei wylio gan roeddwn i wedi flino'n lân erbyn i mi gael siawns eistedd lawr efo'r gluniadur. Rhaid i mi drio unwaith eto heno, am fod y lleoliadau'n gwneud i'r cyfres yn ddiddorol i unrhywun sy'n cyfarwydd âg ardal Llandudno, a chafodd rhai o'r golygfeydd eu saethu yn Lerpwl hefyd.

Dwi'n credu ei fod S4C yn ceisio creu naws cyfandiraidd i'r cyfres yma, o steil gwallt y prif cymeriad Lili (sy'n fy atgoffa o gymeriad mewn ffilm Ffrengig enwog) i'r cerddoriaeth cefndirol 'acordianaidd', 'mandolinaidd' sy'n dilyn rhywun trwy'r golygfeydd. Dwn i ddim am safon yr actio eto, nag y stori chwaith, ond os mae 'na 'olwg' dda ar y sgrîn i ddechrau, siawns bydd mwy o bobl yn ei wylio erbyn y diwedd...

7.11.09

56 mlynedd o boen, mae'r disgwyl yn parhau....



Andrew Hoare yn sgorio unig cais y gêm

Er siom i Gymru yn y pendraw oedd hanes ystadegol y gêm rygbi mawr yng Nghaerdydd ddoe, colli heb gywilydd a gyda'r ddraig yn chwythu fflamau tan y diwedd oedd gwir hanes y brwydyr. Gafodd y Crysiau Duon y gyfleoedd gorau i groesi'r llinell gais, a llwyddon nhw unwaith i sgorio, tra gafodd gwpl o hawliau eraill eu gwrthod gan y pedwaredd swyddog ar ôl iddo ystyried tystiolaeth fideo. Ond gallai'r Cymry wedi cael y gair olaf onibai am gyffyrddiad braich estynedig un o'r crysiau duon ym munudau olaf y gêm. Cipiodd Alun Wyn Jones (enw da..!)y pel wedi pass gwan gan un o'r Duon, a rhedodd nerth ei draed o tu hwnt i'r llinell hanner gyda hanes yn ei alw. Gyda'r dorf ar eu traed a'i goesau yn colli'r brwydyr yn erbyn helwyr Seland Newydd, mi drodd i gael hyd i bass a allai sicrhau'r cais a chanlyniad hanesyddol yn ei sgil. Yn anffodus nid oedd ei bass yn ddigon cywir i gyrraedd ei nod, ac ymyrrodd llaw estyngedig ar hediad y pel, a chollodd y symudiad ei momentwm. Mi ddaeth un gyfle arall i Gymru i herio'r llinell gais gyda 'leinowt' dim ond cwpl o lathenni allan, ond leinowt bler oedd hi a chiliodd bygythiad Cymru yn aflwyddianus. A dweuud y gwir, dylsai'r crysiau duon wedi hoelio'r gêm yn gynnharach yn yr ail hanner, ond amddiffynodd Cymru eu llinell cais efo nerth a dewrder i wrthsefyll ymdrechion ffyrnig Seland Newydd i roi bwlch glir rhwngddyn nhw a'r Cochion.

A dyna ni, mae'n rhaid i Gymru aros am gyfle i dorri'r rhediad ofnadwy o un ar ugain o golledion yn eu tro yn erbyn Seland Newydd. Mi ddaw'r buddugoliaeth, ond pryd, wel duw a wir...

5.11.09

.Ffenestri 7......

Mae'n peth amser ers i mi fuddsoddi mewn offer cyfrifiadurol (5 flynedd o bosib, sy'n amser maith yn y byd sydd ohoni), felly penderfynais mynd amdanhi i ddiweddaru'r gluniadur yr wythnos yma, gyda'r bwriad o gadw'r 'hen' beiriant lawr yn y gweithdy i wneud tasgiau'r 'swyddfa', yn fan'na, pethau dwi wedi tueddi wneud adre yn y gorffenol.

Mae penderfyniadau o'r fath yn cymryd oesoedd i mi, gyda'r holl ymchwil ar we, a'r loitran o amgylch yr adran cylchgronnau yn Morrisons, yn ceisio ymddangos difater ynglŷn â'r cylchgrawn yn dy ddwylo, tra ceisio dadansoddi manylion diflas rhai 'group test' o'r peiriannau diweddaraf. Digwydd bod mae 'na fersiwn newydd o Windows hefyd, felly dyna ysgogiad arall i'r cwsmer efo 'hen' beiriant buddsoddi mewn cyfrufiadur newydd er mwyn lladd dau aderyn ag un ergyd fel petai (er o'n i'n digon bodlon fy myd â windows XP). Datblygiad o Vista yw Windows 7 wrth cwrs, system weithredu dwi'n cyfarwydd efo hi ar luniadur y merch, ond rhaid dweud dwi'n wrth fy modd â'r newidiadau rheiny mod i wedi cael hyd iddynt hyd yn hyn. Mae 'na olwg glanach iddi hi (iawn, mae hynny'n dod yn syth o 'sbiel' Microsoft Inc.), efo'r 'taskbar' yn fwy gweithredol a symlach, ac yn edrych yn fwy fel 'Taskbar' Apple a dweud y gwir. Dwi'n hoff iawn hefyd o'r gallu i lusgo ffenestr tuag at ochr y sgrîn a'i chael hi'n troi yn syth at ffenestr hanner faint yn union y sgrîn. Dim mwy ffwdanu er mwyn cael dau ffenestr ochr wrth ochr ar y sgrîn, rhywbeth wna i'n aml tra weithio, ac efo sgrîn 17" 16:9 mae 'na ddigon o le i'w wneud. Yn ogystal a hyn i gyd, wrth rheswm mae'r peiriant mae rhywun yn ei prynu heddiw am bris tua hanner prisiau pump mlynedd yn ôl, yn gallu gweithio gyflymach a storio mwyach nag erioed o'r blaen, mae'n anhygoel!!

Efo'r newid i ddigidol sydd ar fin digwydd yng Nghymru, fydda i'n dibynnu ar y cyfrifiadur i wylio S4C o hyn ymlaen, am nad oes y signal digidol yn ddigon cryf i'n cyrraedd o Foel y Parc gwaetha'r modd. Ond ar y sgrîn yma mae'n ddigon derbyniol a chei di ddewis pryd wyti'n gwylio'r raglenni hefyd.

2.11.09

treftadaeth gwerth ei achub...?


Y 'Cadeirlan Cymreig', Lerpwl

Glaniodd fy nghopi o gylchgrawn 'Barn' ar y llawr efo gweddill y post y bore 'ma, a thynodd penawd a llun y clawr fy sylw yn syth. Mae'r darllenwr newyddion Huw Edwards yn cyhoeddi llyfr sy'n dathlu ac hiraethu dros nifer o gapeli ei ardal enedigol llanelli, tra godi cwestiynau am rôl awdurdodau lleol yn y chwalfa o adeiladau hanesyddol (eiconic efallai, ar ran y delwedd ystradebol sydd gan lawer o Gymru) sydd wedi eu dymchwel yn barod, neu eu esgeuluso nes bod 'na ddim achubiaeth rhag 'pêl y dymchwelwyr'.

Ac nid am golled cymdeithas o gapelwyr yw Huw yn poeni (er mae'n amlwg iddo weld eisiau agweddau o'r cymdeithas honno), mae o'n hiraethu dros golled pensaerniaeth a chrefftwaith disglair, sydd heb ei gwerthfawrogi yn aml iawn gan y pobl sy'n byw wrth ymyl rhai o'r adeiladau ymffrostgar hwnnw, ac sy'n brithio Cymru o hyd. Ond mae nifer mawr or rhai sydd ar ôl mewn cyflwr andros o sal, yn aml iawn wedi eu gwerthu ac heb eu cynnal, neu lefydd addoli o hyd, ond heb gynulleidfaoedd digon fawr i'w cynnal a chadw.

Ar ddarllen y darn yma, mi drodd fy meddwl at adfail Eglwys Princes Rd yn Toxteth Lerpwl, neu'r hen 'Welsh Cathedral', 'Capel' sy'n fwy o faint nag unrhywun yng Nghymru mae'n debyg, ac sy'n 'adeilad cofrestredig' o'r hyn dwi'n credu. Mae'n hanner canrif bron ers i'r Eglwys Presbyteraidd Cymru gwerthu'r adeilad, a dros degawd ers i'r defnyddwyr diweddaraf gadael. Mewn cyd-destun dinas fel Lerpwl, nad yw'r adeilad mor arbennig efallai, ond fel symbol o hanes y dinas a chyfraniad y Cymry yn yr hanes yna mae hi'n pwysig iawn. Tybiwn i ei fod dyfodol Princes Rd, yn ansicr tu hwnt, o ystyried cyflwr yr adeilad yn y llun yma (a dynodd eleni), er gwaethaf y statws 'cofrestredig', ond efallai mae 'na obaith i rai o'r trysorau pensaerniol sydd ar ôl..?

y 'cadeirlan' yn ei gyflwr sal presenol..